Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Terry Mendies a John Droog (Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol
Crist y Gair). |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr aelodau
canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen, Crist y Gair: Y Cynghorydd Ellie Chard
fel Llywodraethwr AALl yn Ysgol Tir Morfa a Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned
yn Ysgol Christchurch Y Cynghorydd Bobby Feeley
fel Llywodraethwr AALl yn Ysgol Stryd Rhos, Rhuthun Y Cynghorydd Martyn Hogg
fel Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy Y Cynghorydd Carol Holliday
fel Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned yn Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Alan Hughes
fel Llywodraethwr yn Ysgol Caer Drewyn, Corwen Y Cynghorydd Paul Keddie
fel Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Collen, Llangollen Y Cynghorydd Gareth
Sandilands fel Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Andrea Tomlin
fel nain i ddisgybl yn Ysgol Crist y Gair. Y Cynghorydd Emrys Wynne
fel Llywodraethwr AALl yn Ysgol Borthyn, Rhuthun Aelod Cyfetholedig Colette
Owen yn ei rôl fel aelod Cyfetholedig Craffu statudol yr Eglwys Gatholig ar
gyfer materion addysg ac Ymgynghorydd Addysg ar gyfer Esgobaeth Wrecsam Aelod Cyfetholedig Neil
Roberts fel Llywodraethwr yn Ysgol y Parc, Dinbych Datganodd y Cynghorwyr Gareth
Sandilands ac Alan Hughes gysylltiad yn eitem 6 ar y rhaglen hefyd, sef y
Wybodaeth Ddiweddaraf am Osod Cyllideb Refeniw 2025/26 yn sgil eu rolau fel
cynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2024. Materion yn Codi – Tudalen
10. ‘Cofrestr Risgiau Gorfforaethol’. Yn dilyn y cyfarfod diwethaf, nododd
aelodau y dylid edrych yn fanylach ar Risg 50 i ddileu elw mewn cysylltiad â
gofalu am Blant sy’n Derbyn Gofal a chyflwynwyd Cais Craffu. Rhoddodd y Cydlynydd Craffu wybod bod cais
ffurfiol wedi cael ei gyflwyno yn y cyfarfod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu. Roedd y Grŵp, ar ôl derbyn
adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant, yn hyderus bod y Cyngor
yn monitro’r datblygiadau’n agos ac yn aros am ganllawiau pellach gan
Lywodraeth Cymru (LlC) Roeddent felly
wedi cytuno i gynnwys yr eitem hon ar y rhaglen waith i’w harchwilio gan y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Ionawr 2026. Rhagwelwyd y byddai’r ddeddfwriaeth mewn
perthynas â hyn, a nifer y darparwyr posibl, yn llawer cliriach erbyn
hynny. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg sicrwydd i’r Pwyllgor y
byddent yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau pellach yn y cyfamser. Penderfynwyd: derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28
Tachwedd 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth a fyddai’n cael ei
thrafod o dan yr eitem ganlynol, cynigodd y Cynghorydd Gareth Sandilands y
dylid symud y cyfarfod i Ran II, eiliodd y Cynghorydd Ellie Chard y
cynnig. Roedd y Pwyllgor yn gytûn ac
felly: PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,
ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 12 a 15 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CRIST Y GAIR Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Addysg a swyddogion GwE (copi ynghlwm) yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma wrth gyflwyno cynllun gweithredu ôl-arolwg yr ysgol a’r cynllun cefnogi ysgol ar y cyd. 10.10am – 11am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
i’r Pwyllgor, a rhoddodd wybod fod Ysgol Gatholig Crist y Gair wedi agor ym mis
Medi 2019. Yn dilyn arolwg Estyn ym mis
Mai 2022, rhoddwyd yr ysgol dan Fesurau Arbennig. Ers hynny, roedd cryn dipyn o
waith wedi cael ei gwblhau gan fudd-ddeiliaid er mwyn mynd i’r afael â’r 5
argymhelliad gan Estyn a chyflawni gwelliannau parhaol yn yr ysgol. Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaeth Addysg y
gwelliannau a’r cynnydd a wnaed hyd yma fel y nodir yn yr adroddiad, gan
bwysleisio’r gefnogaeth sylweddol yr oedd yr ysgol yn parhau i’w derbyn ar sawl
ffurf. Roedd prif ffocws y gwaith a
gwblhawyd yn cynnwys cyfuno’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth gan sicrhau sefydlogrwydd
o ran arweinyddiaeth er mwyn cefnogi’r broses o ddatblygu cynlluniau gwella
cadarn a fyddai’n sicrhau datblygiadau cynaliadwy i’r dyfodol. Mewn ymateb i gwestiynau a
sylwadau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, y Cyngor, GwE a swyddogion: ·
nodi bod recriwtio staff yn
broblem ar draws addysg gynradd ac uwchradd yn genedlaethol, nid oedd y ffaith
fod Crist y Gair yn ysgol gydol oes wedi cyfrannu at y broblem hon. Rhoddwyd sicrwydd bod swyddogion yn
arbenigwyr yn y sectorau addysg perthnasol.
Gan fod Ysgol Crist y Gair yn ‘ysgol gydol oes’, roedd y nodweddion ar
gyfer Pennaeth yn cynnwys gwybodaeth a phrofiad o ymdrin â phlant o 3 i 16 oed,
roedd sgiliau arwain yn hanfodol, roedd modd trosglwyddo’r sgiliau hyn rhwng y
ddau sector. Gan fod Ysgol Crist y Gair
yn ysgol Gatholig, roedd yn rhaid i’r Pennaeth fod yn arfer y ffydd Gatholig. O ganlyniad, roedd hyn yn golygu bod llai o
bobl yn gymwys i ymgeisio am y rôl. Nid
oedd hyn yn unigryw i ysgolion ffydd, roedd yr un heriau’n berthnasol wrth
recriwtio i ysgolion cyfrwng Cymraeg. ·
sicrhau Aelodau nad oedd y
gefnogaeth a ddarperir i Ysgol Crist y Gair yn cael effaith negyddol
uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ysgolion eraill megis Ysgol Uwchradd
Prestatyn, wrth i staff gael eu secondio i gefnogi’r gwaith yn Ysgol Crist y
Gair. Roedd y sefyllfa’n cael ei
monitro’n agos. Roedd gan Ysgol Uwchradd
Prestatyn broffil Estyn rhagorol ac roedd staff eraill yn yr ysgol wedi camu
ymlaen i rôl arwain yn yr ysgol honno ac yn ennill profiad gwerthfawr. ·
ddarparu sicrwydd na
fyddai’r ffaith bod GwE fel sefydliad ar fin dod i ben yn cael effaith negyddol
ar y gefnogaeth a ddarperir i’r ysgol, gan fod y ddarpariaeth gwasanaethau
cefnogi ysgolion yn ofyniad statudol, felly byddai’r gwasanaeth yn parhau i
gael ei ddarparu dan ddull darparu gwahanol.
Sefydlwyd Bwrdd Pontio yn cynnwys Penaethiaid Addysg ac AD i gefnogi
darpariaeth y model newydd. ·
bwysleisio, er mwyn helpu
gyda recriwtio, ei bod yn hanfodol gwneud swyddi addysgu ym mhob sector yn
ddymunol ac yn ddeniadol a chwblhawyd gwaith i gyflawni hyn. ·
gadarnhau fod y berthynas
gydag ysgolion lleol eraill wedi cael ei harchwilio’n fanwl. Yn ogystal â hynny, roedd nosweithiau agored
yn cael eu cynnal er mwyn helpu i recriwtio disgyblion. Roedd rhagor o waith recriwtio yn mynd
rhagddo i gynyddu nifer y disgyblion, roedd hyn yn cynnwys gwella canfyddiad y
cyhoedd a’r darlun o’r ysgol drwy offer marchnata amrywiol, cynyddu presenoldeb
ar y cyfryngau cymdeithasol, gweithio gydag Ysgol Uwchradd Prestatyn i drefnu
teithiau ysgol ar y cyd ac ati (gan y byddai hyn yn eu gwneud yn fwy
fforddiadwy i deuluoedd), cyhoeddi newyddlen reolaidd, yn ogystal â hyrwyddo
mentrau megis disgybl y dydd/wythnos/mis er mwyn creu ethos cadarnhaol yn yr
ysgol. Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am ddarparu atebion cynhwysol i gwestiynau’r aelodau. Ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM OSOD CYLLIDEB REFENIW 2025/26 Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar setliad cyllid dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2025/26, ei oblygiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys, ac sy’n gofyn am sylwadau aelodau ar faterion a amlinellir yn yr adroddiad. 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol), yn egluro bod atebolrwydd cyfreithiol ar y Cyngor i osod cyllideb
gytbwys. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i
wella dangosyddion monitro’r gyllideb, ond cymerir gofal i sicrhau cywirdeb a
dibynadwyedd. Nodwyd hefyd bod ariannu
gwasanaethau’r Cyngor yn her barhaus.
Pwysleisiodd y Swyddog Adran 151 y pwysigrwydd o adolygu’r gyllideb ar
gyfer 2025/2026 a 2027/2028 yn rheolaidd a chadarnhaodd y byddai diweddariadau
rheolaidd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet.
Amlygodd fod y Cyngor yn ddibynnol iawn ar setliadau gan Lywodraeth
Cymru (LlC). Cydnabuwyd effaith
pensiynau a chodiadau cyflog a dyraniadau cyllid grant yn ystod y flwyddyn cyn
cyhoeddi’r Grant Cynnal Refeniw hefyd.
Roedd hyn yn golygu bod y sefyllfa wirioneddol yn dangos cynnydd
ariannol o 7% ar gyfer 2024/25. Roedd
LlC yn gweithio tuag at ddefnyddio dull mwy cynaliadwy i fynd i’r afael â
materion yn ymwneud â setliadau ariannol yn y dyfodol. Er bod y sefyllfa’n llawer mwy cadarnhaol
na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, roedd yr Awdurdod yn dal i wynebu pwysau
cyllidebol yn sgil cynnydd yn y galw am wasanaethau, yn arbennig gwasanaethau
gofal cymdeithasol dwys a chymhleth. Holodd Aelodau am addewid
uchelgeisiol y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd, a gofynnodd
p’un a ddylid ei ystyried fel pwysau cyllidebol. Rhoddodd y swyddogion wybod bod yr Argyfwng
Hinsawdd yn nod gyffredinol ac felly roedd y ffordd yr ymdrinnir â hi yn
wahanol i’r ffordd yr ymdrinnir â phwysau eraill e.e. digartrefedd, a oedd yn
haws i’w fesur o ran anghenion cyllid.
Er na fyddwn o bosibl yn cyrraedd y targed di-garbon net erbyn 2030,
roedd hyn yn parhau i fod yn uchelgais.
Tynnodd y swyddogion sylw aelodau at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn
cynnwys buddsoddiad o £250,000 mewn blaenoriaethau sy’n ymwneud yn benodol â
newid hinsawdd. Roedd yn bwysig cofio
bod dyraniad tuag at wireddu’r uchelgais hon hefyd wedi’i gynnwys yng
nghyllideb cyfalaf y Cyngor. Nodwyd bod
angen gwirio’r gymhareb refeniw: cyfalaf, gan fod cyfraddau’n newid yn
dragwyddol, ac roedd angen ystyriaeth bellach ar draws pob cyllideb i fynd i’r
afael â’r newid hinsawdd. Eglurwyd bod y
dull hwn yn wahanol i’r dull arferol, gan eu bod yn dewis rhoi mesurau
ymyrraeth ar waith nawr yn hytrach na mynd i’r afael â phroblemau yn y dyfodol,
a allai fod yn fwy costus. Roedd yn
bwysig ystyried cyllid yn y cynllun ariannol tymor canolig at y diben hwn. Gofynnodd Aelodau am
eglurhad mewn perthynas â’r costau sy’n gysylltiedig ag Yswiriant Gwladol, o
ystyried y pryderon a godwyd gan Lywodraeth yr Alban ynghylch costau
cynyddol. Nodwyd nad oedd y costau
ychwanegol hyn wedi’u hariannu’n llawn â’r setliad Grant Cynnal Refeniw. Roedd swyddogion yn cytuno ei bod yn bwysig
bod yn ymwybodol o’r materion hyn, ond pwysleisiwyd nad oedd unrhyw dybiaethau
wedi’u gwneud o ran faint o incwm neu gyllid a dderbynnir i dalu am gostau
anuniongyrchol cyfraniadau YG cyflogwyr ar wasanaethau y mae’r Cyngor yn eu
comisiynu gan ddarparwyr gwasanaeth allanol.
Cynigwyd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru i geisio eglurhad ar y sefyllfa mewn perthynas â darparu cyllid digonol i
dalu am gostau’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Pwysleisiodd aelodau’r angen am ddull sensitif a gofalus wrth fynd i’r afael â phrosiectau trawsnewidiol i’r dyfodol. Gofynnwyd p’un a oedd y gyllideb yn ddigon i fynd i’r afael â’r pwysau a nodwyd. Ymatebodd swyddogion drwy amlygu’r agwedd ddemocrataidd, gan nodi fod aelodau wedi derbyn llawer o wybodaeth drwy gydol y flwyddyn, a’i bod yn bwysig gwneud tybiaethau’n seiliedig ar ragfynegiadau. Roedd y tybiaethau a’r rhagfynegiadau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD 2023-24 Ystyried adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) sy’n ceisio barn y Pwyllgor ar berfformiad Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor yn ystod 2023-24 mewn perthynas â Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â’i gynnydd wrth ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau o les a gwytnwch unigol a chymunedol. 11.45am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth adroddiad blynyddol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â pherfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd
yn erbyn y Safonau Cenedlaethol. Nodwyd
bod 2023/24 wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan, ond soniwyd am feysydd a
oedd dal yn ymofyn gwelliant, megis staffio a hyfforddiant. Roedd o’r farn bod y Cyngor ar y trywydd iawn
i sicrhau llwyddiant i’r dyfodol. Tynnodd
y Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau sylw at berfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgelloedd ar ddiwedd mis Mawrth 2024, gan nodi na ddaeth y newidiadau i
oriau agor y Gwasanaeth Llyfrgelloedd i rym tan fis Mehefin 2024, felly byddai
effaith y newidiadau hynny i’w gweld yn adroddiad 2024/25. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth yn dechrau ffurfio sefyllfa
gadarnhaol. Nodwyd hefyd bod un dangosydd
na lwyddwyd i’w fodloni, yn arbennig mewn perthynas â chymwysterau a lefelau
Staffio. Y rheswm dros hyn oedd bod
nifer o lyfrgelloedd y Cyngor yn cynnal gwasanaeth Siop Un Alwad ac felly roedd
lefelau staffio’n adlewyrchu’r anghenion a’r sgiliau i staffio cyfleusterau
cymunedol amlbwrpas. Nodwyd sawl maes
gwasanaeth da, yn arbennig nifer y digwyddiadau llyfrgell, megis ‘Gwau a
Sgwrsio’, clybiau darllen, digwyddiadau Cwrdd â’r Awdur a gweithgareddau i blant
ac ati, a phwysleisiwyd bod llyfrgelloedd yn datblygu i fod yn ganolbwynt
i gymunedau. Gan
ymateb i gwestiynau’r aelodau, nododd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion: ·
bod angen cynnal
hyfforddiant ffurfiol pan mae llyfrgelloedd ar gau. Roedd hyn yn heriol ar hyn
o bryd gan fod angen hyfforddi staff ar y System Rheoli Llyfrgelloedd newydd. ·
pwysleisiwyd y pwysigrwydd
o sicrhau arweiniad proffesiynol i’r Gwasanaeth, ond roedd llyfrgelloedd yn aml
yn darparu cyngor ar wasanaethau hanfodol i breswylwyr, ac roedd ar staff y
Gwasanaeth Llyfrgelloedd felly angen eu hyfforddi i gynghori ar wasanaethau
gwahanol. ·
er gwaethaf y gostyngiad
mewn oriau agor, y nod oedd darparu’r Gwasanaeth yn deg ar draws y sir gyfan ·
byddai’r gofynion i wneud
arbedion yn cael effaith ar allu’r Gwasanaeth i barhau i wireddu
gwelliannau. Er hynny, roedd
llyfrgelloedd unigol wedi gallu canfod cyllid lleol i gynnal prosiectau penodol
e.e. llyfrgelloedd Llanelwy a Phrestatyn. ·
roedd y 450+ o ymatebion a
dderbyniwyd i’r Arolwg Defnyddwyr Llyfrgelloedd Cyhoeddus, a gynhaliwyd ym mis
Hydref 2024, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Byddai canfyddiadau’r arolwg hwn yn cefnogi
cynlluniau’r gwasanaeth i’r dyfodol. Ychwanegodd
aelodau ei bod yn bwysig i’r Cyngor ddal i fyny ag anghenion cymunedau lleol,
gan sicrhau fod gwasanaethau wedi’u halinio â’r gofynion presennol. Roedd Aelodau’n falch bod asesiad Adran
Ddiwylliant Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor yn debyg i
gasgliadau’r broses hunanasesu, gan ddarparu adborth gwerthfawr ar gyfer
gwelliannau i’r dyfodol. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod – (i)
cydnabod
a llongyfarch perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn 6ed Fframwaith
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru; a (ii)
gwneud
cais am adroddiad cynnydd arall ar berfformiad y Gwasanaeth yn erbyn y safonau
cenedlaethol ym mis Ionawr 2026. |
|
TREFNIADAU AR GYFER ADOLYGU CYFLWYNIAD Y GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU NEWYDD Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n amlinellu’r trefniadau arfaethedig ar gyfer yr adolygiad ac yn gofyn i’r Pwyllgor sefydlu dull ffurfiol ar gyfer cynnal yr adolygiad a chael ei ganfyddiadau a’i gasgliadau maes o law. 12.15pm – 12.45pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i roi gwybod i aelodau fod y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu wedi, mewn ymateb i gais craffu gan yr Arweinydd a’r
Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Chludiant, argymell sefydlu grŵp
tasg a gorffen i adolygu cyflwyniad y system ailgylchu a gwastraff newydd. Amcan yr adolygiad yw nodi unrhyw ddiffyg o
ran cynllunio, gweithredu a chyflwyno’r Gwasanaeth newydd, gyda’r nod o ddysgu
gwersi a fyddai’n cefnogi’r broses o gynllunio newidiadau gwasanaeth neu
brosiectau trawsnewid sylweddol i’r dyfodol.
Gyda’r nod o sicrhau dosbarthiad teg o aelodau, yn ddaearyddol ac yn
wleidyddol, gofynnwyd i bob Grŵp Ardal Aelodau enwebu dau gynrychiolydd yr
un, nad ydynt yn aelodau o’r gweinyddiaethau presennol neu flaenorol. Nodwyd amserlen o 12 mis
i’r Grŵp Tasg a Gorffen gwblhau ei waith.
Tasg gyntaf y Grŵp fyddai mapio cynllun clir ar gyfer ei waith,
penderfynu ar ei ffrydiau gwaith, a chytuno ar amserlen gyfarfodydd. Cadarnhaodd y Cydlynydd
Craffu eu bod wedi derbyn yr enwebiadau terfynol ar gyfer y Grŵp Tasg a
Gorffen y bore hwnnw. Y cam nesaf
fyddai sicrhau cydbwysedd gwleidyddol o ran yr enwebiadau cyn belled ag y bo
modd. Os ddim, ceisir cyngor gan
Arweinwyr Grwpiau ar y penodiadau. Darparwyd cadarnhad fod gan
y Grŵp Tasg a Gorffen y pŵer i ddiwygio’r cylch gorchwyl lle bo
angen. Bwriedir i’r cylch gorchwyl
weithredu fel canllaw i gefnogi’r Grŵp i ymgymryd â’i waith, ni ddylai
atal gwaith ymchwil y Grŵp. At ddibenion
gweithredol, roedd angen i Bwyllgor Craffu sefydlu’r Grŵp Tasg a Gorffen
yn ffurfiol, ac er rhesymau tryloywder maes o law, byddai angen adrodd ei
ganfyddiadau a’i gasgliadau i’r un pwyllgor, dyma’r rheswm dros gyflwyno’r
adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.
Felly: PENDERFYNWYD:
yn amodol ar yr uchod, ac ar ôl ystyried y wybodaeth a’r cylch gorchwyl drafft
ar gyfer cynnal yr adolygiad (Atodiad 1 i’r adroddiad), (i)
cadarnhau’r
trefniadau arfaethedig i gynnal yr adolygiad, fel y manylir ym mharagraffau 4.5
a 4.6 yn yr adroddiad; a (ii)
chytuno
i dderbyn canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad maes o law. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn
gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12.45pm – 1pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r cyfarfod i
drafod y rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor. Rhoddwyd gwybod y byddai
cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 13 Mawrth ac roedd tair eitem
i’w cyflwyno. Roedd y rhain yn cynnwys
Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu, Strategaeth Economaidd a Datblygu
Busnes, a Chysylltedd Rhyngrwyd a Theleffoni yn Sir Ddinbych. Rhoddwyd gwybod,
ar ôl derbyn adroddiad gwybodaeth, bod aelodau wedi mynegi yn eu hadborth eu
bod yn awyddus i dderbyn adroddiad ffurfiol ar Incwm Meysydd Parcio yn dilyn y
cynnydd mewn ffioedd a’r newidiadau i’r oriau codi tâl a gytunwyd fel rhan o
gyllideb 2024/25. Awgrymodd y Cydlynydd
Craffu y dylid cynnig hyn ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 13 Mawrth a gohirio’r
eitem Cysylltedd Rhyngrwyd a Theleffoni yn Sir Ddinbych tan fis Mai 2025. Roedd aelodau’n cytuno, ac felly: Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys adroddiad ar ‘Incwm Meysydd Parcio’
ar y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mawrth, ac
ail-drefnu’r eitem ‘Cysylltedd Rhyngrwyd a Theleffoni yn Sir Ddinbych’ o fis
Mawrth i fis Mai 2025, cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim Daeth y cyfarfod i ben
am 1:05pm. |