Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorydd Alan Hughes. Yn dilyn marwolaeth drist
Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Hugh Irving, cafodd y cyfarfod ei gadeirio
gan Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Gareth Sandilands. Rhoddodd y Cynghorydd Sandilands deyrnged i
wasanaeth ymroddedig ac arbennig y Cynghorydd Irving i fywyd cyhoeddus.
Cyfeiriwyd yn benodol at ei rôl yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad,
swydd yr oedd wedi ymgymryd â hi ers 2022 hyd nes ei farwolaeth. Fe gyfleodd gydymdeimladau’r Pwyllgor i deulu
a chyfeillion y Cynghorydd Irving cyn i bawb oedd yn bresennol nodi munud o dawelwch
er cof amdano. Cafodd y Pwyllgor wybod bod
dwy o’r seddi gwag bellach wedi cael eu llenwi gyda phenodiadau’r Cynghorwyr
James Elson ac Will Price. Croesawodd yr Is-gadeirydd y ddau i’w cyfarfod
cyntaf. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol cysylltiad personol yn
eitem fusnes 7, ‘Cyllid Addysg Ychwanegol’: Y Cynghorydd Will Price gan fod ei wraig yn cael ei
chyflogi yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Neil Roberts fel Llywodraethwr yn Ysgol y Parc, Dinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Is-gadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2025. Felly: Penderfynwyd: derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13
Mawrth 2025 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Tudalen 8,
Cofnodion y cyfarfod blaenorol. Gan ymateb i ymholiad dywedodd y Cydlynydd
Craffu y byddai’r dyddiadau i ddechrau Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd i
‘Adolygu Cyflwyniad y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Newydd’ yn cael ei
gyhoeddi unwaith y byddent wedi cael cadarnhad gan Arweinwyr Grwpiau eu bod yn
cytuno ar wneuthuriad gwleidyddol y Grŵp Tasg a Gorffen. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Swyddog Busnes/Monitro bod yr
enwebiadau a gafwyd gan bob Grŵp Ardal yr Aelodau yn golygu nad oedd yr
aelodaeth cweit yr un fath â chydbwysedd gwleidyddol cyffredinol y Cyngor. O
ganlyniad, fe ymgynghorwyd â phob Arweinydd Grŵp i ganfod a oeddynt yn
fodlon â’r cyfansoddiad gwleidyddol.
Roedd nodyn atgoffa pellach wedi cael ei anfon i Arweinydd Grŵp yr
wythnos flaenorol, felly rhagwelir y byddai’r aelodaeth yn cael ei ganiatáu o
fewn yr wythnos sydd i ddod. Sicrhaodd yr Arweinydd i ddatrys y mater gyda’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Swyddog Busnes/Monitro erbyn diwedd
yr wythnos. |
|
Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) gan y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni ar leoli
Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer llwyddiant wrth sicrhau cyllid gwerth uchel ar ôl Brexit. 2.05pm – 2.35pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan yr
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith cadarnhaol o
ddarparu prosiectau yn Sir Ddinbych a’r Cyllid Ffyniant Bro a sicrhawyd. Fe
amlinellodd yr adroddiad hefyd y gwersi a ddysgwyd o rowndiau cychwynnol y
broses o ymgeisio a phwysleisio’r angen am lwybr llywodraethu clir wrth symud
ymlaen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r
Amgylchedd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiant y Cyngor yn cael Cyllid
Ar Ôl Brexit gyda thri Chais Cronfa Ffyniant Bro llwyddiannus yr oedd wedi’i
gefnogi i’w gael. Rhoddwyd rhagor o fanylion o’r adroddiad i’r Pwyllgor gan
y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r gwersi a ddysgwyd o
ddarparu prosiectau Cronfa Ffyniant Bro a Chronfa Ffyniant Gyffredin i helpu i
osod Cyngor Sir Ddinbych mewn sefyllfa dda ar gyfer unrhyw gyllid gwerth uchel
a fyddai ar gael yn y dyfodol. Roedd hi’n bwysig nodi bod y dull a’r amserlen ar gyfer
dylunio rhaglenni a phrosiectau, cymwysiadau a gweithredu wedi’u pennu’n gyfan
gwbl gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Atodiad A yn enghraifft o’r broses bresennol a’r dull
a gymerwyd hyd yma i baratoi ac ymgeisio am, a darparu ac adrodd ar geisiadau’r
Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth ar y camau a
gymerwyd, pwy oedd yn rhan a rhai myfyrdodau a gafodd eu bwydo i mewn i
ddadansoddiad ehangach o’r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT)
sydd hefyd yn cynnwys ystyried y rhaglenni a ddarparwyd gyda Chronfeydd Ffyniant
Bro. Darparwyd gwybodaeth bellach am y dadansoddiad SWOT yn Atodiad B yr
adroddiad. Cafodd yr ymateb i gyfleoedd am
Gyllid Ffyniant Bro ei arwain gan y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes yn nhermau
cyflwyno cais. Cafodd yr ymateb i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r rhaglen
Cynllun ar gyfer Cymdogaethau (a elwir yn Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn
flaenorol), ei arwain ar y cyd gan y Gwasanaeth Tai a Chymunedau a’r Gwasanaeth
Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau. Cafodd y cam darparu, ar ôl derbyn
y llythyr dyfarnu grant, ei arwain gan y “Tîm Matrics” a sefydlwyd o fewn y
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau i ddarparu
rhaglenni Cronfa Ffyniant Bro a Chronfa Ffyniant Gyffredin. Er bod y tîm yn
eistedd o fewn y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac
Asedau, cafodd ei ariannu’n llawn gan y cyllid grant allanol ac roedd yn adrodd
o ddydd i ddydd drwy drefniant rheoli matrics i’r Pennaeth Cynllunio,
Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, ar gyfer Cyllid Ffyniant Bro ac
i Bennaeth Tai a Chymunedau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gan gynnwys y cam ymgeisio a’r cam
darparu, roedd y defnydd o gapasiti ar
draws y sefydliad yn sylweddol. Roedd
angen cynrychiolydd o’r Uwch Dîm Arwain i arwain pob rhaglen fel yr Uwch
Swyddog Cyfrifol gydag ymrwymiadau amser sylweddol a chymhlethdod, ar ben
llwythi gwaith a oedd eisoes yn uchel i’r unigolion hynny. Roedd galwadau ar gapasiti sefydliadol yn
amrywio yn nhermau amser ac adnoddau gan ddibynnu ar gam datblygu’r rhaglen,
nodau’r prosiect a chymhlethdod. Mae cyfranogiad aelodau etholedig
a’r gymuned wrth ddewis prosiectau Cronfa Ffyniant Bro a Chronfa Ffyniant
Gyffredin wedi’i grynhoi isod: ·
Roedd prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin
yn deillio o’r cynllun corfforaethol a gafodd ei gymeradwyo yn dilyn
ymgysylltiad helaeth â’r cyhoedd ac aelodau ·
Roedd manylion y trefniadau
llywodraethu ar gyfer y ddwy gronfa wedi’u rhannu gyda’r holl Gynghorwyr ·
Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Craidd
Lleol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin - ei greadigaeth a’r aelodau Bwrdd
wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet yn 2023 · Rhannwyd cynlluniau cyfathrebu â’r aelodau wrth iddynt ddatblygu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL - ADOLYGIAD CHWEFROR 2025 Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni
a’r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol
– adolygiad Chwefror 2025. 2.35pm – 3.05pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol adroddiad y Gofrestr Risgiau Corfforaethol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor. Y Tîm Gweithredol Corfforaethol, ynghyd â’r Cabinet, a
fu’n datblygu’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a nhw sy’n berchen arni
hefyd. Cafodd yr adroddiad manwl
blaenorol ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2024. Roedd gan y Cyngor 14 o Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr
ar hyn o bryd. Cynigiwyd bod Risg 48 yn cael ei ddad-ddwysau i lefel gwasanaeth
ac nid oedd risgiau newydd wedi cael eu hychwanegu. Yna byddai gan y Cyngor 13
o Risgiau ar y Gofrestr. Rhoddodd y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni
ragor o fanylion i’r Pwyllgor am y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Risg 21: Bod y risg nad yw integreiddio gwasanaethau
iechyd a gofal cymdeithasol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a
Chyngor Sir Ddinbych yn datblygu ymhellach, roedd y Sgôr Risg Gweddilliol wedi
cynyddu o C2 Posibl/Effaith Uchel i B2 Tebygol/Effaith Uchel yn unol â’r
sefyllfa bresennol. Yn dilyn “golwg manwl” y Tîm Gweithredol Corfforaethol ar
Risg 48: Arweiniodd y risg bod problemau recriwtio a chadw staff yn arwain at
golli arbenigedd a chapasiti gan olygu perfformiad gwael neu annigonol,
cytunodd y Tîm Gweithredol Corfforaethol i ddad-ddwysau y risg hwn o’r Gofrestr
Risgiau Corfforaethol i lefel Gwasanaeth. Ystyriwyd ei bod yn fwy priodol i
unrhyw faterion recriwtio a chadw gael eu gwerthuso a’u rheoli gan Benaethiaid
Gwasanaeth, ar gyfer eu meysydd gwasanaeth trwy eu Cofrestr Risgiau Gwasanaeth
(gan y byddai lefel y risg hwn yn amrywio rhwng gwasanaethau). Roedd “golwg fanwl” cyntaf y Tîm
Arwain Strategol wedi cael ei gynnal ar Risg 14: Y risg o ddigwyddiad iechyd a diogelwch yn
arwain at anaf difrifol neu golli bywyd, a’r Sgôr Risg Cynhenid yn cynyddu o C2
Posibl/Effaith Uchel i B2 Tebygol/Effaith Uchel. Roedd y Sgôr Risg Gweddilliol
yn aros yr un fath ar E2 Prin/Effaith Uchel. Sicrhawyd y Pwyllgor bod proses
barhaus a manwl ar waith ar gyfer risgiau ariannol er mwyn sicrhau bod y
risgiau hynny’n cael eu monitro trwy’r amser yn rhan o drafodaethau cyffredinol
am y gyllideb. Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r
Swyddogion am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau. Gofynnodd Aelodau am ragor o
fanylion o ran pam y penderfynwyd fod Risg 21 - y risg na integreiddiwyd iechyd
a gofal Cymdeithasol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Cyngor
ymhellach, a’i fod bellach yn waeth nag mewn fersiynau blaenorol o’r
Gofrestr. Roedd y risg wedi bod ar y
Gofrestr ers nifer o flynyddoedd a gofynnwyd cwestiynau ynghylch oedd y
berthynas rhwng BIPBC a’r Cyngor dan bwysau neu’n ansefydlog. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg fod y berthynas rhwng BIPBC
a’r Cyngor yn un cadarnhaol ac roedd gwaith yn digwydd arni’n gyson. Roedd yna heriau ar adegau yn sgil newidiadau
aml o ran staff, cyfyngiadau'n ymwneud â pholisi a oedd y tu hwnt i reolaeth
BIPBC a’r Cyngor ac ati. Wedi dweud hynny, roedd perthynas CSDd gyda BIPBC yn
bwysig iawn ac ar lefel ymarferwyr roedd yn dda iawn, ac roeddynt yn gweithio’n
effeithiol. Gofynnodd Aelodau a oedd yna
reolau effeithiol ar waith i reoli Risg 31 oedd yn ymwneud â thwyll a llygredd.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor yn hyderus ond ddim yn hunanfodlon, nid
oedd yna unrhyw oddefgarwch tuag at dwyll yn y sefydliad ac roedd yna broses
gadarn ar waith. Roedd gan y Cyngor
Strategaeth Twyll a Llygredd ar waith ac roedd y tîm Archwilio Mewnol yn cynnal
ymarferion rhagweithiol yn lleol a rhanbarthol yn flynyddol, ac roedd y Cyngor
yn cymryd rhan mewn ymarferion gyda’r Fenter Twyll Genedlaethol yn rheolaidd. Gan ymateb i gwestiynau am y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
3.25pm Ar y pwynt hwn cymerodd y Pwyllgor egwyl am ac ailymgynnull am 3.35pm. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYLLID ADDYSG YCHWANEGOL Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant
ar y cyllid addysg ychwanegol i gefnogi lles, presenoldeb, ymddygiad ac i
gefnogi dysgwyr mewn tlodi. 3.15pm
– 3.45pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc
yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn manylu sut y bwriedir gwario’r
£500,000 a drosglwyddwyd i’r Adran Addysg er mwyn datblygu lles, presenoldeb ac
ymddygiad dysgwyr, a chefnogi dysgwyr mewn tlodi. Roedd hyn mewn ymateb i’r
newid y cytunwyd arno yn y Cyngor Llawn ar 20 Chwefror, 2025. Rhoddodd y Pennaeth Addysg ragor o fanylion am gynnwys yr
adroddiad i’r Pwyllgor. Byddai’r cyllid ychwanegol yn ei dro yn ymdrin â nifer o
faterion mae plant yn delio â nhw yn ddyddiol: apathi, digalondid ac yn fwy
pryderus, iechyd meddwl a lles a oedd wedi cynyddu’n sylweddol ers 2018. Roedd
gan y rhan fwyaf os nad pob atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Lles Addysg thema sy’n
ailadrodd o’r materion uchod. Er bod y cyllid ychwanegol ar
gyfer yr Adran Addysg, roedd yr adran bob amser yn gweithio’n agos gydag
ysgolion a thrafodwyd y cyllid hwn gyda grŵp penodol o Benaethiaid. Eu
barn nhw oedd er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr arian ychwanegol, dylai gael
ei fuddsoddi: ·
i gynyddu capasiti cefnogaeth
Gweithwyr Cyswllt Teulu ·
staff ychwanegol i weithio gyda
theuluoedd ·
nid yn unig plant i’r ysgol ond eu
cadw yn yr ysgol. ·
cynyddu capasiti Tîm Lles Addysg ·
cynyddu Swyddogion Ymgysylltu â
Theuluoedd i ddatblygu ymgysylltu â rhieni Byddai canolbwyntio i ddechrau ar
bresenoldeb yn gwella lles y teuluoedd sydd bellaf oddi wrth addysg a
chanolbwyntio ar deuluoedd a allai fod yn byw mewn tlodi. Fe gydnabuwyd na
fyddai’r Adran Addysg yn gallu mynd i’r afael â phob maes yn y flwyddyn gyntaf
ond byddai’n canolbwyntio ar rai penodol. Nod y cynllun gwario arfaethedig
oedd mynd i’r afael â’r argymhellion a godwyd gan Estyn yn ei adroddiad
thematig ym mis Ionawr 2024 ar wella presenoldeb mewn ysgolion. Ei nod hefyd fyddai bodloni anghenion
ysgolion i wella presenoldeb ac yn ei dro, gwella ymddygiad a lles. Cafodd Aelodau eu tywys drwy ddadansoddiad o gostau
(cyfanswm o £500,000) gan adlewyrchu sut byddai’r arian yn cael ei wario ar
Addysg yn Sir Ddinbych a oedd yn cynnwys recriwtio Gweithwyr Cyswllt Teulu a
Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, Seicolegwyr Addysg, Swyddogion Lles a staff
Cefnogi Ymddygiad, yn ogystal â moderneiddio’r system ddadansoddi data. Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad
a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor. Cyfeiriodd yr adroddiad at grŵp ffocws o Benaethiaid
a gofynnwyd am eglurhad pellach ar ba ardaloedd a sectorau o’r sir yr oedden
nhw’n eu cynrychioli. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth y Pwyllgor fod y
grŵp ffocws yn cynnwys Penaethiaid o ledled yr Awdurdod ac o ystod gyfan o
ddarpariaeth addysg oedd yn cael ei ddarparu yn Sir Ddinbych. Roedd cyfarfodydd
hefyd wedi cael eu cynnal gyda’r Prif Seicolegydd Addysg, Arweinydd Cefnogaeth
Addysg, y Swyddog Cynhwysiant, yr Arweinydd Blynyddoedd Cynnar a’r Arweinydd
Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac roedd pob un yn rhan o’r gwaith cynllunio
strategol ar wariant arfaethedig o £500,000 ychwanegol. Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn nodi y byddai cyfanswm o 9 swyddog yn cael eu recriwtio, a gofynnwyd a oeddynt ar gael i gael eu recriwtio yn yr ardal. Dywedodd y Pennaeth Addysg y byddai’r gwaith o recriwtio 9 swyddog yn cynyddu capasiti’r timau sydd eisoes yn eu lle. Roedd recriwtio yn anodd, ond y gobaith yw gan fod y £500,000 yn swm cyson yn y gyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai’r swyddi’n barhaol, a byddai hyn yn apelio at ddarpar ymgeiswyr. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn hyderus na fyddai’r cynigion gyfystyr â’r Gwasanaeth ‘yn lledaenu eu hadnoddau yn rhy wasgaredig’, yr amcan oedd cynyddu capasiti mewn nifer o dimau arbenigol i’w galluogi nhw ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYSYLLTEDD RHYNGRWYD GWAEL YN SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Digidol ar gysylltedd rhyngrwyd gwael yn
Sir Ddinbych. 3.45pm – 4.15pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei gapasiti fel yr Aelod Arweiniol Strategaeth
Ddigidol a Band Eang, cyflwynodd yr Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a
Threftadaeth yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am statws rhyngrwyd
a theleffoni mewn eiddo yn Sir Ddinbych. Roedd gan 83% o eiddo yn Sir Ddinbych
yr offer i allu gosod band eang ffibr. Rhoddodd y Swyddog Digidol ragor o fanylion am gynnwys yr
adroddiad i’r Pwyllgor. Allan o’r 50,725 eiddo yn Sir Ddinbych, mae 2,580 eiddo
yn cael cyflymderau rhyngrwyd o 30Mbs neu lai ac mae 1,074 eiddo yn derbyn
cyflymderau rhyngrwyd o 10Mbs neu lai. Mae Llywodraeth y DU ac Openreach wedi taro bargen i
uwchraddio 3,667 eiddo yn Sir Ddinbych trwy’r cynllun ‘Prosiect Gigabit’. Roedd
yn bwysig nodi nad oedd y rhestr eiddo yn targedu’r eiddo anodd eu cyrraedd yn
benodol sy’n dioddef gyda chyflymder llai na 30mbps. Mae’n bosibl na fydd rhai
eiddo’n cael eu huwchraddio i ffibr llawn nes i’r cynllun ddod i ben ym mis
Medi 2030. Roedd Sir Ddinbych yn gwneud yn dda o’i gymharu ag
Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru mewn perthynas â chysylltedd rhyngrwyd.
Roedd y berthynas rhwng Openreach a’r Swyddog Digidol wedi bod yn hollbwysig i
lwyddiant cysylltedd rhyngrwyd eiddo Sir Ddinbych. Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad.
Gofynnodd Aelodau pa mor debygol oedd hi y byddai llefydd
megis Llangollen a Dyserth yn cyflawni sgôr cynnydd llawer uwch yn y
blynyddoedd i ddod. Fe eglurodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach ar gyfer
Cymru a Gorllewin Lloegr fod yna lawer o waith ar y gweill i’w ddechrau dros y
blynyddoedd i ddod oedd yn cynnwys tîm o 2,000 o beirianwyr. Roedd Llywodraeth
y DU wedi gosod targed ledled y DU o gael 99% o eiddo yn y DU a fyddai’n gallu
cael gafael ar ffibr llawn erbyn 2030, felly byddai targed Cymru a Sir Ddinbych
yn debyg. Yn 2024, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymestyn y cynllun band eang cyflym iawn. Wedi
dweud hynny, byddai pwynt yn cael ei gyrraedd pan fyddai’n afresymol o ran
costau i gyflwyno’r gwasanaeth yma i bob eiddo, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig iawn neu ardaloedd â phoblogaeth wasgaredig. Fe ychwanegodd y Swyddog
Digidol y byddai Llangollen a Dyserth yn cyrraedd 75% o gysylltedd erbyn 2026. Gofynnodd
Aelodau am eglurder ar argaeledd talebau Gigabit yn y dyfodol gan ofyn a oedd
yna unrhyw gynlluniau tebyg wedi’u cynllunio at y dyfodol. Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach
fod y talebau Gigabit wedi’u cyfyngu. Yn sgil Prosiect Gigabit, dywedodd nad
oedd Cynllun Talebau’r DU ar gael ar hyn o bryd, ond fe allai fod ar gael eto
yn y dyfodol. Felly roedd hi’n bwysig cysylltu â chynifer o eiddo â phosibl o
dan y contract presennol. Cadarnhaodd Swyddogion y gallai talebau Allwedd Band Eang
Cymru Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio ar gyfer costau gosod lloeren, ond
roedd costau contract misol ar gyfer y systemau yma weithiau’n ataliol i
ddefnyddwyr. Gofynnodd Aelodau am sicrwydd dyfodol swydd y Swyddog
Digidol. Dywedodd y Prif Reolwr Ieuenctid a Chydnerthedd Cymunedol bod y swydd
Swyddog Digidol wedi cael ei hariannu’n gorfforaethol ers 2020. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf,
cafodd y swydd ei hariannu’n rhannol gan Gronfa’r Ffyniant Gyffredin gan
alluogi i’r swydd gael ei hymestyn yn sgil y cyllid. Gan symud ymlaen, y
gobaith yw y bydd cyllid grant allanol yn cael ei ganfod er mwyn sicrhau y
gallai’r swydd barhau. Gofynnodd Aelodau pan fydd yr adroddiad yn dod gerbron y Pwyllgor Craffu Perfformiad nesaf, a oedd modd darparu data cysylltedd ar y nifer o eiddo preswyl a busnesau ar wahân. Fe eglurodd y Swyddog Digidol bod ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r aelodau am faterion perthnasol. 4.15pm
– 4.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Aelodau yn gofyn iddynt drafod y rhaglen waith
ar gyfer y Pwyllgor. Roedd eitem ar y rhaglen ar Wasanaethau Llyfrgell a
Darpariaeth Siop Un Alwad wedi’i drefnu i fod gerbron y Pwyllgor yng nghyfarfod
mis Mehefin. Gan ymateb i gais gan yr Aelod Arweiniol, rhoddodd yr Is-gadeirydd
ganiatâd i ohirio’r cyflwyniad tan gyfarfod 17 Gorffennaf. Roedd Rhaglen Waith y Pwyllgor ynghlwm yn Atodiad 1.
Roedd y cyfarfod nesaf ar 12 Mehefin 2025 ac roedd dwy eitem wedi’u trefnu ar
gyfer y cyfarfod: ·
Hunanasesiad y Cyngor
o’i Berfformiad 2024 i 2025 ·
System Meddalwedd
Cynllunio Roedd Rhaglen Waith y Cabinet
ynghlwm yn Atodiad 3 er gwybodaeth ac roedd Atodiad 4 yn cynnwys gwybodaeth am
gynnydd penderfyniadau’r Pwyllgor. Roedd y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC) wedi cyfarfod ar 28 Ebrill. Nid oedd yna
eitemau wedi’u gohirio i’r Pwyllgor. Serch hynny, roedd GCIGC wedi cytuno i
drosglwyddo eitem hanesyddol, a restrwyd o dan ‘Materion at y Dyfodol’ ar
Raglen Waith y Pwyllgor ar ‘Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ailgydbwyso yr
Agenda Gofal Cymdeithasol yn ardal Dinbych’, i Bwyllgor Craffu Partneriaethau gan
y teimlwyd ei fod yn cyd-fynd yn well gyda chylch gwaith y Pwyllgor hwnnw. Cafodd Aelodau eu hannog i
gyflwyno Ffurflen Cynnig Aelodau os oedd ganddynt eitem yr hoffent iddi gael ei
hystyried yng nghyfarfod GCIGC ar 30 Mehefin 2025. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar yr
uchod, cadarnhau Rhaglen Waith y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Is-gadeirydd wrth yr Aelodau y byddai’n cael
ei gyfweld gan Estyn yn nes ymlaen yn yr wythnos ar faterion oedd yn ymwneud â
Chraffu ar Addysg. Roedd Estyn yn
cyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yn flynyddol i drafod gwaith
Craffu mewn cysylltiad ag archwilio’r gwaith o gyflawni Gwasanaethau
Addysgiadol yn Sir Ddinbych. Daeth y cyfarfod i ben am 4.45pm
|