Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
Bill Cowie, Cynghorydd Meirick
Lloyd Davies, Cynghorydd Geraint
Lloyd-Williams, Cynghorydd Peter Owen ac
Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol - Gwasanaethau Oedolion a Phlant
(Cynghorydd Bobby Feeley) |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd
David Simmons a Dewi Owens ddatgan cysylltiad personol ag eitem 7 ar yr agenda
gan eu bod yn aelodau o’r Bwrdd Ystadau Amaethyddol. Hysbyswyd nad oedd
gwrthdaro buddiannau gan nad oedd yr eitem hon yn gysylltiedig â gwneud penderfyniad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y
dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod
fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 151 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2014
(copi ynghlwm). 09:30 – 09:35 Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 20
Chwefror, 2014. Materion yn codi:- Tudalennau 6 - 8, ‘Moderneiddio Addysg –
Adroddiad Cynnydd’: ·
Nid yw’r Cyngor wedi derbyn copi Cymraeg o adroddiad Adolygiad Gateway. ·
Aelodau o Fwrdd Moderneiddio Addysg: disgwyl cadarnhad i’r cais i
gynrychiolwyr archwilio allu mynychu/gwasanaethu ar y Bwrdd ·
Ysgol Plas Brondyffryn: disgwyl canlyniad ymholiadau ynghylch gosod y
piler yn y neuadd addysg gorfforol. Tudalen
10 - ‘Adborth gan Gynrychiolwyr y Pwyllgor: cyfeiriad at adroddiad Ombwdsmon ar ddileu dyledion
Treth y Cyngor. Holwyd swyddogion a dywedwyd nad oedd adroddiad penodol ar y
pwnc uchod ond roedd y penderfyniad canlynol wedi ei wneud y llynedd: “Cadarnhad –
Mawrth 2013 Cwynodd Mr J am y ffordd yr oedd
Cyngor Sir Ddinbych (“y Cyngor”) wedi rheoli cyfrif treth y cyngor ar gyfer
cartref ei ddiweddar fam. Roedd y Cyngor wedi cyflwyno gŵys am beidio â
thalu treth y cyngor, i Ysgutorion ei hystâd. Roedd Mr J yn gyd Ysgutor gyda
chwmni Cyfreithwyr lleol. Talodd Mr J yr arian a oedd yn ddyledus i’r Cyngor
o’i gyfrif personol. Yn ddiweddarach daeth Mr yn
ymwybodol fod preswylydd cofrestredig newydd yr eiddo yn atebol am y taliadau.
Ysgrifennodd at y Cyngor yn gofyn am ad-daliad o’r arian yr oedd wedi ei dalu.
Ni chafodd cais Mr J ei gydnabod a bu’n rhaid iddo gysylltu â’r Cyngor i gael
ymateb. Lleisiodd Mr J bryderon ychwanegol ynglŷn â’r camau a gymerwyd gan
y Cyngor yn dilyn ei gais am ad-daliad, gan eu bod wedi gofyn am gydsyniad ei
gyd Ysgutor cyn rhoi’r ad-daliad yn ogystal â’r ffordd y teimlai ei fod wedi
cael ei drin gan staff y Cyngor. Cafodd Mr J ad-daliad gan y Cyngor tua 4 mis yn ddiweddarach. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth
a oedd ar gael, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y ffordd yr oedd y Cyngor
wedi rheoli’r cyfrif treth y cyngor ar gyfer yr eiddo yn rhesymol ar y cyfan.
Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon nad oedd gwasanaeth y Cyngor yn cyrraedd y
safon ofynnol ar gyfer delio â chais ysgrifenedig Mr J am ad-daliad. Hefyd
teimlai’r Ombwdsmon y dylai’r Cyngor, o leiaf, fod wedi dweud wrth Mr J am y
camau yr oedd yn rhaid eu cymryd i gael cydsyniad ei gyd Ysgutor cyn y gallai
roi’r ad-daliad iddo. Cytunodd y Cyngor ag argymhellion yr Ombwdsmon i
ymddiheuro i Mr J a thalu £100 iddo am y methiannau a nodwyd a’r amser a’r
drafferth a gymerwyd i ddelio â’r gŵyn. Cyfeirnod achos 201201315” Adroddwyd yr uchod i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol fel rhan o Adroddiad Blynyddol”. Penderfynwyd – yn amodol
ar yr uchod, bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
DARPARIAETH GWASANAETH YN DILYN CAU ASIANTAETHAU CYMUNEDOL PDF 100 KB Manylu ar y
gwasanaeth amgen a fydd ar gael i drigolion yn dilyn cau asiantaethau cymunedol
yn y sir a diwedd cyllid Taith i Waith. 09:35 – 10:20 Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd B. Feeley ei hymddiheuriadau
am fethu â mynychu’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes ac atgoffodd y Pwyllgor o’r gweithdai ar y
gyllideb y llynedd lle cynigiwyd arbed £25,000 y flwyddyn ar gostau llety'r
Asiantaeth Datblygu Cymunedol. Manylodd ar y camau a oedd yn cael eu cymryd i
sicrhau dull arall o ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth
Datblygu Cymunedol - e.e. gan grwpiau’r trydydd sector. Lleisiwyd y
pryderon canlynol gan y Pwyllgor: • Mae’r adeiladau presennol yng ngorsaf
reilffordd y Rhyl mewn lleoliad canolog ac yn hawdd i unigolion gyrraedd atynt
gyda chludiant cyhoeddus. Efallai nad yw mannau eraill fel Canolfan Foryd mor
hygyrch. • Yr effaith bosibl ar swyddi unwaith y
bydd y llety wedi dod yn wag a’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn cau. • I ba raddau yr oedd ymgynghoriad ar
gau’r adeiladau a’r Asiantaeth wedi ei gynnal? Rhoddodd Rheolwr
Gwasanaeth Datblygu Cymunedol sicrwydd i’r Pwyllgor fod adeiladau Canolfan
Foryd o fewn 500 llath i’r orsaf ar Princes Street. Eglurwyd bod 5
aelod o staff wedi bod yn gweithio i’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol tan 5
mlynedd yn ôl, a bod y nifer wedi lleihau’n raddol i 2 weithiwr ac y byddai’r
Asiantaeth wedi cau pe na bai wedi derbyn arian gan brosiect Taith i Waith.
Rhagwelid y byddai’r 2 aelod o staff a oedd yn gweithio ar hyn o bryd yn yr
Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn cael eu hadleoli i rôl cymorth cymunedol o
fewn y Gwasanaeth. Roedd aelodau
eraill o staff wedi eu cyflogi gan y prosiect Taith i Waith. Roeddent wedi eu
cyflogi ar gontractau tymor byr gan wybod yn llawn bod eu swyddi yn y dyfodol
yn dibynnu ar sicrhau grant pellach. Roedd y cam o gau’r
Asiantaeth wedi ei drafod â’r holl unigolion a oedd yn defnyddio’r ganolfan.
Cydnabuwyd nad oedd yr un lefel o drafodaeth wedi digwydd gyda chymunedau ehangach
ond roedd Aelodau Etholedig o Brestatyn a’r Rhyl wedi cymryd rhan mewn gweithdy
a oedd yn rhoi sylw i’r strategaeth ymadael. Roedd ymgynghoriad
llawn yn cael ei gynnal ar y newidiadau i’r gwasanaeth ac mae Asesiad Effaith
Cydraddoldeb ar y gweill. Byddai’r gwasanaeth yn parhau am y 3 mis nesaf tra
bod trafodaethau gyda grwpiau trydydd parti’n parhau i geisio chwilio am
ddarpariaeth arall. Cyfeiriodd y
Pwyllgor at y ffigyrau a oedd yn dangos y defnydd o’r ganolfan yn ystod cyfnod
o 3 mis a gofynnodd am yr ystadegau am y 12 mis blaenorol. Hefyd gofynnwyd am y ffigyrau i ddangos
dadansoddiad o faint o bobl y tu allan i’r Rhyl a oedd yn defnyddio’r ganolfan. Penderfynwyd: - (a) yn amodol ar y sylwadau a wnaed ac ar
ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r camau sy’n
cael eu cymryd i sicrhau y deuir o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu’r gwahanol
wasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol ar sail
gostyngiad o £25,000 yn eu cyllideb; a (b) bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei baratoi i’r Pwyllgor yn hydref 2014 yn manylu ar y cynnydd a wnaed i sicrhau safle a threfniadau darparu eraill ar gyfer darparu gwasanaethau’r Asiantaeth |
|
TROSOLWG O YMWELIADAU DARPARWYR MEWNOL 2013/14 PDF 124 KB Ystyried adborth ar yr ymweliadau mewnol â darparwyr gofal cymdeithasol sy'n tynnu sylw at ansawdd, profiad y cwsmer a chamau gweithredu arfer da/gwelliannau ar gyfer y darparwyr. 10:20 – 10:50 Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a
Busnes adroddiad ar gynnydd ymweliadau darparwyr mewnol a’r adborth a
dderbyniwyd o ganlyniad i’r ymweliadau. Eglurodd fod aelodau etholedig wedi
ymweld â sefydliadau gofal cymdeithasol y Sir ar sail rota ac wedi rhoi adborth
i hwyluso’r gwaith o lunio cynllun gweithredu er mwyn rhoi sylw i ddiffygion
neu feysydd pryder. Ar y cyfan roedd yr adborth yn gadarnhaol a
cheisiodd y rheolwyr weithredu’r gwelliannau a argymhellwyd yn gyflym, yn
arbennig y rhai heb oblygiadau cyllidebol. Ar y cyfan, dywedwyd bod safonau gofal o ansawdd da iawn a bod unrhyw
bryderon a godwyd yn tueddu i ymwneud â materion cynnal adeiladau. Byddai angen
trafod unrhyw waith o bwys oedd angen ei wneud gyda’r Adran Gyllid. Canmolodd y Pwyllgor y gofal a’r
gwasanaethau a ddarperid gan yr Awdurdod yn y sefydliadau hyn. Cydnabuwyd bod
darparu gofal cymdeithasol preswyl yn gostus ac nad oedd rhai awdurdodau lleol
bellach yn darparu gwasanaethau o’r fath. Yn y dyfodol agos mae’n bosibl y bydd
yn rhaid i Sir Ddinbych ystyried a all barhau i ddarparu sefydliadau darparu
gofal ar yr un lefel. Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad arolwg o gyflwr
sefydliadau darparu gofal yr Awdurdod er mwyn pwyso a mesur pa rai a oedd yn
addas i’r pwrpas. Cododd Pennaeth Archwilio Mewnol y mater nad
oedd rhai sefydliadau’n cadw’n ddigon caeth at bolisïau - yn arbennig o ran
arwyddo wrth gyrraedd, ymarferion tân a diogelwch - materion sy’n gwella yn
dilyn yr ymyrraeth hon. Hefyd awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid
edrych ar werth am arian y gwasanaethau mewnol. Nodwyd bod darparu cartrefi
preswyl a ddefnyddir gan 70/80 o unigolion yn costio tua £5 million.
Pwysleisiodd y Prif Weithredwr nad oedd gan Awdurdodau Lleol eraill y math hwn
o ddarpariaeth gan ei fod yn ddewisol yn hytrach na statudol a chwestiynodd a
oedd yn fforddiadwy. Yn ei farn ef roedd y rhain yn faterion “o bwys” yr oedd
angen edrych arnynt ac awgrymodd fod y Pwyllgor yn dechrau trafod ffyrdd eraill
o gynnal gweithgareddau mewnol presennol. Awgrymwyd y gellid cymharu â’r sector preifat
o ran cost y pen ar gyfer darparu gwasanaeth o’r fath. Mewn ymateb, dywedodd y
Cadeirydd fod defnyddio grwpiau tasg a gorffen wedi ei drafod yn y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio diweddar ac awgrymodd y byddai hwn yn
bwnc delfrydol i grŵp tasg a gorffen. Cytunodd i sôn am y cynnig yng
nghyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio. Penderfynwyd: - nodi’r wybodaeth a ddarparwyd am yr
Ymweliadau Darparwyr Mewnol a bod Grŵp Tasg a Gorffen Archwilio yn cael ei
sefydlu gyda golwg ar edrych ar opsiynau o ran gwerth am arian wrth ddarparu
gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn y Sir. |
|
YSTÂD AMAETHYDDOL Amlinellu'r cynnydd a wnaed gyda rhesymoli ystâd amaethyddol y Sir, y buddsoddiad hyd yma yn yr ystâd, nifer yr unedau sydd ar osod a hyd prydlesi, nifer yr unedau a ildiwyd, nifer yr unedau a werthwyd a’r cyfalaf a gafwyd yn sgil gwerthu, a strwythur staffio'r adran Ystâd Amaethyddol. 11:00 – 11:45 Cofnodion: GWAHARDD Y WASG
A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, tra ystyrir yr eitemau canlynol ar y rhaglen, oherwydd ei bod yn
debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y diffinnir hi ym
Mharagraff 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. RHAN II Rhoddodd Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau drosolwg o’r adroddiad cyfrinachol a ddosbarthwyd yn
flaenorol. Pwysleisiodd ei fod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau fath o
gytundeb tenantiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd. Mae tenantiaethau o
dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ar gyfer y tenantiaid lle mae
cyfrifoldebau cynnal dan ofal yr Awdurdod. Maent yn cael eu hystyried fel
tenantiaethau oes; pe bai’r tenant yn rhoi’r gorau i ffermio byddai’r Awdurdod
yn atebol am ddarparu llety arall. Mae tenantiaethau a ffurfir o dan Ddeddf
Tenantiaethau Fferm 1995 yn cynnig mwy o hyblygrwydd i gysylltu â thenantiaid
ac ar y tenant yn hytrach na’r landlord y mae’r baich o drwsio a chynnal. Mae Gwasanaethau
Eiddo wrthi’n ceisio rhyddhau ffermydd sydd i’w gwaredu trwy symud tenantiaid o
dan delerau Deddf Tenantiaethau Fferm 1986 i ffermydd eraill lle mae angen llai
o waith cynnal / baich ariannol llai. Fodd bynnag dim ond tîm bach sy’n dibynnu
ar incwm ffioedd a galwyd arnynt i ddelio â Blaenoriaethau Corfforaethol eraill
- e.e. prynu gorfodol yng Ngorllewin y Rhyl
ac arolygon o gyflwr safleoedd corfforaeth hyd braich - sy’n gadael dim
ond un syrfëwr 0.5 cyfwerth ag amser llawn i weithio ar y materion sydd wedi
cronni’n ymwneud ag ystadau amaethyddol. Lleisiodd y
Cynghorydd Hughes bryderon nad yw tai ar ffermydd yn dod o dan ofyniad Safon
Ansawdd Tai Cymru, a’u bod efallai’n dadfeilio, yn orlawn ac yn anaddas i
deuluoedd. Awgrymodd y Cynghorydd Hughes y dylid defnyddio derbyniadau cyfalaf
yn sgil gwaredu ystadau amaethyddol ar gyfer adnewyddu tai ffermydd. Mewn ymateb,
dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod polisi blaenorol o neilltuo derbyniadau
cyfalaf ond nad oedd yn sicrhau’r lefel o gronfeydd oedd ei hangen. Mae’r
Awdurdod wedi gorfod canolbwyntio ar agweddau iechyd a diogelwch ar ystadau yn
hytrach nag adnewyddu. Cadarnhaodd David
Mathews, y Rheolwr Prisio ac Ystadau fod angen cymaint o waith ar rai adeiladau
fferm fel y byddai’n fwy cost effeithiol codi rhai newydd yn hytrach na’u
trwsio. Yr ateb gorau ar gyfer ffermdai y mae angen gwneud gwaith arnynt,
fyddai eu gwaredu. Ystyriai y gallai’r Awdurdod ddal ei afael ar ystâd
amaethyddol gweddol fawr ond roedd angen gwneud newidiadau sylweddol. Cwestiynodd y
Cynghorydd Roberts y ffaith nad oedd Syrfëwr proffesiynol wedi
ei gymhwyso mewn Arfer Gwledig o fewn y Cyngor a’r risg oedd ynghlwm â hyn.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Prisio ac Ystadau eu bod yn cael eu cyflogi fel
ymgynghorwyr pan fo arian ar gael a phan fo angen - er enghraifft ar gyfer
adolygu rhenti. Gofynnodd y
Cynghorydd Roberts am eglurhad ynglŷn â defnyddio adnoddau Cyfreithiol.
Cadarnhaodd y Rheolwr Prisio ac Ystadau eu bod fel arfer yn ymgynghori â’r
gweithredwyr cyfreithiol mewnol, ond mae Deddf Tenantiaethau Fferm 1995 hefyd
yn darparu ar gyfer priswyr / syrfewyr i lunio’r tenantiaethau. Mae’r Rheolwr
Prisio ac Ystadau wedi bod yn ymgymryd â’r rôl hon gan fod ganddo flynyddoedd
lawer o brofiad ac mae’n deall yr iaith a ddefnyddir. Yn dilyn cafwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa bresennol ffermydd y Sir yn cynnwys les tenantiaid, defnydd, rhenti ac opsiynau eraill. Gofynnodd Aelodau a oedd digon o bwyslais ar sicrhau derbyniadau cyfalaf trwy waredu eiddo amaethyddol? Os nad oedd gwaredu’n opsiwn pam fod incwm rhenti yn llawer llai ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH ARCHWILIO PDF 84 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor a diweddaru'r aelodau ar faterion
perthnasol. 11:45 – 12:05
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth y cyfarfod yn ei flaen
fel sesiwn agored i drafod
gweddill y busnes. RHAN I Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn
gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn diweddaru materion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod. Ystyriodd y Pwyllgor
ffurf drafft ei Raglen Gwaith
i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd
y dyfodol, fel y manylir yn Atodiad
1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer y cyfarfodydd
canlynol:- a)
Dylai’r adroddiad gwybodaeth ar gyflwr ysgolion
y Sir fod ar gael yng
nghyfarfod fis Mai o’r Pwyllgor. b)
Dylid cynnwys Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2013/14 ar y rhaglen waith ar
gyfer rhaglen gwaith i’r dyfodol
y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar
17 Gorffennaf. c)
Yr wybodaeth
ddiweddaraf am faterion yr Ystâd Amaethyddol
i’w cyflwyno yn y cyfarfod ar
12 Mehefin. d)
Bydd Darparu Teledu Cylch Caeedig (TCC) a Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau yn
cael ei ddwyn
ymlaen i agenda 17 Gorffennaf. Penderfynwyd – yn amodol ar y newidiadau
uchod, ac ar gytuno arnynt,
bod y Rhaglen Waith fel yr amlinellir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad yn
cael ei chymeradwyo. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 12:30
Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd D. Owens wrth
y Pwyllgor ei fod ef a’r
Cynghorydd
P.W. Owen wedi ymweld
yn ddiweddar â’r Adran Refeniw
a Budd-daliadau yn y Rhyl. Dywedodd wrth y Pwyllgor
fod problemau enfawr yn cael
eu hachosi gan y taliad Credyd
Cynhwysol newydd sy’n cael ei
gyflwyno. Roeddent hefyd wedi ymweld â staff yn Theatr Pafiliwn
y Rhyl ac wedi cael argraff dda
gan yr ethos gwaith tîm a
amlygwyd gan y staff. Awgrymodd y dylid tynnu sylw
at y tîm fel enghraifft dda i adrannau eraill. Cynigiodd y Cynghorydd A. Roberts eu
bod yn anfon llythyr o gydnabyddiaeth at y
staff yn y Theatr ac yn yr Adran
Refeniw a Budd-daliadau yn cydnabod eu
hymrwymiad. Dywedodd y Cynghorydd A Roberts ei
fod wedi bod yng nghyfarfodydd y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn ddiweddar, lle
edrychwyd yn fanwl ar berfformiad
dwy ysgol. Diweddarodd y Cynghorydd R. Davies y Pwyllgor ynglŷn â’r cynlluniau i gladio piler
yng nghanol yr ystafell fwyta/neuadd chwaraeon yn Ysgol Plas
Brondyffryn (YPBD) i leihau’r perygl o gael anafiadau wrth daro i
mewn iddo. Hefyd tynnodd sylw
at y mater fod plant o YPBD yn
gorfod teithio i’r Rhyl i
gael sesiynau
nofio. Gofynnodd am esboniad ynghylch a yw’r pwll
yng Nghanolfan Hamdden Dinbych ar gyfer defnydd
Ysgol Uwchradd Dinbych yn unig. Penderfynwyd – derbyn a nodi’r adroddiadau. |