Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Liz Grieve, Pennaeth Tai a Chymunedau, a oedd mewn cyfarfod arall.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol neu bersonol ac sy’n rhagfarnu ag unrhyw un o’r eitemau a restrwyd i’w trafod.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 405 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024.

 

Cywirdeb

Eitem 5. ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ - yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin wedi holi am ddefnydd rhieni’r disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref o lyfrgelloedd i gefnogi addysg eu plant, ac os oedd effaith lleihau oriau agor llyfrgelloedd ar y rhieni hyn ac ar addysg y disgyblion wedi cael ei asesu.  Wrth ymateb i’r ymholiad hwn, dywedodd y Pennaeth Addysg nad oedd unrhyw ddata wedi’i gadw ar ddefnydd y rhieni o lyfrgelloedd at ddibenion caffael adnoddau addysgol, er y byddai rhieni mwy na thebyg yn defnyddio eu llyfrgelloedd lleol at y diben hwn.  Yn dilyn y newid i oriau agor llyfrgelloedd, os oedd rhieni’r disgyblion hyn yn wynebu anawsterau o ran cael mynediad at eu llyfrgell leol i gael y deunyddiau angenrheidiol, dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Addysg a fyddai’n gwneud pob ymdrech i’w cyfeirio neu’u cefnogi i gael yr adnoddau.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi

Eitem 5. ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ - cadarnhawyd bod swyddogion a’r Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd i fod i gyfarfod yn fuan i lunio llythyr i Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau sy’n llywodraethu cyfrifoldebau’r rhai sy’n dewis addysgu eu plant gartref.

5.

CYSYLLTEDD RHYNGRWYD YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 246 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Digidol ar Gysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych, y cynnydd hyd yma, a chynlluniau i’r dyfodol, ar gyfer cynyddu a gwella cysylltedd rhyngrwyd ym mhob rhan o’r sir (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yr adroddiad ar Gysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor.

 

Allan o’r cyfanswm o 50,501 eiddo yn Sir Ddinbych roedd 2,690 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd o 30Mbs neu lai ac roedd 1,145 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd o 10Mbs neu lai (roedd Atodiad A i’r adroddiad yn darparu manylion pellach i Aelodau).

 

Roedd ‘Helpu trigolion i ddeall yr opsiynau a datrysiadau ar gyfer gwell cysylltedd rhyngrwyd’ yn nod o fewn ein Cynllun Corfforaethol ac roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wedi buddsoddi mewn swydd Swyddog Digidol (o Chwefror 2020 i Fai 2025) i hysbysu unigolion, busnesau a chymunedau am hyn.  Roedd y Swyddog Digidol yn gweithio’n agos gydag Aelodau o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned wrth hysbysu cymunedau.

 

Roedd y Cyngor yn cael ei gynrychioli hefyd ar Raglenni Digidol a Bwrdd Digidol Uchelgais Gogledd Cymru. Roedd y gwaith hwn ar lefel strategol a lefel ranbarthol ac roedd yn canolbwyntio ar wella isadeiledd ar draws y rhanbarth. 

 

Roedd ymyrraeth polisi a masnachol newidiol yn gwneud y gwaith yn heriol oherwydd cyhoeddiadau a newidiadau masnachol gan Openreach ac ymyrraeth gan Lywodraeth y DU, a allai olygu nad oes angen neu nad yw prosiectau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ymarferol mwyach, yn sgil trefniadau masnachol ac ymyrraeth Llywodraeth y DU.  Roedd hwn yn waith tymor canolig i hirdymor, ac felly roedd prosiectau yn gallu newid i adlewyrchu’r amgylchedd newidiol.

 

Soniodd y Prif Reolwr Cydnerthu Cymunedol ymhellach am bwysigrwydd cysylltedd rhyngrwyd yn y gymuned.

 

Roedd 3 philer cynhwysiant digidol -

·       Mynediad at offer

·       Gwybodaeth am ddefnyddio offer

·       Isadeiledd cysylltedd

Gallai peidio â chael mynediad at y rhyngrwyd gael effaith niweidiol ar gyfleoedd bywyd. Roedd cael cysylltiad band eang yn ymwneud â chael y gallu i ymgysylltu a chysylltu o fewn y gymuned, yn cynnwys mynediad at addysg, cyfleoedd cyflogaeth, a chyngor iechyd.

Eglurodd y Swyddog Digidol er bod gan y rhan fwyaf o siroedd lond llaw o gwmnïau yn gosod isadeiledd rhwydwaith ffibr, Openreach oedd yr unig gwmni a oedd yn gosod yr isadeiledd angenrheidiol yn Sir Ddinbych.   Er hyn, roedd Sir Ddinbych yn rhagori ar gyfartaledd Cymru o ran cysylltedd rhyngrwyd, fodd bynnag, roedd angen sicrhau bod rhannau gwledig o’r sir yn cael mynediad at yr un lefel o gysylltedd â’r ardaloedd mwy trefol. Yn y dyfodol agos, byddai 762 eiddo o fewn y sir yn cael cysylltiad ffibr, roedd hyn wedi cael ei sicrhau drwy gynlluniau talebau Gigabit.  Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu safleoedd gerllaw i gael mynediad at y rhwydwaith ffibr am bris mwy rhesymol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru a Gorllewin Lloegr fod Sir Ddinbych ymysg y gorau yng Nghymru o ran cysylltedd ffibr. Roedd £11 miliwn o bunnoedd wedi cael eu buddsoddi hyd yma i uwchraddio’r rhwydwaith copr i ffibr llawn ac roedd 11 cyfnewidfa newydd ar draws y sir bellach wedi cael eu clustnodi ar gyfer bod yn adeiladau masnachol.

 

Roedd y cynllun talebau Gigabit wedi dod i ben am y tro, fodd bynnag, roedd 4 cynllun talebau newydd i helpu preswylwyr gyda chysylltedd wedi cael eu lansio yn Sir Ddinbych yn ddiweddar, un o’r cymunedau i elwa o’r cynllun hwn oedd Llandyrnog.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad ac fe groesawodd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cwestiynodd yr Aelodau ar ba gam fyddai’r gwaith adeiladu isadeiledd erbyn diwedd 2025 a pha gymunedau / cyfnewidfeydd fyddai’n parhau i fod heb ffibr. Eglurodd gynrychiolydd Openreach eu bod yn gobeithio y bydd 80% o’r eiddo yn y rhaglen uwchraddio cyfnewidfeydd presennol gyda chysylltiad ffibr llawn erbyn diwedd 2026.

 

Gofynnodd yr Aelodau am  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISGIAU GORFFORAETHOL: CHWEFROR 2024 pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad ar yr Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol: Chwefror 2024 gan Bennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol  yr Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol: Chwefror 2024 i’r Pwyllgor.

 

Yr Uwch Dîm Arwain, ynghyd â’r Cabinet, oedd wedi datblygu ac yn berchen ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. Roedd yn cael ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn friffio’r Cabinet.  Ar ôl pob adolygiad, roedd y gofrestr wedi’i diweddaru wedyn yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyflawnwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2023. Mae’r papurau a gyflwynwyd ddiwethaf i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad (30 Tachwedd 2023) ar gael ar-lein. 

 

Roedd Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor wedi cael ei ddefnyddio yn y trafodaethau a gafwyd gyda pherchnogion risgiau, a dadansoddwyd lefel risg y Cyngor o fewn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.

 

Roedd gan y Cyngor 13 o Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr ar hyn o bryd. Darparwyd crynodebau o’r adolygiad yn Atodiad 2. Nid oedd unrhyw risgiau wedi’u tynnu oddi ar y gofrestr yn yr adolygiad hwn, nac unrhyw rai newydd wedi’u hychwanegu. Er bod pob risg wedi’i hadolygu, nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud yn ystod adolygiad Chwefror 2024, ac nid oedd sgôr risg weddilliol unrhyw un o’r 13 Risg Gorfforaethol wedi newid.

 

Eglurodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad bod y 13 risg a nodwyd yn yr adroddiad wedi aros yn sefydlog heb unrhyw newid. Roedd proses beilot ar waith ar gyfer dull adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a fyddai’n golygu adolygu’r gofrestr 4 gwaith y flwyddyn a chyflwyno diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Croesawodd yr Aelodau’r dull newydd ar gyfer adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at risg 01 a oedd yn ddibynnol iawn ar Wasanaethau Cymdeithasol a chwestiynwyd os y dylid rhoi mwy o ffocws ar y Gwasanaethau AD a’r broses wirio ar gyfer pobl sy’n ymuno â’r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau y byddai hyn yn rhywbeth y gellid ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol ar ôl cael y manylion.  Rhoddodd y Swyddog Monitro sicrwydd i’r Aelodau bod proses ar waith ar gyfer gwiriadau diogelu a oedd yn cael ei hymestyn i unrhyw asiantaeth yr oedd y Cyngor yn ei defnyddio. Roedd gwiriadau gorfodol yn cael eu cwblhau yn dilyn penodi gweithwyr newydd ac roedd hyfforddiant diogelu yn orfodol i bob un o weithwyr y Cyngor beth bynnag eu rôl, gyda hyfforddiant mwy dwys yn cael ei ddarparu i’r rhai hynny a oedd yn darparu gwasanaethau gofal rheng flaen.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch risg 21, yn cyfeirio at unrhyw welliannau cysylltedd / cyfathrebu rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor ers rhoi’r Bwrdd yn ôl dan Fesurau Arbennig. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg  bod y berthynas rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn parhau i wella. Penodwyd Prif Swyddog Gweithredol newydd yn ddiweddar ar y Bwrdd Iechyd ac fe gynhaliwyd cyfarfod gyda’r Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd a oedd yn gadarnhaol iawn.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at risg 45, Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol a chwestiynwyd a oedd y Cyngor wedi asesu effaith y risg i’r Cyngor o beidio â chyrraedd y targed lleihau carbon a’r sgil-effaith bosibl o gynyddu prisiau ynni ar sefydlogrwydd ariannol y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau bod y risg yn cael ei hasesu’n barhaus, byddai peidio â chyrraedd y targed carbon yn golygu gwario mwy ar ynni yn y pen draw.                                                                                                                                               

 

Trafododd yr Aelodau risgiau 51 a 52 - Hinsawdd Economaidd -  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r dyfodol.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mehefin 2024. Roedd pedair eitem wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod - 

·       Argymhellion Arolwg Estyn 2018

·       Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu

·       Strategaeth Ddiwygiedig Ddrafft Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/2022-2029/2030

·       Y wybodaeth ddiweddaraf am Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad (Ch4 a Blynyddol)

Roedd Atodiad 2 yn cynnwys copi o ffurflenni Cynnig ar gyfer Craffu yr Aelodau ac anogwyd Aelodau i gwblhau’r ffurflen os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent yn meddwl y byddai’n haeddu eu craffu.

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth.

Roedd Atodiad 4 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfodydd blaenorol.

Felly:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar gynnwys yr adroddiad cynnydd ar Gysylltedd Rhyngrwyd a geisiwyd yn ystod y cyfarfod, i gadarnhau’r rhaglen waith fel roedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Martyn Hogg drosolwg i’r Pwyllgor o’r cyfarfod Herio Gwasanaeth diweddar ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:   Pobl a oedd wedi’i fynychu ar ran y Pwyllgor.  Amlinellodd gryfderau a gwendidau’r gwasanaeth ynghyd â’r camau gweithredu a nodwyd i geisio mynd i’r afael ag unrhyw wendidau.  Un o’r prif wendidau a nodwyd oedd system Rheoli Cyswllt Cwsmer C360 y Cyngor a oedd angen ei newid.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r bwriad o gaffael system newydd.

 

Mynegodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, ynghyd ag Aelodau eraill y Pwyllgor, bryderon mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig i’r broses Herio Gwasanaeth ar gyfer 2024/25.  Roeddent yn pryderu mai dim ond Cadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad fyddai’n cynrychioli Craffu ym mhob cyfarfod Herio Gwasanaeth yn y dyfodol a byddai’r broses Herio Gwasanaeth gyfan yn cael ei chynnal o fewn cyfnod o 3-4 wythnos ym mis Tachwedd.  Byddai hyn yn creu llwyth gwaith trwm i Gadeirydd / Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac efallai’n rhoi pwysau ar eu hamser ac argaeledd ar gyfer gwaith arall, yn ogystal ag amddifadu Aelodau Craffu eraill o gyfle i gymryd rhan yn y broses a chynnig eu harbenigedd unigol. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o’i gyfarfod blynyddol diweddaraf gyda swyddog Estyn mewn perthynas â rôl y Pwyllgor wrth graffu materion addysg. 

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  derbyn y wybodaeth a ddarparwyd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm