Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
NODYN O HYSBYSIAD - GWEDDARLLEDU Oherwydd problemau technegol, nid oedd modd i’r Cyngor
ddarlledu dechrau’r cyfarfod yn fyw na’i recordio. Fodd bynnag, datryswyd y
problemau hyn ac roedd busnes a thrafodaethau’r Pwyllgor o eitem rhif 5 ymlaen
ar gael ar wefan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Chris Evans a Diane King. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n
rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn
y Cadeirydd, gael eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 410 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023. Felly: Penderfynwyd: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023 fel cofnod gwir
a chywir o’r gweithrediadau. Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn codi o’r cofnodion
ynghylch a oedd cynrychiolwyr wedi’u penodi i wasanaethu ar yr holl Grwpiau
Herio Gwasanaeth, tynnodd y Cydlynydd Craffu sylw’r aelodau at eitem rhif 6 ar
raglen y cyfarfod presennol, Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol Craffu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cais i’r
Pwyllgor lenwi pob swydd wag ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth. |
|
ADOLYGIAD Y GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL - CHWEFROR 2023 PDF 280 KB Ystyried adroddiad
(copi ynghlwm) gan y Swyddog Cynllunio
Strategol a Pherfformiad sy'n gofyn i'r
Pwyllgor ystyried a darparu sylwadau ar y diwygiadau i'r Gofrestr Risg
Gorfforaethol o ganlyniad i'r adolygiad diweddar
o'r Gofrestr. 10.10am – 10.40am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) a oedd yn cyflwyno Cofrestr Risgiau Gorfforaethol ddiwygiedig y Cyngor yn
dilyn yr adolygiad chwe mis a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2023. Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth
y Pwyllgor, er bod nifer o ddiwygiadau wedi’u gwneud i’r gofrestr o ran
perchnogion risg, teitlau, disgrifiadau a chamau gweithredu, na fu unrhyw
newidiadau i’r sgoriau risg o ganlyniad i’r adolygiad diweddaraf. Erbyn yr
adolygiad nesaf o’r Gofrestr Risg sydd wedi’i drefnu ym mis Medi, dylai’r
ymarferion recriwtio ar gyfer swyddi gwag Penaethiaid Gwasanaeth fod wedi dod i
ben. Mae’n debygol iawn y byddai hyn yn arwain at newid enwau ‘perchnogion
risg’ eto, unwaith bydd y Penaethiaid Gwasanaeth newydd wedi ymgymryd â’u
swyddi. Arweiniodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, ynghyd â’r Swyddog Cynllunio
Strategol a Pherfformiad yr aelodau trwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y
newidiadau a wnaed i fformat yr adroddiad o ganlyniad i adborth gan y Pwyllgor
a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dywedwyd, yn ystod y 12 mis diwethaf,
er bod difrifoldeb nifer o risgiau wedi cynyddu’r nifer o ddiwygiadau a wnaed
yn ystod yr adolygiad presennol o ran ‘perchnogion risg’ a enwyd, roedd hyn ar
gyfer adlewyrchu strwythur rheoli newydd y Cyngor. Pwysleisiwyd, er nad oedd y
sgoriau risg wedi newid yn dilyn yr adolygiad hwn a bod y gofrestr risg yn
ymddangos fymryn yn fwy sefydlog, nad oedd hynny’n golygu nad oedd y risgiau eu
hunain mor ddifrifol. Nod y siart liwiau ar ddechrau’r Gofrestr (Atodiad 1)
oedd dangos difrifoldeb pob risg yn glir i’r darllenydd, cyn ac ar ôl
gweithredu mesurau lliniaru. Roedd hefyd yn dangos ‘tueddiad’ pob risg ers yr
adolygiad diwethaf, ac yn nodi a oedd y risg, yn dilyn gweithredu mesurau
lliniaru, bellach o fewn trothwy’r Cyngor o ran ‘parodrwydd i dderbyn
risg’. Er bod nifer o fesurau lliniaru
wedi’u gweithredu gyda’r bwriad o reoli’r risgiau, ni fu newid o ran ‘tueddiad’
ar gyfer nifer ohonynt ers yr adolygiad diwethaf. Yn achos dros hanner y risgiau
corfforaethol, roedd y ‘parodrwydd i dderbyn risg’ yn uwch na lefel goddefiant
y Cyngor, roedd hyn oherwydd y cymhlethdodau oedd yn gysylltiedig â risgiau
unigol. Fodd bynnag, nod y Cyngor oedd parhau i leihau’r risgiau. Rhoddodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad
drosolwg i’r Pwyllgor o’r newidiadau mwyaf sylweddol a nodir yn yr adroddiad.
Roedd y rhain yn cynnwys: Risg 01 – Diogelu: roedd y drefn llywodraethu sy’n
gysylltiedig â’r risg hon bellach yn dynn iawn, gydag adroddiadau’n cael eu
darparu i’r Tîm Gweithredol Corfforaethol ac i gyfarfod Briffio’r Cabinet yn
rheolaidd. Yn ogystal â’r Pwyllgor
Craffu, tynnodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sylw hefyd at ei bryderon
ynghylch y risg hon, yn benodol o ran pwysau recriwtio a chadw staff ym maes
gofal cymdeithasol. O ganlyniad, roedd adran Archwilio Mewnol y Cyngor yn
cynnal adolygiad o faterion recriwtio a chadw.
Risg 21 – datblygu partneriaethau a rhyngwynebau
effeithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r Cyngor:
cafodd yr adolygiad presennol o’r Gofrestr Risg ei gynnal cyn i’r Bwrdd Iechyd
gael ei roi yn ôl mewn mesurau arbennig. Serch hynny, yn dilyn penderfyniad
Llywodraeth Cymru (LlC) i roi BIPBC yn ôl mewn mesurau arbennig, trafododd
swyddogion y sefyllfa gyda’r ‘perchennog risg’. O ganlyniad i’r trafodaethau
hynny, penderfynwyd peidio â diwygio’r sgôr risg ar hyn o bryd, ond y byddai’r
Tîm Gweithredol Corfforaethol yn monitro datblygiadau yn y Bwrdd Iechyd yn
ofalus, gan ganolbwyntio’n benodol ar eu heffaith ar y risg hon. Risg 36 – y risg sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd economaidd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 239 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol
y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 10.40am – 10.55am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen
gwaith i’r dyfodol. Cafodd Aelodau eu harwain trwy’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol drafft yn Atodiad 1. Dywedwyd wrthynt fod y rhaglen waith ddrafft ar
gyfer eu cyfarfod nesaf ar 8 Mehefin yn cynnwys adroddiad tra sylweddol ar
‘Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu’, ynghyd ag Adroddiad Chwarter 4 ar
Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad.
Roedd ymholiadau a wnaed yn ddiweddar mewn perthynas â’r eitem sydd
wedi’i rhestru dros dro ar y ‘Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)’ yn dangos na
fyddai’r adroddiad hwn ar gael tan yr hydref o leiaf, gan fod Llywodraeth Cymru
(LlC) wedi nodi’n ddiweddar y byddai’n ceisio rhagor o wybodaeth gan awdurdodau
ynghylch cludiant i’r ysgol, cyn adrodd ar gasgliadau eu hadolygiad. Fodd bynnag, hysbyswyd y Pwyllgor bod y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGA), yn ei gyfarfod yn
ddiweddarach y diwrnod hwnnw, yn debygol o ofyn i’r Pwyllgor ystyried adroddiad
yr ‘Adolygiad o Strategaeth yr Hinsawdd ac Ecolegol’ yn ei gyfarfod ym mis
Mehefin. Hysbyswyd y Pwyllgor hefyd y byddai’r GCIGC hefyd yn
ystyried nifer o geisiadau i graffu ar bynciau cysylltiedig ag addysg yn ystod
blwyddyn nesaf y Cyngor. Pe bai’r ceisiadau’n cael eu cymeradwyo ar gyfer
craffu, byddant fwy na thebyg yn cael eu cynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol
y Pwyllgor yn y dyfodol agos. Anogwyd aelodau’r Pwyllgor i lenwi ffurflen cynnig craffu
(Atodiad 2) mewn perthynas ag unrhyw bwnc a oedd yn eu barn nhw’n haeddu cael
eu harchwilio’n fanwl gan y Pwyllgor Craffu.
Cyn gofyn am enwebiadau am aelodau Pwyllgor i
wasanaethu’r swyddi gwag presennol ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth, rhoddodd y
Cydlynydd Craffu amlinelliad o gynnwys Atodiadau 3 a 4 yn yr adroddiad. Wrth ofyn am enwebiadau i wasanaethu’r swyddi gwag ar y
Grwpiau Herio Gwasanaeth, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried penodi aelodau nad
oedd eisoes wedi’u penodi i wasanaethu ar unrhyw un o’r Grwpiau Herio
Gwasanaeth eraill. Byddai mabwysiadu dull o’r fath yn sicrhau bod pob aelod o’r
Pwyllgor yn cael cyfle i wasanaethu ar o leiaf un Grŵp, ac felly’n
rhannu’r llwyth gwaith yn deg rhwng pob aelod. Cofrestrodd y Cynghorydd Andrea Tomlin ei diddordeb i
gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaeth Tai a Chymunedau, a
mynegodd y Cynghorydd Jon Harland ei ddiddordeb mewn cael ei benodi fel
cynrychiolydd ar y Grŵp Herio Gwasanaeth
Pobl: Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol. Gan fod nifer o aelodau’r
Pwyllgor yn absennol ac na chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer
gweddill y Grŵp Herio Gwasanaeth – Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau: Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar y newidiadau a’r cynnwys posibl a
nodir uchod, cadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y nodir yn
Atodiad 1; a (ii)
phenodi’r aelodau canlynol i wasanaethu fel
cynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Her Gwasanaeth a enwyd: Tai a Chymunedau-
Y Cynghorydd Andrea Tomlin Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl – Y
Cynghorydd Jon Harland Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau – i’w benodi
yn y cyfarfod nesaf.
|
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau
a Grwpiau amrywiol y
Cyngor. 10.55am – 11am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Gareth Sandilands, cynrychiolydd y
Pwyllgor ar y Grŵp Craffu Cyfalaf newydd, drosolwg byr o’r trafodion yng
nghyfarfod cyntaf y Grŵp. Yn ystod
y cyfarfod, roedd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi cymeradwyo ei gylch gorchwyl
a thrafod ceisiadau cyfalaf gan y Gwasanaeth Tai a’r Gwasanaeth Treftadaeth. Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, fel cynrychiolydd ar
Fwrdd Prosiect Adeiladu’r Frenhines, fod y Bwrdd mewn cyfarfod diweddar wedi
trafod y broses ar gyfer penodi gweithredwr ar gyfer y cyfleuster. Roedd y
Prosiect ar y trywydd cywir ar hyn o bryd i’w gyflawni ar amser ac o fewn y
gyllideb. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am Dogfennau ychwanegol: |