Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Gareth Sandilands. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw aelodau gysylltiad personol, neu
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag unrhyw un o’r eitemau a restrwyd i’w
trafod. |
|
PENODI ÎS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025/26 (copi o Swydd Ddisgrifia) 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2025/26. Enwebodd y Cynghorydd Carol Holliday y
Cynghorydd Gareth Sandilands ar gyfer rôl Is-Gadeirydd, eiliodd y Cynghorydd Ellie
Chard yr enwebiad. Ni chafwyd unrhyw
enwebiadau eraill, felly: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd
Gareth Sandilands yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer
blwyddyn gyngor 2025/26. Gan fod y Cynghorydd Sandilands wedi cyflwyno ei
ymddiheuriadau i’r cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Holliday ei bod wedi trafod
gydag ef ei bwriad i’w enwebu ar gyfer y rôl.
Roedd wedi cydsynio i’w enw gael ei gyflwyno. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mai 2024 (copi ynghlwm). 10.10am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mai 2025: Cywirdeb: tudalen 8,
ail baragraff yn y fersiwn Saesneg dylid newid y gair ‘how’ i ‘have’. tudalen 11, paragraff olaf ond un yn y fersiwn Saesneg,
dylid newid y gair ‘needed’ i ‘need’. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mai 2025 fel
cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Tudalen 8, Cofnodion y cyfarfod diwethaf -
hysbysodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y Pwyllgor bod y Grŵp Tasg a Gorffen
a sefydlwyd i ‘Adolygu Cyflwyniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd’
wedi cynnal ei gyfarfod agoriadol yr wythnos flaenorol. Roedd wedi penderfynu cymryd y cam anarferol
o benodi cyd-gadeiryddion, un o ogledd y sir a’r llall o’r de, er mwyn rhannu’r
llwyth gwaith. Roedd y cyfarfod cyntaf
wedi bod yn sesiwn gynhyrchiol o rannu syniadau i gasglu’r holl themâu
perthnasol y byddai angen eu harchwilio fel rhan o’r adolygiad. Nid oedd dyddiad wedi’i drefnu eto ar gyfer
cyfarfod nesaf y Grŵp, ond byddai’n cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. |
|
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn. 10:15am – 11:00am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol
ynghyd â Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau (HVE), Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni (RL), Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad Strategol (EH),
Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad o 2024 i 2025 ac Adroddiad
Diweddariad ar Berfformiad o Hydref 2024 i Fawrth 2025 (dosbarthwyd ymlaen
llaw) i’r Pwyllgor. Esboniwyd bod yr
adroddiad yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad rhwng 2024 a 2025,
gan ddarparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o’r cyflawniadau a’r heriau mewn
perthynas ag amcanion perfformiad allweddol y Cyngor (themâu’r Cynllun
Corfforaethol), ynghyd ag Adroddiad Diweddariad ar Berfformiad yr Awdurdod o
fis Hydref 2024 i fis Mawrth 2025. Cafodd y Pwyllgor ei
dywys trwy’r adroddiad a oedd yn cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I) yn
tynnu sylw at berfformiad yn erbyn amcanion a’r saith maes llywodraethu; yr
Adroddiad Diweddariad ar Berfformiad o fis Hydref 2024 i fis Mawrth 2025
(Atodiad II); manylion y gweithgareddau gwella a nodwyd trwy drafodaethau hyd yma,
ynghyd â’r adroddiad Llais y Dinesydd newydd (Atodiad III). Wrth fyfyrio,
dywedodd yr Aelod Arweiniol y dylai’r Cyngor fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd
dan amgylchiadau anodd dros y deuddeng mis diwethaf, a bod tystiolaeth glir o
gyflawni i safonau uchel. Tynnodd sylw at y pum cyflawniad allweddol dros
y cyfnod hwn a’r pedwar her allweddol a meysydd i’w gwella fel y nodir yn
Atodiad I. Diolchodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau i’r Tîm
Cynllunio Strategol am gynhyrchu’r ddogfennaeth a’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio am eu hawgrymiadau a’u sylwadau yn dilyn eu trafodaeth. Rhoddodd y Swyddog
Cynllunio Strategol a Gwella gyd-destun pellach, gan ddweud bod 20% (16) o
ddangosyddion y cynllun corfforaethol wedi cael eu categoreiddio’n “goch” ac y
byddai’r tîm yn gweithio i ragatal dangosyddion yn y dyfodol i osgoi gwaethygu
ac ymgymryd â gwaith pellach i wneud adroddiadau’n haws eu defnyddio.
Ymhelaethodd ar sawl maes perfformiad ardderchog - “gwyrdd”, tueddiadau
perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad amrywiol eraill, ynghyd â meysydd
“coch” lle wynebir heriau. Diolchodd y
Cadeirydd i’r aelod arweiniol a’r swyddogion am yr adroddiad trylwyr cyn i
Aelodau drafod y pwyntiau canlynol ymhellach -
|
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 11:10am – 11:25am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan
ofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor (Atodiad 1 yr adroddiad). Yn ystod ei
chyflwyniad, tynnodd sylw’r aelodau at y paragraff yn yr adroddiad eglurhaol a
oedd yn hysbysu’r aelodau fod yr adroddiad am y System Meddalwedd Cynllunio, a
oedd i fod i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod presennol, wedi’i ohirio tan
gyfarfod mis Tachwedd, gyda chydsyniad yr Is-gadeirydd, yn absenoldeb Cadeirydd
y Pwyllgor, yn dilyn cais gan swyddogion.
Sail y cais i ohirio oedd natur gymhleth y wybodaeth yr oedd angen ei
chasglu a'i chyflwyno mewn adroddiad cynhwysfawr ac ystyrlon i'r Pwyllgor. Mynegodd rhai
aelodau o’r Pwyllgor eu bod yn siomedig gyda’r oedi wrth gynhyrchu’r adroddiad
fel y bwriadwyd yn wreiddiol a gyda’r broses o hysbysu’r Pwyllgor am ei
ohirio. Roeddent yn teimlo y byddai
peidio â chael cyfle i graffu ar y mater ar yr amser penodedig gwreiddiol yn
atal aelodau rhag cynnig eitemau i'w Craffu yn y dyfodol. Rhoddodd y Cydlynydd Craffu sicrwydd i’r
Pwyllgor fod gohirio’r adroddiad wedi’i gytuno yn dilyn y broses sefydledig ar
gyfer cytuno ar ohirio. Cadarnhawyd hyn
gan y Swyddog Monitro a ddarllenodd ddatganiad hefyd gan y Rheolwr Datblygu,
Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad a roddodd rywfaint o gefndir i
gyflwyniad y system feddalwedd Cynllunio newydd a'r rhesymeg dros geisio
gohirio'r adroddiad, gan gynnwys pwysigrwydd ymgorffori canfyddiadau adolygiad
diweddar a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol o’r newid i system TG newydd yn yr
adroddiad terfynol. Unwaith y byddai
canfyddiadau'r adolygiad wedi'u derbyn, byddai camau gwella yn cael eu nodi a'u
datblygu gan grŵp tasg a gorffen arfaethedig. Byddai'r holl wybodaeth hon wedyn yn sail i
adroddiad cynhwysfawr i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2025. Cafodd yr aelodau sicrwydd gan y Swyddog
Monitro bod Craffu yn cael ei arwain gan aelodau ac y dylai fod felly bob
amser. Dywedodd swyddogion, drwy
aildrefnu adroddiad ar y rhaglen waith, gyda chymeradwyaeth y Cadeirydd neu’r
Is-gadeirydd, y byddai’n sicrhau na fyddai eitem yn cael ei ‘golli’ ond y
byddai’n cael ei harchwilio ar yr amser mwyaf priodol i ychwanegu gwerth at y
broses graffu ar ôl i’r Pwyllgor gael yr holl ddata a ffeithiau gofynnol. Gofynnodd y Cadeirydd i'r adroddiad, pan
gaiff ei gyflwyno, gynnwys manylion am p’un a oedd y cyflenwr meddalwedd wedi
cael ei dalu'n llawn, ac a oedd y contract yn cynnwys unrhyw gymalau cosb ariannol. Teimlai rhai aelodau
y dylid ymgynghori â'r aelod a gynigiodd yr eitem i'w harchwilio gan y Pwyllgor
Craffu, yn ogystal â'r Cadeirydd, ynghylch unrhyw geisiadau a dderbynnir i
ohirio eitem tan gyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Swyddog Monitro godi'r awgrym hwn gyda'r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu (SCVCG). Roedd cyfarfod nesaf
y SCVCG i fod i gael ei gynnal ar 30 Mehefin 2025 ac anogwyd aelodau i lenwi'r
ffurflen gynnig (Atodiad 2) os oedd ganddynt unrhyw eitemau a oedd, yn eu barn
nhw, yn haeddu craffu manwl. Roedd Atodiad 3 yn
yr adroddiad yn cynnwys rhaglen waith y Cabinet er gwybodaeth i'r aelodau ac
roedd Atodiad 4 yn amlinellu'r cynnydd hyd yma gyda'r argymhellion a wnaed gan
y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf. Wrth ddod â’r
drafodaeth i ben: Penderfynwyd: yn amodol
ar yr uchod, cadarnhau Rhaglen Waith y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth
ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y
Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.25pm. |