Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatgan cysylltiad.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 142 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 19 Medi 2013 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2013.

 

Datganodd y Cynghorydd Bill Cowie bryder eu bod yn derbyn y papurau Briffio Gwybodaeth mor agos i’r cyfarfod.  Yn bersonol byddai’n well ganddo dderbyn y wybodaeth wrth iddi ddod i mewn fel bod amser i ystyried y wybodaeth yn hytrach na’i chynnwys mewn un ddogfen a gyflwynir yn agos iawn i ddyddiad y cyfarfod.

 

Fe gadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio, os ydi’r Pwyllgor yn dymuno derbyn y wybodaeth wrth iddi ddod i mewn, y byddai’n gyrru’r wybodaeth yn y modd hynny.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2013 fel cofnod cywir.

 

5.

TCC yn Sir Ddinbych pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ymgynghori gyda’r aelodau am amrywiaeth o opsiynau ar gyfer moderneiddio, uwchraddio a gwella TCC a Thîm Cyswllt Tu Hwnt i Oriau Gwasanaeth y Cyngor. 

9.35 a.m. – 10.05 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn ymgynghori â’r Aelodau ynglŷn â nifer o opsiynau i foderneiddio, uwchraddio a gwella Tîm TCC a Galwadau Allan o Oriau Arferol y Cyngor.

 

Gofynnodd yr Aelodau am adroddiad i'w diweddaru ar y cynnydd a wnaed gyda chynigion i ddatblygu swyddogaeth TCC a Galwadau Allan o Oriau Arferol y Cyngor yn dilyn cyfarfod ym mis Ebrill 2013.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyflwyno’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a Goruchwyliwr y system TCC i’r aelodau.

 

Rhestrwyd 16 opsiwn posib yn atodiad cyfrinachol yr adroddiad. 

 

Roedd yr opsiynau’n sicrhau y byddai gwasanaeth TCC yn parhau i redeg er bod y gyllideb wedi’i chwtogi.  Roedd costau rhedeg y gwasanaeth TCC yn 2010/11 wedi dod i £341k ond erbyn 2014/15 bydd y gyllideb yn cael ei chwtogi i £228k. 

 

Yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ogystal â’r Partneriaid oedd bod y gwasanaeth yn dda ac yn werthfawr, ac felly roedd Sir Ddinbych eisiau rhedeg gwasanaeth ar un ai'r un lefel neu hyd yn oed uwch, a hynny trwy wneud arbedion ar yr un pryd.  Roedd yna gyfle i wella’r gwasanaeth TCC ac i redeg y gwasanaeth ar sail busnes. 

 

Ar hyn o bryd dim ond mewn rhai ardaloedd o’r sir y ceir gwasanaethau TCC cynhwysfawr, a phrin yw’r gwasanaeth TCC mewn ardaloedd eraill.

 

Yn ystod nosweithiau a phenwythnosau, gyrrwyd galwadau’r ganolfan gyswllt at y Tîm Galwadau Allan o Oriau Arferol yn ystafell reolaeth TCC a olygai fod gan y staff ddwy rôl i’w chyflawni.

 

Ymysg  yr opsiynau oedd cymysgedd o syniadau i wella’r gwasanaeth ac i ddarparu gwasanaeth i drefi sydd ar hyn o bryd heb wasanaeth TCC. Roedd cynnig i ofyn i Gynghorau Tref gyfrannu at ddarparu’r cyfleusterau hyn.  Cyflwynwyd cynllun busnes Sir Ddinbych i fusnesau hefyd lle byddai’r cyngor yn cynnig gosod TCC ar eu heiddo er mwyn creu incwm i’r Cyngor yn ogystal â gwarchod y busnes a’u heiddo ar yr un pryd.  Roedd yr opsiwn o noddi camerâu yn cael ei ystyried hefyd.

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i Eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail gan fod posibilrwydd o orfod datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Adran 4 o Amserlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

Codwyd y materion canlynol yn dilyn trafodaethau:

 

·         Un o brif ddefnyddwyr y gwasanaeth TCC yw Heddlu Gogledd Cymru.  Mae’r Heddlu yn gwneud cyfraniad o £18k i bob Awdurdod Lleol.  Penderfynwyd ar y ffigwr sawl blwyddyn yn ôl.  Nid yw’r Heddlu’n fodlon ail-drafod y ffigwr ar lefel rhanbarthol nac ar lefel awdurdod lleol i gynyddu’r cyfraniad.  Un opsiwn yw defnyddio swyddogion sy’n gweithio i’r heddlu ond sydd “â dyletswyddau ysgafn” i roi cefnogaeth  i staff  TCC fel secondiad.

·         Argymhelliad i lunio cynllun busnes tair blynedd o bosib a fyddai’n cynnwys archwiliad mewnol i droi’r gwasanaeth yn wasanaeth sy’n gwneud elw. 

·         O dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 roedd dyletswydd ar y cyngor i leihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal, ond nid oedd ymrwymiad statudol i redeg gwasanaeth TCC.

·         Trafodwyd y broblem gyda strwythur staffio’r gwasanaeth TCC - roedd dau aelod staff wedi gadael yn wirfoddol ac roedd y swyddi heb eu llenwi.  Roedd hynny wedi gwneud arbediad o oddeutu £50-60k.  Felly, o ganlyniad i lai o staff roedd y rota 24 awr wedi bod yn anodd iawn i’w weithredu.

·         Mae cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o’r opsiynau yn yr atodiad.   Yn y dyfodol gall cydweithio â Chonwy  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

RHAN 1 - GWAHODDIAD I'R WASG A'R CYHOEDD FYNYCHU'R RHAN HON O'R CYFARFOD

6.

DIWEDDARIAD YNGLYN A THRWYDDEDU TACSIS pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ynglŷn ag effeithiolrwydd gweithdrefnau newydd trwyddedu yn dilyn gweithredu canfyddiadau adolygiad o faterion trwyddedu a gynhaliwyd gan Adran Archwilio Mewnol (gan bwysleisio’n benodol ar drwyddedau tacsi a chyfrifoldebau diogelu).

10.05 a.m. – 10.35 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i’r Aelodau o’r cynnydd a wnaed hyd yma o adolygu’r swyddogaeth trwyddedu tacsis sy’n cynnwys gweithredu trefnau mwy cadarn i ddiogelu’r cyhoedd, yn arbennig unigolion diamddiffyn yn ein cymunedau.

 

Cynhaliwyd adolygiad trwyadl o’r gweithdrefnau trwyddedu a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mehefin 2013. Bellach mae’r swyddogion yn gweithredu’r gweithdrefnau hyn.

 

Yn ogystal â'r adolygiad o weithdrefnau, roedd  yna adolygiad llawn hefyd o’r polisïau trwyddedu tacsi.  Y gobaith oedd adrodd yn ôl ar y polisi diwygiedig ym Mhwyllgor Trwyddedu mis Rhagfyr 2013, er hynny, roedd y prosiect wedi bod yn fwy cymhleth na’r disgwyl ac o ganlyniad gofynnir i’r Pwyllgor Trwyddedu yng nghyfarfod Rhagfyr i adolygu pryd fyddai orau i adrodd yn ôl ar y polisi diwygiedig.

 

Roedd gweithio aml-asiantaeth wedi bod o fudd mawr.  Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ar faterion gorfodi trwyddedau tacsi gyda Heddlu Gogledd Cymru, VOSA a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Cowie ei fod wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu am fwy na 5 mlynedd a heb os roedd pethau wedi gwella.  Gofynnodd aelodau’r pwyllgor eu bod eisiau llongyfarch y staff sydd wedi bod yn rhan o’r gweithdrefnau a’r broses gorfodi trwyddedau tacsi  ar yr holl welliannau.

 

Ni chafwyd cydweithrediad estynedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ond cafwyd lefel o gydweithrediad, ac roedd yr un yn wir am awdurdodau lleol eraill sy’n gymdogion i’r sir.   

 

Roedd safon gyrru’r gyrwyr tacsi yn broblem a byddai’n rhaid cyfeirio at y broblem hon.  Roedd pob gyrrwr tacsi yn gorfod cymryd rhan mewn “prawf gwybodaeth”.   Yn ystod yr adolygiad o’r polisi, gweithredwyd system pwyntiau cosb i gynnwys ymddygiad ac agwedd y gyrrwr.  Roedd gyrwyr wedi bod o flaen y Pwyllgor o ganlyniad i’r mater hwn.   Ar hyn o bryd nid oedd prawf ar gael i brofi sgiliau gyrru’r gyrrwr.  Roedd esiampl yn ddiweddar lle'r oedd gyrrwr tacsi’n gorfod mynychu cwrs ymwybyddiaeth gyrru yn dilyn ei bresenoldeb mewn Pwyllgor Trwyddedu.  Byddai'r pwyllgor hefyd yn edrych i mewn i ryw fath o brawf gyrru er mwyn edrych ar sgiliau gyrru’r gyrwyr ac yna adrodd yn ôl i’r Cydlynydd Archwilio.

 

Roedd Archwiliad Mewnol wedi cymryd rhan yn y broses o adolygu prosesau newydd.  Felly, roedd adolygiad archwilio yn ei le.  Byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ymhen amser.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, fod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r gwelliannau a gyflawnwyd hyd yma.

 

Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00 a.m.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR Y STRATEGAETH YMYL PALMENTYDD ISEL pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) ynglŷn â llunio’r strategaeth a threfn y cyngor ar gyfer darparu ymyl palmentydd isel yn y sir a’u perfformiad i gyflawni'r amcanion hyn.

10.45 a.m. – 11.15 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, adroddiad i’r Aelodau (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) ar y cynnydd o ddatblygu’r Strategaeth Ymyl Palmentydd Isel, a sefydlu prif lwybrau mewn cymunedau, a blaenoriaethu amserlen o osodiadau.

 

O ganlyniad i newid mewn grant cyllido, nid oedd y fenter ymyl palmentydd isel wedi symud yn ei blaen fel y disgwyl.  Er hynny, roedd cynlluniau ar y gweill i geisio ailddechrau’r broses o osod ymyl palmentydd isel mewn modd strategol ar draws y Sir.  Y cam cyntaf o’r broses oedd datblygu polisi ac i adnabod prif lwybr e.e. rhwng canolfannau o boblogaeth a chyfleusterau iechyd a hamdden, rhwng cyfleusterau gofal a llwybrau bws, o feithrinfeydd dydd a thai lleol, ayb. 

 

Cafodd Cynllun y Prosiect ei ddatblygu â'r Swyddog Cydraddoldeb Corfforaethol.

 

Roedd Sir Ddinbych yn ceisio gwella symudedd ar draws y sir.  Y bwriad oedd cynnal cyfarfod ar 5 Tachwedd 2013 rhwng y Rheolwr Adran: Rheolaeth y Rhwydwaith (SM: NM) a budd-ddeiliaid, i gael sylwadau fel bod modd cyfeirio at yr anghenion mewn dull cynaliadwy a chyda ffocws iddo.  Yn dilyn y cyfarfod, byddai’r SM: NM yn trafod y diweddaraf ar y cynllun â’r Cynghorydd Bill Cowie. 

 

Yn ystod y broses o ddatblygu ystadau tai newydd bydd y cyngor yn ymgynghori â’r datblygwr i gynnwys rhagor o ymyl palmentydd isel o fewn y datblygiad.

 

Y gost gyfartalog i’r cyngor ar gyfer gosod palmentydd ymyl isel yw oddeutu £600. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys y gwaith gosod yn ogystal â’r amser  a gymerir i osod y palmant ymyl isel.

 

Dyrennir y gyllideb gyffredinol o ddyraniad bloc presennol Priffyrdd.

 

Cadarnhawyd y byddai angen cynnal dadansoddiad o fylchau unwaith y bydd y strategaeth yn ei lle.

 

Er bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cyfeirio at Briffyrdd, nid oedd wedi cael ei herio ac roedd yna wastad risg y byddai'n rhaid i’r sir gyfiawnhau ei hymrwymiad i gydymffurfio â'r Ddeddf, ac felly byddai'r ymdriniaeth yma'n lleihau’r siawns o weithred bosib.

 

PENDERFYNWYD  yn amodol ar y wybodaeth uchod a bod archwiliad yn cael ei wneud o anghenion palmentydd ymyl isel ar draws y Sir, bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma.

 

8.

CEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Rheoli Datblygu (copi ynghlwm) i ganfod tueddiadau sy'n ymddangos neu bwysau fydd yn effeithio ar allu'r cyngor i ddarparu eu blaenoriaethau corfforaethol o ran sicrhau mynediad at dai o ansawdd da a datblygu’r economi lleol.

11.15 a.m. – 11.45 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn adnabod tueddiadau newydd neu bwysau a fyddai’n effeithio’r ffordd y gweithredir blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor mewn perthynas â sicrhau mynediad i dai o safon a datblygu’r economi leol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am gopi o’r adroddiad yn dilyn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn y Cyfarfod Archwilio Perfformiad ym mis Medi 2013.

 

Gofynnwyd am ffigurau i gymharu ar gyfer 2011/12, 2012/13 a 2013/14 (hyd yma) gan eu bod o'r farn bod angen eglurhad dros y rheswm pam nad oedd Sir Ddinbych yn perfformio ymysg y chwartel uchaf yng Nghymru mewn perthynas â'r amser a gymerir i benderfynu ar geisiadau perchnogion tai o fewn cyfnod o 8 wythnos.

 

Fe eglurodd swyddogion fod perfformiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar nifer o agweddau fel adnoddau staff, salwch, ceisiadau cymhleth ayb.

 

Fe gadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod ceisiadau cynllunio wedi eu rhannu’n wahanol gategorïau.  Yn ogystal â'r amser a gymerir i ddelio â’r ceisiadau, roedd safon y penderfyniad dros gymeradwyo neu wrthod y cais hefyd yn bwysig.  Agwedd a fyddai’n dylanwadu ar yr amser a gymerir i ddelio â chais gan berchennog tŷ yw os bydd rhaid cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio, neu os oes cais masnachol mawr dan ystyriaeth yna gallai hyn arafu'r broses ar gyfer ceisiadau perchnogion tai am fod yr adnoddau'n cael eu gyrru i rywle arall er mwyn gallu ymdrin â’r cais mawr.

 

Roedd Swyddogion Cynllunio wedi cydweithio â datblygwyr ac asiantau ac yn rhan o fforwm wedi’i sefydlu â’r nod o wella a symleiddio’r broses ceisiadau cynllunio i’r unigolion perthnasol. 

 

Roedd y Swyddogion Cynllunio’n edrych trwy'r ceisiadau ac os oes angen h.y. am gynllun diwygiedig yn hytrach na gwrthod y cais. Byddai’r swyddog yn cysylltu â’r ymgeisydd i gael cynllun diwygiedig fel bod modd cymeradwyo’r cais yn hytrach na’i wrthod, yn lle bod yr ymgeisydd yn gorfod gwastraffu amser yn ail gyflwyno cais arall.   Gallai’r broses hon gymryd mwy na’r 8 wythnos wreiddiol ond byddai’n cymryd llai o amser na chyflwyno cais o’r newydd. Gall gyfrannu at y broblem o’r amser a gymerir i gwblhau ceisiadau.  Er hynny, yr ymdeimlad yn gyffredinol oedd bod hyn gyfystyr â gwasanaeth o ansawdd gwell i bawb yn y pendraw.

 

Roedd y raddfa amser o 8 wythnos yn statudol ar gyfer dibenion meincnodi o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.

 

Agwedd arall i’r cynllunio oedd y gwasanaeth cyhoeddus o ofyn am drafodaeth anffurfiol cyn cyflwyno'r cais cynllunio.  Yn hanesyddol roedd trafodaethau anffurfiol i’w cael yn rhad ac am ddim.  Yn y blynyddoedd diwethaf cyflwynwyd cynlluniau codi ffi am gyngor 'cyn cyflwyno’r cais’.  Yn achlysurol, os na fyddai’r unigolyn yn derbyn cyngor 'cyn cyflwyno'r cais' gall olygu llawer o waith ar y cais.  Os cafwyd cyngor ‘cyn cyflwyno’r cais’ yna byddai modd delio â'r cais yn gyflymach. 

 

Bydd y cymorthfeydd ar gynllunio (sydd am ddim) ac a gynhelir unwaith bob pythefnos yn parhau.

 

Yn y Fforwm Datblygwyr ac Asiantau, trafodwyd y mecanwaith codi ffi  a chytunwyd fod angen talu am wasanaethau’r cyngor.

 

Cadarnhawyd bod gan bobl yr hawl i wneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol.  Llywodraeth Cymru oedd wedi penderfynu ar y costau ac nid oedd cosb ariannol  ar gyfer cais cynllunio ôl-weithredol.  Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r costau hyn yn y dyfodol.

 

Nid oedd gan yr Adran Gynllunio bolisi neu ofyniad i fod yn gost niwtral.  Roedd gan yr Adran gyllideb a ffrwd incwm.  Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn darparu llawer mwy o wasanaethau na cheisiadau cynllunio’n unig, h.y. y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r cyfleuster Rheoli Datblygiad.  Roedd gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan Gydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â materion perthnasol.

11.45 a.m. – 12.05 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn casglu safbwyntiau’r Aelodau ar ‘Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol’ (RhGD):

 

(i)            Ychwanegu’r diweddariad ar yr adroddiad TCC i RhGD 1 Mai 2014.

(ii)  Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2013. Gwahoddwyd y Cynghorwyr Hugh Irving a David Smith i fynychu fel Aelodau Arweiniol.  Cynghorydd Barbara Smith i fynychu ar ei liwt ei hun.

(iii) Ar hyn o bryd mae dwy eitem addysg ac un eitem ar dipio anghyfreithlon ar gyfer cyfarfod 16 Ionawr 2014.  Y ddau Arweinydd Arweiniol, Cynghorwyr Eryl Williams a David Smith i fynychu.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr ychwanegiadau a’r cytundebau uchod, i gymeradwyo ‘Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol’.

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor sy’n aelodau o Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

12.05 p.m. – 12.10 p.m.

                                                     

Cofnodion:

Cafwyd crynodeb byr gan y Cynghorydd Richard Davies ar yr Her Gwasanaethau Cwsmer a Chefnogaeth Addysg a fynychodd.  Trafodwyd y pynciau canlynol.

 

Addysg:

 

·         Roedd pob ysgol angen bod yn addas i’r pwrpas.  Mae angen cyfeirio at y lleihad mewn niferoedd a gweithio ar sut i leihau’r nifer o leoedd yn weddill ac sydd ar hyn o bryd yn 21% yn uwch na tharged LlC. 

·         Ysgol Ffydd Newydd

·         Ystafelloedd Dosbarth Symudol

·         Buddsoddi mewn ysgolion hŷn

·         Buddsoddi mewn ysgolion arbennig (yn arbennig oherwydd y risg gyda lleihad mewn  niferoedd yn y dyfodol yn Ysgol Plas Brondyffryn o ganlyniad i’r buddsoddiad diweddar yn Ysgol y Gogarth). 

·         Roedd cynllun gweithredu yn ei le ar gyfer absenoliaeth ac roedd hynny bellach yn gwella.

·         Darpariaeth a thâl tuag at gludiant ôl 16.   O bosib byddai'n mynd allan i dendr y flwyddyn nesaf.

 

Gwasanaeth Cwsmer:

 

·         Roedd yna wella parhaus

·         Herio gwasanaeth Rheoli Cyswllt Cwsmer a'i fonitro trwy gydol y 12 mis nesaf.

·         Gwefan newydd sy’n haws i’w defnyddio

·         Disgwylir arbedion effeithlonrwydd  arfaethedig o gwmpas £30K

 

 

Adroddodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu cyfarfod yn ddiweddar gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden.  Trafodwyd y risgiau o gwmnïau hyd braich.  Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd-Williams a oedd modd cyflwyno adroddiad i Archwilio ynglŷn â pherfformiad y cwmnïau hyn.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol, y byddai’n cyflwyno’r mater i’r Tîm Corfforaeth Gweithredol (TCG) i drafod perfformiad y cwmnïau hyd braich ac i benderfynu ar ba agweddau y dylai archwilio edrych arno a phryd y dylid gwneud hynny.  Byddai angen llunio rhestr lawn o’r holl gwmnïau hyd braich.

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams bod cwmni wedi dod at y Cyngor yn dangos diddordeb mewn cynnal hanner marathon yn y Rhyl.  Roedd yna hefyd bosibilrwydd o gynnal pedwar digwyddiad enfawr ar draws y sir.

 

 

Fe fynychodd y Cynghorydd Gareth Sandilands y Grŵp Buddsoddi Strategol yn ddiweddar.  Roedd trafodaethau'r Grŵp yn cynnwys:

 

·         Dechrau’n Deg

·         Rhaglen Dai Gorllewin y Rhyl

·         Agor Ffos Ail Ryfel Byd yng Nghastell Bodelwyddan

 

 

Mynychodd y Cynghorydd Arwel Roberts gyfarfod o Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (SSMG) yn ddiweddar  a dywedodd fod yr Arweinydd Arweiniol a'r Pennaeth Addysg wedi bod yn drylwyr iawn wrth gwestiynu a herio’r unigolion a oedd yn cynrychioli’r ysgolion.  Yr ysgolion a fynychodd oedd Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy - dyma ysgol hynod o hapus ac yn ysgol dda - ac Ysgol Gallt Melyd - dyma ysgol dda iawn.  Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd 2013 a bydd Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Brynhyfryd yn mynychu.

 

 

Hysbysodd y Cynghorydd Huw Jones yr aelodau o'i ymweliad â'r Rhyl ar ddydd Mercher 23 Hydref. Bu mewn cyfarfod ‘Ras Dynol’ i drafod y ras Etape.   Roedd y cwmni yn eiddgar i symud pethau ymlaen.  Gwelodd  gynrychiolwyr o gwmnïau yr Arena Digwyddiadau,  y Llyn Morol a Phont y Ddraig ac maent wedi dangos diddordeb brwd mewn trefnu digwyddiad o Gonwy i Brestatyn, o bosib yn cynnwys rhedeg, beicio a sgiliau BMX. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Bill Cowie ei bryder ar y pwynt hwn fod ystafelloedd dosbarth dros dro yn broblem enfawr yn y sir.

 

Daeth y cyfarfod I ben am 12.00 p.m.