Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Geraint Lloyd-Williams, Barri Mellor, Gareth Sandilands a Martyn Holland gysylltiad personol yn eitem 4 ar yr Agenda - Canlyniadau arholiadau Cyfnod allweddol 4, am eu bod i gyd yn Lywodraethwyr Ysgol mewn ysgolion lleol. Datganodd y
Cynghorydd Colin Hughes gysylltiad personol yn eitem 6 ar yr Agenda – y
Strategaeth Cynnal a Chadw Pontydd am y rheswm y trafodwyd Cadw, a'i fod yn
cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan Cadw. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 PDF 240 KB I ystyried
cyd-adroddiad gan y Prif Reolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi
ynghlwm) yn darparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad asesiadau athrawon ac
arholiadau allanol. 9.35am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a
ddarparodd y data perfformiad i’r Pwyllgor ar ganlyniadau arholiadau allanol
ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4) ac ôl-16. Cafodd
gwybodaeth meincnodi hefyd ei chynnwys yn yr adroddiad ar berfformiad yr
Awdurdod o gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Croesawyd Uwch Gynghorydd Her GwE i'r cyfarfod ac
eglurodd y data a gynhwysir yn yr adroddiad, gan gynghori bod y sir wedi gwella
ei pherfformiad cyffredinol mewn perthynas â phrif ddangosydd canlyniadau CA4
ac yn bodloni’r targed a osodwyd.
Oherwydd
y newidiadau cenedlaethol i’r cwricwlwm, roedd ysgolion ac awdurdodau lleol ar
hyn o bryd yn profi cyfnod o rywfaint o ansicrwydd, a oedd yn debygol o barhau
am hyd at ddwy flynedd. Yn ogystal,
roedd rhai ysgolion wedi cyflwyno disgyblion ar gyfer y cymhwyster newydd
flwyddyn o flaen llaw ysgolion eraill, roedd hyn wedi effeithio ar berfformiad
cyffredinol yn enwedig canlyniadau Trothwy Lefel 2. Yn dilyn ei sefydlu, ffocws cychwynnol GwE oedd cefnogi'r sector addysg
gynradd i wella. O ganlyniad,
arweiniodd hyn at lithriant mewn perfformiad ysgolion uwchradd ar draws y
rhanbarth. Mewn ymgais i
unioni'r sefyllfa hon, roedd GwE a'r awdurdod addysg lleol wedi llunio cynllun
gweithredu cyflym, a oedd yn cynnwys cyflwyno ffyrdd gwell o weithio gydag
ysgolion uwchradd er mwyn eu cefnogi drwy'r newidiadau i'r cwricwlwm. Hysbyswyd yr aelodau bod gofynion adrodd Llywodraeth Cymru (LlC) mewn
perthynas â data addysgol wedi newid ar gyfer y flwyddyn 2015/16, gydag
awdurdodau lleol bellach yn gorfod cynnwys gwybodaeth ystadegol yn eu data ar
gyflawniad disgyblion sy’n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Fodd bynnag, nid oedd
gan awdurdodau addysg lleol ddull unffurf ar gyfer mesur, casglu neu gofnodi
gwybodaeth am gyflawniadau disgyblion EOTAS, ac o ganlyniad arweiniodd hyn at
beth gwahaniaeth sylweddol yn y perfformiad cyffredinol a’r data meincnodi. Roedd holl awdurdodau
Gogledd Cymru yn bryderus ar y dull anghyson o gofnodi gwybodaeth EOTAS ar
draws Cymru ac, o ganlyniad, cawson nhw a GwE drafodaethau gyda'r LlC ar sut y
gellid gwella'r dull adrodd. Gan ymateb i gwestiynau'r aelodau, dyma’r pwyntiau a gafwyd gan yr Aelod
Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg, Prif Reolwr Addysg ac Uwch
Ymgynghorydd Her Gwe: ·
dywedant y bu rhai
newidiadau arwyddocaol o fewn GwE yn ddiweddar, gan gynnwys newid
arweinyddiaeth. ·
Arweiniodd
hyn at werthusiad o’r sefydliad a arweiniodd at ail-alinio rolau a ffocws ar
gyfer y gwasanaeth; Cadarnhawyd bod y proffil addysg gynradd yn Sir Ddinbych bellach yn dda. Roedd y ffocws bellach wedi troi tuag at y sector uwchradd lle byddai
timau’n cael eu sefydlu i weithio o amgylch ysgolion unigol i'w cefnogi ar eu
taith i welliant; ·
cadarnhawyd bod perthynas
waith gref yn bodoli rhwng GwE a Swyddogion Gwasanaeth Addysg Sir Ddinbych. Roedd y ddau bartner yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd fel un tîm tra
hefyd yn herio'i gilydd; ·
cadarnhawyd bod yr
awdurdod addysg lleol yn olrhain cyrhaeddiad pob disgybl unigol yn y sir drwy
gydol eu taith addysgol.
Rŵan bod Addysg a’r Gwasanaethau Plant wedi cael eu
huno yn un gwasanaeth, byddai'n haws i swyddogion wirio a oes unrhyw broblemau
cymdeithasol yn gweithredu fel rhwystr i gyflawniad disgybl. Cydnabuwyd bod amgylchiadau unigol yn allweddol i berfformiad disgyblion; ·
cynghorwyd bod LlC wedi
newid ei ofynion adrodd yn hwyr yn y flwyddyn academaidd, yn rhy hwyr i alluogi
i'r Cyngor ddiwygio ei gynllun darparu addysg ar gyfer y flwyddyn. Bellach,
byddai’n rhaid i'r awdurdod lleol ail-alinio ei dargedau i fod yn unol â LlC; ·
cynghorwyd bod proffil Prydau
Ysgol am Ddim Sir Ddinbych yn 14eg, roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith mai
dyma’r 9fed ardal o amddifadedd mwyaf yng Nghymru; · cadarnhawyd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL PDF 125 KB I ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol a’r Swyddog Cynllunio Strategol
(copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gofrestr Risg Gorfforaethol
y Cyngor. 10.15am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a oedd yn ceisio
sylwadau'r Pwyllgor ar y dileadau, ychwanegiadau a newidiadau i'r Gofrestr Risg
Gorfforaethol, bu i’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a
Pherfformiad fanylu ar y prif newidiadau i'r Gofrestr yn dilyn yr adolygiad
diweddar. Dywedodd wrth
yr aelodau fod y Gofrestr yn ddogfen 'hylif' ac roedd swyddogion yn cadw llygad
ar y risgiau ac ar risgiau newydd posibl. Roedd risgiau newydd posibl ar y gweill yn cynnwys
Brexit, Ariannu rhaglenni gwrthdlodi a lleihau amddifadedd penodol, a diwygio'r
sector cyhoeddus. Doedd dim digon
o wybodaeth ar gael ar y meysydd hyn eto er mwyn galluogi i'r Cyngor benderfynu
ar y risgiau roeddent yn eu peri ac unrhyw fesurau y gellid eu rhoi ar waith i
liniaru unrhyw risgiau. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a
swyddogion: ·
roedd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol, a oedd wedi astudio proses y Gofrestr Risg yn ei
gyfarfod y diwrnod blaenorol, wedi bod yn fodlon bod y broses yn un drylwyr; ·
Byddai’r Grŵp Tasg a
Gorffen Dyfodol Gofal Cymdeithasol i Oedolion Mewnol yn parhau i gyfarfod
unwaith y bydd y Cyngor newydd wedi ei ffurfio, gan fod y gwaith sy’n ymwneud â
gweddnewid darpariaeth gwasanaeth gofal mewnol yn cymryd cryn
dipyn o amser i'w gyflawni yn ei gyfanrwydd; ·
Byddai risg rhif DCC014
sy'n ymwneud â materion Iechyd a Diogelwch bob amser yn cael ei ystyried yn un
'effaith uchel' er gwaethaf rhoi pob cam angenrheidiol ar waith, oherwydd y
canlyniadau bygwth bywyd a berir gan fesurau iechyd a diogelwch annigonol; ·
roedd y risg a nodwyd mewn
perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) (DCC021) yn ymwneud
â rhyngwynebau rhwng y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd. Rŵan
bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu, roedd y risg o
gyfathrebu a rhyngweithio gwael, a allai arwain at gamleoli blaenoriaethau,
wedi'i leihau, a dyna pam y penderfyniad i leihau'r sgôr risg; ·
disgwyliwyd am
benderfyniad ar 'ddull newydd' posibl i weinyddu’r gronfa 'Cymunedau'n Gyntaf'
bresennol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Chwefror
2017. Roedd y Cyngor yn y broses o gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar
bwysigrwydd y ffynhonnell ariannu hwn ar gyfer wardiau mwyaf difreintiedig Sir
Ddinbych, gan bwysleisio y gallai'r Awdurdod ddefnyddio'r arian a gwneud y
mwyaf o’i ddefnydd er budd trigolion diamddiffyn yn y cymunedau difreintiedig
hynny, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i'w galluogi i wella eu
gwydnwch a dod yn gynaliadwy. Amlygodd aelodau'r Pwyllgor nifer o feysydd a allai, yn eu barn hwy, beri
risg sylweddol i'r Cyngor yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys: ·
yr oes ddigidol - byddai
gan hyn y potensial i drawsnewid y ffordd y mae'r Cyngor yn trafod ei holl
fusnes. ·
Byddai
angen i'r Awdurdod fod yn barod ar gyfer y newid hwn ac yn uchelgeisiol yn y
ffordd y mae'n mynd ati i sicrhau na chaiff ei adael ar ôl; disgwylir i gost
gofal cymdeithasol fod yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael yn y dyfodol. Felly, byddai'n rhaid i'r Cyngor reoli'r risg hon yn ofalus. dylai Llywodraeth Ganolog hefyd wneud ymdrech gydunol i geisio mynd i’r
afael â phrinder adnoddau yn y maes hwn; a ·
risgiau sy'n ymwneud â
gofal ôl-lawfeddygol cleifion unwaith y penderfynir na fyddai angen gofal mewn
lleoliad ysbyty acíwt arnynt. Ar ddiwedd y
drafodaeth, bu i’r Pwyllgor benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau uchod i nodi'r dileadau,
yr ychwanegiadau a’r newidiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. |
|
STRATEGAETH CYNNAL A CHADW PONTYDD PDF 106 KB I ystyried
adroddiad gan yr Uwch Beiriannydd – Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd (copi
ynghlwm) i helpu i ddeall y risgiau yn sgil cyflwr presennol isadeiledd
Adeiledd Priffyrdd y Sir, ac i allu archwilio strategaeth arfaethedig y Cyngor
i reoli’r risgiau a nodwyd. 11am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
amlinellu’r dull y mae'r Cyngor yn rheoli asedau ei strwythur priffyrdd ac
eglurodd sut y bwriedir rheoli ei ôl-groniad presennol o waith mewn perthynas
â’r asedau strwythurol hynny.
Drwy
gyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Uwch Beiriannydd – o adran Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol, drosolwg o ddull y Sir i reoli ei Strwythurau
Priffyrdd. Amlinellodd y
diffiniadau ar gyfer y gwahanol adeileddau priffyrdd a oedd yn ffurfio ystâd
Strwythurau Priffyrdd y Cyngor, ynghyd â nifer o strwythurau ym mhob categori: ·
150 o bontydd priffyrdd
(53 ohonynt yn rhestredig a 6 arall yn gofrestredig); ·
258 o gylfatiau; ·
mwy na 300 o waliau
cynnal; a ·
mwy na 300 yn bontydd o
Hawl Dramwy Gyhoeddus Pe bai’n rhaid i’r Cyngor newid pob un o'r uchod, byddai’n costio tua
£313m. Yn ogystal â Ddeddf Priffyrdd 1980, roedd gan y Cyngor ddyletswydd hefyd
i gynnal a chadw'r holl henebion cofrestredig neu restredig (gan gynnwys
pontydd). Bu i’r Uwch Beiriannydd: ·
amlinellu’r Broses Rheoli
Asedau ar ôl y Cyngor a'r myrdd o Nodiadau Cyngor a safonau diogelwch BSEN yr
oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy; ·
Cynllun Rheoli Asedau
Priffyrdd manwl Sir Ddinbych sy'n nodi'r safonau lleol a'r dull sy'n seiliedig
ar risg a fabwysiadwyd i amlder arolygu – roedd y dull hwn, a fabwysiadwyd
hefyd gan Awdurdodau Priffyrdd y Sir eraill ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a
Chanolbarth Cymru, wedi arbed swm sylweddol o arian i’r awdurdod o gymharu â
chydymffurfio â'r Safonau Cenedlaethol heb gyfaddawdu diogelwch defnyddwyr
asedau; ·
amlinellu’r symiau o arian
a ddyrannwyd o fewn Refeniw a Chyllideb Cyfalaf bloc yr adran Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol ar gyfer 2016/17 ar gyfer rheoli strwythur priffyrdd,
a dywedodd fod hyn yn cyfateb i £445k; ·
darparu data ar y nifer o
strwythurau a oedd wedi cael eu hasesu fel strwythurau gwan, rhai ohonynt
eisoes wedi cael eu rhoi dan orchmynion cyfyngiad pwysau. Manylwyd ar yr amrywiol gyfyngiadau pwysau a gymhwysir fel arfer ar
strwythurau, a'r mathau o gerbydau a fyddai'n cael eu heffeithio gan wahanol
gyfyngiadau.
Er bod cyfyngiadau pwysau yn cael eu cymhwyso ar sail
diogelwch, gallent o bosibl gael effaith andwyol ar drigolion, busnes, bywyd
cymunedol a mynediad cerbydau brys i ardaloedd ac eiddo; ·
arddangos tystiolaeth
ffotograffig o wahanol strwythurau priffyrdd a'r gwahanol fathau o erydiad /
dirywiad deunydd a gafwyd, a gwaith atgyweirio a wnaed neu sy'n ofynnol ar y
nifer o strwythurau ar draws y sir; ·
cynghori bod yr atodiad
i'r adroddiad yn rhoi manylion y costau refeniw a chyfalaf sy'n gysylltiedig
â’r strwythurau yn y Prosiect Ôl-groniad Strwythurau Priffyrdd arfaethedig. Cost amcangyfrifedig y prosiect hwn fyddai tua £6m dros gyfnod o 10 mlynedd
a byddai'n cael ei ariannu ar y cyd gan y Gyllideb Cyfalaf Bloc y Briffordd, a
oedd wedi cynyddu tua £320K y flwyddyn.
Ymgymryd â'r prosiect dros gyfnod o 10 mlynedd a fyddai'n sicrhau na fyddai
prosiectau eraill a ariennir o fewn Cyllideb Gyfalaf y Bloc Priffyrdd yn cael
ei effeithio'n andwyol o achos dargyfeirio cyllid oddi wrthynt i'r prosiect
strwythurau. Yn ystod y gwaith hwn, byddai pontydd a waliau cynnal yn cael eu cyfyngu
er mwyn lleihau cyfradd y dirywiad a sicrhau nad fyddant yn disgyn. Cynigiwyd hefyd i gynyddu'r gyllideb refeniw i gefnogi'r rhaglen ôl-groniad
ac i gynnal rhaglen cynnal a chadw ataliol wedi’i chynllunio. Mae nifer o fesurau effeithlonrwydd, gan gynnwys cyflogi staff arbenigol yn
hytrach na phrynu gwasanaethau gan arbenigwyr allanol, yn cael eu harchwilio er
mwyn gwireddu gwerth am arian yn ystod cwrs y prosiect. Byddai gweddill y gofyniad cyllideb arfaethedig yn destun cais cyfalaf
ychwanegol maes o law; Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, cynghorodd yr ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 107 KB I ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.45am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn
Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn
Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor
a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithredu wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- ·
16 Mawrth, 2017: Cytunodd y
Pwyllgor y dylid gwahodd Aelodau Arweiniol i fynychu’r cyfarfod. ·
Dwyn ymlaen yr adroddiad ar y
Strategaeth Tai Lleol o 27 Ebrill i'r cyfarfod ar 16 Mawrth 2017. ·
Ymgorffori adroddiad ar
Safonau a pherfformiad Gwasanaeth Llyfrgell yn y cyfarfod ar 16 Mawrth 2017 fel
y cynigiwyd yn Atodiad 2(a). ·
Canslo'r cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer 27 Ebrill 2017. PENDERFYNWYD
- yn amodol ar y newidiadau a’r cytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Hysbysodd y Cynghorydd Barry Mellor (Cadeirydd) y Pwyllgor ei fod wedi dod
yn Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones yn ddiweddar
ac roedd yn obeithiol iawn y bydd Cadeirydd newydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol
yn cael effaith gadarnhaol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:50 |