Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGORA 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater
y nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid ddatganwyd unrhyw gysylltiadau personol
na chysylltiadau sy'n rhagfarnu gan unrhyw Aelodau mewn unrhyw fusnes i’w
ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS GYDA CHYTUNDEB Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym
marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 169 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref,
2013. Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad a gynhaliwyd Ddydd Iau 24 Hydref, 2013. PENDERFYNWYD – y dylid derbyn a chymeradwyo’r
Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADEILADAU RHESTREDIG DAN FYGYTHIAD PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ar
gyflwr stoc adeiladau rhestredig y Sir.
9.35 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (PCGC), ar gyflwr y
stoc adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, wedi’i gylchredeg yn flaenorol. Rhoddodd y
Cynghorydd D.I. Smith grynodeb byr o'r adroddiad a luniwyd yn sgil sefyllfa hen
Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
dealltwriaeth glir o raddfa’r adeiladau rhestredig sydd dan fygythiad yn Sir
Ddinbych a’r goblygiadau i’r Awdurdod, ynghyd â manylion Deddf Cynllunio
(Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a chyfrifoldebau Awdurdodau
Lleol (ALl) dan y Ddeddf. Nododd adroddiad
gan Cadw yn 2009 fod 1812 o adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, a dangosodd
arolwg yn 2011 fod 148 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori “dan fygythiad”. Roedd
35 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori gwaethaf o ran y bygythiad. Darparwyd
tablau’n crynhoi nifer a chanran yr eiddo dan fygythiad yn Sir Ddinbych, ac yn
genedlaethol. Eglurodd y PCGC fod nifer o adeiladau yn y
categori gwaethaf yn adeiladau neu adeileddau lle'r oedd y siawns y byddent yn
ased ariannol i’r perchnogion yn isel iawn. Byddai perchenogion yn fwy tebygol o ystyried
yr adeileddau’n faich ariannol yn hytrach nag yn ased a byddent yn gyndyn i
wario arian ar atgyweirio a allai arwain at ddadfeilio. O’r
35 adeiledd gyda sgôr o 1 pwynt, roedd 13 yn y categori hwn. Roedd
camau gorfodi’n debyg o arwain at gyflawni gwaith yn ddiofyn a cheisio adennill
y gost gan y perchennog neu gyflawni pryniant gorfodol ar yr adeilad/adeiledd. Ni
fyddai’r naill opsiwn na’r llan yn ddeniadol i’r Awdurdod Lleol. Cadarnhaodd y
Pensaer Rheoli Adeiladu a Chadwraeth (PRhACh) bod grantiau yn mynd yn fwyfwy
prin. Yr unig gorff cyllido mawr sydd â chyllideb
gynyddol ar gyfer grantiau yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac yn y gorffennol
maent wedi ariannu cynlluniau grant ymbarél ac nid unigolion preifat. Roedd rhai adeiladau rhestredig yn cynnig
cyfleoedd i ychwanegu gwerth drwy roi caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad
rhestredig i newid defnydd, a llwybr arall posibl oedd rhoi caniatâd cynllunio
ar gyfer datblygiad galluogi. Gweithio gyda pherchennog i helpu gwella
cyflwr adeiladau dan fygythiad oedd y dewis a ffafriwyd, ond mewn rhai
achosion, y perchennog yn hytrach na’r adeilad fyddai’n achosi problemau. Eglurodd y PCGC
a’r PRhACh fod pwerau gorfodi yn cynnwys Hysbysiad Gwaith Brys a Hysbysiad
Atgyweirio. Mae elfen o risg i’r pwerau hyn i ALl o ran costau
cynnal y gwaith brys yn ddiofyn neu’r costau sy'n gysylltiedig â phrynu
gorfodol a’r cyfrifoldeb o fod yn berchennog ar adeilad adfeiliedig yn sgil
hynny. Roedd y pwerau’n ddewisol a dylid bod yn ofalus
wrth eu defnyddio, fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle nad oedd unrhyw opsiwn
arall, a lle gallem fod yn agos i golli’r adeilad yn llwyr, gallai penderfyniad
i beidio â defnyddio pwerau gorfodi fygwth enw da’r Awdurdod . Cyfeiriodd y
PRhACh at y broses ymgynghori oedd yn cael ei chynnal mewn perthynas â
newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru (LlC) i’r ddeddfwriaeth. Mynegodd
bryder nad yw’r pwerau dan y ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’w pwrpas ac nad
ydynt yn rhoi’r awdurdod sydd angen i ymyrryd yn briodol. Cytunodd yr aelodau y dylai’r Cadeirydd
gyflwyno llythyr o gefnogaeth yn ategu’r farn a fynegwyd gan y PRhACh yn ei
ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol, a oedd yn amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig
ag agwedd gorfodi'r ddeddfwriaeth. Ymatebodd y
PRhACh i gwestiynau gan nifer o Aelodau a rhoddodd fanylion yn ymwneud ag
adeileddau wedi’u lleoli yn yr ardaloedd unigol. Roedd manylion y risgiau posibl wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad. Mae goblygiadau ariannol ac o ran adnoddau wrth fynd i’r afael ag adeiladau dan fygythiad ac roedd rhaid eu rheoli fesul achos. Mewn achosion eithriadol lliniarwyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
EICH LLAIS – ADRODDIAD CHWARTER 2 2013/14 PDF 81 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogi Addysg (copi ynghlwm) sy’n
cynnig trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd dan Bolisi Adborth Cwsmeriaid Cyngor
Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2013/14.
10.10 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (PCChA), oedd yn
cynnig dadansoddiad o’r adborth a dderbyniwyd drwy bolisi adborth cwsmeriaid
Sir Ddinbych ‘Eich Llais’ ar gyfer Chwarter 2 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda
phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y Cynghorydd HC Irving yr
adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â materion perfformiad. Eglurodd y PCChA fod Penawdau ar gyfer
Chwarter 2 wedi’u cynnwys yn Atodiadau’r adroddiad ac amlygwyd crynodeb o’r
pwyntiau perthnasol canlynol:- ·
Roedd y Cyngor wedi derbyn 149 o gwynion. ·
Roedd
dros chwarter (26%) y cwynion yn ymwneud â Chynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd. Roedd hwn yn gynnydd o 488% o’i
gymharu â Chwarter 1. Roedd bron i hanner y cwynion (44%) yn ymwneud â Gorfodi
Diogelwch Cymunedol. ·
Roedd y Cyngor wedi derbyn 261 o ganmoliaethau
yn Chwarter 2, cynnydd o 264% o’i gymharu â Chwarter 1. ·
Gwasanaethau Oedolion a Busnes dderbyniodd
y nifer fwyaf o ganmoliaethau – 97 (37%). Perfformiad
·
Ymatebwyd i 97% o’r cwynion o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais'. Roedd hyn yn cyfateb â pherfformiad
Chwarter 1 ac yn rhagori ar y targed corfforaethol o 95%. ·
Ymatebwyd i bob cwyn cam 2 a cham 3 o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais’, a oedd yn welliant ar Ch1. ·
Llwyddwyd i ddelio ag 87% o’r cwynion yn ystod
cam 1, gwelliant ar Chwarter 1 (86%). ·
Amlygwyd
fod gan ddau faes gwasanaeth statws OREN; sef Cyllid ac Asedau a Phriffyrdd ac
Isadeiledd. ·
Amlygwyd fod gan TGCh statws COCH. Clywodd y
Pwyllgor fod y cynllun Eich Llais yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nod
corfforaethol o fod yn “Gyngor gwych, sy’n agos at y gymuned”. Roedd
yr holl gostau sydd ynghlwm wrth adborth cwsmeriaid wedi’u cynnwys yn y
cyllidebau presennol. Dywedodd y Swyddog Cwynion Corfforaethol (SCC) wrth yr Aelodau bod y
cyfeiriad yn Nhabl 1: Amseroedd ymateb cyffredinol i gwynion ar gyfer Chwarter
2 at “arall” 67%, ond yn berthnasol i ddwy gŵyn a dderbyniwyd mewn
perthynas ag AD ac un yn ymwneud â TG. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies,
cadarnhaodd y PCChA mai Polisi’r Cyngor oedd darparu ymatebion Cymraeg i
gwynion a dderbyniwyd yn y Gymraeg, a dylid anfon unrhyw achosion o anghysondeb
at y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol. Cadarnhawyd
hefyd y dylid darparu ymatebion ysgrifenedig i gwynion a gyflwynwyd gan
Aelodau, ac os oedd yr Aelodau’n anfodlon gyda’r ymateb a dderbyniwyd, dylid
cyfeirio hyn at y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i sicrhau y targedwyd
ardaloedd problemus. Dywedodd y PCChA wrth y Pwyllgor y byddai
Gweithdy Aelodau’n cael ei gynnal ar y 13 Rhagfyr, 2013 pan fyddai arddangosiad
o’r newidiadau i’r system Rheoli Cyswllt Cwsmer RhCC yn cael ei roi.
Pwysleisiodd
y PCChA bwysigrwydd sicrhau bod Aelodau’n defnyddio’r system RhCC hyd yn oed
wrth gysylltu â swyddogion penodol. Ymatebodd y SCC i gwestiwn gan y Cynghorydd R.J. Davies ac eglurodd bod
ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gyda llywodraethwyr ysgolion ar y
newidiadau i’r broses bresennol o gwyno am ysgolion. Cytunodd y PCChA y dylid dosbarthu’r ddogfen ymgynghori, a gylchredwyd
yn ddiweddar i Lywodraethwyr Ysgol, i Aelodau’r Pwyllgor. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, llongyfarchodd Aelodau’r Pwyllgor y
Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg a’i staff am y gwaith a wnaed. PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod, fod
y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a nodi perfformiad gwasanaethau wrth ddelio â
chwynion. Llongyfarchodd yr Aelodau’r Tîm Cwynion ar
weinyddu’r broses gwynion yn effeithiol. |
|
ADOLYGU’R GOFRESTR RISGIAU CORFFORAETHOL PDF 125 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) ar adolygiad
ffurfiol o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol.
10.55 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad ynglŷn â’r
diwygiad ffurfiol i’r fersiwn ddrafft ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ym
mis Tachwedd, 2013 wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y
Swyddog Gwella Corfforaethol (SGC) yr adroddiad a oedd yn cynnwys y fersiwn
diweddaraf o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, fel y cytunwyd mewn Sesiwn
Friffio’r Cabinet. Yn flaenorol, cyflwynwyd yr adroddiad
i’r TGC yn unig. Fodd bynnag, roedd yn ddoeth i gynnwys Aelodau
wrth ei ddatblygu a’i reoli. Ystyriwyd
mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn oedd cynnwys Aelodau Arweiniol yn
Sesiwn Friffio’r Cabinet. Darparodd y SGC
grynodeb fanwl i’r Aelodau o’r prif faterion i'w nodi ar gyfer y Gofrestr
Risgiau Corfforaethol, a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd G. Sandilands, esboniodd y SGC y rhagwelwyd y
byddai’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei hadolygu nesaf ar ôl cytuno
ar y gyllideb, ym mis Chwefror neu fis Mawrth, 2014. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd D. Owens ynglŷn â lefel y risg mewn perthynas â
diwygio DCC021: ‘Y risg nad oes partneriaeth a rhyngwyneb effeithiol yn
datblygu rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chyngor Sir
Ddinbych (CSDd), gan arwain at gam-alinio sylweddol rhwng cyfeiriad strategol a
gweithredol BIPBC a CSDd’. Rhoddodd y SGC fanylion y proses farcio
cyfraddau Risg Cynhenid a Gweddillol a sut oeddent yn berthnasol i DCC021. Ymatebodd y
CC:UECh i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch unrhyw oblygiadau posibl i
Gyfarwyddiaethau o ganlyniad i ostyngiad yn lefel y gefnogaeth a ddarperir gan
AD. Eglurwyd bod cynnwys AD ar y Gofrestr Risgiau’n
dangos cydnabyddiaeth fod pryderon ynglŷn â lefel y cymorth sydd ar gael
ar draws yr Awdurdod. Cadarnhaodd y CC:UECh fod Cynllun
Gweithredu ar gyfer Gwella ar waith gan AD, ac roedd y mater hwn wedi’i amlygu
yn dilyn Adolygiad Archwiliad Mewnol a’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. Roedd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella yn cael
ei gyflwyno ar hyn o bryd, a oedd yn cynnwys lefel y cymorth a ddarparwyd i
reolwyr a’r modd y byddai’n cael ei ddarparu. Eglurwyd
fod yr Awdurdod wedi penderfynu newid y ffordd y darparwyd cymorth AD gydag AD
yn darparu rôl gefnogol i reolwyr.
Clywodd Aelodau y byddai
adolygiad yn cael ei gynnal, ar ôl gweithredu’r gwelliannau, i werthuso’r
canlyniadau. Roedd Her Gwasanaeth wedi’i drefnu ar gyfer y Gwasanaeth AD yn y
dyfodol agos a gofynnwyd i gynrychiolydd y Pwyllgor, y Cynghorydd RJ Davies,
fynegi pryderon y Pwyllgor yn y cyfarfod hwnnw. PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, fod
y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r hyn a ddilëwyd a’r hyn a
ychwanegwyd i'r Gofrestr Risg Corfforaethol. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 2 2013/14 PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) a oedd
yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar
ddiwedd Chwarter 2 2013/14.
11.30 a.m Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi
o’r adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, a oedd yn rhoi
diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd
Chwarter 2 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod. Cyflwynodd y Swyddog Gwella
Corfforaethol (SGC) a Rheolwr Swyddfa’r Rhaglen Gorfforaethol (RhSRhG) yr
adroddiad a dywedodd fod adroddiadau rheolaidd yn un o ofynion monitro
angenrheidiol y Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn arfer ei
ddyletswydd i wella. Mae’r Atodiad
i’r adroddiad yn cyflwyno crynodeb o bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn
nodi fod cynnydd derbyniol wedi’i wneud wrth gyflwyno’r Cynllun Corfforaethol. Cydnabuwyd y byddai’n cymryd hirach i
wella rhai meysydd nag eraill.
Fodd bynnag,
byddai’n bwysig deall sut y dylai’r daith tuag at welliant edrych ac roedd hyn
wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad yn yr adroddiad. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys crynodeb o agweddau perfformiad allweddol y Cynllun
Corfforaethol yn chwarter 2, a darparodd y SGC grynodeb manwl o bob un o’r
canlyniadau yn yr Adroddiad Perfformiad.
Cydnabu’r Pwyllgor ei bod yn
dal yn gynnar yn oes y Cynllun Corfforaethol i gyflawni cynnydd sylweddol o ran
cyflawni elfennau o rai o'r blaenoriaethau. Fodd
bynnag, amlygodd yr Aelodau'r pryderon canlynol yn ymwneud â phedwar o’r
blaenoriaethau canlynol: - Datblygu’r
Economi Leol · Canlyniad
5, ‘Trefi a Chymunedau Llewyrchus’, awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried
defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael fel dangosyddion ar gyfer mesur ein
llwyddiant i ‘Fynd i’r afael ag Amddifadedd a Thlodi, yn enwedig mewn rhannau
o’r Rhyl a Dinbych Uchaf’. I sicrhau cywirdeb efallai y byddai
felly’n ddefnyddiol i ddefnyddio’r ffigyrau incwm canolrif 2012 ar gyfer y
dangosyddion hyn. · Canlyniad
6, ‘Sir Ddinbych wedi’i hyrwyddo’n dda’:
gan ystyried nifer y tai
newydd a gwblhawyd yn ystod hanner cyntaf 2013/14, roedd y Pwyllgor yn bryderus
ynglŷn â gallu’r Cyngor i gyflawni ei CDLl o fewn yr amserlen
ddisgwyliedig Gwella
Perfformiad mewn Addysg ac Ansawdd Adeiladau ein Hysgolion · roedd
gan y Pwyllgor nifer o bryderon ynglŷn â’r defnydd o ystafelloedd dosbarth
symudol ar draws y Sir. O ganlyniad, gofynnwyd i adroddiad
cynhwysfawr gael ei gyflwyno i’w ystyried ym mis Ionawr ar nifer, lleoliad, oed
a chyflwr yr ystafelloedd dosbarth symudol yn ogystal ag ar gyflwr adeiladau
ysgol yn gyffredinol ac ar ragolygon niferoedd disgyblion a lleoedd i ddelio
â’r nifer o ddisgyblion a ragwelwyd yn ysgolion y sir. Strydoedd Glân
a Thaclus · Canlyniad
11: roedd perfformiad yn erbyn y dangosydd ar glirio achosion o dipio
anghyfreithlon wedi bod yn achos pryder i’r Pwyllgor ers mis Medi 2013. Roedd
gan y Pwyllgor bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb adroddiadau ystadegol yr
Awdurdod ar y DP hwn ac wedi gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno i’r aelodau ar
y mater hwn yng nghyfarfod mis Ionawr ac y dylai’r adroddiad hefyd gynnwys
diffiniad o ran sut y byddai “rhagoriaeth mewn perthynas â lleihau tipio
anghyfreithlon” yn edrych. · Mynegodd
yr Aelodau bryderon hefyd ynglŷn â’r nifer o Rybuddion Cosb Benodol (RhCB) a roddwyd a’r
camau gorfodi a gymerwyd mewn perthynas â baw cŵn ar draws y sir, yn
enwedig o’u cymharu â’r camau a’r nifer o RhCB a roddwyd am achosi ysbwriel. Codwyd
pryderon tebyg gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad
cynnydd ar y Strategaeth Atal Baw Cŵn yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd. Sicrhau
Mynediad at Dai o Ansawdd Da · Cwestiynodd y Pwyllgor berfformiad y Cyngor yn erbyn y mesur perfformiad yn ymwneud â % y ceisiadau cynllunio gan ddeiliaid tai a benderfynwyd o fewn 8 wythnos. Roedd Swyddogion eisoes wedi adrodd ar y mater i'r Pwyllgor ym mis Hydref ac er ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 89 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â
materion perthnasol.
12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, oedd yn
gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn darparu
diweddariad ar faterion perthnasol, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Roedd 'ffurflen gynnig’, Atodiad 2, wedi’i derbyn i'w hystyried yn y
cyfarfod a oedd yn ymwneud â’r Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol. Roedd y cais yn deillio o risg a nodwyd mewn
adroddiad Archwilio Mewnol diweddar yn ymwneud â'r diffyg eglurder ynghylch y
trefniadau llywodraethu Iechyd a Diogelwch. Cytunodd yr aelodau y dylid cyflwyno’r Adroddiad
Blynyddol i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mai, 2014. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac
roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar ac a oedd yn
hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys
yn Atodiad 4 yr adroddiad. Ym mis Medi, roedd y Pwyllgor wedi gwneud cais i dderbyn adroddiad
gwybodaeth ar ddefnydd yr Awdurdod o staff addysgu llanw. Oherwydd
natur gymhleth y gwaith sydd ei angen i dynnu’r wybodaeth hon ynghyd eglurwyd
na fyddai adroddiad ar gael tan dymor yr haf 2014. Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar 24 Hydref, 2013 a 5 Rhagfyr, 2013.
Gwahoddodd y Cydlynydd Craffu sylwadau gan Aelodau ar Atodiad 2 y ddogfen
Briffio Gwybodaeth a oedd yn cyfeirio at y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd a
Chymunedol. Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r wybodaeth a
ddosbarthwyd, a oedd yn nodi y dylid penodi cynrychiolydd Pwyllgor i eistedd ar
y Bwrdd, a chytunwyd y dylid penodi’r Cynghorydd G. Sandilands i eistedd ar y
Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
Rhoddwyd cadarnhad y byddai
hyfforddiant yn cael ei ddarparu i Aelodau a benodwyd i’r Bwrdd. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd C. Hughes, rhoddodd y CC:UECh
fanylion am aelodaeth y Bwrdd a chytunodd i ddarparu manylion pellach
ynglŷn â hawl rhai nad ydynt yn aelodau i fynychu cyfarfodydd. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd C. Hughes ynghylch y
diffyg cyllideb gynnal a chadw ar ôl cyfnod o chwe mis i ymgymryd â mathau
penodol o waith cynnal a chadw tiroedd, Eglurodd y CC:UECh bod Rhaglen Wella’n
cael ei chynnal yn y Gwasanaethau Tai ar hyn o bryd. Cytunodd
Aelodau y dylid cynnwys adroddiad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwella, a
allai helpu mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol
y Pwyllgor ar gyfer mis Chwefror, 2014. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd
i ddod, fel y manylir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r
ychwanegiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd canlynol:- Dylid cynnwys adroddiad ar Leoedd Mewn Ysgolion ac Ystafelloedd Dosbarth
Symudol ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer 16 Ionawr, 2014. PENDERFYNWYD:- a)
y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar y newidiadau a’r
cytundebau uchod, ac b)
y dylid penodi’r Cynghorydd Gareth
Sandilands yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd
a Chymunedol |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12.15 p.m. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd C. Hughes ei fod wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod Cyllid ac
Asedau diweddar, ac yr amlygwyd y meysydd canlynol: - -
Pryderon
yn ymwneud â statws COG. -
Y
nifer a oedd yn bresennol ar gyrsiau hyfforddiant caffael perthnasol, a oedd yn
is na’r targed ar gyfer ymyrraeth.
Rhoddwyd sicrwydd fod y mater hwn yn cael
sylw, ynghyd â mater tebyg yn ymwneud â thendrau a dyfynbrisiau electronig. -
Roedd
Cyllid ac Asedau wedi syrthio islaw eu targedau o safbwynt cwynion. -
Problemau
a brofwyd mewn perthynas â gwybodaeth reoli o’r system TRENT. Eglurodd y
Cynghorydd D. Owens ei fod ef a’r Cynghorydd C. Hughes wedi bod i gyfarfod
Eiddo ac Archwilio ar yr 11 Rhagfyr, 2013 ac y byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. Dywedodd y
Cynghorydd WL Cowie wrth y Pwyllgor fod cyfarfod gyda’r Rheolwr Adran: Rheoli
Rhwydwaith wedi’i ohirio tan fis Ionawr, 2014. Dywedodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi bod i gyfarfod paratoadol cyn yr
Her Gwasanaeth ym mis Tachwedd i ddewis cwestiynau i’w cyflwyno i’r Pennaeth
Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Mynegodd y Cynghorydd Lloyd-Williams ei
syndod at rai o’r cwestiynau a ddewiswyd ar gyfer yr Her Gwasanaeth. Eglurodd
ei fod wedi cwrdd â’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden yn ddiweddar, a
dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn galonogol i weld yr amrywiaeth eang o
ddigwyddiadau chwaraeon newydd a gynlluniwyd yn Sir Ddinbych. Cyfeiriwyd at y
rhaglen tair blynedd ar gyfer Rali Cymru Prydain a rhoddwyd cadarnhad y byddai
Sir Ddinbych yn flaenllaw mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Eglurodd y
Cynghorydd R.J. Davies fod cyfarfod wedi’i drefnu ynglŷn ag Ymholiadau ar
gyfer AD ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd
G. Sandilands wedi bod i gyfarfod Grŵp Buddsoddi Strategol, lle y cytunwyd
i ddarparu cyllid ar gyfer bwnd Glasdir. PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiadau. Daeth y Cyfarfod i ben am 12.25p.m. |