Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Geraint Lloyd-Williams a David Williams |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - Cynghorydd Arwel Roberts - Cadeirydd Grŵp Dementia Rhuddlan Cynghorydd Paul
Penlington – Ymddiriedolwr a Gwirfoddolwr gydag elusen Gofalwyr Ifanc ac mae ei
wraig yn gweithio i elusen Gofalwyr Ifanc sy’n darparu gwasanaethau i’r Cyngor |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 343 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021. Materion yn Codi – Eitem 7 – Yr
wybodaeth ddiweddaraf am Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (tudalen 10,
pedwerydd pwynt bwled) – cadarnhawyd fod y broblem ynghylch llai o adnoddau ar
gael i gynnal asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn broblem genedlaethol sy’n
cael ei dwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn rheolaidd a sonnir am y mater hefyd yn
y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf yr ymgynghorir yn ei gylch dros y
misoedd nesaf. Eitem 8 -
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2020 i 2021 (tudalen 13, ail bwynt bwled) -
cadarnhaodd y Cynghorydd Paul Penlington ei fod wedi derbyn y dolenni
perthnasol i weld yr wybodaeth y gofynnodd amdani yn y cyfarfod diwethaf
ynghylch manylion costau’n ymwneud â Phriffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol ac Addysg a Gwasanaethau Plant. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi yn amgaeedig)
yn cyflwyno adroddiadau blynyddol drafft i’w craffu cyn eu cyflwyno i
Arolygiaeth Gofal Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cymunedau a’r Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn cyflwyno’r adroddiadau blynyddol drafft
ar gyfer 2019 – 2020 a 2020 – 21 i’r Pwyllgor ar gyfer craffu cyn eu cyflwyno i
Arolygiaeth Gofal Cymru. Esboniwyd y rhesymau dros gyflwyno’r ddau adroddiad gan gofio bod
Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r angen i lunio adroddiad blynyddol ym Mawrth
2020 oherwydd pandemig Covid-19. Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at y rôl arweiniol yr ymgymerodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol â hi yn ystod y pandemig ar lefel leol, rhanbarthol a
chenedlaethol, gan barhau hefyd gyda’r gwaith arferol, a hynny’n aml iawn dan
bwysau ariannol. Dangosai’r adroddiadau fod llawer wedi ei gyflawni o dan amgylchiadau hynod
o anodd a gwelwyd cynnydd a gwelliannau mewn nifer o feysydd. Er mai prif gyfrifoldeb y Cynghorydd
Feeley yw Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, gwyddai fod gwasanaethau cyfun Addysg
a Gwasanaethau Plant hefyd wedi darparu'r un gwasanaethau o ansawdd da i blant
bregus. Roedd hi’n falch o allu bod yn rhan o lansiad canolfan blant newydd
arloesol Bwthyn y Ddol. Roedd yr adroddiadau blynyddol yn adlewyrchu’n dda ar y timau sy’n gweithio
ar draws y meysydd gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a thalwyd teyrnged i’r
staff gwych ac ymroddedig sy’n gweithio'n ddiflino i gynnig y gwasanaethau
gorau bosibl. Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Feeley ei bod yn hyderus y byddai
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn parhau i addasu a gwella a darparu’r
gofal sydd ei angen ar drigolion y sir. Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau
i’r holl gynghorwyr am eu cefnogaeth barhaus i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i
Blant ac Oedolion. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai angen llunio adroddiad ar
gyfer 2019 – 20, teimlwyd y dylid bod yn gyfredol a llunio’r adroddiad hwnnw,
er mwyn dangos hefyd yr hyn a gyflawnwyd yn ystod cyfnod hynod o anodd nas
gwelwyd ei debyg o’r blaen.
Talodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol deyrnged i’r gweithlu gan gynnwys gofalwyr anffurfiol, gofalwyr
maeth a’r rhai a fu’n darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor yn y sectorau
annibynnol a gwirfoddol, ac i bawb a fu’n cynorthwyo. Ni ellid adleoli pawb i weithio ar y rheng
flaen ond gwnaeth pobl o bob rhan o’r awdurdod ac ar draws cymunedau fanteisio
ar y cyfle i gynorthwyo mewn ffyrdd eraill a gwneud gwaith er mwyn darparu
gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf bregus. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch o
gyflwyno’r adroddiadau i’r aelodau gan bwysleisio cymaint a gyflawnwyd dros y
ddwy flynedd ddiwethaf a chadarnhaoedd y byddai datblygiadau i’w gweld yn y
meysydd gwaith hynny nad oedd wedi datblygu yn ôl y disgwyl. Roedd hi’n werth nodi bod staff ar hyn o
bryd yn ymdrin â chynnydd mewn achosion a throsglwyddiadau Covid-19 yn y
gymuned ac mewn lleoliadau gofal. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn croesawu’r gwaith craffu roedd yr
aelodau’n ei wneud ar yr adroddiadau ac esboniodd fod y Prif Reolwyr Ann Lloyd
a James Wood hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau. Yn ystod trafodaeth hir, gwnaeth y Pwyllgor dalu
teyrnged i'r ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb yn y maes gofal
cymdeithasol wrth iddyn nhw weithio'n ddiflino o dan amgylchiadau hynod o
anodd, ac i'r rhai sy’n parhau i wneud hynny, gan fynd y filltir ychwanegol er
mwyn gofalu am y rhai mwyaf anghenus. Manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i ofyn
cwestiynau a thrafod gwahanol agweddau ar yr adroddiadau gyda'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol, yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion a oedd yn bresennol. Roedd prif feysydd y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 238 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r
dyfodol y pwyllgor i’w adolygu ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i aelodau
adolygu rhaglen waith y pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Cafwyd trafodaeth
yn ymwneud â'r materion canlynol:- ·
ni
fydd yr adroddiadau a drefnwyd ynghylch Arholiadau Allanol ac Asesiadau
Athrawon Dros Dro (Medi) ac Arholiadau Allanol wedi’u Gwirio (Ionawr) yn dod i
law oherwydd diffyg data cymharol a data meincnodi. Wrth ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y
gellid rhannu data arholiadau dros dro Sir Ddinbych gyda’r aelodau ond nad oes
data cymharol ar gael o awdurdodau lleol eraill o ganlyniad i orchymyn gan
Lywodraeth Cymru. Serch hynny, mae nifer o faterion yn ymwneud ag addysg y dylid craffu arnyn
nhw'n ddiweddarach yn y flwyddyn ·
cytunwyd y dylai cyfarfod mis Medi barhau gyda'r eitem yn
ymwneud â Gofal Iechyd Cefndy ac os yw'n bosibl, dylid dwyn ymlaen yr adroddiad
am System Rheolwyr Perthynas â Chwsmeriaid (CRM) i'r cyfarfod hwnnw a drefnwyd
ar gyfer mis Tachwedd. Teimlai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai hefyd yn ddefnyddiol i’r
aelodau pe bai’r adroddiad yn dangos sut mae pob gwasanaeth unigol yn bwydo i’r
system CRM a’r pwysigrwydd a’r manteision i bob unigolyn a gwasanaeth drwy
ddilyn y drefn gywir. Cytunwyd y byddai’r Cydlynydd Craffu yn penderfynu a yw’r gwasanaeth mewn
sefyllfa i baratoi'r adroddiad erbyn mis Medi a dylid hefyd cynnwys y materion
a godwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ·
gofynnwyd
i’r aelodau gyflwyno unrhyw ffurflenni cynigion ynghylch testunau i’w craffu
(gan gynnwys unrhyw destunau sy’n codi o Adroddiadau Blynyddol Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) cyn y
cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer Grŵp y Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Craffu ar 9 Medi. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y diwygiadau y cytunwyd arnyn nhw uchod, y dylid cymeradwyo
rhaglen gwaith i'r dyfodol y
Pwyllgor fel y manylir amdani yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Esboniodd y
Cynghorydd Hugh Irving wrth yr aelodau mai ef yw cynrychiolydd y Pwyllgor ar y
grwpiau/fforymau canlynol - ·
Gwasanaethau
Cwsmeriaid a Chymunedau (Her Gwasanaeth) – yn anffodus ni lwyddodd i fynychu’r
cyfarfod am yr heriau gwasanaeth a gynhaliwyd ar 14 Mehefin ·
Gwasanaethau
Gwella Busnes a Moderneiddio (Her Gwasanaeth) – roedd y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 30 Mehefin yn cynnwys llawer o drafodaeth am Covid-19 a’r gwaith adfer, a
chytunwyd y byddai cofnodion y cyfarfod hwnnw'n cael eu rhannu gyda'r aelodau ·
Bwrdd
Prosiect Adeilad y Frenhines – mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob pythefnos ar hyn o
bryd er mwyn cadw llygad manwl ar y prosiect ac mae llawer o’r drafodaeth yn
gyfrinachol ac ni ellir ei rhannu mewn cyfarfod cyhoeddus. Er bod y prosiect yn wynebu heriau, cadarnhawyd bod pawb yn gweithio er
mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus. Wrth ystyried y ffordd orau i symud ymlaen a
sut i adrodd yn ôl wrth yr aelodau’n briodol, awgrymwyd y gallai’r prosiect fod
yn destun ar gyfer craffu yn y dyfodol ac y dylai’r Cydlynydd Craffu ymdrin â’r
mater a’r amserlenni ar gyfer craffu os credir bod hynny’n briodol. Atgoffodd y
Cynghorydd Peter Scott yr aelodau y bydd cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn cael ei gynnal ar 26 Gorffennaf i ystyried gwaith y Grŵp Tasg
a Gorffen ar yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Ellie Chard y byddai’n cynrychioli’r Pwyllgor yn yr Her Gwasanaeth
ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Plant ar 19 Gorffennaf a chadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai’n cynrychioli’r Pwyllgor yn yr Her Gwasanaeth ar gyfer
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol ar 19 Gorffennaf. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi'r adroddiadau ar lafar. Wrth gloi’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i bawb am
fynychu ac am gyfrannu at y trafodaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.05pm. |