Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Diane King ac Andrea Tomlin. Rhoddodd y Cydlynydd Craffu wybod i’r Pwyllgor fod Arweinydd y Grŵp Annibynnol wedi rhoi’r gorau i’w rôl ar y Pwyllgor a’i fod wedi penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley i wasanaethu yn ei le fel un o gynrychiolwyr y Grŵp |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad personol oedd yn peri rhagfarn.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda'r Cadeirydd
na’r Cydlynydd Craffu cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 338 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 (copi’n
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023.
Materion yn codi: Eitem 5, ‘Diweddariad ar Adroddiad Arolwg Ysgol Gatholig
Crist y Gair’ – cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai adroddiad cynnydd yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2024 ar gyfer craffu pellach.
Pwysleisiodd yr Is-Gadeirydd ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad
archwilio a monitro materion sy’n ymwneud ag addysg ar draws y Cyngor, yn
enwedig darpariaeth yr awdurdod addysg lleol o ran gwasanaethau a chefnogaeth i
ysgolion. Eitem 8, ‘Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai a
Digartrefedd Sir Ddinbych’ – hysbyswyd yr aelodau y byddai rhagor o waith
craffu’n cael ei wneud ar gyflawniad y cynllun gweithredu ym mis Tachwedd 2024.
Penderfynwyd: cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar
28 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. |
|
ADRODDIAD AR Y GOFRESTR RISGIAU CORFFORAETHOL PDF 213 KB Ystyried adroddiad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol gan y Swyddog
Cynllunio Strategol a Pherfformiad sy’n adolygu’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor
a datganiad parodrwydd y Cyngor i dderbyn risg (copi’n amgaeedig). 10.10am – 11am EGWYL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), gan
atgoffa’r aelodau mai pwrpas y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol oedd nodi’r
digwyddiadau posibl yn y dyfodol a allai gael effaith niweidiol ar allu’r
Cyngor i gyflawni ei amcanion a Chynllun Corfforaethol 2022 – 2027. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau wrth yr Aelodau fod yr adroddiad diweddaru ar y
Gofrestr Risgiau Gorfforaethol wedi’i lunio yn dilyn adolygiad ym mis Medi, a
bod nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud. Roedd yr atodiadau yn yr
adroddiadau yn amlygu: 1.
Atodiad 1 – crynodeb o’r newidiadau sylweddol. 2.
Atodiad 2 - tabl a dadansoddiad o dueddiadau’r
Risgiau Corfforaethol. 3.
Atodiad 3 – gwybodaeth fanwl am y 13 o Risgiau
Corfforaethol. 4.
Atodiad 4 – nodyn atgoffa o’r Datganiad Parodrwydd
i Dderbyn Risg - cytunwyd ym mis Tachwedd 2022 i’w adolygu ym mis Chwefror
2024. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ddefnyddio atodiadau 2 a 3 ar
gyfer nodi meysydd i graffu ymhellach arnynt er mwyn llywio eu cynllun gwaith
i’r dyfodol. Eglurodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad y bu’r adolygiad yn un cynhwysfawr er mwyn adlewyrchu’r newid o
ran strwythur ac amgylchiadau’r Cyngor. Bu’n gyfle hefyd i uno a dad-ddwysau
rhai risgiau. Yn yr adolygiad diwethaf ym mis Chwefror 2023, roedd yna
20 o Risgiau Corfforaethol. O’r risgiau hynny, roedd 9 ohonynt wedi cael eu
cyfuno/ dad-ddwysau i lefel gwasanaeth (cyfeirir at hyn ym mharagraff 4.5 yn yr
adroddiad). Fe ychwanegwyd dwy risg newydd at y Gofrestr – 51 a 52 – er mwyn
adlewyrchu sefyllfa ariannol yr Awdurdod, gan arwain at gyfanswm o 13 o risgiau
a nodwyd. Nid oedd saith o’r risgiau
hynny yn gyson â’r Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg h.y. yn ddigon difrifol
i fod ar y Gofrestr. Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y
Swyddogion: ·
Bu’r Tîm Cynllunio Strategol yn ymgysylltu â
swyddogion y Tîm Gweithredol Corfforaethol a’r timau rheoli gwasanaeth er mwyn
mynd i’r afael â materion rheoli perfformiad a risg. ·
Roedd mwy o risg o ran gallu oherwydd y pwysau
cyllidebol, ac roedd hynny’n risg gyffredin ar draws pob gwasanaeth. ·
Roedd y Tîm Cynllunio Strategol hefyd yn cefnogi proses
y gyllideb trwy gasglu gwybodaeth ynghylch effaith toriadau yn y gyllideb ar
lesiant cenedlaethau’r dyfodol trwy ganolbwyntio ar garfannau allweddol mewn
cymunedau a nodau lles yn yr Asesiad o’r Effaith ar Les. ·
Roedd proses y gyllideb yn un gynhwysfawr ac ar y
gweill, gan weithio trwy weithdai ar gyfer cynigion i ymdrin ag arbedion mawr.
Yn ogystal, roedd y cynigion yn cael eu dosbarthu i’r Aelodau ac roedd cyfarfod
Teams yn cael ei drefnu ar gyfer eu hystyried. Er yr arferai’r Gyllideb fod yn
‘ddigwyddiad’ blynyddol, bydd yn broses barhaus wrth symud ymlaen. ·
Roedd y papur Cyfeiriad Strategol, a rannwyd yn
flaenorol â’r Aelodau, yn nodi ei fod yn anelu i fod yn Gyngor sy’n trawsnewid
beth/ sut mae’n gweithio, yn hytrach na rhoi’r gorau i wasanaethau yn raddol. ·
Roedd gwybodaeth am y cynigion wedi’i dosbarthu i’r
Aelodau (gweithdai a chyfarfodydd Teams ar gyfer sesiynau holi ac ateb gyda’r
Pennaeth Gwasanaeth). Roedd cyfle i’r Aelodau godi pryderon ynghylch unrhyw
gynigion yn y cyfarfodydd briffio hynny.
·
Yna, roedd rhaid i bob cynnig fynd trwy’r broses
ddemocrataidd agored a thryloyw ar gyfer gwneud penderfyniadau e.e. y Cabinet. Os
nad oedd yr Aelodau’n hapus â’r penderfyniad a wnaed, roedd cyfle iddynt alw’r
penderfyniad i mewn i graffu arno. · Roedd y gyfraith yn sicrhau bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Awdurdodau Lleol yn cael eu rhannu’n swyddogaethau gweithredol (trwy’r Cabinet, penderfyniad dirprwyedig yr Aelod Arweiniol neu benderfyniad dirprwyedig y Swyddog Arweiniol) ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn, cymerodd y pwyllgor egwyl o 15 munud. Dogfennau ychwanegol: |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD PDF 218 KB Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei
swyddogaethau, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb
Strategol gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi’n amgaeedig). 11.15am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol a Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau yr adroddiad
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am
berfformiad y Cyngor yn erbyn y Cynllun Corfforaethol hyd at ddiwedd chwarter
2, Medi 2023. Roedd newidiadau o ran cyflwyniad yr Adroddiad Diweddaru
Perfformiad o gymharu â chwarter 1, a amlygwyd o dan adran 4.4 yn yr adroddiad,
er mwyn ei gwneud yn haws nodi llwyddiannau corfforaethol a meysydd ar gyfer
gwella. Roedd y Cabinet wedi ystyried yr Adroddiad Diweddaru
Perfformiad yr wythnos gynt, gan nodi dau faes perfformiad ar gyfer gwella, a
ychwanegwyd at adroddiad chwarter 2: ·
Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai – rhoi diweddariad
ar berfformiad yn erbyn y dangosydd yn ymwneud â chanran y ffyrdd a phalmentydd
wedi’u difrodi a wnaed yn ddiogel o fewn yr amser targed. ·
Bod y Sefydliad yn rhoi trosolwg o’r cynnig
diwylliannol a ddarperir ar draws gwasanaethau’r Cyngor fel rhan o’r cynllun i
ddatblygu’r gwaith o gyflwyno’r Strategaeth Ddiwylliannol a sut y byddai
hynny’n gysylltiedig â lles personol ac economaidd. Rhagwelwyd y byddai cynnal perfformiad yn dueddol o fod
yn heriol wrth symud ymlaen, o ystyried y pwysau ariannol a’r gostyngiadau
anochel i wasanaethau yn sgil hynny. Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a
Pherfformiad drosolwg o’r adroddiad, gan egluro mai’r amcan oedd nodi
statws y mesuryddion perfformiad ar gyfer pob prosiect, gweithgaredd a naw
thema’r Cynllun Corfforaethol. Ar y cyfan, roedd y sgoriau perfformiad ar gyfer: ·
Mesuryddion – oren (derbyniol) a ·
Phrosiectau – melyn (profi rhwystrau) ar wahân i’r
thema Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal oedd â sgôr coch (blaenoriaeth ar
gyfer gwella) oherwydd y problemau parhaus o ran tlodi a diweithdra. Wrth grynhoi statws y gwahanol Themâu Corfforaethol, dywedodd
y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad: Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sydd yn bodloni anghenion
pobl - ·
Roedd ymyriad newydd ‘Fy Nghartref Sir Ddinbych’
wedi arwain at lai o unigolion yn datgan eu bod yn ddigartref. Roedd llai o
bobl ar y rhestr aros Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD), ond roedd y niferoedd
yn parhau’n uwch na’r hyn roedd yr Awdurdod yn dymuno ei weld ar y rhestr. ·
Bu i bwysau ariannol a diffyg capasiti brofi’n heriol
o ran prosiectau effeithlonrwydd ynni cartrefi’r Cyngor er mwyn paratoi ar
gyfer Safonau Ansawdd Tai newydd Cymru. Sir Ddinbych ffyniannus - ·
Mae rhai heriau o ran prosiectau mwy yn Ninbych a’r
Rhyl yn parhau, oherwydd oedi a phrinder cyllid. Rhagwelwyd y byddai’r
cyhoeddiad diweddar o ddyraniad Ffyniant Bro 3 yn mynd i’r afael â’r problemau
hyn. ·
Gwelwyd cynnydd o ran twristiaeth a gwariant
cysylltiedig. ·
Roedd cyflogau a swyddi yn parhau’n flaenoriaeth ar
gyfer gwella. Cafodd strategaeth economaidd ei llunio, gan ddefnyddio gallu ac
arbenigedd allanol gan Swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus - ·
Roedd rhai heriau o ran cyflwyno’r dull ysgol gyfan
ar gyfer iechyd meddwl. Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu - ·
Roeddent yn parhau i aros am fesuryddion
cyrhaeddiad gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu deall perfformiad ysgolion o
fewn y cyd-destun dan sylw. ·
Roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn parhau i
brofi oedi – cafodd diweddariadau penodol eu cynnwys yn yr adroddiad. ·
Roedd Cymorth y Blynyddoedd Cynnar, Llwybrau a Sir
Ddinbych yn Gweithio yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol. Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well - ·
Mae trwsio difrod i ffyrdd a phalmentydd yn
parhau’n destun pryder. ·
Mae’r terfyn cyflymder 20mya wedi cael ei gyflwyno
bellach. Sir Ddinbych mwy gwyrdd - ·
Rydym yn parhau i chwilio am ddulliau ar gyfer
mesur y gostyngiad mewn tunelledd carbon o gadwyni cyflenwi. · Roedd paratoadau ar y gweill i adolygu’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 239 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion
perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd cyfarfod nesaf
y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i drefnu ar gyfer 25 Ionawr 2024, ac roedd
dwy eitem ar y gweill ar gyfer rhaglen y cyfarfod hwnnw.
I.
Safonau Gwasanaeth Llyfrgell 2022/23 a
II.
Sicrhau Ymgysylltiad mewn Addysg. Cafodd yr adroddiad
ar y Strategaeth Datblygu Economaidd a Busnes a oedd fod i gael ei gyflwyno yng
nghyfarfod mis Ionawr ei symud i gyfarfod mis Mawrth, gyda chaniatâd gan y
Cadeirydd. Atgoffwyd y Pwyllgor
gan y Cydlynydd Craffu, os oedd unrhyw beth yn yr adroddiadau a gyflwynwyd yn y
cyfarfod presennol, yr oeddent o’r farn bod angen craffu ymhellach arnynt, y
dylent lenwi’r ffurflen yn atodiad 2 ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ym mis Ionawr. Yn un o gyfarfodydd
diweddar y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, bu iddynt drafod
cynnig i ystyried y prosesau/ gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am gyllid
grant e.e. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin/ Cronfa Ffyniant Bro, er mwyn sicrhau
bod yr Awdurdod yn gallu cyflwyno ac ymateb i geisiadau ar fyr rybudd os oedd
angen. Roedd angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â dirnad diben yr
adroddiad a chanlyniadau archwilio’r mater, ond rhagwelwyd y byddai’n cael ei
ychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol, yn ystod gwanwyn 2024 yn ôl pob
tebyg. Roedd adroddiad
gwybodaeth ynghylch Rheoli Stoc Tai’r Cyngor wedi’i restru ar y rhaglen gwaith
i’r dyfodol i’w chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2024. Roedd cyswllt agos
rhwng y pwnc hwn ac eitem ar raglen y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 1 Chwefror,
ac felly byddai’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Penderfynwyd: yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd yr
Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Gareth Sandilands ar un o gyfarfodydd diweddar y
Grŵp Craffu Cyfalaf y bu iddo ei fynychu. Yn y cyfarfod hwnnw, bu i’r
Grŵp ystyried cynigion ariannol ar gyfer Prosiect Felodrom Rhuthun,
estyniad i adeilad yr ysgol, ceisiadau ariannol ar gyfer gwneud mân addasiadau,
yn ogystal â sut y byddai cyllid cyfalaf yn cael ei wario yn y dyfodol. Bu i’r
Pwyllgor Benderfynu: derbyn yr adroddiadau a dderbyniwyd ar lafar. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.20pm |