Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ellie Chard, Hugh Irving (Is-gadeirydd), Geraint Lloyd-Williams, Pete Prendergast ac
Andrew Thomas ynghyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (PG) a
Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cleientiaid (KN). Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Pete Prendergast
wedi gallu mynychu’r cyfarfod ond ei fod wedi cyflwyno’r sylwadau canlynol i'w
darllen yn ei absenoldeb: “Eitem 5, Menter Meifod – rwyf i fy hun yn gadeirydd
grŵp cymunedol sy’n helpu pobl o bob cefndir i ddysgu sgiliau newydd drwy
gynllun prentisiaeth nid yn unig er mwyn gwella sgiliau pobl ond i roi hyder
iddyn nhw yn eu galluoedd eu hunain a hefyd efallai arwain at y posibilrwydd o
waith. Mae Meifod mor bwysig i’r bobl
sy’n mynychu, ac yn cynnig cyfleoedd tebyg i'r grŵp yr ydw i’n ei
gadeirio. Rwy’n annog yr holl gynghorwyr
i gefnogi parhad y cynllun teilwng hwn, a bod y preswylwyr sy'n defnyddio'r
cyfleuster hyfforddi’n cael pob cyfle i symud ymlaen yn eu bywydau ac o bosib i
ddod o hyd i waith. Rydw’i hefyd yn
meddwl y byddai archwilio cyfleoedd drwy
Gyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am waith
/sgiliau gwaith yn y dyfodol yn
cadarnhau'r gwaith gwych y mae Meifod yn ei wneud o ran galluogi pobl i wneud cynnydd yn eu bywydau a thrwy hynny
gynnig manteision i'r ddau sefydliad drwy’r gallu i gyflogi staff ymroddedig a
hyfforddedig. Mae angen pendant am
grwpiau fel Meifod i roi cyfle i bobl ennill sgiliau, rhywbeth sydd mor bwysig
i bobl o bob cefndir y dyddiau hyn i ddod o hyd i ryw fath o gyflogaeth a
gwella eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 396 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad
a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021. Materion yn Codi – Eitem 5 – Adroddiadau Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20 a 2020-21 – tynnodd y Cadeirydd sylw at
faterion yn codi o'r cofnodion a chadarnhaodd y Swyddog Cymorth Craffu bod
rhagor o wybodaeth ar gefnogaeth ar gyfer gofalwyr ifanc ynghyd ag adroddiad er
gwybodaeth am Ofal Iechyd Cefndy wedi'u cynnwys ym Mriff Gwybodaeth y Pwyllgor
a ddosbarthwyd i’r aelodau’r wythnos flaenorol.
Roedd awgrym am restr o dermau yn yr Adroddiad Blynyddol hefyd wedi’i
dderbyn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau ddiweddariad ar ddatblygiad Bwthyn y Ddôl gan ddweud y
byddai’n angenrheidiol ail-dendro am gontractwr i adeiladu’r cyfleuster newydd
gan fod y cwmni a enillodd y contract gwreiddiol wedi mynd i’r wal. Oherwydd yr effaith ar gyfraddau amser a
chyllid, cafwyd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi parhau i
gefnogi’r prosiect wrth iddo symud yn ei flaen.
Ni fydd yn bosibl cadarnhau’r amserlen ar gyfer y datblygiad hyd nes y
bydd y broses dendro wedi’i chwblhau. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf
2021 fel cofnod cywir. |
|
CYNNYRCH COED MEIFOD PDF 427 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd rhwng Rheolwr y Gwasanaethau Cleientiaid a’r Swyddog Comisiynu
a Chynllunio (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi manylion canlyniadau’r ymarfer
ymgynghori a gynhaliwyd i fod yn sail i weithrediad gwasanaeth Meifod yn y
dyfodol a dewisiadau posibl ar gyfer y gwasanaeth, gan gynnwys argymhelliad gan
y Grŵp Tasg a Gorffen Aelodau, er mwyn i’r Pwyllgor lunio argymhellion i’r
Cabinet mewn perthynas â darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol ar
gyfer yr eitem hon, yn cynnwys y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r
Swyddog Comisiynu a Chynllunio ynghyd â’r Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol
Llesiant ac Annibyniaeth gan fod yr eitem hon yn dod o fewn ei maes portffolio. Estynnwyd croeso cynnes hefyd i Brenda
Jones, rhiant un o ddefnyddwyr gwasanaethau Meifod a fyddai hefyd yn annerch y
Pwyllgor. Roedd yr adroddiad ar y
cyd gan y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cleientiaid a’r Swyddog Cynllunio (a
ddosbarthwyd eisoes) yn rhoi manylion am ganlyniadau’r ymarfer ymgynghori a
fyddai’n hysbysu gweithrediad y gwasanaeth ym Meifod yn y dyfodol a’r opsiynau
posibl ar ei gyfer, yn cynnwys argymhelliad Aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen
bod y Pwyllgor yn llunio argymhellion i’r Cabinet mewn perthynas â darpariaeth
gwasanaeth y dyfodol. Rhoddodd y Cynghorydd Christine Marston, Cadeirydd
Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Aelodau, adroddiad ar drafodaethau’r Grŵp
ynghylch y wybodaeth fanwl a’r opsiynau a gyflwynwyd gan y swyddogion yn eu
hadroddiad. Mae’r grŵp yn argymell yn gryf bod y cyfleuster yn cael ei gadw a’i
fod yn ailagor cyn gynted â phosibl er y gwerthfawrogir bod angen sicrhau
amgylchedd diogel ar gyfer cleientiaid –
yn amlwg mae adolygiadau wedi’u cynnal o’r peiriannau a ddefnyddir o
ystyried y pryderon diogelwch a godwyd yn y cyswllt hwnnw. Roedd y Grŵp hefyd yn ystyried y
dylai swyddogion edrych ar weithio gyda menter gymdeithasol a/neu’r sector
preifat i ddarparu’r gwasanaeth er mwyn diogelu ei barhad o ystyried yr heriau
ariannol a wynebir a bod angen bod yn fwy creadigol yn y modd y rheolir y
gwasanaeth. Roedd y grŵp yn ystyried bod Meifod yn darparu gwasanaeth da sydd yn
hollbwysig i'r rhai sy'n ei ddefnyddio ac yn ymgysylltu ag o i gynhyrchu
nwyddau adnabyddus a safonol sy’n cael eu prynu yn lleol, ac y byddai ei golli
yn drueni mawr. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau
at y wybodaeth fanwl a gafwyd a diolchodd i’r Grŵp Tasg a Gorffen a’r
Pwyllgor Craffu am eu gwaith ac am graffu ar yr adroddiad. Mae Meifod yn wasanaeth sy’n cael ei
groesawu a’i werthfawrogi gan y rhai sy’n ei ddefnyddio a’u teuluoedd, y staff
sy’n gweithio yno, y gymuned leol a’r rhai sy’n atgyfeirio pobl yno. Wedi dweud hynny mae angen ystyried hyfywedd pob gwasanaeth yn
ogystal â chyfleoedd i foderneiddio â diwallu anghenion pobl. Caeodd Meifod ddiwedd Mawrth 2020 oherwydd
Covid-19 a’r cyfyngiadau perthnasol ond oherwydd bod y cyfyngiadau hyn yn cael
eu llacio roedd yn adeg priodol i ystyried dyfodol y gwasanaeth. Am y rheswm hwnnw cynhaliwyd ymarfer
ymgysylltu dros gyfnod o wythnosau i geisio barn defnyddwyr y gwasanaeth, eu
teuluoedd/gofalwyr a staff y gwasanaeth ynghyd â rhanddeiliaid eraill. Er ei fod yn amlwg yn wasanaeth sy'n cael
ei werthfawrogi, doedd rhai pobl ddim isio mynd yn ôl i Meifod a byddai'n well
ganddynt ystyried cyfleoedd eraill a gweithgareddau eraill felly mae'n bwysig
ystyried gwahaniaethau barn. Wedi ystyried nifer o opsiynau a gyflwynwyd gan y swyddogion, roedd Grŵp
Gorchwyl a Gorffen yr Aelodau wedi argymell y dylid ailagor Meifod fel
gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan y Cyngor ac y dylid cychwyn ar y gwaith o
ddod o hyd i sefydliad allanol neu fenter gymdeithasol i ddarparu amrywiaeth o
weithgareddau o'r adeilad Meifod presennol, er ei bod yn bosibl nad
gweithgareddau gwaith coed fyddai'r rhain, er mwyn archwilio cynaladwyedd
hirdymor Meifod. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod swyddogion y gwbl gytûn ac yn
cefnogi argymhelliad y grŵp Tasg a Gorffen ac y byddent yn croesawu
cwestiynau gan y Pwyllgor. Yn ystod trafodaeth hir craffodd yr aelodau ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 253 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol. Bu trafodaeth ynghylch y materion canlynol - ·
nodwyd
bod yr adroddiad ar y System Rheoli Perthnasoedd Cwsmeriaid a oedd wedi'i
drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd wedi’i gadarnhau a
ail-gadarnhaodd yr aelodau'r pedair eitem a restrwyd yn y rhaglen waith ar
gyfer y cyfarfod hwnnw. ·
cafodd
y pedair eitem a restrwyd yn rhaglen waith y cyfarfod sydd wedi'i drefnu ar
gyfer 27 Ionawr hefyd eu nodi a'u
hail-gadarnhau ·
anogwyd
aelodau i gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig testunau ar gyfer craffu cyn
cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 25 Tachwedd. ·
cyfeiriwyd at yr adroddiadau gwybodaeth ym Mriff
Gwybodaeth y Pwyllgor a ddosbarthwyd eisoes
yn ymwneud ag Adroddiad Interim Cefndy 2021-2022 a'r Diweddariad ar
Berfformiad y Cynllun Corfforaethol Ebrill – Mehefin 2021. Byddai’r ail adroddiad o gymorth i’r Pwyllgor
wrth graffu ar Chwarter 2 Cynllun Corfforaethol 2021/22 yn ei gyfarfod nesaf ar
25 Tachwedd. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y
newidiadau y cytunwyd arnynt uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel
y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr
pwyllgorau. Canmolodd y Prif
Weithredwr safon uchel y craffu a'r trafod yn ystod y cyfarfod ac fel Swyddog
Arweiniol Corfforaethol y Pwyllgor Craffu Perfformiad dywedodd ei fod yn edrych
ymlaen at fynychu cyfarfodydd y dyfodol.
Ar gais y Cadeirydd rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar
drafodaethau parthed cynllunio olyniaeth
y swyddi Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Pennaeth Gwella Busnes
a Moderneiddio a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Parth Cyhoeddus a fyddai'n
cynnwys adolygu strwythur yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Daeth y
cyfarfod i ben am 12.10pm |