Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
Diane King. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag
eitemau 6 a 7 ar y rhaglen: Cynghorydd Ellie Chard - Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol
(AALl) yn Ysgol Tir Morfa. Cynghorydd Chris Evans - Llywodraethwr AALl yn Ysgol Tir
Morfa Cynghorydd Martyn Hogg - Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol VP
Llanelwy Cynghorydd Carol Holliday - Llywodraethwr yn Ysgol
Penmorfa Cynghorydd Alan Hughes - Llywodraethwr AALl yn Ysgol Caer
Derwyn Neil Roberts - Llywodraethwr yn Ysgol y Parc Cynghorydd Gareth Sandilands – Llywodraethwr AALl yn
Ysgol Clawdd Offa Hefyd datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad
personol yn eitem busnes 8 gan ei fod yn ymddiriedolwr annibynnol y Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda'r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 422 KB Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023.
. Penderfynwyd: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod gwir
a chywir o’r gweithrediadau. Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y
cofnodion. |
|
RECRIWTIO, CADW A CHYNLLUNIO’R GWEITHLU PDF 238 KB Derbyn adroddiad
gan Bennaeth Dros Dro Gwasanaeth Adnoddau Dynol am Recriwtio, Cadw a
Chynllunio’r Gweithlu (copi ynghlwm). 10.10am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr
adroddiad Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad hwn yn
rhoi gwybodaeth a chynnydd cynllun y gweithlu, gan gynnwys gweithgareddau
recriwtio a chadw staff, a data mewn perthynas â throsiant ac absenoldeb salwch
ar gyfer 2022/2023. Cytunodd y Cyngor ar
gynllun gweithlu ym mis Ionawr 2022, ynghyd â Chynllun Gweithredu i fynd i’r
afael â’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt. Cyflwynwyd y cynllun a’r cynllun
gweithredu i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Mawrth 2022. Roedd yr
adroddiad cyfredol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y cynllun gweithredu. Atodwyd nifer o
atodiadau i’r adroddiad gan gynnwys adroddiad archwilio mewnol ar gynllunio’r
gweithlu i hysbysu’r Aelodau o gapasiti a gwytnwch. Roedd
yr archwiliad yn cadarnhau bod yna fentrau a strategaethau cadarn ar waith i
gefnogi’r Cynllun Gweithlu Corfforaethol.
Croesawodd
yr Aelod Arweiniol y Swyddogion a oedd yn bresennol i amlinellu prif bwyntiau’r
adroddiad. Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro: Datganodd Adnoddau Dynol bod tri phwnc wedi’u
hamlygu oddi fewn yr adroddiad, a’r rhain oedd Recriwtio, Cadw ac Absenoldeb
Salwch. Diolchwyd i’r Tîm Archwilio Mewnol am eu Harchwiliad o’r Cynllun
Gweithlu a chroesawyd argymhellion o’r Archwiliad. Rhoddwyd trosolwg o’r adroddiad i’r
Aelodau:- ·
Darparwyd ystadegau trosiant yn atodiad 2 o’r
adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr ystadegau trosiant ar sail y
nifer o adawyr sydd yn gadael y sefydliad. Roedd ffigwr trosiant y
sefydliadau'r uchaf yr oedd wedi bod yn y 6 blynedd diwethaf ac yn 11.6%. Fodd
bynnag, roedd hyn dal yn unol â’r ffigurau cyfartaledd cenedlaethol y DU. ·
Roedd y
tueddiadau yn unol ag ystadegau’r DU. ·
Roedd
trosiant staff mewn adrannau benodol yn uwch ac roedd y rhain yn cael eu hymdrin
drwy’r dulliau a restrir o fewn yr adroddiad. ·
Roedd y
sefydliad yn recriwtio mwy o staff na 12 mis yn ôl. ·
Roedd
recriwtio yn digwydd yn y mwyafrif o adrannau, fodd bynnag, roedd rhai swyddi a
hysbysebir yn cymryd amser hirach i recriwtio nag eraill. ·
Y maes fwyaf o ffocws ar
gyfer recriwtio oedd mewn Gofal Cymdeithasol. ·
Roedd y sefydliad wedi
cynnal gweithdai recriwtio ac yn edrych ar gynnydd graddfa gyrfa i staff presennol
a lle bo’n bosibl y diwygiadau yn cael eu hystyried mewn perthynas â thelerau
ac amodau. ·
Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro: Roedd AD yn gweithio gyda Chynghorau eraill
ar sail genedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau tâl gyda staff asiantaeth. ·
Roedd y tîm AD yn
teilwra eu cefnogaeth i fodloni anghenion y rolau a oedd yn cynnwys llenwi
ffurflenni gais a defnyddio’r adnoddau marchnata cywir i hysbysebu. ·
Roedd yr arfer gorau'r awdurdod lleol a’r DU yn cael ei
adolygu i sicrhau bod y sefydliad yn gwneud y gorau o gyfleoedd recriwtio. ·
Y ddau rwystr sy’n wynebu recriwtio o fewn y sefydliad yw
gweithio hyblyg a thâl. Roedd cyfraddau
cyflog awdurdod lleol ar gyfer rhai swyddi yn is na’r rheiny ar gyfer swyddi
tebyg o fewn cyrff cyhoeddus eraill.
Fodd bynnag, cytunwyd bod cyfraddau tâl yn cael eu cytuno ar lefel
cenedlaethol a ddim ar sail leol, felly roedd pwerau’r Awdurdod mewn perthynas
â chyfraddau tâl amrywiol yn eithaf cyfyngedig.
Pennaeth
Gwasanaeth Dros Dro: Parhaodd AD i roi
trosolwg o absenoldeb o ran salwch i Aelodau:- ·
Y
cyfartaledd diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch yn 2022/2023 oedd 9.5, a oedd
yn ychydig o leihad ar y flwyddyn flaenorol. ·
Roedd Cyngor
Sir Ddinbych yn parhau i
fod yn un o’r cynghorau arweiniol yng Nghymru
o ran rheoli absenoldeb. ·
Roedd polisi
monitro absenoldeb cadarn mewn lle. ·
Roedd straen
personol gweithwyr wedi lleihau. · Roedd absenoldeb oherwydd Covid wedi parhau yn un o’r prif resymau dros absenoldeb yn ystod y 12 ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am y cynnydd a wnaed mewn
perthynas â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru (copi ynghlwm). 10.45am
– 11.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf o Gwricwlwm Cymru (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Aelodau. Mae’r adroddiad yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn
statudol i holl ddysgwyr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd hynny a ddewisodd
ddechrau ym Mlwyddyn 7, ym Medi 2022.
Hefyd, mae’r adroddiad yn cynnig gwybodaeth ar sut mae ysgolion uwchradd
a lleoliadau wedi bod yn paratoi i gychwyn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru ym
Mlynyddoedd 7 ac 8 o Fedi 2023 yn unol â’r amserlen cyflwyno cenedlaethol. Arweiniodd y Prif Reolwr
Addysg yr Aelodau drwy drosolwg o’r adroddiad. Ym mis Medi 2022, daeth
y Cwricwlwm i Gymru yn statudol i holl ddysgwyr o’r Meithrin i Flwyddyn 6.
Rhoddwyd y cyfle i ysgolion uwchradd i ddechrau gyda Blwyddyn 7 ym Medi
2022. Dewisodd un ysgol uwchradd yn Sir
Ddinbych dderbyn y cynnig. Bydd bob
ysgol uwchradd a lleoliad yn dechrau gyda’r Cwricwlwm i Gymru ym mlynyddoedd 7
ac 8 ym Medi 2023. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith cenedlaethol
gyda’r Pedwar Diben fel y weledigaeth a rennir. Mae’r fframwaith yn seiliedig
ar yr egwyddorion o ddilyniant i holl ddysgwyr ac yn gofyn i ysgolion ddylunio
eu cwricwlwm lleol eu hunain yn seiliedig ar eu dysgwyr a’r gymuned. Roedd nifer uchel o waith wedi’i
gyflawni gan bob ysgol gynradd yn Sir Ddinbych i baratoi ar gyfer y cwricwlwm
newydd. Roedd yr holl ysgolion cynradd wedi bodloni’r gofynion statudol i’w
galluogi i ddarparu cwricwlwm newydd. Roedd hyn yn bosibl oherwydd y gwaith
cydweithio ar draws pob ysgol o fewn y rhanbarth, yn rhannu arferion da ac ymgysylltu
dealltwriaeth gyffredin. Mae gwaith cydweithio
gan ysgolion uwchradd wedi bod yn ffactor sylweddol wrth gefnogi athrawon i
ddeall y galw am gwricwlwm newydd a’r lefel o hyblygrwydd oddi fewn. Mae Cwricwlwm Cymru yn ffocysu ar
ddysgu parhaus i blant o 3 oed a hŷn, yn caniatáu dysgwyr fod yn rhan o’u
haddysg. Mae nifer o
agweddau o’r cwricwlwm yn cael eu hadolygu megis addysgu, dysgu a chynnydd, ac
roedd ysgolion o fewn y rhanbarth wedi bod yn eglur iawn am eu llwyddiannau hyd
yma. Roedd 9
ysgol cynradd wedi cael eu harchwilio yn ystod y flwyddyn ysgol ac roedd llawer
yn cael eu cydnabod am ddangos gweledigaeth cryf ar gyfer y cwricwlwm, ac yn
adnabod pan fo dysgwyr yn ffynnu yn yr amgylchedd. Dywedodd y
Prif Reolwr Addysg bod holl ysgolion o fewn y rhanbarth wedi gweithio’n galed
iawn i groesawu’r cwricwlwm newydd ac wedi parhau i ddatblygu a diffinio eu
darpariaeth cwricwlwm i fodloni anghenion holl ddysgwyr. Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr
Addysg ac Aelod Arweiniol am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau. Gofynnodd
Aelodau sut oedd yr ysgolion yn cynllunio ar gyfer trosglwyddiad o ddysgwyr o
Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 heb ddarparu unrhyw ddata. Hysbysodd y Prif Reolwr
Addysg yr Aelodau bod ysgolion cynradd
yn defnyddio asesiadau darllen a rhifedd wedi ei bersonoli i hysbysu gallu
dysgwyr ysgolion uwchradd. Mae ysgolion cynradd wedi bod yn gweithio yn eu
clwstwr yn edrych ar ystod holistaidd ehangach o wybodaeth y gellir ei roi i
ysgolion uwchradd, megis agweddau tuag at ddysgu a lles i gynorthwyo’r
trosglwyddiad o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Cadarnhaodd yr Aelodau eu cefnogaeth lawn i’w
cwricwlwm newydd, fodd bynnag, gofynnwyd a oedd pwysau sy’n berthnasol i
weithredu’r cwricwlwm newydd yn dylanwadu athrawon i adael y proffesiwn. Dywedodd arweinydd craidd cynradd GwE Sir Ddinbych bod llawer iawn o waith o fewn yr Awdurdod Lleol ac o fewn ysgolion i helpu rheoli’r newid i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, Fodd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) PDF 319 KB Derbyn adroddiad
gan Bennaeth Gwasanaethau Addysg am drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
(copi ynghlwm). 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad ar y (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Aelodau. Roedd yr adroddiad yn darparu
gwybodaeth am y camau a gymerwyd i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn
barod i fodloni’r gofynion statudol sydd arnynt o dan Ddeddf Anghenion Dysgu
Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a ddechreuodd ym mis Medi 2021 ac
sydd ar waith tan 2025. Roedd y
Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi caniatau
estyniad ar y cyfnod gweithredu oherwydd yr adborth a ddaeth i law gan
ysgolion. Bydd Deddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli Cod Ymarfer
Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (2002), sydd mewn grym ar hyn o bryd. Bydd y
Ddeddf newydd yn cael ei chefnogi gan reoliadau a’r Cod Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY). Mae’r Ddeddf yn disodli’r termau ‘anghenion addysgol
arbennig’ (AAA) ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’ (AAD). Bydd hyn yn
disodli cynlluniau presennol, megis Cynlluniau Addysg Unigol, Datganiadau AAA a
Chynlluniau Dysgu a Sgiliau. Aeth y Swyddog Cynhwysiant drwy’r
adroddiad ar drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gyda’r Aelodau. Mae hyfforddiant ar ddiwygiadau ADY yn
parhau i gael ei ddarparu i dimau’r awdurdod lleol (ALl) pan fo angen. Mae’r
ALl yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion lle bo’r angen. Yng
nghyfarfodydd diweddar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mae systemau
a phrosesau ysgolion wedi eu trafod, eu rhannu a’u harchwilio, a chafwyd
gweithdy ar ysgrifennu Cynlluniau Datblygu Unigol. Mae cyllid
Cynhwysiant Ysgolion wedi’i ddirprwyo’n llawn i ysgolion fel y cytunwyd yn y
fforwm cyllideb ysgolion. Mae Sir
Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam bellach wedi rhoi’r system TG
ranbarthol (system ADY Eclipse) ar waith sy’n eu galluogi i reoli'r prosesau
ADY newydd. Mae TG Sir Ddinbych, ynghyd â chydweithwyr rhanbarthol, yn parhau i
weithio ar fireinio’r system. Mae’r Tîm o
Amgylch yr Ysgol wedi ei sefydlu er mwyn parhau i fodloni gofynion presennol y
broses Asesu Statudol a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn perthynas ag
ymyrraeth gynnar ac atal, a nodi anghenion dysgu ychwanegol yn gywir ac yn
brydlon. Yr ydym yn parhau i weithio
gydag ysgolion i lunio eu darpariaeth, gan gynnwys ymyraethau a strategaethau y
maent yn eu defnyddio i gefnogi dysgwyr gydag ADY a dysgwyr heb ADY. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Swyddogion am eu diweddariad a chroesawyd
cwestiynau gan yr aelodau. Gofynnodd Aelodau a oedd gan ysgolion adnoddau ac
amseroedd digonol i gynllunio’n effeithiol i ADY a gofynnwyd a yw’r cyllid
cyfredol ar gyfer trawsnewid yn cael ei weithredu. Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant wrth yr
Aelodau bod ychydig o gyllid gan Lywodraeth Cymru o ran grantiau i gefnogi
ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu’r trawsnewid. Dywedodd yr Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd bod y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith
Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon a godwyd mewn ysgolion mewn
perthynas â’r gyllideb, a dyraniad o £12 miliwn wedi’i wneud i gefnogi adnoddau
a buddsoddiad £1 miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Ysgolion
Arbennig i alluogi’r trawsnewid gael ei weithredu’n llwyddiannus. Gofynnodd Aelodau a oedd adborth gan y
Penaethiaid a gyfeiriwyd at yn yr adroddiad, yn datgan bod cyllid yn cael ei
amlygu i gynghorwyr lleol fel prif bryder i ysgolion yn yr ardal pryd bynnag yr
oeddynt yn siarad gyda phenaethiaid lleol. Gofynnodd Aelodau am eglurhad ar y system ADY Eclipse newydd a gofynnwyd a oedd y system ar gyfer athrawon i wneud diagnosis o blant gydag ADY. Hysbysodd y Swyddog Cynhwysiant yr Aelodau bod y System TG Eclipse yn cael ei weithredu i gofnodi prosesau statudol a oedd yn cymryd lle. Os ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 310 KB Derbyn Adroddiad
Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan Gyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau, Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm). 12pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r
Aelodau. Mae’n rhaid bob
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru lunio adroddiad
blynyddol sy’n crynhoi eu safbwynt ar effeithiolrwydd gwasanaethau gofal
cymdeithasol yr awdurdod a gwelliannau i’w blaenoriaethu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Moderneiddio a Lles wrth yr
Aelodau drwy’r Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd bod yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf ynghyd â
chynnydd Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Roedd y galw ar
Wasanaethau Gofal Cymdeithasol wedi cynyddu ac roedd gweithwyr Gofal
Cymdeithasol wedi gweithio’n galed iawn i fodloni anghenion eu cymunedau lleol.
Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi nad oedd y gwasanaeth gofal cymdeithasol wedi
datblygu mor dda ac yr oeddynt wedi’i ddymuno, roedd hyn oherwydd heriau
cenedlaethol a chyfyngiadau cyllideb. Roedd recriwtio a chadw yn parhau i fod
yn anodd o fewn y Sector Gofal Cymdeithasol. Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod croesawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol unrhyw gwestiynau gan
yr Aelodau. Gofynnodd Aelodau am fanylion ar sut
mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ceisio recriwtio gweithwyr yn y
sector. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
wrth yr Aelodau bod recriwtio a chadw yn un o’r heriau mwyaf y mae’r sector yn
ei wynebu. Rhoddwyd manylion ar y Gweithgor Recriwtio a Chadw Gofal
Cymdeithasol sydd yn cyfarfod yn rheolaidd. Roedd cynnydd yr
heriau oedd yn berthnasol i recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, a’u
heffaith posibl ar allu’r Cyngor i ddarpar wasanaethau i breswylwyr, ac roedd
Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn amlygu’r ffocws cynyddol gan yr uwch
dîm rheoli’r Awdurdod i’w faes o waith.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd bod
recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol rheng flaen yn un o’r heriau mwyaf y
Gwasanaeth ar hyn o bryd, gyda ffactorau allanol megis cyflogau uwch yn cael eu
talu gan sefydliadau cyhoeddus eraill mewn swyddi tebyg neu swyddi llai o
straen o fewn y sector masnachu yn gwaethygu’r sefyllfa. Roedd sefydliadau cenedlaethol yn gweithio ar
hyn o bryd ar ddatrysiadau posibl i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal
awdurdod lleol a hefyd edrych ar bosibilrwydd o ddefnyddio recriwtio dramor.
Roedd swydd wag yn cael eu hysbysebu’n gyson ac roedd agweddau o’r broses
recriwtio wedi eu hymlacio i’w wneud yn broses ar sail asesiad yn hytrach na
phroses ar sail cyfweliad. Roedd y tîm wedi ymweld ag ysgolion a cholegau i atynnu pobl iau i mewn i’r sector. Gofynnodd
Aelodau os oedd unrhyw gynlluniau i gael gwasanaeth seibiant mewnol i
ofalwyr. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau
Plant wrth yr Aelodau bod achos busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer gwasanaeth
seibiant ac roedd yn angen a nodwyd ac wedi ymrwymo i weithredu hyn yn y
dyfodol. Roedd yr Aelodau yn teimlo nad oedd yr
adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar agweddau o wasanaeth gofal cymdeithasol nad
oedd yn perfformio’n dda. Hefyd gofynnodd yr Aelodau am ddata ar y nifer o bobl
oedd wedi cael eu recriwtio a nifer o swyddi gwag o fewn y sector. Teimlwyd bod
y wybodaeth hon yn galluogi Aelodau a’r cyhoedd i ddeall cyd-destun yr
anawsterau yr oedd y sector gofal cymdeithasol yn ei wynebu. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adroddiad a gyflwynwyd yn dilyn strwythur
penodol o ran y wybodaeth oddi fewn a’r gynulleidfa
yr oedd wedi ei baratoi ar ei chyfer. Roedd y ffigurau a’r nifer y bobl oedd yn
cael eu recriwtio a’r nifer o swyddi gwag yn newid yn gyson. Cyfeiriodd Aelodau ar y Cynllun Micro-Ddarparwyr a gofynnwyd beth oedd effaith y cynllun ar ofal a oedd yn cael ei ddarparu o fewn y gymuned. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12.30pm – 12.45pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r
Pwyllgor adolygu ei raglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y Cydlynydd
Craffu wrth yr aelodau y byddai’n rhesymol i ddod adroddiad Cwricwlwm Cymru ac
adroddiad Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ôl i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad ym mis Medi 2024. Dilynwyd hyn gyda’r Aelodau yn gofyn i
Benaethiaid ddod i’r cyfarfod nesaf i gael adborth ganddynt. Cynhelir y Pwyllgor
Craffu Perfformiad nesaf ar 28 Medi 2023, mae pedwar eitem arfaethedig ar gyfer
y cyfarfod hwn. 1.
Darparu darpariaeth
cwricwlwm ac allgyrsiol cyfrwng Cymraeg yn ysgolion y sir. 2.
Adroddiad Cynnydd Crist
y Gair 3.
Ymagwedd yr Ysgol Gyfan
tuag at Les 4.
Cynllun Gweithredu Strategaeth
Tai a Digartrefedd Sir Ddinbych. Trefnwyd cyfarfod o
Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 25 Gorffennaf, ac atgoffwyd Aelodau i
lenwi’r ffurflen berthnasol os oedd ganddynt bynciau yr oeddynt yn dymuno eu
hystyried. Cyfeiriwyd yr Aelodau at atodiad 4 a oedd yn
cynnwys cynnydd ar argymhellion y Pwyllgor o’r cyfarfod blaenorol. Hysbysodd y
Cydlynydd Craffu'r Aelodau bod cama gweithredu gan yr Hunanasesiad Perfformiad
y Cyngor mewn perthynas â Chynllun Cludiant Cynaliadwy i Sir Ddinbych yn
datblygu ac roedd ymholiadau wedi cael eu gwneud mewn perthynas â phryd y
byddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar y
diwygiadau a’r ychwanegiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac a gytunwyd yn ystod
y cyfarfod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.45pm
– 1pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd yr Is-gadeirydd yn rhinwedd ei swydd fel
cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod
y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad grynodeb i’r aelodau o drafodaethau a oedd
wedi digwydd yn y cyfarfod hwnnw, yn egluro ei fod wedi ei gael yn gyfarfod
llawn gwybodaeth ac adeiladol. Dywedodd y Cadeirydd, yn ei swydd fel cynrychiolydd y
Pwyllgor Craffi ar y Bwrdd Prosiect Queen’s Building, wrth y Pwyllgor bod yr
adeilad bron â gorffen a bydd yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor yn y dyfodol
agos. Yn y cyfamser, mae gweithredwr
wedi ei benodi ar gyfer y cyfleuster a fyddai’n dechrau ar y gwaith yn fuan o
recriwtio busnesau i weithredu oddi fewn y cyfleuster. Diolchodd y Cadeirydd i’r
Aelodau am eu presenoldeb yn y cyfarfod ac am eu cyfraniadau. Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm. |