Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies, Arwel Roberts, Gareth Sandilands a David
Simmons gysylltiad personol ag Eitem 5 ar y Rhaglen - Dilysu Arholiadau Allanol
ac Asesiadau Athrawon. Datganodd y
Cynghorydd David Simmons gysylltiad personol ag Eitem 6 ar y Rhaglen - Pobl
Ifanc Heb Fod Mewn Addysg, Cyflogaeth Na Hyfforddiant. Datganodd yr
Aelod Cyfetholedig, Gillian Greenland, gysylltiad personol ag Eitem 5 ar y
Rhaglen - Dilysu Arholiadau Allanol ac Asesiadau Athrawon ac eitem 6 - Pobl
Ifanc Heb Fod Mewn Addysg, Cyflogaeth Na Hyfforddiant. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 179 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2014 (copi
ynghlwm). 9.35 a.m. – 9.40 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 20
Tachwedd 2013. Gofynnodd y Cynghorydd Gareth Sandilands am ddiweddariadau rheolaidd
ynghylch y gwasanaeth Teledu cylch caeedig (TCC) a’r Gwasanaeth Allan o Oriau
(Eitem 5 - Tudalen 8). Eglurodd y Prif Weithredwr fod y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi sefydlu Gweithgor ac y byddai diweddariadau
rheolaidd ar gael o’r gweithgor hwnnw. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio hefyd fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio (GCIGA) wedi penderfynu y
byddai’r adroddiad ar y Strategaeth gwblhau/darpariaeth amgen ar gyfer y
Gwasanaeth TCC ac Allan o Oriau, yr oedd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad wedi
gofyn iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio, yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau naill ai ym mis Mai neu fis Mehefin 2015. Byddai'n
cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwnnw gan mai hwn yw pwyllgor craffu trosedd ac
anhrefn pwrpasol y Cyngor. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ARHOLIADAU ALLANOL WEDI EU GWIRIO AC ASESIADAU ATHRAWON PDF 131 KB Ystyried adroddiad
gan Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (copi ynghlwm) i
adolygu perfformiad ysgolion, a phlant sy'n derbyn gofal; ac effaith Gwe ar
gyrhaeddiad addysgol pwerau'r Sir. 9.40 a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg adroddiad Arholiadau CA4 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau
allanol ysgolion Sir Ddinbych. Gwnaeth hefyd roi ymddiheuriadau Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE, y Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion Rhanbarthol, am ei
absenoldeb o’r cyfarfod, nad oedd modd ei osgoi. Nid
oedd yn gallu bod yn bresennol gan fod GwE yr wythnos honno yn cael ei arolygu
gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC). Roedd adroddiad
wedi ei gyflwyno yn flaenorol ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgorau Archwilio
Perfformiad ym mis Hydref 2014. Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth am berfformiad a wiriwyd canlyniadau arholiadau allanol
ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4) ac ôl-16, ynghyd ag
Adroddiad Blynyddol GwE, y Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion Rhanbarthol, ar
ei waith yn Sir Ddinbych. Roedd y
canlyniadau cyffredinol yn hynod foddhaol, ac roedd canlyniadau Lefel 2 yn
arbennig o ddymunol. Er bod y Cyngor wedi bod yn cyflawni'n uwch na
chyfartaledd Cymru ym mhob un o'r dangosyddion CA4, nid oedd yn bwriadu bod yn
hunanfodlon a byddai'n parhau i ymdrechu am ragoriaeth ym mhob cyfnod allweddol
mewn ymgais i wella canlyniadau ar gyfer pob disgybl a rhoi’r sgiliau
angenrheidiol iddynt ar gyfer y dyfodol. Er gwaethaf y
perfformiad gwell o ran canlyniadau CA4, roedd perfformiad rhai ysgolion unigol
wedi dirywio ac mae’r pwyllgor archwilio wedi eu hannog i gefnogi'r ysgolion
hynny ar eu taith at wella. Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl ac mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd y swyddogion: ·
Roedd
Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi bod yn cael cefnogaeth sylweddol i hwyluso
gwelliant oddi wrth y sir a GwE. Byddai effaith cefnogaeth GwE i'r ysgol yn
cael ei gwerthuso yn y dyfodol agos ·
Cyfarfu
swyddogion yr Adran Addysg a GwE bob pythefnos i drafod eu cynlluniau gwaith ac
i sicrhau bod yr ysgolion sy'n cael cefnogaeth yn mynd rhagddynt gyda'u
gwelliant. ·
Roedd
cefnogaeth yn cael ei rhoi i dîm rheoli Ysgol Brynhyfryd yn dilyn secondiad eu
Pennaeth i GwE. Byddai effaith y gefnogaeth yn cael ei monitro yn
barhaus yn wyneb y ffaith bod perfformiad yr ysgol mewn rhai meysydd wedi
dirywio. ·
Roedd
trafodaethau ar y gweill gydag arweinwyr busnes ym Mwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, o ran sut y gallai adrannau addysg awdurdodau lleol roi’r
sgiliau a'r cymwysterau perthnasol yn y ffordd orau i ddisgyblion er mwyn
gwella'r economi leol o fewn cyfyngiadau'r cwricwlwm cenedlaethol. Byddai
rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys sefydlu Fforwm Cyflogwyr Addysg. ·
O
fewn categoreiddio uwchradd Llywodraeth Cymru, roedd Sir Ddinbych yn y 4ydd
safle ar y cyd yng Nghymru allan o 22 awdurdod addysg. Er
nad oedd gan Sir Ddinbych unrhyw ysgolion unigol yng nghategori 4, y categori
isaf, roedd dwy ysgol yng nghategori 3.
Dyhead y Sir fyddai cael pob
ysgol yn naill ai categori 1 neu 2.
Er mwyn cyflawni hyn, byddai gwaith a
chefnogaeth bellach yn ofynnol ar gyfer tair ysgol. Awgrymwyd
yn ystod y cyfarfod y gallai archwilio fod â rôl i'w chwarae wrth sicrhau’r
gwelliant hwn. ·
Roedd
strategaeth tymor hir ar waith i fynd i'r afael â'r amrywiad mewn perfformiad
rhwng ysgolion mewn perthynas â chyrhaeddiad lefel 2, gan gynnwys iaith a
mathemateg. Roedd y strategaeth hon yn cynnwys nodi disgyblion
sy’n ei chael yn anodd yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 a rhoi'r gefnogaeth sydd
ei hangen arnynt i'w galluogi i wireddu eu potensial yn nes ymlaen yng
Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Byddai'r gwaith hwn yn ategu amcanion y
strategaeth rhifedd a llythrennedd genedlaethol. ·
Yn
Fforwm Ieuenctid y Sir, gofynnwyd am safbwyntiau disgyblion ar faterion
addysgol, e.e. pynciau a dulliau addysgu. · Er y cydnabu bod ethos ysgolion unigol yn cael rhywfaint o effaith ar gyrhaeddiad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
POBL IFANC HEB FOD MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) er mwyn manylu ar y camau sy'n
cael eu cymryd i ddelio â nifer y disgyblion yn y Sir "nad ydynt mewn
addysg, cyflogaeth na hyfforddiant". 10.10 a.m. – 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Addysg yr adroddiad NEETS (pobl ifanc "heb fod mewn addysg,
cyflogaeth na hyfforddiant") (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu
gwybodaeth am y mesurau sy'n cael eu cymryd i fynd ati i gefnogi'r bobl ifanc
hynny sydd mewn perygl o fod yn NEET yn rhagweithiol er mwyn gwella perfformiad
yn erbyn y mesur hwn. Hefyd, er mwyn sicrhau nad oes yr un o
bobl ifanc y Sir yn syrthio i mewn i'r categori hwn, a bod ganddynt y sgiliau
angenrheidiol i gyfrannu at ddatblygiad yr economi leol. Wrth ystyried yr
adroddiad, dywedwyd wrth yr aelodau bod y niferoedd yn y categori hwn wedi bod
yn gostwng bob blwyddyn ers 2008.
Yr unig flwyddyn pan oedd y
niferoedd wedi codi, oedd yn 2013.
Fodd bynnag, roedd y data
diweddaraf yn dangos bod y duedd wedi cael sylw a bod y nifer yn gostwng eto. Yn ogystal â'r
wybodaeth a geir yn yr adroddiad, amlinellodd y swyddogion y gwaith sy'n mynd
rhagddo gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, trwy ei grŵp llywio
addysg, a oedd yn edrych ar baru cymwysterau a sgiliau myfyrwyr gyda sgiliau ac
anghenion cyflogwyr lleol. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau, dywedodd y swyddogion fod Cadeirydd Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru hefyd yn gwasanaethu ar Gyd-bwyllgor GwE. Roedd
y penodiad hwn wedi ei anelu at sicrhau cysylltedd rhwng maes addysg a
chyflogaeth. Wrth ymateb i
gwestiynau ar effaith poblogaeth symudol uchel ar gyrhaeddiad addysgol a
ffigurau NEET ar hyd ardaloedd arfordirol y Sir, dywedwyd wrth yr aelodau bod
gan ysgolion yn yr ardaloedd penodol hynny fesurau wedi sefydlu'n dda yn eu lle
i ddelio ag effaith poblogaeth symudol ar eu hysgolion . Roedd
y mesurau hyn yn gadarn ac yn gweithio'n dda. Ar ddiwedd y
drafodaeth,: PENDERFYNWYD, yn
amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn fodlon ar y mesurau i fynd i'r
afael â lleihau nifer yr unigolion NEET yn y sir ac i sicrhau bod pob myfyriwr
yn y sir yn cael ei gefnogi i wireddu ei botensial. |
|
PERFFORMIAD MEWN PERTHYNAS Â CHYRRAEDD Y SAFONAU PERFFORMIAD LLYFRGELLOEDD NEWYDD PDF 103 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i adolygu'r Safonau
Perfformiad Llyfrgelloedd newydd - "Mae llyfrgelloedd yn gwneud
gwahaniaeth". 10.40 a.m. -11.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig yr
adroddiad, "Cwrdd â'r Fframwaith Newydd o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru 2014-17" (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hefyd,
gofynnodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion am sylwadau'r aelodau ar
weledigaeth y dyfodol ar gyfer llyfrgelloedd y Sir fel canolfannau cymunedol. Gofynnwyd am yr
adroddiad gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn dilyn yr Adroddiad Gwybodaeth
a ddosbarthwyd i'r Aelodau ym mis Mai 2014. Yn ystod cyflwyno’r adroddiad,
pwysleisiwyd er gwaethaf y ffaith nad oedd Sir Ddinbych yn bodloni tri allan
o'r wyth o safonau cenedlaethol a osodwyd gan y rheoleiddiwr - CyMAL, bod y
Llyfrgell yn wasanaeth hynod o boblogaidd gyda defnyddwyr. Roedd
safonau nad oedd wedi eu bodloni yn ymwneud â niferoedd staffio, arolygon
cyflwr adeiladu ac a oedd Wifi ar gael.
Gan fod yr olaf yn y broses o
gael ei fodloni, roedd penderfyniad ymwybodol wedi ei gymryd o ran peidio
ymdrechu i fodloni’r ddau arall ar sail cyfyngiadau cyllidebol a'r ffaith bod
yr holl adeiladau o ansawdd boddhaol ac mai ymarfer gweinyddol diangen oedd yr
arolwg. Roedd y Cyngor yn gyson, am y 12
mlynedd diwethaf neu fwy, wedi bod yn y chwartel uchaf yng Nghymru ar gyfer y
nifer o ymweliadau â llyfrgelloedd, nifer o lyfrau a fenthycwyd a boddhad
cwsmeriaid - yn ddiweddar roedd wedi ei barnu’n gyntaf ar y cyd yng Nghymru ar
gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid ymhlith rhai dan 16 oed.
Roedd CyMAL yn cydnabod bod gwasanaeth llyfrgell y Sir yn
wasanaeth poblogaidd a gwerthfawr – roedd nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu mewn
gwirionedd yn ystod 2013/14. Wrth symud
ymlaen a, gyda'r bwriad o barhau â darparu gwasanaeth poblogaidd yn wyneb
toriadau ariannol, roedd dull arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau
llyfrgelloedd ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol ac awdurdodau lleol eraill
yn cael ei gynnig, drwy sefydlu Canolfannau Cymunedol.
Byddai pob canolfan gymunedol, a leolir mewn adeiladau
llyfrgelloedd presennol, yn cael ei theilwra i ddarparu'r gwasanaethau
allweddol sydd eu hangen yn y cymunedau unigol hynny.
Er nad oedd y cynigion hynny wedi eu hanelu at gyflawni
pob un o ddangosyddion fframwaith newydd CyMAL, roeddent yn cyd-fynd â
gweledigaeth LlC ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned a chanolfannau cymunedol
wedi'u cynllunio i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gyfannol.
Roedd swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion CyMAL i
drafod y weledigaeth arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer llyfrgelloedd y sir ac
roeddent yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion ac yn gefnogol ohonynt ar y
cyfan. Mewn
ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth swyddogion: ·
amlinellu'r costau cyfalaf a refeniw o osod a
chynnal a chadw Wifi mewn llyfrgelloedd a'r gwahanol ffynonellau ariannu a oedd
wedi eu defnyddio i gyllido'r gwaith o’u gosod ·
cadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i osod
Wifi yn y ddwy lyfrgell arall yn ystod 2015 ·
manylu am y mathau o wasanaethau, cyhoeddus a
gwirfoddol, a allai gael eu lleoli o fewn y canolfannau cymunedol arfaethedig ·
cadarnhau y byddai'r gwasanaeth llyfrgell
ysgol yn dod i ben ym mis Mawrth 2015, ond gan fod y mwyafrif o ysgolion yn
cysylltu â’r gwasanaeth llyfrgell prif ffrwd ag ymholiadau a cheisiadau, ni
ddylai’r ffaith bod y gwasanaeth yn dod i ben gael effaith andwyol ·
byddai trosglwyddo cyfrifoldeb rheoli ar
gyfer y gwasanaeth llyfrgell i'r Gwasanaeth Cefnogi Cwsmeriaid ac Addysg yn
rhoi cyfle delfrydol i wella'r berthynas waith rhwng y gwasanaethau addysg a
llyfrgelloedd. Byddai hefyd yn hwyluso cyflwyno
gwasanaethau addysg penodol h.y. cyrsiau sgiliau digidol a llenyddol o fewn
canolfannau cymunedol yn y dyfodol · cadarnhau ei fod yn ofyniad statudol i bob awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth llyfrgell, roedd y dull o ddarparu'r gwasanaeth yn ôl disgresiwn pob Cyngor unigol ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar yr adeg hon
(11.35 am) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.45 a.m. |
|
POLISI ENWI STRYDOEDD PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid / Ymchwil Corfforaethol a
Chydlynydd Cudd-wybodaeth i ystyried y cynnydd sydd wedi ei wneud wrth
weithredu’r polisi newydd. 11.25 a.m. – 11.55 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol y Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i Aelodau ystyried y cynnydd sydd wedi ei wneud wrth
weithredu’r Polisi newydd. Dywedodd
y Cydlynydd Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol yn ystod cyflwyno’r adroddiad
hwn, yn dilyn derbyn y cais cyntaf am newid enw stryd gan aelod o'r cyhoedd,
roedd y polisi wedi ei ddefnyddio a'r broses ymgynghori ddyledus wedi ei dilyn.
Byddai problemau a oedd wedi dod i'r amlwg yn ystod y
broses ymgynghori ar y cais cyntaf yn cael eu datrys gyda'r bwriad o hwyluso'r
broses ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol ac ymarferion ymgynghori.
Ar ddiwedd y broses ymgynghori gyntaf hon, roedd y
Pennaeth Gwasanaeth, yn unol â'r pwerau a ddirprwywyd iddo, wedi cymeradwyo'r
newid enw ac roedd trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd gyda'r cyngor cymuned
perthnasol o ran ceisio ei gytundeb i noddi'r newid enw.
Os na fyddai'r cytundeb yn dod i law byddai'r Cyngor Sir
yn noddi'r newid. Os yr olaf fyddai’n wir efallai na
fyddai modd archebu’r holl arwyddion perthnasol tan y flwyddyn ariannol newydd. Wrth
ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth swyddogion: ·
fanylu ar y broses a ddilynwyd i ddyrannu
enwau strydoedd ar ddatblygiadau newydd ac i ofyn am newid enw stryd presennol,
gan gynnwys y cyfrifoldebau ariannol gwahanol ym mhob achos ·
egluro’r gwahanol ddeddfwriaeth, yn y
gorffennol a'r presennol, a oedd yn llywodraethu enwi a rhifo strydoedd ·
ymgymryd i egluro pa gymal(au) o Ddeddf 1972
wnaeth ddisodli cymal 65 o Ddeddf Cymalau Gwella Trefi 1847 mewn perthynas â
rhifo ac enwi strydoedd ·
cynnig edrych ymhellach i mewn i enwi Ffordd
Tan yr Eglwys yn Rhuddlan, a'r diffyg enwau swyddogol ar gyfer y ddwy ffordd a
oedd yn ffurfio ffin ardal triongl Cae Shon yng nghymuned Trefnant, y ddau
ohonynt yn ymuno ag Allt Goch ar gyffyrdd ar wahân (a elwir yn lleol fel Ffordd
y Sipsiwn (neu Ffordd y Romani) a Ffordd y Graig) Felly: Penderfynwyd: (i) yn amodol ar eglurhad ar y pwyntiau uchod, i
dderbyn a nodi'r cynnydd o ran gweithrediad y polisi; ac (ii) yn amodol ar adnoddau sydd ar gael, i
hyrwyddo'r polisi enwi a rhifo strydoedd |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL (Ch1 A Ch2) 2014/2015 PDF 102 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi ynghlwm) sy'n
darparu cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 (gyda
phwyslais arbennig ar y gwaith o gyflawni'r Cytundebau Canlyniadau). 11.55
a.m. – 12.25 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Gwella Corfforaethol adroddiad y Cynllun Corfforaethol (Ch1 a Ch2)
2014/2015 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed
gyda'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol a chytundebau canlyniadau fel
ar ddiwedd Chwarter 2 ym mlwyddyn ariannol 2014/15. Mae
adroddiadau rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol y Cynllun Corfforaethol er
mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu eu dyletswydd i wella. Hysbysodd
y Swyddog Gwella Corfforaethol yr aelodau fod adroddiad Chwarter 2 2014/15 yn
adroddiad llawer mwy cadarnhaol na’r adroddiad diwedd blwyddyn ar gyfer
2013/14, yn enwedig mewn perthynas â pherfformiad o ran y flaenoriaeth
gorfforaethol o ddatblygu'r economi leol. Er
y rhagwelir na fyddai Sir Ddinbych yn gymwys ar gyfer y swm cyfan o arian
cytundeb canlyniadau gan LlC (£1,413,636) ar gyfer 2013/14 ar y sail mai dim
ond 83% o'r cytundebau canlyniadau oedd wedi eu cyflwyno, dylai dderbyn oddeutu
£1,166,249. Dylai cadarnhad ar y swm terfynol a
ddyfernir fod ar gael erbyn diwedd mis Ionawr 2015. Wrth
ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth swyddogion gadarnhau: ·
roedd y Gwasanaeth yn cynnal trafodaethau â
gweithgynhyrchwyr technoleg Symology i ganfod a oedd unrhyw broblem a oedd yn
achosi adroddiadau anghywir o waith a gwblhawyd; ·
er gwaethaf y ffaith bod Sir Ddinbych yn cael
eu hystyried i fod yn ardderchog ar gyfer cyflwr cyffredinol prif ffyrdd (A),
ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd (B) ac (C) (THS012) yn ei grŵp teulu, yr
awdurdod hwn oedd yr un a berfformiodd waethaf yn ei grŵp teulu ar gyfer
2013-14 ar gyfer y ganran o ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd (B) mewn cyflwr
gwael yn gyffredinol. Gyda chyllidebau yn lleihau flwyddyn ar
ôl blwyddyn, byddai sefyllfa'r Sir yn annhebygol o wella yn y dyfodol agos; ·
rhagwelwyd y gallai'r perfformiad gwell o ran
datblygu'r economi leol gael ei wella hyd yn oed ymhellach yn dilyn yr
ailstrwythuro gwasanaethau sy’n cyd-fynd â'r gwaith uchelgais economaidd a
chymunedol; ·
roedd gwelliant hefyd wedi ei weld o ran y
canlyniadau o fewn y Cytundeb Canlyniadau, a oedd yn cynnwys mynediad i dai o
ansawdd da a sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni eu potensial. Dylai hyn sicrhau bod y Cyngor yn
cyflawni taliad llawn o'r arian cytundebau canlyniadau ar gyfer y flwyddyn
2014/15. Ar
ddiwedd y drafodaeth: Penderfynwyd
yn amodol ar y sylwadau uchod,
derbyn yr adroddiad, a bod gwybodaeth ar benderfyniad Llywodraeth Cymru mewn
perthynas â dyfarnu’r Cytundebau Canlyniadau ar gyfer 2013/14 yn cael ei
dosbarthu i aelodau'r Pwyllgor pan fydd ar gael. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.25 p.m. – 12.35 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd
Ffurflen Cynnig Aelod ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio
wedi ei chynnwys fel Atodiad 2. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau
Pwyllgor diweddar ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u
gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol, fel y manylir yn Atodiad 1. Eglurodd y
Cydlynydd Archwilio, yn y blynyddoedd diweddar roedd Llywodraeth Cymru a
Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at yr angen i gryfhau rôl archwilio ar
draws llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys
defnyddio archwilio fel modd o ymgysylltu â phreswylwyr a defnyddwyr
gwasanaeth. Wrth fynd ymlaen byddai disgwyl i archwilio
ymgysylltu'n well ac yn amlach â'r cyhoedd gyda golwg ar sicrhau penderfyniadau
gwell a fydd yn y pen draw yn arwain at well canlyniadau i ddinasyddion. Yn
y dyfodol, byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn mesur effeithiolrwydd archwilio
wrth gyflawni'r disgwyliadau hynny. Gan ystyried y
weledigaeth genedlaethol ar gyfer archwilio ac ar yr un pryd yn canolbwyntio ar
flaenoriaethau lleol, gwnaeth y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio (GCIGA) argymell yn ddiweddar y dylai pwyllgorau archwilio’r Cyngor,
wrth benderfynu ar eu rhaglenni gwaith, ganolbwyntio ar y meysydd allweddol
canlynol: ·
Arbedion
ar y gyllideb ·
Cyflawni
Amcanion y Cynllun Corfforaethol (gyda phwyslais arbennig ar y modd o’u
cyflawni yn ystod cyfnod o galedi ariannol) ·
Unrhyw
eitemau eraill a gytunwyd gan y Pwyllgor Archwilio (neu'r GCIGA) fel
blaenoriaeth uchel ·
Materion brys, materion na ellir eu rhagweld neu faterion
â blaenoriaeth uchel I gynorthwyo'r
broses o flaenoriaethu adroddiadau, byddai angen ffurflen gynnig ar y pwnc y
gofynnwyd amdano. Bydd y ffurflen gynnig yn egluro pwrpas,
pwysigrwydd a chanlyniadau posibl y pynciau a awgrymir. At bwrpas yr adroddiad a drefnwyd ar Adroddiad Perfformiad Gweithdrefn Gŵynion
‘Eich Llais’ a drefnwyd ar gyfer cyfarfod mis Chwefror y Pwyllgor roedd rhestr
o gwynion cyfredol a oedd wedi eu cyflwyno gan yr Aelodau ond nad oedd wedi
derbyn ymateb boddhaol yn cael ei llunio a byddai’r Cydlynydd Craffu yn anfon y
rhestr at y Pennaeth Cefnogi Cwsmeriaid ac Addysg ar gyfer ymateb manwl yn y
cyfarfod nesaf. Gall archwilio’r dystiolaeth hon helpu'r Pwyllgor
i nodi unrhyw dueddiadau wrth ddelio â chwynion ac awgrymu gwelliannau i'r
polisi a'r gweithdrefnau cwyno. Awgrymwyd nifer o
eitemau addysg i'w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, yn dilyn
trafodaeth yn ystod y cyfarfod, fel y nodwyd o dan Eitem 5 a - f. Gofynnodd y
Cydlynydd Archwilio am ddatganiadau o ddiddordeb i fynychu'r Grŵp Tasg a
Gorffen i edrych ar effaith y toriadau yn y gyllideb. Roedd
angen dau aelod o bob Pwyllgor Archwilio ynghyd â dirprwyon. Byddai
Aelodau yn cael eu recriwtio ar gydbwysedd gwleidyddol a daearyddol. Gofynnwyd
am ddatganiadau o ddiddordeb cyn gynted ag y bo modd. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod, fel a nodir yn Atodiad 1. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.35
p.m. – 12.40 p.m. Cofnodion: Dim |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12.45pm. |