Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Colin
Hughes, Peter Owen, Dewi Owens ac Arwel Roberts wedi cyflwyno eu
hymddiheuriadau. Cafwyd
ymddiheuriadau hefyd gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Dir y
Cyhoedd. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys o flaen llaw. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 133 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cytunwyd bod
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 yn
gofnod cywir. Materion sy’n Codi O dan yr eitem yn
ymwneud ag Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (tudalen 8
paragraff 5) bydd yr adroddiadau Arholiadau Allanol Wedi’u Dilysu a’r
adroddiadau Asesiadau Athrawon a
gyflwynir i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2015 yn cynnwys data hanesyddol er mwyn eu
cymharu yn ôl y gofyn. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2014
fel cofnod cywir. Gyda chaniatâd y Pwyllgor dyma drefn y busnes yn cael ei newid yn y fan
hon. |
|
TCC A GWASANAETH TU HWNT I ORIAU ARFEROL PDF 91 KB Ystyried adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) sy’n ceisio safbwynt yr
Aelodau ar gynigion ar gyfer darpariaeth TCC a Gwasanaeth Tu Hwnt i Oriau
Arferol ledled y Sir i'w cyflwyno i’r Cyngor Sir. 09:35 – 10:05 Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor
ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
(PCDC) a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn
amlinellu’r cynigion, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, i dynnu gwasanaeth TCC y
Sir yn dilyn strategaeth ymadael a reolir. Atgoffodd
y PCDC yr aelodau bod adroddiad wedi dod i’r Pwyllgor Archwilio 12 mis yn ôl
ynghylch yr anghysondebau yn y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ar draws y sir
- gyda Sir Ddinbych yn darparu'r
gwasanaeth yng ngogledd y Sir, tra bod y Cynghorau Tref yn Ne'r sir gyda
darpariaeth eu hunain - gyda'r bwriad o weld a fyddai ehangu gwasanaeth Sir
Ddinbych ledled y sir yn opsiwn hyfyw. Mae'r amgylchedd ariannol wedi newid yn
sylweddol ers hynny. Yn y misoedd diwethaf mae'r Awdurdod wedi
mynd drwy'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd ac wedi ystyried y ddarpariaeth teledu
cylch cyfyng fel rhan o weithdai’r gyllideb. Er y cytunwyd bod y gwasanaeth yn
werthfawr nid oedd yn ofyniad statudol ac felly nid yn un y dylai Sir Ddinbych
ei ariannu. Dywedwyd wrth yr
Aelodau y byddai'r adroddiad a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis
Rhagfyr yn rhoi cynigion i archwilio opsiynau ar gyfer trosglwyddo'r gwasanaeth
teledu cylch cyfyng drosodd i drydydd parti ac i gytuno i dynnu cyllid y Cyngor
yn ôl ar gyfer y gwasanaeth yn weithredol o Ebrill 2016. Byddai hyn yn
galluogi archwilio a thrafod opsiynau eraill o gyflenwi'r gwasanaeth yn ystod
2015/16, gyda golwg ar ddod i gytundeb gyda thrydydd parti (neu grŵp o
randdeiliaid) i hwyluso trosglwyddiad di-dor o offer ac i sefydlu gwasanaeth
arall o safon erbyn mis Ebrill 2016.
Dywedwyd wrth yr
Aelodau, er bod Sir Ddinbych wedi cytuno mewn egwyddor i ymchwilio ymhellach i
hyfywedd uno gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roedd y gwaith hynny’n dal i
fod mewn camau cynnar iawn. Felly, byddai'n gynamserol i ddal yn ôl ar
unrhyw benderfyniadau i dorri’r gyllideb yn amodol ar y gwaith uno sy’n mynd
rhagddo, gan fod yn rhaid gwireddu arbedion effeithlonrwydd y gyllideb yn y
dyfodol agos er mwyn i Sir Ddinbych allu
darparu cyllideb gytbwys ar gyfer y blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Ar ôl trafod y goblygiadau yn fanwl, dyma aelodau'r Pwyllgor yn: ·
pwysleisio
pwysigrwydd y broses rheoli trosglwyddiad y Gwasanaeth cyfredol i ddarparwr
arall; ·
cydnabod
nad oedd y gwasanaeth newydd yn debygol o fod yn wasanaeth tebyg i debyg, ond
cytunwyd y dylai fod yn wasanaeth o ansawdd da; ·
cefnogi'r
cynnig i sefydlu gweithgor aml-asiantaeth i lunio a gweithredu strategaeth
ymadael. Byddai’r Grŵp hwn yn ogystal ag edrych ar y
ddarpariaeth TCC mewn mannau cyhoeddus cyfredol sydd ar gael yn y tair tref a
enwir hefyd yn edrych ar y defnydd cymunedol ehangach o TCC drwy Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol (PDC), yn archwilio gallu'r partneriaid 'ar y cyd’ i
ddarparu gwasanaeth teledu cylch cyfyng a photensial ffrydiau ariannu ee Elw
arian Cronfa Troseddau Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer ariannu unrhyw wasanaeth
amgen; ·
awgrymwyd
y dylai Archwilio (o bosib Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn Bwyllgor Archwilio
Trosedd ac Anhrefn dynodedig) fonitro datblygiad a gweithrediad y strategaeth
ymadael a throsglwyddiad y Gwasanaeth i drydydd parti; a ·
pwysleisio’r
angen i hysbysu'r wasg a'r cyfryngau yn rheolaidd, os yn bosibl mewn person,
ynglŷn â manylion cynigion y gyllideb er mwyn sicrhau bod y cynigion yn
cael eu hadrodd yn ffeithiol i drigolion Penderfynwyd: bod (i)y sylwadau uchod mewn perthynas â'r prosiect
Rhyddid a Hyblygrwydd a’r cynigion sy’n berthnasol i’r Gwasanaeth Teledu Cylch
Cyfyng yn cael ei adrodd i'r Cyngor Sir ar 9 Rhagfyr; a (ii) y cynnydd a wnaed wrth ddyfeisio, sicrhau a gweithredu strategaeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
COFRESTR RISG GORFFORAETHOL PDF 104 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) a darparu sylwadau ar ddiwygiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, a phenderfynu os yw’r risgiau a nodwyd yn cael eu rheoli’n briodol. 10:05 – 10:35 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Gwella Corfforaethol adroddiad Gofrestr Risg (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar y cyd ag arddangosiad o'r system Verto sy'n ei reoli. Tynnwyd sylw'r
Pwyllgor at: ·
adolygu
DCC017 – yn wreiddiol roedd y perygl yn gyfyngedig i'r Gwasanaeth TGCh ond sydd
bellach yn ymestyn i systemau TG eraill fel PARIS ac ati; ·
ychwanegu
DCC027 a DCC028 - sy'n gysylltiedig â'r toriadau cyllideb arfaethedig,
darpariaeth amserol o gyllideb gytbwys ac effaith y toriadau arfaethedig ar
wasanaethau a phreswylwyr yn y pen draw. Agwedd arall ar y toriadau a gododd yn
ystod y drafodaeth oedd effaith gwirioneddol y toriadau/newidiadau yn y tymor
hir ar breswylwyr o gymharu â'r canlyniadau disgwyliedig a amlinellir yn yr
Asesiadau o'r Effaith a luniwyd ar gyfer
pob toriad arfaethedig; ·
ychwanegu
DCC029 - codi o ddyfarniad Goruchaf Lys fod pobl dan ofal a goruchwyliaeth
barhaus y wladwriaeth o bosibl yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid – angen
hyfforddiant ar Swyddogion. Ystyriodd y
Pwyllgor wybodaeth am y prif newidiadau i'r Gofrestr Risg Corfforaethol yn
dilyn ei adolygiad diweddar. O ganlyniad, dyma’r Pwyllgor: Yn
Penderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod yn nodi’r hyn a
ddilëir, ychwanegiadau a newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, a (ii) bod cylch gorchwyl - Grŵp Gorchwyl a
Gorffen y Pwyllgor Archwilio a sefydlwyd i archwilio effaith y toriadau yn y
gyllideb ar y gallu i ymestyn y Cynllun Corfforaethol i gynnwys y weithred o
archwilio’r 'effaith y mae toriadau yn y gyllideb yn ei gael ar Wasanaethau’r
Cyngor', a gwerthusiad o'r canlyniadau gwirioneddol o doriadau o'i gymharu â'r
asesiad cychwynnol o'u heffaith. |
|
PERFFORMIAD CWYNION EICH LLAIS – CHWARTER 1 A CHWARTER 2 PDF 92 KB Archwilio perfformiad Gwasanaethau i gydymffurfio â
phroses gwynion y Cyngor. 10:45 – 11:15 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (PCChA) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a hysbyswyd y Pwyllgor fod gwybodaeth reoli gan 'Eich Llais' yn cael
ei ddefnyddio i wella gwasanaethau.
Eglurodd swyddogion fod
perfformiad cyffredinol yn yr ail chwarter yn dangos bod 88% o gwynion wedi
cael eu trin yng Ngham 1 a Cham 2, o’i gymharu â 94% a 91% yn y drefn honno ar
gyfer chwarter 2. Mae hyn yn golygu bod cyflawni'r targed diwedd blwyddyn o 95%
yn annhebygol. Gwybodaeth wedi
ei gynnwys yn Atodiad 2 i'r adroddiad ar y rhesymau pam nad yw Priffyrdd ac
Isadeiledd wedi cwrdd â'r targed perfformiad a nodwyd yn y polisi yn 'Eich
Llais', tra bod y manylion yn ymwneud â oedi wrth ddelio â chwynion a
gyflwynwyd yn y Gwasanaeth Cyllid ac Asedau
wedi'u dosbarthu cyn y cyfarfod. Yn ystod y
drafodaeth, daeth yn amlwg y byddai rhai cwynion yn dod y tu allan i derfynau
amser ymateb oherwydd y diffyg ailgyfeirio pan fyddai’r derbynnydd gwreiddiol
allan o'r swyddfa - ar hysbysiadau e-bost awtomataidd a negeseuon post llais. Ar gyfer
hysbysiadau e-bost allan o’r swyddfa, awgrymwyd y dylid cynnwys rhif
cyswllt/enw cyswllt arall sydd ar gael ar y neges, i helpu'r cwsmer ailgyfeirio
eu ymholiad os oes angen ymateb cynt. Defnyddir y broses hon ar hyn o bryd mewn
rhai adrannau i roi gwybod i gwsmeriaid y byddai'r ymholiad yn derbyn sylw ar
ôl i'r cyswllt ddychwelyd i’r swyddfa. Awgrymodd y Prif Weithredwr mai dim ond
mewn amgylchiadau eithriadol y dylid gwneud i ymholwyr aros am ymateb, lle
byddai angen cymorth arbenigol ac ati. Mae problemau
gyda negeseuon post llais yn ddeublyg. Naill ai tydi negeseuon ddim yn cael eu
cofnodi gan y derbynnydd yn rheolaidd neu bod y derbynnydd i ffwrdd yn sâl a
bod y galwr heb unrhyw ffordd o wybod
nad oes neb yn gallu gwrando ar eu neges. Awgrymwyd bod y cyfleuster post llais
yn cael ei dynnu yn gyfan gwbl a bod galwadau ffôn yn cael eu hailgyfeirio pan
fydd gweithiwr allan o'r swyddfa. Mae ateb ymholiad
gan aelod ynglŷn â beth i'w wneud os nad yw adran yn ymateb i fater,
cynghorir yr PCChA i gysylltu â'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol. Cydnabuwyd bod
perfformiad wrth ymateb i gwynion wedi gostwng. Gofynnodd yr aelodau am y
wybodaeth ddiweddaraf ym mhob achos lle nad yw targedau wedi'u cyflawni ynghyd
ag eglurhad ynghylch pam y digwyddodd hynny a pha fesurau sydd wedi eu rhoi ar
waith i atal hynny rhag digwydd eto.
Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau a wnaed: (i) derbyn y rhesymau a roddwyd am yr oedi wrth
ddelio â chwynion penodol ac fel arall yn nodi perfformiad wrth ddelio â
chwynion eraill o dan Weithdrefn Gwynion y 'Eich Llais'; a (ii) gwneud cais bod adroddiadau monitro
perfformiad yn y dyfodol yn cynnwys esboniad cynhwysfawr ynghylch pam nad yw
targedau wedi'u cyrraedd wrth ddelio â chwynion penodol, y rhesymau dros beidio
â chydymffurfio, mesurau a gymerwyd i unioni'r methiannau ac i sicrhau y bydd
cwynion yn y dyfodol yn cael eu trin o fewn amserlen benodedig |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 97 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am
adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11:15 – 11:40 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (wedi’i anfon yn flaenorol)
yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol fel y manylir yn
Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer
ymgynghoriad perthnasol:- ·
Polisi
Enwi Strydoedd i gael ei symud i gyfarfod mis Ionawr;
PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr ychwanegiadau a’r cytundebau uchod i gymeradwyo’r Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol. |
|
YSTADAU AMAETHYDDOL Ystyried adroddiad cyfrinachol (copi ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar berfformiad Ystadau dan y strategaeth gyfredol, a sylwadau'r aelodau i'w hystyried wrth lunio strategaeth newydd ar gyfer yr Ystâd. 12:00 – 12:30 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: GWAHARDD Y
WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD o
dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w
gwahardd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail fod
tebygrwydd y byddai gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 13,
14, 15 ac 16 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar berfformiad yr Ystad Amaethyddol o ran cyflawni ei strategaeth
bresennol i'r Pwyllgor. Eglurodd bod yna
ddau fath o gytundebau tenantiaeth: ·
Deddf
Daliadau Amaethyddiaeth 1986 a oedd yn darparu ar gyfer tenantiaeth amaethyddol
llawn gyda llai o reolaeth o bwynt y Landlord, yn draddodiadol yn cwmpasu
cytundeb tenantiaeth tymor hir; ·
Deddf
Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu Tenantiaethau Busnes Fferm i’r rhain sydd â
meddylfryd mwy masnachol, lle mae cyfran deg o’r cyfrifoldeb rhwng y landlord
a’r tenant. Eglurwyd mai etifeddiaeth yw’r daliadau amaethyddol y mae’r rhan fwyaf o
awdurdodau lleol wedi’i etifeddu gan awdurdodau rhagflaenol a oedd wedi
buddsoddi mewn tir ar ddiwedd y Rhyfel Byd 1 i ddarparu cyfle yn y byd
amaethyddol i filwyr oedd yn dychwelyd adref, ac hefyd fel ffordd o fwydo’r
boblogaeth. Cydnabuwyd bod
natur y diwydiant amaethyddol, lle mae gwerth yr asedau yn llawer uwch nag
unrhyw incwm y gellid ei gael o unrhyw
fusnes ffermio yn golygu bod yn rhaid i
denantiaethau amaethyddol fod yn
drefniadau tymor canolig i hirdymor.
Mae gwerth
cyfalaf yr Ystad yn cael ei effeithio yn sylweddol gan y nifer o denantiaethau
yn eu lle hy meddiant gwag yn cynyddu gwerth yn sylweddol. Cytundebau
tenantiaeth yn cael eu hadolygu ac wrth iddynt gael eu rhyddhau mae’r
tir/ffermydd yn cael eu gwerthu. O dan y
strategaeth bresennol (a fabwysiadwyd yn 2010) roedd Sir Ddinbych wedi gwneud
cyfalaf o oddeutu £1.9m trwy werthu unedau amaethyddol heb fod yn hyfyw. Rhagwelwyd
y byddai dau warediad arall yn cael eu rhoi ar y farchnad agored erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Rhan o'r
derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd hyd yma wedi cael eu hail-fuddsoddi yn yr
Ystad i fynd i'r afael ag Iechyd a Diogelwch, gwaith cynnal a chadw brys neu
welliannau i swyddogaethau gweithredol yn hytrach na newid edrychiad. Hysbyswyd y
Pwyllgor (a amlinellir mewn atodiad i'r adroddiad) y byddai'r gwaith cyfalaf a
nodwyd ar gyfer buddsoddi yn destun cais ac archwilio gyda phrosiectau cyfalaf
eraill i'r Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG). Fodd bynnag, nid oedd unrhyw
sicrwydd y byddent yn llwyddiannus, yn enwedig yng ngoleuni cyfyngiadau
cyllidebol. Rhoddwyd yr
ymatebion canlynol i ymholiadau y Pwyllgor: ·
y
cais am gyllid cyfalaf arfaethedig yn ymwneud â phrofi trydanol ar gyfer gwaith
iechyd a diogelwch ar yr ystad gyfan; ·
ystyried
cael gwared ar dir fferm wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol pan fydd ar
gael; ·
ac
eithrio olyniaeth o'r tad i'r mab, ni fu unrhyw denantiaid newydd yn y
blynyddoedd diwethaf; ·
mae
cyfuno wedi bod ar gyfer tir rhai ffermydd 'i'w gwneud yn fwy hyfyw; ·
tir/eiddo
fel arfer yn cael ei werthu gyda chymal adfachu sy'n sicrhau bod canran yn cael
ei dalu yn ôl i'r Cyngor os yw'r eiddo'n cael ei ailwerthu ar werth uwch o fewn
cyfnod penodol o amser; ·
penodi
prisiwr cymwys i staff Ystadau wedi cynyddu’r capasiti i ddelio â'r llwyth
gwaith ac i reoli'r Ystad. Y prisiwr wedi gwneud gwaith ar yr incwm
rhent o’r Ystad ac wedi dod i'r casgliad bod y rhent a godir yn unol â’r hyn a
godir ar ystadau cyhoeddus a phreifat; ·
cafodd
cwestiynau gan yr aelodau yn ymwneud â daliadau unigol eu hateb hefyd gan
swyddogion. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y
Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 11:40 – 12:00 Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Richard Davies wedi mynychu'r Her Gwasanaeth Gwybodaeth Busnes a
Moderneiddio y diwrnod cynt ac y byddai'n rhannu'r adroddiad pan oedd ar gael. Adroddodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu cyfarfod â’r Gwasanaeth
Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Daeth y cyfarfod
i ben am 12:15pm |