Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol yn eitem busnes 6 ‘Y
Cynllun Corfforaethol’, yn ei chapasiti fel llywodraethwr
wedi’i phenodi gan yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) ar Gorff Llywodraethu Ysgol
Tir Morfa, y cyfeirir ati o fewn Atodiad 1 yr adroddiad ar yr eitem busnes hon. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024 (copi ynghlwm). 10:05am – 10:10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024.
Felly: Penderfynwyd: derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024 fel cofnod gwir a
chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Tudalen 6. ‘Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf’:
cadarnhawyd fod pedwar o aelodau etholedig wedi derbyn gwahoddiad diweddar, a roddwyd
i holl gynghorwyr sir, i ymweld â chyfleuster Gofal Iechyd ac Uned
Weithgynhyrchu Cefndy. Roedd y rhai a ymgymerodd ag un o’r
ymweliadau, yn teimlo ei fod yn brofiad gwerthfawr a llawn gwybodaeth. Roeddent oll wedi’u plesio ac yn teimlo’n
gadarnhaol am y gwaith a gyflawnir yno. |
|
ADRODDIAD AR Y GOFRESTR RISGIAU CORFFORAETHOL Ystyried adroddiad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad sy’n adolygu’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor a datganiad parodrwydd y Cyngor i dderbyn risg (copi’n amgaeedig). 10:10am – 11:00am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ynghyd â Phennaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a’r Rheolwr Mewnwelediad,
Strategaeth a Chyflawni, adroddiad Adolygiad Risgiau Corfforaethol Medi 2024
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn ddiweddariad ar yr Adolygiad mis Medi 2024 o'r
Gofrestr Risg Gorfforaethol a Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor.
Roedd hefyd yn hysbysu’r Pwyllgor o’r datganiad parodrwydd i dderbyn risg y
Cyngor o ran ariannu prosiectau a oedd yn ceisio adlewyrchu'r amgylchedd
ariannol presennol. Felly, awgrymwyd y
byddai’n briodol yn awr i ddiwygio parodrwydd ‘gofalus’ y Cyngor i dderbyn risg
o ran cyllid prosiectau i ‘agored’. Yr Uwch Dîm Arwain, ynghyd â’r
Cabinet, oedd wedi datblygu ac yn berchen ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.
Roedd yn cael ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn
friffio’r Cabinet. Ar ôl adolygiadau mis
Chwefror a mis Medi, cafodd y gofrestr ddiwygiedig ei chyflwyno i’r Pwyllgor
Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Rhannwyd crynodeb
o’r adolygiadau er gwybodaeth yn unig yn y pwyllgorau hyn yn eu cyfarfodydd ym
mis Ionawr a mis Gorffennaf. Roedd gan y Cyngor 13 o
Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr ar hyn o bryd. Roedd crynodebau o’r
casgliadau yn dilyn yr adolygiad diweddaraf ar gyfer y cyfnod hwn i’w gweld ar
ddechrau pob risg yn Atodiad 2. Ni chafodd unrhyw risgiau eu dad-ddwysau yn
ystod yr adolygiad hwn. Fodd bynnag,
cynigiwyd ychwanegu risg newydd, risg 53 (y risg na fydd buddion Rhaglenni
Trawsnewid a Phrosiectau Mawr yn cael eu gwireddu yn llawn), i’r Gofrestr.
Byddai’r ychwanegiad arfaethedig yn cynyddu cyfanswm y Risgiau Corfforaethol ar
y Gofrestr i 14 risg. O ran y parodrwydd i dderbyn
risg, eglurodd y swyddogion fod saith risg – 01, 21, 34, 45, 50, 51 a 52 (54%)
– ar hyn o bryd yn anghyson â Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor
(atodiad 3). Fodd bynnag, roedd hynny i’w ddisgwyl gan fod y gofrestr yn
cynnwys risgiau mwyaf difrifol y Cyngor. Dywedodd Swyddogion ei fod yn amserol
i’r Awdurdod adolygu’r Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor (atodiad
3), a adolygwyd ddiwethaf yn Ebrill 2024, gan fo dy datganiad angen adlewyrchu
y parodrwydd gan adlewyrchu bellach ar y ffactorau allanol allweddol
(Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasegol, Technolegol, Cyfreithiol ac
Amgylcheddol) sy’n dylanwadu ar y sefydliad ynghyd â deinameg a galw mewnol.
Roedd trafodaeth ddechreuol wedi digwydd yn y Bwrdd Cyllideb a Thrawsnewid yng Ngorffennaf 2024 ac yn y Tîm Gweithredol Corfforaethol yn
Hydref 2024 er mwyn darparu adborth ar briodoldeb y Datganiad Parodrwydd i
Dderbyn Risg fel ag yr oedd ar y pryd. Cafodd y Pwyllgor hefyd wybod
fod trafodaethau yn y Bwrdd Cyllideb a Thrawsnewid a’r Tîm Gweithredol
Corfforaethol wedi tynnu sylw penodol i barodrwydd pwyllog y Cyngor i dderbyn
risg mewn perthynas â phrosiectau ariannol. O ganlyniad, cynigiwyd ein bod yn
symud y parodrwydd i dderbyn risg hwn i “agored”, er mwyn darparu fframwaith
mwy priodol i gefnogi’r trawsnewidiad y sefydliad er mwyn cyflawni
cynaliadwyedd ariannol ac ymatebion creadigol i ofynion ein preswylwyr. Yn dilyn cyflwyniad
cynhwysfawr gan swyddogion, trafododd yr aelodau’r canlynol ymhellach -
|
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL Ystyried adroddiad ar Ddiweddariad Perfformiad y Cynllun Corfforaethol: Ebrill i Fedi 2024 i drafod perfformiad y Cyngor a’r camau gwella (copi’n amgaeedig). 11:10am – 12:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a Phennaeth y
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad y
Wybodaeth Ddiweddaraf ar y Cynllun Corfforaethol: Ebrill i Fedi 2024
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol rhwng mis
Ebrill a mis Medi 2024, gan gynnwys amcanion Cydraddoldeb Strategol a’r saith
maes llywodraethu (cynllunio corfforaethol, cynllunio ariannol, rheoli
perfformiad, rheoli risg, cynllunio’r gweithlu, asedau, a chaffael). Roedd
adrodd yn rheolaidd ar berfformiad yn rhan werthoedd ac egwyddorion y Cyngor.
Roedd yn ofyniad monitro hanfodol o fethodoleg rheoli perfformiad y Cyngor, a’n
dyletswyddau statudol. Er gwaethaf yr
hinsawdd ariannol heriol presennol yr oedd y llywodraeth leol yn gweithredu,
roedd perfformiad rhagorol mewn rhai meysydd gwasanaeth, a dylid llongyfarch y
staff ar y cyflawniadau hyn mewn amgylchiadau heriol iawn. Wrth gwrs, roedd meysydd eraill angen gwella. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu cynnydd yn erbyn amcanion perfformiad yr Awdurdod. Roedd
y rhain yn cynnwys Cynllun Corfforaethol / Amcanion Cydraddoldeb Strategol
(oedd hefyd yn ffurfio Amcanion Lles y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) a’r saith maes llywodraethu (fel y nodir
yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021). Roedd yr
adroddiad hwn hefyd yn nodi dangosyddion neu weithgareddau yn ymwneud ag
Amcanion Cydraddoldeb neu’n cyfrannu at Y Gymraeg a Diwylliant. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys
astudiaethau achos i roi enghreifftiau o waith da. Roedd y Tîm Cynllunio
Strategol yn parhau i geisio unrhyw gyfleoedd pellach i wella’r Fframwaith
Rheoli Perfformiad ac Adroddiadau Diweddariad ar Berfformiad. Pwysleisiodd
y swyddogion nad oedd yn bosibl amlygu’r holl bwyntiau o ddiddordeb a oedd
wedi’u cynnwys o fewn Atodiad 1. Fodd
bynnag, roedd rhai pwyntiau a meysydd cadarnhaol a oedd wedi dangos gwelliant
yn ystod Ebrill i Fedi 2024 yn cynnwys:
Nododd
swyddogion fod tri cham gwella wedi cael eu nodi yn dilyn trafodaethau gyda
gwasanaethau am berfformiad presennol.
Roedd y ddau gyntaf yn arddangos y cydadwaith rhwng adnoddau,
perfformiad a risg. Sef:
Trafododd yr
Aelodau’r materion canlynol ymhellach -
|
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n ceisio adolygiad o raglen waith y Pwyllgor ac yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12:00pm – 12:20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(dosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Roedd pedair eitem wedi’u rhestr ar gyfer cyfarfod mis Ionawr. Roedd y rhain yn cynnwys adroddiad cynnydd ar
Ysgol Crist y Gair a oedd wedi’i ohirio o’r rhaglen gyfarfod bresennol fel y
nodwyd yn yr adroddiad. Roedd y Cydlynydd Craffu yn disgwyl cadarnhad o ran a
fyddai’r Strategaeth Economaidd a Datblygu Busnes ar gael ar gyfer ei
harchwilio yng nghyfarfod mis Ionawr. Os
nad, byddai’n cael ei ohirio i gyfarfod mis Mawrth. Roedd tair eitem sefydlog
ar gyfer mis Ionawr oni bai am y gohiriad posibl. Cafodd yr Aelodau eu hysbysu,
yn dilyn cyfarfod diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu,
nid wnaed unrhyw geisiadau craffu i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Fodd bynnag, bydd gofyn i’r Pwyllgor fod yn ‘bwyllgor
rhiant’ er mwyn sefydlu’r grŵp tasg a gorffen yn ffurfiol, a fydd yn
adolygu cyflwyniad y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd, a derbyn yr
adroddiad. Bydd adroddiad i sefydlu’r grŵp tasg a gorffen yn ffurfiol yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn Ionawr 2025.
Felly: Penderfynwyd: yn destun cynnwys
adroddiad ar drefniadau sefydlu ac adrodd ar gyfer ‘Adolygiad Craffu o
Gyflwyniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd’ ar ei raglen waith ar
gyfer cyfarfod mis Ionawr 2025, i gadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau
amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd wrth y Pwyllgor eu
bod wedi mynychu cyfres o gyfarfodydd Her Gwasanaeth yn ystod mis
Tachwedd. Roedd yr holl gyfarfodydd hyn
wedi bod yn ddefnyddiol iawn gan roi dealltwriaeth dda iddynt o berfformiad pob
gwasanaeth o ran darparu eu gwasanaethau bob dydd, eu cyfraniad i gyflawni Cynllun
Corfforaethol y Cyngor, ynghyd â mewnwelediad gwerthfawr i bwysau cyllidebol yr
oeddent yn ei wynebu ac effaith ganlyniadol ar ddarpariaeth gwasanaeth. Rhoddwyd mewnwelediad cynnar hefyd i
brosiectau trawsnewid Gwasanaeth posibl a oedd yn cael eu datblygu, gyda rhai a
oedd yn debygol o gael eu cyflwyno i Graffu ar gyfer eu hystyried yn y dyfodol
agos. Roedd y cyfarfod Her Gwasanaeth
olaf wedi’i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr.
Bydd nodiadau mwy manwl o’r cyfarfodydd ar gael yn dilyn diwedd y broses
Her Gwasanaeth. Felly, Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm |