Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganodd unrhyw Aelod gysylltiadau personol  neu ragfarnus mewn unrhyw fater a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau a ddylai, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 182 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Chwefror, 2015 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 26 Chwefror, 2015.

 

Materion yn codi:-

 

4. Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf - Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunodd y Cydlynydd Archwilio ddosbarthu copi o’r e-bost a anfonwyd i’r Aelodau gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ynghylch arddull y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, fod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

DYFODOL LLWYDDIANNUS - ADRODDIAD DONALDSON pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) ar yr Adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru gan yr Athro Graham Donaldson.  

                                                                                      9.35 a.m. 10.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg wedi’i anfon gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Ym mis Mawrth 2014 comisiynwyd yr Athro Graham Donaldson gan y Gweinidog Addysg i gynnal adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru o’r Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4. Cynhwyswyd canfyddiadau’r adolygiad yn Atodiad 1 yr adroddiad - Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gwmpas yr Adolygiad, ac yn ystyried y goblygiadau i addysg a gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag addysg yn Sir Ddinbych pe bai argymhellion yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffygion y cwricwlwm presennol ac yn gwneud cyfres o argymhellion i daclo’r rhain a gwella sut mae plant yng Nghymru’n cael eu dysgu a’u hasesu. Roedd y cynigion yn rhai radical a phellgyrhaeddol. Amlinellwyd y prif benawdau yn yr adroddiad, a rhestrwyd yr argymhellion yn Atodiad 2.

 

Eglurwyd fod yr adolygiad, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd, yn awgrymu newidiadau radical i’r ffordd y cyflwynir addysg yng Nghymru. Hwn fyddai’r newid mwyaf ers cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol, a byddai addysg yn cael ei chyflwyno drwy chwe maes dysgu a phrofiad - celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; a gwyddoniaeth a thechnoleg.

 

Byddai’r adolygiad yn cyflwyno tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Byddai pob athro’n gyfrifol am y rhain, a byddent yn rhoi sylw ar y deiliannau i’r dysgwyr, i’w paratoi a’u cymhwyso ar gyfer marchnad waith yr G21ain. Byddai’r broses asesu yn llai biwrocrataidd na’r un bresennol a byddai mwy o ryddid o ran cyflwyno’r cwricwlwm.

 

Cafwyd cadarnhad, pe bai’r weledigaeth a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu’n llwyr, neu elfennau ohoni, byddai yna heriau o safbwynt cynnal a chyflwyno’r cwricwlwm presennol wrth gynllunio a pharatoi i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yr un pryd.

 

Roedd y Pennaeth Addysg o blaid y newidiadau arfaethedig ac yn awyddus i’w gweld yn cael eu mabwysiadu’n llwyr, nid fersiwn hybrid o’r model presennol a’r model newydd. Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau:-

 

·cytunodd hi i holi pam na fu unrhyw bennaeth cynradd yn rhan o dîm cynghorwyr allanol yr Adolygiad a faint o gynghorwyr o ddiwydiant, busnes a’r sector preifat a gafodd ran mewn datblygu canlyniadau’r Adolygiad;

·pwysleisiodd fod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau yn amlinellu’r weledigaeth i’r cwricwlwm addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai manylion y cymorth ariannol a sut byddai’n cael ei weithredu yn dilyn unwaith i LlC gytuno ar y polisi terfynol;

·cadarnhaodd nad oedd bwriad i gael gwared â phrofion PISA, gan eu bod yn fesur oedd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Fodd bynnag, pe bai’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, dylai baratoi’r myfyrwyr i berfformio’n well yn y profion PISA;

·byddai cynlluniau i hyfforddi ac uwchsgilio athrawon yn barod i’r cwricwlwm newydd yn cael eu llunio unwaith y byddai’r polisi terfynol wedi’i gytuno. Byddid yn ymgynghori â’r undebau athrawon ayb. ar hyn ac ar bob agwedd arall o weithredu’r polisi yr adeg honno;

·cadarnhaodd, mewn ymateb i sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd gan yr Aelod Cyfetholedig Dr Dawn Marjoram nad oedd yn gallu bod yn bresennol, ei bod wedi siarad â swyddogion LlC ddwywaith am ysgolion arbennig a’u bod nhw wedi cadarnhau y byddai’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion arbennig yn parhau fel rhan o gynllun gweithredu adroddiad Donaldson.

 

Dywedodd y swyddogion fod angen parhau â datblygiad parhaus sgiliau’r Iaith Gymraeg  rhwng addysg ysgol a’r gweithle drwy wella’r defnydd o’r iaith yn y gymuned. Roedd angen trafodaeth genedlaethol ar ddiffiniad economaidd a manteision sgiliau ieithyddol, opsiynau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

COFRESTR RISG CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 106 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n rhoi manylion am yr adolygiad ffurfiol ar Ebrill 2015 i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. 

                                                                                10.10 a.m. 10.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd copi gan y Rheolwr Cynllunio Strategol, ar y diwygiad ffurfiol yn Ebrill 2015 i’r Gofrestr Risg Corfforaethol (CRC) ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cytunwyd ar y fersiwn a ddiweddarwyd yn ffurfiol o’r CRC mewn sesiwn Friffio’r Cabinet. Roedd yn galluogi’r Cyngor i reoli tebygrwydd ac effaith y risgiau roedd yn eu hwynebu drwy werthuso effaith unrhyw gamau lliniaru sy’n bodoli’n barod, a chofnodi terfynau amser a chyfrifoldebau dros gamau pellach a ddylai olygu rheolaeth fwy llym. Pwrpas y Gofrestr Risg Corfforaethol oedd adnabod y digwyddiadau posibl yn y dyfodol a allai gael effaith andwyol ar allu’r Cyngor i gyflawni ei amcanion, yn cynnwys ei Flaenoriaethau Corfforaethol. Roedd y rheolaethau a’r camau a nodwyd yn allweddol ar gyfer cyflawni’r Blaenoriaethau Corfforaethol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio Strategol yr adroddiad a dywedodd fod yna rai mân newidiadau i eiriad rhai o’r risgiau a restrwyd yn Atodiad 1, yn dilyn cyfarfod Briffio’r Cabinet yn gynharach yn yr wythnos. Gan ateb cwestiynau’r Aelodau, adroddodd y swyddogion fel a ganlyn:-

 

·o safbwynt risg DCC007 byddai’r 9% o’r gweithlu oedd yn dal heb wneud modiwlau e-ddysgu diogelu data yn gwneud hynny eleni. Yn gyffredinol aelodau o staff oedd y rhain nad oedd â mynediad hawdd at gyfrifiaduron, felly byddai sesiynau dosbarth ayb. yn cael eu cynnig iddynt;

·  roedd geiriad DCC013 wedi’i newid bellach a’i ehangu o sefydliadau hyd braich i gynnwys y gwasanaethau hynny yr oedd y Cyngor yn eu comisiynu gan ddarparwyr eraill neu’n eu contractio allan i eraill i’w cyflwyno ar eu rhan e.e. Civica. Byddai hyn yn fwy pwysig yn y dyfodol gan fod mwy o wasanaethau’n debygol o gael eu contractio allan.

·  roedd tebygolrwydd risg DCC017 wedi’i ostwng bellach yn dilyn y gostyngiad mewn swyddi yn yr Adran TGCh, ac ail-gynllunio gwaith yr Adran i edrych yn fwy tuag allan. Byddai cyflwyno system e-bost Microsoft Outlook yn raddol yn lle’r system Lotus Notes hefyd yn cyfrannu tuag at y gostyngiad yn y sgôr risg;

·  dylai risg DCC019 gael ei gostwng erbyn diwygiad nesaf y Gofrestr Risg oherwydd erbyn hynny dylai fod mwy o wybodaeth ar gael ar argaeledd arian cyfatebol Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru ;

·  mewn ymateb i bryderon yr Aelodau am ostwng y sgôr risgiau anodd cael gwared arnyn nhw o ‘tebygol’ i ‘posibl’, eglurodd y swyddogion fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud yn seiliedig ar yr wybodaeth fod strwythur rheoli newydd yn ei le bellach o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ardal y sir, a bod y ffaith fod Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar fwrdd BIPBC. Felly roedd y risg na allai’r Cyngor asesu a chynllunio ar gyfer effaith bosibl penderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar y Sir wedi gostwng;

·  gallai fod o fudd i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn’ fel rhan o’i waith, ystyried yr effaith ar wasanaethau yn sgil colli sgiliau oherwydd toriadau’r gyllideb.

 

Yn ddiweddar gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio edrych yn fanwl ar raglenni blaen gynllunio’r Cyngor er mwyn gallu egluro wrth eu Pwyllgorau y materion pwysig a fyddai’n dod i’r fei yn y misoedd nesaf. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, gofynnodd am i gofnodion y Grŵp hwn fod ar gael yn hawdd mewn lleoliad hygyrch i’r Aelodau Etholedig i gyd.

 

PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:-

 

(a)  yn amodol ar y sylwadau uchod, yn nodi’r pethau a ddilëwyd, a ychwanegwyd ac a ddiwygiwyd yn y Gofrestr Risg Corfforaethol; ac

(b)  yn gofyn i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn’ asesu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD GWASANAETH AWDURDOD LLEOL 2013/14 pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi manylion am Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Awdurdod Lleol 2013/2014. 

 

                                                                                     10.55 a.m. 11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y  Swyddog Cynllunio Strategol, a oedd yn gofyn am ystyried yr adroddiad cenedlaethol ar berfformiad Awdurdodau Lleol (ALlau) a pherfformiad Sir Ddinbych o’i gymharu ag ALlau eraill yn 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Eglurwyd fod Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Awdurdod Lleol 2013/2014, Atodiad 1, yn gyhoeddiad blynyddol a oedd yn cyfuno perfformiad gwasanaethau allweddol ALlau yng Nghymru. Roedd yn tynnu ar ffynonellau gwybodaeth a oedd yn bodoli’n barod i dynnu sylw ac ychwanegu cyd-destun at yr amrywiad perfformiad drwy Gymru ac yn amlinellu’r hyn y gallai’r dinasyddion ei ddisgwyl gan brif wasanaethau ALl. Y meysydd gwasanaeth yn yr adroddiad oedd Gofal Cymdeithasol, Addysg, Hamdden a Diwylliant, Tai, Amgylchedd, Trafnidiaeth, Diogelwch Cymunedol a Lles.

 

Amlinellwyd proses fonitro’r Cyngor, a darparwyd Adroddiad Perfformiad Blynyddol i werthuso cynnydd. Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ymdrin â holl Berfformiad Gwasanaeth ALl yn 2013/2014. Roedd yn defnyddio Dangosyddion Strategol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu a ffynonellau ystadegol swyddogol eraill fel ag yr awgrymwyd gan arbenigwyr polisi ac ystadegau. Roedd sefyllfa gymharol Sir Ddinbych o ran y Dangosyddion Strategol Cenedlaethol yn 2013/14 i’w gweld yn Atodiad 2.

 

Yn 2013/14 cadwodd Sir Ddinbych ei safle fel y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru am bedwaredd flynedd, a rhoddwyd crynodeb o’r dangosyddion yn yr adroddiad, ynghyd â’r sefyllfa bresennol ar ddiwedd Chwarter 3.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y gallent ddefnyddio’r ddogfen hanesyddol fel sail i’w gwaith monitro perfformiad yn y dyfodol, a gofynnwyd am eu barn ar ba mor ddefnyddiol oedd Atodiad 2 fel offeryn i grynhoi siwrne berfformiad y Cyngor yn erbyn gwahanol ddangosyddion perfformiad (DP).

 

Credai’r Aelodau fod hwn yn ddarlun hawdd ei ddilyn ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau:-

 

·  cadarnhaodd y swyddogion fod y Cyngor yn ei fesur ei hun yn erbyn Awdurdodau eraill y tu hwnt i Gymru h.y. absenoldeb salwch a chyrhaeddiad addysgol. Serch hynny, roedd mwyafrif y DP yn cael eu cymharu ar sail Cymru;

·  roedd canran yr unedau tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych yn isel o’i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill. Ond, roedd mesurau yn eu lle mewn ymgais i wella perfformiad yr Awdurdod;

·  pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd casglu a chofnodi’r dangosyddion cywir h.y. roedd dangosydd cenedlaethol gorfodol ar ‘gyfradd y bobl hŷn oedd yn cael cymorth yn y gymuned yn ôl 1000 y pen o’r boblogaeth’ – roedd perfformiad Sir Ddinbych yn wan iawn yn erbyn y DP arbennig hwn oherwydd ei fod yn dilyn gweledigaeth a pholisi LlC ei hun, sef cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl a pheidio â bod yn rhy ddibynnol ar gymorth gofal cymdeithasol

 

Wedi ystyried yr adroddiad cenedlaethol ar berfformiad Awdurdodau Lleol, a pherfformiad Sir Ddinbych o’i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yn 2013/14:-

 

PENDERFYNWYD

 

(a)  derbyn yr adroddiad a’i ddefnyddio fel sail wrth ystyried adroddiadau perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn y dyfodol; a

(b) bod yr Offeryn Cyfeiriad Teithio yn Atodiad 2 yn cael ei gyflenwi yn y dyfodol i fynd gyda phob adroddiad ar berfformiad y Cynllun Corfforaethol.

 

 

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 

                                                                               11.30 a.m. 11.40 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Waith, ac a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod. 

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei Raglen Waith ddrafft ar gyfer y cyfarfodydd nesaf, Atodiad 1, a gwnaed y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:-

 

11 Mehefin, 2015:- Cytunodd yr Aelodau y dylid ail-drefnu’r eitem fusnes, Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i 16 Gorffennaf, 2015, a gwahodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd J. Thompson-Hill, i fod yn bresennol.

 

Cytunwyd y dylid gwahodd yr Aelodau Arweiniol perthnasol i fod yn bresennol ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar 11 Mehefin:-

 

-                  Cynghorydd R.L. Feeley ar gyfer Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15.

-                  Cynghorydd Julian Thompson-Hill i’r Cynllun Corfforaethol (Ch4) 2014/15.

 

 

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet wedi’i chynnwys fel Atodiad 3. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys yr eitem fusnes ar Ddyfodol Gofal Mewnol i’w ystyried gan y Cabinet ar 28 Gorffennaf, 2015, yn rhaglen waith y Pwyllgor Archwilio Perfformiad i’w ystyried ar 16 Gorffennaf, 2015. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cyfarfod Cabinet a restrwyd ar 26 Mai, 2015 wedi’i ad-drefnu ar gyfer prynhawn 2 Mehefin, 2015.  

 

Roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd o ran eu gweithredu, wedi’i atodi fel Atodiad 4. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Perfformiad wedi cyfarfod ar 2 Ebrill, 2015 ac ni chyfeiriwyd unrhyw eitemau i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands, eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod y Pennaeth Gwasanaeth wedi dweud y byddai diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi ar fater CCTV fel rhan o’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar ddyfodol y gwasanaeth. Byddai adroddiad ar yr opsiynau’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 25 Mehefin, 2015.

 

Eglurodd y Cynghorydd A. Roberts y byddai’n cysylltu â Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd ynghylch pryderon am y ddarpariaeth rheoli plâu. Gofynnodd y Cydlynydd i’r Cynghorydd Roberts lenwi ac anfon ffurflen cynnig gan Aelod os oedd yn dymuno i’r Pwyllgor ystyried y mater, yn dilyn ei drafodaethau â’r swyddog dan sylw. Eglurodd y Prif Weithredwr, yn dilyn ystyried cynigion y gyllideb, ac o ganlyniad i’r cyfyngiadau ariannol, nad oedd y Cyngor bellach yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu. Fodd bynnag, mewn ymgais i helpu cwsmeriaid, roedd un o’r rhifau ffôn a roddwyd yn cyfeirio cwsmeriaid i’r Ganolfan Rheoli Plâu Genedlaethol a oedd wedi’i lleoli yn Birmingham. Cadarnhaodd hefyd nad oedd darpariaeth yn y gyllideb i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â gwylanod.

 

Cytunodd yr Aelodau gynnwys eitem fusnes yn gysylltiedig ag adroddiad Donaldson yn rhaglen waith y Pwyllgor ar ddyddiad i’w gadarnhau.

 

Eglurodd y Cydlynydd, gan mai cyfarfod nesaf y Pwyllgor fyddai’r cyfarfod cyntaf ar ôl Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, y byddai angen i’r Pwyllgor benodi Is-Gadeirydd i’r flwyddyn sy’n dod. Roedd disgrifiad y swydd i Gadeirydd Archwilio a’r Is-Gadeirydd wedi’u cynnwys yn y Nodiadau Briffio ar gyfer y cyfarfod. Eglurodd y Cydlynydd y byddai’n gofyn am CV gan Aelodau a oedd yn dymuno anfon enwebiadau i’r swyddi, ac y byddai angen y rhain erbyn 2 Mehefin, 2015. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, fod y Rhaglen Waith fel ag y’i gosodwyd allan yn Atodiad 1, yn cael ei chymeradwyo.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau Cyngor 

                                                                                    11.40 a.m. 11.50 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd A. Roberts wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion ar 24 Chwefror, 2015. Cyfeiriodd at dair ysgol a drafodwyd, a thynnodd sylw at y pryderon a oedd yn gysylltiedig ag un o’r ysgolion dan sylw.

 

Roedd y Cynghorydd M.Ll. Davies wedi mynychu’r cyfarfod Herio Gwasanaethau Tai a’r Gymuned ar 4 Mawrth, 2015. Rhoddodd amlinelliad byr o’r trafodaethau ac eglurodd fod y materion a ystyriwyd yn cynnwys y Strategaeth Dai a Thai Fforddiadwy. Teimlai fod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol ac adeiladol iawn.

 

Nid oedd y Cynghorydd R.J. Davies wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod Herio Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg. Fodd bynnag, roedd wedi cael nodiadau’r cyfarfod a chytunodd y Cydlynydd eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD – derbyn yr adroddiadau a nodi’r cynnwys.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45 p.m.