Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Bobby Feeley a Diane King, yn ogystal â’r Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, a’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant.

 

 

 

2.

CYSYLLTIADAU PERSONOL pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r aelodau canlynol ddatgan cysylltiad personol yn eitem busnes 6, ‘Arolwg Estyn 2018’, yn eu swyddogaeth fel llywodraethwyr ysgol.

 

Y Cynghorydd Ellie Chard         Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa

Y Cynghorydd Martyn Hogg      Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy

Y Cynghorydd Carol Holliday     Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Alan Hughes      Llywodraethwr yn Ysgol Caer Drewyn

Y Cynghorydd Paul Keddie        Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Collen

Y Cynghorydd Gareth Sandilands            Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa

 

Bu i’r Cynghorydd Martyn Hogg hefyd ddatgan cysylltiad personol yn eitem busnes 8, ‘Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol Drafft Diwygiedig Sir Ddinbych 2021/22 – 2029/30’ yn ei swyddogaeth fel aelod o’r ‘Gweithgor Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol’.

 

Bu i’r Swyddog Monitro egluro fod angen i aelodau ddatgan eu swyddogaethau fel llywodraethwyr ysgol o dan y Cod Ymddygiad, ond nid oedd angen datgan aelodaeth o fyrddau neu grwpiau mewnol y Cyngor.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/25 (copi o Swydd Ddisgrifia)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2024/25.  Enwebodd y Cynghorydd Ellie Chard y Cynghorydd Gareth Sandilands ar gyfer rôl Is-Gadeirydd, eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday yr enwebiad.   Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly:

 

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Gareth Sandilands yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer blwyddyn gyngor 2024/25.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sandilands i aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth ac am ymddiried ynddo i fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor am dymor arall.

 

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 487 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024.  

 

Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd y Cydlynydd Craffu:

 

Tudalen 10, ‘Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf’: roedd copi o’r llythyr yn ymwneud ag ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ at Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth y diwrnod blaenorol.  Bu i’r Pennaeth Addysg gadarnhau fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cael y llythyr a dywedwyd y byddai ei gynnwys yn cael ei fwydo i ddarn o waith a wneir ar hyn o bryd mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref a phlant yn colli cyfleoedd addysgol.   Byddai canlyniad y gwaith hwnnw yn cael ei adrodd yn ôl i aelodau maes o law.

 

Tudalen 12, ‘Cysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych’: byddai cynaliadwyedd  swydd Swyddog Digidol y Cyngor yn y dyfodol yn ffurfio rhan o’r broses gosod cyllideb 2025/26.

 

 

 

6.

ADRODDIAD AROLWG ESTYN 2018 pdf eicon PDF 307 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â’r argymhellion yn adroddiad arolwg Estyn 2018 o wasanaethau addysg Cyngor Sir Ddinbych.

 

10.15am – 10.45am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc bu i’r Pennaeth Addysg gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y camau a gymerwyd yn dilyn Arolwg Estyn yn 2018.  Eglurodd, yn ddelfrydol, y byddai’r Gwasanaeth wedi cyflwyno’r math hwn o adroddiad terfynu yn gynharach, fodd bynnag roedd cadarnhau’r camau i ymdrin ag argymhellion yr adroddiad wedi ei oedi ac roedd angen ei addasu oherwydd y pwysau yn dilyn y pandemig. Cafodd yr arolwg arbennig hwn adroddiad arolwg cadarnhaol iawn ac roedd tri maes allweddol yr oedd Estyn wedi canolbwyntio arnynt yn 2018; Deilliannau, Ansawdd Gwasanaethau Addysg ac Arweinyddiaeth a Rheoli.

 

Yr argymhellion o’r arolwg oedd gostwng yr amrywiaeth mewn deilliannau mewn ysgolion uwchradd, ac yn ail sicrhau fod y gwerthusiad o wasanaethau i ddisgyblion a addysgir y tu allan i’r sir ac mewn lleoliadau adnoddau yn canolbwyntio’n glir ar fesur deilliannau roedd plant a phobl ifanc wedi eu cyflawni trwy’r gwasanaethu hynny. 

 

Bu i’r Pennaeth Gwasanaeth egluro o dan argymhelliad un, i ostwng yr amrywiaeth mewn deilliannau, bod cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru na ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion gyhoeddi data cymharol yn dangos perfformiad blwyddyn i flwyddyn, ysgol yn erbyn ysgol, gan fod bob ysgol yn wahanol, yn ei gwneud yn fwy anodd dangos sut mae amrywiaethau rhwng ysgolion wedi gostwng.

 

Roedd yr ysgolion ac awdurdodau lleol yn parhau i gadw’r data ond nid oeddent yn cael ei gyhoeddi. Gall y cyhoedd weld y data trwy ddefnyddio gwefan Fy Ysgol Leol LlC. Dylid defnyddio’r data i yrru penderfyniadau ar gyfer gwelliant ym mhob ysgol.

 

Roedd y gwasanaeth yn bwriadu dod ag adroddiad i’r Pwyllgor i nodi sut roedd ysgolion Sir Ddinbych yn perfformio yn erbyn targedau perfformiad cenedlaethol, a fyddai’n edrych ar y deilliannau yn Sir Ddinbych yn erbyn deilliannau’n genedlaethol, nid dim ond yn erbyn ysgolion yn Sir Ddinbych.

 

O dan argymhelliad dau dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth, mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir, fod llawer o gamau wedi eu cymryd i ymdrin â’r agwedd hon, gan gynnwys panel a fu’n cwrdd bob pythefnos i drafod cynnydd dysgwyr unigol, ymweliadau rheolaidd gan swyddogion y Gwasanaeth ag ysgolion, a ble’n briodol cydweithio rhwng gofal cymdeithasol ac addysg yn ogystal â staff y Gwasanaeth Iechyd gyda’r bwriad o fonitro, cefnogi a sicrhau gwelliant parhaus yng nghyrhaeddiad y disgybl.  Yn dilyn yr arolwg, roedd y Gwasanaeth yn hyderus fod ganddo afael cadarn ar bob lleoliad tu allan i’r sir.

 

Yna agorodd y Cadeirydd y drafodaeth ar gyfer unrhyw gwestiynau.  Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth:

 

  • mai’r cyngor a roddwyd i deuluoedd sy’n symud i’r ardal o ran sut i benderfynu pa ysgol fyddai’r un fwyaf priodol ar gyfer eu plentyn oedd defnyddio’r data sydd ar gael ar wefan Fy Ysgol Leol ar gyfer bob ysgol a ystyrir ar gyfer eu plentyn ac yna i ymweld â’r ysgol(ion) a chwrdd â’r Pennaeth. 
  • roedd y setiau data ar gyfer ysgolion fel arfer yn cael eu diweddaru yn flynyddol tra bod data presenoldeb yn cael ei ddiweddaru’n fisol
  • er y bu nifer o newidiadau mewn staff yn y Gwasanaeth ers yr arolwg, roedd addysg a’r byd yn gyffredinol hefyd wedi newid yn ddramatig ers y pandemig, gyda bob gwasanaeth nawr yn ceisio bodloni gofynion cynyddol gydag adnoddau ariannol cyfyngedig.  Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth wedi datblygu perthnasoedd rhagorol gyda phenaethiaid ac yn deall y blaenoriaethau roeddent yn canolbwyntio arnynt.  Cynhaliwyd sesiynau briffio agored wythnosol gydag ysgolion ble roedd pawb yn cael eu hannog i rannu unrhyw bryderon neu ymholiadau gyda’r Gwasanaeth gyda’r gobaith o geisio datrysiadau neu atebion. Roedd hefyd angen i’r Gwasanaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DIWEDDARIAD AR STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 - 2027/28 AC ADOLYGIAD O GADERNID A CHYNALIADWYEDD ARIANNOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) sy’n ceisio adborth y Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 i 2027/28, yn ogystal ag asesiad yr Awdurdod o’i gadernid a’i gynaliadwyedd ariannol.

10.45am – 11.30am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau a Phennaeth Cyllid ac Archwilio gyflwyno’r adroddiad Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Bu iddynt ddweud wrth aelodau y byddai gan y Pwyllgor swyddogaeth allweddol wrth symud ymlaen ym mhrosesau monitro’r gyllideb a strategaeth/cynllun ariannol tymor canolig a byddai eu safbwyntiau’n cael eu cyflwyno i’r Cabinet.   Bu i’r Aelod Arweiniol roi trosolwg o beth roedd bob atodiad yn ei gyflwyno a gwahoddwyd cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i’r cwestiynau a godwyd dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio:

 

·   mewn perthynas â pha mor gyfredol oedd y data ac a oedd data amser real ar gael i aelodau etholedig - byddai sefydlu’r system rheoli cyllid T1 newydd yn flaenoriaeth dros yr haf er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithlon ac yn effeithiol.  Roedd yr adran gyllid yn edrych ar y mantolenni yn barhaus. Byddai diweddariad pellach ar yr arbedion a wnaed hyd yma i gyfarfod Cabinet mis Gorffennaf. Yn anffodus, byddai rhywfaint o oedi mewn data bob amser oherwydd yr amser sydd ei angen i baratoi adroddiadau cyn dyddiadau cau cyhoeddi.

·   er bod ffigyrau gwario ac arbedion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi eu cynnwys gyda’i gilydd, oherwydd eu bod o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth, roedd gan y Gwasanaeth Cyllid ffigyrau unigol ar gyfer y meysydd gwasanaeth ar wahân a ellir eu rhannu gydag aelodau. Byddai ffigwr maes gwasanaeth unigol yn cael ei rannu yn ystod y gweithdai sydd i ddod.  Pwysleisiwyd mai Gofal Cymdeithasol i Oedolion oedd maes gwariant mwyaf y Cyngor gan ei fod yn seiliedig ar alw ac roedd gan yr ardal broffil mawr o ran demograffeg pobl hŷn, roedd pobl yn byw’n hirach ac felly roedd y galw ar y gwasanaeth wedi cynyddu.

·   mewn perthynas â nifer y fforymau oedd yn trafod cynnwys yr adroddiad penodol hwn, roedd hwn yn adroddiad arwyddocaol a oedd yn cynnwys manylion y prif rwystr i’r Cyngor wrth ddarparu ei wasanaethau a chyflawni ei ddyheadau ar gyfer y dyfodol.  Felly roedd yn allweddol fod holl brif bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau a grwpiau gweithredol y Cyngor yn ei weld ac yn rhan o’i graffu.  I ddechrau cyflwynwyd yr adroddiad i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yna’r Cabinet cyn i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.  Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ran i’w chwarae wrth sicrhau fod gan y Cyngor broses ddigonol o ran gosod cyllideb, tra bod swyddogaeth y Pwyllgor Craffu Perfformiad yn canolbwyntio ar fonitro’r gyllideb ac arbedion, adnabod llithriadau yn gynnar er mwyn ffurfio argymhellion gyda’r bwriad o ymdrin â’r llithriadau hynny.  Gan fod gan bob pwyllgor/grŵp swyddogaeth wahanol i’w chyflawni mewn perthynas â’r MTFS a MTFP nid oedd cyflwyno i bob un yn golygu dyblygu gwaith

·   bod trefniadau ar waith i gynnal cyfarfod gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i’w diweddaru ar sefyllfa’r gyllideb. 

·   o ran cynlluniau gadael gwirfoddol staff a’u heffaith ar ddarparu gwasanaeth, roedd rheoli swyddi gwag dal yn weithredol.  O dan y polisi rheoli swyddi gwag roedd unrhyw geisiadau gan reolwyr/penaethiaid gwasanaeth i recriwtio staff yn cael eu cyflwyno i’r Tîm Gweithredol Corfforaethol am gymeradwyaeth cyn hysbysebu’r swyddi.  Bu i aelodau nodi pryderon ynghylch a oedd y cynlluniau hyn wedi annog swyddogion eraill i adael cyflogaeth yr Awdurdod ochr yn ochr ond nid trwy’r cynlluniau hyn, gan eu bod yn teimlo fod nifer o swyddogion adnabyddus yng Nghyngor Sir Ddinbych yn gadael yn y dyfodol agos a fyddai’n golygu colli llawer o wybodaeth a phrofiad.  Roedd aelodau yn bryderus fod y nifer uchel o staff profiadol yn gadael am amrywiaeth o resymau yn ganlyniad negyddol anfwriadol y cynlluniau gadael  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

STRATEGAETH DDIWYGIEDIG DDRAFFT SIR DDINBYCH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL 2021/22 - 2029/30 pdf eicon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn.

 

11.45am – 12.15pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant bu i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau, a’r Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd gyflwyno’r adroddiad a’r strategaeth ddrafft a adolygwyd (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd angen adolygu’r Strategaeth bob tair blynedd, a dyma’r adolygiad cyntaf. Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau cychwynnol yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft, tra bod Atodiad 3 yn rhestru’r diwygiadau arfaethedig a fyddai’n cael eu gwneud i’r strategaeth yn dilyn yr ymgynghoriad. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth weithredu a chyflwyno’r Strategaeth, ond oherwydd cyflymder newid a phwysau cyllidebol ni allant warantu y byddai’r Awdurdod yn cyflawni ei brif uchelgais erbyn 2030.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth a Rheolwr Prosiect Newid Hinsawdd: 

 

  • Roedd gan y Cyngor 85 o Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (CT), roedd gan y rhan fwyaf 2 soced. Roedd 45 o’r pwyntiau rhain ger adeiladau’r Cyngor, 40 ar gael i’r cyhoedd mewn meysydd parcio sy’n berchen i’r Cyngor (18 ym maes parcio West Kimmel Street yn y Rhyl). Roedd 12 pwynt yn cael eu comisiynu ar hyn o bryd. Mae lleoliad y pwyntiau gwefru CT agosaf i’w gweld ar-lein.
  • nid yw’r Cyngor yn darparu pwyntiau gwefru ar hyn o bryd yn ei stoc dai, yn bennaf gan nad oes gan y mwyafrif ddreifiau. Pan fo ganddynt ddreifiau, roedd rhai tenantiaid wedi gwneud eu trefniadau eu hunain i osod pwyntiau gwefru CT.  Fodd bynnag, byddai’r Cyngor yn parhau i edrych ar drefniadau cyllido ar gyfer gosod mwy o bwyntiau CT ar dir sy’n berchen i’r Cyngor a stoc dai’r Cyngor yn y dyfodol.    
  • yr incwm a gynhyrchir o ddefnyddio pwyntiau gwefru CT wedi ei fuddsoddi mewn cynnal y systemau.  Er nad oedd y Cyngor yn gwneud colled trwy osod y pwyntiau hyn ni cheir gwneud elw o’r gwasanaeth.
  • Byddant yn fodlon trafod gyda chynghorwyr unigol y tu allan i’r cyfarfod ynglŷn ag amrywiol gyfleoedd grant a allai fod ar gael i’r cyhoedd neu sefydliadau lleol i ymgeisio er mwyn gosod pwyntiau gwefru CT a mesurau arbed ynni eraill etc. yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.  Roedd gan y tîm hanes da o sicrhau cyllid allanol a byddent yn parhau i wneud hynny ar gyfer ardaloedd sy’n flaenoriaeth o fewn y Strategaeth.
  • Nid oes angen i’r Cyngor gyflawni popeth sydd yn y Strategaeth ei hun, mae’n golygu defnyddio ein dylanwad i bartneriaid a’r cyhoedd gyfrannu hefyd. Hefyd yn ymwneud â blaenoriaethu ein hymdrechion a’n gweithredoedd.  Roedd Swyddogion yn gobeithio cael prosiectau’n barod pan fydd arian grant ar gael.
  • nid oedd gan yr adolygiad ei hun oblygiadau cost gan mai amser staff oedd y costau.   Roedd rhywfaint o arian wedi ei wario ar hwylusydd annibynnol ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus allanol.
  • er mwyn cyflawni sero net erbyn 2030, amcangyfrifir fod goblygiadau ariannol, o leiaf £48 miliwn dros y 6 mlynedd, a gellir ariannu llawer ohono trwy grantiau allanol.
  • fforddiadwyedd oedd y prif risg oedd yn gysylltiedig â’r Strategaeth, yna adnoddau swyddogion.   Roedd swyddogion nawr yn blaenoriaethu prosiectau ble roeddent yn debygol o allu cael arian allanol ar gyfer prosiectau a fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

 

Awgrymodd yr aelodau y gall fod yn arfer da yn y dyfodol i ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd nodi’r angen i osod pwyntiau gwefru CT fel rhan o’r meini prawf cynllunio yn ystod y broses caniatâd cynllunio.   Bu i aelodau drafod y posibilrwydd o ddefnyddio’r system rheolaeth ariannol newydd ar gyfer olrhain data allyriadau carbon ar gyfer y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr adborth a’r sylwadau uchod, i gydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD HUNAN-ASESU PERFFORMIAD Y CYNGOR 2023/24 pdf eicon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol sy’n dadansoddi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol ac amcanion Cydraddoldeb Strategol a cheisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd hyd yn hyn.

 

12.15pm – 12.45pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol gyflwyno’r adroddiad ac atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan nodi fod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol, ac ers iddo gael ei gymeradwyo roedd hi hyd yn oed yn fwy heriol ei gyflawni o ystyried yr hinsawdd ariannol cyfredol sy’n wynebu awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus.  

 

Bu i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau, roi trosolwg o’r cynnydd a wnaed, ac amlinellu’r heriau yn erbyn themâu’r Cynllun Corfforaethol. Dywedodd ei bod yn ddogfen fyw, pan fo gan eitemau statws coch, roeddent dal i gael sylw, nid oedd yn golygu eu bod wedi eu hoedi, mewn rhai achosion gall cynnydd fod yn arafach i rai meysydd oherwydd pwysau cyllidebol. Hefyd ynghlwm fel atodiad i’r adroddiad oedd y cwmpas drafft ar gyfer Asesu Perfformiad Panel i gael sylwadau aelodau.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a swyddogion eraill:

 

·       bod y ‘statws deall trawma’ yn cyfeirio at Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n deall trawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posib i’r rhai sydd fwyaf o’i angen. Roedd yn ymwneud â sut roedd ysgolion ac unigolion ynddynt yn cymryd ystyriaeth o drallod a thrawma, adnabod a chefnogi cryfderau’r unigolyn i oresgyn y profiadau hyn yn eu bywydau a gosod y gefnogaeth a gallant ei disgwyl gan sefydliadau, sectorau a systemau y gallant fynd atynt am gymorth. Roedd yn cynnwys hyfforddiant a oedd yn eithaf dwys ac yn ddibynnol ar arian grant. Roedd un ysgol yn Sir Ddinbych wedi cael y statws hyd yma ac roedd dwy ysgol arall yn rhannol trwy’r broses. Ym Mehefin 2023, cynhaliwyd hyfforddiant deuddydd uwch arweinyddiaeth ysgol; roedd 87 o uwch arweinwyr wedi eu hyfforddi rhwng Mehefin a Thachwedd 2023.  Roedd gan y sir hefyd 86 o staff ysgolion a sirol a oedd wedi cwblhau’r diploma fel Ymarferwyr sy’n Deall Trawma. Roedd y Cyngor yn aros am gadarnhad ynghylch cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth deall trawma cyffredinol am ddim.

·     roedd y prif feysydd o orwariant, a oedd yn cyfrannu at amrywiolyn cyllideb Corfforaethol a Gwasanaeth o £2,780,000 ar ddiwedd Mawrth 2024, yn parhau i fod yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant, Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn amlinellu’r camau a gymerwyd yn y misoedd diwethaf i gyflawni cyllideb gytbwys h.y. cynlluniau gadael gwirfoddol, cynlluniau arbedion i staff, y pecyn o gynigion arbedion a gymeradwywyd yn gynharach yn y flwyddyn, gweithredu rheolaethau gwario (gan gynnwys rheoli swyddi gwag).  Roedd yn bwysig cofio fod y gyllideb yn cael ei gweld fel proses sy’n esblygu yn hytrach nag un digwyddiad yn Ionawr bob blwyddyn. Bydd ymgysylltiad sylweddol ar y gyllideb a phwysau ariannol ar draws y Cyngor, gydag aelodau a gyda chymunedau yn parhau.

·     Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r polisi gweithio’n hyblyg, sy’n golygu fod rhai swyddogion yn gweithio o gartref am rywfaint o’u hamser ac o adeiladau’r Cyngor pan fo gwaith y Cyngor yn gofyn am hynny.  Roedd y polisi hwn yn galluogi staff i gael cydbwysedd gwaith/bywyd, gyda buddiannau’r busnes yn flaenllaw.  Bu iddo arbed arian i’r Cyngor a rhyddhau swyddfeydd, bu iddo hefyd ostwng amser a dreulir yn teithio i gyfarfodydd a rhwng gwahanol leoliadau a helpu i ostwng allyriadau carbon. Nid oedd unrhyw gynlluniau i adolygu’r polisi ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes wrth yr aelodau os nad oedd swyddog yn ymateb i gynghorwyr mewn modd amserol, dylent ei godi gyda Phennaeth Gwasanaeth y swyddog, gan na ddylai gweithio o gartref achosi oedi wrth ymateb.  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12.45pm – 1pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.

 

Dywedodd y cafwyd cais i ail-drefnu cyflwyno Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes o Orffennaf 2024 i’r un yn Ionawr 2025.  Y rheswm dros y cais oedd bod y Cyngor wedi penodi ymgynghorwyr i ddatblygu’r Strategaeth ac felly ni fyddai’r ddogfen ddrafft ar gael ar gyfer craffu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn galendr. 

 

Oherwydd pwysau ar raglen waith y Pwyllgor, a gyda’r bwriad o sicrhau rhaglenni busnes cytbwys a digon o amser i edrych ar bob eitem, cytunodd y Pwyllgor i’r newidiadau canlynol i’w rhaglen waith, y byddai cyflwyno’r:

 

·       Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes yn cael ei aildrefnu o Orffennaf 2024 i Ionawr 2025

·       Adroddiad ar Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu i’w ail-drefnu o Fedi 2024 i Dachwedd 2024

·       Canfyddiadau cychwynnol y Gweithgor sy’n edrych ar ddarpariaeth y Gwasanaeth Llyfrgell/Siop Un Alwad yn cael ei ail-drefnu o Dachwedd 2024 i Ionawr 2025

Yn ystod y cyfarfod cytunodd y Pwyllgor i fonitro cyflwyniad Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn flynyddol, gan ddechrau yn hydref 2025. 

 

Atgoffwyd aelodau i gwblhau ‘Ffurflen Cynnig Aelod’ (Atodiad 2 i’r adroddiad) os oedd pwnc neu faes gwaith a oedd yn eu barn nhw’n haeddu cael eu harchwilio gan y Pwyllgor Craffu.  Byddai’r holl ffurflenni a lenwyd yn cael eu hystyried gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a fydd yn penderfynu a yw’r pynciau a gyflwynwyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Craffu. 

 

Yng nghyfarfod mis Mai y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion cytunwyd y dylai Craffu Perfformiad fod yn rhan o osod cyllideb a phroses fonitro Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig, a dyma’r rheswm dros ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod cyfredol.  Byddai adroddiadau tebyg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor, un ai fel eitemau rhaglen neu fel adroddiadau gwybodaeth, ar gyfnodau rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. 

 

Hefyd, roedd y GCIGC wedi ystyried cysylltiad Craffu â Rhaglen Drawsnewid y Cyngor a phenderfynwyd dyrannu un o themâu’r Rhaglen Drawsnewid i bob un o’r Pwyllgorau Craffu eu harchwilio, pan fyddant wedi eu datblygu’n ddigonol.  Byddai’r themâu yn cael eu dyrannu fel a ganlyn:

 

·       Masnacheiddio a Menter - Pwyllgor Craffu Cymunedau

·       Cydweithio a Phartneriaeth - Pwyllgor Craffu Partneriaethau

·       Dylanwadu ar Alw a Digidol - Pwyllgor Craffu Perfformiad

Serch hynny, roedd gan strwythur craffu thematig y Cyngor ddigon o hyblygrwydd i alluogi unrhyw un o’r Pwyllgorau i edrych ar faterion yn ymwneud ag unrhyw un o’r themâu uchod os nad oedd y pwyllgor ‘dynodedig’ yn gallu gwneud hynny pan fo angen. 

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar gynnwys yr uchod a’r newidiadau uchod, cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm.