Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Rhyl

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Colin Hughes, Dewi Owens ac Arwel Roberts.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer aelod i wasanaethu fel is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16.  Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Richard Davies.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill ac felly:

 

Penderfynwyd: - Penodi’r Cynghorydd Richard Davies fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2015/16.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn ynol ag Adran 100B(4), Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

5.

DARPARIAETH AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETH PLANHIGFEYDD ABERCHWILER YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol  (amgaeir copi) sy'n ceisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol yn dilyn terfynu contract gydag asiantaeth staffio Planhigfeydd Aberchwiler.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol ei adroddiad, y dosbarthwyd copi ohono cyn y cyfarfod.  Amlinellodd gefndir i'r penderfyniad ym mis Rhagfyr 2014 i ddatgomisiynu gwasanaethau cyfleoedd gwaith a ddarperir ar hyn o bryd gan asiantaeth ym Mhlanhigfeydd Aberchwiler, a cheisio gwasanaethau amgen ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth mewn mannau eraill yn y sir.

 

Roedd manylion am aelodaeth y grŵp tasg a gorffen cyfleoedd gwaith a gafodd y dasg o archwilio’r gwasanaeth cyfleoedd gwaith a ddarperir gan y Cyngor ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, gweledigaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol modern, a'r pwysau cyllidebol wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad.

 

Roedd yna ar hyn o bryd 27 unigolion yn mynychu planhigfeydd Aberchwiler, roedd y mwyafrif ohonynt yn mynychu gwasanaethau cyfleoedd gwaith eraill ar rai dyddiau o'r wythnos.  O’r 27 unigolyn hyn roedd 21 naill ai wedi cytuno i gynyddu nifer y dyddiau roeddent yn mynychu eu lleoliad(au) arall/eraill neu wedi darganfod lleoliadau amgen, tra bod chwech ar hyn o bryd yn mynychu'r sesiynau blasu mewn gwasanaethau amgen cyn penderfynu beth orau oedd yn bodloni eu hanghenion.  Dim ond un defnyddiwr gwasanaeth nad oedd yn cymryd rhan yn y broses ar hyn o bryd.  Nid oedd y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw wedi mynychu Planhigfeydd Aberchwiler yn rheolaidd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cynghorodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

 

·          Roedd chwe defnyddiwr gwasanaeth ar fin cael eu trosglwyddo i Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari, roedd nifer o’r unigolion hyn wedi nodi eu dymuniad i aros gyda'i gilydd a gweithio gyda'i gilydd.  Roedd y dymuniad hwn wedi cael ei barchu;

·         Byddai’r gwasanaeth rheoli gardd presennol, a oedd yn darparu cyfleoedd gwaith ar gyfer 7 o unigolion yn cael eu trosglwyddo i'r Gerddi Botanegol yn y Rhyl.  Byddai trosglwyddo i'r Gerddi Botanegol hefyd yn lleihau amser teithio ar gyfer y rhan fwyaf o'r defnyddwyr gwasanaeth hyn;

·         Byddai’r staff cefnogi yn yr holl leoliadau cyfleoedd gwaith amgen yn staff cyflogedig, nid gwirfoddolwyr.  Buasent hefyd yn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

·         Amlinellwyd y costau dangosol y pen ar gyfer y gwasanaethau amgen yn yr adroddiad ac roedd y rhain yn sylweddol is na chostau’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael ar hyn o bryd gan yr asiantaeth staffio ym Mhlanhigfeydd Aberchwiler;

·         Roedd yr atebion a drefnwyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol yn cael eu hystyried fel trefniadau tymor canolig i’r tymor hir, yn amodol ar ddim newid yn eu hanghenion a bod y darparwr yn cydymffurfio â’r gofynion contract e.e. ansawdd, perfformiad a chostau.  Fodd bynnag, ni ellid rhoi sicrwydd pendant na fyddai pethau yn newid yn y tymor hir oherwydd cyfyngiadau cyllideb neu bolisïau’r Llywodraeth yn y dyfodol;

·         Os, ar unrhyw adeg, byddai’r defnyddiwr gwasanaeth neu eu teulu/ gofalwyr yn anfodlon gyda'r gwasanaeth a ddarperir gallent ofyn am symud i gyfleuster cyfleoedd gwaith amgen;

·         Roedd y gwasanaeth yn Aberchwiler yn wasanaeth a gomisiynwyd, ac nid oedd yn cael ei redeg gan y Cyngor ei hun.  O ganlyniad, roedd y grym i derfynu'r contract gyda'r darparwr a chanfod gwasanaethau amgen mewn mannau eraill ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth wedi’i ddirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol yn unol â Chynllun Dirprwyo i Swyddogion y Cyngor;

·         Unwaith roedd y penderfyniad wedi'i wneud a’i gyfleu i’r asiantaeth dan sylw, roedd y Tîm Anghenion Cymhleth yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ar y cyfle cynharaf, wedi dechrau gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr i ddod o hyd i wasanaethau amgen addas ar eu cyfer.  Prif ffocws y gwaith hwn oedd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth a sicrhau eu bod yn hapus yn eu hamgylchedd newydd;

·         Hysbyswyd Cynnig, yr asiantaeth oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.