Agenda and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Martin Holland a
Geraint Lloyd-Williams. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 305 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021. Penderfynodd y Pwyllgor: Penderfyniad: - derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 28
Ionawr 2021 a’u cymeradwyo fel cofnod cywir o’r cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw fater mewn cysylltiad â chynnwys y cofnodion. |
|
ADOLYGU GWASTRAFF MASNACHOL AC AILGYLCHU PDF 225 KB Ystyried
adroddiad (copi amgaeedig) gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ar gyfeiriad y
Gwasanaeth Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu yn y dyfodol. 10:05 – 10:45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones,
yr adroddiad (a oedd eisoes wedi’i gylchredeg) yn esbonio bod y gwasanaeth
gwastraff gweddilliol, heblaw am yr amhariad yn ystod cyfnod clo Covid-19, yn
gweithio’n dda a chefnogodd argymhellion yr adroddiad y dylai’r gwasanaeth
barhau i weithredu yn yr un ffordd wrth symud ymlaen. Atgoffodd y
Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward, y Pwyllgor bod y
gwasanaeth gwastraff masnachol gweddilliol wedi cael ei gontractio allan i
Veola ym mis Awst 2018 gydag ymrwymiad i adolygu’r gwasanaeth yn y Pwyllgor
Craffu Perfformiad ar ôl iddo gael amser i ymsefydlu. Roedd Atodiad 1 yr
adroddiad, a gwblhawyd gan Wrap Cymru, yn tynnu sylw at lwyddiant y Gwasanaeth
hyd yma. Y bwriad oedd adnewyddu’r contract pan ddaw i ben ym mis Awst 2021. Esboniodd Tara
Dumas, Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu, y sail resymegol ar gyfer cadw'r
gwasanaeth ailgylchu gwastraff masnachol yn fewnol. Roedd yr Awdurdod yn y
sefyllfa orau i reoli’r ymarfer o wahanu gwastraff yn ei darddle a fyddai’n
ofynnol yn y dyfodol er mwyn cydymffurfio â Deddf yr Amgylchedd ac a oedd
eisoes yn ymarfer sefydledig ar rowndiau domestig. Roedd casglu
gwastraff wedi’i wahanu yn y tarddle yn gostus. Fodd bynnag, gallai’r Awdurdod
fanteisio ar y gwasanaeth casglu domestig i gasglu’r biniau 4 olwyn mawr ochr
yn ochr â’r gwasanaeth domestig wythnosol ar gyfer casgliadau cymunol a bocsys
troli bach, gan leihau costau i fusnesau a chaniatáu i'r Awdurdod adfer ei
gostau ei hun. Wrth ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Swyddogion: ·
Mae’r
ffioedd presennol yn sefydlog yn ddibynnol ar faint y cynhwysydd. ·
Nid
oedd taliadau ailgylchu wedi cael eu pennu ar gyfer busnesau eto. ·
Roedd
yr Awdurdod yn denu llawer iawn o fusnesau bach a oedd yn gofyn am gasgliadau
gwastraff masnachol. ·
Byddai
cyfuno’r gwasanaethau casglu gwastraff masnachol a domestig yn lleihau effaith
ôl troed carbon yr Awdurdod. ·
Roedd
amryw o addasiadau wedi cael eu gwneud i’r casgliadau arfaethedig o aelwydydd i
osgoi cael effaith andwyol ar leoliadau gwledig neu dai amlfeddiannaeth /
fflatiau. ·
Roedd
gofyn i Awdurdodau Lleol fod yn dryloyw a chyhoeddi eu polisïau prisiau, ond
nid oedd yn ofynnol i fusnesau preifat wneud hynny. ·
Roedd
prosiect cydweithio yn yr arfaeth gyda Chonwy ar gyfer adnewyddu’r contract i
reoli canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. ·
Roedd
siop ailddefnyddio yn cael ei sefydlu yng nghanolfan ailgylchu y Rhyl a
disgwylid iddi agor ym mis Ebrill / Mai 2021. ·
Roedd
fideo ar gael yn dangos sut mae gwaith ailgylchu Shotton yn gweithio a byddai
modd cylchredeg y fideo hon i’r aelodau. Cynigwyd y dylid
trefnu ymweliad safle i weld gwastraff yn cael ei wahanu mewn canolfan
ailgylchu pan fydd y cyfyngiadau Covid yn caniatáu i ymweliadau ailddechrau.
Awgrymodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ymweld â Pharc Adfer, sef canolfan
troi gwastraff yn ynni yng Nglannau Dyfrdwy sydd â chanolfan ymwelwyr bwrpasol
(ar gau yn ystod y cyfnod clo) a allai fod o ddiddordeb i aelodau. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion am eu hadroddiad a’u cyflwyniad. Penderfynodd y
Pwyllgor: Penderfyniad: - o ystyried y tasgau, y targedau a’r terfynau amser yn y ‘Cynllun Cyflawni
Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol’ (Atodiad 2), cefnogi’r Cynllun fel fframwaith
ar gyfer cyflawni’r argymhellion allweddol yn seiliedig ar ganfyddiadau
Adroddiad Adolygu Gwastraff Masnachol WRAP Cymru (Atodiad 1) |
|
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELL PDF 299 KB Ystyried
adroddiad oddi wrth y Prif Lyfrgellydd ar berfformiad y Cyngor yn erbyn y 6ed
Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 a’r cynnydd a wneir i
ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles a chadernid lles unigol a chymunedol. 10:45 – 11:15 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata, Liz Grieve yr adroddiad (eisoes
wedi’i gylchredeg) a oedd yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2019/2020 a oedd hefyd
wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd pob un o’r
Hawliau Craidd wedi cael eu cyflawni (cyfeiriwyd at Atodiad A). O’r 16 o
Ddangosyddion Ansawdd roedd gan 10 ohonynt dargedau. Roedd y cyfyngiadau
oherwydd Covid-19 wedi cael effaith ar Ddangosyddion Ansawdd ac o ganlyniad
dilëwyd rhai ohonynt. Roedd trafodaethau ar y gweill ynglŷn â sut y gellid
asesu perfformiad ar gyfer blwyddyn 2020/2021 ond mae’n debyg y byddai’n fwy o
adroddiad naratif. O’r 9 targed a oedd yn weddill ar gyfer 2019/2020; cafodd 7
eu cyflawni yn llwyr, 1 yn rhannol ac 1 a oedd heb gyflawni’r targed. Nid oedd unrhyw
newid sylweddol i adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor
Sir Ddinbych. Cafodd ymrwymiad Sir Ddinbych i iechyd a lles – partneriaethau
gweithredol gyda Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a chyrff y Trydydd Sector – ei nodi ac ystyriwyd bod hynny’n bwysig
wrth fynd ymlaen. Hefyd yn bwysig oedd
defnyddio mwy o adnoddau digidol a chanolbwyntio ar ddatblygu staff. Nid oedd y
Dangosydd Ansawdd ar gyfer deunydd darllen cyfredol a phriodol wedi cael ei
gyflawni. Er bod deunyddiau newydd yn cael eu caffael, nid oedd gwariant wedi
cyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y gwaith a wnaethpwyd
gan lyfrgelloedd a phartneriaethau ledled gogledd Cymru yn golygu nad oedd
hynny wedi cael effaith ddifrifol ar breswylwyr. Roedd Sir
Ddinbych wedi cyrraedd y brig (allan o 22 o awdurdodau Cymreig) am nifer y
llyfrau Cymraeg a fenthycwyd fesul pen o’r boblogaeth. Canmolwyd y staff a oedd
yn gyfrifol am drefnu grwpiau darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rhoddodd y Prif
Lyfrgellydd, Bethan Hughes, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am rôl
llyfrgelloedd yn ystod pandemig Covid-19 a chyfnodau clo dilynol gan gynnwys: ·
adleoli
staff i ddarparu gwasanaeth Galwadau Rhagweithiol y Cyngor i breswylwyr sydd ar
y rhestr warchod; ·
ehangu
a hyrwyddo’r Llyfrgell Ddigidol – gwelwyd cynnydd o 118% mewn benthyca digidol. ·
newid
gwasanaeth y tîm Dechrau Da i fod yn wasanaeth ar-lein; ·
cyflwyno
gwasanaeth Archebu a Chasglu llyfrau llyfrgell wrth i gyfyngiadau lacio; ·
darparu
gwasanaethau Siop Un Alwad ar-lein a thros y ffôn; ·
derbyn
cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal prosiect gweddnewid digidol i
ailddyrannu ystafelloedd bach mewn llyfrgelloedd er mwyn caniatáu i breswylwyr
eu harchebu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar y rhyngrwyd a ·
hyfforddi
staff llyfrgelloedd i gynnal digwyddiadau ar-lein. Dywedwyd wrth y
Pwyllgor: ·
wrth
ddychwelyd i’r drefn arferol byddai cwsmeriaid yn parhau i gael eu cefnogi i
dalu eu biliau mewn dulliau eraill (heb fod ar-lein) y tu allan i'r llyfrgell. ·
roedd
cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys dolenni mynediad i’r Gwasanaeth Archifau a’i
lyfrgell gwybodaeth; ·
cafodd
cwsmeriaid eu cyfeirio a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau digidol
ar-lein ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru; ·
roedd
penderfyniad ymwybodol wedi cael ei wneud (sawl blwyddyn yn ôl) i ostwng y
gyllideb sy’n cael ei gwario ar lyfrau newydd ac roedd hynny'n annhebygol o
newid yn y dyfodol gan y teimlwyd bod y Gwasanaeth, trwy reoli'n ofalus, yn
gallu ateb galw’r darllenwyr o fewn ei adnoddau cyfyngedig; ·
roedd
yn rhaid i lyfrgellwyr ystyried llyfrau poblogaidd yn erbyn pynciau arbenigol
gan weithio o fewn cyllideb. Mantais cydweithio’n agos â llyfrgelloedd gogledd
Cymru oedd y gellid cael gafael ar lyfrau arbenigol o wasanaethau llyfrgelloedd
eraill ambell waith. Canmolodd y
Pwyllgor waith staff y Llyfrgelloedd. Felly: Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod: (i)
derbyn
a llongyfarch Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor ar ei berfformiad yn erbyn 6ed
Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru; a |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 3 2020-2021 PDF 211 KB Derbyn adroddiad
diweddaru (copi amgaeedig) gan Arweinydd y Tîm Cynllunio a Pherfformiad
Strategol ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn 2020 i 2021 ar ddiwedd
chwarter 3 (Hydref i Rhagfyr 2020). 11:30 – 12:00 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau Strategol, Julian Thompson-Hill, yr adroddiad
(eisoes wedi’i gylchredeg) wrth i’r Cyngor ddechrau ar flwyddyn olaf ei Gynllun
Corfforaethol. Dywedodd bod Covid-19 wedi cael effaith ar rai elfennau o'r
Cynllun Corfforaethol – yn bennaf darparu prosiectau yn hwyrach na'r disgwyl. Roedd y dudalen
grynodeb yn adrodd am gynnydd da yn gyffredinol. Roedd dau faes yn dal i fod yn
flaenoriaeth ar gyfer gwella mesurau. Dull diofyn y Cyngor, os oes data
cenedlaethol ar gael, yw bod perfformiad uwch na’r chwarter uchaf yn cael ei
ystyried yn ardderchog, a bod perfformiad o dan y canolrif yn cael ei
flaenoriaethu ar gyfer gwelliant. Os nad oes data cenedlaethol ar gael, mae
penderfyniad lleol yn cael ei wneud ynglŷn â beth sy’n cyfrif fel
perfformiad ardderchog neu flaenoriaeth ar gyfer gwelliant. Dywedodd yr
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Iolo McGregor, nad oedd yr adroddiad
yn dod yn y drefn y byddai aelodau yn arfer ei dderbyn oherwydd cyfnod clo
Covid-19. Roedd y ddau fesur a amlygwyd i’w blaenoriaethu ar gyfer gwelliant yn
parhau sef: ·
Cysylltu
Cymunedau – a oedd yn cynnwys argaeledd Band Eang ledled y sir ·
Pobl
Ifanc – roedd data addysg wedi cael ei effeithio gan y pandemig ac roedd yn
eithriadol o annhebygol y byddai unrhyw ddata addysgol manwl ar gael am amser
hir iawn. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y modd yr oedd y Cyngor wedi ymateb i
Covid-19 a byddai’n parhau i wneud hynny wrth symud ymlaen. Dywedodd yr
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a’r Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol: ·
Byddai’r
arolwg preswylwyr / budd-ddeiliaid yn cael ei gynnal eto i ganfod beth yw’r
blaenoriaethau yn y Sir er mwyn bod yn sail i’r Cynllun Corfforaethol nesaf. ·
Disgwylid
gweld cynnydd cyflym mewn gwaith adeiladu yn y portffolio tai yn y dyfodol
agos. ·
Byddai
canlyniadau arolwg tai STAR a gynhaliwyd gyda Thenantiaid y Cyngor yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu i’w harchwilio yn y dyfodol agos. ·
Efallai
yr hoffai Aelodau ddefnyddio’r wybodaeth yn Niweddariad y Cynllun Corfforaethol
i nodi meysydd lle roedd angen gwneud gwaith craffu pellach e.e. darpariaeth
tai fforddiadwy. ·
Roedd
cyfnod y Cynllun Corfforaethol yn adlewyrchu cyfnod y Cyngor a ·
Roedd
disgwyl i’r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Ninbych gael ei gwblhau erbyn y
dyddiad targed sef Ebrill 2021. Penderfynodd y
Pwyllgor: Penderfyniad: - Yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod, derbyn yr adroddiad ar
berfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei Gynllun Corfforaethol 2017-22 yn ystod
Chwarter 3 2020-21. |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL PDF 232 KB Derbyn adroddiad
diweddaru (copi amgaeedig) ar adolygiad mis Chwefror o'r Gofrestr Risg
Gorfforaethol gan Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a'r
Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad. 12:00 – 12:30 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau, Julian Thompson Hill adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol). Mewn
crynodeb dywedodd yr Aelod Arweiniol: ·
Nad
oedd unrhyw risgiau newydd wedi’u nodi ers yr adroddiad diwethaf ·
Roedd
Risg 46 –Cyflenwi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd wedi cael ei ddileu oherwydd
bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y dyddiad cau. ·
Roedd
Risg 14 – iechyd a diogelwch wedi codi mymryn oherwydd effaith weddilliol
Covid-19 ·
Roedd
Risg 44 – Clefyd Coed Ynn wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu nad oedd y
Cyngor bellach yn ceisio cydweithio ag awdurdodau eraill a ·
Nad
yw oddeutu 55% o Risgiau Corfforaethol yn gydnaws â Datganiad Parodrwydd i
Dderbyn Risg y Cyngor. Dywedodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Iolo McGregor
(IM) wrth y Pwyllgor bod yr adroddiad wedi cael ei wella ers yr un a ystyriwyd
ym mis Medi 2020 gan fyfyrio ar gyfnod clo cyntaf Covid-19 a Brexit. Aeth
ymlaen i esbonio’r cysyniad o Barodrwydd i Dderbyn Risg a sut i'w ddefnyddio
fel offeryn i ystyried a yw’r Awdurdod yn gwneud digon gan roi’r enghreifftiau
canlynol: ·
Roedd
y Clefyd Coed Ynn yn broblem gymharol newydd ac roedd llawer o wybodaeth goll
megis; ble oedd yr holl goed yn y Sir, pa niwed allent ei achosi a'r
tebygolrwydd y byddent yn cwympo ar rywun. Wrth fynd ymlaen byddai ymchwiliadau
yn ateb ac yn mynd i’r afael â’r materion hynny, ac o ganlyniad byddai’n lleihau’r
risg sy’n gysylltiedig â chlefyd coed ynn, gan symud mwy tuag at lefel
Parodrwydd i Dderbyn Risg yr Awdurdod. ·
Roedd dull gweithredu Parodrwydd i Dderbyn Risg ym
maes Diogelu yn gynnil. Fodd bynnag, roedd natur Diogelu yn golygu na fyddai
byth dan reolaeth yr Awdurdod. Gan hynny, ni fyddai’r risg byth yn gydnaws â
Pharodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor, waeth beth fo’r uchelgais. Dywedwyd wrth y
Pwyllgor: ·
O ran
y Gofrestr Risg, mae’r term ‘Diogelu’ yn cyfeirio at amddiffyn dinasyddion diamddiffyn
rhag niwed (waeth beth fo’u hoedran) ·
Rhoddir
‘Blaenoriaeth ar gyfer Gwelliant’ i unrhyw fesur a oedd yn disgyn o dan y
canolrif sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. ·
Adolygir
y Gofrestr Risg bob 6 mis, fodd bynnag mae pob risg yn cael ei dyrannu i
berchennog sy’n ei monitro’n gyson yn ogystal â’r Uwch Dîm Rheoli. Roedd y Cabinet hefyd yn adolygu’r Gofrestr
bob chwe mis. Penderfynodd y
Pwyllgor: Penderfyniad: - Yn amodol ar yr uchod cefnogi ac ardystio’r newidiadau a wnaethpwyd i’r
Gofrestr Risgiau Gorfforaethol (Atodiad 1) yn ystod ei adolygiad chwe mis
diweddar, gan gynnwys statws pob risg yn erbyn Datganiad Parodrwydd i Dderbyn
Risg y Cyngor (Atodiad 2). |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12:30 – 12:45 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen
waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.
Atgoffwyd yr Aelodau y dylent lenwi’r ffurflen cynnig ar gyfer y pynciau craffu
(atodiad 2) er mwyn i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
adolygu a dyrannu eitemau busnes. ·
Roedd
ymholiadau wedi cael eu gwneud gyda’r swyddogion perthnasol ynglŷn â p’un
a fyddai Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar
gael i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ar 29 Ebrill. Roedd y gofyniad statudol i gyhoeddi'r
Adroddiad Blynyddol ym mis Gorffennaf 2020 wedi cael ei hepgor gan Lywodraeth
Cymru oherwydd y pwysau a achosir gan bandemig COVID-19. Roedd disgwyl i awdurdodau lleol gyhoeddi’r
adroddiad hwn erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021 i gwmpasu blynyddoedd 2019-20 a
2020-21. Roedd swyddogion wedi cadarnhau
na fyddai'r adroddiad ar gael mewn pryd ar gyfer cyfarfod mis Ebrill ond byddai
ar gael i'w gyflwyno i'r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Mehefin. Cytunodd y Pwyllgor â’r gohiriad hwn, ond
gofynnodd a fyddai modd cadw dyddiad cyfarfod mis Ebrill yn agored rhag ofn i
eitemau busnes brys gael eu cyflwyno i'w trafod. ·
Roedd
cais wedi cael ei dderbyn gan swyddogion yn gofyn am ohirio adroddiad dilynol
ar Ganolfan Hafan Deg yn y Rhyl tan ddiwedd yr haf neu hydref 2022 gan nad oedd
y Ganolfan wedi gallu gweithredu yn agos at ei gapasiti disgwyliedig yn y 12
mis diwethaf oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Byddai contract y Ganolfan yn cael ei adnewyddu yn ystod haf 2021 felly
teimlwyd mai’r amser mwyaf priodol i fonitro effeithlonrwydd y Ganolfan oedd
blwyddyn i mewn i’r contract newydd pan fyddai cyfyngiadau’r pandemig wedi
llacio digon i ganiatáu i’r gweithredwr dyfu’r busnes a’r gwasanaethau sydd ar
gael yno gobeithio. Cytunodd Aelodau â’r
gohiriad a geisiwyd. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd uchod, i gymeradwyo
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 12:45 – 13:00 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chyflwynwyd
unrhyw adborth gan gynrychiolwyr. Daeth y cyfarfod i ben am 12:20pm |