Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n
rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 164 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar:- (i)
11
Mehefin 2015 (copi’n amgaeedig). (ii)
22 Mehefin 2015 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 11 Mehefin,
2015. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel
cofnod cywir. (b) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 22 Mehefin,
2015. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel
cofnod cywir. |
|
DYFODOL GOFAL CYMDEITHASOL MEWNOL I OEDOLION PDF 105 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol (copi’n
amgaeedig) a oedd yn cynnwys manylion argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen
yn dilyn ei archwiliad o ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori. 10.10
a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod. Darparodd Gadeirydd
Grŵp Tasg a Gorffen Gwasanaethau Cymdeithasol Mewnol, y Cynghorydd W.
Mullen-James, grynodeb o bwrpas a gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen, a diolch
i’r swyddogion am eu gwaith caled. Eglurodd mai cylch
gorchwyl y Grŵp oedd ymgynghori ar ddyfodol gofal cymdeithasol oedolion
mewnol a sicrhau cost effeithiolrwydd a gwerth gorau am arian yn Sir Ddinbych,
gan sicrhau bod defnyddwyr yn cadw eu hunaniaeth a’u cysylltiadau â’r gymuned. Amlinellodd Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y canlyniadau gan y
Grŵp Tasg a Gorffen yn dilyn cam cyntaf y broses ymgynghori, a oedd yn
cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o adolygiadau unigolion a’r teuluoedd sy’n
defnyddio’r gwasanaethau. Gofynnwyd i’r Pwyllgor roi sylwadau ar yr wybodaeth
a gasglwyd a'r argymhellion dilynol gan y Grŵp Tasg a Gorffen ar yr
opsiynau i'w cyflwyno i'r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol â'r holl
fudd-ddeiliaid. Roedd gwerthusiad opsiynau
wedi’i ddatblygu ar gyfer pob un o’r gwasanaethau mewnol a oedd wedi’u
hystyried gan y Pwyllgor ym mis Hydref, 2014 a’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2014,
ac roedd eu hargymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Eglurodd y Cynghorydd R.L. Feeley bod y gair “ymgynghori” wedi’i newid yn
dilyn cyngor y Sefydliad Ymgynghori i sicrhau bod y broses yn cael ei hystyried
fel ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys teuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth, cyn
cynnal ymgynghoriad llawn a phriodol. Roedd manylion ar y fethodoleg a gytunwyd gan Tîm Gweithredol Corfforaethol
ar gyfer asesu anghenion unigolion a chasglu eu barn ar ddyfodol y gwasanaeth
yn ogystal â’r cylch gorchwyl a'r amserlenni ar gyfer yr ymgynghoriad, wedi’u
darparu. Roedd yr awgrymiadau gan y Grŵp Tasg a Gorffen
yn Atodiad 1, yn dangos yn glir bod yr asesiadau a safbwyntiau unigolion a
theuluoedd wedi'u hystyried wrth gynnig atebion sy'n canolbwyntio ar
foderneiddio darpariaeth gwasanaethau drwy fodloni disgwyliadau Llywodraeth
Cymru a'r boblogaeth ehangach o ran sut mae gofal modern a chymorth yn edrych,
ar yr un pryd â chanolbwyntio adnoddau tuag at y meysydd lle mae’r galw uchaf a
chyflawni’r arbedion gofynnol hefyd. Roedd canlyniadau’r ymarfer casglu gwybodaeth wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad ynghylch Hafan Deg y Rhyl, Dolwen Dinbych, Awelon Rhuthun, Cysgod y
Gaer Corwen a Chynlluniau Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, y Rhyl a Rhuthun. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai cyfanswm yr arbedion a nodwyd yn y cynigion
yn cyfateb i £680mil dros gyfnod o 2 flynedd. Roedd manylion y broses
ymgynghori a gynhaliwyd, a'r risgiau posibl a’r camau a weithredwyd i’w
lliniaru, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Weithredwr bod argymhelliad y
Cabinet i ymgynghori’n ehangach wedi dechrau gan asesu anghenion defnyddwyr
gwasanaeth. Awgrymodd bod canfyddiadau’r ymgynghoriad ehangach
ar ddarpariaeth gofal preswyl a gofal ychwanegol, gyda chefnogaeth tystiolaeth
leol a chenedlaethol, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. Teimlwyd y
dylid cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad i’r Sefydliad Ymgynghori, a bod
manylion y rhesymau dros newid yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd. Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at y dystiolaeth lethol yn erbyn cartrefi gofal preswyl
traddodiadol, gyda’r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth yn mynegi dymuniad i
aros yn eu cartrefi eu hunain gyda chefnogaeth gofal ychwanegol. Amlinellwyd
manylion opsiynau posibl trefniadau gweithio ar y cyd gyda’r Awdurdod Iechyd. Fodd bynnag,
eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’n amhriodol peidio â datblygu’r cynigion
tra nad oedd gweithio ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd yn ddatrysiad hyfyw. Eglurodd Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol bod yr adroddiad yn adlewyrchu safbwyntiau’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth, gyda’r cynigion gwreiddiol wedi’u diwygio i gynnwys datrysiadau da iawn i ddarparu cefnogaeth. Cadarnhawyd nad oedd amserlen na dyddiadau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL PDF 102 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi’n amgaeedig)
sy'n darparu diweddariad ar reoli Iechyd a Diogelwch o fewn CSDd o safbwynt tîm
I a D Corfforaethol. 10.50
a.m. – 11.25 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, a oedd yn darparu
diweddariad ar reoli iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych fel y gwelir o safbwynt
Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer
y cyfarfod. Cyflwynodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â
diweddariad blynyddol ar reoli iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. Roedd gweithgareddau'r Tîm
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn cynnwys nifer o weithfannau gweithredol yn
Sir Ddinbych ac roedd gwelliannau o ran ymwybyddiaeth a rheoli iechyd a
diogelwch wedi’u harsylwi. Pan fydd gwendidau, bylchau neu broblemau yn cael
eu nodi mewn systemau neu broses rheoli, mae cymorth, cyfarwyddyd a
hyfforddiant angenrheidiol yn cael ei ddarparu yn unol â faint o adnoddau sydd
ar gael. Roedd adborth Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awgrymu bod rheoli
diogelwch Sir Ddinbych yn gadarnhaol. Er gwaethaf y ffaith
ein bod mewn sefyllfa gadarnhaol ar y cyfan, mae’n bwysig nad ydym yn llaesu
dwylo a rhaid i ni barhau i arwain a chefnogi’r broses o wella Iechyd a
Diogelwch. Roedd y data ar gyfer nifer y damweiniau/ digwyddiadau o fis Ebrill 2014 i
fis Mawrth 2015 yn nodi bod nifer y digwyddiadau wedi gostwng o 2013/14. Roedd
y gostyngiad yn adlewyrchu’r cyngor a ddarparwyd i’r ysgolion fel y cyfranwyr
mwyaf i’r niferoedd, ac roedd y Tîm yn ymwybodol bod posibilrwydd nad oedd pob
digwyddiad yn cael eu hadrodd. Roedd digwyddiadau Rheoliadau Adrodd am Anafiadau,
Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) hefyd wedi gostwng yn rhannol
oherwydd roedd gofynion adrodd RIDDOR wedi’u newid ar ddiwedd 2013. Darparwyd manylion un digwyddiad sylweddol, yn ymwneud â gweithiwr rheoli
gwastraff, a arweiniodd at archwiliad llawn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd
a Diogelwch gan ganfod nad oedd unrhyw fai ar y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion ynglŷn â:- ·
Monitro
systemau diogelwch yn y gweithle. ·
Cais
gan y crwner i edrych ar bromenâd Prestatyn yn dilyn cwymp a arweiniodd at
farwolaeth. Roedd yr adroddiad wedi’i gynnwys fel
Atodiad 2. ·
Depo
fflyd - Roedd Atodiad 3 yn darparu manylion am broblem barhaus gyda
Plastecowood. ·
Roedd
pryderon yn ymwneud â Chlwb Hwylio y Rhyl, Wal y Cei a’r Iard Gychod wedi’u
cynnwys yn Atodiad 4. Cofrestr Amddiffyn Staff. ·
Strwythur
Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. ·
Adrodd
am Ddamweiniau / Digwyddiadau Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Roberts at adran 4.1.3 yr adroddiad ac amlygu
pwysigrwydd sicrhau bod adeiladau ysgol yn cael eu cynnal a’u cadw i osgoi
damweiniau. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol bod yr holl ddamweiniau a adroddwyd mewn ysgolion yn cael eu
cofnodi’n electronig a’u hasesu’n unigol i benderfynu os oes angen camau
pellach. Hysbyswyd yr Aelodau bod gwybodaeth fanwl yn cael
ei chyflwyno i’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol, a bod gan bob
ysgol Bwyllgor Iechyd a Diogelwch, a oedd yn monitro materion iechyd a
diogelwch yn yr ysgol. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll Davies ynglŷn â diogelwch yn adeiladau’r
Cyngor a’r pwysigrwydd bod staff ac aelodau’r cyhoedd yn arddangos eu
bathodynnau adnabod, cytunodd y RhGD i ymchwilio i’r pryderon a godwyd
ynglŷn â diogelwch ac ymwelwyr adeiladau’r Cyngor. Ymatebodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol i gwestiwn gan y Cynghorydd G.Sandilands ac fe gadarnhaodd bod y
lefelau hyfforddiant a ddarparwyd i staff wedi aros yr un fath yn 2015 a 2014.
Eglurodd bod y cyrsiau sydd ar gael wedi’u hysbysebu ar TRENT ac ar y fewnrwyd,
gyda’r hyfforddiant a ddarparwyd yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau personol. Mewn ymateb i ymholiadau ynglŷn â hawliadau yn erbyn yr Awdurdod, eglurodd Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD CWYNION EICH LLAIS – CHWARTER 4 PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi’n amgaeedig) sy'n darparu
trosolwg o'r canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a gafodd Sir Ddinbych o dan
Bolisi Adborth Cwsmeriaid y Cyngor 'Eich llais', yn ystod Chwarter 4 2014/15. 9.35
a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol, sy’n darparu trosolwg o’r
canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn
dan bolisi adborth cwsmeriaid y cyngor,
‘Eich Llais’, yn ystod Chwarter 4 2014/15 (Atodiad 1) wedi’u dosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Cyflwynodd
Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg yr adroddiad ac egluro y byddai’r Swyddog
Cwynion Corfforaethol, Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, yn dilyn adolygiad, yn
gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol, disgwylir y byddai hyn
yn gwneud y broses yn fwy gwydn. Cadarnhaodd
y byddai Adroddiad nesaf Cwynion Eich Llais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
fel adroddiad ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriwyd at
fylchau ar draws y sefydliad yn yr adroddiadau blaenorol, ac awgrymwyd bod y
Pwyllgor yn ystyried cyflwyno dull sy’n fwy systematig a dysgu o’r
canmoliaethau, cwynion ac awgrymiadau a dderbyniwyd. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am unrhyw
faterion perfformiad ac yn gwneud argymhellion i ymdrin â'r rhain yn unol â
hynny. Roedd penawdau ar gyfer Chwarter 4 wedi'u
hymgorffori yn Atodiad 1. ·
Roedd y Cyngor wedi derbyn
78 o gwynion yn Ch4, gan ddod â’r cyfanswm blynyddol i 411, gostyngiad o 19% o
gymharu â’r flwyddyn flaenorol. ·
Roedd y Cwynion yn erbyn y Gwasanaethau
Amgylcheddol wedi gostwng o 39%; 14 yn
Ch4 o gymharu â 23 yn Ch3. ·
Bu gostyngiad yn nifer y cwynion yn erbyn yr adran
Priffyrdd ac Isadeiledd am y tro cyntaf eleni. Gostyngiad o 48%; 15 yn Ch4 o
gymharu â 29 yn Ch3. ·
Roedd cwynion cam 2 ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd wedi cynyddu o 75%; o 4 yn Ch3 i 7 yn Ch4. ·
Derbyniodd y cyngor 103 o ganmoliaethau yn ystod
Ch4. ·
Derbyniodd y cyngor 16 o awgrymiadau yn ystod Ch4. Manylion perfformiad – Ch4:- ·
Ymatebwyd i 88% (66/75) o gwynion cam 1 o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais'. Nid oedd hyn wedi diwallu’r targed corfforaethol o
95%. ·
Ymatebwyd i 67% (6/9) o gwynion cam 2 o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais'. Nid oedd hyn wedi diwallu’r targed corfforaethol o
95%. ·
Deliwyd â 92% (69/75) o’r cwynion yn llwyddiannus
yn ystod cam 1. ·
Amlygwyd pedwar maes gwasanaeth â statws COCH;
Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg, yr Amgylchedd, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
(cam 2) a’r Adran Priffyrdd ac Isadeiledd (cam 2). ·
Roedd 3 maes gwasanaeth wedi eu hamlygu’n OREN; Tai
a Datblygu Cymunedol, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Priffyrdd ac Isadeiledd. Ymatebodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg i’r cwestiynau gan yr Aelodau mewn
perthynas â phroblemau a gafwyd gyda system EMMA. Eglurwyd
bod system EMMA yn ddatrysiad dros dro wrth aros i osod system Rheoli Cyswllt
Cwsmer newydd fyddai’n cael ei gosod erbyn diwedd y flwyddyn. Cadarnhaodd
bod llyfryn Eich Llais ar gael yn ddwyieithog ac y dylid dangos a dosbarthu
fersiynau'r ddwy iaith yn gyfartal. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y ffigyrau canran yn yr adroddiad a holi os oedd y gwasanaethau oedd
yn methu â bodloni eu targedau o fewn y terfynau amser penodol yn cael eu
monitro. Cadarnhaodd Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg
bod y toriadau'n cael eu monitro’n rheolaidd a’u codi gyda’r Penaethiaid
Gwasanaeth perthnasol a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Eglurwyd
mewn achosion lle y bu methiant parhaus i ddiwallu terfynau amser gellir dwyn
yr adran dan sylw gerbron y Pwyllgor i ddarparu eglurhad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr angen i godi proffil o ran cwynion a chanmoliaethau gan arddangos proses o ddysgu, ac nid dim ond nodi’r nifer a dderbyniwyd. Cyfeiriodd at yr argymhelliad bod y Pwyllgor yn cynorthwyo gyda'r agenda trwy gwestiynu ymateb darparwyr gwasanaeth i’r sylwadau a dderbyniwyd. Awgrymwyd y gallai hyn effeithio ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 104 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio (copi’n amgaeedig) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol.
11.25 a.m. - 11.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘Ffurflen Cynnig Aelod’ wedi’i gynnwys yn
Atodiad 2. Eglurwyd na fyddai eitemau’n cael eu hychwanegu at y rhaglen gwaith
i’r dyfodol heb gyflwyno ‘ffurflen cynnig archwilio’ a bod y Pwyllgor neu'r
GCIGA yn cymeradwyo’r cynnig. Cadarnhaodd
RhGD bod cymorth ar gael i Aelodau lenwi’r ffurflen os oes angen. Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfarfod y Pwyllgor a gynhelir
ar 24 Medi 2015, a chytuno y dylai’r pum eitem fusnes a drefnwyd i’w trafod
aros ar y rhaglen. Eglurodd
y Prif Weithredwr y gallai’r eitemau busnes mewn perthynas â “Arholiadau
Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon” a “Chweched y Rhyl” gael eu trafod dan
yr un eitem fusnes. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd
H.Hilditch-Roberts ynglŷn â’r broses o asesu a chraffu adroddiadau arolwg
Estyn, gan gyfeirio’n benodol at ysgolion lle y nodwyd bod pryderon a’r
mecanweithiau sydd ar waith i ddarparu cymorth, eglurodd y Prif Weithredwr bod
yr adroddiadau’n cael eu casglu gan y Tîm Addysg, ac amlinellodd rôl a chylch
gwaith Grŵp Monitro Safonau Ysgolion lle y trafodir materion yn ymwneud ag
ysgolion penodol. Darparodd
y Cynghorydd A. Roberts amlinelliad o’r gwaith a wnaed gan y Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion a chytuno bod manylion ynglŷn ag aelodaeth a chylch
gwaith y Grŵp yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau, gan gynnwys gwybodaeth a
allai’r Cynghorwyr fynychu cyfarfodydd y Grŵp fel arsylwyr. PENDERFYNWYD - yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau’r Cyngor Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
adroddiadau. Daeth y Cyfarfod i ben am 12.25pm. |