Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Martyn Holland |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Hysbyswyd yr aelodau na fyddai bod yn llywodraethwr ysgol
yn eu hatal rhag cymryd rhan yn eitem 7 ar raglen y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 401 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 (copi
ynghlwm). 10.05 am – 10.10 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021. Materion yn Codi – Cyfeiriodd y
Cydlynydd Craffu at y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn unol â chais y
Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ymwybyddiaeth
o ddementia a hyfforddiant gofal a fu’n rhan o Friff Gwybodaeth y Pwyllgor a
rannwyd â’r aelodau’n gynharach yn yr wythnos. PENDERFYNWYD y dylid derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021 a’u cymeradwyo fel rhai
cywir. |
|
CYNNYDD AR GYFLAWNI STRATEGAETH DAI A DIGARTREFEDD SIR DDINBYCH PDF 244 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio Strategol a’r Swyddog Tai (copi
ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar gyflawni’r Strategaeth a’r Cynllun
Gweithredu Tai a Digartrefedd diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ym mis
Rhagfyr 2020. 10.10 am – 10.40 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a rannai’r
cyfrifoldeb am gyflawni’r Strategaeth Tai a Digartrefedd. Roedd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau, y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, yr Uwch-swyddog Cynllunio Strategol a Thai
a’r Rheolwr Datblygu Tai hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw)
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth gyflawni’r Strategaeth Tai a
Digartrefedd ddiwygiedig a’r Cynllun Gweithredu a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir
fis Rhagfyr 2020. Roedd y Strategaeth yn
cynnwys chwech o feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ar sail chwech o brif
themâu, ac roedd y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ynghlwm
wrth yr adroddiad fel atodiad. Roedd y
Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd yn goruchwylio’r drefn o gyflawni’r
cynllun gweithredu ynghyd â dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol gyda’r nod o hybu
datblygiadau tai fforddiadwy. Amlygodd y
Cynghorydd Thomas y cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol, gan gynnwys
lansio’r gwasanaeth paru tai gwag a’r gwaith a wnaed i greu cyflenwad o dai
fforddiadwy, gan gynnwys tai Passivhaus sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
a gwaith oedd yn mynd rhagddo ar safleoedd yn Ninbych a Phrestatyn, ynghyd â’r
cynnydd a wnaed wrth baratoi datblygiadau yn y dyfodol. Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at yr adroddiad trylwyr a’r modd y
diwygiwyd y Strategaeth er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â
digartrefedd, gan gynnwys thema benodol ynglŷn â’r pryderon a’r cynlluniau
pennaf yn hynny o beth. Roedd hi’n falch
o ddweud y cyflwynwyd y cynllun Tai yn Gyntaf yn unol â’r cynllun a bod arian
ar ei gyfer yn y cyllidebau presennol; roedd gwaith yn mynd rhagddo i greu
llety dros dro am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych a hynny yn Epworth Lodge yn y
Rhyl a llety Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych, a fyddai’n agor yn
llawn ym mis Chwefror. Roedd y
Strategaeth yn hyrwyddo cadernid ac annibyniaeth a hefyd yn cyfrannu at
gyflawni blaenoriaethau corfforaethol.
Yn olaf, achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl swyddogion am eu
cyfraniadau. Ychwanegodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai nad oedd y gwaith o
gyflawni’r Strategaeth ond megis dechrau, gan ystyried fod y Cyngor wedi’i
mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2020. Byddai’r
rhan helaeth o’r camau gweithredu, fodd bynnag, yn cael eu cyflawni mewn pryd
er gwaethaf mân anawsterau mewn rhai meysydd, yn bennaf oherwydd Covid-19 a
materion oedd a wnelont â’r Cynllun Datblygu Lleol. Soniodd hefyd am waith y Grŵp Strategol
Tai a Digartrefedd yn cadw golwg ar gynnydd, a dywedodd ei bod yn galonogol bod
y Pwyllgor yn craffu ar y cynllun gweithredu. Dywedodd y Cadeirydd na nodwyd unrhyw broblemau o bwys gyda chynnydd y
cynllun gweithredu. Yna gofynnodd i’r
Pwyllgor ganolbwyntio ar y mân broblemau a nodwyd, ar y sail bod y camau
gweithredu eraill wedi’u cyflawni eisoes neu’n cadw at yr amserlen. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau/sylwadau fel a
ganlyn – ·
Tai Teg oedd y gofrestr tai
fforddiadwy a rhoddwyd sicrwydd y câi’r gofrestr ei hadolygu’n gyson a bod
Cynghorwyr yn cael gwybod am unrhyw dai a oedd ar gael yn eu hardaloedd; roedd
yno ddolen gyswllt at Tai Teg ar wefan y Cyngor · adeg y cyfarfod roedd yno 168 o aelwydydd yn ddigartref yn y sir, gan gynnwys 218 o unigolion, a bu cynnydd yn nifer y bobl dan fygythiad o fynd yn ddigartref yn bennaf oherwydd diddymu’r moratoriwm a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ar droi pobl allan yn ystod y pandemig Covid-19; roedd cryn waith ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm) yn nodi manylion perfformiad y
Cyngor mewn perthynas â 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
2017-2020 (sydd wedi’i ymestyn i 2020-2021) a’r cynnydd a wnaed o ran datblygu
llyfrgelloedd fel mannau lles a gwytnwch unigol a chymunedol. 10.40 am – 11.10 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, yr
adroddiad gan y Pen Llyfrgellydd (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ynglŷn â
pherfformiad y Cyngor wrth weithredu Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd
Cyhoeddus Cymru 2017 – 2020 (a ymestynnwyd hyd 2020 – 2021) a’r cynnydd a wnaed
wrth ddatblygu llyfrgelloedd yn lleoedd a gyfrannai at les a chadernid
unigolion a chymunedau. Atgoffodd y Cynghorydd Thomas y Pwyllgor fod awdurdodau llyfrgelloedd yng
Nghymru dan ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac
effeithlon i’w trigolion, a bod yr adroddiad yn cymharu perfformiad Sir
Ddinbych â’r safon genedlaethol. Rhoes
ganmoliaeth i’r gwasanaeth gwerthfawr a ddarperid yn Sir Ddinbych, gan nodi fod
Covid-19 wedi cael effaith drom arno hefyd, ac achubodd y cyfle i ddiolch i’r
staff am eu gwasanaeth rhagorol ar adegau anodd; symudodd rhai aelodau o staff
i swyddi dros dro ddechrau’r pandemig fel rhan o’r drefn o ffonio preswylwyr yn
rhagweithiol. Roedd y data perfformiad
ar gyfer 2020 – 21 yn cynnwys y deuddeg o hawliau craidd yr oedd Sir Ddinbych
yn dal i’w bodloni, ynghyd â chwech o ddangosyddion ansawdd y cynhaliwyd
hunanasesiad ar eu cyfer fel y nodwyd yn yr adroddiad. Darparwyd nifer o astudiaethau achos difyr ac
addysgiadol ynglŷn â gweithgarwch y gwasanaeth. Amlygodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid lwyddiant y gwasanaeth
llyfrgelloedd a’r modd yr addaswyd y ddarpariaeth yn unol â’r gwahanol lefelau
rhybudd Covid a gofynion y byd cyfoes, gan nodi fod lawrlwythiadau digidol wedi
cynyddu 166% yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Cyfeiriodd at ymdrechion aruthrol y gwasanaeth llyfrgelloedd a oedd wedi
arwain at yr adroddiad cadarnhaol, gan gydnabod serch hynny fod angen llawer
iawn o waith er mwyn meithrin cadernid cymunedau a’u gallu i gynnal eu hunain,
a bod gan y gwasanaeth llyfrgelloedd ran allweddol i’w chwarae yn hynny o beth. Yn ystod y drafodaeth croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol a
chydnabu mor bwysig oedd y gwasanaeth llyfrgelloedd i les pobl ac mor werthfawr
oedd ei gyfraniad i gymunedau. Rhoes
aelodau enghreifftiau o’r ddarpariaeth yn eu wardiau hwy, gan ganmol y
cynlluniau a’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperid, gan gynnwys gwaith â
phartneriaid, a rhoi diolch i’r holl staff. Atebodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid a’r Pen
Llyfrgellydd gwestiynau fel a ganlyn – ·
yn unol â’r sefyllfa
gyffredinol mewn canol trefi, nid oedd nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd wedi
dychwelyd i’r lefelau a gafwyd cyn y pandemig, ac felly’r oedd hi ledled Cymru;
roedd gwaith yn mynd rhagddo i ail-greu cysylltiadau ag ysgolion a dod â gwasanaethau
partneriaid a gweithgareddau grŵp yn ôl er mwyn hybu niferoedd; cydnabuwyd
hefyd fod angen i bobl fagu hyder er mwyn ailgydio mewn gwahanol weithgareddau
a gwasanaethau yn y gymuned ·
cydnabuwyd bod y gwasanaeth
llyfrgelloedd yn ymestyn y tu hwnt i waliau brics a mortar, a bod pobl yn
defnyddio llyfrgelloedd mewn ffyrdd tra gwahanol bellach, fel y gwelwyd wrth i
fwy o bobl ddefnyddio gwasanaethau’n ddigidol, gan gynnwys y Gwasanaeth Archebu
a Chasglu ·
roedd bagiau atgofion i
helpu pobl â dementia ar gael i’w benthyg yn yr un modd â llyfrau a bu’r rhain
yn boblogaidd dros ben; derbyniwyd cyllid yn ddiweddar i ddarparu jig-sôs i
bobl oedd yn byw â dementia a hyderid y byddai’r rheiny hefyd yr un mor
boblogaidd · ar sail cyfraniadau ariannol Cyngor Tref Rhuddlan a Chyngor Dinas Llanelwy i’w llyfrgelloedd lleol, ynghyd â gwaith mewn partneriaeth a’r weledigaeth gytûn ar gyfer llyfrgelloedd yn gweithio mewn cymunedau, roedd y llyfrgelloedd hynny’n arbennig o lwyddiannus – awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn werth ehangu’r dull o weithio mewn partneriaeth i gynorthwyo llyfrgelloedd lleol mewn trefi a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DEFNYDDIO LLAI O BLASTIGAU UNTRO A LLEIHAU CARBON YN Y GWASANAETH PRYDAU YSGOL PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau (copi ynghlwm) sy’n rhoi
diweddariad ar y cynnydd, a’r heriau,
mewn perthynas â lleihau’r defnydd o blastigau untro a lleihau carbon o
fewn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion. 11.20 am – 11.50 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, gan
gynnwys y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau
Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol
Gwastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, y cyntaf yn dal y portffolio ar gyfer y
maes gwasanaeth dan sylw a’r ail yn dal y portffolio ar gyfer yr amgylchedd,
ynghyd â’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Pen Rheolwr
Arlwyo a Glanhau. Estynnwyd croeso
cynnes hefyd i ddau ddisgybl o Gyngor Myfyrwyr Ysgol Dinas Brân a fyddai’n cael
eu gwahodd i ofyn cwestiynau am y mater. Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad gan y Pen Rheolwr
Arlwyo a Glanhau, a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a
wnaed, a’r heriau a gododd, wrth fynd ati i leihau plastig untro a charbon yn y
Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, yn ogystal ag amcangyfrif o’r costau
cysylltiedig. Wrth osod y cyd-destun
dywedodd fod yr adroddiad yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol ac y byddai
gweithredu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r
holl blant mewn ysgolion cynradd yn cael effaith arwyddocaol ar y gwasanaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y materion a ganlyn – ·
roedd dull ariannu cyfredol
y gwasanaeth arlwyo ysgolion yn dibynnu ar incwm o werthu diodydd mewn ysgolion
uwchradd, a werthid mewn poteli plastig untro yn bennaf. Roedd y dewisiadau ar gyfer rhoi’r gorau i
werthu diodydd mewn poteli plastig untro’n cynnwys (1) peidio â gwerthu unrhyw ddiodydd
a bod y disgyblion yn dod â’u diodydd eu hunain i’r ysgol, a fyddai’n creu
diffyg o £220,000, neu (2) gwerthu diodydd wedi’u tywallt i gynwysyddion y
gellid eu hailddefnyddio ·
Arbrofwyd â dewis 2 yn
Ysgol Glan Clwyd ond oherwydd y trafferthion a gafwyd a’r effaith ariannol, fel
y nodwyd yn yr adroddiad, daeth y gwasanaeth i’r casgliad na ellid rhoi’r dull
ar waith yn yr holl ysgolion uwchradd oherwydd yr heriau ymarferol, prinder lle
mewn rhai ysgolion a gwastraff ar ffurf cwpanau plastig na ellid eu hailgylchu;
nid oedd yn ariannol ymarferol chwaith ·
roedd y gwasanaeth wedi
cael hwyl ar leihau plastig untro mewn meysydd eraill ac wedi lleihau swm y
deunydd pecynnu bwyd a gâi ei brynu a’i daflu.
Bu cynnydd, fodd bynnag, ym mhrisiau deunyddiau amgen y gellid eu hailgylchu
ac roedd pryder nad oedd y myfyrwyr yn ailgylchu’r deunyddiau hynny. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc
plastig lle bo modd a châi bwyd ei weini ar blatiau, ond roedd llawer o
ysgolion heb ystafelloedd bwyta digon mawr i’r disgyblion ·
camau gweithredu penodol y
gwasanaeth wrth gyflawni’r swyddogaeth arlwyo heb ddefnyddio llawer o garbon, a
heriau yn y dyfodol wrth wella cyfraddau ailgylchu ymysg disgyblion, swydd
newydd i hyrwyddo newid ymddygiad, a thrafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd
o gael llai o gig coch ar fwydlenni, a oedd yn bwnc llosg. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts ymrwymiad y gwasanaeth i leihau plastig untro a charbon er gwaethaf yr heriau a gododd, a’r cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd. Cyfeiriodd eto at effaith ariannol drom y camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad - £220,000 y flwyddyn wrth roi’r gorau i werthu diodydd mewn ysgolion uwchradd, a £197,000 y flwyddyn wrth werthu diodydd wedi’u tywallt i gwpanau y gellid eu hailddefnyddio. Byddai’n rhaid gwneud iawn am y diffyg hwn drwy gynyddu’r cymhorthdal refeniw, codi prisiau prydau ysgol neu drosglwyddo’r costau i’r ysgolion. Byddai darparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd hefyd yn cynyddu ôl troed carbon y gwasanaeth. Soniwyd y câi pob ysgol ei thrin yn gyfartal o dan y dull ariannu presennol, ac oni ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11.50 am – 12.05 pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd o
flaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol. Trafodwyd y materion canlynol – ·
roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu wedi rhoi eitem ar raglen y cyfarfod nesaf oedd i’w gynnal ar 17 Mawrth
ynglŷn ag Absenoldebau a Throsiant Staff yn Sir Ddinbych yn ystod 2020/21
a 2021/22 hefyd wedi penderfynu symud y
ddau o eitemau addysg oedd ar raglen 17 Mawrth i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf,
fel y gallai’r Pwyllgor newydd eu hystyried yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai ·
roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu eisoes wedi penderfynu na ddylai Pwyllgorau Craffu gynnal unrhyw
gyfarfodydd yn ystod y cyfnod cyn etholiad (o 18 Mawrth ymlaen) oni fyddai’n
rhaid cael cyfarfod i drafod mater brys - felly, y cyfarfod olaf a drefnwyd yn
ystod cyfnod cyfredol y Cyngor oedd yr un ar 17 Mawrth ·
anogwyd aelodau a ddymunai graffu ar bynciau
penodol yng nghyfnod nesaf y Cyngor i gyflwyno ffurflenni cynnig yn syth i’r
Cydlynydd Craffu. PENDERFYNWYD, yn amodol ar
gynnwys yr eitemau y gofynnwyd amdanynt yn ystod y cyfarfod a’r diwygiadau a
nodwyd uchod, cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. |
|
GWYBODAETH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12.05 pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Soniodd y Cadeirydd am gyfarfod â David Wilson o
Archwilio Cymru lle trafodwyd swyddogaeth Pwyllgorau Craffu wrth ymchwilio i
faterion fel absenoldebau staff, cadw staff a recriwtio. Byddai’r Pwyllgor yn cael cyfle i gyflawni ei
swyddogaeth yn hynny o beth yn y cyfarfod ym mis Mawrth, ac anogwyd yr holl
aelodau i fod yn bresennol a chynnig her effeithiol. Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott y byddai’r Grŵp
Tasg a Gorffen Rheoli Perygl Llifogydd a Pherchnogaeth Glannau Afonydd yn
cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 10 Mawrth 2022. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cynrychioli’r
pwyllgorau craffu ar Fwrdd Prosiect Adeiladau’r Frenhines, a dywedodd fod y
sefyllfa’n dal yn heriol a bod swyddogion yn gweithio’n ddiwyd i ddatrys y
problemau annisgwyl sy’n parhau. Cyflwynid
adroddiad ynglŷn â chynnydd y prosiect i’r Cabinet ym mis Chwefror. Rhoes y Prif Weithredwr ganmoliaeth i safon y drafodaeth
a’r craffu trylwyr yn ystod y cyfarfod, ac i gyfraniad myfyrwyr Ysgol Dinas
Brân at y broses, gan nodi eu bod wedi hybu dealltwriaeth y Pwyllgor o
gymhlethdod y sefyllfa. PENDERFYNWYD derbyn a nodi
sylwadau’r cynrychiolwyr hynny a fu’n bresennol mewn amryw gyfarfodydd ar ran y
Pwyllgor. Wrth ddod â’r cyfarfod i ben diolchodd y Cadeirydd i
swyddogion cymorth y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 pm. |