Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr
Meirick Davies, Colin Hughes, Dewi Owens a Joe Welch |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 187 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2016 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin,
2016. Materion yn codi - Tudalen 8 - Eitem
Rhif 5 Cofnodion: Cyflwyno BT Superfast Cymru yn Sir Ddinbych - Mynegodd y
Cynghorydd Gareth Sandilands bryder bod y Cyngor wedi cyhoeddi datganiad i'r
wasg ynghylch ei siom gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r cais o rannu'r map yn
nodi ‘mannau gwan' ar gyfer ffibr optig cyflym iawn yn Sir Ddinbych. Roedd
yn teimlo y byddai wedi bod yn fwy cynhyrchiol i'r Cyngor gymryd rhan mewn
deialog gyda Llywodraeth Cymru ar y mater yn hytrach na mynd yn gyhoeddus. Dywedodd
y swyddogion bod yr Arweinydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog eto yn gofyn am y
wybodaeth fel bod y Cyngor yn gallu rhoi gwybod i drigolion am argaeledd band
eang cyflym iawn. Mae’r Cyngor yn dal i aros am ymateb gan y
Gweinidog. Tudalen 9 - Eitem 6 Adroddiad Perfformiad y Cynllun
Corfforaethol: Chwarter 4 2015/16 - Mewn ymateb i bryderon a godwyd yn y
cyfarfod blaenorol roedd y Rheolwr Gweithrediadau Priffyrdd a Gwasanaethau
Stryd (De) yn bresennol i roi gwybod i aelodau am y sefyllfa o ran y contractau
torri gwair ar gyfer mynwentydd lawnt y sir. Dywedodd
fod y contractwyr (y ddau ohonynt) sydd yn gyfrifol am y gwaith torri gwair
mewn saith mynwentydd lawnt y sir wedi rhoi'r gorau i fasnachu. O
ganlyniad mae Tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor wedi cymryd cyfrifoldeb am y
gwaith am weddill y flwyddyn ariannol 2016/17. Cadarnhaodd
fod problemau wedi bod gydag un o'r contractwyr yn ystod y toriad cyntaf gan
nad oeddent wedi gwneud y gwaith i'r safon a nodir yn y contract. Mae'r
holl broblemau sy'n ymwneud â'r gwaith a wnaed gan y contractwyr wedi cael eu
cywiro gan staff y Gwasanaethau Stryd a'r Swyddog Mynwentydd. Bu
trafodaethau o fewn Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar y dull mwyaf
priodol ar gyfer darparu gwasanaethau torri gwair yn y mynwentydd ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2017/18. Mae’r Gwasanaeth yn wynebu pwysau ariannol
mewn perthynas â incwm mynwentydd yn ddiweddar yn sgîl agor yr amlosgfa newydd
yn Llanelwy, a byddai angen cynnwys y pwysau hynny mewn unrhyw drafodaeth a
phenderfyniadau cyllideb yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol
dros Foderneiddio a Thai nad oedd gan wasanaeth Tai y Cyngor gontract torri
gwair ar wahân a oedd yn ymddangos i fod yn cyflawni gwaith i lefel foddhaol. Felly
awgrymodd y dylai swyddogion o wasanaethau eraill archwilio a oedd yn ymarferol
i'r contract hwnnw gael ei ymestyn i gynnwys mynwentydd neu y gellir elwa o
gontract tebyg. Ailadroddodd y Cynghorwyr Ray Bartley ac Arwel
Roberts rai o'r problemau a gafwyd ym Mynwentydd Dinbych a Rhuddlan ac roeddent
wedi eu plesio gyda'r ffordd yr oedd y Tîm Gwasanaethau Stryd wedi ymateb i'r
materion a godwyd. Y gobaith oedd y byddai’r safon gyfredol o waith
cynnal a chadw yn parhau. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2016
fel cofnod cywir. |
|
AIL-OSOD CARTREFI CYNGOR PDF 95 KB I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol – Tai Cymuned (copi ynghlwm) yn ceisio barn
yr aelodau ar ddeilliant perfformiad ar gyfer ail-osod cartrefi Cyngor a’u
cefnogaeth ar gyfer y dull gweithredu sydd wedi ei fabwysiadau gan y Cyngor a'r
targed perfformiad diwygiedig cysylltiedig. 9.40 a.m.– 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod
Arweiniol dros Foderneiddio a Thai yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
ar berfformiad y Cyngor wrth ail-osod tai Cyngor a'r dull a gymerwyd mewn
perthynas â sicrhau gwell canlyniadau i denantiaid yn hytrach na bodloni'r
dangosydd perfformiad dynodedig. Diben cyflwyno’r adroddiad oedd ymateb i gais gan aelod etholedig gyda
phryderon nad oedd y Cyngor yn cyrraedd y targed ar gyfer ail-osod eiddo fel y
nodir yn y Cynllun Corfforaethol. Eglurodd y Pennaeth Cyfleusterau, Tai ac Asedau
a'r Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol er bod y Cyngor wedi cwrdd â Safon
Ansawdd Tai Cymru (SATC), roedd y gwaith i fodloni'r safon honno wedi
canolbwyntio ar agweddau penodol o dai cymdeithasol, hy ceginau, ystafelloedd
ymolchi, ffenestri, systemau gwresogi, ac ati. Ar ôl cyflawni’r gwaith hwnnw
cafodd adolygiad ei wneud ar safonau cartrefi wedi’u hail-osod gan y Cyngor i
denantiaid. Yn ôl yr adolygiad hynny, er bod WHQSs wedi eu cwrdd, i gwrdd â'r dangosydd
perfformiad ar gyfer ail-osod tai cyngor roedd yr awdurdod mewn sawl achos yn
ail-osod tai mewn cyflwr gwael o ran gwaith cynnal a chadw yn fewnol ac yn
allanol. Roedd hyn yn annheg ar y tenantiaid newydd, a oedd yn fwy aml na pheidio
heb ddigon o incwm i’w wario ar wella’r eiddo hyd at safon resymol o addurno,
ac ati. Dangoswyd sleidiau Powerpoint i'r pwyllgor i ddangos cyflwr rhai o'r
tai a ail-osodwyd i denantiaid yn y gorffennol a rhai wedi’u hail-osod rŵan
ers i’r cyngor fabwysiadu dull o sicrhau bod ei eiddo yn cael ei ail-osod hyd
at safonau priodol. Y rhesymeg y tu ôl i'r dull oedd bod eiddo yn cael ei ail-osod mewn cyflwr da yn ogystal â’r
addurno y tu mewn a thu allan, gan gynnwys gerddi twt a thaclus, a fyddai'n
annog tenantiaid i gymryd balchder yn eu cartrefi a hefyd yn lleihau ymddygiad
gwrthgymdeithasol mewn rhai ardaloedd. Mae'r gost i'r Cyngor o adnewyddu’r eiddo hyn ar
gyfartaledd tua £1k fesul eiddo, mae arian i wneud y gwaith ar gael yn y Cyfrif
Refeniw Tai (HRA). Eglurodd y swyddogion y broses o adleoli eiddo’r cyngor a chydlynu'r gwaith
cynnal a chadw ac addurno fel eu bod yn cyrraedd y safon gofynnol cyn eu
hail-osod. Ar hyn o bryd mae’r weithred yn cymryd 43 diwrnod, fodd bynnag, yn y dyfodol
rhagwelir y byddai hyn yn lleihau i tua 35 diwrnod a oedd yn dal i fod yn uwch
na'r targed o 26 diwrnod a osodwyd yn y Cynllun Corfforaethol. Gyda’r bwriad o geisio sicrhau bod targed
newydd o 35 diwrnod yn ymarferol a bod y dull newydd a gymerwyd mewn perthynas
ag ail-osod eiddo'r Cyngor mor dynn ag y gallai fod i sicrhau gwell canlyniadau
i denantiaid, mae’r Gwasanaeth Tai wedi comisiynu Archwiliad Mewnol i adolygu'r
prosesau dan sylw. Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau dywedodd yr
Aelod Arweiniol a'r swyddogion bod - ·
proses
fonitro lem bellach ar waith i sicrhau bod tenantiaid yn cymryd balchder yn eu
heiddo a’u cynnal yn unol â hynny ·
y
Cyngor wedi gosod tua 200 eiddo y flwyddyn ·
mewn amser
y rhagwelir bod yr amser a gymerir i ailosod eiddo yn lleihau gyda’r gobaith y
bydd tenantiaid a oedd wedi ymrwymo i gytundebau tenantiaeth ar eiddo o safon
uchel yn ymfalchïo ynddynt ac yn eu gadael maes o law mewn cyflwr rhesymol ·
y
Gwasanaeth wedi cymryd penderfyniad ymwybodol i ddefnyddio deunyddiau manyleb
uwch wrth adnewyddu eiddo'r Cyngor gan fod y Cyngor yn teimlo y byddai cynnyrch
o ansawdd uwch yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol ac yn sylweddoli gwerth am
arian yn y tymor hir · y Pennaeth Gwasanaeth yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD STRATEGAETH BAW CŴN PDF 93 KB I ystyried
adroddiad gan Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd (copi ynghlwm) ar y cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn Strategaeth Baw
Cŵn y Cyngor a cheisio cefnogaeth aelodau ar gyfer y gwaith sy’n cael ei
wneud i fynd i’r afael â’r broblem baw cŵn yn y sir. 10.10 a.m.– 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad a'r
atodiadau cysylltiedig (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar y cynnydd a wnaed
gyda’r Strategaeth Baw Cŵn y Cyngor gan nodi'r nifer o achosion a’r
ardaloedd sy’n dioddef o’r broblem yn gyson. Hysbyswyd yr
Aelodau bod y Strategaeth Baw Cŵn wedi ei ffurfio fel rhan annatod o
flaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o sicrhau strydoedd glân a thaclus. Ategir
y broblem gan drigolion yn rheolaidd gyda chynghorwyr ynglŷn â’r broblem o gŵn yn baeddu ac er na
allai’r Cyngor fyth gael gwared ar y broblem, mae data diweddar yn bendant yn
dangos gostyngiad yn nifer yr achosion a gofnodwyd ac yn cael ei ystyried yn
llwyddiant yn gyffredinol. Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf i
ddefnyddio Kingdom Security Ltd i gynnal rhai agweddau o waith gorfodi
troseddau amgylcheddol, fodd bynnag mae pump allan o'r chwe awdurdod yng
Ngogledd Cymru bellach wedi eu comisiynu nhw i wneud gwaith gorfodi ar eu rhan ac
ledled y DU maent yn gweithredu ar ran 35 o awdurdodau. Gan
ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Warchod y
Cyhoedd a swyddogion Gwasanaethau Stryd fod - ·
Kingdom
yn cael eu rheoli ar ran y Cyngor gan Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch y Gymuned
y Cyngor a bod unrhyw ymholiadau/cwynion ynghylch eu gwaith yn cael eu cyfeirio
ato ·
ar
hyn o bryd nid oes unrhyw orchmynion gwahardd gorfodadwy yn ymwneud â chŵn
ar draethau, efallai bod is-ddeddfau hanesyddol yn bodoli a'r unig ffordd i
orfodi rhain yw trwy gychwyn achos llys ·
bwriad
i wella pwerau gorfodi y Cyngor mewn perthynas â swyddogion baw cŵn drwy
gyflwyno Gorchmynion Gwarchod Gofod Cyhoeddus (PSPOs). Gallai'r
Gorchmynion hyn, lle gallai Cynghorau weithredu dan bwerau a roddwyd iddynt yn
y Ddeddf Trosedd a Phlismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014, gan gynnwys
gwahardd cŵn o dir penodol a/neu ei gwneud yn ofynnol bod cŵn ar
dennyn mewn ardaloedd penodol. Mae'r Cyngor yn disgwyl i fod mewn
sefyllfa i ymgynghori ar y Gorchmynion arfaethedig cyn diwedd y flwyddyn, gan
fod swyddogion ar hyn o bryd yn y broses o nodi'r ardaloedd mwyaf priodol i’w
dynodi o fewn y Gorchmynion ·
er
gwaethaf nifer o geisiadau i'r Heddlu nid oeddent wedi cysylltu â'r Cyngor at
ddiben camau gorfodi mewn perthynas â baw cŵn, maent hefyd yn amharod iawn
i rannu gwybodaeth gyda'r Cyngor ar achosion
baw cŵn ·
dylid
cyfeirio pryderon yn ymwneud â chŵn peryglus at yr Heddlu gan ei fod yn
fater troseddol yn hytrach na mater gorfodi sifil ·
lle'r
oedd cyfanswm uchel o achosion baw cŵn byddai swyddogion yn tynnu sylw at
hynny drwy farcio'r palmentydd gyda sialc melyn unwaith y bydd y swyddogion
Gwasanaethau Stryd wedi clirio llanast.
Mae’r ymagwedd hon yn ffurfio
rhan o'r ymgyrch hyrwyddo i leihau baw cŵn ·
'ardaloedd
problematig' yn cael eu dynodi ar sail y nifer o achosion a adroddwyd gan
gynghorwyr a/neu aelodau o'r cyhoedd mewn ardaloedd penodol a’u cofnodi ar y
system Rheoli Cyswllt Cwsmer (CRM) ·
yn ystod
y chwe mis diwethaf mae’r Cyngor wedi derbyn tua 82 o gwynion yn erbyn Kingdom,
mae hyn yn cyfateb yn fras i lai na 2% o'r Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPN) a
gyflwynwyd ar gyfer troseddau amgylcheddol. Ar
ôl derbyn cwyn bydd Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol y Cyngor yn
adolygu’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys ffilm o gamera corff y
Swyddog Gorfodaeth, cyn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gŵyn ai peidio. Ym
mhob achos byddai'n ysgrifennu at yr achwynydd yn amlinellu ei benderfyniad a'r
sail dros y penderfyniad hynny. · os bernir bod cwynion yn erbyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL- MEHEFIN 2016 PDF 146 KB I ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio barn yr
aelodau ar fersiwn ddiweddaraf y Gofrestr Risg Gorfforaethol. 11.00 a.m.– 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y
Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar
adolygiad Mehefin 2016 o Gofrestr Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Manylodd yr Aelod Arweiniol y prif faterion a amlygwyd
yn yr adroddiad ac eglurodd pam fod categoreiddio risg ar gyfer rhai wedi cael
eu newid ac eraill wedi cael eu dileu neu eu graddio i lawr i risgiau
Gwasanaeth yn hytrach na risgiau corfforaethol. Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau dywedodd yr Aelodau
Arweiniol yn bresennol a'r Prif Weithredwr - ·
mewn
perthynas â chanlyniad y Refferendwm diweddar ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd
(UE) fod y Cyngor wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i
gynnal dadansoddiad fesul sir a rhanbarth o effaith y penderfyniad i adael yr
UE. Byddai hyn yn ddarn helaeth o waith, ac oherwydd yr ansicrwydd ynghylch
Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ni ragwelwyd y byddai darlun clir
yn dod i'r amlwg o’r effaith gwirioneddol ar lywodraeth leol tan yr hydref ar y
cynharaf. Gan fod cronfeydd strwythurol yr UE wedi cytuno arnynt hyd at 2020 pan
roedd y cronfeydd strwythurol newydd i fod ar gael, rhagwelwyd y byddai'r
effaith ar brosiectau a gytunwyd arnynt eisoes yn Sir Ddinbych yn fach iawn ·
mewn
perthynas â Risg Corfforaethol DCC032 yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol
roedd yn awr yn amlwg na fyddai llywodraeth leol yn cael ei had-drefnu yn y
dyfodol agos gan fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai etholiadau
awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf am dymor o 5 mlynedd yn y Cyngor hyd at 2022.
Er hynny, roedd risg yn dal i fodoli mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol
llywodraeth leol yn y dyfodol. ·
bod y
risg yn ymwneud â modelau gwasanaeth amgen wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar gyda
chasgliadau arolwg Estyn o wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol Gogledd Cymru,
GwE. Mae swyddogion o Sir Ddinbych wedi cyflwyno cynigion ar sut y gellir
diwygio GwE er lles disgyblion Sir Ddinbych, er nad oedd sicrwydd ynghylch a
fyddai’r cynigion hyn yn cael eu cefnogi gan awdurdodau addysg lleol eraill a
oedd yn rhanddeiliaid yn GwE. Os nad oedd Sir Ddinbych yn hapus gyda'r ffordd ymlaen gyda'r gwasanaeth
rhanbarthol, byddai'n rhoi rhybudd i dynnu'n ôl. Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud hyd yma o
ran hyn, ond mae cyfarfod wedi ei drefnu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn
ystod yr haf i drafod sut y gellir gwella’r model. ·
DCC017
– mae’r risg hwn bellach wedi'i dynnu o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac y
byddai yn y dyfodol yn cael ei reoli ar lefel Gwasanaeth gan fod yr holl waith
gweithredu TG strategol yn ymwneud â symud i Outlook a'r system teleffoni
wedi'i gwblhau. Materion yn ymwneud ag aelodau etholedig TG yn cael ei drafod mewn
Gweithgor Gwasanaethau Democrataidd a TG ar y cyd sydd ar fin cael ei sefydlu
yn ystod yr haf i drafod atebion a gofynion TG posib ar gyfer aelodau etholedig
ar ôl etholiadau awdurdodau lleol 2017. · DCC016 – mae’r risg hwn yn ymwneud ag effaith y diwygiadau lles yn cael effaith mwy sylweddol na ragwelwyd yn wreiddiol wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Risg Corfforaethol. Serch hynny, unwaith y cyflwynwyd y Credyd Cynhwysol (UC) fe ymddangosodd risg newydd sy'n ymwneud â’r UC ac o bosib bydd angen ei gynnwys ar y Gofrestr Risg. Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri Brethyn’ wedi edrych ar yr effaith o gael gwared ar yr Uned Hawliau Lles (WRU) a throsglwyddo darpariaeth gwasanaeth i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) gan ddod i'r casgliad nad oedd yr effaith wedi bod yn waeth nag a ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar faterion
perthnasol. 11.30 a.m.– 11. 45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r
aelodau adolygu rhaglen waith y pwyllgor ac i roi diweddariad ar faterion
perthnasol. Ymhelaethodd y
Cydlynydd Archwilio eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yng nghyfarfodydd y
dyfodol ac ymatebodd i gwestiynau'r aelodau ar hynny. Adroddodd am y cyfarfod nesaf a drefnwyd
ar gyfer 29 Medi a oedd yn cynnwys y ddau sesiwn, yn fore a phrynhawn a
phwysleisiodd ar bwysigrwydd presenoldeb aelodau a gofynion cworwm cyfarfod.
Nododd y pwyllgor
hefyd fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeirydd Archwilio wedi cyfeirio'r
pwyllgor i graffu ar berfformiad Diogelu Oedolion yn Sir Ddinbych a oedd wedi'u
cynnwys yn yr eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
Cytunwyd bod Aelodau
Arweiniol perthnasol yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod hwnnw.
Yn olaf tynnwyd sylw’r
aelodau at yr adroddiad ‘Eich Llais' (Mai 2016) a geir yng nghrynodeb o
wybodaeth y pwyllgor. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
rhaglen waith fel y manylir yn Atodiad 1 o'r adroddiad a bod yr Aelodau
Arweiniol perthnasol yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol ar gyfer eu heitemau
penodol yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.45
a.m. Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar gyfarfod y
Grŵp Monitro Safonau Ysgolion diwethaf (SSMG) gan roi gwybod bod y ddwy
ysgol a ystyriwyd wedi perfformio'n dda iawn ac wedi cael cefnogaeth dda gan
GwE. Fodd bynnag, yn ystod
cyfarfodydd y SSMGs roedd absenoldeb disgyblion yn parhau i gael ei godi fel
mater o bryder. Dywedodd y
Cydlynydd Archwilio y byddai Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn ystyried y Polisi
Absenoldeb mewn Ysgolion yn eu cyfarfod ar 8 Medi 2016. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm. |