Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw
Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 180 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2015 (copi
yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 15 Ionawr
2015. Materion
yn codi:- 4. Cofnodion
y cyfarfod diwethaf – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands,
cadarnhawyd y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cyflwyno adroddiad ar
strategaeth ymadael / darpariaeth amgen ar gyfer TCC a Gwasanaeth Tu Hwnt i
Oriau Arferol i’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ddechrau’r haf, 2015. 5. Arholiadau
allanol wedi’u gwirio ac Asesiadau Athrawon – Cyflwynodd Dr D Marjoram gais bod
y pryderon a godwyd gan aelodau cyfetholedig addysg i archwilio Cytundeb Lefel
Gwasanaeth Sir Ddinbych gyda GwE yn effeithiol, a godwyd yn y cyfarfod
blaenorol, yn cael eu hadlewyrchu yn y Cofnodion. Cynigodd y Pennaeth Addysg eu bod yn trefnu cyfarfod gyda’r Aelodau
Cyfetholedig i drafod materion yn ymwneud ag addysg yn y dyfodol agos. Cynghorodd
hefyd nad yw’r llythyr y cyfeiriwyd ato ym mhwynt (ii) y penderfyniad wedi’i
anfon at Bennaeth Addysg Llywodraeth
Cymru oherwydd datblygiadau ym myd addysg, gan gynnwys cyhoeddiad diweddar
adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol
Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a Threfniadau
Asesu yng Nghymru. Efallai y byddai’n fwy priodol ymgorffori pwyntiau
i adrodd ar lwyddiannau a chyrhaeddiad addysgol disgyblion mewn ysgolion
arbennig yn ymateb y Cyngor a GwE i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar adroddiad
yr Athro Donaldson. Awgrymodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg efallai y byddai’n fuddiol anfon
llythyr at holl lywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol i geisio eu safbwyntiau
ar effeithiolrwydd cefnogaeth GwE i’w hysgolion a gofyn iddynt roi gwybod i
swyddogion yr Adran Addysg pe bai unrhyw ddiffygion yn y gefnogaeth sy’n cael
ei darparu. Roedd LlC yn ymgynghori ar newidiadau i’r system asesiadau athrawon ar hyn
o bryd gyda’r diben o wella ansawdd a dibynadwyedd y data sy’n cael ei
gynhyrchu. Cytunwyd hefyd y dylid gwahodd GwE i
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor ym mis Medi 2015 ac Ionawr 2016 i drafod effaith
eu gwaith gyda’r ysgolion yn Sir Ddinbych, cynaladwyedd gwelliant parhaus
pellach, asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau a ragwelir ac wedi’u
gwirio. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ARGYMHELLIAD 2 ESTYN PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi yn amgaeedig) sy'n gofyn
i’r Pwyllgor benderfynu a yw argymhellion Estyn bellach wedi’u bodloni ac a oes
angen unrhyw waith monitro pellach ar y cynllun gweithredu. 9.35 a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (PA), a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed
mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg 2012, eisoes
wedi'i ddosbarthu gyda phapurau'r cyfarfod. Dangosodd prif ganfyddiadau Adroddiad Estyn bod yr
Awdurdod Lleol wedi derbyn safon ‘Da’ ar gyfer tri chwestiwn allweddol, ag
eithrio ‘Arweinyddiaeth’, lle’r oedd wedi derbyn safon ‘Rhagorol’. Er mwyn gwella ymhellach roedd Estyn wedi llunio
argymhellion ac roedd manylion y rhain yn yr adroddiad. Cynghorodd y Swyddogion bod fframwaith a strwythur
ar waith i geisio mynd i'r afael ag argymhelliad 2. Roedd gwaith helaeth wedi’i
gyflawni er mwyn ceisio mapio’r grwpiau a’r gweithgareddau sydd ar gael i blant
a phobl ifanc yn y Sir. Byddai gwaith yn parhau tan o leiaf diwedd y
flwyddyn galendr gyfredol i lenwi’r gronfa ddata â gwybodaeth ynglŷn â’r
holl grwpiau sy’n hysbys i'r Cyngor, a rhagwelir bod tua 1000 o grwpiau. Pwysleisiwyd
bod yr ymarfer yn fwy cymhleth a chadarn na dim ond rhestru grwpiau sy’n
hysbys, roedd hefyd yn cynnwys cyfarfod y grwpiau er mwyn deall eu hanghenion
yn well a sicrhau eu bod yn ymwybodol o faterion megis eu cyfrifoldebau
diogelu. Pwysleisiwyd bod gwaith yn parhau o ran sicrhau
cronfa ddata gyson o glybiau ar gyfer pob maes e.e. clybiau chwaraeon ac ati.
Fodd bynnag, nid oedd y clybiau na’r sefydliadau dan unrhyw rwymedigaeth i
ymgysylltu â’r broses. Ni fyddai arolwg ar-lein neu dros y ffôn o’r
grwpiau yn briodol ar gyfer yr ymarfer hwn, gan ei bod yn broses o gyfraniad
dwy ffordd oedd o fudd i’r naill a’r llall. O ran cynnwys
sefydliadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau yn yr ymarfer,
cynghorodd y swyddogion bod y rhain yn cael eu cynnwys naill ai fel grwpiau a
ddynodwyd fel rhai ar gyfer pobl anabl neu fel grwpiau oedd yn croesawu aelodau
anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Roedd Cynllun Lles Sir Ddinbych ‘Cefnogi
Annibyniaeth a Gwydnwch’ yn ategu at weledigaeth y Sir o sicrhau bod
gwasanaethau a gweithgareddau ar gael ac yn hygyrch i bawb ledled y sir. Er bod gan rai
sefydliadau eraill gronfeydd data helaeth ynglŷn â’r gwasanaethau yn y gymuned
roeddent yn amharod rhannu’r wybodaeth gyda’r Cyngor am resymau Diogelu Data. Mewn ymateb i awgrym gan yr aelodau, aeth y
swyddogion ati i drafod gyda’r gweithwyr ieuenctid a fyddai’n ymarferol cynnig
cyhoeddusrwydd i glybiau a chymdeithasau yn gyfnewid am eu cydweithrediad
gyda’r broses o fapio'r gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned. Awgrymodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg efallai y
byddai’n fuddiol cyflwyno adroddiad tebyg i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor i
Grwpiau Ardal yr Aelodau (GAA) gan y byddent yn eu rhinwedd fel llygaid a
chlustiau’r cymunedau, yn gwybod am unrhyw grwpiau eraill nad ydynt ar y gronfa
ddata neu wedi derbyn gohebiaeth gan y swyddogion. Roedd yr Aelodau a Phennaeth Addysg yn gytûn bod aneglurder argymhelliad Estyn yn ei gwneud yn anodd iawn i’r Cyngor wybod beth yn union yr oeddent ei angen er mwyn bod yn fodlon eu bod wedi cydymffurfio’n llawn â’r argymhelliad. Serch hynny, roedd y swyddogion yn fodlon fod ganddynt broses effeithiol, eglur ar waith i ganfod y rhan fwyaf o wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y Sir. Roeddent yn fodlon y gallai’r Awdurdod ddangos eu bod wedi bodloni Argymhelliad 2 y tro nesaf y bydd arolwg gan Estyn. Byddai mesur effaith y gwasanaethau hyn ar yr Awdurdod a’i bartneriaid a mesur gwerth am arian i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc dros gyfnod hir o amser yn llawer anoddach. Felly awgrymwyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
STRATEGAETH TYMOR HIR AR GYFER YR YSTÂD AMAETHYDDOL PDF 89 KB Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Prisio ac Ystadau (copi yn amgaeedig) sy'n
gofyn i’r Pwyllgor archwilio a rhoi sylwadau ar y strategaeth arfaethedig ar
gyfer Ystâd Amaethyddol y Cyngor yn y dyfodol cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w
gymeradwyo. 10.10 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Rheolwr Prisio ac Ystadau, a oedd yn darparu gwybodaeth ar y
strategaeth arfaethedig ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol o 2015 ymlaen, wedi’i
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau’r adroddiad a
strategaeth ddrafft hir dymor ar gyfer Ystâd Amaethyddol y Sir. Eglurodd bod Gweithgor yr Ystâd
Amaethyddol, oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan bob Grŵp Ardal yr Aelodau
(GAA), wedi llunio strategaeth ar gyfer dyfodol yr ystâd fyddai’n diddymu
atebolrwydd rheoli a chynnal a chadw trwm ac yn sicrhau gwell effeithlonrwydd o
adnoddau’r Cyngor wrth liniaru effaith y toriadau mewn meysydd
corfforaethol. Eglurodd, pe bai’r strategaeth yn
cael ei chymeradwyo a’i mabwysiadu, byddai'r daliadau amaethyddol yn cael eu
gwaredu dan reolaeth, gan roi’r cynnig cyntaf i’r tenantiaid cyfredol i brynu
eu daliad cyfan neu ran ohono (lle bo’n briodol). Pe baent yn
dewis prynu rhan ohono, byddai’n gweddill ohono'n cael ei rentu iddynt am
gyfnod penodol o amser dan gytundeb tenantiaeth byr dymor gyda dealltwriaeth y
byddai disgwyl iddynt brynu gweddill y tir ar ddiwedd y denantiaeth byr dymor,
neu ei ildio. Byddai unrhyw ddaliadau neu dir sy’n cael ei
ildio'n cael ei werthu ar y farchnad agored i wireddu derbyniadau cyfalaf. Byddai’r holl warediadau
fel daliadau amaethyddol, gyda’r cyfamodau priodol a chytundebau gorswm yn rhan
o’r gwerthiant. Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau cadarnhaodd y Swyddogion y gellir
cymhwyso cytundebau gorswm ar werthiant daliadau amaethyddol a thir am gyfnodau
penodol o amser. Byddai unrhyw ddaliadau fydd yn wag yn cael eu
gwaredu ar y farchnad agored dan bwerau a ddirprwywyd i swyddogion / Aelod
Arweiniol / Cabinet gan ddibynnu ar werth amcangyfrifedig y daliad. Cyfeiriodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau at y trafodaethau sydd ar y gweill gyda
choleg lleol o ran hwyluso proses i alluogi unigolion newydd i’r diwydiant
dderbyn profiad ymarferol trwy gymorth a roddir gan y Cyngor. Roedd y
trafodaethau hyn yn y cam trafod ar hyn o bryd, ni wnaed unrhyw gytundeb hyd
yma. Awgrymodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg y byddai’n
fuddiol cysylltu â sefydliadau eraill lle y rhoddir cyfle i unigolion sy’n
newydd i’r diwydiant i redeg fferm am flwyddyn i gael profiad ymarferol a
phrofiad rheoli gwerthfawr. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r
Swyddogion: ·Y gellir cymhwyso
trefniadau cyfamod a gorswm am gyfnod penodol o amser; ·Er mwyn codi
‘rhenti marchnad’ ar anheddau, adeiladau fferm, ffiniau a thir ac ati, roedd yn
rhaid iddynt fod o ‘ansawdd y farchnad'; ·Roedd y mwyafrif o
ddaliadau sy’n eiddo i’r Cyngor y tu allan i safleoedd CDLl dynodedig ac felly
ni allant elwa o werth tir y CDLl; ·Roedd llawer o’r
buddsoddiadau diweddar yn yr Ystâd wedi’u hariannu naill ai trwy gyllid grant
Ardal sy’n Agored i Niwed gan Nitradau neu gan y tenantiaid eu hunain; ·roedd yr ail-osodiad
newydd diwethaf ar yr ystâd tua 10 mlynedd yn ôl; ·Gallai ystadau preifat
elwa o fanteision treth ar gyfer ail-fuddsoddi, nid oedd y rhain ar gael ar
gyfer ystadau cyhoeddus; ·Roedd y Cyngor wedi
ysgrifennu at denantiaid yn amlinellu cynnwys y strategaeth arfaethedig a hyd
yn hyn roedd 13 tenant wedi mynegi fod ganddynt ddiddordeb mewn prynu eu
daliadau neu ran o’u daliadau; ·Rhagwelir y byddai’r
Strategaeth yn un hirdymor oherwydd telerau’r tenantiaethau presennol, roedd
rhai yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ond byddai’n cymryd tua 10 i 15 mlynedd
arall i ddarparu'r strategaeth gyfan gan fod gan rai tenantiaid denantiaethau
hirach; ·Ni ellir aildrafod hyd
tenantiaethau heb resymau cyfreithiol dilys; ·Byddai’r holl
ymrwymiadau dan Strategaeth Ystâd Amaethyddol 2010 yn cael eu hanrhydeddu. Cyfeiriodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD CWYNION EICH LLAIS CHWARTER 3 2014/15 PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi yn amgaeedig) sy'n ceisio
arsylwadau'r Pwyllgor ar berfformiad gwasanaethau wrth ddelio â chwynion ac i
nodi meysydd ar gyfer eu harchwilio yn y dyfodol.
10.55 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (PCChA), oedd yn
cynnig dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid
Cyngor Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ a trwy weithdrefn statudol y gwasanaethau
cymdeithasol ar gyfer Chwarter 4 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r
cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o’r
canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion yr oedd Cyngor Sir Ddinbych wedi eu
derbyn dan ‘Eich Llais’, polisi adborth cwsmeriaid y Cyngor, yn ystod Chwarter
3 2014/15, Atodiad 1. Roedd
yr adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad penodol at yr un ar ddeg o gwynion cam
1 a aeth y tu hwnt i’r amserlen yn ystod Chwarter 2, Atodiad 2. Roedd penawdau
ar gyfer Chwarter 3 wedi'u hymgorffori yn Atodiad 1. Cydnabu’r aelodau er bod y perfformiad wrth ymdrin
â chwynion wedi gwaethygu ychydig ac yn is na’r targed, y rheswm dros hyn yn
bennaf oedd bod nifer y cwynion a dderbyniwyd yn isel. O gymharu â
nifer y defnyddwyr gwasanaeth sy’n defnyddio’r gwasanaethau roedd nifer y
cwynion yn isel, fodd bynnag roedd yn rhaid delio â’r holl gwynion yn unol â'r polisi
cwynion ac o fewn y terfynau amser a osodwyd. Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth sylw’r Aelodau at
nifer y cwynion a dderbyniwyd. Gan edrych tuag at y flwyddyn adrodd nesaf byddai’n
bwysig cofio na ddylid defnyddio toriadau cyllideb fel esgus ar gyfer cwynion
yn erbyn gwasanaethau. Roedd y toriadau a gymeradwywyd yn cael eu rheoli. Felly ni
ddylent gynhyrchu cwynion ychwanegol os yw effaith y toriadau, gan gynnwys
disgwyliadau'r cyhoedd, yn cael eu rheoli’n briodol. Ar ddiwedd y
drafodaeth: PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac
yn pwysleisio bod angen gweithio ar draws yr Awdurdod i sicrhau bod y targed
corfforaethol o 95% yn cael ei ddiwallu bob tro. |
|
YMHOLIADAU CYNGHORWYR PDF 90 KB Ystyried
adroddiad (copi yn amgaeedig) gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol sy'n
amlinellu ymatebion anfoddhaol i ymholiadau gwasanaeth yr Aelodau ac sy’n gofyn
i’r Pwyllgor nodi meysydd sy'n peri pryder a gwneud argymhellion i fynd i'r
afael â pherfformiad yn y maes. 11.15a.m. – 11.35a.m. Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg, a oedd yn darparu
gwybodaeth ar geisiadau am wasanaeth a wnaed gan Aelodau unigol trwy system
Rheoli Cyswllt Cwsmer, gan ganolbwyntio’n benodol ar gamau gweithredu ac ymateb
y gwasanaeth dan sylw, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth
Addysg yr adroddiad a chynghori’r
Aelodau, yn dilyn dadansoddiad manwl o berfformiad y gwasanaethau wrth ymdrin â
cheisiadau am wasanaeth a wnaed gan dri Cynghorydd Sir dros gyfnod o 10 mis,
roedd y data yn awgrymu nad oedd problem
helaeth o ran ymatebion hwyr. Serch hynny, roedd nifer o geisiadau heb eu hateb o
fewn y terfynau amser a ddisgwylir. Eglurodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg
y gwahaniaeth rhwng ymateb o fewn y terfyn amser a datrysiad boddhaol i’r
broblem. Mewn rhai achosion, yn enwedig gyda phroblem oedd
angen cryn dipyn o fuddsoddiad cyfalaf i’w datrys, gellir nodi bod yr ymholiad
wedi’i gau ar ôl rhannu’r neges, ond ni fyddai’r broblem ei hun wedi’i datrys. Roedd yr
Aelodau’n pryderu bod y swyddogion yn aml yn eu ffonio i ymateb i ymholiad, ond
pur anaml y byddent yn darparu esboniad ysgrifenedig manwl ar ôl yr alwad ffôn.
Ar adegau gall yr ymateb ar lafar fod yn anghyflawn
neu’n anghywir. Roedd hyn yn creu anawsterau i'r cynghorwyr pan
fyddent yn rhannu’r ymateb gyda thrydydd parti h.y. preswylydd neu gyngor tref
/ cymuned. Cynghorwyd yr Aelodau gan y Pennaeth Cwsmeriaid a
Chefnogaeth Addysg pe baent yn teimlo nad yw ymateb a dderbyniwyd yn gyflawn
neu'n gywir, dylent gysylltu â naill ai’r Pennaeth Gwasanaeth neu hi i holi
ymhellach er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn ymateb llawn yn yr arddull a ffefrir
ganddynt e.e. galwad ffôn, llythyr neu e-bost. Cynghorodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg
bod y Cyngor yng nghanol y broses o gaffael system Rheoli Cyswllt Cwsmer
awtomatig newydd. Byddai’r system newydd yn cael ei darparu i'r Adran
Priffyrdd i ddechrau, ac yna’r Adran Addysg. Fel Pennaeth Gwasanaeth
roedd yn awyddus bod yr Aelodau’n cyfrannu at ddatblygu’r system i sicrhau bod
yr wybodaeth y mae’n ei darparu yn diwallu eu hanghenion ac yn eu cynorthwyo
gyda’u gwaith. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar y sylwadau uchod, eu bod yn derbyn yr adroddiad ac y dylai’r
swyddogion ymateb i’r aelodau unigol yn eu dull o gyfathrebu a ffefrir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr: Cefnogi Busnes sy'n ceisio barn yr Aelodau
ar y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn Adroddiad
Perfformiad Blynyddol 2013-14 (copi yn amgaeëdig). 11.35 a.m. – 12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Prif Reolwr: Cefnogaeth Fusnes, a oedd yn darparu
diweddariad ar yr heriau a nodwyd yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2013/14, wedi’i gylchredeg cyn
y cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad
i’r Aelodau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn nodi’r cynnydd a
wnaed hyd yn hyn i fynd i’r afael â meysydd a amlygwyd yn Adroddiad Blynyddol
2013/14, oedd yn canolbwyntio ar wella perfformiad, neu ymdrin â phwysau newydd
a nodwyd yn ystod y flwyddyn gyfredol. Er bod perfformiad yn
gwella yn y mwyafrif o’r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad y llynedd, roedd lle
i wella. Roedd y rhesymau dros berfformiad sy’n is na'r targed mewn meysydd megis
nifer yr ymweliadau statudol i blant sy’n derbyn gofal a chanran y plant sy’n
derbyn gofal oedd wedi newid ysgol un neu fwy o weithiau wedi’u dogfennu’n dda.
Nid oedd yr ystadegau sylfaenol yn darparu’r darlun
cyflawn, a oedd yn llawer mwy cadarnhaol gan ei fod yn well am ddiwallu
anghenion y plant na’r angen i’r Awdurdod ddiwallu targedau. Roedd gofal
cymdeithasol yn faes cymhleth iawn, gan fod yn rhaid parchu anghenion a hawliau
dynol unigolion. Er enghraifft, ni fyddai’n bosibl cyflawni cyfradd
asesu 100% ar gyfer yr holl ofalwyr gan nad oedd pawb yn ystyried eu hunain fel
‘gofalwr’ er eu bod yn cyflawni rôl ‘gofalwr’ e.e. priod neu bartner, rhiant
neu blentyn. Mewn
achosion o’r fath roedd yn rhaid parchu dewis neu ffafriaeth unigol. Roedd Adran y
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg ac ysgolion i
gefnogi plant a nodwyd fel rhai sydd â rôl ‘gofalwr’ yn y cartref. Roedd hefyd yn
bwysig deall bod y Cyngor yn cefnogi gofalwyr nid yn unig fel unigolion ond ymagwedd
gymunedol gyfan o rôl y gofalwr. Pwysleisiwyd er bod LlC yn hynod awyddus i hyrwyddo’r defnydd o Daliadau
Uniongyrchol a Chronfeydd Gwasanaeth Unigol roeddent yn cymryd llawer o amser,
yn gymhleth a biwrocrataidd i’w gweinyddu. Roedd rhai awdurdodau
yn Lloegr wedi dewis peidio â darparu’r dewisiadau hyn, nid oedd unrhyw awgrym
y byddai dewis peidio yn opsiwn yng Nghymru. Roedd y swyddogion yn
gweithio gyda theuluoedd ac unigolion i’w hyrwyddo, fodd bynnag roedd yn bwysig
deall nad oedd taliadau uniongyrchol neu gronfeydd gwasanaeth unigol yn addas
ar gyfer pob unigolyn. Roedd Dyfarniad y Goruchaf Lys ym mis Mawrth 2014 o ran colli rhyddid yn
achosi pwysau enfawr ar Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a’i gyllideb, gyda
staff yn derbyn hyfforddiant i ymdrin â chynnydd enfawr yn nifer y ceisiadau o
golli rhyddid. Er mwyn lliniaru unrhyw risg, a godwyd i risg lefel
uchel ar gyfer yr Awdurdod ac o ganlyniad roedd wedi’i gynnwys ar y Gofrestr
Risg Gorfforaethol, cynhaliwyd ymarfer i asesu nifer posibl y ceisiadau y
gellir eu derbyn. Roedd canfyddiadau’r ymarfer hwn wedi arwain at 10
ymarferydd ychwanegol yn derbyn hyfforddiant i gynnal yr asesiadau. Roedd hyn yn
amlwg yn rhoi pwysau ar gyllidebau ac adnoddau cyfyngol. Disgwylir canllawiau
LlC ynglŷn ag asesiadau colli rhyddid, yn y cyfamser roedd y Cyngor yn
gweithio yn unol â’r gyfraith wrth gynnal asesiadau. Roedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Rheoleiddwyr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gweithio gyda LlC i lenwi’r bwlch hwn cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag, roedd y mater wedi’i gymhlethu ymhellach yn ddiweddar oherwydd y cyflwynwyd her gyfreithiol i benderfyniad y Goruchaf Lys yn Lloegr. Felly annhebygol fyddai unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â chanllawiau cyn y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r her gyfreithiol. Mewn ymateb i bryderon yr aelodau ynglŷn â’r risgiau i’r Awdurdod o ganlyniad i’r dyfarniad, cynghorodd Bennaeth yr Adain ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 127 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi yn amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi diweddariad i’r aelodau ar faterion
perthnasol.
12.05 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen o gynnig gan Aelod’ wedi’i gynnwys yn Atodiad 2. Cadarnhawyd na fydd unrhyw
eitemau'n cael eu cynnwys ar raglen gwaith i’r dyfodol heb lenwi ‘ffurflen
gynnig ar gyfer archwilio' a derbyn cymeradwyaeth i'w gynnwys ar y rhaglen gan
y Pwyllgor neu’r GCIGA. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y byddai cymorth i lenwi’r ffurflenni ar
gael os oes angen. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3, ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r
penderfyniadau Pwyllgor diweddar a’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i
gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r
Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y
dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 16 Ebrill 2015:- -
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y disgwylir
cadarnhad a fyddai angen aildrefnu dyddiad adroddiad ar y Gofrestr Risg
Gorfforaethol yn y dyfodol. -
Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at bwysigrwydd y ddolen
a anfonwyd at yr Aelodau mewn perthynas ag Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau’r
Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys yr eitem hon yn
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer 16 Ebrill 2015. 24 Medi 2015:- -
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio bod y GCIGA wedi cytuno â
safbwyntiau Pwyllgor y dylid cynnwys y tair eitem addysg a gyfeiriwyd i’r GCIGA
i’w hystyried ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod ar 24
Medi 2015. Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio y gwahoddir GwE
i’r cyfarfod hwnnw a'r cyfarfod ym mis Ionawr 2016. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar
19 Chwefror 2015. Eglurodd
y Cydlynydd Archwilio mai un o’r eitemau a ystyriwyd yn y cyfarfod oedd Papur
Gwyn Datganoli, Democratiaeth a Darparu – Diwygio Llywodraeth Leol: Pŵer i
bobl leol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Roedd Pennod 8 y Papur Gwyn 'Atgyfnerthu rôl adolygu’, yn gosod cynigion
Llywodraeth Cymru ar gyfer archwilio. Darparodd y Cydlynydd Archwilio grynodeb fer o’r trafodion. Roedd y
Grŵp hefyd wedi trafod amlder cyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor Archwilio
Perfformiad yn y dyfodol ar y Cynllun Corfforaethol, a phenderfynwyd y byddent
yn parhau i gyflwyno adroddiadau dwywaith y flwyddyn i’r Pwyllgor, gydag
adroddiadau yn y chwarteri eraill fel adroddiadau gwybodaeth. Byddai'r Adroddiad Blynyddol ar weithgareddau’r Pwyllgorau Archwilio yn
ystod y flwyddyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod blynyddol y Cyngor ym mis Mai. Cytunwyd y
dylid cynnal ymarfer gwerthuso o Archwilio ac roedd holiadur drafft wedi’i
lunio i’w gylchredeg i aelodau’r pwyllgorau archwilio, ac i grŵp ehangach
gan gynnwys yr holl gynghorwyr ac aelodau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. PENDERFYNWYD - yn
amodol ar y newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.
12.15 p.m. – 12.25 p.m. Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd R. J. Davies fanylion y prif faterion canlynol a ystyriwyd yn Her
Gwasanaeth yr Adran Adnoddau Dynol: - ·
Ar
hyn o bryd roedd AD yn dangos tanwariant amcanol o £14.5 mil o fis Ionawr 2015,
ac wedi arwain i gyflawni nifer o arbedion corfforaethol. ·
Roedd
y Gwasanaeth yn cymharu'n dda yn erbyn y grŵp teulu o awdurdodau lleol o
Gymru a Lloegr. ·
Roedd
meincnodi 2013/14 wedi nodi bod gan Sir Ddinbych gategorïau costau gweithredu
gweddol uchel. ·
Roedd
yr adain Archwilio Mewnol wedi cwblhau cryn dipyn o waith sicrwydd mewn
perthynas â chwblhau Cynllun Gwella AD, Strategaeth Pobl. ·
Roedd
Adroddiad Archwilio Mewnol diweddar wedi awgrymu gwelliannau mewn nifer o
feysydd. ·
Roedd
proffil oedran gweithwyr Sir Ddinbych yn nodi fod gan yr Awdurdod gyfartaledd
is o weithwyr dan 40 oed. Roedd ganddo gyfran debyg o weithwyr o
gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl ag anableddau. ·
Roedd
nifer y camau disgyblu yn debyg i Awdurdodau Lleol eraill. Hysbysodd y
Cynghorydd G.Ll. Williams y Pwyllgor y byddai’r Gwasanaeth Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden yn symud i Galedfryn, Dinbych. Eglurodd
hefyd y byddai KPMG yn ymweld â’r Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i
gadarnhau a gweld sut yr oedd model y gwasanaeth yn gweithredu heb leihau'r gwasanaethau
yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Roedd y
Cynghorydd D. Owens wedi mynychu cyfarfod y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion
ar 24 Chwefror 2015. Cydnabu y Cynghorydd Owens bod problemau
mewn rhai ysgolion, ond roedd yn teimlo bod Sir Ddinbych yn ymdrin â'r rhain,
ond mynegodd bryder ynglŷn â dull swyddogion GwE o ran y modd yr oeddent
yn gweld perfformiad yr ysgolion oedd yn wahanol i'r dull a ddefnyddir gan
swyddogion yr Awdurdod. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd
Owens, cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio y byddai cynrychiolwyr o GwE yn
mynychu cyfarfodydd ym mis Medi neu Hydref 2015 ac Ionawr 2016. PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiadau. Daeth y Cyfarfod
i ben am 12.50pm. |