Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Hugh Irving, a’r Aelod Cyfetholedig Gareth
Williams. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y
Cynghorwyr canlynol yn datgan cysylltiad: ·
Ellie
Chard – Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Mair ·
Martyn
Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau a’r Santes Ffraid ·
Huw
Jones – Llywodraethwr Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog ·
Arwel
Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant ·
Peter
Scott – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy a ·
Graham
Timms – Llywodraethwr Ysgol Dinas Brân
|
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 396 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 07 Rhagfyr 2017 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017. Nid
oedd unrhyw faterion yn codi. PENDERFYNWYD y dylid, yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod Pwyllgor
Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. Cyn dechrau’r drafodaeth ar yr eitem busnes canlynol, diolchodd y
Cadeirydd i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r Prif Reolwr Addysg am y
digwyddiad hyfforddiant ardderchog ar archwilio data addysg a hwyluswyd yn
gynharach yr wythnos honno i’r holl gynghorwyr.
Cafwyd ymateb da gan
bawb a fynychodd y sesiwn oedd yn teimlo ei fod yn hynod ddefnyddiol at ddiben
deall data perfformiad addysgol. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 WEDI EU GWIRIO PDF 279 KB Ystyried
cyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (copi ynghlwm)
sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych yn
arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac ôl 16. 10:05 a.m. - 10:45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc gyd adroddiad y Prif Reolwr Addysg
ac Arweinydd Uwchradd GwE (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn cyflwyno
perfformiad canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod
Allweddol (CA) 4 ac ôl 16. Yn ystod ei
gyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol nad oedd yr ystadegau wedi eu gwirio a
gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn amrywio’n sylweddol o’r data a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor ym Medi 2017. Fodd bynnag,
cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ers i’r Pwyllgor ystyried y
data dros dro roedd Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
datganiad yn rhybuddio awdurdodau lleol yn erbyn cymharu canlyniadau arholiadau
allanol blwyddyn academaidd 2016/17 gyda rhai blynyddoedd blaenorol, oherwydd y
cyflwynwyd y fframwaith arholiadau newydd ar gyfer y flwyddyn 2016/17.
O dan y fframwaith newydd nid oedd
cymwysterau llenyddiaeth Cymraeg na Saesneg yn cyfrif tuag at Lefel 2+ (L2+)
Dangosydd Perfformiad Allweddol TGAU (DPA) ac roedd yna fwlch o 40% ar unrhyw
gymwysterau galwedigaethol oedd yn cyfrif tuag at DPA L1, L2 a L2+
Hysbysodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ac Arweinydd Uwchradd GwE y Pwyllgor er ei
bod yn galonogol adrodd bod gan Sir Ddinbych ddwy o’r ysgolion oedd yn
perfformio orau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, Ysgol Bryn Hyfryd a Santes
Ffraid, roedd hefyd yn cynnwys dwy o ysgolion mwyaf heriol y rhanbarth o
safbwynt y nifer o ddisgyblion oedd yn cael Cinio Ysgol am Ddim o fewn yr
ardal, Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd Y
Rhyl, y ddwy ysgol â dros 30% o ddisgyblion yn hawlio Prydau Ysgol am
Ddim. Roedd cael ysgolion yn y ddau gategori hwn yn
pwysleisio proffil amrywiol a chymhleth y sir yn gyffredinol, yn ogystal â’i
hysgolion ac yn amlygu’r angen am gefnogaeth arbenigol dwys wedi’i thargedu
mewn ysgolion penodol. Yn genedlaethol
roedd y data perfformiad wedi dangos gostyngiad mewn perfformiad ar draws y
wlad lle roedd yna lefelau uchel o amddifadedd, wedi’i fesur yn ôl nifer y
disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim. Roedd Llywodraeth Cymru yn fwy nag ymwybodol o’r
ystadegyn hwn ac roedd yna drafodaeth genedlaethol o safbwynt heriau’r
cymwysterau newydd ar gyfer rhai disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim. Hysbysodd
Arweinydd Uwchradd GwE yr aelodau: ei bod yn galonogol adrodd nad oedd Ysgol Uwchradd Prestatyn a Santes Ffraid yn cael eu monitro gan Estyn mwyach; roedd perfformiad L2+ TGAU y sir wedi bod yn gryf am y 4 blynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, bu gostyngiad mewn perfformiad yn ystod 2016/17 oedd wedi’i briodoli i’r cymhwyster newydd angen lefel uwch o sgiliau darllen a gwydnwch. Roedd yr agwedd hon wedi profi’n anodd i rai disgyblion â hawl i Brydau Ysgol am Ddim; Roedd perfformiad Cymraeg iaith gyntaf yn Sir Ddinbych ymysg y gorau yn y rhanbarth ac yng Nghymru. Roedd y papur arholiad ac asesiad Cymraeg iaith gyntaf yr un fath â’r asesiad ac arholiad iaith Saesneg. Roedd yn ddiddorol nad oedd perfformiad cryf disgyblion Sir Ddinbych yn yr iaith Gymraeg wedi’i adlewyrchu mewn rhannau eraill o Gymru; ·perfformiad yn yr
arholiad ac asesiad iaith Saesneg wedi gostwng yn 2016/17; ·
roedd y cymhwyster ‘Gwyddoniaeth’ cyffredinol wedi
diflannu yn ystod 2016/17, bellach roedd yn ofynnol i ddisgyblion eistedd papur
pwnc gwyddoniaeth penodol a dau arholiad mathemateg - rhifedd ynghyd ag
arholiad mathemateg a gwyddoniaeth; ac at ddibenion ‘Safon Uwch’ roedd Llywodraeth Cymru angen adroddiad ar gyrhaeddiad 3 Safon Uwch A* i C. Fodd bynnag, ni chaniateir i ystadegau Bagloriaeth Cymru gael eu cynnwys yn y data hwn. Adroddwyd arnynt ar wahân; Hysbysodd Prif Reolwr Addysg y Cyngor y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn defnyddio ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PERFFORMIAD CWYNION EICH LLAIS (CHWARTER 3) PDF 297 KB Archwilio gwybodaeth (copi ynghlwm) am
berfformiad gwasanaethau wrth gydymffurfio â
gweithdrefn gwyno’r Cyngor. 10:45 a.m. – 11:15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol adroddiad y Swyddog Cwynion
Statudol a Chorfforaethol (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi gorolwg o ganmoliaeth,
awgrymiadau a chwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor o dan ei bolisi adborth
cwsmeriaid ‘Eich Llais’ yn ystod trydydd chwarter 2017/18. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys yr ystadegau ar y nifer o gwynion a dderbyniwyd o
dan weithdrefn cwynion statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer yr un
cyfnod, ynghyd â siartiau’n dangos tueddiadau perfformiad wrth ddelio gyda
chwynion dros gyfnod o bedair blynedd. Yn ystod Chwarter
3 o 2017/18 er nad oedd dwy gwyn Cam 1 wedi derbyn sylw o fewn y targed
corfforaethol, roedd y Cyngor wedi cyrraedd ei darged drwy ddelio gyda 98% o
gwynion o fewn y targed 10 diwrnod gwaith. Roedd manylion yn yr adroddiad ar y rhesymau pam
nad oedd wedi cwrdd â'r targed ar gyfer y ddwy gwyn nad oedd wedi derbyn sylw o
fewn yr amserlenni a osodwyd. Mewn ymateb i gwestiynau, roedd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaethau
Cefnogi Cymunedol a’r Swyddog Cwynion Corfforaethol yn: cadarnhau mai diben yr adroddiad oedd mesur perfformiad y Cyngor wrth ddelio gyda chwynion o fewn yr amserlen a osodwyd, roedd yn adrodd ar y nifer a dderbyniwyd a’r amser a gymerodd i’r Cyngor ymateb iddynt. Nid oedd yn dadansoddi natur y gwyn; ·yn dweud er bod gan
Wasanaethau fwyafswm o 10 diwrnod i ddelio gyda chwyn, roeddent yn derbyn sylw
yn llawer cynt yn y rhan fwyaf o achosion; a ·
chadarnhawyd bod y data a ddefnyddiwyd o dan y broses
monitro perfformiad yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau ac adrannau i nodi
tueddiadau yn y mathau o gwynion a dderbyniwyd ac i helpu i hybu mesurau gwella
mewn meysydd lle roedd yn ymddangos bod cwynion ar gynnydd. Cyflwynodd y
Rheolwr Gwella Gwasanaeth y ‘Dangosfwrdd Cwsmeriaid – Adroddiad Diweddariad’
ynghlwm â’r adroddiad ‘Eich Llais’. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi gorolwg o
ganlyniadau ymdrech a boddhad cwsmeriaid ar gyfer Chwarter 3 2017/18 yn dilyn y
cysylltiad gyda’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r nifer o ymatebion a dderbyniwyd i
geisiadau am adborth gan gwsmeriaid, ynghyd â’r prif ymatebion cadarnhaol a
negyddol a dderbyniwyd. Yn ystod ei
chyflwyniad, roedd y Rheolwr Gwella Gwasanaeth yn cydnabod y bu rhywfaint o
ostyngiad mewn lefelau boddhad yng nghanlyniadau mis Tachwedd a Rhagfyr o’i
gymharu â mis Hydref. Fodd
bynnag, roedd cyfradd boddhad cwsmer o 80% ym mis Hydref yr uchaf a gofnodwyd
hyd yma. Roedd gwaith ar y gweill i
ymestyn yr arolwg boddhad cwsmer i rai gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd o
fewn y Cyngor. Roedd y rhain yn wasanaethau oedd wedi cynhyrchu’r nifer fwyaf o alwadau i'r
Cyngor. Rhagwelwyd y byddai’r datblygiad hwn yn helpu i
wella gwasanaethau cwsmeriaid ar draws nifer o wasanaethau sy’n wynebu
cwsmeriaid. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, roedd y Rheolwr Gwella Gwasanaeth,
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol a’r Swyddog Cwynion Corfforaethol yn: ·
dweud mai’r rheswm pam bod 60 cwsmer yn teimlo bod y
gwasanaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyswllt cyntaf gyda'r Cyngor heb ateb eu
disgwyliadau oedd yn bennaf oherwydd eu bod yn disgwyl i'w problem gael ei
datrys ar unwaith wrth gysylltu; ·
cadarnhawyd bod y Cyngor yn y broses o recriwtio Swyddog
Iaith Gymraeg ar hyn o bryd, a byddai ei rôl yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth
gyda Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor; dywedwyd bod disgwyl i holl staff sy’n wynebu’r cwsmer a holl staff eraill ddangos empathi a thosturi wrth ddelio â’r cyhoedd hyd yn oed os oeddent yn delio gydag achwynydd dig. Fodd bynnag, roedd yn bwysig cofio nad oedd holl aelodau'r cyhoedd yn trin swyddogion gyda pharch a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH PDF 256 KB Ystyried
cyd-adroddiad gan Reolwr Gweithrediadau'r Gyfraith a Chaffael a Rheolwr
Categori (Gwasanaethau Proffesiynol) Gwasanaeth Caffael Cydweithredol (copi ynghlwm)
ar yr ymarfer caffael a gynhaliwyd ynghylch gwasanaeth a reolir ar gyfer
darparu gweithwyr asiantaeth ar gyfer y Cyngor, gan gynnwys dewisiadau amgen
posibl, a llunio argymhelliad i’r Cabinet i benodi darparwr i gyflenwi staff
asiantaeth ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor. 11:25 a.m. – 12:00 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno
cydadroddiad y Rheolwr Gweithredoedd Cyfreithiol a Chaffael a’r Rheolwr
Categori (Gwasanaethau Proffesiynol) Gwasanaeth Caffael Cydweithrediadol
(dosbarthwyd yn flaenorol) hysbysodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau yr aelodau bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais y
Cabinet. Yn ystod ei
gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol oddeutu 10 mlynedd yn ôl bod y Cyngor at
ddibenion gwerth gorau wedi ymuno â chytundeb Fframwaith at ddibenion cyflogi
staff dros dro. Gan fod y Cyngor nawr yn gweithredu
Gwasanaeth Caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint roedd y ddau awdurdod
wedi penderfynu alinio dyddiadau diwedd contract eu Fframwaith presennol i’w
galluogi i fynd allan i dendro ar y cyd ar Fframwaith newydd i ddechrau ar
ddyddiad cyfleus i bawb gyda golwg ar wireddu buddion ariannol mwyaf i’r ddau
gyngor. Y Cabinet wrth ystyried pa un ai i gymeradwyo dechrau ymarfer caffael
gyda’r bwriad i ddechrau contract o benodi asiantaeth i gyflenwi staff dros dro
i’w defnyddio gan y Cyngor yn ei gyfarfod yn Rhagfyr 2017 wedi gofyn i'r
Pwyllgor Archwilio edrych yn fanwl ar y meysydd canlynol sy'n gysylltiedig â'r
Fframwaith a phenodi asiantaeth i ymgymryd â'r gwaith: ·
Data cymharol ar wariant Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar
staff asiantaeth mewn blynyddoedd diweddar; ·
Gwariant Sir Ddinbych cyn dechrau’r contract asiantaeth
Matrics presennol a’i wariant gyda Matrics o dan gontract blaenorol hyd at
2014; ·
manylion cymharol ar gyfraddau tâl ac amodau gwasanaeth i
staff parhaol y Cyngor a’r sawl a gyflogir drwy asiantaeth i ymgymryd â’r un
dyletswyddau; ·
atebion eraill posibl i’r Fframwaith oedd ar gael ar
gyfer dod o hyd i staff dros dro ar fyr rybudd; a’r ·
rhesymau pam bod angen i’r Cyngor ddefnyddio staff
asiantaeth. Roedd y data
gofynnol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac atodiadau cysylltiol a rhoddodd yr
Aelod Arweiniol fanylion y cynnwys i aelodau’r Pwyllgor cyn gwahodd cwestiynau.
Dywedodd fod y Cabinet wedi rhoi
cyfarwyddyd i swyddogion ddechrau’r broses dendro ar y ddealltwriaeth bod y Pwyllgor Archwilio
yn adrodd ar ei ganfyddiadau i’r Cabinet cyn gofyn iddo benodi darparwr.
Roedd yr ymarfer caffael wedi
dechrau gan ddefnyddio Fframwaith MSTAR 2 Gorchymyn Caffael Eastern Shires
(ESPO). Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion Cyfreithiol a Chaffael i
gwestiynau aelodau gan: ·
egluro sut oedd y Fframwaith yn gweithio a dywedwyd os
oedd angen staff yna byddai’r holl fanylion yn mynd ar y System Caffael fyddai
wedyn yn hysbysu pob asiantaeth a gofrestrwyd ar y Fframwaith am ofynion y
Cyngor a’u gwahodd i gyflwyno manylion ymgeiswyr posibl. ·
cadarnhawyd bod y mwyafrif o gyflogwyr mawr yn defnyddio
staff asiantaeth ar gyfer staff arbenigol ar fyr rybudd at ddibenion rhyddhau
pwysau annisgwyl neu i ymgymryd â gwaith prosiect o fewn amser cyfyngedig; ·
dywedwyd nad oeddent yn defnyddio’r fframwaith Gweithwyr
Asiantaeth ar gyfer staff gofal cartref ac athrawon cyflenwi, roeddent yn cael
eu cyflogi neu eu comisiynu yn defnyddio systemau neu gontractau eraill; · cadarnhawyd bod y system Matrics a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer darparu staff asiantaeth yn cynnwys adran gyda rhestr o holl ddogfennau gorfodol wedi eu gwirio yr oedd yn ofynnol i staff posibl eu darparu e.e. cymwysterau proffesiynol, prawf preswylio/dogfennau hawl i weithio ac ati. Gall y Cyngor hefyd ychwanegu dogfennau/gwiriadau eraill a ddilyswyd y byddai staff angen eu darparu e.e. gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ac ati; wrth roi manylion swyddi sydd angen eu llenwi dros dro ar y Fframwaith byddai’r Cyngor yn nodi ei gyfradd tâl ar gyfer y swydd. Fodd bynnag, yn dibynnu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen mae’n bosibl y bydd asiantaeth yn cysylltu â’r Cyngor yn gofyn am gyfradd uwch/gyfradd premiwm ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn
gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12:00 p.m – 12:15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Archwilio adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen
waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Roedd
copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn Atodiad 2. Gofynnodd y
Cydlynydd Archwilio i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno iddi hi. Mae Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac mae tabl gyda
chrynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd eu
rhoi ar waith wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Mewn ymateb i’r nifer o ymholiadau a godwyd yn ystod trafodaeth gynharach
ynglŷn â gwirio canlyniadau arholiad cyfnod allweddol 4 cytunwyd i
ehangu’r adroddiad gerllaw ar Reoli Ymddygiad ac Absenoldeb i gynnwys yr
ymholiadau hynny ar gyfer y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn Ebrill 2018. Roedd y Pwyllgor hefyd yn gynharach wedi gofyn i wahoddiadau gael eu hanfon
at y Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr dwy o ysgolion uwchradd y sir sy'n
perfformio'n wael yn gyson i fynychu cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol agos i
drafod cynnydd cyflawni cynlluniau gwella'r ysgol. Cyfeiriodd y Pwyllgor Archwilio y Pwyllgor at
yr adroddiad Diweddariad Gwybodaeth (dosbarthwyd yn flaenorol) a llythyr a
dderbyniwyd gan Ysgrifennydd Cabinet Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru
yn nodi ei fod yn hapus i swyddogion Llywodraeth Cymru fynychu Pwyllgor
Archwilio Perfformiad i drafod arian cyfalaf ar gyfer prosiectau
priffyrdd. Cytunwyd i anfon gwahoddiad
gyda sawl dewis dyddiad. Gofynnodd y Pwyllgor Archwilio am fynegiant
diddordeb mewn cynrychioli'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar y Grŵp Tasg
a Gorffen Gofal Cymdeithasol Mewnol Gwasanaethau Oedolion. Ymatebodd y Cynghorydd Huw Jones bod un o’r
canolfannau gofal dan drafodaeth yn ei ward ef ac y byddai’n dymuno cael ei
ystyried. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar y sylwadau a’r diwygiadau uchod, y
dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol; a Cynghorydd Huw Jones i gael ei benodi fel
cynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Tasg a Gorffen Gofal Cymdeithasol Mewnol
Gwasanaethau Oedolion. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar fyrddau a grwpiau
amrywiol y Cyngor. 12:15 p.m
– 12:30 p.m. Cofnodion: Hysbysodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd Williams y Pwyllgor y byddai’n mynychu’r Her
Cyfleusterau, Asedau a Gwasanaethau Tai ar 14 Chwefror. Daeth y cyfarfod
i ben am 13:15 |