Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiadau sy'n rhagfarnu yn unrhyw
eitem a nodwyd i'w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatgan cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 226 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2014 (copi
ynghlwm). 9.30 a.m. – 9.35 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar ddydd Iau,
20 Mawrth 2014. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL PDF 96 KB I dderbyn
adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi
ynghlwm) i ystyried rheolaeth y Cyngor o faterion iechyd a diogelwch
cyffredinol a diogelwch tân. 9.35 a.m. – 10.05 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
ar reoli Iechyd a Diogelwch yng Nghyngor Sir Ddinbych (CSDd) fel y gwelir o
safbwynt y Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (IaDC). Yn ystod y 12 mis
diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud a bu rhai newidiadau cadarnhaol yn
y diwylliant diogelwch o fewn Cyngor Sir Ddinbych. Mae
strwythur y Tîm IaDC hefyd wedi newid a bellach yn fwy syml dan arweiniad Gerry
Lapington. Cafwyd
trafodaethau manwl ynglŷn â phwysigrwydd iechyd a diogelwch, yn arbennig
mewn ysgolion, ac yn adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Phriffyrdd. Yn
ogystal, codwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Er
bod y Pwyllgor yn cydnabod agwedd ragweithiol Tîm IaDC i wneud ei waith, a’r
gwasanaethau yn cynyddu eu parodrwydd i weithio â'r Tîm i wella diogelwch ac i
leihau risgiau, roedd pryderon ynghylch anallu / annigonolrwydd meddalwedd TG i
gynhyrchu adroddiadau sy’n categoreiddio anafiadau’n gywir. Roedd
hyn wedi bod yn broblem hir-sefydlog a oedd wedi arwain at y rhan fwyaf o
anafiadau’n cael eu categoreiddio fel "amherthnasol" neu
"arall". Er gwaethaf ymdrechion sylweddol ar ran Adran TG y
Cyngor a'r darparwr meddalwedd, roedd y broblem dal heb gael ei datrys. ·
Cyn
2013, talwyd am swm sylweddol o hyfforddiant. Er
bod yr hyfforddiant proffesiynol hwn fel arfer yn cynnwys achrediad
cenedlaethol cydnabyddedig, roedd yn gostus ac yn dueddol o fod yn generig. Mae aelodau’r tîm Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol ar yr un lefel broffesiynol â’r darparwyr allanol, felly ar y
sail hon y Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol sydd bellach yn darparu’r rhan
fwyaf o’r hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gydag adnoddau eu hunain. Mae'r
newid hwn wedi galluogi'r Tîm IaDC i ddarparu'r rhan fwyaf o'r hyfforddiant ar
gyfer staff Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â chynnig arbedion cost sylweddol o
£950 y dydd. Dyma’r Pwyllgor: YN PENDERFYNU:- (a) Yn
amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn
Adroddiad Blynyddol Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar ei
weithgareddau; ac (b) Mae
gwahoddiad yn cael ei anfon at Bennaeth TGCh, Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol a chynrychiolwyr o Civica i fynychu cyfarfod yn y dyfodol gyda'r
bwriad o edrych ar y problemau a gafwyd gyda'r meddalwedd recordio / adrodd yn
ôl ar gyfer ystadegau Iechyd a Diogelwch, ac atebion posibl ac amserlenni ar
gyfer eu datrys. |
|
CYNLLUN GWELLA GWASANAETHAU TAI PDF 91 KB I dderbyn adroddiad gan y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol (copi ynghlwm)
i archwilio Cynllun Gwella'r Gwasanaethau (gan gynnwys y cynllun cynnal a chadw
tai). 10.05 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd
Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol
adroddiad i’r Aelodau (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i adolygu
gwelliannau gwasanaeth a wnaed i'r Gwasanaeth Tai o ganlyniad i'r
"archwiliad ffug" a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ansawdd Tai yn 2011
ac roedd yn amlinellu’r fframwaith rheoli perfformiad sydd wedi’i sefydlu i gefnogi
nod y gwasanaeth o welliant parhaus. Penodwyd y
Pennaeth Tai ym mis Ebrill 2011 ac ym mis Gorffennaf 2011 comisiynwyd
"archwiliad ffug" o'r Rhwydwaith Ansawdd Tai i asesu perfformiad y
gwasanaeth yn erbyn graddfeydd Comisiwn Archwilio sefydledig a oedd yn amrywio
o wasanaeth rhagorol 3 seren (25% o berfformwyr uchaf ledled y DU) i
berfformwyr 0 seren (10% o'r perfformwyr
isaf). Daw
canfyddiadau'r arolygiad ffug i'r casgliad bod y gwasanaeth ar y cyfan yn
"wasanaeth landlord traddodiadol". Roedd
wedi bod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol, roedd gwendidau yn fwy amlwg
na chryfderau, a phrofwyd problemau yn
gyffredinol ar draws pob tîm. Mae'r Cynllun
Gwella Gwasanaethau Tai a'r Fframwaith Rheoli Ansawdd a Pherfformiad yn deillio
o'r arolygiad ffug a gynhaliwyd ym mis Awst 2011. O ganlyniad i'r adolygiad, yn
ystod y tair blynedd diwethaf, mae nifer o dimau / adrannau o fewn y Gwasanaeth
Tai wedi cael eu hailstrwythuro. Roedd hyn wedi arwain at newid mewn
diwylliant ymysg staff a oedd wedi arwain at welliant mewn perfformiad a gwell
cyfradd o fodlonrwydd ymysg tenantiaid. Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl a chyfeiriwyd at y
manteision disgwyliedig o gael system TG newydd, y cytundeb tenantiaeth newydd
arfaethedig lle byddai ymgynghoriad arno, a'r angen i lunio cynllun rheoli stoc
tai. Yn dilyn y drafodaeth fe ymgymerodd y Pennaeth
Tai: ·
I
bwysleisio i Swyddogion Ystadau Gwasanaeth Tai y pwysigrwydd o fwydo yn ôl i'r
aelodau lleol unrhyw bwyntiau a godwyd yn ystod ymweliadau safle / arolygiadau
yn ogystal â chynnydd a gyflawnwyd wrth ddatrys materion ·
Darparu’r
Cynghorwyr â’r wybodaeth ar y nifer o eiddo Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig ym mhob rhanbarth etholiadol o'r Cyngor ·
Dosbarthu
adroddiad gwybodaeth i'r Cynghorwyr ar sut y gallai'r Cyngor fynd i’r afael â’r
ddarpariaeth "hunan-ariannu
tai" newydd yn y sir. ·
Cynnwys
Aelodau yn gynnar yn natblygiad y Cytundeb Tenantiaeth newydd ar gyfer stoc
tai'r Cyngor, gorau oll un Aelod o bob Grŵp Aelodau Ardal (MAG) gan y
byddant yn ymwybodol o faterion lleol a gwrthwynebiad posibl. Dyma’r Pwyllgor: YN PENDERFYNU: (a) Er
gwaethaf y gwaith pellach sydd ei angen i gyflawni uchelgais y Gwasanaeth i fod
yn wasanaeth rhagorol, dylid nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed hyd yma mewn
perthynas â gwella gwasanaeth (b) Bod
swyddogion yn rhoi adborth i aelodau lleol o ganlyniadau eu hymweliadau â
stadau tai ac o’r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â’r materion a godwyd (c) Bod
y wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani gan yr aelodau yn cael ei ddarparu, a (d) Bod
aelodau etholedig yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cytundeb tenantiaeth
newydd o’r cychwyn cyntaf. |
|
Ar y pwynt hwn (11.15am) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuwyd y cyfarfod am 11.25am. |
|
Cofrestr Risg Corfforaethol PDF 94 KB I dderbyn
adroddiad gan y Swyddog Gwella Corfforaethol (copi ynghlwm) i gyflwyno fersiwn
diweddaraf o'r Gofrestr Risg Corfforaethol i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad,
fel y cytunwyd yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet. 11.00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe
gyflwynodd y Swyddog Gwella Corfforaethol
yr adroddiad (copi wedi’i ddosbarthu eisoes) sy’n cyflwyno fersiwn diweddaraf
o'r Gofrestr Risg Corfforaethol i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad, fel y
cytunwyd yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet. Mae'r Gofrestr
Risg Corfforaethol yn galluogi'r Cyngor i reoli’r tebygolrwydd ac effaith y
risgiau mae'n eu hwynebu trwy werthuso effaith unrhyw gamau lliniaru cyfredol,
a chofnodi terfynau amser a chyfrifoldebau ar gyfer camau pellach a ddylai
alluogi rheolaeth dynnach. Y Tîm Gweithredu
Corfforaethol a’r Cabinet sydd wedi datblygu ac sydd â’r cyfrifoldeb am y
Gofrestr Risg Corfforaethol. Mae’r Gofrestr
Risg Corfforaethol yn cael ei hadolygu’n ffurfiol ddwywaith y flwyddyn gan y
Cabinet a’r CET. Yn dilyn pob
adolygiad ffurfiol o’r Gofrestr Risg Corfforaethol, mae’r ddogfen sydd wedi’i
hadolygu’n cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad. Mae Archwilio
Mewnol y Cyngor yn darparu sicrwydd annibynnol ar effeithiolrwydd dulliau
rheoli mewnol a’r mecanwaith sydd wedi’u gosod er mwyn lliniaru risgiau ar
draws y cyngor. Mae hefyd yn cynnig her annibynnol i sicrhau bod
egwyddorion a gofynion rheoli risg yn cael eu defnyddio’n gyson ym mhob rhan
o’r cyngor. Mae Archwilio Mewnol hefyd yn defnyddio gwybodaeth
o gofrestrau risg gwasanaethau a’r un corfforaethol er mwyn penderfynu ar eu
rhaglen gwaith i’r dyfodol. Mae'r Gofrestr
Risgiau Corfforaethol diwygiedig wedi cael eu harchwilio gan y Pwyllgor lle
rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r prif newidiadau i'r Gofrestr yn dilyn yr
adolygiad diweddar. Cafwyd trafodaeth
sylweddol ynglŷn â risgiau sy'n ymwneud â'r Fframwaith Adnoddau Dynol,
Sefydliadau Hyd-Braich a phartneriaethau a rhyngwynebau rhwng y Cyngor a Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Eglurodd y Prif
Weithredwr y penderfyniadau buddsoddi, o ran systemau TG, a fyddai angen eu
gweithredu yn y dyfodol agos, unwaith y bydd ymateb Llywodraeth Cymru i
Adroddiad y Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
yn hysbys. Cytunodd yr
Aelodau i beidio â dilyn y risg o ran Cwmnïau Hyd-Braich ar hyn o bryd, ond i
aros am gasgliad Gwaith y Pennaeth Archwiliad Mewnol ar fframwaith asesu’r
Cyngor ar gyfer Sefydliadau Hyd-Braich cyn ystyried risg DCC013 pellach. Awgrymwyd y
byddai'n ddoeth i wahodd Prif Weithredwr newydd y Bwrdd Iechyd a'i Gadeirydd i
sesiwn Briffio’r Cyngor yn y dyfodol i drafod cynlluniau’r dyfodol a materion
iechyd / gofal cymdeithasol gyda’r holl Gynghorwyr. Cafodd
hyn ei awgrymu gyda’r golwg i gynnal ac adeiladu ar y trefniadau gweithio
presennol gyda BIPBC. Mynegodd y
Pwyllgor bryderon ynghylch y risg a nodwyd mewn perthynas â'r Fframwaith
Adnoddau Dynol ac o’r siawns na fyddai efallai yn cefnogi amcanion y Cyngor. Cytunodd
yr holl Aelodau i alw'r mater i mewn i gyfarfod yn y dyfodol, ar gyfer craffu
manwl. PENDERFYNWYD: (a) Yn
amodol ar yr arsylwadau uchod i nodi’r agweddau i’w dileu, ychwanegu a’u newid
i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, ac (b) Ar
sail pryderon yr aelodau ynglŷn â'r risgiau a berir i'r Awdurdod os nad yw'r
Fframwaith Adnoddau Dynol yn bodloni ei nodau, i ofyn bod swyddogion perthnasol
yn mynychu cyfarfod yn y dyfodol i roi manylion ynglŷn â’r cynnydd a wnaed
ac ar gynlluniau yn y dyfodol i liniaru a lleihau’r risg dan sylw. |
|
RHAGLEN GWAITH ARCHWILIO PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau ar faterion
perthnasol. 11.30 a.m. – 11.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet wedi'i chynnwys fel Atodiad 2 ac roedd
tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor, ac yn cynghori ar y cynnydd
wrth weithredu’r rhaglen, wedi’i atodi yn Atodiad 3 o'r adroddiad. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’w ddrafft o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer
cyfarfodydd i ddod, fel y manylir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r
ychwanegiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd canlynol:- (a) 17 Gorffennaf, 2014 - gwahoddiad i TG a
Civica i drafod cynnydd wrth ddatrys problemau gyda'r system feddalwedd Iechyd
a Diogelwch Corfforaethol. (b) 17 Gorffennaf, 2014 - Fframwaith Adnoddau
Dynol. Gofynnir i bob
Aelod Arweiniol i fynychu cyfarfod 17 Gorffennaf Cyfarfod 12
Mehefin – gofynnir i’r Aelodau Arweiniol,
y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill a Bobby Feeley i fod yn bresennol. Gofynnwyd i'r
Aelodau roi gwybod i'r Cydlynydd Craffu o unrhyw ofynion hyfforddiant Craffu
lle byddent yn elwa ohonynt. Byddai'r Cydlynydd Craffu hefyd yn canfod
a fyddai unrhyw hyfforddiant Craffu Gogledd Cymru ar gael. Cododd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y mater o enwi strydoedd. Cafodd
y mater ei grybwyll yn flaenorol yn y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu a oedd wedi dod i'r casgliad bod y mater ddim yn haeddu ystyriaeth gan
Bwyllgor Craffu. Fe gwestiynodd y Cynghorydd Lloyd Davies y
penderfyniad. Eglurodd y Prif
Weithredwr y byddai'r Polisi Enwi Strydoedd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar
27 Mai, ar ôl hynny, byddai modd cyflwyno’r polisi i'r Pwyllgor Craffu hwyrach
ymlaen i edrych ar y cynnydd a wnaed ar ôl ei roi ar waith. Roedd y Cydlynydd
Craffu wedi gofyn yn y gorffennol am wirfoddolwyr i fod yn aelodau o’r
Grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi’i ddarparu
gan yr Awdurdod Lleol. Roedd Pedwar Aelod wedi dangos diddordeb
hyd yma ac fe wirfoddolodd y Cynghorydd Richard Davies i fod yn ail
gynrychiolydd ar y Grŵp o’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. PENDERFYNWYD yn
amodol ar newidiadau a’r cytundebau uchod i gymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.50
a.m. 12.00 hanner dydd. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |