Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Alan Smith, Pennaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio, a Charlotte Owen o Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Martyn Holland a’r Prif Weithredwr, Mohammed Mehmet. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 416 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017. Materion yn
codi - Tudalen 3 –
(taflen wybodaeth) Asesiadau Athrawon a Chanlyniadau Arholiadau Dros Dro –
Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio ei bod hi a’r Cadeirydd wedi cwrdd â
Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant i drafod y dewisiadau o ran gwahodd
ysgolion uwchradd unigol i gyfarfodydd y Pwyllgor. Cadarnhawyd bod sesiwn
hyfforddiant wedi ei drefnu ar gyfer 29 Ionawr 2018 i wella dealltwriaeth yr
Aelodau o’r rolau mewn perthynas â monitro perfformiad ysgolion. Bydd GwE ac
uwch swyddogion yr Adran Addysg yn hwyluso’r sesiwn. Eitem 6 – Rhaglen
Her a Chefnogaeth newydd GwE – holodd y Cadeirydd a yw Estyn wedi ail-arolygu
GwE fel y nodir yn y cofnodion. Cadarnhaodd y swyddogion bod ail-arolygiad wedi
ei gynnal a bod y rheoleiddiwr yn hapus gyda’r cynnydd. Cytunodd y Cydlynydd
Archwilio i ofyn am yr adroddiad diweddaraf a’i gylchredeg i Aelodau’r
Pwyllgor. PENDERFYNWYD – y dylid, yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod Pwyllgor
Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017 fel cofnod cywir. |
|
DATBLYGU STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD PDF 214 KB Ystyried adroddiad
(copi wedi’i hamgáu) yn egluro
tueddiadau cyflwr ffyrdd ers dechrau’r
Cynllun Corfforaethol blaenorol (2012 – 2017) a chyflwyno dealltwriaeth o'r
ffordd mae'r gwasanaeth yn cynnig
defnyddio’r gyllideb sydd ar gael yn ystod cyfnod y Cynllun Corfforaethol nesaf (2017 – 2022).9:35 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Datblygu Cynaliadwy a
Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol adroddiad y Rheolwr Asedau
Priffyrdd a Risg (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor
am effeithiolrwydd y buddsoddiad sydd wedi ei wneud i wella a chynnal
rhwydwaith ffyrdd y sir dan y Cynllun Corfforaethol blaenorol a’r strategaeth
arfaethedig ar gyfer parhau i fuddsoddi yn y rhwydwaith yn ystod cyfnod y
Cynllun Corfforaethol newydd. Dywedodd yr Aelod Arweiniol, ers cael ei benodi
i’r Cabinet, ei fod wedi ymweld â phob ardal yn y sir i sgwrsio gyda thrigolion
a busnesau am eu pryderon ynghylch materion priffyrdd penodol yn eu hardaloedd. Drwy gyflwyniad PowerPoint bu i’r Rheolwr Asedau Priffyrdd a Risg ddarparu
gwybodaeth am gyflwr presennol priffyrdd y sir a strategaeth arfaethedig y
gwasanaeth ar gyfer ei gynnal a’i gadw yn y dyfodol. Yn ystod y cyflwyniad: ·
Dywedwyd
bod hyd ffyrdd Dosbarth A, B, C a di-ddosbarth y sir yn 1415.7km (nid yw'r tair
cefnffordd wedi eu cynnwys gan mai Is-adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru sy’n
gyfrifol am gostau eu cynnal a’u cadw) ·
Soniwyd
am y methodolegau ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflwr priffyrdd, achosion
methiannau yn y briffordd a’r gwaith ymyrraeth/atal i fynd i’r afael â
methiannau ac i ddiogelu rhag dirywiad pellach.
Pwysleisiwyd bod y dangosydd cenedlaethol mewn perthynas ag asesiadau cyflwr
priffyrdd, a wneir drwy'r dull Scanner, yn berthnasol i 32% o ffyrdd Sir
Ddinbych yn unig. O ganlyniad, mae’r Awdurdod wedi datblygu ei ddull gweledol
ei hun i werthuso cyflwr holl ffyrdd y sir. Mae’r dull hwn yn ddefnyddiol dros
ben ar gyfer ffyrdd nad ydynt yn rhan o ddull Scanner. Dangoswyd enghreifftiau
o'r dull hwn fel rhan o'r cyflwyniad a darparwyd ystadegau i ddangos sut mae
cyflwr y rhwydwaith wedi gwella bob blwyddyn rhwng 2011 a 2017 ·
Mae cyflwr ffyrdd y sir
wedi gwella a’r pryderon i’r dyfodol yw gallu ariannol y Cyngor i barhau i
fuddsoddi mewn gwelliannau a gwaith atgyweirio, prosiectau gwaith draenio a
chynaliadwyedd gwaith atgyweirio yn y tymor canolig a’r hirdymor. Mae’r risg yn
sgil cyfyngiadau ariannol yn gallu peryglu perfformiad yr Awdurdod mewn
perthynas â dangosyddion perfformiad cenedlaethol cyflwr ffyrdd. ·
Y dull arfaethedig ar
gyfer cyfnod y Cyngor newydd yw ceisio cadw a chynnal cyflwr presennol y
rhwydwaith (o leiaf). Mae’r dull hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd
lefelau presennol o gyllid cyfalaf a refeniw yn aros fel ag y maent. Bydd
ffyrdd, yn sgil lefelau defnydd ac effaith y tywydd, yn dirywio’n barhaus. Fodd bynnag, rhagwelir, drwy fabwysiadu dull
ataliol i waith atgyweirio, defnyddio cyllid refeniw yn arloesol, gweithio’n
agosach gyda gwasanaethau eraill a gwneud trefniadau priodol er mwyn gwneud y
mwyaf o’r cyllid sydd ar gael, y bydd y Cyngor yn gallu cadw'r rhwydwaith fel y
mae yn ei gyflwr presennol. ·
Byddwn yn gwneud cais am
gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr. Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r
swyddogion perthnasol y sylwadau canlynol: ·
Eglurwyd yr anawsterau
technegol wrth osod y lefelau cywir wrth ail-osod gylïau fel rhan o waith
cynnal a chadw priffyrdd ·
Pwysleisiwyd bod yn rhaid
i’r Cyngor fuddsoddi yn ei rwydwaith priffyrdd neu mi fydd yr holl welliannau dan
Gynllun Corfforaethol 2012-17 yn cael eu colli ·
Cadarnhawyd y byddant yn
parhau i lobio Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr. Yn
y cyfamser mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i gadw ffyrdd mewn cyflwr ‘diogel’ i
sicrhau diogelwch y defnyddwyr. · Cadarnhawyd bod yr amcangyfrif cost yn Atodiad 1 yn cynnwys yr holl gostau sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw priffyrdd, gan gynnwys costau paratoi a chostau sy’n gysylltiedig â gwaredu deunyddiau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn
(10.45 a.m.) cafwyd toriad am 15 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.00 a.m. |
|
CWYNION PERFFORMIAD EICH LLAIS (CH2) PDF 206 KB Archwilio gwybodaeth (copi ynghlwm) am berfformiad gwasanaethau wrth gydymffurfio â gweithdrefn gwyno’r Cyngor. 10:30 a.m Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cwynion Statudol a Chorfforaethol yr adroddiad a’r
atodiadau (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn absenoldeb Aelod Arweiniol Datblygu
Seilwaith Cymunedol, a adawodd y cyfarfod yn fuan er mwyn mynychu cyfarfod
gydag Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip yn Llywodraeth Cymru – y Gweinidog
sy’n gyfrifol am seilwaith digidol, i drafod band eang gwael mewn rhai rhannau
o Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn darparu trosolwg a dadansoddiad o’r
cwynion, canmoliaethau a’r awgrymiadau a dderbyniwyd gan y Cyngor dan bolisi
adborth cwsmeriaid ‘Eich Llais’ yn ystod chwarter 2 blwyddyn adrodd 2017/18. Yn
ystod y cyflwyniad tynnodd y Rheolwr Gwella Gwasanaethau sylw’r Pwyllgor at y
ffaith bod rhai cynghorwyr, yn anfwriadol, wedi bod yn defnyddio mecanwaith
adborth cwsmeriaid ‘Eich Llais’ i adrodd am ymholiadau/ceisiadau am
wasanaeth. O ganlyniad roedd Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata
wedi ail-gyhoeddi canllawiau i gynghorwyr ynglŷn â sut i gyflwyno
ymholiadau/ceisiadau am wasanaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd dilyn y drefn
gytunedig er mwyn sicrhau trywydd archwilio cyflawn mewn perthynas â phob
cais/ymholiad a dderbynnir. Os dilynir y drefn gywir yna bydd modd i aelodau
etholedig ddilyn cynnydd eu cais/ymholiad drwy system EMMA – y system sydd wedi
ei datblygu a’i chyflwyno er budd a hwylustod i aelodau etholedig. Cadarnhaodd
y Rheolwr Gwella Gwasanaethau bod trafodaethau yn parhau o ran cyflwyno System
Rheoli Cysylltiadau Chwsmeriaid. Mae’r Grŵp Prosiect yn datblygu cynllun
gweithredu ac mae Tîm Cyfathrebu Corfforaethol y Cyngor yn rhan o’r grŵp
hwnnw. Rhagwelir y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn y flwyddyn newydd ar broses
gyflwyno arfaethedig y system newydd. Dywedodd y Swyddog Cwynion Statudol a Chorfforaethol bod y Cyngor, yn ystod
ail chwarter 2017-18, wedi cyrraedd y ‘trothwy rhagoriaeth’ o ran delio â
chwynion Cam 1 a Cham 2, gan fod pob cwyn wedi ei thrafod o fewn y terfynau
amser er gwaethaf derbyn mwy o gwynion na’r chwarter blaenorol. Mae hefyd
yn braf clywed bod mwy o ganmoliaethau ac awgrymiadau ar gyfer gwella wedi eu
derbyn gan y cyhoedd yn chwarter 2. Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o
ddefnyddio cwynion yn gadarnhaol i wella gwasanaethau. Er y byddai cynnal
perfformiad y flwyddyn ar 100% bron yn amhosibl ar gyfer cwynion Cam 1 a Cham
2, roedd y swyddogion yn hyderus y gallai’r Cyngor gyflawni 98% yn Chwarter 3,
a chyfradd cyrhaeddiad blynyddol cyfartalog o 98% yn 2017-18. Mae Atodiad 1 i’r adroddiad yn cynnwys manylion nifer o gwynion Cam 1 a
Cham 2 a dderbyniwyd yn erbyn gwasanaethau unigol ynghyd â pherfformiad y
Cyngor wrth ddelio â nhw yn chwarter 2, yn ogystal â dadansoddiad o’i
berfformiad wrth ddelio â chwynion ar y ddau gam yn ystod cyfnod pedair
blynedd. Mae Atodiad 2 i’r adroddiad yn cynnwys ffurf arfaethedig ar gyfer
cyflwyno’r adroddiad ystadegol i’r Pwyllgor yn y dyfodol. Er bod rhai materion
angen eu datrys o ran y ffurf newydd, mae’r mater o ran llunio graffiau ac ati
yn ddwyieithog a’r wybodaeth a mewnfudir i gorff yr adroddiad wedi ei ddatrys. Mae Atodiad 3 i’r adroddiad yn cynnwys canlyniadau’r dadansoddiad annibynnol
a gynhaliwyd o foddhad preswylwyr a chwsmeriaid ar eu rhyngweithiad gyda’r
Cyngor a derbyn y gwasanaethau gofynnol. Mae’r wybodaeth a gesglir ar gyfer y
rhan hon o’r ymarfer yn werthfawr iawn i wasanaethau ac yn eu galluogi i wella
gwasanaethau a chryfhau eu dulliau cyfathrebu gyda phreswylwyr. Mae Gwasanaeth
Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Gwasanaeth
TGCh i ddatblygu mecanwaith adrodd penodol i’r gwasanaeth a fyddai'n galluogi'r
gwasanaeth i wella'r cyfathrebu gyda phreswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth
ymhellach. Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y Swyddog Cwynion Statudol a Chorfforaethol a’r Pennaeth ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 229 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn
gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11:00 a.m Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn i’r
Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf
ar faterion perthnasol. Ceir copi o’r ‘ffurflen o gynnig gan Aelod’ yn Atodiad 2. Gofynnodd y
Cydlynydd Archwilio i’r Aelodau gyflwyno cynigion iddi hi. Mae Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac mae tabl gyda chrynodeb o
benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd eu rhoi ar waith
wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Dywedodd y
Cydlynydd Archwilio bod sesiwn hyfforddiant ar graffu ar faterion addysg wedi
ei threfnu ar gyfer 29 Ionawr 2018 ac anogodd bawb i geisio ei mynychu. Gofynnwyd i’r
Pwyllgor benodi Aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Monitro Safonau
Ysgol. Darperir gwybodaeth am gylch gorchwyl y grŵp yn Atodiad 5.
Cynigiodd y Cyng. Ellie Chard y dylid penodi'r Cyng. Arwel Roberts. Bu i’r
Cyng. Ann Davies hefyd fynegi diddordeb bod ar y grŵp hwn. Cafodd y ddau
gynnig eu heilio ac ar ôl pleidlais, penodwyd y Cyng. Arwel Roberts i
gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, gyda’r Cyng.
Ann Davies yn ddirprwy iddo pan nad yw’n gallu mynychu cyfarfod. PENDERFYNWYD – (i) yn amodol ar y sylwadau a’r diwygiadau uchod,
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol; (ii)penodi'r Cynghorydd Arwel Roberts yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y
Grŵp Monitro Safonau Ysgol gyda’r Cyng. Ann Davies yn ddirprwy iddo os nad
yw’n gallu mynychu cyfarfod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar fyrddau
a grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Dywedodd y Cyng.
Ann Davies ei bod wedi mynychu ‘cyfarfod llwybrau ymholi’ yn ddiweddar i
baratoi ar gyfer cyfarfod Her Gwasanaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol.
Dywedodd y byddai Gofalwyr Cymru, y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl ac
amseroedd rhyddhau o ysbytai yn cael eu harchwilio ymhellach yn ystod y
cyfarfod Her Gwasanaeth. Dywedodd Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio wrth y
Cyng. Ann Davies bod ‘gofalwyr’ wedi eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol
newydd a bod gwaith ar y gweill o ran gofalwyr yn Sir Ddinbych. Dywedodd y
Cydlynydd Archwilio y bydd cofnodion y cyfarfodydd Her Gwasanaeth yn nodwedd
reolaidd yn y Briff Gwybodaeth a ddarperir i Aelodau cyn cyfarfodydd pwyllgor. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu gwaith caled a dymuno Nadolig llawen
a blwyddyn newydd dda i bawb. Daeth y cyfarfod i ben am 11:55 a.m. |