Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 33 KB

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau i Aelod wasanaethu fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn gyngor 2016/17.  Cafodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei enwebu gan y Cynghorydd Raymond Bartley, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.  Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill ac felly;

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2016/17.

 

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 167 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad (copi ynghlwm) a gynhaliwyd ar:

 

·       12 Ebrill 2016 a

·       28 Ebrill 2016

9.40 a.m. – 9.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2016 a 28 Ebrill 2016.

 

12 Ebrill 2016

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd y pwynt roedd wedi’i godi yn ystod y cyfarfod ynghylch nifer o Aelodau Pwyllgor Archwilio Perfformiad a oedd yn aelodau o'r Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei gynnwys yn y cofnodion. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Sandilands i gael gwybod pryd y byddai'r Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yn mynychu Pwyllgor Archwilio Perfformiad i roi diweddariad i'r Aelodau o'r Gwasanaethau Gofal Mewnol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd dyddiad wedi ei osod, ond ei bod yn debygol y byddai pob preswylfa yn cael ei gyflwyno yn unigol.

 

28 Ebrill 2016

 

Tudalen 19 Eitem 4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Cludiant Ysgolion Cynradd.  Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd mater ynghylch llwybr Rhuddlan i Ysgol Dewi Sant wedi cael ei ddatrys eto.  Mynegodd yr Aelodau eu pryderon a dweud fod diogelwch y plant yn hollbwysig.

 

Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio y byddai'r Adolygiad o Gludiant Ysgol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio  Cymunedau ar 30 Mehefin 2016. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai'r adroddiad gynnwys problem Rhuddlan i Ysgol Dewi Sant ar gyfer trafodaeth bellach.

 

Roedd arbenigwyr y Cyngor wedi asesu'r llwybr o Ruddlan i Ysgol Dewi Sant ac wedi cadarnhau ei fod yn llwybr diogel.  Roedd aelodau a thrigolion lleol wedi anghytuno â'r asesiad.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd y trefniadau cludiant ysgol dros dro yr oedd wedi’u trefnu i fynd â phlant o Ruddlan i'r ysgol, yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 

Tudalen 20 Eitem 4 Cyflwyno Cyflymu Cymru BT yn Sir Ddinbych - cytunwyd y dylid cadw’r eitem ar y Rhaglen Waith i'r Dyfodol a'n bod yn aros am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch "mannau gwan".  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad anfon llythyr at Lywodraeth Cymru os nad ydym yn derbyn gwybodaeth am "mannau gwan".

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo Cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2016 fel cofnod cywir.

 

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 4 2015/16 pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n gofyn i’r Pwyllgor fonitro perfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, a nodi meysydd neu wasanaethau penodol a fyddai'n elwa o archwilio manwl er mwyn gwella canlyniadau i ddinasyddion.

9.45 a.m. – 10.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012-17 fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 4 2015-16.

 

Yn y fan hon, cyflwynodd yr Aelod Arweiniol y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a benodwyd yn ddiweddar, Vicki Robarts a chroesawodd hi i'w chyfarfod Pwyllgor Archwilio  cyntaf.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor fod y gwelliant neu ddirywiad mewn perfformiad o un chwarter i'r llall fel arfer yn fach iawn oherwydd natur hirdymor y Cynllun.  Rhoddodd grynodeb o'r negeseuon perfformiad allweddol ar gyfer Chwarter 4 2015-16 fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, gan ddweud:

 

·       roedd tri "canlyniad" o dan flaenoriaeth datblygu'r Economi lleol a gafodd eu dosbarthu fel "derbyniol", fodd bynnag, byddai angen gwelliant ym mherfformiad y canlyniadau hyn. Serch hynny, roedd ffactorau allanol sy'n lliniaru yn erbyn gwelliant yn y dangosyddion hyn ar hyn o bryd;

·       roedd canran y plant rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn faes arall yr oedd angen ei wella ymhellach. Roedd yn braf nodi bod y duedd tair blynedd o ran y nifer o bobl ifanc oedd wedi’u dosbarthu fel NEET yn dod i lawr;

·       tra bu gwelliant (lleihad) yn nifer yr oedolion sydd angen gofal preswyl, mae angen gwella perfformiad o ran y dangosydd perfformiad sy’n ymwneud â chanran y boblogaeth nad ydynt yn gallu byw yn annibynnol (18 oed a throsodd);

·       mae’r sefyllfa economaidd bresennol a diffyg hyder yn y farchnad dai yn golygu nad oedd datblygwyr yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai maint canolig i fawr. Yn ei dro, mae hyn yn cael effaith ar y dangosydd perfformiad (DP) sy'n ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy a gafodd ganiatâd cynllunio; a

·       gan nad yw Nwy Prydain, darparwr ynni'r Cyngor wedi gallu darparu dadansoddiad o allyriadau carbon y Cyngor, nid oedd modd i’r Cyngor adrodd yn erbyn y DP hwn. Roedd y Cyngor wedi newid darparwr ynni ers mis Ebrill, felly yn y dyfodol, byddai modd adrodd yn erbyn y DP hwn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion:

 

·       er y bu llithriad mewn perfformiad o ran nifer y dyddiau calendr a gymerwyd i ail-osod eiddo stoc tai cyngor, roedd rhesymau dilys dros hyn yn gysylltiedig â sicrhau bod yr eiddo o safon uchel wrth gael eu hail-osod (cafodd adroddiad ar berfformiad yn y maes hwn ei drefnu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2016);

·       ar y cyfan roedd yr adborth gan y gymuned fusnes o ran y gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol. Fodd bynnag, bu angen gwella perfformiad ymhellach mewn perthynas â'r flaenoriaeth hon a gwella cyfathrebu rhwng y gwahanol fudd-ddeiliaid. Roedd angen hefyd i fusnesau fod yn fwy craff, e.e. addasu eu horiau agor i gyd-fynd â gofynion a disgwyliadau'r cyhoedd;

·       byddent yn dilyn pryderon ynghylch glendid strydoedd a'r oedi wrth dorri gwair ym mynwentydd y sir o ganlyniad i broblem gyda'r contractwr. Byddent yn edrych sut y gallai cyfathrebu gydag aelodau lleol o ran oedi neu broblem gyda materion parth cyhoeddus gael eu cryfhau.

 

Mewn perthynas â'r flaenoriaeth "Moderneiddio'r Cyngor i Gyflenwi Effeithlonrwydd", gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion holi am y nifer o broblemau a dderbyniwyd gan Gynghorwyr mewn perthynas â rhyngweithio rhwng Microsoft Outlook a'u i-pads cyngor i ganfod a oedd yn fater arwyddocaol a oedd yn haeddu ateb hirdymor cyn etholiadau awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf a derbyn Cynghorwyr newydd.

 

Ar ddiwedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD CORFFORAETHOL, DIOGELWCH A LLES 2015/16 pdf eicon PDF 330 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad blynyddol ar Reoli Iechyd a Diogelwch o fewn Cyngor Sir Ddinbych.

10.15 a.m. – 10.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian Thompson Hill, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi diweddariad blynyddol ar reoli Iechyd a Diogelwch yng Nghyngor Sir Ddinbych o safbwynt y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

 

Amlinellodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol y gwahanol ffurfiau i gyflwyno ystadegau Iechyd a Diogelwch.  Roedd y fformatau amrywiol hyn a’r manylion a gynhwysir ynddynt yn hynod o ddefnyddiol i Swyddogion Iechyd a Diogelwch wrth ymgymryd â'u gwaith.  Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr:

 

·       Bod y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol yn monitro ystadegau damweiniau bob chwarter a byddai unrhyw fater o bryder a godwyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu harchwilio ac adrodd yn ôl ar hyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol;

·       Roedd ystadegau a digwyddiadau Sir Ddinbych yn debyg i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar draws y DU, ond roedd yna duedd cenedlaethol i dan-adrodd ystadegau iechyd a diogelwch;

·       yn gorfforaethol, roedd pob digwyddiad yn cael eu cofnodi a'u cynnwys yn yr adroddiadau ystadegol. Mewn ysgolion, nid yw mân ddigwyddiadau ar y cae  chwarae yn cael eu hadrodd i'r ganolfan gorfforaethol, dim ond achosion o natur fwy difrifol sy’n cael eu hadrodd;

·       roedd tueddiadau blynyddol yn y nifer o achosion a gofnodwyd yn ogystal â thueddiadau tymhorol h.y. llai o achosion yn cael eu cofnodi yn yr ysgolion yn ystod yr haf oherwydd gwyliau haf yr ysgol;

·       gwnaed pob ymdrech i liniaru risg gynyddol o ddigwyddiadau iechyd a diogelwch yn y gwasanaethau a oedd wedi bod yn destun toriadau staffio drwy sicrhau bod yr holl reolwyr yn y gwasanaethau hynny yn cael eu hyfforddi'n llawn wrth reoli materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.Ni fu unrhyw gynnydd yn nifer y digwyddiadau a gofnodwyd yn y gwasanaethau a oedd wedi bod yn destun gostyngiadau staffio;

·       yn ystod blwyddyn 2016/17, byddai'r Gwasanaeth yn edrych ar sut i wella rheolaeth iechyd a diogelwch ar gyfer unigolion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain;

·       roedd y cyngor yn dal i aros am ganlyniadau'r ymarfer monitro radon mewn eiddo sy'n eiddo i'r cyngor. Gallai canlyniadau'r gwaith monitro fod yn broblem bosibl i’r cyngor yn dibynnu ar y canlyniad, oherwydd os yw unrhyw eiddo wedi’i gofnodi ar lefel radon o 10% neu uwch, byddai angen monitro pob eiddo o fewn  radiws o 1 filltir ar gost o tua £30 fesul eiddo.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a'i dîm am eu holl waith diwyd, a:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad blynyddol ar weithgareddau a sylwadau'r tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

 

 

EGWYL RHWNG 11.05 A.M. A 11.15 A.M.

 

 

 

 

 

Yn y fan hon, cytunodd y Cadeirydd i newid trefn y busnes a nodir yn y Rhaglen.

 

 

 

8.

ADRODDIAD EICH LLAIS – CHWARTER 4 2015/16 pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi ynghlwm) i geisio barn y Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor wrth ddelio â chwynion, ac iddo nodi meysydd i'w harchwilio’n fanwl yn y dyfodol.

11.30 a.m. – 12.00 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r sylwadau da, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn dan ‘Eich Llais’ (polisi adborth cwsmeriaid y cyngor) yn ystod Chwarter 4 2015/16.

 

Eglurodd Y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cefnogi, nad oedd y targed corfforaethol o 95% wedi cael ei gyrraedd oherwydd natur gymhleth rhai o'r cwynion, cafodd manylion y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â rhai o'r cwynion eu crynhoi yn yr adroddiad.  Gosodwyd y targed yn flaenorol ar drothwy uchel gyda’r bwriad o sicrhau y gallai’r cyngor wneud pob ymdrech yn gorfforaethol i'w gyrraedd a cheisio gwella ei berfformiad a gwasanaethau i'r trigolion.  Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a Prif Reolwr:

 

·       o ddechrau'r flwyddyn adrodd 2016/17, byddai cwynion yn ymwneud â gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor a gwasanaethau a gomisiynwyd gan y Cyngor gan ddarparwr allanol, yn cael eu cofnodi ar wahân;

·       cadarnhaodd bod cwynion a chanmoliaeth ar gyfer Gwasanaethau Amgylcheddol Priffyrdd yn cael eu cofnodi fel un ffigur. Nid yw’n cael ei wahanu mewn i ffigurau adrannol, gan fod y Gwasanaeth yn un Gwasanaeth sy’n cael ei reoli gan un Pennaeth Gwasanaeth;

·       cytunodd bod y nifer o ganmoliaethau a dderbyniwyd gan y cyngor wedi bod yn arbennig o galonogol;

·       dywedodd fod y ffigurau a nodwyd yn yr adroddiad yn gysylltiedig â "cwynion", nid oedd yn cynnwys "ceisiadau am wasanaeth" a dderbyniwyd gan Gynghorwyr gan eu bod yn "geisiadau" nid "cwynion";

·       gofynnodd i'r Aelodau, wrth wneud ceisiadau am wasanaethau ar ran preswylwyr, dylent gyfeirio’r ymholiadau hynny trwy'r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a pheidio â chysylltu â swyddogion yn uniongyrchol, fel arall byddai’r wybodaeth ystadegol am niferoedd o geisiadau am wasanaeth yn anghywir;

·       dywedodd fod y cyngor wrthi’n edrych ar y dull gorau o ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid – bydd trafodaeth yn digwydd gydag Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor (UDA) ar ddulliau arfaethedig o ddarparu gwasanaeth.

 

O ran y drafodaeth sydd i ddod ar ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid, gofynnodd yr Aelodau a oedd modd cynnwys system EMMA o fewn cwmpas yr adolygiad gan eu bod yn teimlo nad oedd yn arbennig o hawdd i'w ddefnyddio.  Er bod y cysyniad y tu ôl iddo yn ardderchog, a bod Aelodau yn deall yr angen i ddiogelu gwybodaeth bersonol trigolion, roeddynt yn teimlo ei bod yn feichus ac yn cymryd llawer o amser i lywio er mwyn dilyn yr ymholiadau a godwyd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau ac ymholiadau uchod a wnaed mewn perthynas â'r ymholiad yn ymwneud â'r system EMMA, derbyn yr adroddiad a'i gynnwys.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL: 2015/16 pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried adroddiad gan y Pen Reolwr: Cymorth i Fusnesau (copi ynghlwm) i alluogi'r Aelodau i archwilio’r adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn galluogi'r Aelodau i graffu ar yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol nad oedd darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i drigolion y sir, a newid  moderneiddio’r gwasanaethau hynny, yn destun cyfyngiadau cyllidebol yn unig.  Mae gofynion y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn golygu bod angen nifer o newidiadau i'r ffordd y cafodd gwasanaethau eu cyflwyno yn y gorffennol. Yn y dyfodol byddai mwy o bwyslais ar gefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd ag y bo modd, gydag ymagwedd fwy rhagweithiol, ataliol, ymyrryd at ddarparu gwasanaeth yn hytrach na chreu diwylliant o  ddibyniaeth ar wasanaethau math gofal preswyl. 

 

Yn ei rôl yn Gyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, manylodd ar gynnwys ei hadroddiad, gan bwysleisio, er bod yr adroddiad yn ei henw, roedd y gwaith a grynhowyd oddi mewn yn ffrwyth y gwasanaeth gofal cymdeithasol cyfan.  Mynegodd ddiolch arbennig i Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Leighton Rees a ymddeolodd yn ddiweddar, ac i’r Pennaeth Addysg, Karen Evans am eu holl ymdrechion i baratoi'r ffordd ar gyfer uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau Plant a sicrhau trosglwyddiad mor esmwyth i un Gwasanaeth Plant ac Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelodau:

 

·       bod ei hadroddiad ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gyflwyno mewn fformat diwygiedig er mwyn cydymffurfio â newidiadau deddfwriaethol a darparu fframwaith newydd er mwyn mesur perfformiad gofal cymdeithasol;

·       roedd yn ofynnol i'r Cyfarwyddwr ddynodi cryfderau a gwendidau'r Gwasanaeth yn yr adroddiad, ac amlinellu cynlluniau i gryfhau'r gwendidau a nodwyd;

·       roedd y Gymraeg yn bwysig i'r Gwasanaeth a derbyniwyd fod darparu gwasanaethau trwy gyfrwng dewis iaith y defnyddwyr gwasanaeth yn egwyddor ganolog o wasanaeth gofal cymdeithasol da; ac

·       roedd ei ffocws ar wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chadw pobl yn annibynnol am gyn hired ag y bo modd. Gwella ansawdd bywydau yw’r nod yn y pendraw, osgoi'r angen am wasanaethau statudol am gyhyd ag y bo modd yn amodol ar sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaethau.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau waith yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ymdrechu i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion.  Fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon mewn perthynas â gwasanaethau tebyg ar gyfer plant, yn enwedig gan fod Twf wedi ei dynnu'n ôl.  Wrth ymateb i'r pryderon hyn, dywedodd y Cyfarwyddwr mai dim ond yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roedd Twf yn gweithredu yn y gogledd erbyn hyn.  Roedd Dechrau'n Deg yn brosiect blynyddoedd cynnar arall oedd yn cael ei fygwth gan doriadau cyllid.  Serch hynny, roedd Sir Ddinbych yn hyderus y byddai ei ddull o ran dwyn  Gwasanaethau Addysg a Phlant ynghyd yn cynorthwyo gydag ymgorffori sgiliau ieithyddol drwy gydol addysg y blynyddoedd cynnar, addysg prif ffrwd a gwasanaethau ieuenctid.

 

Wrth ymateb i bwyntiau eraill a godwyd gan Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr:

 

·       mewn perthynas â'r adolygiad o wasanaethau gofal i oedolion yn fewnol, byddai'r manylion y gofynnodd y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet amdanynt mewn perthynas â phob sefydliad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio cyn gynted ag y bo modd, unwaith y byddai’r gwaith a’r dadansoddi sydd ei angen yn cael ei gwblhau. Roedd yn debygol na fyddent yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu gyda'u gilydd, ond rhagwelir y byddai pob un yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr;

·       bod angen cydbwysedd yn yr adroddiad rhwng cyfleu negeseuon pwysig a chynnwys y lefel briodol o fanylder, h.y. gwybodaeth am nod adolygiad darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn fewnol yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.00 p.m. – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd copi o dempled ‘ffurflen cynnig Aelodau” wedi’i gynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Waith i’r Dyfodol y  Cabinet wedi’i gynnwys fel Atodiad 3, ac roedd tabl yn crynhoi datrysiadau diweddar y Pwyllgor ac yn cynghori  am gynnydd wrth eu gweithredu wedi’i atodi yn Atodiad 4.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ddrafft o’i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol fel a ganlyn:

 

14 Gorffennaf 2016

Cynnwys baw cŵn. 

Gwahodd Aelodau Arweiniol i fynychu'r cyfarfod.

 

29 Medi 2016

Gohirio Tai Fforddiadwy tan gyfarfod 29 Medi.

 

Trafodwyd cynrychiolaeth y Pwyllgor ar Grwpiau Herio Gwasanaethau ac fe awgrymwyd bod y Cynghorydd Joe Welch a'r Aelod newydd, pan y caiff ei b/phenodi, yn cael ei g/wahodd i gynrychioli'r Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

12.15 p.m. – 12.20 p.m.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorwyr Geraint Lloyd Williams a Dewi Owens eu bod wedi mynychu cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, ond nid oedd gan y Pwyllgor gworwm.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi mynychu cyfarfodydd herio gwasanaeth Priffyrdd a Chynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.  Cafwyd trafodaeth ynghylch, Taliadau Parcio, Cludiant Ysgol, Asiantaeth Cefnffyrdd a Gwastraff ac Ailgylchu. 

 

Adroddodd y Cynghorydd Dewi Owens yn ôl ar gyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion diweddar (GMSY) roeddynt wedi’i fynychu ac roedd cynrychiolwyr o ysgolion yn Llangollen wedi bod yn bresennol.  Roedd yn ymddangos bod yna bryderon ynghylch diffyg posibl o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sy'n gadael Ysgol y Gwernant a throsglwyddo i Ysgol Dinas Brân.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adborth.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.