Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi,
Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol a oedd wedi cael gwahoddiad i fynychu
ar gyfer eitem fusnes 6. Fodd bynnag,
roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis: Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yn bresennol i gyflwyno’r
adroddiad hwnnw. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol yn
eitem fusnes 5, ‘Cefnogi a Monitro Darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref’, yn eu
rôl fel Llywodraethwyr Ysgol: Y Cynghorydd
Ellie Chard Llywodraethwr
Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa Y Cynghorydd Bobby Feeley Llywodraethwr AALl yn Ysgol Stryd Rhos Y Cynghorydd Martyn Hogg Rhiant-lywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy Y Cynghorydd
Carol Holliday Llywodraethwr Cyngor
Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Alan Hughes Llywodraethwr
yn Ysgol Caer Drewyn Y Cynghorydd Paul Keddie Llywodraethwr
yn Ysgol Bryn Collen Y Cynghorydd Diane King Llywodraethwr
yn Ysgol Christchurch Neil Roberts
Llywodraethwr yn Ysgol y Parc Y Cynghorydd Gareth Sandilands Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol
yn yr un eitem fusnes gan ei bod yn gydnabod agos i unigolyn sy’n mynd trwy’r
broses addysg ddewisol yn y cartref ar hyn o bryd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 406 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024. Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024
fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. |
|
ADDYSG DDEWISOL YN Y CARTREF PDF 399 KB I ystyried a thrafod adroddiad am bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod mewn
cysylltiad â chefnogi a monitro darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref. 10.10am – 11am ~~~~ EGWYL (11am – 11.15am) ~~~~ Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German,
adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cyflwynwyd yr adroddiad
i’r Pwyllgor i dawelu meddwl yr Aelodau fod Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn
bodloni’r gofynion statudol ar gyfer Addysg Ddewisol
yn y Cartref o fewn y Sir. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r gweithdrefnau sydd ar waith a chyfrifoldebau
diogelu’r Cyngor. Arweiniodd y
Pennaeth Addysg yr Aelodau drwy’r adroddiad (a dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd
addysgu gartref yn derm a ddefnyddiwyd pan fo rhieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu
hanfon i’r ysgol. Roedd addysgu gartref yn adlewyrchu amrywiaeth o ddulliau ac
roedd yn caniatáu ymagwedd unigol i blant sydd wedi'i deilwra i anghenion a
diddordebau penodol pob plentyn. Roedd
nifer o rieni sy’n addysgu gartref yn teimlo eu bod yn gallu diwallu anghenion
a steiliau dysgu eu plant yn fwy effeithiol nag mewn ystafell ddosbarth. Nid oedd
disgwyl i blant sy’n cael eu haddysgu gartref ddilyn y Cwricwlwm i Gymru nac
unrhyw gwricwlwm penodol arall na bodloni meini prawf ar gyfer y nifer o oriau
dysgu. Gall y dull addysgu gartref
amrywio ar gontinwwm o ddull addysgu ffurfiol, strwythuredig wedi’i seilio ar
amserlen, drwodd i addysg awtonomaidd neu sy’n cael ei arwain gan blentyn. Cyfrifoldeb
y rhiant oedd darparu addysg addas, effeithlon, llawn amser, yn unol ag oedran,
gallu a doniau’r plentyn. Rôl yr
Awdurdod Lleol oedd canfod plant neu bobl ifanc nad oeddent yn derbyn addysg
addas, effeithlon, llawn amser. Nid rôl
yr awdurdod oedd darparu’r addysg, fodd bynnag, roedd cymorth gan yr ALl ar gael ac yn cael ei ddarparu pan ofynnir amdano. Gal yr
awdurdod ymgymryd â’r rôl hon mewn sawl ffordd wahanol. Y peth pwysicaf oedd ymgysylltu â’r teuluoedd
mewn modd cadarnhaol a chefnogol a meithrin perthynas i sicrhau y gellir
adnabod fod dysgu yn digwydd, ei fod yn addas ac yn gynaliadwy. Cyn i
ddysgwyr gael eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol, dylid rhannu Canllawiau
Statudol Llywodraeth Cymru gyda theuluoedd er mwyn iddynt wybod beth a ddisgwylir ganddynt er mwyn addysgu gartref. Ar ôl i deuluoedd symud i Addysg Ddewisol yn y
Cartref, byddai protocol Sir Ddinbych, a ddiweddarwyd ym mis Chwefror 2024 (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw yn Atodiad 1), yn cael ei anfon at deuluoedd i’w
cefnogi nhw i ddechrau arni. Roedd
ymweliad â’r cartref yn cael ei gynnig i bob teulu sy’n cynnig Addysg Ddewisol
yn y Cartref i drafod y ddarpariaeth a ddarperir. Roedd hyn yn ffordd effeithiol o gysylltu â
phob teulu ac roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â’r dysgwyr a chlywed eu safbwyntiau
nhw. Roedd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i
ddysgwyr egluro’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn eu geiriau eu hunain. Nid oedd yn rhaid i
deuluoedd dderbyn ymweliad â’r cartref ac roedd yn well gan rai teuluoedd anfon
adroddiad addysgiadol neu adroddiad cefnogi gan drydydd parti i’r awdurdod
addysg lleol (AALl). Ar hyn o
bryd, roedd gan Sir Ddinbych 158 o ddysgwyr ar y gofrestr Addysg Ddewisol yn y
Cartref. Bu cynnydd amlwg ers mis Awst
2016 pan mai 94 o ddysgwyr oedd ar gofrestr Addysg Ddewisol yn y Cartref yr
ALl. Gall niferoedd y dysgwyr
Addysg Ddewisol yn y Cartref amrywio yn ystod y flwyddyn ysgol. Bob blwyddyn
roedd yr ALl yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith dysgu
teuluoedd sy’n Addysgu Gartref. Ym mis
Hydref 2023, dangosodd 76 o’r 141 o deuluoedd ar y gofrestr bryd hynny
ddiddordeb a chawsant eu cefnogi’n ariannol. Yn anffodus, yn unol ag Awdurdodau Lleol eraill, roedd gan Sir Ddinbych nifer fechan o ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
A YW SWYDDOGAETHAU CYMORTH CORFFORAETHOL Y CYNGOR YN EFFEITHIOL? PDF 236 KB Ystyried adroddiad am gynnydd a wnaed hyd yma i
fynd i’r afael â’r ddau argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru yn eu
hadroddiad ym Mai 2023 ynghyd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer darparu digon o
adnoddau ar gyfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymorth corfforaethol ehangach. 11.15pm – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd adroddiad
gwreiddiol Archwilio Cymru wedi archwilio trefniadau’r Cyngor ar gyfer ei
Wasanaethau Corfforaethol o dan bedair adran, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau
Cwsmeriaid Corfforaethol, Gwasanaethau Digidol ac Archwilio Mewnol. Roedd
canlyniadau’r adolygiad yn gadarnhaol gyda dim ond dau argymhelliad, roedd
ymatebion y Cyngor i’r argymhellion ynghlwm â’r adroddiad. Roedd yr adroddiad yn edrych ar y weledigaeth
a chyfeiriad strategol y swyddogaethau cymorth corfforaethol i ystyried os
ydynt yn cefnogi amcanion y Cyngor yn effeithiol ac yn ddigonol. Bu i’r
adolygiad hefyd ystyried os yw swyddogaethau cymorth
corfforaethol y Cyngor yn cymryd ystyriaeth o’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl fanylion pellach i’r Aelodau
o ran yr adroddiad a’i argymhellion. Roedd yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn
ymwneud ag Adroddiad Archwilio Cymru ar ‘A yw Swyddogaethau Cymorth
Corfforaethol y Cyngor yn Effeithiol?’ dyddiedig Mai 2023 ac yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma i
ymdrin â’r ddau argymhelliad a wnaed gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad ym
Mai 2023 ynghyd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer darparu digon o adnoddau ar
gyfer ei swyddogaethau Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol ehangach. Bu i’r
adolygiad ganfod fod gan swyddogaethau cymorth corfforaethol y Cyngor
ddealltwriaeth dda o’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ond nid oedd y Gwasanaeth
Archwilio Mewnol yn ystyried yr egwyddor yn gyson yn ei holl waith archwilio,
roedd rhai Polisïau Adnoddau Dynol wedi dyddio ac er bod gan y Cyngor
drefniadau monitro priodol ar waith, nid oedd eto wedi ystyried amcanion
strategol y dyfodol ac anghenion o ran adnoddau’r swyddogaethau a archwiliwyd. Roedd yr
adroddiad Archwilio yn gwneud dau argymhelliad a chafodd copi o ymateb Rheolwyr
gwreiddiol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ei ystyried gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Gorffennaf 2023 a gan y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGA). Ers cyhoeddi’r adroddiad roedd cynnydd
sylweddol wedi ei wneud ar y camau gweithredu a nodwyd i ymdrin â’r
argymhellion. Cyfeiriwyd yr Aelodau at
dabl o’r argymhellion o’r adroddiad a chynnydd y camau gweithredu hyd yma. Allan o’r pedwar cam gweithredu, roedd dau
o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau, un wedi’i gwblhau’n rhannol, ac roedd un
cam gweithredu eto i’w gwblhau. Yn ymwneud
ag argymhelliad un (R1) - adolygu polisïau sydd wedi dyddio, dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl wrth yr Aelodau bod 50% o
bolisïau'r Cyngor bellach wedi’u hadolygu ac yn gyfredol. Roedd polisïau'n cael eu diweddaru pan oedd
datblygiadau newydd o fewn y ddeddfwriaeth.
Roedd yr holl bolisïau'n cael eu hadolygu bob tair blynedd yn unol â Pholisi’r Cyngor, wrth symud ymlaen roedd yn
bwysig bod adolygiadau anffurfiol o fewn y tair blynedd
yn cael eu cofnodi’n rheolaidd. Yn ymwneud
ag argymhelliad dau (R2) - cysondeb Archwilio Mewnol o ystyried yr egwyddor
datblygu cynaliadwy, roedd Archwilio Mewnol bellach yn cynnwys cwestiynau i
ganfod sut oedd gwasanaethau yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy
ac Allyriadau Carbon wrth ddatblygu’r cwmpas ar gyfer bob archwiliad a gynhelir.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr
Aelodau. Cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.5 yr adroddiad yn ymwneud â bod gan Adnoddau Dynol 51 o bolisïau gwahanol a chwestiynwyd a oes angen cymaint ohonynt ac a ellir cyfuno rhai ohonynt. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl bod y 51 polisi sydd ar waith yn cynnwys cylch bywyd cyfan y gweithiwr, o recriwtio i adael neu ymddeol, roedd polisi ar gyfer bob agwedd o gyflogaeth gweithiwr gyda’r sefydliad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 242 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion
perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn
gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r dyfodol. Roedd
cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ebrill
2024. Mewn ymateb i geisiadau gan
swyddogion roedd y Cadeirydd wedi caniatáu i ddwy eitem fusnes gael eu gohirio
o raglen fusnes y cyfarfod presennol i gyfarfodydd yn y dyfodol. Sef: ·
Argymhellion
Arolwg Estyn 2018, gohiriwyd tan y cyfarfod ym mis Mehefin 2024; a ·
Strategaeth
Datblygu Economaidd a Busnes, gohiriwyd tan gyfarfod y Pwyllgor ym mis
Gorffennaf 2024. Caniatawyd
bod y ddwy eitem yn cael eu gohirio er mwyn rhoi mwy o amser i swyddogion
ymgymryd â gwaith manwl mewn perthynas â’r testunau cyn eu cyflwyno ar gyfer
Craffu. Roedd
Atodiad 2 yn cynnwys copi o ffurflenni Cynnig ar gyfer Craffu yr Aelodau ac
anogwyd Aelodau i gwblhau’r ffurflen os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent
yn meddwl y byddai’n haeddu eu craffu. Ers cyhoeddi’r papurau
Pwyllgor, derbyniwyd cais i ohirio cyflwyno Strategaeth Ddiwygiedig Ddrafft ar
Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/22 – 2029/30 o’r cyfarfod ym mis Ebrill
i’r cyfarfod ym mis Mehefin, oherwydd newidiadau mewn personél. Os oedd y Pwyllgor yn fodlon caniatáu'r
aildrefnu hwn, byddai angen iddo symud eitem fusnes o’i gyfarfod ym mis Mehefin
2024 i ddyddiad arall. Cytunwyd bod
Adroddiad Perfformiad Cefndy 2023/2024 yn cael ei aildrefnu i gyfarfod y
Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2024 i fodloni’r cais hwn. Roedd
Rhaglen Waith y Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth. Roedd
Atodiad 4 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar argymhellion y Pwyllgor o’i
gyfarfodydd blaenorol. Ar ddiwedd y drafodaeth: Penderfynwyd: yn amodol ar
gynnwys yr adroddiad gwybodaeth ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ar gyfer mis
Mawrth 2025, ac aildrefnu Strategaeth Ddiwygiedig Ddrafft ar Newid Hinsawdd a
Newid Ecolegol 2021/22–2029/30 o gyfarfod mis Ebrill i fis Mehefin ac Adroddiad
Perfformiad Cefndy 2023/24 o gyfarfod mis Mehefin i fis Gorffennaf, cadarnhau
ei raglen waith fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.20pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd wedi gallu
mynychu cyfarfod diweddaraf Bwrdd Prosiect Marchnad y Frenhines ond cafodd
wybod bod adeilad Marchnad y Frenhines bellach wedi’i drosglwyddo i’r Cyngor. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes
bod hynny’n wir. Aelodau: Penderfynwyd: nodi’r wybodaeth a ddarperir. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm |