Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Gan y byddai’r
Cadeirydd – y Cynghorydd David Simmons yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer y cyfarfod
llywyddodd yr Is-Gadeirydd - y Cynghorydd Arwel Roberts yn ystod rhan gyntaf y
cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr
Meirick Davies, Colin Hughes a Dewi Owens ynghyd â'r Aelodau Cyfetholedig Debra
Houghton a Nicola Lewis |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
ddatganiad o ddiddordeb personol neu fuddiannau sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 146 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2014 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2014. Materion yn codi - Tudalen 8 - Eitem
8 Strategaeth Ystâd Amaethyddol - Dywedodd y Cydlynydd Archwilio fod copi o
adroddiad Fforwm Gwledig CLlLC 'Ffermydd Sirol Cymreig', a ddosbarthwyd i aelodau
cyn y cyfarfod diwethaf wedi'i anfon at aelodau'r Gweithgor Ystâd Amaethyddol
ar gais yr Aelod Arweiniol, Y Cynghorydd Huw Jones. Byddai
adroddiad ar berfformiad yr Ystâd Amaethyddol yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor
ym mis Tachwedd a byddai’r strategaeth hirdymor ddrafft ar gyfer yr Ystâd
Amaethyddol yn cael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2015. Tudalen 10 -
Eitem 9 adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2013/14 –
Roedd y wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr aelodau ar y Prosiect Taith i Waith
wedi ei chynnwys ym mrîff gwybodaeth y Pwyllgor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2014
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau ynghylch cynnydd a wnaed
wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn dilyn arolwg 2012. 9.35 a.m. 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd a
wnaed wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn yn dilyn arolwg 2012 ers yr
adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr 2014. Atgoffwyd yr Aelodau am ganlyniad cadarnhaol yr
arolwg gyda dim ond dau argymhelliad ar gyfer gwella ymhellach - (1)
Gwella cywirdeb Asesiadau Athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (2)
Adnabod pob gwasanaeth plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych a sefydlu system
effeithiol i fesur effaith y gwasanaethau hyn i gynorthwyo’r Awdurdod a’i
bartneriaid i benderfynu a yw’r gwasanaethau hyn yn cynnig gwerth am arian. Adroddodd
y Pennaeth Addysg am y gwaith a wnaed i fynd i'r afael â'r argymhelliad cyntaf
ac roedd yr aelodau'n falch o nodi bod y canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 a
ddilyswyd yn dangos bod yr argymhelliad hwn wedi derbyn sylw. Roedd y Dangosydd Pwnc Craidd wedi codi am y seithfed
flwyddyn yn olynol - gan godi o 75% yn 2013 i 83.3% yn 2014. Roedd yn bwysig i'r Cyngor sicrhau bod canlyniadau
disgyblion ar ddiwedd addysg gynradd ac uwchradd yn cael eu cynnal a'u gwella. Yng ngoleuni'r canlyniadau gwell cytunodd y
Pwyllgor y gellid monitro'r argymhelliad hwn yn y dyfodol drwy archwilio
canlyniadau arholiadau allanol ac asesiadau athrawon bob blwyddyn, sef rhywbeth
y mae’r Pwyllgor yn ei wneud yn yr hydref bob blwyddyn.
Eleni
byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Hydref y Pwyllgor, a
byddai cynrychiolydd o GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol) hefyd yn
bresennol i gyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd.
Wrth
ymateb i faterion a godwyd gan yr Aelod Cyfetholedig Dawn Marjoram, cadarnhaodd
y Pennaeth Addysg fod ysgolion arbennig yn cael eu cefnogi yn yr un modd o ran
archwilio a systemau ar waith, ond nid yw data yn cael ei fesur yn erbyn
ysgolion prif ffrwd. Roedd yn derbyn bod anawsterau o ran y
data cymharol ac yn cydnabod bod ysgolion arbennig yn gweithio'n galed i
olrhain cynnydd disgyblion. Derbyniodd
y Pwyllgor fod yr ail argymhelliad yn llawer mwy anodd i'w ddiffinio a’i fesur. Dywedodd y Swyddogion, mewn ymgais i fynd i'r afael â'r
argymhelliad hwn fod ymarfer mapio ar y gweill i lunio cronfa ddata o
wasanaethau i blant a phobl ifanc yn y sir ac i nodi unrhyw fylchau yn y
ddarpariaeth. Codwyd pryderon ynghylch y diffyg darpariaeth yn ardal
Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y rhai sydd ag anghenion arbennig a chytunodd
swyddogion i ystyried y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion
arbennig yn yr ardal honno, gan gynnwys opsiynau i'w cynnwys mewn
gweithgareddau plant ac ieuenctid presennol.
Byddai
holiaduron yn cael eu cwblhau gan y sefydliadau ym mhresenoldeb swyddogion y
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a fyddai'n pwysleisio'r angen am atebion
onest am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallai
unrhyw fylchau a nodwyd gael eu hystyried ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Wrth ymateb i gwestiynau pellach ymhelaethodd y
swyddogion ar y broses fonitro sydd ar waith, cyfranogiad sefydliadau partner
eraill o fewn y broses a'r amserlenni ar gyfer casglu a dadansoddi data. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd hyrwyddo argaeledd
gwasanaethau a chytunwyd i dderbyn adroddiad pellach ar ôl i'r gwaith mapio
gael ei gwblhau. PENDERFYNWYD - (a) nodi’r wybodaeth a
ddarparwyd o ran cynnydd wrth fynd i'r afael ag argymhellion Estyn; b) yn sgil y gwelliant a gynhaliwyd yng nghywirdeb asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, nid oedd angen adroddiadau annibynnol pellach ar y mater hwn. Yn y dyfodol byddai’r agwedd hon yn cael ei monitro drwy'r adroddiad blynyddol a gyflwynir i'r Pwyllgor ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
FFRAMWAITH ADNODDAU DYNOL PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau AD (copi ynghlwm) sy'n ymwneud â risg nad
yw'r Fframwaith AD yn cefnogi nodau'r sefydliad ac yn rhoi diweddariad ar y
cynnydd a wnaed wrth gyflawni'r Cynllun Gwella AD a chynlluniau yn y dyfodol i
liniaru'r risg hwn. 10.10 a.m. 10.40 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ymwneud â'r risg nad oedd y
Fframwaith AD yn cefnogi amcanion y sefydliad ac yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Gwella AD a
chynlluniau yn y dyfodol i liniaru'r risg hwn. Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd ychydig o gefndir a chyd-destun i'r adroddiad a
dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol wrth y Pwyllgor am y mesurau a
gymerwyd gan y Gwasanaeth AD yn ystod y deunaw mis diwethaf i wella'r
gwasanaeth craidd ac i ddarparu gwasanaeth gwell ar gyfer y defnyddiwr
gwasanaeth. Nododd yr Aelodau bod 90% o'r tua 360 o gamau gweithredu yn y Cynllun
Gwella AD bellach wedi eu cyflwyno. Adroddodd y Rheolwr Archwilio ar adolygiad dilynol diweddar o'r gwasanaeth
a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn hir, a
fyddai'n rhoi sicrwydd bod y Gwasanaeth wedi gwella ac nad oedd unrhyw feysydd
newydd o bryder. Roedd ailstrwythuro gwreiddiol y Gwasanaeth a'i fodel darparu wedi bod yn
rhy uchelgeisiol gyda disgwyliadau rhy uchel gan nad oedd y systemau TG
perthnasol ar waith i gyflwyno'r strategaeth. Serch hynny, roedd staff AD yn ymroddedig ac yn
barod i symud ymlaen i gam nesaf y cynllun gwella a oedd yn canolbwyntio ar
reolwyr a'r cymorth a'r offer y mae eu hangen arnynt. Cydnabuwyd hefyd, er bod y System Rheoli Cofnodion Electronig a Dogfennau
(EDRMS) wedi golygu ffordd newydd o weithio ar gyfer pob aelod o staff y
Gwasanaeth, roedd wedi arwain at ddull mwy diogel o gadw gwybodaeth bersonol. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau'r aelodau yn
cadarnhau'r defnydd llwyddiannus o EDRMS a chynlluniau yn y dyfodol i
ddefnyddio capasiti presennol mewn systemau TG eraill. O ran hyfforddiant roedd gan y Gwasanaeth
gyfanswm o 35 aelod o staff a hyfforddwyd bob pythefnos, gyda staff a oedd yn
absennol oherwydd salwch neu wyliau yn elwa o 'gynllun cyfeillio' er mwyn dal i
fyny ar unrhyw hyfforddiant a gollwyd. O ran arbedion posibl o fewn y Gwasanaeth i
gyfrannu at raglen effeithlonrwydd corfforaethol y Cyngor, dywedodd y
swyddogion y byddai opsiynau arbedion posibl yn cael eu cyflwyno i aelodau mewn
un o'r cyfarfodydd cyllideb a raglennwyd. Er bod y gwelliannau a wnaed o fewn y Gwasanaeth
â'r potensial i leihau'r sgôr risg gweddilliol ar y Gofrestr Risg
Gorfforaethol, dywedodd y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd eu bod yn fodlon i’r Fframwaith AD
aros ar y Gofrestr hyd y gellir rhagweld gan y byddai hyn yn gwarchod rhag
hunanfoddhad. Dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Pherfformiad hefyd fod y Gwasanaeth AD yn ymddangos fel un o'i blaenoriaethau
yn y Cynllun Corfforaethol. Llongyfarchodd y Pwyllgor y Gwasanaeth a'r Rheolwr
Gwasanaethau Adnoddau Dynol am y gwelliannau a gyflawnwyd hyd yma a - PENDERFYNWYD, ar
ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd am y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael
â'r risg a nodwyd yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol, gofyn bod adroddiad
gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r aelodau mewn chwe mis yn amlinellu'r cynnydd
a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Gwella AD a'r camau gweithredu a nodwyd ac a
weithredwyd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad yn dilyn yr Archwiliad Mewnol. Ar yr amser hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer
lluniaeth. |
|
ADRODDIADAU IECHYD A DIOGELWCH PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwybodaeth Corfforaethol (copi ynghlwm) yn rhoi
trosolwg o’r materion sy’n gysylltiedig ag adrodd am ddigwyddiadau iechyd a
diogelwch a’r camau a gymerir i ymdrin â nhw. 10.55 a.m. 11.25 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwybodaeth
Corfforaethol adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi trosolwg o'r
materion sy'n gysylltiedig ag adrodd am ddigwyddiadau iechyd a diogelwch a'r camau
a gymerir i ymdrin â hwy. Gofynnwyd am yr adroddiad gan y
Pwyllgor Archwilio yn dilyn ystyried yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol ym mis Mai 2014. Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd
gwahodd y darparwr meddalwedd (Civica) i fynychu'r cyfarfod ystyriwyd wedyn ei
bod yn fwy priodol i adolygu ac yna yn datrys y materion yn fewnol. Darparwyd rhywfaint o wybodaeth
gefndir yn ymwneud â datblygu’r system adrodd am ddigwyddiadau iechyd a
diogelwch ynghyd â chyfranogiad y Tîm System Rheoli Cofnodion Electronig a Dogfennau (EDRMS); TGCh
Corfforaethol, a Civica yn y broses honno. Rhoddwyd gwybod i'r
Pwyllgor am y camau a gymerwyd gyda golwg ar fynd i'r afael â'r problemau a
gafwyd gyda chategoreiddio mathau o ddamweiniau ar adran Iechyd a Diogelwch y
System EDRM, a arweiniodd at nifer uchel o ddamweiniau a ddosbarthwyd fel
'Arall' ac ‘Amherthnasol’ yn cael eu hadrodd ar adroddiadau ystadegol rheolaidd
y Gwasanaeth. Arweiniodd hyn at swyddogion yn gorfod edrych ar bob
cofnod er mwyn nodi tueddiadau neu broblemau cyn y gallent ddechrau mynd i'r
afael â hwy. Dywedodd y Swyddogion fod y swyddogion Iechyd a
Diogelwch, EDRMS a TG wedi gweithio'n agos ers i'r Pwyllgor fynegi pryderon ynghylch
y broblem ym mis Mai. Nodwyd ers hynny mai’r ffurflen
gwe oedd gwraidd y broblem. Byddai'r categorïau 'Arall' ac
‘Amherthnasol’ yn cael eu tynnu oddi ar y ffurflen a byddai meysydd ychwanegol
yn cael eu cynnwys er mwyn galluogi adroddiadau manwl a diffiniol. Byddai rhai enghreifftiau o adrodd am achosion 'Arall'
neu ‘Amherthnasol’ yn digwydd hyd nes y bydd y system well yn gwbl weithredol
ac y byddai’r cyfnod adrodd cyfan yn dechrau ar ôl gweithredu'r system well yn
llawn. Cyfeiriwyd hefyd at nifer o faterion eraill sy'n
gysylltiedig â’r system a chytunwyd ar gamau gweithredu i ymdrin â hwy i'w
cwblhau erbyn mis Hydref 2014 Mewn ymateb i gwestiynau
cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod camau
wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r materion wedi bod yn gyflym ar ôl cynnwys
y Pwyllgor ac roedd yn hyderus y byddai'r problemau a nodwyd yn cael eu datrys
yn foddhaol ac yn amserol gan sicrhau system addas at y diben. Byddai'r costau ychwanegol ar gyfer gwella ac ymestyn y
system EDRMS yn cael eu hariannu o’r gyllideb EDRMS bresennol. Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a'r camau
gweithredu er mwyn sicrhau y darperir data ystyrlon o ran cofnodi digwyddiadau
iechyd a diogelwch ac wedi hynny - PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
camau a gymerwyd hyd yma i ganfod y materion sy'n gysylltiedig ag adrodd am y
digwyddiadau iechyd a diogelwch a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael
â hwy. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 96 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar faterion
perthnasol. 11.25 a.m. – 11.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
Adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad am faterion
perthnasol. Gofynnodd y
Cynghorydd Arwel Roberts bod y Polisi Cludiant Ysgol yn eitem ar gyfer
archwilio yn y dyfodol ac adroddodd y Prif Weithredwr ar feysydd o'r polisi sy’n
cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Cytunwyd bod y polisi newydd drafft yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor archwilio cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo.
Nododd Aelodau hefyd y
cynnig bod yr holl eitemau addysg yn y dyfodol yn cael eu hystyried gan y
pwyllgor hwn. Rhoddodd y
Cydlynydd Craffu ddiweddariad i'r aelodau ar y Grŵp Tasg a Gorffen
Gwasanaethau Oedolion a Gofal Cymdeithasol a datblygu arfarniad opsiynau ar
gyfer darparu yn y dyfodol. Byddai'r Grŵp yn cyfarfod am y tro olaf yr
wythnos ganlynol, er mwyn cwblhau eu hadroddiad. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd am y cynnig i
sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy i archwilio amryw faterion yn
ymwneud â thai fforddiadwy. Gofynnwyd i'r Pwyllgor benodi cynrychiolydd a
dirprwy ar y Grŵp. PENDERFYNWYD - (a) y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1
yr adroddiad, a (b) bod
y Cynghorwyr Colin Hughes a Geraint Lloyd-Williams yn cael eu penodi'n
gynrychiolydd a dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor yn y drefn honno ar y
Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.50
a.m. – 11.50 a.m. Cofnodion: Adroddodd cynrychiolwyr y Pwyllgor ar eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn - Adroddodd y Cynghorydd Arwel Roberts am gyfarfod gyda
Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol i drafod perfformiad sy'n ymwneud â chynnal cynadleddau amddiffyn
plant a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Canmolodd y gwaith sy'n cael ei wneud ac roedd yn
fodlon bod staff yn gwneud gwaith ardderchog. Tynnodd y
Cydlynydd Archwilio sylw'r aelodau at friff gwybodaeth y Pwyllgor (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi datganiad gan yr Aelod Arweiniol lle
eglurodd wrth ymdrechu i gydymffurfio â dangosyddion perfformiad, y byddai
achlysuron weithiau pan oedd yn fwy pwrpasol i oedi ychydig yn hytrach na symud
ymlaen i gynhadledd heb gyfranogiad chwaraewr allweddol. Nododd y Pwyllgor eu bod yn fodlon â’r eglurhad a
roddwyd. Dywedodd y Cynghorydd Gareth Sandilands fod y Grŵp
Buddsoddi Strategol wedi cyfarfod i drafod y Rhaglen Moderneiddio Addysg gyda
phopeth yn mynd yn ôl y cynllun. Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Davies ei bresenoldeb yn
y Grŵp Tasg a Gorffen Oedolion a Gofal Cymdeithasol (roedd diweddariad
wedi ei ddarparu o dan yr eitem flaenorol). PENDERFYNWYD y dylid nodi’r adroddiadau llafar oddi wrth aelodau
a fu’n mynychu cyfarfodydd. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |