Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Geraint Lloyd-Williams a Peter Owen ynghyd â’r Aelod Cyfetholedig Gill Greenland

 

 

2.

DATGANIAD CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitemau 6, 7 ac 8 ar yr agenda –

 

Y Cynghorydd Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant

Y Cynghorydd Richard Davies – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Plas Brondyffryn

Y Cynghorydd Dewi Owens – Llywodraethwr Ysgol Glan Clwyd a St. Asaph VP Infants

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant

Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa

 

Datganodd yr aelodau cyfetholedig canlynol gysylltiad personol fel a ganlyn –

 

Debra Houghton – eitemau 7 ac 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Pendref

Dawn Marjoram – eitem 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Plas Brondyffryn

John Piper – eitemau 6 ac 8 yr agenda – Llywodraethwr Ysgol Tremeirchion ac mae ei blentyn yn defnyddio cludiant ysgol am ddim

 

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn  y cyngor 2015/16.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau am Is-gadeirydd i’r Pwyllgor am weddill blwyddyn fwrdeistrefol 2015/16. Cynigiodd y Cynghorydd Gareth Sandilands, eiliodd y Cynghorydd Meirick Davies i’r Cynghorydd Arwel Roberts fod yn Is-gadeirydd. Yn absenoldeb unrhyw enwebiadau eraill ac o gael ei roi i bleidlais -

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2015/16.

 

 

4.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 271 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2015 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2015.

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 11 – Eitem 6 y Cynllun Corfforaethol (Chwarter 2 2015/16) – Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, cadarnhaodd y swyddogion, er gwaethaf ymdrechion gorau’r cyngor, nad oeddent yn gallu darparu gwybodaeth am ollyngiadau carbon ar hyn o bryd oherwydd problem yn ymwneud â system anfon biliau’r darparwr ynni. Byddai’r mater yn cael ei ddatrys pan fyddai’r cyngor yn newid ei ddarparwr ynni ym mis Ebrill. O ran dangosyddion a bodloni targedau, rhoddwyd sicrwydd y gallai’r cyngor ddangos gostyngiad yn ei allyriadau carbon. Cytunwyd rhoi rhagor o wybodaeth i’r Cynghorydd Owens yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2015 fel gwir gofnod.

 

6.

CLUDIANT YSGOLION CYNRADD pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn darparu eglurder ar y polisi ynghylch Cludiant Ysgolion Cynradd.

9.40 a.m. - 10.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi eglurhad ar y polisi’n ymwneud â Chludiant Ysgolion Cynradd a’i ddefnydd. Gofynnwyd am yr adroddiad gan y Cynghorydd Arwel Roberts yng ngoleuni’r newidiadau diweddar i’r ddarpariaeth cludiant yn ardaloedd Rhuddlan a Diserth ac roedd yn cynnwys cyfeiriad at y sail ddeddfwriaethol i ddarparu cludiant ysgol fel y manylir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau nad oedd y polisi ar Gludiant Ysgolion Cynradd wedi newid yn ystod adolygiad diweddar Medi 2015. Fodd bynnag, yn dilyn yr adolygiad hwn, sicrhaodd y Gwasanaeth fod y cludiant Cynradd ac Uwchradd i’r ‘ysgol addas agosaf’ yn cael ei roi ar waith yn gywir. Canlyniad y defnydd cywir o’r polisi oedd y sefyllfa sydd wedi codi yn Rhuddlan. Roedd niferoedd y disgyblion oedd yn mynychu Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl o Ddiserth wedi cwympo yn sgil y disgyblion yn mynychu Ysgol y Llys yn gywir.  Felly, ailaseswyd y gwasanaeth o Ddiserth  i Dewi Sant gan fod y cerbyd yn llawer gormod o faint ar gyfer y niferoedd oedd yn teithio arno. Roedd y gwasanaeth hwn yn dod trwy Ruddlan lle’r oedd rhai rhieni’n talu consesiwn bach i ddefnyddio’r bws; fodd bynnag, wrth newid maint y cerbyd, ni fyddai teithio am gonsesiwn bellach ar gael ac felly, cynhaliwyd asesiad o lwybrau cerdded diogel i’r ysgol o Ruddlan. Cynhaliwyd asesiad diogelwch newydd o’r llwybr yn ystod mis Rhagfyr 2015. Casglodd yr asesiad, oherwydd y cynnydd yng nghyfaint y traffig sy’n defnyddio’r A547 a achoswyd yn sgil cyflwyno traffig un lôn ar draws y bont yn Rhuddlan ei hun, na allai’r llwybr gael ei ystyried yn llwybr diogel i’r ysgol ar hyn o bryd. Gyda’r bwriad o leihau unrhyw risg i’r dyfodol  yn yr ardal hon, roedd gwaith gwella’n cael ei gomisiynu i groesfan y ffordd. Yn dilyn cwblhau’r gwaith hwn, byddai diogelwch y llwybr yn cael ei ailasesu. Tan i’r gwaith gael ei wneud a’r llwybr ei ailasesu, bydd cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu i’r disgyblion sy’n cael eu heffeithio o ardal Rhuddlan.

 

Dyfynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts o Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru diweddar i’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gyfeiriodd at bwerau disgresiwn awdurdodau lleol i “ddarparu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg ni waeth beth yw’r meini prawf pellter er mwyn hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg” ac i’w “dyletswydd gyffredinol i hyrwyddo mynediad i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymarfer eu swyddogaethau dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr 2008.”

 

Cododd yr aelodau’r pwyntiau canlynol –

 

·         dylai’r Awdurdod ddefnyddio’i bwerau disgresiwn yn yr ardal hon, oherwydd, er gwaetha’r gwelliannau arfaethedig i’r groesfan wrth Fryn Cwybr, byddai’r llwybr yn parhau i fod yn beryglus yn y fan honno a hefyd ym Mryn Cwnin

·         gallai problemau tebyg ddigwydd mewn perthynas â llwybrau ysgolion cynradd eraill

·         holwyd a oedd y polisi’n gyson â chanllawiau’r   Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau

·         cwestiynon nhw a oedd y defnydd o’r polisi yn yr achos penodol hwn yn gosod polisi cyn diogelwch y plant

·         holwyd a oedd yr holl bolisïau ym maes addysg yn cyd-fynd â’i gilydd, oherwydd yn yr achos hwn, ymddengys bod y polisi cludiant ysgolion cynradd yn groes i’r Polisi Cymraeg mewn Addysg.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg -

 

·         bwysleisio nad oedd y polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer Ysgolion Cynradd wedi newid, ond roedd yn cael ei roi ar waith yn fwy trwyadl nag a wnaed yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 AC ÔL 16 pdf eicon PDF 292 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE (copi ynghlwm) yn manylu ar berfformiad wedi'i ddilysu o ganlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 gyda dadansoddiad o ganlyniadau yn erbyn gwybodaeth wedi’i feincnodi a pherfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill.

10.15 a.m.– 10.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE (Porth Conwy/Sir Ddinbych) (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion perfformiad wedi’i wirio canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16 gyda dadansoddiad o’r canlyniadau yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad wedi’u meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill. [Ystyriwyd canlyniadau arholiadau dros dro gan y pwyllgor ym mis Hydref 2015].

 

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE yr adroddiad a rhoesant esboniad manwl o’i gynnwys i aelodau. Yn ystod eu cyflwyniad, pwysleision nhw –

 

·         mewn perthynas  â Throthwy Lefel 2 (5 TGAU A*-C), roedden nhw wedi gobeithio y byddai pob ysgol yn chwarteli 1 neu 2, ond yn anffodus roedd 3 ysgol yn y 4edd chwartel oedd yn hynod siomedig

·         ystyriodd y gwaith cenedlaethol o gategoreiddio ysgolion, a ddisodlodd y fethodoleg flaenorol o roi ysgolion mewn bandiau, ystadegau presenoldeb yr ysgolion. Roedd hi’n ddymunol adrodd na chwympodd ysgolion Sir Ddinbych i’r 4ydd categori

·         bod gwefan ‘Fy Ysgol Leol’ Llywodraeth Cymru ar gael o’r dyddiad presennol a oedd yn rhoi cyfoeth o wybodaeth am berfformiad, cefnogaeth ysgol a gwybodaeth gysylltiedig arall i rieni a gwarcheidwaid

·         er bod presenoldeb Sir Ddinbych mewn ysgolion uwchradd wedi parhau’n sefydlog yn 2014 ar 93%, a raddiodd yr awdurdod lleol yn yr 21ain safle yng Nghymru o gymharu ag awdurdodau addysg leol eraill, roedd yr ardal hon yn gwella. Roedd y ffigurau presenoldeb cyfredol dros 94%

·         ar hyn o bryd, roedd bechgyn a merched y sir yn perfformio ychydig yn ia na chyfartaledd Cymru ar gyfer Lefel 2 oedd yn cynnwys Saesneg/Cymraeg neu fathemateg, wrth i’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched fod yn unol â chyfartaledd Cymru

·         mewn ymgais i osgoi amrywiaeth y llynedd rhwng y perfformiad amcanol a gwir berfformiad yr arholiadau, rhoddwyd nifer o fesurau ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol - roedd y rhain yn cynnwys ysgolion unigol yn gosod eu targedau eu hunain, aseswyd a heriwyd y targedau hyn ar hyd y flwyddyn i sicrhau eu bod yn rymus ac yn debygol o gael eu bodloni; roedd strategaeth ranbarthol ar waith ar gyfer ‘ysgolion mewn perygl’ at y diben o dargedu’r gefnogaeth angenrheidiol i’r ysgolion hynny; ffurfiodd trafodaethau ar dargedau a pherfformiad ran o’r busnes ym mhob cyfarfod Fforwm y Penaethiaid a chafodd ei gynnwys hefyd mewn trafodaethau rheolaidd rhwng cynrychiolwyr Porth GwE a’r Penaethiaid Adrannau; nodwyd ysgolion sampl  i gydweithio ar draws y rhanbarth, Cymru ac ymhellach i ffwrdd gydag adolygiad i rannu arfer gorau a byddai cynhadledd ranbarthol yn cael ei chynnal ar 12 Chwefror ar osod targedau, arfer gorau ac ati.

·         ynghlwm â’r adroddiad roedd copi o nodau ac amcanion Cynllun Busnes GwE mewn perthynas â’r canlyniadau addysgol i fyfyrwyr Sir Ddinbych – manylodd hyn ar y gwaith oedd yn cael ei wneud ac yn cael ei gyflawni yn Sir Ddinbych i sicrhau gwell perfformiad a chanlyniadau

·         y prif amcan cyffredinol ar gyfer 2015/16 oedd gwella perfformiad cynhwysol Lefel 2 o ffigur blwyddyn ddiwethaf o 56.1%, oedd yn siomedig,  i 60.8%. Pe cyflawnir hyn, byddai’r swyddogion yn hynod bles. Nododd y wybodaeth gyfredol y byddai hyn yn cael ei gyflawni

·         yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15, roedd nifer o ysgolion unigol yn Sir Ddinbych wedi cofrestru  cwymp sylweddol mewn perfformiad. Gyda’r bwriad o gefnogi gwelliant yn yr ysgolion hyn, sefydlwyd ‘bwrdd adfer’ i fonitro’u perfformiad a nodi unrhyw bryderon yn gynnar. Cyflwynwyd rhybudd swyddogol i un ysgol wella.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod i’r Pwyllgor fod Aelodau Bwrdd Gwaith GwE yn siomedig gyda pherfformiad arholiadau 2014/15 ac o ganlyniad, rhoesant gyfarwyddyd i’r swyddogion weithio ar wella  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

LLYWODRAETHWYR YSGOLION A CHYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION pdf eicon PDF 112 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn manylu ar rôl a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu ysgolion.

11.00 a.m.– 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion rôl a chyfrifoldebau’r llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu’r ysgolion, gan gynnwys y gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt  gan yr awdurdod lleol, GwE a sefydliadau eraill. Esboniodd fod elfen o gyfrifoldeb ar gyfer dyletswyddau’r llywodraethwyr ysgol yn sefyll gyda’r awdurdodau addysg lleol, a chyfrifoldeb GwE oedd yr elfennau eraill. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau –

 

·         bod yna bryderon mewn perthynas ag ymgysylltiad rhai llywodraethwyr unigol yn y rhaglen hyfforddiant a defnwyd gan yr Awdurdod. Ymddengys nad oedd rhai llywodraethwyr yn ymwybodol na allent ddiwallu’u rolau’n llawn os nad oeddent yn cymryd rhan  yn y cyrsiau hyfforddiant gorfodol

·         darparwyd amryw ddulliau hyfforddiant  ar gyfer llywodraethwyr e.e. pecynnau hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein

·         bu gan Sir Ddinbych Gymdeithas Cadeiryddion Llywodraethwyr. Mynychodd y Pennaeth Addysg gyfarfodydd y Fforwm i drafod gydag aelodau faterion cyfredol cysylltiedig ag addysg. Er gwaetha’r ffaith y cafodd y gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd Fforwm eu hymestyn i bob llywodraethwr ysgol, ni chafwyd nifer dda iawn yn y Fforwm.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg bod –

 

·         presenoldeb mewn cyfarfodydd llywodraethwyr ysgol yn broblem mewn rhai ysgolion fel ag yr oedd diffyg cyflwyno ymddiheuriadau

·         roedd lleoedd gwag ar rai cyrff llywodraethu. Gyda’r bwriad o oresgyn rhai o’r problemau a achoswyd gan leoedd gwag a maint bach rhai cyrff llywodraethu ysgolion, hysbysebodd y sir am gronfa o lywodraethwyr ac ymdrechodd i’w gosod mewn ysgolion

·         cofnodion presenoldeb wedi’u cadw ar gyfer pob sesiwn hyfforddiant ac roedd y rhain yn cael eu harchwilio gyda chofnodion y sir ar lywodraethwyr ysgolion i sicrhau bod pob un ohonynt wedi mynychu eu digwyddiadau hyfforddiant gorfodol. Yn ogystal, cysylltwyd â chyrff llywodraethu gyda chais eu bod yn gwneud archwiliad sgiliau, wedyn gallai canlyniadau’r archwiliad hwn gael ei ddefnyddio gan y Cyrff Llywodraethu i sicrhau eu bod yn gweithredu’n effeithiol

·         mewn cyfarfod Cadeiryddion Llywodraethwyr diweddar, trafodwyd y posibilrwydd o gyfethol ymgynghorwyr nad oeddent yn pleidleisio ar gyrff llywodraethu ysgolion

·         roedd gan gyrff llywodraethu ysgolion ystod eang o gyfrifoldebau’n amrywio o gynnal a chadw adeiladau, iechyd a diogelwch, diogelu a chyllidebu. Monitrodd Grŵp Monitro Safonau Ysgolion y Cyngor yn agos gyfrifoldebau’r cyrff llywodraethu mewn perthynas â’r rhain. Gwahoddwyd cadeiryddion cyrff llywodraethu ysgolion i fynychu cyfarfodydd y Grŵp pan oeddent yn monitro’u hysgol benodol. Yn ogystal, astudiodd gyfarfod rheolaidd yr awdurdod addysg lleol gyda GwE yr un meysydd

·         o’r Pasg 2016 ymlaen, byddai Llywodraethwyr Cymru’n disodli’r Cynllun Gwobr Efydd blaenorol gyda gwobr debyg arall

·         rhoddwyd gwybod i’r Cyngor os oedd clerc i gorff llywodraethu ysgol yn absennol o gyfarfod am unrhyw reswm

·         gwiriodd a heriodd yr awdurdod addysg lleol aelodaeth cyrff llywodraethu i sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn deg

·         cafwyd canllawiau cyhoeddedig i gynorthwyo llywodraethwyr mewn perthynas â’u gwaith ar gyrff llywodraethu ysgolion ac i ddeall y fframwaith moesegol yr oedd disgwyl iddynt lynu wrthynt

·         rhoddwyd gwybod i’r awdurdod addysg lleol yn awtomatig petai llywodraethwr ysgol neu glerc yn ymddiswyddo er mwyn iddynt gychwyn proses recriwtio/penodi

·         roedd gan yr awdurdod lleol bwerau ymyrryd hefyd i gymryd dros y gwaith o redeg ysgol os ystyrid bod y corff llywodraethu yn methu.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod ei fod o’r farn y dylai’r holl gynghorwyr sir fod yn aelodau o un corff llywodraethu ysgol o leiaf, yn ei farn ef, dylai hyn fod yn ofyniad gorfodol ar gyfer cynghorydd sir oherwydd byddai’n sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o faterion cysylltiedig ag addysg ar lefel bersonol a chorfforaethol.

 

Canmolodd yr aelodau’r gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor i lywodraethwyr ysgol.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

EICH LLAIS – ADRODDIAD CHWARTER 2 2015/16 pdf eicon PDF 114 KB

Ystyried adroddiad gan Brif Reolwr – Cefnogaeth Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu trosolwg o’r sylwadau da, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2015/16.

11.30 a.m. - 12 hanner dydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Reolwr - Cymorth Busnes (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a ddaeth   i   law dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2015/16.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd yr adroddiad a rhoddodd y Prif Reolwr - Cymorth Busnes fanylion ar ei gynnwys, gyda phwyslais penodol ar y graffau tuedd dadansoddi 4 blynedd. Yn ystod ei gyflwyniad, esboniodd -

 

·         fod y gwasanaeth wrthi’n gweithio ar ddiwygiadau i system Rheolwr Perthynas â Chwsmeriaid a fyddai’n hwyluso’r gwaith o lunio adroddiadau a data ystyrlon

·         bod y staff cwynion wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau dros y misoedd diwethaf gyda’r bwriad o sefydlu’r ffeithiau y tu ôl i’r ffigurau, yn enwedig mewn perthynas â’r rhesymau am golli’r targedau gosod

·         byddai nifer o gwynion drwy’r amser a fyddai’n colli’r dyddiadau targed gosod ar gyfer delio â chwynion. Fel arfer, byddai’r rhain yn gwynion cymhleth, weithiau’n amlwynebog, a fyddai oherwydd eu hunion natur yn gofyn am broses penderfyniadau manwl

·         amrywiodd perfformiad mewn perthynas â Chwynion Cam 2 yn fwy yn ystod y flwyddyn bresennol na’r blynyddoedd blaenorol

·         daeth 12 cwyn i law gan un unigolyn. Roedd y math hwn o gŵyn a chwynion yn erbyn uwch swyddogion yn ddrud iawn i’w hymchwilio oherwydd hynafedd y swyddog yr oedd ei angen i’w hymchwilio a’r cyfnod amser y byddai’n rhaid i’r swyddog hwnnw ymroi i’r broses.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cynghorodd y swyddogion ar y canlynol –

 

·         cydnabuwyd pob cwyn o’u derbyn, gan roi manylion yr amserlen ddisgwyliedig i ymateb i’r gŵyn

·         roedd data ar gael ar sail Cymru gyfan sy’n cymharu perfformiad awdurdodau lleol wrth ddelio â chwynion

·         cynigiwyd hyfforddiant i swyddogion ym mhob adran mewn perthynas â delio â chwynion a’r weithdrefn i’w dilyn

·         weithiau gallai cwynion o natur weithredol gymryd mwy o amser i’w datrys yn sgil yr angen i ymweld â safleoedd penodol ac ati

·         mewn perthynas â chwynion trallodus, gallai’r Cyngor ddefnyddio’i bolisi ar gyfer delio ag ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid, gallai’r swyddogion hefyd gysylltu â Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am gymorth gyda chwynion o’r fath

·         er bod mwyafrif y gwasanaethau wedi bod yn destun toriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd nifer y cwynion a ddaeth i law ar duedd am i lawr yn gyffredinol. Fodd bynnag, gallai effeithiau toriadau effeithlonrwydd gyniwair eu hunain mewn ffordd wahanol h.y. gostyngiad mewn perfformiad gwasanaethau

·         bydden nhw’n archwilio a gafodd yr holl ganmoliaethau a ddaeth i law gan y Penaethiaid Gwasanaeth, boed y rheiny’n uniongyrchol gan y cyhoedd neu drwy gynghorwyr, eu cofnodi ar y system

·         cadarnhau bod y dyddiadau targed ar gyfer delio â chwynion wedi’u gosod gan y Cyngor fel rhan o’i waith wrth lunio’r Cynllun Corfforaethol.

·         roedd hi’n llawer gwell gosod targedau uchel ac uchelgeisiol yn hytrach na rhai isel a fyddai’n hawdd eu bodloni

·         bydden nhw’n gofyn i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth drafod y potensial i ostwng y trothwy ar gyfer cofrestru cwyn fel un ‘trallodus’ er y gallai hynny godi’r risg o fod yn groes i safbwyntiau’r Ombwdsmon

·         byddai cwynion a ddaeth i law gan y Cyngor am bartner neu sefydliadau’n cael eu hailgyfeirio i’r sefydliad dan sylw. Serch hynny, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod  i’r aelodau y byddai am wybod am gwynion am sefydliadau partner oedd yn cyflwyno gwasanaethau ar ran y cyngor, megis GwE, Civica ac ati.

·         er bod cymhlethdodau penodol ynghlwm â delio â chwynion iechyd a gofal cymdeithasol integredig, h.y. wrth ymateb, roedd dulliau i ddelio â’r mathau hyn o gŵynion h.y. mewn ymateb, roedd angen i’r ddau barti ystyried sut roedd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 106 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.00 - 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)  yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen waith y pwyllgor a darparu diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Ymhelaethodd y Cydlynydd Craffu ar eitemau sydd ar ddod i’w hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol ac ymatebodd i gwestiynau’r aelodau wedi hynny. Adroddodd ar y trefniadau craffu arfaethedig ar gyfer GwE a’r adroddiadau cysylltiedig i’w hymgorffori yn y rhaglen waith ynghyd â chynnwys aelodau cyfetholedig yn hynny o beth. Nododd y pwyllgor hefyd fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi rhoi cyfarwyddyd i’r pwyllgor graffu cynlluniau BT i ymestyn band eang ar draws y sir yn dilyn cais gan y Prif Weithredwr sydd wedi’i threfnu ar gyfer mis Ebrill. Yn olaf, gofynnwyd am fynegiannau o ddiddordeb i gael cynrychiolydd pwyllgor i ddisodli’r Cynghorydd Colin Hughes ar y Grŵp Cydraddoldebau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cymeradwyo’r blaenraglen waith fel y manylir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a bod yr Aelodau Arweiniol perthnasol yn cael eu gwahodd i fynychu ar gyfer eu heitemau penodol hwy yn y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth, a

 

(b)       phenodi’r Cynghorwyr Arwel Roberts a Colin   Hughes yn gynrychiolwyr ac yn ddirprwy gynrychiolwyr Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldebau Corfforaethol.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau Cyngor.

12.15

 

Cofnodion:

Adroddodd cynrychiolwyr y pwyllgor ar eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Davies wybod am newidiadau i’r Gwasanaeth Cefnogi Cwsmeriaid ac Addysg o ganlyniad i’r ad-drefnu gweithredol diweddar a’r trefniadau dilynol ar gyfer cyfarfod y Grŵp Her Perfformiad   Gwasanaeth newydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth Sandilands at gyfarfod diwethaf y Grŵp Buddsoddi Strategol ac yn ystod hwnnw, cytunwyd eu hargymhellion ar gyfer prosiectau cyfalaf i’w cyflwyno i’r Cabinet.

 

Adroddodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion diwethaf oedd yn cynnwys Ysgol Bryn Hyfryd ac Ysgol Emmanuel a fu’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.

 

Crynhodd y Cynghorydd Meirick Davies y prif bwyntiau trafod a gododd yn y cyfarfod Her Perfformiad Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiadau geiriol gan aelodau a fynychodd y cyfarfodydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.10 p.m