Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gary
Williams, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Llywodraethu a Busnes, swyddog cefnogi’r Tîm Gweithredol Corfforaethol
(CET) ar gyfer y Pwyllgor. Fodd bynnag,
rodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn
bresennol a byddai'n cyflawni rôl cefnogi’r CET. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Alan Hughes gysylltiad personol yn
eitem fusnes 5 ar y sail bod ei gyflogaeth broffesiynol yn golygu ymgymryd â
gwaith â thâl i wahanol ddarparwyr gofal preifat. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau sydd, ym marn y Cadeirydd, i’w hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025.
Felly: Penderfynwyd: cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025 fel cofnod gwir a chywir o’r
gweithrediadau. Materion yn codi: tudalen 12, eitem
7, ‘Rhaglen Waith Craffu’, paragraff cyn-olaf – cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu
fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (SCVCG) yn ei gyfarfod
ar 30 Mehefin 2025 wedi trafod y ‘Weithdrefn Gohirio Adroddiad’. Cadarnhaodd y Grŵp mai’r weithdrefn
bresennol lle’r oedd y penderfyniad i ganiatáu gohirio yn nwylo’r Cadeirydd, ac
yn absenoldeb y Cadeirydd yr Is-gadeirydd, oedd y broses gywir i’w dilyn. Fodd bynnag, dylid gwneud pob ymdrech i
hysbysu’r person a ofynnodd am yr eitem i’w chraffu o’r penderfyniad i ohirio
cyn gynted â phosibl.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2024/25
Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Addysg sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol ar gyfer 2024/25 i’r aelodau ei ystyried.
10.15am – 11am EGWYL 11am – 11.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Drafft
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2024/25 i'r Pwyllgor. Nododd yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) sut yr oedd Sir Ddinbych wedi bod yn
cyflawni ei dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
dros y flwyddyn ariannol flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu'r pwysau sylweddol ynghyd â'r cynnydd a
wnaed ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Parhaodd darparu
Gofal Cymdeithasol i fod yn her a pharhaodd y galw am Wasanaethau Gofal
Cymdeithasol i gynyddu. Yn benodol,
roedd y cymhlethdod o ran angen o fewn Gwasanaethau Plant yn cynyddu a oedd yn
ychwanegu at bwysau ariannol a heriau parhaus i'r gweithlu yn enwedig o ran
recriwtio a chadw staff. Dywedwyd nad
oedd yr heriau yr oedd Sir Ddinbych yn eu hwynebu o fewn Gofal Cymdeithasol yn
unigryw i'r Awdurdod Lleol, roedd tystiolaeth bod yr heriau hyn yn cael eu
hwynebu'n genedlaethol. Rhoddodd yr
adroddiad y cyfle i fyfyrio ar y gwaith cadarnhaol a wnaed yn y gymuned bob
dydd er gwaethaf y pwysau a'r heriau.
Roedd tua 668 o aelodau staff ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn
darparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i drigolion mewn
angen. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
astudiaethau achos a oedd yn cyfeirio at y gwahaniaeth yr oedd staff o fewn y
sector yn ei wneud i fywydau trigolion bob dydd. Blaenoriaeth i'r
Gwasanaeth wrth symud ymlaen, wrth ymateb i'r heriau presennol, oedd
canolbwyntio ar y Rhaglen Drawsnewid trwy newid diwylliannol ehangach i'r
ffordd y darperir gofal yn y Sir. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg fod yr
adroddiad yn adlewyrchiad gonest a oedd yn cydbwyso'r heriau a wynebir ynghyd
â'r cyflawniadau a wnaed o fewn Gwasanaethau Oedolion a Phlant ar draws
2024/25. Cefnogodd adroddiadau gan
reoleiddwyr allanol ar ddarpariaeth gwasanaethau ac ar sefydliadau unigol a
weithredir gan y Cyngor asesiad y Cyfarwyddwr o'r Gwasanaethau fel y'i nodir yn
yr adroddiad. Llywodraeth Cymru a
bennodd fformat yr adroddiad gyda astudiaethau achos bellach yn dod yn rhan fwy
canolog o'r adroddiad. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Arweiniol a'r Swyddogion am yr adroddiad, a oedd yn ei farn
ef yn adroddiad hawdd iawn i'w ddarllen a'i ddeall, a chroesawyd cwestiynau gan
aelodau. Nododd yr
adroddiad fod gostyngiad wedi bod yn y galw am asesiadau gofal yng
Ngwasanaethau Oedolion, fodd bynnag, bod cymhlethdod yr anghenion yn
cynyddu. Cwestiynodd yr aelodau a oedd
hyn oherwydd bod pobl yn cyflwyno'n hwyrach pan oedd eu hanghenion wedi
cynyddu'n sylweddol a pha gamau ataliol y gellid eu cychwyn i geisio atal
anghenion unigolyn rhag cynyddu.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol ac
Addysg fod gwaith ar ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth wedi'i wneud cyn
cynnal Asesiad Gofal statudol a oedd yn rhan o ymyrraeth gynnar ac atal y
gwasanaeth. Ar draws y Gwasanaeth
Oedolion a Phlant roedd cyfleoedd ar gyfer cymorth gwybodaeth a chyngor trwy Un
Pwynt Mynediad (SPoA), Pwyntiau Siarad, Llyw-wyr Cymunedol a Thimau Ar Ymyl
Gofal yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Trafododd yr aelodau bobl ag anghenion mwy cymhleth nad oeddent eisiau cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am gymorth ac felly'n arwain atynt yn cyflwyno gyda'u hanghenion yn hwyrach. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg y gallai fod unigolion sy'n amharod i gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am y cymorth sydd ei angen arnynt a bod gwaith agos gyda phartneriaid ar draws cyrff y sector cyhoeddus a'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â hyn. Yn ogystal, roedd yna brosiect 'Gogledd Cymru Iach' a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a oedd â'r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWASANAETH LLYFRGELLOEDD / DARPARIAETH SIOP UN ALWAD Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai a Chymuned ar waith y
Tasglu Llyfrgelloedd a sefydlwyd i adolygu model darparu’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad yn dilyn lleihau oriau agor y gwasanaeth fis
Mehefin 2024.
11.15am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ar Ddarpariaeth Gwasanaethau Llyfrgell/Siop Un Alwad
i'r Pwyllgor. Sefydlwyd Tasglu
Llyfrgelloedd i fonitro effaith lleihau darpariaeth gwasanaeth y Llyfrgell/Siop
Un Alwad yn dilyn gostyngiad yn y gyllideb graidd. Dechreuodd y newidiadau i’r
oriau agor ym mis Mehefin 2024, yn dilyn ymgynghoriad helaeth, a’r penderfyniad
a wnaed gan y Cabinet ym mis Ionawr 2024. Cadeiriwyd y
Tasglu gan Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth ac roedd yn
cynnwys yr Aelod Arweiniol Cydraddoldeb a chynrychiolwyr o bob Grŵp Ardal
yr Aelodau, Cyngor Tref Rhuddlan ac Unsain. Cyfarfu'r Tasglu 8 gwaith ac
ystyriodd nifer o eitemau gan gynnwys – ·
Cyfleoedd i
fwy o Gynghorau Tref gyfrannu at Wasanaethau Llyfrgelloedd. ·
Cyfleoedd ar
gyfer cyllid allanol pellach. ·
Adolygiad o
bolisïau Codi Tâl Llyfrgelloedd yn arwain at fframwaith codi tâl newydd. Yn ychwanegol at
hyn, ystyriodd y Tasglu effeithiau lleihau oriau agor Llyfrgelloedd/Siop Un
Alwad. Roedd hyn yn cynnwys perfformiad
y Gwasanaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a chanlyniadau
Arolwg Defnyddwyr sy’n Oedolion ac Arolwg Staff Llyfrgell Penodol ar
berfformiad Llyfrgelloedd. Roedd dros
94% o’r ymatebwyr yn meddwl bod safonau’r gofal cwsmer yn dda neu’n dda iawn, a
oedd yn dangos faint mae cwsmeriaid y llyfrgell yn gwerthfawrogi staff rheng
flaen. Roedd staff wedi
cael eu heffeithio’n sylweddol gan y gostyngiad i’r oriau agor, drwy ostyngiad
i incwm eu haelwyd, a straen ychwanegol o ddarparu gwasanaethau Llyfrgell/Siop
Un Alwad yn ystod llai o oriau a newidiadau gweithredol heriol ar draws y Cyngor. Roedd canfyddiadau Arolwg Staff y Llyfrgell
yn adlewyrchu'r heriau a wynebwyd a'i effaith ar forâl staff. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod mynd i'r
afael â chanfyddiadau'r arolwg staff yn flaenoriaeth iddo ef a'r rheolwyr gan
mai'r staff oedd yr ased mwyaf gwerthfawr a oedd gan y Cyngor. Roedd monitro
perfformiad wedi bod yn heriol, wrth i system Rheoli Llyfrgelloedd Cymru gyfan
fynd yn fyw ym mis Rhagfyr 2024, gan olygu bod llawer o wybodaeth am
berfformiad yn anghywir. Felly, byddai'n anodd cymharu cyfraddau cynhyrchu
cyfnodau cyn ac ar ôl y gostyngiad mewn oriau agor llyfrgelloedd. Byddai hyn yn destun adroddiad a fyddai'n
cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu yn y dyfodol. Yn y cyfamser, roedd Archwilio Mewnol wedi
cynnal adolygiad o'r prosiect a oedd yn lleihau'r oriau agor, a byddai canlyniadau'r
adolygiad hwnnw'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn
Hydref 2025. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Arweiniol a'r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd
cwestiynau gan y Pwyllgor. Nododd yr Aelodau
fod yr adroddiad yn cyfeirio at yr ailbroffilio ariannol i gael gwared ar
ymrwymiad benthyca hirdymor ar gyfer Llyfrgell Prestatyn. Dim ond offeryn cyfrifyddu oedd hwn ac nid
oedd yn lleihau nac yn dileu rhwymedigaethau'r Cyngor mewn perthynas â'r
ddyled. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth
Tai a Chymunedau fod gweddill y ddyled yn cael ei thalu o'r Cyfrif Refeniw Tai
(HRA) ac nid o Gyfrif Cyffredinol y Cyngor. Sylwodd yr Aelodau
nad oedd yr adroddiad a'r Strategaeth yn ymddangos i gwmpasu'r dibenion y
sefydlwyd y Tasglu ar eu cyfer.
Gobeithiwyd y byddai'r Tasglu yn cyflwyno syniadau arloesol i'r Pwyllgor
ar sut i ddiogelu llyfrgelloedd ar gyfer y dyfodol a sut y gallai llyfrgelloedd
ymestyn eu gwasanaethau a'u horiau agor heb ddychwelyd i ddulliau trethiant
atchweliadol. Gofynnwyd a oedd yr Aelod
Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yn fodlon ar yr adroddiad
a'r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn ers lleihau'r oriau agor. Dywedodd yr Aelod Arweiniol y byddai'n fodlon
ar yr adroddiad ar ôl i'r holl waith gael ei gwblhau dros y 12 mis nesaf a
chytunodd fod angen gwaith parhaus. Esboniodd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y
pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.
12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan ofyn i’r
aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor. Roedd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 18 Medi 2025, ac
roedd pedair eitem ar y gweill ar gyfer rhaglen y cyfarfod hwnnw. Cyfarfu'r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (SCVCG) ar 30 Mehefin 2025 a
chyfeiriwyd un eitem at sylw'r Pwyllgor.
Roedd yn ymwneud â Rhaglen Drawsnewid y Cyngor a'r Prosiect Cyswllt
Cwsmeriaid ac roedd disgwyl am gadarnhad gan Swyddogion ar ddyddiad presenoldeb
mewn cyfarfod yn y dyfodol. Roedd cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu wedi'i drefnu ar gyfer 15 Medi 2025 ac anogwyd yr
aelodau i gyflwyno Ffurflen Gynnig os oedd ganddynt unrhyw bynciau yr hoffent
gael eu hystyried. Roedd Rhaglen
Waith y Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth. Roedd tabl yn
crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn cynghori aelodau ar gynnydd
gyda'u gweithredu wedi'i atodi fel Atodiad 4. Derbyniwyd cais
gan y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad i'r Pwyllgor benodi un
cynrychiolydd i wasanaethu ar bob un o'r naw Grŵp Her Gwasanaeth. Roedd dyddiadau ac amseroedd pob cyfarfod
Grŵp Her Gwasanaeth wedi'u hatodi i'r adroddiad fel Atodiad 5. Gofynnwyd i'r Pwyllgor benodi cynrychiolydd o
blith ei aelodau i wasanaethu ar bob Grŵp ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar
y trafodaethau a gynhaliwyd. Wrth ddod â’r drafodaeth i ben: Penderfynwyd: (i)
cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y manylir yn
Atodiad 1 i'r adroddiad; a (ii)
phenodi’r aelodau canlynol i wasanaethu fel ar
Grwpiau Her Gwasanaeth y Cyngor: (a) Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad - y
Cynghorydd Terry Mendies neu’r Cynghorydd Gareth Sandilands (i’w gadarnhau) (b) Cyllid ac Archwilio
– y Cynghorydd James Elson (c) Gwasanaethau
Tai a Chymunedau - Y Cynghorydd Terry
Mendies neu'r Cynghorydd Gareth Sandilands (i'w gadarnhau) (d) Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd – Y Cynghorydd Carol
Holliday (e) Gwasanaeth
Cymorth Corfforaethol: Pobl - Y
Cynghorydd Gwyneth Ellis (f)
Addysg – Y Cynghorydd Ellie Chard (g) Gwasanaethau
Plant – Y Cynghorydd Andrea Tomlin (h) Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol - y Cynghorydd Bobby Feely (i)
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau – Y Cynghorydd
Martyn Hogg |
|
SYLWADAU GAN GYNRYCHIOLWYR AR BWYLLGORAU Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 1pm. |