Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Bob Murray, a’r Aelod Cyfetholedig
Gareth Williams. |
|
Teyrnged i Alastair McNab Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r Swyddog Arweiniol: Gweithrediadau a
Chymorth i Fusnesau, Alastair McNab, a fu farw’n sydyn yr wythnos cynt. Rhoddodd y
Cadeirydd a’r Cynghorydd Martyn Holland eu hymddiheuriadau am orfod gadael y
cyfarfod yn fuan i dalu eu teyrnged yn yr angladd. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 211 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y
cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganwyd Cysylltiad Personol fel aelodau o Gorff Llywodraethu Ysgolion gan
y Cynghorwyr E Chard, H Hilditch-Roberts, M Holland, H Jones, G Lloyd-Williams
a P Scott ar gyfer eitemau 5 a 6. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried
yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 468 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a
gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 (copi ynghlwm). 9.35am – 9.40am Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 13
Gorffennaf 2017. Materion yn codi: Eitem 6 Cofrestr
Risg Gorfforaethol – Roedd yr ymateb gan Wasanaeth Cynllunio Brys Gogledd Cymru
wedi ei gylchredeg i aelodau fel rhan o’r ddogfen Briff Gwybodaeth cyn y
cyfarfod. Eitem 7 y Cynllun
Corfforaethol (C4) – a)
Y
Rheolwr Gwasanaeth Derbyn ac Ymyrraeth newydd oedd Jamie Pope. b) Roedd atal y Cynllun Hawl i Brynu wedi ei
gymeradwyo. PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod
cywir. |
|
ASESIADAU ATHRAWON A CHANLYNIADAU ARHOLIADAU DROS DRO PDF 297 KB I ystyried adroddiad ar y cyd gan Prif Reolwr Addysg a Swyddogion Arweiniol
Uwchradd a Chynradd GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi manylion am asesiadau athrawon
terfynol Sir Ddinbych a chanlyniadau dros dro arholiadau allanol Cyfnod
Allweddol 4 ac ôl 16, gan gynnwys gwybodaeth wedi’i meincnodi a pherfformiad o
gymharu ag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas ag asesiadau athrawon. Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio sylwadau’r
aelodau ar berfformiad y Sir ac er mwyn adnabod meysydd posibl ar gyfer gwella. 9.45am – 10.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Addysg adroddiad ac atodiadau (a gylchredwyd yn flaenorol) a
oedd yn darparu gwybodaeth ar berfformiad disgyblion Sir Ddinbych mewn
perthynas ag asesiadau athro terfynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-17, a
darparu canlyniadau archwilio dros dro yng Nghyfnod Allweddol (CA)4 ac ôl-16 ar
ddiwedd tymor yr haf 2017. Yn ystod ei gyflwyniad, nododd yr Aelod Arweiniol fod y canlyniadau CA4 yn
destun proses asesu gwahanol i flynyddoedd blaenorol ac felly nid oedd modd ei
gymharu’n gywir gyda chanlyniadau’r sir yn y blynyddoedd cynt. Roedd swyddogion addysg ac Aelodau
Arweiniol Addysg ar draws Cymru wedi eu hysbysu ym mis Ebrill 2017 i ddisgwyl
gwaethygiad mewn perfformiad yng nghanlyniadau arholiadau TGAU 2017 oherwydd y
broses asesu newydd. Nododd yr Aelod
Arweiniol hefyd fod swyddogion wedi gofyn i nifer o bapurau disgyblion Sir
Ddinbych gael eu hail-farcio gan eu bod yn cwestiynu’r graddau a roddwyd
iddynt. Roedd
canlyniadau’r broses hon yn llwyddiannus hyd yma a byddai’n cael ei adlewyrchu
yn y canlyniadau a wiriwyd pan fyddant yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor
Archwilio ddechrau 2018. Nododd y Pennaeth Addysg fod canlyniadau asesiadau
athrawon y sector addysg gynradd yn pwysleisio fod: ·
y Gwasanaeth Addysg yn
anelu at ddiwedd y Cyfnod Sylfaen i gynnal asesiadau cadarn o allu disgyblion. Roedd cyrhaeddiad disgyblion Sir Ddinbych ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn
ystod 2017 wedi bod 1.7% o dan y targed, ac yn 20fed allan o 22 yng Nghymru –
is na’r safle prydau ysgol am ddim (PYD) disgwyliedig, ond un safle’n uwch na’r
safle disgwyliedig yn rhanbarth Gogledd Cymru. Fodd
bynnag, drwy ddefnyddio data sydd ar gael i swyddogion y Gwasanaethau Plant,
roedd wedi gallu deall yr heriau a wynebwyd gan blant unigol yn y cohort. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud ar y cyd â’r Gwasanaethau Plant mewn
perthynas â’r disgyblion hyn yn seiliedig ar waith profiadau anffafriol plant
Iechyd Cyhoeddus Cymru;
·
Roedd asesiadau CA2 yn
parhau i gofnodi gwelliant bob blwyddyn. Roedd cyflawniad
rŵan yn 88.9% a dim ond 6 o ddisgyblion nad oedd ar y gofrestr Anghenion
Dysgu Ychwanegol (ADY) a fethodd i gyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd (DPC). Yn ogystal, ni wnaeth 37 o ddisgyblion sydd â Saesneg yn iaith ychwanegol
(SIY), lwyddo i gyflawni’r DPC. ·
roedd swyddogion o Adran
Addysg y Sir ag Estyn yn cyfarfod ar ddiwedd pob tymor i drafod cyrhaeddiad ac
roedd y Rheoleiddiwr wedi nodi nad oedd ganddo bryderon am berfformiad
disgyblion cynradd Sir Ddinbych gan fod y Sir yn ymwybodol o amgylchiadau
personol pob disgybl unigol; ·
roedd gan yr Adran Addysg
bryderon am y perfformiad cyffredinol yn CA4, er gwaethaf fod pob awdurdod yng
Nghymru wedi eu cynghori i beidio â chymharu canlyniadau’r flwyddyn bresennol
gyda pherfformiad y flwyddyn cynt; ·
roedd perfformiad pob
awdurdod yng Nghymru yn CA4 wedi gwaethygu yn 2017 pan gyflwynwyd y maes llafur
newydd a’r system raddio; ·
Roedd proffil perfformiad
Sir Ddinbych yn CA4 yn ddiddorol iawn oherwydd fod ganddo’r ysgol gyda’r
perfformiad gorau a’r trydydd gorau yn CA4 yng Ngogledd Cymru, ond roedd hefyd
ganddo’r ysgol gyda’r perfformiad gwaethaf; ·
nid oedd papurau arholi
Llenyddiaeth Gymraeg na Saesneg eleni yn cyfrif tuag at y Lefel 2+, dim ond yr
arholiadau iaith a mathemateg oedd yn cael eu hystyried ar gyfer y Lefel 2+; a ·
o fewn ffiniau’r sir, Sir
Ddinbych oedd â’r nifer uchaf o’r wardiau cyngor mwyaf difreintiedig yng
Ngogledd Cymru, felly roedd swyddogion yn archwilio data PYD i sicrhau ei fod
yn adlewyrchu perfformiad y sir yn gywir ac i ganfod a oedd pawb gyda hawl i
PYD yn eu hawlio nhw.
Llongyfarchodd aelod cyfetholedig yr Eglwys Gatholig ar y pwyllgor archwilio'r Sir ar ei ymagwedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN HERIO A CHEFNOGI NEWYDD GwE PDF 220 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr Addysg a
Swyddog Arweiniol Uwchradd GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi gwybodaeth am, ac yn
ceisio safbwyntiau ynghylch y strwythur diwygiedig ac arferion gweithio er mwyn
cefnogi gwelliant ysgolion ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys ysgolion Sir
Ddinbych 10.15am – 10.45am
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg yr adroddiad (a
gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi gwybodaeth i aelodau ar fodel her a
chefnogaeth newydd GwE ar gyfer ysgolion Sir Ddinbych – gan gynnwys y strwythur
diwygiedig ar gyfer y sefydliad a manylion ei arferion gwaith i gefnogi
gwelliant i ysgolion ar draws rhanbarth Gogledd Cymru Rhoddodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau
Plant wybod i Aelodau fod GwE wedi wynebu cyfnod sylweddol o her a bod
swyddogion yn Sir Ddinbych bellach yn fwy hyderus y byddai strwythur ‘newydd’
GwE yn cefnogi gwella ysgolion ar draws pob sector addysg yn y sir. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr newydd GwE fod y
fformiwla genedlaethol ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion wedi rhoi rhagor o
bwyslais ar ddarparu rhagor o gefnogaeth i’r sector cynradd. O safbwynt Sir Ddinbych, roedd y ffocws
hwn wedi cael effaith negyddol ar berfformiad y sector uwchradd yn y sir.
Rhoddodd Swyddogion Arweiniol
Cynradd ac Uwchradd GwE ar gyfer Sir Ddinbych wybod i aelodau’r Pwyllgor eu bod
wedi eu penodi i’w swyddi unigol i gefnogi ysgolion i ddatblygu a darparu eu
Cynlluniau Gwella Ysgolion, roedd y swyddogaeth honno yn cynnwys sicrhau
ansawdd y cynlluniau hynny i sicrhau y byddent yn sicrhau Gwelliant ac yn
darparu gwell canlyniadau i bob disgybl. Byddai dau Swyddog
Arweiniol GwE yn cwrdd â swyddogion addysg arweiniol y Cyngor bob pythefnos i
sicrhau fod gwelliannau cynaliadwy yn cael eu gwireddu ym mhob ysgol ar draws y
sir. Eglurodd
swyddogion GwE y byddai’r model newydd yn cynnwys Cynlluniau Busnes manwl Lefel
2 a Lefel 3 o fis Medi 2017. Byddai’r Cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar chwe
blaenoriaeth GwE, sef: ·
safonau ·
cwricwlwm ac asesu ·
arweinyddiaeth ·
lles ·
addysgu; a ·
busnes ac roedd manylion
am bob un ohonynt yn yr adroddiad. Byddai’r Cynlluniau Lefel 2 yn canolbwyntio ar safonau'r awdurdod lleol,
cwricwlwm ac asesu, arweinyddiaeth, lles ac addysgu, a byddai’r Cynlluniau
Lefel 3 uwch yn canolbwyntio ar feysydd mwy arbenigol o’r cwricwlwm, busnes a
llywodraethu GwE ac ati, ac yn cymharu perfformiad a chanlyniadau ar draws chwe
ardal awdurdod addysg lleol y rhanbarth. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, dywedodd y swyddogion GwE a’r Gwasanaeth Addysg fod: ·
lles pob disgybl ar draws
pob sector o’r ysgol yn rhan ganolog o’r gwasanaeth a ddarparwyd gan GwE a’r
awdurdod lleol, gan fod disgyblion iach, gwydn a chyfrifol yn fwy tebygol o
wireddu eu potensial; ·
ystyriwyd fod cyfuno
Addysg a Gwasanaethau Plant yn Sir Ddinbych o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth yn
fanteisiol ac yn ffafriol i gyflawni’r agenda lles; a ·
Byddai Estyn yn
ail-arolygu GwE ganol mis Hydref 2017 Roddodd Prif
Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych wybod i’r Pwyllgor y byddai bob amser problemau
neu faterion pryder yn ymwneud ag addysg disgyblion. Cyfrifoldeb GwE a’r awdurdod addysg lleol
oedd nodi a deall y ‘problemau’ a chyflwyno mesurau i fynd i’r afael â nhw a’u
datrys. Dywedodd wrth
aelodau fod ganddo hyder yn y model newydd hwn ac y byddai’n cyflawni’r
canlyniadau dymunol. Ymateb
y Pwyllgor: Penderfynwyd: - (i)
yn amodol ar yr
arsylwadau uchod ar y strwythur a’r arferion gwaith diwygiedig i gefnogi gwelliant
ysgolion yn Sir Ddinbych i ardystio’r model; a (ii) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les fel rhan o’i ystyriaethau ar yr uchod. |
|
‘EICH LLAIS’ : ADRODDIAD AR BERFFORMIAD O RAN YMDRIN Â CHWYNION PDF 223 KB I ystyried yr adroddiadau canlynol gan y Swyddog Cwynion
Statudol a Chorfforaethol (copïau ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau’r Aelodau ar
berfformiad y Gwasanaeth o ran cydymffurfio â gweithdrefn cwynion gorfforaethol
y Cyngor, ‘Eich Llais’, ac adnabod unrhyw feysydd a allent fanteisio o ragor o
graffu. (i)
Adroddiad ‘Eich Llais’ – Chwarter 4 2016/17 (ii)
Adroddiad ‘Eich Llais’ – Chwarter 1 2017/18 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r
adroddiad Cwynion ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 4 2016/17 a Chwarter 1 2017/18
(a gylchredwyd yn flaenorol), dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer datblygu
Isadeiledd Cymunedol wrth y Pwyllgor fod yr wybodaeth yn cael ei darparu i roi
cyfle i aelodau archwilio perfformiad y Cyngor wrth ddelio â chwynion.
Roedd yr adroddiad hefyd yn
amlinellu sut yr oedd gwasanaethau’r Cyngor wedi defnyddio cwynion er mwyn
gwella darpariaeth gwasanaeth i drigolion. Yn ystod y cyflwyniad
hwn, tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw aelodau at y ffaith fod nifer y
canmoliaethau a dderbyniwyd yn ystod y ddau chwarter unigol yn fwy na nifer y
cwynion a gafwyd, ac roedd hynny’n ddymunol. Roedd hefyd yn amlwg o’r data nad oedd unrhyw
batrwm amlwg yn amlygu ei hun mewn perthynas â’r cwynion a gafwyd.
Wedi ei atodi i
adroddiad ‘Eich Llais’ oedd adroddiad a ofynnwyd amdano gan aelodau ar y
'Dangosfwrdd Cwsmeriaid’ – a oedd yn rhoi trosolwg o ganlyniadau ymdrech a
bodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfer y Cyngor am y cyfnod mis Medi 2016 tan fis Awst
2017. Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn,
amlinellodd y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata y broses ar gyfer
gwerthuso adborth cwsmeriaid a sut y defnyddiwyd yr adborth a gafwyd i wella
gwasanaethau’r Cyngor. Nododd y dylai adroddiadau ‘Dangosfwrdd Cwsmeriaid’ yn y dyfodol gynnwys
dadansoddiad ystadegol a data ar sail gwasanaeth wrth wasanaeth. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion: ·
roi manylion y broses ar
gyfer delio â ‘chwynion’, gan bwysleisio fod ‘cwynion' yn wahanol i ‘geisiadau
gwasanaeth’. ·
nodi y gellid ymdrin â 'cheisiadau
gwasanaeth’ a’u datrys yn gynharach os oeddynt yn berthnasol ac y darparwyd
gwybodaeth benodol gan y galwr a gysylltodd â’r Ganolfan Gwasanaethau i
Gwsmeriaid; ·
cadarnhaodd fod y Cyngor
bob amser yn chwilio am ddulliau o wella gwasanaethau a gwella mynediad at y
broses gwyno ar gyfer y cyhoedd. Roedd gwefan y
Cyngor yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ar sut i wneud cwyn; ·
nododd nad oedd y galwadau
ffôn a gafwyd am geisiadau gwasanaeth neu i gofrestru cwynion yn cael eu
recordio.
Serch hynny, byddai cofnod ar bapur yn cael ei gwneud o
bob cais neu gŵyn a gafwyd; ·
cadarnhau fod rhai
gwasanaethau, neu asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor, yn
fwy tebygol o arwain at gwynion yn eu herbyn e.e. gwasanaethau gorfodi sifil. Roedd hyn oherwydd natur eu gwaith; ·
nodi, os oedd aelodau yn
teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth am Weithdrefn Gwyno Gorfforaethol y Cyngor
byddai digwyddiad cyfathrebu yn cael ei drefnu ar y diben hwn; a ·
cadarnhau fod y Cyngor yn
croesawu cwynion gan ei fod yn eu hystyried yn fodd effeithiol o ddeall
problemau a gwella gwasanaethau yn sgil hynny. Aeth y Pennaeth
Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata ati ymchwilio’r oedi a wynebwyd wrth fwrw
ymlaen â ‘ceisiadau gwasanaeth’ os nad oedd yr union god post ar gyfer y broblem
/ digwyddiad yn hysbys i'r person sy'n rhoi gwybod. Ymrwymodd hefyd i sicrhau fod y rhifau ffôn ar
gyfer y gwasanaeth brys y tu allan i oriau o fewn cyrraedd hawdd ar holl
gyhoeddiadau, gohebiaeth, gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
Ar ddiwedd y
drafodaeth: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod - (i)
derbyn yr adroddiad
ar berfformiad y Cyngor wrth ddelio a chwynion, canmoliaeth ac awgrymiadau a
gafwyd o dan weithdrefn gwyno gorfforaethol ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 4,
2016-17 a Chwarter 1, 2017-18, a sut roeddynt yn cael eu defnyddio i wella
gwasanaethau i drigolion; a (ii) derbyn data ar y canlyniadau Ymdrech a Bodlonrwydd Cwsmeriaid ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2016 i fis ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 242 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Roedd copi o
“ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn Atodiad 2. Gofynnodd y Cydlynydd
Archwilio i unrhyw gynigion gael eu cyflwyno iddi hi. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau
diweddar y Pwyllgor ac a oedd yn rhoi gwybod am gynnydd wrth eu rhoi ar waith,
wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1. Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol – ar
gais y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio – i raglen y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 7 Rhagfyr 2017:- a)
astudiaeth
genedlaethol Swyddfa Archwilio ar Reoli Gwastraff yng Nghymru ac b)
adroddiad
ar ‘Datblygu Strategaeth Gynnal Priffyrdd’. Gofynnwyd i’r
Pwyllgor benodi aelodau i’r Grwpiau Her Gwasanaeth sy’n goruchwylio meysydd
gwaith penodol neu berfformiad gwasanaethau. I’r perwyl
hwnnw, cyflwynwyd yr enwebiadau canlynol: ·
Y
Cynghorydd Ellie Chard - Y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau
Democrataidd. ·
Y
Cynghorydd Hugh Irving - Gwella a Moderneiddio Busnes PENDERFYNWYD (i)
yn
amodol ar y sylwadau a’r diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol; a (ii)
cytuno
ar y penodiadau i’r Grwpiau Herio Gwasanaeth. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar fyrddau a grwpiau amrywiol y
Cyngor. 12pm – 12.15pm Cofnodion: Ni chyflwynwyd
unrhyw adborth. Daeth y cyfarfod
i ben am 12:00pm |