Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Geraint Lloyd Williams a Martyn Holland gysylltiad personol ag Eitem 5, 6 a 7.

 

Datganodd Aelodau Cyfetholedig Addysg, G. Greenland, D. Houghton, Dr. D. Marjoram a J. Piper ddiddordeb personol yn eitemau 5, 6 a 7.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

CANLYNIADAU ARHOLIAD DROS DRO pdf eicon PDF 97 KB

Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (Tudalennau 15-34)

Ystyried adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) ar adolygu asesiadau athrawon ac arholiadau allanol.

 

Canlyniadau Safon Uwch Chweched Dosbarth y Rhyl (Tudalennau 35-42)

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr, Coleg Llandrillo, y Rhyl (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth i Aelodau am berfformiad Chweched Dosbarth y Rhyl.

9.35 a.m. – 10.15 a.m.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams, adroddiad Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (a ddosbarthwyd yn flaenorol).  Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i roi gwybodaeth i Aelodau am berfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yn seiliedig ar y data terfynol sydd wedi ei ddilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2/3 ac arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16.

 

Cyflwynwyd Dr Alwyn Jones, Pennaeth Safonau, GwE, a Marc Berw Hughes, Uwch Ymgynghorydd Her – Hwb Conwy/Sir Ddinbych, GwE i'r Pwyllgor, gan y Pennaeth Addysg, Karen Evans.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod yr holl ganlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rhai dros dro ac y byddai canlyniadau wedi’u gwirio ar gael ym mis Tachwedd a data meincnodi ar gael ym mis Rhagfyr 2015.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol wedi dewis gyda GwE bod datblygiad mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn faes oedd yn haeddu ffocws gyda'r bwriad o wella.

 

Er gwaethaf gwelliant yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 2 (CA2) yn 2015 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae safle Sir Ddinbych wedi gostwng gan fod canlyniadau wedi gwella mewn Awdurdodau Lleol eraill.  Ar lefel CA2 daeth yn amlwg y byddai angen ymyrraeth yn gynt yn siwrnai addysg disgyblion, o bosibl yn y Cyfnod Sylfaen.  Byddai hyn yn rhoi cefnogaeth i'r disgyblion yn ystod rhan gyntaf eu haddysg ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial yn CA2. 

 

Bu gwelliant yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 (CA3) am y seithfed flwyddyn, a oedd yn galonogol iawn.

 

Roedd canlyniadau arholiadau allanol heb eu gwirio ar gyfer 2015 yn siomedig wrth i ganlyniadau lefelau 1 a 2 aros yr un fath, neu bu cwymp cyffredinol mewn perfformiad o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd canlyniadau Cyfnod Allweddol 5 (CA5) yn debyg i'r graddau a gyflawnwyd yn y flwyddyn flaenorol.

 

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Pennaeth Addysg a Swyddogion GwE:

 

·       Yn y Cyfnod Sylfaen, roedd Sir Ddinbych, yn debyg i Awdurdodau Lleol eraill, roeddynt wedi bod yn canolbwyntio ar lythrennedd, ac o ganlyniad, roedd sgiliau mathemategol wedi dioddef. Dyma oedd y rheswm dros ganolbwyntio ar ddatblygiad mathemategol yn y dyfodol ac i adnabod anghenion addysgol arbennig (AAA) yn fuan yn natblygiad disgybl er mwyn targedu'r ymyrraeth gywir a rhoi cefnogaeth iddynt.  Heb gymorth wedi'i dargedu yn gynnar, gallai'r disgyblion gael trafferth â phob pwnc Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemategol (STEM) yn y pendraw;

·       Roedd wedi bod yn siomedig nodi bod ysgolion uwchradd sy’n perfformio'n dda wedi llithro eleni yn erbyn perfformiad blaenorol, gan fod yr ysgolion hynny wedi derbyn cefnogaeth allanol dwys tan yn ddiweddar. Cafodd hyn ei briodoli i'r ffaith bod GwE, yn ystod ei gyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, wedi canolbwyntio llawer o'i adnoddau a’i waith ar y sector cynradd, er anfantais i’r sector uwchradd.  Roedd canlyniadau Ysgol Uwchradd y Rhyl yn arbennig o siomedig gan fod ei ganlyniadau eleni wedi bod ar yr un lefel â'r canlyniadau a gyrhaeddwyd pan oedd dan fesurau arbennig.  Byddai hyn yn achos brys ar gyfer ymyrraeth a gwelliant.  Roedd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi gofyn i nifer o bapurau arholiad ei disgyblion gael eu hail-farcio.  Swyddogion y Cyngor a GwE wedi cwrdd â chynrychiolwyr Estyn, y Pennaeth a'r Llywodraethwyr i drafod y canlyniadau a'r pryderon cysylltiedig.  Cytunwyd y byddai Bwrdd Adfer bychan yn cael ei sefydlu, sy'n cynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Ysgol a chynrychiolwyr Annibynnol, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r problemau (rhai ohonynt wedi cael eu nodi gan Estyn ddwy flynedd yn gynharach) ac i wella deilliannau i ddisgyblion;

·       Mewn cyfarfod diweddar gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC), GwE a chynrychiolwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

PERFFORMIAD MYFYRWYR A*-A AR LEFEL TGAU A SAFON UWCH pdf eicon PDF 185 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Addysg Arweiniol – Uwchradd ac Ôl-16 (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth i aelodau ynglŷn â pherfformiad myfyrwyr graddau A*-A Sir Ddinbych mewn arholiadau allanol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.

10.15 a.m. – 10.45 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad ar Berfformiad myfyrwyr A*-A lefel TGAU a Lefel "A" (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i roi gwybod i Aelodau am berfformiad graddau A*-A Sir Ddinbych mewn arholiadau allanol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl 16.

 

Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd eu bod wedi nodi angen i ganolbwyntio ar anghenion addysgol arbennig (AAA), prydau ysgol am ddim (PYD) a disgyblion mwy galluog a thalentog yn y dyfodol.  Dywedodd hefyd:

 

·       Mae mesurau i fynd i'r afael â'r gostyngiad mewn perfformiad yn Ysgol Brynhyfryd yn cael eu rheoli drwy Gynllun Gweithredu Estyn yr ysgol;

·       Mae angen trafodaeth mewn perthynas ag adrannau sy'n perfformio’n dda o fewn Partneriaeth Dyffryn Clwyd a sut y gellid eu defnyddio i gefnogi a chyflwyno eu pynciau i bob myfyriwr yn yr ardal i’w galluogi i  wireddu eu canlyniadau gorau posibl.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Pennaeth Addysg a Swyddogion:

 

·       Er bod rhai ysgolion wedi cyflawni canlyniadau ardderchog, byddai angen ei herio bob amser er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal a'u gwella yn barhaus. Byddai angen cefnogi ysgolion eraill er mwyn gwella eu canlyniadau cyfredol o un flwyddyn i’r llall;

·       Dylid defnyddio canlyniadau da fel meincnod ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod a dylai ysgolion ymdrechu i wella arnynt o flwyddyn i flwyddyn;

·       Roedd angen codi dyheadau’r ysgol a’r disgyblion o’r hyn y gallant ei gyflawni;

·       Roedd angen hefyd i symud y myfyrwyr mwyaf dawnus ymlaen i lefel uwch;

·       Roedd perfformiad Ysgol Uwchradd Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yng nghanlyniadau TGAU eleni yn siomedig, yn enwedig o gofio lefel y gwelliant yn y blynyddoedd blaenorol.  Roedd yn ymddangos unwaith roedd y cymorth dwys yn cael ei dynnu'n ôl, roedd perfformiad disgyblion wedi llithro’n sylweddol. Mae dadansoddiad wedi dangos bod y ddwy ysgol wedi dioddef o set gymhleth o ffactorau cyfrannol. O ganlyniad, byddai cefnogaeth yn cael ei adfer ar gyfer y ddwy ysgol mewn ymgais i atal y dirywiad a byddai Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn darparu lefel ychwanegol o her i'r ysgolion.

 

Awgrymodd Aelodau y gallai fod yn fuddiol i lywodraethwyr ysgolion roi cefnogaeth i ysgolion sydd mewn trafferthion yn y dyfodol.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              Nodi perfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a'r meincnodau allanol;

(ii)             Argymell bod mwy o gymorth a her wedi’i dargedu yn cael ei roi i ysgolion yn y sir i sicrhau bod perfformiad yn gwella; a

(iii)            Bod cydbwysedd priodol o gymorth, her ac  atebolrwydd yn cael ei gynnig i bob ysgol i anelu at welliant o un flwyddyn i’r llall.

 

 

RHAN II

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

6.

EFFEITHIOLRWYDD Y CYMORTH PRESENNOL A GYNIGIR I YSGOLION O FEWN Y SIR SYDD ANGEN MEWNBWN YCHWANEGOL

Ystyried adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth am y gefnogaeth a'r her a gyflwynir i ysgolion sydd angen mwy o gymorth ac ymyrraeth er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr.

10.55 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Pennaeth Safonau ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE, i gyflwyno eu hadroddiad ar effeithiolrwydd y gefnogaeth bresennol sy’n cael ei chynnig i ysgolion yn Sir Ddinbych a nodwyd rhai sydd angen cefnogaeth ac ymyrraeth ychwanegol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod GwE, yn ystod y cyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, yn unol â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG), wedi canolbwyntio ar y sector cynradd yn Sir Ddinbych, oherwydd ar y pryd, roedd mwy o ysgolion yn y categori oren neu goch yn y sector cynradd yn y sir. Roedd hyn wedi talu ar ei ganfed, oherwydd erbyn hyn, nid oedd unrhyw ysgol gynradd yn y categori coch, ac roedd llai yn y categori oren ar gyfer y Sir. Fodd bynnag, roedd mwy o ysgolion cynradd yn awr yn y categori melyn a dwy ysgol yn uchel yn y categori coch, ac roedd hyn yn achos pryder. O ganlyniad, byddai ffocws y Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd ar ddarparu ymyrraeth a chefnogaeth i'r sector addysg uwchradd.  Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion GwE yn-

·       Cadarnhau y rhagwelwyd y byddai un ysgol uwchradd, yn symud o'r categori coch i'r categori oren yn y dyfodol agos, wrth i weithrediad y camau yng Nghynllun Gweithredu Estyn symud ymlaen;

·       Dywedasant er gwaetha’r ffaith y byddai ffocws GwE yn y dyfodol ar y sector uwchradd, ni ddylai’r sector cynradd ddioddef, gan y byddai ymgynghorwyr her y sector cynradd yn parhau i weithio gydag ysgolion cynradd;

·       Cafodd y Pwyllgor wybod, yn rhan o gynllunio gwasanaeth GwE, roeddynt yn bwriadu adeiladu gallu a gwytnwch o fewn y sefydliad i gwrdd â’r galw yn y dyfodol, er enghraifft roeddynt wedi comisiynu athrawon a phrifathrawon o du allan i Sir Ddinbych ac athrawon/penaethiaid oedd wedi ymddeol yn ddiweddar, oedd ag enw da, i ddod mewn a herio ysgolion ar agweddau amrywiol o’u gwaith;

·       Cafodd yr aelodau wybod y byddai GwE yn llunio rhaglen gwella sgiliau gyda’r bwriad o gefnogi a datblygu prifathrawon a rheolwyr y dyfodol;

·       Cadarnhawyd, er mwyn i'r uchod fod yn llwyddiannus, roedd angen adeiladu lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth rhwng y sefydliad, athrawon a staff yr ysgol, a chyrff llywodraethu;

·       Cawsant wybod y bydd modd defnyddio meddalwedd system tracio newydd yr wythnos nesaf a fyddai'n helpu’r awdurdod lleol a GwE i adnabod unrhyw lithriadau’n ddigon buan er mwyn gallu cymryd camau ymyrraeth a lliniaru’r risg o ganlyniadau gwael a chanlyniadau anfoddhaol ar gyfer dysgwyr;

·       Wedi rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd GwE yn hunanfodlon ac ni allai fforddio gadael i’r ysgolion sydd yn y categorïau melyn a gwyrdd i lithro;

·       Er mwyn i ysgol fod yn llwyddiannus, roedd angen dod o hyd i’r cydbwysedd priodol rhwng cefnogaeth ac atebolrwydd i’r staff a’r corff llywodraethu.

·       Pwysleisiodd bod disgwyl i GwE gael ei herio'n drwyadl gan Aelod Arweiniol pob awdurdod lleol ar gyfer Addysg a LlC am elfen gwerth am arian ar ei waith.

 

O ran y lefel uchel o absenoldeb, dywedodd y Pennaeth Addysg bod y Cyngor wedi cynnal llawer o waith yn y maes hwn.  Byddai ailstrwythuro'r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg (GCA) hefyd yn cefnogi gwaith ar leihau absenoldeb.  Fodd bynnag, roedd caniatâd y rhieni yn cyd-fynd â'r mwyafrif o achosion absenoldeb hy, tynnu disgyblion allan o’r ysgol i fynd ar wyliau.  Roedd Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei Rhybudd Cosb Benodedig cyntaf (HCB) ar gyfer absenoldeb yn ddiweddar.

 

Mynegodd Aelodau eu pryderon ynghylch:

·       Nifer yr athrawon oedd yn gwneud cais am hyfforddiant prifathro a swyddi prifathrawon;

·       Nifer o athrawon da iawn a oedd yn gadael y proffesiwn addysgu i fynd i weithio i GwE a sefydliadau addysg eraill;

·       Mae'r potensial i ysgol fod yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

RHAN I – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL AR GYFER Y RHAN HON O’R CYFARFOD

Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at y Cyfansoddiad ac eglurodd nad oedd gan y Pwyllgor gworwm bellach.  Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r cyfarfod ar sail anffurfiol a bod unrhyw gamau a gymerir yn cael eu cadarnhau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Rhagfyr, 2016.

 

 

7.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 168 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2015 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 16 Gorffennaf 2015.

 

PENDERFYNWYD yn dilyn cadarnhad yn y cyfarfod nesaf, cymeradwyo a derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2015 fel cofnod cywir.

 

 

8.

“EICH LLAIS" CHWARTER 1 2015/2016 pdf eicon PDF 106 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor am faterion perfformiad ac yn gwneud argymhellion i ymdrin â'r rhain yn unol â hynny.

11.30 a.m. – 12.00 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd adroddiad "Eich Llais” Chwarter 1 2015/2016 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am unrhyw faterion perfformiad ac i wneud argymhellion i ymdrin â'r rhain yn unol â hynny.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Prif Reolwr: Swyddog Cefnogi Busnes a'r Cwynion Corfforaethol:

 

·       Efallai y bydd yn ddefnyddiol i'r Pwyllgor ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol, i gynnwys sylwebaeth fer ar y rhesymau pam fod rhai perfformiad gwasanaethau yn erbyn gweithdrefn gwyno "Eich Llais" yn cofrestru’n "goch", ac i gynnwys graff yn yr adroddiad er mwyn dangos y duedd ar hyn o bryd mewn perthynas ag ymdrin â chwynion;

·       O ran y chwe chwyn cam 2 a dderbyniwyd gan yr un cwsmer, daeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r casgliad bod rhaid i’r Cyngor ymdrin â phob cwyn a wneir gan y cwsmer hwn yn briodol.  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y gallai hyn gael goblygiadau adnoddau sylweddol i'r Cyngor, gan nodi y gallent ddefnyddio Polisi ar "Ymdrin ag ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid" os yw'n briodol.

·       Cafodd perfformiad y Cyngor wrth ymdrin â'r nifer uchel o gwynion a dderbyniwyd gan Adran y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a'r amser a gymerwyd i'w datrys ei gymhlethu gan natur y gwasanaeth a'i gwelededd i'r holl breswylwyr, ynghyd â'r amser a'r goblygiadau ariannol o ddatrys materion yn foddhaol.

 

PENDERFYNWYD

 

(i)              I dderbyn yr wybodaeth am berfformiad gwasanaethau wrth ddelio â chwynion; ac

(ii)             Dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys naratif ar y rhesymau pam roedd gwasanaethau yn cofrestru’n "goch" yn eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion a pha fesurau roeddynt yn eu cymryd mewn ymgais i ddatrys cwynion.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.00 p.m. – 12.15 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynghylch y Perfformiad Rhaglen Waith i'r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Perfformiad.

 

Cytunwyd ar gyfer y cyfarfod 10 Rhagfyr i wahodd:

 

·       Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad:

·       Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd; ac

·       Aelod Arweiniad dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Plant ac Oedolion

 

Cyfarfod 28 Ionawr 2016 - dwy eitem bellach i'w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol:

 

·       Llywodraethwyr Ysgolion a Chyrff Llywodraethu Ysgolion; ac

·       Arholiadau Allanol wedi’u Gwirio ac Asesiadau Athrawon

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

12.15 p.m. – 12.20 p.m.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

Cyn diwedd y cyfarfod, mynegodd y Prif Weithredwr ei siom mai dim ond pedwar o'r deg aelod etholedig posibl y Pwyllgor oedd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod, roedd hyn yn golygu nad oedd y Pwyllgor yn gwneud cworwm er mwyn trafod yr eitemau nad oedd yn ymwneud ag addysgu ar y rhaglen fusnes. Diolchodd aelodau Cyfetholedig Addysg am eu presenoldeb a'u cyfraniad i'r drafodaeth ac am sicrhau bod gan y Pwyllgor gworwm ar gyfer y rhan fwyaf o'r eitemau busnes. Roedd y ffaith nad oedd unrhyw aelodau etholedig o ardal y Rhyl yn bresennol  yn hynod siomedig yn ei farn o, yn enwedig o ystyried y pryderon a fynegwyd yn yr adroddiadau a gyflwynwyd ar berfformiad Ysgol Uwchradd y Rhyl mewn arholiadau allanol eleni. Dywedodd y byddai'n trafod y mater gyda'r Arweinyddion Grwpiau, gan bwysleisio pwysigrwydd presenoldeb mewn cyfarfodydd wrth i’r  Cyngor baratoi ar gyfer Arolygiad Corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn 2016.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:40pm.