Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 212 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2016 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 17 Mawrth
2016. Materion yn codi:- 4. Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf, (6) Cludiant Ysgolion Cynradd -Mynegodd y
Cynghorydd A .Roberts ei fod yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan y Swyddogion
o'r Adran Addysg mewn perthynas â threfniadau cludiant ysgol ar gyfer plant o
Rhuddlan sy’n mynychu Ysgol Dewi Sant, y Rhyl.
Roedd o’r farn fod staff yr Adran wedi gwneud pob ymdrech posibl i
ganfod datrysiad i'r broblem. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel
cofnod cywir. |
|
CYFLWYNO CYFLYMU CYMRU YN SIR DDINBYCH Sgwrs gyda
chynrychiolwyr BT ar y cynnydd hyd yma o ran cyflwyno Cyflym Cymru yn y Sir,
cynlluniau cyflwyno’r dyfodol, cyfyngiadau gwasanaeth neu broblemau a nodwyd yn
ystod y cyflwyno, a mentrau eraill sydd ar gael i wella cysylltiad ar gyfer
busnesau a chartrefi nad ydynt yn gallu elwa o raglen Cyflymu Cymru. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr BT (BTRs) Mr Martin Jones, BT/NGA
Rheolwr Rhaglen Cymru, a Mr Geraint Strello, Rheolwr Rhanbarthol Cymru, i'r
cyfarfod. Mynegodd y Cadeirydd bryder er y rhoddwyd
gwahoddiad i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i fynychu’r cyfarfod a chyfrannu
at y drafodaeth, roeddent wedi gwrthod y
gwahoddiad. Rhoddodd Reolwr
Rhaglen Cyflymu Cymru BT gyflwyniad ynglŷn â'r cefndir a'r cynnydd a wnaed
hyd yn hyn gyda rhaglen Cyflymu Cymru. Fe:- ·
eglurodd
fod Rhaglen Cyflymu Cymru yn ychwanegol at gyflwyno ffibr optig masnachol BT ac
yn ffurfio rhan o fuddsoddiad £2.5biliwn mewn band eang ffibr ·
Roedd
blaenoriaethau cyflwyno Cyflymu Cymru wedi’u diffinio gan Lywodraeth Cymru
(LlC); ·
pwysleisiodd
mai nod y rhaglen oedd cyflwyno rhwydwaith band eang cost effeithiol fyddai o
fudd i gymaint o bobl yng Nghymru â phosib, yn enwedig y rhai na fyddai'n elwa
o raglen ffibr optig masnachol; ·
Nododd
ei fod yn brosiect peirianneg mawr ac ar y sail hon roedd ardal ymyrryd wedi'i
nodi ar draws Cymru, yn bennaf ardaloedd gwledig, y gallai 750,000 o eiddo elwa
o fand eang ffibr optig cyflym iawn. Hyd yn hyn roedd 600,000 wedi’u galluogi,
gyda 150,000 pellach i'w galluogi; ·
Er
bod y rhaglen gyflwyno wedi’i dylunio i fod o fudd i’r economi h.y. drwy
gyflwyno Parthau Menter a Pharthau Twf Lleol, roedd hefyd wedi’i dylunio i
wella cysylltedd cymdeithasol/cymunedol a lliniaru eithrio digidol lle bo modd. O
ganlyniad roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i ardaloedd gwledig a threfol ar
yr un pryd er mwyn i gwsmeriaid busnes a defnyddwyr allu elwa; ·
darparodd
fanylion gwaith cyflwyno 'cysylltiad ffibr i’r cabinet’ a ‘chysylltiad ffibr
i’r eiddo', nifer y strwythurau yr oedd yn rhaid eu hadeiladu i ddarparu’r
gwasanaethau a nifer yr eiddo fyddai’n elwa o’r cynlluniau; ·
nododd
hyd yn hyn fod 111 o 'r 177 o strwythurau a gynlluniwyd wedi'u hadeiladu, gan
gefnogi 22,060 o'r 29,720 eiddo a nodwyd i elwa o’r rhaglen. Roedd hyn
yn cyfateb i gwblhau 74% o’r rhaglen; ·
cynghorodd
fod 66 strwythur i’w cwblhau, gan gefnogi 7,660 eiddo – rhannwyd y ffigurau hyn
fel a ganlyn, Cysylltiad Ffibr i’r Cabinet : 19 strwythur yn cefnogi 1068 eiddo a
Chysylltiad Ffibr i’r Eiddo: 47 strwythur yn cefnogi 6592 eiddo. Byddai'r strwythurau sy'n weddill yn cael
eu darparu erbyn diwedd mis Mawrth 2018, gyda Chysylltiad Ffibr i'r Eiddo yn
ffurfio rhan fwyaf gweddill y gwaith sydd i'w gyflawni; ·
nododd
y gallai 77% o Sir Ddinbych gael mynediad i Fand Eang Ffibr Optig Cyflym Iawn
os dymunent yn awr, roedd hygyrchedd ar draws Cymru ar hyn o bryd o ddeutu
85.6%. Fodd bynnag, y nod cyffredinol oedd bod oddeutu
95% o Sir Ddinbych yn gallu cael mynediad erbyn diwedd y rhaglen gyflwyno; ·
cynghorodd
er bod y ‘cabinetau gwyrdd’ wedi’u gosod yn y rhan fwyaf o ardaloedd erbyn hyn,
nid oeddent oll yn weithredol ar hyn o bryd. Roedd materion gyda chytundebau
fforddfraint oedd yn oedi’r dyddiadau gweithredu mewn ardaloedd penodol; ·
pwysleisiodd
bod BT yn gosod isadeiledd i gyflwyno Bang Eang Ffibr Optig Cyflym Iawn i
gymunedau, fodd bynnag byddai’n rhaid i ddeiliaid tai neu fusnesau unigol
gyflwyno cais am wasanaeth band eang cyflym iawn i’w heiddo, nid oedd unrhyw
eiddo’n cael ei gysylltu’n awtomatig i’r rhwydwaith; ·
cynghorodd
fod y gwaith ar y gweill mewn perthynas ag opsiynau cynllunio ar gyfer
darpariaeth arfaethedig band eang ffibr optig i'r ardaloedd na allai'r
Cysylltiad Ffibr i'r Eiddo eu cyrraedd ar hyn o bryd; ·
Nododd
fod gan BT bolisi ‘peidio dweud na’ a byddai'n ceisio gweithio gyda busnesau,
cymunedau ac unigolion i geisio diwallu eu hanghenion.
Darparwyd manylion ynglŷn â nifer y rhaglenni neu fentrau y gallai preswylwyr, na allent gael mynediad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
flaen raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn
Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn
Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor
a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithredu wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar 21 Ebrill 2016 a chytunwyd y dylid
gofyn i'r Pwyllgor Archwilio Perfformiad i gynnwys yr eitemau canlynol yn ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol:- -
Perfformiad Ail-osod Tai'r Cyngor – Gorffennaf, 2016. -
Strategaeth Gaffael a Rheolau'r Weithdrefn Gontractau
Diwygiedig – Rhagfyr 2016 Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 9 Mehefin 2016:- Cytunodd y
Pwyllgor fod yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr R.L. Feeley, H.C. Irving a J.Thompson-Hill yn cael eu
gwahodd i fynychu’r cyfarfod. Penodi Is-gadeirydd: Eglurwyd fod y Cyfansoddiad yn nodi fod yn rhaid i
ymgeiswyr ar gyfer rôl yr Is-gadeirydd ddarparu datganiad ysgrifenedig o sut y maent yn diwallu’r gofynion yn y
disgrifiad rôl, Atodiad 5, a sut y byddai'r Pwyllgor yn gweithredu. Gan
fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer 9 Mehefin 2016, sydd ar ôl
y Cyngor Blynyddol, gofynnir i'r Pwyllgor benodi Is-gadeirydd ar gyfer gweddill
tymor y Cyngor yn y cyfarfod hwnnw.
Gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y
rôl anfon eu datganiadau / CV at y Cydlynydd Archwilio erbyn 1 Mehefin 2016. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd G. Lloyd-Williams,
darparodd y Prif Weithredwr a’r Cydlynydd Archwilio eglurhad ynglŷn â’r
penderfyniad a gytunwyd gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, yn y cyfarfod
arbennig a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2016, mewn perthynas â’r eitem fusnes yn
ymwneud ag Adolygiad ac Ymgynghoriad Gwasanaethau Gofal Mewnol. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai’r argymhellion
a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Archwilio’n cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w
hystyried. PENDERFYNWYD - yn
amodol ar y newidiadau a’r cytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd A. Roberts ei fod wedi mynychu cyfarfod y Grŵp
Monitro Safonau Ysgolion lle y cynhaliwyd trafodaethau gyda chynrychiolwyr o
Ysgol Bodfari, Ysgol Gellifor ac Ysgol Bryn Clwyd, Llandyrnog. Nododd y Cynghorydd Roberts fod y
swyddogion yn monitro'r sefyllfa yn Ysgol Gellifor ac Ysgol Bryn Clwyd,
Llandyrnog gan fod yr ysgolion yn rhannu gwasanaethau Pennaeth dros dro ar hyn
o bryd. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.20pm. |