Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd A. Roberts fel Is-Gadeirydd am y flwyddyn nesaf.

 

Yn absenoldeb y cadeirydd, y Cynghorydd D. Simmons, yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd A. Roberts gadeiriodd y cyfarfod.   Anfonwyd dymuniadau gorau'r Pwyllgor i'r Cynghorydd D. Simmons am adferiad llwyr a buan.

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni wnaeth unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 121 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2014 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 1 Mai, 2014.

 

Materion yn codi: -

 

5.  Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol - Hysbyswyd yr Aelodau y cytunwyd na fyddai'n briodol i Civica gael eu gwahodd i gyfarfod mis Gorffennaf o'r Pwyllgor i drafod problemau o ran adrodd am ddigwyddiad Iechyd a Diogelwch.   Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod gan swyddogion y Cyngor yn amlinellu'r problemau a gafwyd a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w cywiro.

 

PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir yn amodol ar yr uchod.

 

 

6.

PERFFORMIAD CWYNION EICH LLAIS – CHWARTER 4 pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi trosolwg o'r adborth a gafwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Sir Ddinbych 'Eich Llais' a thrwy weithdrefn statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod Chwarter 4 2013/14.

9.35 a.m. - 10.10 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (PCChA), oedd yn cynnig dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid Cyngor Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ a thrwy’r weithdrefn gwasanaethau cymdeithasol statudol ar gyfer Chwarter 4 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â materion perfformiad wrth ddelio â chwynion.  Roedd y penawdau ar gyfer C4 wedi eu darparu, gyda'r Atodiadau ar gyfer yr adroddiad yn rhoi manylion pellach.  Manylodd y Swyddog Cwynion Corfforaethol y prif benawdau a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd y PCChA i gwestiynau gan Aelodau a chadarnhaodd ar gyfer 2014/15 ymlaen y byddai’r categori 'arall' ar gyfer cwynion yn dod i ben.  Byddai'r holl gwynion yn y dyfodol yn cael eu dyrannu i un o wasanaethau'r Cyngor hyd yn oed os yw'r gŵyn yn croesi dau neu fwy o wasanaethau'r Cyngor.  Byddai'r dyraniad yn cael ei wneud yn dilyn trafodaethau gyda phenaethiaid gwasanaeth priodol. 

 

Yn dilyn trafodaeth ar y Gwasanaeth Rheoli Cyswllt Cwsmer a’r gwasanaeth EMMA, a deall nad yw nifer uchel o Gynghorwyr yn defnyddio'r system EMMA, cytunodd y Cynghorydd Richard Davies i weithio gyda'r Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg gyda'r bwriad o gynyddu ymgysylltiad Aelodau gyda'r system newydd.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai sesiwn ar EMMA yn cael ei chynnal ar gyfer yr holl Aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol. 

 

Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol swyddogaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol mewn perthynas â'r adroddiad ddwywaith y flwyddyn ar y broses gwynion i'r Pwyllgor hwnnw a dywedodd wrth y pwyllgor Archwilio mai ei rôl oedd archwilio a monitro meysydd o bryder o fewn gwasanaethau a nodwyd drwy'r broses gwynion. 

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunodd y PCChA y gallai'r Pwyllgor dderbyn adroddiadau gwybodaeth misol am berfformiad Gwasanaethau wrth ddelio â chwynion.  Yna, byddai'r adroddiadau misol yn cael eu defnyddio i lywio cynnwys yr adroddiadau chwarterol i'r Pwyllgor, gyda’r adroddiadau hynny yn canolbwyntio ar un neu ddau o feysydd gwasanaeth sy’n peri’r pryder mwyaf.  Eglurwyd y byddai hyn yn cynorthwyo gwasanaethau i wella eu perfformiad wrth ddelio â chwynion ac wrth ddatrys materion problemus.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl bellach:-

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)              yn amodol ar y sylwadau uchod, fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ar berfformiad gwasanaethau wrth ddelio â chwynion, a

(b)              bod y Pwyllgor yn cael adroddiadau gwybodaeth misol ar berfformiad Gwasanaethau wrth ddelio â chwynion a bod yr adroddiadau misol hyn yn llywio cynnwys yr adroddiadau chwarterol i'r Pwyllgor, gyda’r adroddiadau hynny yn canolbwyntio ar un neu ddau o feysydd gwasanaeth sy’n peri’r pryder mwyaf.

 

 

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2013/14 pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwelliant Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth y Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2013/14.

 

10.10 a.m. - 10.45 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd Chwarter 4 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y RhGC yr adroddiad a oedd yn pwysleisio'r angen i aelodau a swyddogion ddeall y cynnydd a wnaed gyda'r gwaith o gyflawni canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol (CC).  Roedd adrodd rheolaidd yn ofyniad monitro hanfodol y CC er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd i wella.

 

Roedd crynodeb o'r pedwar ar ddeg o ganlyniadau yn y CC wedi ei gyflwyno yn yr Atodiad i'r adroddiad.  Dangosodd yr adroddiad fod cynnydd derbyniol yn cael ei wneud o ran cyflwyno'r CC.  Hon oedd trydedd flwyddyn y CC 5 mlynedd a chydnabuwyd y byddai’n cymryd hirach i wella rhai meysydd nag eraill.  Fodd bynnag, deallwyd sut y dylai’r daith tuag at welliant edrych ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad yn yr adroddiad.

 

Roedd rhai o'r eithriadau perfformiad allweddol sydd i'w cael yn y CC ar gyfer C4 wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac fe'u crynhowyd ar gyfer y Pwyllgor.  Roedd adroddiad llawn o'r 7 Blaenoriaeth yn y CC wedi ei gynnwys yn yr Atodiad.

 

Trafododd yr Aelodau berfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2013/14.  Cynhaliwyd trafodaethau o amgylch penderfyniad y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol i symleiddio'r nifer o brosiectau a dangosyddion sy'n ymwneud â datblygu'r economi leol.  Y rhesymeg yw y byddai'n well i ganolbwyntio ymdrechion ac adnoddau tuag at gyflawni prosiectau cynaliadwy o ansawdd da yn hytrach na nifer uwch o brosiectau llai effeithiol llai. 

 

Dywedodd Swyddogion bod prosiectau cludiant ar raddfa fawr, megis trydaneiddio rheilffordd arfordir Gogledd Cymru yn awr yn cael eu gyrru gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac felly ni fyddai'n ddefnydd da o adnoddau prin i ddyblygu’r gwaith hwn, yn enwedig gan fod Arweinydd pob Cyngor ar Dasglu LlC.  Roedd trafodaethau hefyd wedi digwydd o amgylch y safleoedd a glustnodwyd ar gyfer datblygiad ar safleoedd tir llwyd yn y dyfodol ac ar hyn o bryd. 

 

Cododd yr Aelodau bryderon o ran y gostyngiad ym mherfformiad y Cyngor wrth leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET).  Er bod hyn wedi cael statws blaenoriaeth teimlai'r Pwyllgor y byddai'n bwysig edrych ar y mater yn fanylach. 

 

Trafodwyd ansawdd priffyrdd y Cyngor, a chyfeiriwyd yn arbennig at ffyrdd gwledig a gweithredu ei strategaeth ymyl palmant isel.  O ran perfformiad canfyddedig wrth ymdrin ag achosion o dipio anghyfreithlon eglurodd y HIA ei fod wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod yr anghysondeb yn ymwneud â chofnodi’r digwyddiadau hyn, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau y byddent yn edrych ar y mater.  Roedd y Cadeirydd hefyd wedi ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ar y mater. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.L. Feeley ei bod fel Aelod Arweiniol eisoes wedi trefnu cyfarfod gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i drafod y perfformiad o ran cynnal cynadleddau amddiffyn plant.  Pwysleisiwyd er nad oedd y dangosydd wedi ei fodloni ar bob achlysur nad oedd o reidrwydd yn golygu nad yw anghenion y plentyn wedi eu bodloni.  Cytunodd y Cynghorydd Feeley i adrodd yn ôl am ganlyniad ei chyfarfod gyda'r Pennaeth Gwasanaeth i Aelodau. 

 

Sefydlwyd Gweithgor gyda'r bwriad o gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael yn y Sir, a rhagwelwyd y byddai gweithredu diweddar polisi newydd absenoldeb oherwydd salwch yn gwella perfformiad yn y maes hwn ymhellach.  Ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol gofynnodd yr Aelodau ei fod yn cael ei gwneud yn glir bod yr adroddiad a gyflwynwyd iddynt ar ffurf  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

STRATEGAETH YSTÂD AMAETHYDDOL pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi wedi’i amgáu) ar y weledigaeth strategol tymor hir ar gyfer daliadau Ystâd Amaethyddol y Cyngor.

 

10.55 a.m. - 11.30 am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Eiddo (RhE) ar ddatblygu cynllun strategol tymor hir ar gyfer daliadau Ystâd Amaethyddol y Cyngor a'r materion llywodraethu ar gyfer cyflwyno'r strategaeth, wedi'i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o adroddiad ar yr Ystâd ym mis Mawrth, ac mewn ymateb i bryderon a godwyd yn y cyfarfod hwnnw, roedd y Gweithgor Ystâd Amaethyddol wedi cyfarfod i drafod y gwaith o ddatblygu strategaeth tymor hir ddiwygiedig ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor i gadw’r ystâd, roedd diben a nodwyd yr ystâd wedi’i alinio i gyflawni Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor a Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor 2013/23.  Roedd copi o'r adroddiadau a ystyriwyd gan y Gweithgor wedi eu cynnwys fel atodiad i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.

 

Roedd y Gweithgor wedi penderfynu y dylai'r rhaglen adleoli a gwaredu presennol barhau gan gynhyrchu derbyniadau cyfalaf a ragwelir o £1.3m erbyn dechrau 2015, ac mae hyn yn cyflwyno canlyniadau'r strategaeth bresennol yn effeithiol.  Cytunwyd hefyd bod yr ystâd amaethyddol sy'n weddill yn bell o fod yn gynaliadwy o ystyried y lefelau o fuddsoddiad sydd ei angen i ddod â'r adeiladau i gyflwr rhesymol (tua £1.5 - £2 filiwn) ac, o ystyried y blaenoriaethau cystadleuol ar gyfer buddsoddi, nid oedd cadw ystâd amaethyddol sylweddol o faint yn opsiwn hyfyw.

 

Cytunwyd mai'r unig opsiwn realistig oedd parhau gyda rhaglen waredu wedi’i blaenoriaethu a’i thargedu wedi’i halinio â ffocws ar gynhyrchu incwm a chynaliadwyedd.   Roedd opsiynau ar sut y gallai hyn gael ei wneud a gwybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer yr Ystâd o fis Ebrill 2015 ymlaen wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a'r atodiad. 

 

Gofynnodd y swyddogion y dylai unrhyw faterion gweithredol sy'n ymwneud â'r Ystâd a gaiff eu dwyn i sylw Aelodau gael eu hadrodd i'r Rheolwr Eiddo yn y lle cyntaf ar gyfer ymateb a datrys.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau a swyddogion, er bod angen derbyniadau cyfalaf ar y Cyngor er mwyn cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, nad oedd penderfyniad wedi ei gymryd i werthu’r Ystâd Amaethyddol yn ei gyfanrwydd.  Roedd yr Ystâd, fel holl asedau strwythurol eraill y Cyngor, wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd ac o ganlyniad byddai angen gwario swm sylweddol o arian i’w gwneud yn hyfyw ac yn addas i'r diben eto.  Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i ddelio mewn modd teg gyda thenantiaid a rhai yr effeithir arnynt wrth waredu unrhyw asedau a'r angen i ystyried y genhedlaeth iau o ffermwyr wrth lunio strategaeth ar gyfer dyfodol yr Ystâd.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd cadw unrhyw dir a glustnodwyd fel tir nad oes ei angen bellach fel tir amaethyddol wrth ei waredu. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at adroddiad a ystyriwyd gan Fforwm Wledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), dan y teitl 'Ffermydd Sirol Cymru: Menter Ffordd Ymlaen' a chadarnhaodd y swyddogion eu bod yn bwriadu ymgysylltu'n llawn â'r gwaith a fyddai'n cael ei wneud gan Mr Charles Coates ar ran Fforwm Wledig CLlLC.  Codwyd pryderon oherwydd newidiadau i'r diwydiant ffermio dros nifer o ddegawdau nad oedd rhai o ffermydd yr Awdurdod yn hyfyw mwyach.   Roedd cytundebau tenantiaeth hanesyddol hefyd wedi cymhlethu materion o ganlyniad i’r ffaith fod rai ohonynt yn denantiaethau oes a oedd yn golygu na allai tenantiaid ar ‘unedau cychwynnol’ gael eu hannog i symud i unedau mwy ar ôl i’w busnes gael ei sefydlu, roedd hyn yn ei dro wedi arwain at brinder o unedau cychwynnol.  Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i ddatblygu strategaeth tymor hir ar gyfer yr Ystâd a fyddai'n sicrhau ei hyfywedd a'i  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2013/14 pdf eicon PDF 72 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (copi wedi’i amgáu) sy’n crynhoi effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr Awdurdod a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella.

                                                                                   11.30 a.m. - 12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn crynhoi effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol yr Awdurdod a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol 2013/14, a llongyfarch y Gwasanaeth ar ei gyflawniadau a darpariaeth gwasanaethau.  Roedd yr adroddiad yn dangos dealltwriaeth glir o'r cryfderau a'r heriau a wynebir, ac yn galluogi'r Aelodau i graffu arno cyn ei gyflwyno i AGGCC erbyn diwedd mis Mehefin.

Roedd y Cyngor wedi parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd uchel yn ystod 2013/14, a chyflawnodd berfformiad ardderchog mewn meysydd a oedd yn bwysig i'r cymunedau.   Roedd cynnydd wedi’i wneud o ran trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol mewn ymateb i'r heriau gan y sefyllfa ariannol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.  Roedd nifer o feysydd wedi eu nodi lle'r oedd angen gwneud gwelliannau ac roedd cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.

 

Byddai cynlluniau a chamau gweithredu yn y dyfodol a nodwyd ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu darparu o fewn y cyllidebau presennol.  Fodd bynnag, mae angen i rai o'r themâu a gwmpesir gan yr adroddiad gael eu hystyried fel materion corfforaethol, megis cefnogi annibyniaeth a gwella lles.  Byddai hyn yn golygu sicrhau bod pob gwasanaeth, er enghraifft gwasanaethau tai, priffyrdd, cynllunio, gwasanaethau amgylcheddol a hamdden, wedi eu cynllunio i hyrwyddo annibyniaeth.  Roedd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ynglŷn â’n gwasanaethau wedi’i ddefnyddio fel rhan o’r system sicrwydd ansawdd presennol.

 

Cyfeiriwyd at y Rhaglen Taith i Waith, a fyddai'n dod i ben cyn hir, cytunodd y Prif Reolwr: Cefnogi Busnes i ddosbarthu gwybodaeth yn tynnu sylw at y gwaith da a wnaed yn y Rhaglen.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch y berthynas gyda'r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys meddygon teulu.  Fe'u cynghorwyd bod y Pwynt Mynediad Sengl newydd a fyddai'n wasanaeth ar y cyd ar fin cael ei lansio ac roedd y Gwasanaeth Gofal Ychwanegol (a elwid gynt yn HECS) bellach yn dechrau gweithio'n dda ar draws y Sir, er byddai angen gwneud mwy o waith.   Cydnabuwyd hefyd bod angen gwneud mwy o waith i gefnogi gofalwyr, a oedd yn ased hynod o werthfawr ar gyfer darparu gofal i bobl ddiamddiffyn y Sir a byddai buddsoddi mewn gwasanaethau ar gyfer gofalwyr yn cynorthwyo'r Awdurdod i dorri i lawr ar gostau gofal cymdeithasol yn y tymor hir.  Roedd gwasanaethau ar gyfer gofalwyr wedi ei amlygu yn yr adroddiad fel un o'r chwe maes a fyddai angen eu cryfhau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. 

 

Roedd gwaith bellach ar y gweill gyda'r bwriad o newid y ffordd y byddai gwasanaethau yn cael eu darparu yn y dyfodol, yn rhannol yn sgil cyllid cyfyngedig, ond yn rhannol mewn ymateb i ddewisiadau defnyddwyr gwasanaethau ar gyfer darparu gwasanaethau a'u dymuniad i aros yn annibynnol.  Ar ddiwedd y drafodaeth:-

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor:-

 

(a)            gymeradwyo'r adroddiad fel adroddiad clir o berfformiad yn ystod 2013/14, a

(b)             gofyn i'r Cydlynydd Craffu drefnu'r meysydd a amlygwyd yn yr adroddiad fel 'Heriau'r Dyfodol' yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn ystod y misoedd sydd i ddod.

 

 

10.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

                                                                                12.05 p.m. - 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.            Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 2 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 3 yr adroddiad.  Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio yn cyfarfod ar 3 Gorffennaf, 2014.  

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd i ddod, fel y manylir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd canlynol:-

 

17 Gorffennaf, 2014:-

 

-                  Bod adroddiad llafar ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion a Busnes os yw gwaith y Grŵp wedi dod i ben erbyn hynny.

 

          2 Hydref, 2014:-

 

-                  Bod adroddiad ar Blant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y cyfarfod.

 

 

20 Tachwedd, 2014:-

 

-                  Bod adroddiad ar Berfformiad yr Ystâd Amaethyddol yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y cyfarfod.

 

-                  Roedd adroddiad gwybodaeth ar Safonau Perfformiad Llyfrgelloedd Newydd 2014/17 wedi ei ddosbarthu gyda'r Diweddariad Gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod.  Cytunodd yr Aelodau bod adroddiad ynghylch y mater hwn yn cael ei gynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn hwyr yn 2014.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, eglurwyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnull rhwng swyddogion ac Aelodau i drafod y polisi cludiant ysgol.  Hysbyswyd y Pwyllgor y gallai'r mater gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gyfer ystyriaeth bellach os bydd angen yn dilyn y cyfarfod a drefnwyd eisoes.

 

Esboniodd y Cydlynydd Archwilio bod pob Pwyllgor Archwilio wedi cael cais i benodi neu ail-benodi cynrychiolwyr ar Grwpiau Herio Gwasanaeth y Cyngor.  Roedd rhestr gyflawn o gynrychiolwyr Archwilio ar gyfer 2013/14 wedi ei gynnwys yn Atodiad 4.  Ystyriodd y Pwyllgor ei benodiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ac, yn amodol ar y diwygiadau canlynol, cytunwyd ar y rhestr:-

 

·                 Tai a Datblygu Cymunedol - Y Cynghorydd M.Ll. Davies yn cael ei benodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor, gyda'r Cynghorydd D. Owens fel dirprwy.

·                 Priffyrdd a Seilwaith - Y Cynghorydd M.Ll. Davies yn cael ei benodi fel cynrychiolydd y Pwyllgor, gyda'r Cynghorydd A. Roberts fel dirprwy.

·                 Mae'r holl gynrychiolwyr eraill i aros yr un fath a'r Cynghorydd R.J. Davies i fod yn gynrychiolydd yn dirprwyo ar ran Addysg.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod y Cynghorydd A. Roberts yn cael ei ail-benodi fel ei gynrychiolydd ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion ar gyfer 2014/15, a'r Cynghorydd C. Hughes yn cael ei benodi fel cynrychiolydd yn dirprwyo ar gyfer 2014/15.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar y newidiadau a chytundebau uchod, cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau Cyngor

                                                                                12.15 p.m. - 12.25 p.m.

 

Cofnodion:

Rodd y Cynghorwyr D. Owens a M.Ll. Davies wedi bod yn ddiweddar ar ymweliad Gwasanaeth i’r Gwasanaeth Cofrestrydd a Chrwner.   Er eu bod yn hynod ganmoliaethus o waith y Gwasanaeth roedd ganddynt bryderon difrifol mewn perthynas â diogelwch ac agweddau preifatrwydd Swyddfa'r Cofrestrydd yn y Rhyl.   Gwnaed cais bod trosglwyddo'r Gwasanaeth i lawr gwaelod Neuadd y Dref yn cael ei hwyluso cyn gynted ag y bo modd.  Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai'r pryderon a fynegwyd yn cael eu hymchwilio.   

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd G. Sandilands fod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi cyfarfod a thrafod materion yn ymwneud â Chanolfan y Nova a’r Ganolfan Bowls ym Mhrestatyn a'r maes chwarae pob tywydd yn Ninbych.

 

Dywedodd y Cynghorydd A Roberts ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda Choleg y Rhyl a chyfeiriodd at y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud.

 

Gwnaeth y Cynghorydd G.Lloyd-Williams gyfeirio at y cynnydd yn nifer, a llwyddiant, digwyddiadau chwaraeon sy’n cael eu cynnal yn Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiadau.

 

 

Daeth y Cyfarfod i ben am 12.40pm.