Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Hugh
Irving (Cadeirydd) a’r Cynghorydd Diane King, ynghyd â’r Aelod Arweiniol Plant,
Pobl Ifanc a Theuluoedd. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes,
Gary Williams. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn
bresennol ar gyfer eitemau busnes 5 a 6 ac ymgymerodd hefyd â rôl gefnogi’r Tîm
Gweithredol Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod. Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriodd yr Is-Gadeirydd y
cyfarfod. |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw aelod gysylltiad personol nac un
sy’n peri rhagfarn yn unrhyw un o’r eitemau busnes i’w trafod yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 335 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024.
Felly: Penderfynwyd: cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024
fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Tudalen 12, ‘Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig a Chynllun ar gyfer 2025/26 i 2027/28 ac Adolygu
Gwytnwch a Chynaliadwyedd Ariannol y Cyngor - Incwm a Ragwelir o Ffioedd
Parcio’: dywedodd y Cydlynydd Craffu fod Prif Swyddog Ariannol y Cyngor wedi
dweud ei bod yn gynnar iawn yn y flwyddyn ariannol i ragweld incwm dros y
flwyddyn gyfan gydag unrhyw sicrwydd. Ar gyfer misoedd cyntaf y flwyddyn
ariannol, ymddengys bod yr incwm yn cymharu â’r blynyddoedd blaenorol, felly
rhagwelir bod y Gwasanaeth ar y trywydd iawn i gyflawni'r incwm ychwanegol a
ragwelir. Fodd bynnag, byddai ffactorau allanol megis y tywydd a’r niferoedd
fyddai’n mynychu digwyddiadau mawr mewn trefi mawr yn effeithio ar yr incwm
parcio. Dylai fod darlun cliriach ar gael erbyn diwedd yr hydref o’r incwm a
ragwelir. Gofynnodd yr aelodau am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau
incwm parcio a pherfformiad y Gwasanaeth i gyflawni ei ffigurau incwm a
ragwelwyd cyn diwedd y flwyddyn galendr. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2023/24 PDF 410 KB Ystyried a darparu sylwadau ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023/24 (copi ynghlwm) cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych (CSDd). 10.15am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(EH) yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn crynhoi’r cynnydd sylweddol
yn yr angen am wasanaethau gofal cymdeithasol a phroblemau recriwtio a chadw yn
y sector, felly roedd y cynnydd wedi bod yn arafach ac roedd y perfformiad wedi
dirywio yn erbyn y dangosyddion allweddol oherwydd y pwysau. Byddai’r pwyslais
yn y dyfodol ar y rhaglen drawsnewid. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg (NS) ei fod yn ofyniad statudol i lunio’r adroddiad a
bod ei fformat a’i gynnwys yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, felly roedd
cyfyngiadau o ran faint y gallai Cyngor Sir Ddinbych addasu’r adroddiad. Fodd bynnag, byddai fformat newydd cyn bo hir
gan Lywodraeth Cymru. Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg (NS) i’r adran, partneriaid a gofalwyr anffurfiol am eu
gwaith caled parhaus. Roedd y tîm yn parhau i weithredu fel gwasanaeth cyfunol
gydag Addysg a Gofal Cymdeithasol, ac roedd ganddo benaethiaid gwasanaeth ar y
cyd ynghyd â chyllideb a chynllun gwasanaeth ar y cyd. Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw
gwestiynau. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion:
|
|
ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN CEFNDY 2023/24 PDF 223 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd a’r Rheolwr Gwasanaeth Gweithredol sy’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor ddadansoddi perfformiad y gweithrediad mewn perthynas â’i amcanion ariannol, busnes a llesiant cymdeithasol yn ystod 2023/24. 11.15am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Arweiniol - y Cynghorydd Elen Heaton yr
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a’r rhai oedd yn bresennol ar gyfer yr
eitem hon, sef y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Moderneiddio a Lles
(NS), Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd (AL) a’r Rheolwr
Gwasanaeth - Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol Cefndy (NB). Trefnodd Cefndy ymweliad safle ar gyfer y pwyllgor hwn y
llynedd, oedd wedi mynd yn dda, felly roedd mwyafrif yr aelodau’n deall beth
oedd Cefndy yn ei gynnig. Felly, agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer
cwestiynau. Gan ymateb i’r cwestiynau a’r pwyntiau a godwyd dywedodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:
Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd aelodau’r Pwyllgor y
byddai’n syniad da rhoi stori newyddion da yn Sir Ddinbych Heddiw ac ar
gyfryngau cymdeithasol y Cyngor am Gefndy, beth oedd yn ei gynhyrchu, ei
weithlu ymroddgar a’i fanteision i’r gymuned. Gofynnwyd hefyd am gael gweld
cynlluniau busnes yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth fanwl: Penderfynwyd: (i) yn amodol ar y sylwadau uchod, ac ar ôl dadansoddi
perfformiad Cefndy o ran ei amcanion ariannol, busnes a lles cymdeithasol yn
ystod 2023/24, derbyn yr adroddiad a chefnogi’r cynnydd a wnaed i sefydlogi’r
fenter a chynllunio ar gyfer ei hyfywedd yn y dyfodol; (ii) bod trefniadau’n cael eu gwneud i wahodd aelodau
etholedig (mewn grwpiau hawdd eu rheoli) i ymweld â chyfleuster Cefndy i weld y
gwaith sy’n cael ei wneud yno a sut mae o fudd i les ei weithlu; a (iii) bod adroddiad arall ar berfformiad Cefndy yn ystod
blwyddyn ariannol 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn 12 mis. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n ceisio adolygiad o raglen waith y Pwyllgor ac yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen
waith. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod gohirio cyflwyno adroddiad
cynnydd Ysgol Crist y Gair o raglen fusnes y cyfarfod hwn i gyfarfod mis
Tachwedd wedi golygu bod gormod o eitemau i’w trafod ar raglen fusnes y
cyfarfod hwnnw i roi digon o amser i bob pwnc.
Gan fod rhai o’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod mis
Tachwedd angen eu trafod ar frys, awgrymodd yr aelodau y dylid cynnal sesiwn
fore a phrynhawn, neu ddau gyfarfod ar wahân, i drafod y busnes angenrheidiol.
Fodd bynnag, dywedodd y swyddogion y byddai pwysau ar amserlen cyfarfodydd
pwyllgorau’r Cyngor ac adnoddau staffio i gefnogi sesiynau/cyfarfodydd
ychwanegol yn ei gwneud yn anodd iawn i drefnu a chefnogi cynnal dau
gyfarfod/dwy sesiwn yn yr un mis. Awgrymwyd felly y dylid holi Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau i weld a allai’r pwyllgor hwnnw gymryd y gwaith o fonitro Cynllun
Gweithredu Strategaeth Tai a Digartrefedd y Cyngor, gan fod yr aelodau’n teimlo
bod y Strategaeth yn cyd-fynd yn well â chylch gwaith y Pwyllgor Craffu
Cymunedau na’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.
Os bydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cytuno i wneud hyn, byddai’n
golygu bod llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn haws ei reoli ar
gyfer gweddill y flwyddyn galendr. Cytunodd y Cydlynydd Craffu i holi ar ran y
Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd cyfarfod nesaf y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 16 Medi ac felly dylid
cyflwyno unrhyw geisiadau am archwilio eitemau i’r Cydlynydd Craffu ar y
ffurflen sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad mewn da bryd cyn y cyfarfod
hwnnw. Roedd Atodiad 3 yn cynnwys Rhaglen Waith y Cabinet er gwybodaeth i
aelodau ac roedd Atodiad 4 yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd yma ar
argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfod blaenorol. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod - (i) er mwyn lliniaru’r pwysau ar amser a Rhaglen Waith y
Pwyllgor, cyflwyno cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i ystyried yr adroddiad
cynnydd ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai Digartrefedd Sir Ddinbych; a (ii) chadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodir yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm. |