Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni wnaeth unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad
personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw eitem a oedd i’w hystyried yn
y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym
marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 82 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2015 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd
ddydd Iau 24 Gorffennaf 2015. 4. Canlyniadau Arholiadau dros dro - Cadarnhaodd y Cydlynydd
Archwilio, fod adroddiad gwybodaeth am gadw a datblygu Chweched Dosbarth Sir
Ddinbych wedi'i ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor, fel y cytunwyd yn y cyfarfod
blaenorol. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod y
Swyddog Monitro wedi cadarnhau nad oedd y Rheoliadau perthnasol yn caniatáu i
Aelodau'r Pwyllgor sy’n cadeirio’r cyfarfodydd yn absenoldeb Cadeirydd
Pwyllgor, fod yn gymwys i gael taliad lwfans ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau
o'r fath. Dywedodd y
Cydlynydd Archwilio wrth yr aelodau fod y Cynghorydd Arwel Roberts wedi
cadeirio'r cyfarfod uchod yn absenoldeb y cadeirydd ac y dylai hyn fod wedi ei
adlewyrchu yn y cofnodion. PENDERFYNWYD – yn amodol ar y diwygiad uchod, derbyn a
chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
GWERTHUSIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL AGGCC 2014/15 PDF 97 KB Ystyried
adroddiad gan y Pen Reolwr: Cefnogi Busnes, Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol,
sy'n manylu ar y materion allweddol sy'n codi o werthusiad Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir
Ddinbych ar gyfer 2014-15, a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu ynghynt. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Prif Reolwr: Cymorth
Busnes, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr
adroddiad ac eglurodd fod y gwerthusiad yn seiliedig ar amrywiaeth eang o
dystiolaeth gan y Cyngor, rheoleiddwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Ar y cyfan roedd gwerthusiad y
Rheoleiddiwr o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn un cadarnhaol, gyda
dim ond ychydig o feysydd ar gyfer gwelliant wedi’u nodi. Y prif feysydd y byddai Arolygiaeth Gofal
a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn cysylltu yn rheolaidd gyda'r
Cyngor amdanynt yn ystod y flwyddyn bresennol gyda golwg ar sicrhau y byddent
yn cael eu cryfhau neu eu symud ymlaen oedd:- ·
Y
newidiadau i seilwaith uwch reolwyr ar gyfer cyflwyno gofal cymdeithasol a’u
heffaith ar blant ac oedolion; ·
Diogelu Oedolion Diamddiffyn (PoVA) - gwella amseroldeb ac ymgysylltiad
PoVA ac ymgymryd ag adolygiad o lefelau trothwy ·
Monitro
ansawdd yr holl ddarparwyr gofal cartref (gan gynnwys cael barn a phrofiadau
defnyddwyr gwasanaeth o’r gwasanaethau); a ·
Gwaith
partneriaeth integredig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Amlinellodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru
AGGCC i'r Pwyllgor y prif bwyntiau a amlygwyd yn adroddiad y Rheoleiddiwr.
Yn ogystal â'r meysydd a restrir
uchod a oedd angen eu cryfhau dywedodd:- ·
Mae
astudiaeth genedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar wedi dod i'r
casgliad bod angen mwy o ddefnydd o Teleofal a thechnoleg gynorthwyol ar draws
Cymru, felly byddai’r Rheoleiddwyr yn monitro'r sefyllfa ar draws y wlad; ·
O ran yr angen i wella monitro ansawdd darparwyr gofal cartref, byddai
angen i'r Cyngor roi sylw i adroddiad cenedlaethol sydd i'w gyhoeddi yng
ngwanwyn 2016 wrth ddatblygu’r agwedd hon o'i waith; ·
Roedd
y cynnydd o 38% yn nifer y bobl sy'n cael taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl
ag anableddau dysgu neu anghenion iechyd meddwl yn gymeradwy; ·
Roedd
proffilio pobl â phroblemau iechyd meddwl yn faes ar gyfer gwella ar draws
rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd angen eglurder ynghylch nodi, asesu a
chomisiynu gwasanaethau; ·
Roedd
gan Sir Ddinbych nifer eithriadol o uchel o bobl ag anableddau dysgu, yn aml ag
anghenion cymhleth, o'r tu allan i'r sir yn byw o fewn ei ffiniau. Roeddent
yn bennaf yn byw mewn llety a gynhelir gan ddarparwyr annibynnol, roedd nifer
ohonynt wedi'u sefydlu yn dilyn cau hen Ysbyty Gogledd Cymru. Gan fod
nifer o'r preswylwyr o'r tu allan i Sir Ddinbych, roedd risg nad oeddynt ar hyn
o bryd yn hysbys naill ai i'r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, ond
roedd yn debygol y daw amser pan fyddai angen iddynt gael mynediad i
wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chael eu diogelu gan
wasanaethau diogelu'r Cyngor. Felly roedd angen i'r Cyngor a'i
bartneriaid asesu pwysau posibl ar eu gwasanaethau yn y dyfodol; ·
Mae
dull atal ac ymyrryd yn fuan y Cyngor trwy amrywiol dimau sy'n gweithio o fewn
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn
atgyfeiriadau ac ail-atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth. Serch hynny, roedd angen olrhain a monitro
canlyniadau i blant a theuluoedd a gaiff eu cyfeirio at wasanaethau eraill; Gan fod y gofal seibiant anghyfrannol ar gyfer plant ag anableddau yn awr wedi dod i ben, byddai angen monitro a oedd rhai teuluoedd yn dewis peidio â derbyn gofal seibiant ar sail ariannol, a'r effaith ganlyniadol oedd yn ei gael ar y teulu cyfan; Hefyd byddai angen monitro mynediad a chanlyniadau i blant a theuluoedd nad oeddent ar hyn o bryd yn cyrraedd y trothwy i gael mynediad uniongyrchol i gymorth gan y Gwasanaethau Plant – byddai’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd (sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd gan Sir Ddinbych) yn cynorthwyo gyda'r agwedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 2015/16 PDF 83 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad Strategol, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012/17 fel ar ddiwedd chwarter 2 o
2015/16, a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu.
10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad chwarter 2 2015/16 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun
Corfforaethol:- ·
dywedodd
fod y dangosyddion a oedd yn dibynnu ar naill ai'r preswylwyr neu arolygon
busnes, yn hanesyddol o ran natur ac y byddent yn cael eu diweddaru yn y
chwarter nesaf gyda'r data diweddaraf. ·
tynnodd sylw
at y meysydd perfformiad allweddol a restrir yn yr adroddiad a dywedodd fod y
Cyngor yn bwriadu dileu dangosydd perfformiad (DP) QSCC013ai - ‘canran yr
achosion agored ar y gofrestr amddiffyn plant sydd â gweithiwr cymdeithasol
wedi ei ddyrannu iddynt’ gan nad oedd bellach yn ddangosydd statudol ac roedd
swyddogion wedi cytuno nad oedd yn DP ystyrlon ar gyfer mesur canlyniadau
bwriedig. Roeddent yn teimlo y gallai'r canlyniadau bwriedig gael eu rheoli a'u cyflawni mewn ffyrdd
gweithredol eraill yn well; ·
er
bod lefelau absenoldeb salwch corfforaethol yn parhau i wella, roedd y maes hwn
yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer gwella; ·
roedd
y gostyngiad yn nifer y staff a oedd wedi derbyn arfarniad perfformiad o leiaf
yn rhannol i'w briodoli i'r system feddalwedd cofnodi i-Trent. Roedd yr
Aelod Arweiniol a'r swyddogion yn monitro'r agwedd hon yn ofalus; ·
roedd
anallu'r Cyngor i ddarparu gwybodaeth ar gyfer allyriadau carbon ar hyn o bryd
o ganlyniad i fater sy'n ymwneud â system bilio ei ddarparwr ynni. Nid oedd y
broblem yn unigryw i Sir Ddinbych, roedd nifer fawr o awdurdodau lleol wedi'u
heffeithio ac roedd y cwmni yn gweithio ar atebion i ddatrys y broblem. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn
newid ei ddarparwr ynni o fis Ebrill 2016 a gallai’r darparwr newydd ddarparu'r
holl wybodaeth angenrheidiol maes o law; ·
nid
oedd yr un o Brosiectau Corfforaethol y Cyngor yn cofrestru statws ‘coch’. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol a’r swyddogion:- ·
roedd y
penderfyniad i newid darparwr ynni o fis Ebrill 2016 wedi ei wneud ar sail
fasnachol; ·
gallai
taflu sbwriel a baw cŵn gael eu mesur ar gyfer dibenion perfformiad o fewn
parthau 30 milltir yr awr (mya) yn unig. Fodd bynnag, roedd dulliau o olrhain
gweithgarwch o'r fath y tu allan i ardaloedd 30mya; ·
roedd
swyddogion o bob adran y Cyngor bellach yn gyfarwydd ac yn hyderus wrth
ddefnyddio'r system Verto at y diben o gofnodi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â
pherfformiad a phrosiect; ·
roeddent
yn hyderus fod y nifer gwirioneddol o arfarniadau perfformiad a gynhaliwyd ar
draws y Cyngor yn debygol o fod yn yr ystod wyth deg y cant uchel. Gyda'r bwriad
o gael asesiad cywir o berfformiad y Cyngor yn y maes hwn roedd y Prif
Weithredwr wedi gofyn i bob Pennaeth Gwasanaeth wirio eu bod wedi mewnbynnu’r
holl wybodaeth ofynnol i mewn i'r system i-Trent.
Roedd hefyd wedi gofyn i
Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd adolygu'r system er mwyn
pennu achos y broblem adrodd; ·
Roedd
y Gweithgor Trechu Tlodi wedi dechrau ei astudiaeth.
Roedd yn Grŵp
uchelgeisiol ac yn fuan byddai ganddo nifer o Ddangosyddion Perfformiad y
gellid craffu arnynt; ·
nid
oedd gan archwilio unrhyw bwerau i orfodi darparwr ynni’r Cyngor i fynychu
cyfarfod i drafod ei anallu i ddarparu gwybodaeth am allyriadau carbon. Gallai
fodd bynnag, pe bai’n dymuno, eu gwahodd i fod yn bresennol. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’n gwirio a oedd is-ddeddfau arfaethedig sy'n ymwneud â gwahardd cŵn o gaeau ysgol a meysydd chwarae eraill wedi eu mabwysiadu erioed. Atgoffwyd Aelodau a swyddogion, os oeddent yn meddwl bod unrhyw un o'r meysydd a restrir yn y Cynllun Corfforaethol yn haeddu archwilio manwl, dylent lenwi ‘ffurflen cynnig archwilio’ a'i chyflwyno i'r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL PDF 103 KB I ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor, a oedd eisoes wedi'i
dosbarthu.
10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio
Strategol a oedd yn nodi'r adolygiad ffurfiol o fis Hydref, 2015 o'r Gofrestr
Risg Gorfforaethol, wedi'i ddosbarthu gyda'r rhaglen. Roedd fersiwn wedi’i
diweddaru'n ffurfiol o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi'i gytuno yn sesiwn
Briffio’r Cabinet ym mis Hydref, a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ar 18 Tachwedd. Roedd yr
adroddiad presennol yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad roi
sylwadau ar yr adolygiad ffurfiol. Wrth gyflwyno'r adroddiad gwnaeth yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad gyfeirio'n
benodol at y diwygiadau a ganlyn i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol:- ·
DCC007
- y risg bod gwybodaeth hanfodol neu gyfrinachol yn cael ei cholli neu ei
datgelu: oherwydd cyflwyno nifer o gamau gweithredu lleihau risg, cyflwyno'r polisi
diogelwch gwybodaeth a’r pecyn e-ddysgu, teimlwyd bellach y gallai’r risg hwn
gael ei reoli ar lefel gwasanaeth. Felly, byddai'n cael ei dileu o'r Gofrestr
Risg Gorfforaethol; ·
DCC013
– roedd y geiriad ar gyfer y risg hon wedi ei newid i ‘y risg o rwymedigaethau
sylweddol yn deillio o fodelau cyflwyno allanol’ i gwmpasu’r amrywiaeth o
fodelau darparu gwasanaeth sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu harchwilio. Hyd nes
bydd y Fframwaith ar gyfer Trefniadau Llywodraethu wedi ei weithredu'n llawn ac
yn rhan annatod byddai'r sgôr risg weddilliol yn aros yr un fath; ·
DCC021
– roedd y sgôr risg weddilliol ar gyfer ‘y risg na fydd partneriaethau a
rhyngwynebau effeithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a
Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn datblygu, gan arwain at gamaliniad sylweddol
rhwng cyfeiriad strategol a gweithredol BIPBC a CSDd’ wedi ei chynyddu i
adlewyrchu'r pryderon difrifol oedd gan y Cyngor ar gyfer y maes penodol hwn,
er gwaethaf y ffaith fod nifer o fesurau rheoli wedi eu rhoi ar waith; ·
Roedd
risg newydd wedi ei chofnodi ar y gofrestr - DCC030 ‘y risg nad yw’r gallu a'r
sgiliau priodol i gynnal gwasanaethau a pherfformiad corfforaethol ar gael’. Roedd y
risg hon yn gysylltiedig â gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a oedd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd. Roedd rhai mesurau rheoli eisoes ar waith ac
roedd eraill yn cael eu cynllunio gyda golwg ar reoli’r risg hon; ac ·
Roedd
yna hefyd risg arall sy'n dod i'r amlwg, roedd hyn yn ymwneud â threfniadau
Diogelu Oedolion Diamddiffyn a godwyd gan AGGCC.
Roedd gwaith cwmpasu ar y
gweill ar hyn o bryd ar y risg hon ac felly byddai gwybodaeth fanylach amdani
a'r mesurau i’w rheoli yn ymddangos yn fersiwn nesaf y Gofrestr Risg
Gorfforaethol. Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr
Aelod Arweiniol a’r swyddogion:- ·
Nodi, o ran
risg DCC016 ‘y risg bod effaith diwygiadau lles yn fwy sylweddol na'r hyn a
ragwelwyd gan y cyngor’ ac yn enwedig y risg sy'n gysylltiedig â chau'r Uned
Hawliau Lles a throsglwyddo ei waith i'r darparwr allanol, roedd y Grŵp
Tasg a Gorffen Torri’r Brethyn wedi adolygu’r toriad hwn yn ddiweddar a daeth
i'r casgliad bod y gwasanaeth newydd a ddarperir gan y Ganolfan Cyngor ar
Bopeth (CAB) yn gweithio'n dda ac yn cyflawni yn ôl y disgwyl. Rhoddwyd
sicrwydd hefyd gan y Cydlynydd Archwilio y byddai'r Grŵp Tasg a Gorffen yn parhau i fonitro'r sefyllfa a’i fod
i fod i edrych ar y ddarpariaeth gwasanaeth yn erbyn y cytundeb lefel
gwasanaeth (CLG) unwaith eto yn ystod haf 2016. · Gofyn gan fod rhai aelodau wedi mynegi pryderon yn y cyfarfod mewn perthynas â gallu'r CAB i ddarparu'r gwasanaeth cyngor lles ar hyn o bryd oherwydd pwysau, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r aelodau hynny fanylu ar eu pryderon i uwch swyddogion yn y Cyngor er mwyn eu galluogi i ymchwilio, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
GWASANAETHAU LLYFRGELL PDF 121 KB I ystyried adroddiad gan y Pen Lyfrgellydd
/ Partner Busnes Gwasanaeth Cwsmeriaid, sy'n amlinellu perfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell yn erbyn Fframwaith Llywodraeth Cymru o Safonau Llyfrgelloedd
Cyhoeddus 2014-17, ac ystyried hyn yng nghyd-destun Fframwaith Darparu
Gwasanaeth Cwsmeriaid Wyneb yn Wyneb newydd Sir Ddinbych, a oedd eisoes wedi’i
ddosbarthu.
11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad ar
y cyd gan y Prif Lyfrgellydd a'r Partner Busnes Gwasanaethau Cwsmeriaid, a oedd
yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn Fframwaith Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Llywodraeth
Cymru 2014-17, ac yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried hyn yng nghyd-destun
Fframwaith Darparu Gwasanaethau Cwsmeriaid Wyneb yn Wyneb newydd Sir Ddinbych,
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd manylion
am ddyletswyddau statudol Awdurdodau Llyfrgelloedd yng Nghymru wedi eu
hamlinellu yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn arbennig at ofynion Deddf
Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Roedd Fframweithiau
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn galluogi Adran Amgueddfeydd, Archifau
a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, CyMAL yn flaenorol, i fesur ac asesu sut
oedd Awdurdodau yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Roedd y Pumed Fframwaith wedi ei lansio ar 1
Mai, 2014. Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau yr adroddiad ar Asesiad LlC o berfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2014/15, a oedd hefyd yn rhoi gwybod i aelodau am
y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd gyda'r bwriad o ddatblygu llyfrgelloedd yn
ganolfannau cymunedol. Rhoddodd y Prif
Lyfrgellydd fanylion am gynnwys yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn safonau LlC, tra gwnaeth y Partner Busnes
Gwasanaethau Cwsmeriaid egluro’r gwaith mewn perthynas â datblygu llyfrgelloedd
yn ganolfannau cymunedol a'r Fframwaith sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwnnw. Dywedwyd wrth yr
Aelodau:- ·
Roedd 17 allan
o'r 18 Hawl Craidd yn Fframweithiau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi
eu bodloni, roedd yr unig un heb ei gyflawni yn ymwneud ag argaeledd
Strategaeth a Gweledigaeth y Gwasanaeth. Nid oedd hyn wedi ei fodloni oherwydd bod y
Gwasanaeth, fel rhan o'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd wedi bod yn
ailstrwythuro.
Byddai’r
hawl craidd terfynol hwn yn cael ei fodloni erbyn mis Mawrth 2016 gan y
byddai'r weledigaeth ar gael yn ddwyieithog ar-lein ac wedi ei hargraffu erbyn
hynny; ·
O ran y
Dangosyddion Ansawdd sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Safonau, fel a restrir
yn yr adroddiad, roedd y Cyngor dim ond yn rhannol wedi bodloni’r Dangosyddion
Ansawdd sy’n ymwneud â mynediad at ddeunyddiau darllen cyfredol ac ni fyddai'n
ei fodloni yn y flwyddyn gyfredol chwaith. Nid oedd
y Cyngor yn poeni’n ormodol am hyn gan fod benthyciadau llyfrau ar draws y sir
yn uchel, sydd yn ei hun yn arwydd bod y Gwasanaeth yn prynu'r hyn y mae
darllenwyr eisiau ei ddarllen; ·
Roedd y
Dangosydd Ansawdd sy'n ymwneud â gwariant priodol ar ddeunyddiau darllen hefyd
dim ond wedi ei fodloni’n rhannol - roedd hyn oherwydd bod y Sir yn cymryd y
dull o roi blaenoriaeth i brynu llyfrau ar gyfer plant. Roedd y Cyngor yn gwario
yn uwch na tharged LlC ar lyfrau plant gyda'r bwriad o wella sgiliau darllen a
llythrennedd sylfaenol, ac roedd yn dilyn y dull gweithredu hwn yn ystod y
flwyddyn gyfredol.
Roedd
swyddogion wedi cwrdd â Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth i bwysleisio’r ymagwedd hon; ·
Dangosydd
Ansawdd arall a oedd wedi ei fodloni’n rhannol yn unig oedd yr un yn ymwneud â
lefelau staffio a chymwysterau - byddai hyn yn cael sylw eto yng ngoleuni'r
ailstrwythuro staffio i weld beth y gellid ei fodloni mewn perthynas â'r
Dangosydd Ansawdd; a ·
Dylai'r
Fframwaith newydd helpu'r Cyngor i gyflawni dangosyddion ansawdd sy’n ymwneud â
thudalennau gwe a nifer cwsmeriaid sy'n manteisio ar wasanaethau TGCh. Mewn ymateb i
gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion ddweud:- ·
Y gronfa ar
gyfer prynu deunyddiau darllen ar gyfer 2014/15 oedd £160K; · Roedd Fframwaith newydd yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd braidd yn rhagnodol ac yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn yn hytrach nag ar allbynnau, canlyniadau a manteision i ddinasyddion, sef yr hyn ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 107 KB I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi'n amgaeedig) yn gofyn am
adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru'r aelodau ar
faterion perthnasol.
12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r
Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi
diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer
y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion
Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o
benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithrediad
wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft
o’i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd
ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 28
Ionawr, 2016: ar gais y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio, yn dilyn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2015, cytunodd y
Pwyllgor i gynnwys eitem fusnes yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar y Polisi
Cludiant Ysgolion Cynradd. Cytunodd y Pwyllgor fod yr Aelodau Arweiniol, Cynghorwyr E.W. Williams a
H.C. Irving yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod. 14
Gorffennaf, 2016: yn dilyn derbyn cais gan y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Archwilio, a gynhyrchwyd gan eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 3
Rhagfyr, 2015, cytunodd yr Aelodau fod eitem fusnes yn cael ei chynnwys yn y
rhaglen gwaith i'r dyfodol gyda golwg ar fonitro'r Strategaeth Tai Lleol, gan
gyfeirio’n arbennig at Thema 2 oedd yn cynnwys Tai Fforddiadwy. Roedd cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol,
y Cynghorydd C. Hughes, wedi gofyn yn ddiweddar bod Aelod newydd yn cael ei
benodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor. Roedd y Cynghorydd Hughes wedi dweud ei fod yn barod i fod yn ddirprwy
gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol. Roedd copi o gylch gorchwyl y Grŵp wedi
ei gynnwys fel Atodiad 5. Gan nad oedd y Pwyllgor yn gallu enwebu cynrychiolydd cytunodd y
Cynghorydd Hughes i barhau yn y swydd, gyda'r Cynghorydd G.Lloyd-Williams fel
dirprwy, hyd nes oedd rhagor o Aelodau'r Pwyllgor yn bresennol a bod y Pwyllgor
mewn sefyllfa well i enwebu cynrychiolydd newydd. PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a chytundebau
uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor.
12.15 p.m. Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd M.Ll. Davies
ei fod wedi mynychu’r cyfarfod Herio Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,
a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2015. Dywedodd
y Cynghorydd Davies fod cynrychiolydd o Gyfoeth Cenedlaethol Cymru yn bresennol
yn y cyfarfod. Aeth ymlaen i roi crynodeb byr o'r eitemau busnes
canlynol a oedd wedi eu hystyried yn y cyfarfod:- ·
Taliadau
cynllunio ·
Adeiladau
peryglus ·
Teledu
Cylch Caeedig (TCC) ·
Materion
Parth Cyhoeddus Dywedodd y Cydlynydd Archwilio wrth Aelodau y
byddai'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn ystyried eitem fusnes sy'n
ymwneud â TCC yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, 2016. PENDERFYNWYD -
y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. Daeth y Cyfarfod i ben am 12.55pm. |