Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Bobby Feeley a Diane King, yn ogystal â’r Cynghorydd Gill German, Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, a’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant. |
|
CYSYLLTIADAU PERSONOL PDF 199 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r aelodau canlynol ddatgan cysylltiad personol yn
eitem busnes 6, ‘Arolwg Estyn 2018’, yn eu swyddogaeth fel llywodraethwyr
ysgol. Y Cynghorydd
Ellie Chard Llywodraethwr Awdurdod
Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa Y Cynghorydd Martyn Hogg Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy Y Cynghorydd Carol
Holliday Llywodraethwr Cyngor
Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Alan
Hughes Llywodraethwr yn Ysgol Caer
Drewyn Y Cynghorydd Paul Keddie Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Collen Y Cynghorydd Gareth Sandilands Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa Bu i’r Cynghorydd Martyn Hogg hefyd ddatgan
cysylltiad personol yn eitem busnes 8, ‘Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid
Ecolegol Drafft Diwygiedig Sir Ddinbych 2021/22 – 2029/30’ yn ei swyddogaeth
fel aelod o’r ‘Gweithgor Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol’. Bu i’r Swyddog Monitro egluro fod angen i aelodau
ddatgan eu swyddogaethau fel llywodraethwyr ysgol o dan y Cod Ymddygiad, ond
nid oedd angen datgan aelodaeth o fyrddau neu grwpiau mewnol y Cyngor. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD PDF 182 KB Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/25 (copi o Swydd Ddisgrifia) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2024/25. Enwebodd y Cynghorydd Ellie Chard y Cynghorydd Gareth Sandilands ar gyfer rôl Is-Gadeirydd, eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday yr enwebiad. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd
Gareth Sandilands yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn
gyngor 2024/25. Diolchodd y Cynghorydd Sandilands i aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth ac am ymddiried ynddo i fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor am dymor arall. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 487 KB Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024.
Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024
fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Mewn ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd y Cydlynydd
Craffu: Tudalen 10, ‘Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf’: roedd copi
o’r llythyr yn ymwneud ag ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ at Weinidog Addysg a’r
Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth
y diwrnod blaenorol. Bu i’r Pennaeth
Addysg gadarnhau fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cael y llythyr
a dywedwyd y byddai ei gynnwys yn cael ei fwydo i ddarn o waith a wneir ar hyn
o bryd mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref a phlant yn colli
cyfleoedd addysgol. Byddai canlyniad y
gwaith hwnnw yn cael ei adrodd yn ôl i aelodau maes o law. Tudalen 12, ‘Cysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych’:
byddai cynaliadwyedd swydd Swyddog
Digidol y Cyngor yn y dyfodol yn ffurfio rhan o’r broses gosod cyllideb
2025/26. |
|
ADRODDIAD AROLWG ESTYN 2018 PDF 307 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm)
ar y cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â’r argymhellion yn adroddiad arolwg
Estyn 2018 o wasanaethau addysg Cyngor Sir Ddinbych. 10.15am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc
bu i’r Pennaeth Addysg gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a
oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y camau a gymerwyd yn dilyn Arolwg Estyn yn
2018. Eglurodd, yn ddelfrydol, y
byddai’r Gwasanaeth wedi cyflwyno’r math hwn o adroddiad terfynu yn gynharach,
fodd bynnag roedd cadarnhau’r camau i ymdrin ag argymhellion yr adroddiad wedi
ei oedi ac roedd angen ei addasu oherwydd y pwysau yn dilyn y pandemig. Cafodd
yr arolwg arbennig hwn adroddiad arolwg cadarnhaol iawn ac roedd tri maes
allweddol yr oedd Estyn wedi canolbwyntio arnynt yn 2018; Deilliannau, Ansawdd
Gwasanaethau Addysg ac Arweinyddiaeth a Rheoli. Yr argymhellion o’r arolwg oedd gostwng yr amrywiaeth
mewn deilliannau mewn ysgolion uwchradd, ac yn ail sicrhau fod y gwerthusiad o
wasanaethau i ddisgyblion a addysgir y tu allan i’r sir ac mewn lleoliadau
adnoddau yn canolbwyntio’n glir ar fesur deilliannau roedd plant a phobl ifanc
wedi eu cyflawni trwy’r gwasanaethu hynny.
Bu i’r Pennaeth Gwasanaeth egluro o dan argymhelliad un,
i ostwng yr amrywiaeth mewn deilliannau, bod cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru na
ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion gyhoeddi data cymharol yn dangos
perfformiad blwyddyn i flwyddyn, ysgol yn erbyn ysgol, gan fod bob ysgol yn
wahanol, yn ei gwneud yn fwy anodd dangos sut mae amrywiaethau rhwng ysgolion
wedi gostwng. Roedd yr ysgolion ac awdurdodau lleol yn parhau i gadw’r
data ond nid oeddent yn cael ei gyhoeddi. Gall y cyhoedd weld y data trwy
ddefnyddio gwefan Fy Ysgol Leol LlC. Dylid defnyddio’r data i yrru
penderfyniadau ar gyfer gwelliant ym mhob ysgol. Roedd y gwasanaeth yn bwriadu dod ag adroddiad i’r
Pwyllgor i nodi sut roedd ysgolion Sir Ddinbych yn perfformio yn erbyn targedau
perfformiad cenedlaethol, a fyddai’n edrych ar y deilliannau yn Sir Ddinbych yn
erbyn deilliannau’n genedlaethol, nid dim ond yn erbyn ysgolion yn Sir
Ddinbych. O dan argymhelliad dau dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth,
mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir, fod llawer o gamau wedi eu
cymryd i ymdrin â’r agwedd hon, gan gynnwys panel a fu’n cwrdd bob pythefnos i
drafod cynnydd dysgwyr unigol, ymweliadau rheolaidd gan swyddogion y Gwasanaeth
ag ysgolion, a ble’n briodol cydweithio rhwng gofal cymdeithasol ac addysg yn
ogystal â staff y Gwasanaeth Iechyd gyda’r bwriad o fonitro, cefnogi a sicrhau
gwelliant parhaus yng nghyrhaeddiad y disgybl.
Yn dilyn yr arolwg, roedd y Gwasanaeth yn hyderus fod ganddo afael
cadarn ar bob lleoliad tu allan i’r sir. Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw
gwestiynau. Gan ymateb i gwestiynau gan
yr aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth:
|
|
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) sy’n ceisio adborth y Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 i 2027/28, yn ogystal ag asesiad yr Awdurdod o’i gadernid a’i gynaliadwyedd ariannol. 10.45am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau a
Phennaeth Cyllid ac Archwilio gyflwyno’r adroddiad Strategaeth a Chynllun Ariannol
Tymor Canolig (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Bu iddynt ddweud wrth aelodau y
byddai gan y Pwyllgor swyddogaeth allweddol wrth symud ymlaen ym mhrosesau
monitro’r gyllideb a strategaeth/cynllun ariannol tymor canolig a byddai eu
safbwyntiau’n cael eu cyflwyno i’r Cabinet.
Bu i’r Aelod Arweiniol roi trosolwg o beth roedd bob atodiad yn ei
gyflwyno a gwahoddwyd cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. Gan ymateb i’r cwestiynau a godwyd dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio: · mewn perthynas â pha mor gyfredol oedd y data ac a oedd data amser real ar gael i aelodau etholedig - byddai sefydlu’r system rheoli cyllid T1 newydd yn flaenoriaeth dros yr haf er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithlon ac yn effeithiol. Roedd yr adran gyllid yn edrych ar y mantolenni yn barhaus. Byddai diweddariad pellach ar yr arbedion a wnaed hyd yma i gyfarfod Cabinet mis Gorffennaf. Yn anffodus, byddai rhywfaint o oedi mewn data bob amser oherwydd yr amser sydd ei angen i baratoi adroddiadau cyn dyddiadau cau cyhoeddi. · er bod ffigyrau gwario ac arbedion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi eu cynnwys gyda’i gilydd, oherwydd eu bod o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth, roedd gan y Gwasanaeth Cyllid ffigyrau unigol ar gyfer y meysydd gwasanaeth ar wahân a ellir eu rhannu gydag aelodau. Byddai ffigwr maes gwasanaeth unigol yn cael ei rannu yn ystod y gweithdai sydd i ddod. Pwysleisiwyd mai Gofal Cymdeithasol i Oedolion oedd maes gwariant mwyaf y Cyngor gan ei fod yn seiliedig ar alw ac roedd gan yr ardal broffil mawr o ran demograffeg pobl hŷn, roedd pobl yn byw’n hirach ac felly roedd y galw ar y gwasanaeth wedi cynyddu. · mewn perthynas â nifer y fforymau oedd yn trafod cynnwys yr adroddiad penodol hwn, roedd hwn yn adroddiad arwyddocaol a oedd yn cynnwys manylion y prif rwystr i’r Cyngor wrth ddarparu ei wasanaethau a chyflawni ei ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Felly roedd yn allweddol fod holl brif bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau a grwpiau gweithredol y Cyngor yn ei weld ac yn rhan o’i graffu. I ddechrau cyflwynwyd yr adroddiad i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yna’r Cabinet cyn i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo. Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ran i’w chwarae wrth sicrhau fod gan y Cyngor broses ddigonol o ran gosod cyllideb, tra bod swyddogaeth y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn canolbwyntio ar fonitro’r gyllideb ac arbedion, adnabod llithriadau yn gynnar er mwyn ffurfio argymhellion gyda’r bwriad o ymdrin â’r llithriadau hynny. Gan fod gan bob pwyllgor/grŵp swyddogaeth wahanol i’w chyflawni mewn perthynas â’r MTFS a MTFP nid oedd cyflwyno i bob un yn golygu dyblygu gwaith · bod trefniadau ar waith i gynnal cyfarfod gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w diweddaru ar sefyllfa’r gyllideb. · o ran cynlluniau gadael gwirfoddol staff a’u heffaith ar ddarparu gwasanaeth, roedd rheoli swyddi gwag dal yn weithredol. O dan y polisi rheoli swyddi gwag roedd unrhyw geisiadau gan reolwyr/penaethiaid gwasanaeth i recriwtio staff yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Gweithredol Corfforaethol am gymeradwyaeth cyn hysbysebu’r swyddi. Bu i aelodau nodi pryderon ynghylch a oedd y cynlluniau hyn wedi annog swyddogion eraill i adael cyflogaeth yr Awdurdod ochr yn ochr ond nid trwy’r cynlluniau hyn, gan eu bod yn teimlo fod nifer o swyddogion adnabyddus yng Nghyngor Sir Ddinbych yn gadael yn y dyfodol agos a fyddai’n golygu colli llawer o wybodaeth a phrofiad. Roedd aelodau yn bryderus fod y nifer uchel o staff profiadol yn gadael am amrywiaeth o resymau yn ganlyniad negyddol anfwriadol y cynlluniau gadael ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog
Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn
erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion
Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn. 11.45am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant
bu i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac
Asedau, a’r Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd gyflwyno’r adroddiad a’r
strategaeth ddrafft a adolygwyd (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd angen adolygu’r Strategaeth bob tair blynedd, a dyma’r adolygiad
cyntaf. Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau cychwynnol yr
ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft, tra bod Atodiad 3 yn rhestru’r
diwygiadau arfaethedig a fyddai’n cael eu gwneud i’r strategaeth yn dilyn yr
ymgynghoriad. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da
wrth weithredu a chyflwyno’r Strategaeth, ond oherwydd cyflymder newid a
phwysau cyllidebol ni allant warantu y byddai’r Awdurdod yn cyflawni ei brif
uchelgais erbyn 2030. Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth
y Gwasanaeth a Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd:
Awgrymodd yr aelodau y gall fod yn arfer da yn y dyfodol
i ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd nodi’r angen i osod pwyntiau
gwefru CT fel rhan o’r meini prawf cynllunio yn ystod y broses caniatâd
cynllunio. Bu i aelodau drafod y
posibilrwydd o ddefnyddio’r system rheolaeth ariannol newydd ar gyfer olrhain
data allyriadau carbon ar gyfer y Cyngor. Yn dilyn trafodaeth fanwl: Penderfynwyd: yn amodol ar yr adborth a’r sylwadau uchod, i gydnabod ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADRODDIAD HUNAN-ASESU PERFFORMIAD Y CYNGOR 2023/24 PDF 414 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog
Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn
erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion
Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn. 12.15pm – 12.45pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol gyflwyno’r adroddiad ac atodiadau (dosbarthwyd
ymlaen llaw) gan nodi fod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol
uchelgeisiol, ac ers iddo gael ei gymeradwyo roedd hi hyd yn oed yn fwy heriol
ei gyflawni o ystyried yr hinsawdd ariannol cyfredol sy’n wynebu awdurdodau
lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Bu i Bennaeth y Gwasanaeth
Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau, roi trosolwg o’r
cynnydd a wnaed, ac amlinellu’r heriau yn erbyn themâu’r Cynllun Corfforaethol.
Dywedodd ei bod yn ddogfen fyw, pan fo gan eitemau statws coch, roeddent dal i
gael sylw, nid oedd yn golygu eu bod wedi eu hoedi, mewn rhai achosion gall
cynnydd fod yn arafach i rai meysydd oherwydd pwysau cyllidebol. Hefyd ynghlwm
fel atodiad i’r adroddiad oedd y cwmpas drafft ar gyfer Asesu Perfformiad Panel
i gael sylwadau aelodau. Wrth ymateb i gwestiynau
aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a swyddogion eraill: ·
bod y ‘statws deall
trawma’ yn cyfeirio at Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol,
cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n deall trawma ar draws Cymru, gan
ddarparu’r cymorth gorau posib i’r rhai sydd fwyaf o’i angen. Roedd yn ymwneud
â sut roedd ysgolion ac unigolion ynddynt yn cymryd ystyriaeth o drallod a
thrawma, adnabod a chefnogi cryfderau’r unigolyn i oresgyn y profiadau hyn yn
eu bywydau a gosod y gefnogaeth a gallant ei disgwyl gan sefydliadau, sectorau
a systemau y gallant fynd atynt am gymorth. Roedd yn cynnwys hyfforddiant a
oedd yn eithaf dwys ac yn ddibynnol ar arian grant. Roedd un ysgol yn Sir
Ddinbych wedi cael y statws hyd yma ac roedd dwy ysgol arall yn rhannol trwy’r
broses. Ym Mehefin 2023, cynhaliwyd hyfforddiant deuddydd uwch arweinyddiaeth
ysgol; roedd 87 o uwch arweinwyr wedi eu hyfforddi rhwng Mehefin a Thachwedd
2023. Roedd gan y sir hefyd 86 o staff
ysgolion a sirol a oedd wedi cwblhau’r diploma fel Ymarferwyr sy’n Deall Trawma.
Roedd y Cyngor yn aros am gadarnhad ynghylch cyflwyno hyfforddiant
ymwybyddiaeth deall trawma cyffredinol am ddim. ·
roedd y prif feysydd o
orwariant, a oedd yn cyfrannu at amrywiolyn cyllideb Corfforaethol a Gwasanaeth
o £2,780,000 ar ddiwedd Mawrth 2024, yn parhau i fod yn y Gwasanaethau Addysg a
Phlant, Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol Gofal Cymdeithasol i Oedolion a
Digartrefedd. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn amlinellu’r camau
a gymerwyd yn y misoedd diwethaf i gyflawni cyllideb gytbwys h.y. cynlluniau
gadael gwirfoddol, cynlluniau arbedion i staff, y pecyn o gynigion arbedion a
gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn, gweithredu rheolaethau gwario (gan
gynnwys rheoli swyddi gwag). Roedd yn
bwysig cofio fod y gyllideb yn cael ei gweld fel proses sy’n esblygu yn hytrach
nag un digwyddiad yn Ionawr bob blwyddyn. Bydd ymgysylltiad sylweddol ar y
gyllideb a phwysau ariannol ar draws y Cyngor, gydag aelodau a gyda chymunedau
yn parhau. · Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r polisi gweithio’n hyblyg, sy’n golygu fod rhai swyddogion yn gweithio o gartref am rywfaint o’u hamser ac o adeiladau’r Cyngor pan fo gwaith y Cyngor yn gofyn am hynny. Roedd y polisi hwn yn galluogi staff i gael cydbwysedd gwaith/bywyd, gyda buddiannau’r busnes yn flaenllaw. Bu iddo arbed arian i’r Cyngor a rhyddhau swyddfeydd, bu iddo hefyd ostwng amser a dreulir yn teithio i gyfarfodydd a rhwng gwahanol leoliadau a helpu i ostwng allyriadau carbon. Nid oedd unrhyw gynlluniau i adolygu’r polisi ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes wrth yr aelodau os nad oedd swyddog yn ymateb i gynghorwyr mewn modd amserol, dylent ei godi gyda Phennaeth Gwasanaeth y swyddog, gan na ddylai gweithio o gartref achosi oedi wrth ymateb. ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 241 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12.45pm – 1pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y cafwyd cais
i ail-drefnu cyflwyno Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes o Orffennaf 2024
i’r un yn Ionawr 2025. Y rheswm dros y
cais oedd bod y Cyngor wedi penodi ymgynghorwyr i ddatblygu’r Strategaeth ac
felly ni fyddai’r ddogfen ddrafft ar gael ar gyfer craffu tan yn ddiweddarach
yn y flwyddyn galendr. Oherwydd pwysau ar raglen waith y Pwyllgor, a gyda’r bwriad o sicrhau
rhaglenni busnes cytbwys a digon o amser i edrych ar bob eitem, cytunodd y
Pwyllgor i’r newidiadau canlynol i’w rhaglen waith, y byddai cyflwyno’r: · Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes yn cael ei
aildrefnu o Orffennaf 2024 i Ionawr 2025 · Adroddiad ar Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu i’w
ail-drefnu o Fedi 2024 i Dachwedd 2024 · Canfyddiadau cychwynnol y Gweithgor sy’n edrych ar
ddarpariaeth y Gwasanaeth Llyfrgell/Siop Un Alwad yn cael ei ail-drefnu o
Dachwedd 2024 i Ionawr 2025 Yn ystod y cyfarfod cytunodd y Pwyllgor i fonitro cyflwyniad Strategaeth ar
Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn flynyddol, gan ddechrau yn hydref
2025. Atgoffwyd aelodau i gwblhau ‘Ffurflen Cynnig Aelod’ (Atodiad 2 i’r
adroddiad) os oedd pwnc neu faes gwaith a oedd yn eu barn nhw’n haeddu cael eu
harchwilio gan y Pwyllgor Craffu.
Byddai’r holl ffurflenni a lenwyd yn cael eu hystyried gan Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a fydd yn penderfynu a yw’r pynciau a
gyflwynwyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Craffu. Yng nghyfarfod mis Mai y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion cytunwyd
y dylai Craffu Perfformiad fod yn rhan o osod cyllideb a phroses fonitro
Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig, a dyma’r rheswm dros ystyried yr
adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod cyfredol.
Byddai adroddiadau tebyg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, un ai fel
eitemau rhaglen neu fel adroddiadau gwybodaeth, ar gyfnodau rheolaidd trwy
gydol y flwyddyn. Hefyd, roedd y GCIGC wedi ystyried cysylltiad Craffu â Rhaglen Drawsnewid y
Cyngor a phenderfynwyd dyrannu un o themâu’r Rhaglen Drawsnewid i bob un o’r
Pwyllgorau Craffu eu harchwilio, pan fyddant wedi eu datblygu’n ddigonol. Byddai’r themâu yn cael eu dyrannu fel a
ganlyn: ·
Masnacheiddio a Menter -
Pwyllgor Craffu Cymunedau ·
Cydweithio a Phartneriaeth
- Pwyllgor Craffu Partneriaethau ·
Dylanwadu ar Alw a
Digidol - Pwyllgor Craffu Perfformiad Serch hynny, roedd gan strwythur craffu thematig y Cyngor ddigon o
hyblygrwydd i alluogi unrhyw un o’r Pwyllgorau i edrych ar faterion yn ymwneud
ag unrhyw un o’r themâu uchod os nad oedd y pwyllgor ‘dynodedig’ yn gallu
gwneud hynny pan fo angen. Felly: Penderfynwyd: yn amodol
ar gynnwys yr uchod a’r newidiadau uchod, cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor
fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm. |