Agenda and draft minutes
Lleoliad: tbc
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 391 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 (copi
ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel cofnod cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 2, 2021 I 2022 PDF 211 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi
ynghlwm) i dderbyn diweddariad am gyflawniad y Cynllun Corfforaethol yn 2021 i
2022 fel yr oedd ar ddiwedd chwarter 2 (mis Gorffennaf i fis Medi 2021). 10.10am – 10.40am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad
ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad Diweddariad ar
y Cynllun Corfforaethol. Chwarter 2, 2021-2022 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Darparu gwybodaeth am gynnydd y Cyngor ar ddiwedd
chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021), 2021 i 2022 mewn perthynas â chyflawni
canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol. Roedd adrodd yn ôl yn rheolaidd yn un o ofynion
monitro hanfodol y Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn
gweithredu ei ddyletswydd i wella. Roedd adroddiadau perfformiad chwarterol yn
cael eu rhannu â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA), y Cabinet a'r Pwyllgor Craffu
Perfformiad yn rheolaidd. Ar ddiwedd cyfnod y Cynllun Corfforaethol, roedd
disgwyl i’r mwyafrif helaeth o beth y gobeithiwyd y byddai’n cael ei ddarparu,
gael ei wneud yn llwyddiannus. Rhedodd rhai o’r prosiectau drosodd oherwydd
effaith covid, ond byddant yn cael eu darparu. Roedd yn gynllun uchelgeisiol. Byddai gwersi’n cael eu dysgu, ac roedd
aelodau arweiniol a swyddogion yn dechrau edrych ymlaen at sut beth fyddai
cynllun corfforaethol newydd i gyngor newydd. Roedd dau fesur, Cysylltu Cymunedau a Phobl Ifanc,
yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer eu gwella, oherwydd y bu dibyniaeth ar
bartïon eraill. Yn nhermau prosiectau eraill, roedd pob un o
statws da neu uwch. Roedd y Bwrdd
Cynllun Corfforaethol yn parhau i fonitro darpariaeth y Cynllun wrth symud
ymlaen, a’r trosglwyddiad i’r Cynllun Corfforaethol newydd. Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad, Iolo McGregor, drosolwg cryno o’r Cynllun. Cyflwynodd yr adroddiad perfformiad blynyddol
diwethaf a ddaethpwyd gerbron y Pwyllgor Craffu elfennau newydd yn sgil Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a wnaeth yr adroddiad cyfredol
llawer mwy cynhwysfawr. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cadarnhawyd
bod cofrestr ULlMaD yn bryder a allai ei graffu. Roedd Addysg a Phobl Ifanc yn bryder hefyd
gan fod Craffu eisoes wedi derbyn adroddiadau gan yr Adran Addysg. ·
Gofynnwyd
am eglurhad o ran Dementia, ac a oedd staff wedi’u hyfforddi i arsylwi unrhyw
broblemau sydd gan breswylwyr a sut byddant yn eu hadrodd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau, y byddai’n rhoi'r newyddion diweddaraf i aelodau. ·
Cadarnhawyd
na fyddai 150 eiddo gwledig yn gallu cael mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn, a
bod gwaith yn parhau gyda’r Swyddog Digidol a BT Openreach i ddatrys y
broblem. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau ar y cyd
rhwng Cadw a Llywodraeth Cymru (LlC) i gyflogi ail Swyddog Digidol. ·
Roedd
Tai Fforddiadwy i’w gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol newydd i asesu'r holl
faterion ynghylch y gwahaniaeth mewn cyflogau ledled y sir. ·
Risgiau'r
Prosiect – y Gymraeg neu ddiwylliant Cymru, a yw’r rhain wedi cael eu hystyried
fel risg oherwydd covid? Eglurodd y Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad os y bu dirywiad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd covid,
yna byddai hynny’n fater ar gyfer y Gofrestr Risgiau Cymunedol a fyddai’n cael
ei fonitro gan Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Eglurodd bod y gwaith wedi cael ei gynnal i ddiweddaru Asesiad Lles
Conwy a Sir Ddinbych, ac roedd adrannau a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar
ddiwylliant a threftadaeth, ac y byddai’n ymgynghori gyda’i gydweithiwr i
sicrhau a oedd effaith covid ar y Gymraeg wedi’i adlewyrchu yno. ·
Gofynnwyd
a fyddai’r siwrnai at fod yn ddi-garbon yn risg. Cadarnhawyd ei fod yn risg i’r Cyngor gan
ei bod yn raglen waith mawr a chostus iawn, roedd yn raglen waith hir iawn
hefyd. Roedd yn cael ei adlewyrchu ar y
Gofrestr Risgiau Gorfforaethol, a fyddai’n cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor fel
yr eitem nesaf ar y Rhaglen. Penderfynodd y Pwyllgor - I dderbyn a chadarnhau cynnwys yr adroddiad, yn amodol ar yr arsylwadau uchod, ac ar ôl ystyried yr adroddiad, ac unrhyw ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2021 PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a'r Swyddog
Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i dderbyn diweddariad ar yr
adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol a gynhaliwyd ym mis Medi. 10.40am – 11.10am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad
ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Adolygiad o’r Gofrestr
Risg Gorfforaethol, Medi 2021 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Yr Uwch Dîm
Arweinyddiaeth oedd yn datblygu a pherchen ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol
ochr yn ochr â’r Cabinet. Cafodd ei hadolygu'n ffurfiol ddwywaith y flwyddyn
gan y Cabinet yn ystod sesiwn friffio’r Cabinet. Cafodd ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio’r diwrnod blaenorol hefyd. Nododd y Cynghorydd Thompson-Hill bod dwy risg
newydd wedi’u huwchgyfeirio i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac yn crynhoi'r
Risgiau o fewn y Gofrestr. Roedd risgiau 18 a 35 yn mynd i gael eu cyfuno
wrth symud ymlaen, a byddai'r sgôr yn debygol o gynyddu o D2 i C2. Mynegodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a
Pherfformiad ei ddiolch i Emma Horan, y Swyddog Cynllunio Strategol a
Pherfformiad am ei gwaith wrth gwrdd â Pherchnogion Risg a'r Tîm Arwain
Strategol i lunio diweddariad cynhwysfawr iawn. Roedd adolygiad archwilio mewnol diweddar mewn
perthynas â rheoli risg wedi cael ei gynnal, ac argymhellion o’r archwiliad
wedi cael eu cyflwyno. Un o’r
argymhellion oedd cynnwys cyfeiriad ar gyfer siwrnai bob risg. Roedd gwaith i’w wneud o hyd o ran hynny, a
fyddai’n cael ei symud ymlaen i’r adolygiad nesaf. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Recriwtio
a chadw staff – Cadarnhawyd bod recriwtio a chadw staff wedi dod yn fater
sylweddol, nid yn unig o fewn Cyngor Sir Ddinbych, ond ar hyd y wlad. Roedd gan Covid effaith sylweddol ar
staffio. Roedd darn o waith yn cael ei
gynnal ar gyfer pob Gwasanaeth i gael Cynllun Gweithredu Cynllunio’r Gweithlu,
a fyddai’n bwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Sir Ddinbych. Bu problemau o ran recriwtio mewn
Gwasanaethau penodol, yn enwedig o fewn Gofal Cymdeithasol a Gofal
Cartref. Byddai’r Awdurdod yn edrych ar
y gallu i greu swyddi graddfa gyrfa i ddatblygu talent mewnol. Mewn rhai meysydd, gallai gymryd amser i
hyfforddi gweithwyr, a allai achosi problemau yn y tymor byr. Roedd adroddiad ar fin cael ei ddarparu yn y
Flwyddyn Newydd. ·
Roedd
Deddf Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi gosod nifer o ofynion
ychwanegol ar y Cyngor. Bu oedi wrth dderbyn canllawiau manwl, a
oedd yn tanategu disgwyliadau newydd a ffyrdd o weithio, a fyddai angen
polisïau a gweithdrefnau datblygol wrth symud ymlaen. Yn anffodus. ni fyddai cyllid ychwanegol ar
gael ar gyfer mynd i’r afael â’r gofynion newydd, ac o ganlyniad, roedd y sgôr
y Risg yn gywir. ·
Awgrymwyd
y byddai trosedd seiber yn cael ei amlygu fel risg. Ar hyn o bryd, nid oedd yn cael ei rhestru
ar wahân fel risg, ond roedd yn cael ei chynnwys o ran a oedd gan y Cyngor yn
gallu i ymateb i ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys amhariadau a achosir gan
ddigwyddiadau o dywydd garw, ac ati. Cam Gweithredu: Bydd Iolo McGrgeor yn
sicrhau bod Trosedd Seiber yn cael ei thrafod gyda pherchennog y risg yn ystod
adolygiad mis Chwefror o’r gofrestr i roi mwy o bwyslais arni. ·
Risg
44 – Clefyd Coed Ynn – roedd y risg wedi sgorio’n uchel oherwydd peidio deall
graddfa’r broblem. Ers i hyn ddod yn risg, gwnaed darn o
waith i ddeall yn well beth oedd y cyngor yn ei wynebu. Roedd wedi cael ei israddio oherwydd hyder a
gwybodaeth swyddogion bod y risg yn ymddangos yn amlach. Serch hynny, roedd risg B2 yn parhau i fod yn
risg gritigol. ·
Roedd
terfynu contract Civica gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cael ei ystyried yn risg. Cadarnhawyd bod Civica wedi penderfynu tynnu nôl o'r math o gontract partneriaeth oedd ganddynt gyda Sir Ddinbych, a byddai ar y Gofrestr Risg Gwasanaeth Cyllid, ond roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar yr adeg hon (11.10 am)
cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am
11.20 a.m. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM C360 CRM (SYSTEM RHEOLI CYSYLLTIADAU CWSMERIAID) PDF 357 KB I ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwella Gwasanaethau (copi ynghlwm) i roi trosolwg o
weithrediad y system CRM C360. 11.20am – 11.50am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd adroddiad gyda’r wybodaeth
ddiweddaraf am System Rheoli Cyswllt Cwsmer C360 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Darparodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts drosolwg o
weithrediad y system Rheoli Cyswllt Cwsmer C360, a’i berfformiad mewn perthynas
â manyleb y cynnyrch. Roedd yr adroddiad
yn amlinellu defnydd gwasanaethau’r cyngor o C360 hefyd fel system Rheoli
Cyswllt Cwsmer corfforaethol neu ddatrysiad cyswllt cwsmeriaid integredig, a’u
galw parhaus ar gyfer ffurflenni ymholiadau cwsmer newydd. Roedd hyfforddiant ar gyfer y system wedi cael ei
gynnal, gyda 90% o staff a 14% o Gynghorwyr yn cymryd rhan. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Derbyniodd
Aelodau adroddiad wythnosol, ond bu cwynion oherwydd roedd eitemau yn yr
adroddiad a oedd wedi cael eu datrys am dros 12 mis. Roedd rhai eitemau a adroddwyd nad oedd
wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiadau wythnosol y derbyniodd y cynghorwyr
hefyd. Roedd y materion a godwyd yn rhai
o’r materion a amlygwyd ar gyfer mynd i’r afael â nhw wrth symud ymlaen, ac
roedd rhai eitemau’n cynnwys contractwyr.
Eglurwyd y dylai’r system gael ei defnyddio yn lle cysylltu â’r
Gwasanaeth perthnasol yn uniongyrchol. ·
Cadarnhaodd
rhai aelodau nad oeddent yn llythrennol yn dechnegol, ac fe wnaethant gyfaddef
eu bod wedi cael hi’n anodd deall y system, ac y byddai hyfforddiant gloywi yn
cael ei groesawu. ·
Os yw
ymholiad wedi cau, nid yw’r system yn caniatáu mynediad pellach, a all achosi
rhwystredigaeth, a gobeithio bydd y broblem honno’n cael ei diwygio yn y
dyfodol. ·
Pan
mae ymholiad wedi cau, nid oes rhagor o wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar yr
adroddiad yn cael eu derbyn. Byddai esboniad i ganlyniad yr ymholiad yn
ddefnyddiol. Eto, cafodd hyn ei gytuno gan
swyddogion, ac yn cael ei graffu wrth symud ymlaen. Felly: PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar weithrediad a
pherfformiad System Rheoli Cyswllt Cwsmer C360, yn amodol ar y sylwadau uchod
a’r meysydd a nodwyd ar gyfer eu gwella a'u cryfhau. |
|
CYNLLUN CLUDIANT CYNALIADWY PDF 307 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad
cyfrinachol) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (copi
ynghlwm) i roi diweddariad am ddatblygiad Cynllun Cludiant Cynaliadwy drafft y
Cyngor a gweithgareddau gwaith cysylltiedig. 11.50am – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones Adroddiad y Cynllun Cludiant Cynaliadwy (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Yn 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan
Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol, mae’r
blaenoriaeth Cysylltu Cymunedau wedi’i chynnwys yn y prosiect “Galluogi pobl yn
well i deithio i’r gwaith, addysg a gwasanaethau”. Roedd cwmpas y prosiect yn
eang iawn, a wnaeth hi’n anodd i nodi ymyriadau penodol a fyddai’n gwneud
gwahaniaeth, er y gwaith ymchwil pellach a wnaed. Yn dilyn trafodaeth yn y Bwrdd Rhaglen
Gorfforaethol ym mis Hydref 2020 a Gorffennaf 2021, cafodd ei benderfynu
oherwydd materion gyda’r prosiect uchod a’r angen i wneud gostyngiad carbon
sy’n ganolog i unrhyw brosiectau sy’n ymwneud â chludiant, yna dylai'r ffocws
fod ar ddatblygu Cynllun Cludiant Cynaliadwy. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Mae
angen ystyried pobl ag anableddau yn y cynllun hwn. ·
Pwyntiau gwefru Cerbydau
Trydanol - cam nesaf ym mis Mawrth/Ebrill 2022 oedd cam 1 ac fe'i gwelwyd fel
cyfle i ddysgu, a byddai 30 pwynt gwefru ar gael mewn 8 lleoliad, a fyddai'n
cynnydd sylweddol. Byddai swyddogion yn edrych ar ddefnydd
data i gasglu gwybodaeth yn ymwneud â defnydd y pwyntiau. Byddai'r dadansoddiad yn helpu i nodi’r
cynllunio ar gyfer yr angen yn y dyfodol mewn perthynas â phwyntiau gwefru
Cerbydau Trydan. Roedd modelau darpariaeth gwahanol posib yn y
dyfodol hefyd e.e.: os oes rhagor o ddiddordeb gan y sector preifat yn nhermau
rhentu'r gofod yn rhywbeth a edrychwyd arno hefyd. Dywedwyd wrth Aelodau bod Llywodraeth Cymru
gyda Trafnidiaeth Cymru hefyd yn edrych ar y rhwydwaith ehangach, felly yn
nhermau siwrneiau pell a’r rhwydwaith cefnffyrdd, roedd ganddynt brosiect lle
fyddai pwyntiau gwefru wedi’u gosod yn gyson ar hyd y rhwydwaith
cefnffyrdd. O ran pwyntiau gwefru mewn
eiddo datblygiadau newydd, byddai hynny’n rhywbeth i edrych arno yn y dyfodol,
mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Cynllunio. ·
A
oedd unrhyw ffigurau i ddangos bod newid i gerbydau trydan yn arbed arian, ac
yn well o lawer i'r amgylchedd? Cadarnhaodd swyddogion nad oeddent yn
ymwybodol o’r ffigurau, gan y byddai’n debygol o fod yn rhy gynnar yn y cynllun
i gael y ffigurau. ·
Pan
roedd mesurau teithio llesol yn mynd i effeithio ar gymuned, a fyddai sicrwydd
gan swyddogion y byddai ymgynghoriad â chymunedau a'u bod yn derbyn gwybodaeth,
a byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i Grwpiau Ardal yr Aelodau er
trafodaeth. Byddai swyddogion yn cadarnhau y byddai
Aelodau lleol a Grwpiau Ardal yr Aelodau yn ael eu cynnwys o gamau cynnar. ·
Gellir
cychwyn trafodaethau gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad yn y dyfodol mewn perthynas
ag archwilio’r posibilrwydd o gael pwyntiau gwefru mewn meysydd parcio sy’n
cael eu rheoli ganddynt. Serch hynny, gallai natur wledig y lleoliadau hyn fod yn rhwystr i gael
argaeledd pŵer digonol ar gyfer pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan. ·
Cafodd
ei bwysleisio bod Teithio Llesol a Chynaliadwy yn ymgorffori pob dull cludiant,
nid ceir yn unig, ac yn ceisio datrysiadau teithio integredig h.y. cerdded,
beicio, bysus, trenau a cheir. ·
Roedd
cynllunio ar gyfer datrysiadau teithio cynaliadwy yn parhau i fod yn ei gamau dechreuol. Roedd yn bwysig bod cynlluniau teithio
cynaliadwy lleol, yn cysylltu gyda chynlluniau rhanbarthol a
chenedlaethol. Roedd cludiant yn
swyddogaeth ar gyfer sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig er mwyn sicrhau
datrysiadau y gellir eu cyflawni. Byddai datrysiadau posib yn cael eu
harchwilio yn ystod y blynyddoedd i ddod. Penderfynodd y Pwyllgor - PENDERFYNWYD: (i)
Cefnogi nodau ac amcanion y Cynllun
Cludiant Cynaliadwy yn amodol ar y sylwadau ac arsylwadau uchod ar gynnwys y
Cynllun drafft Cludiant Cynaliadwy; a (ii) wrth gefnogi’r Cynllun, cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar
faterion perthnasol. 12.20pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi
diweddariad ar faterion perthnasol. Cafwyd trafodaeth yn ymwneud â'r materion
canlynol:- ·
Adroddiad
ar y Cynllun Corfforaethol – efallai bydd ULlMaD yn ffurfio rhan o’r adroddiad
ar y rhaglen waith ar gyfer 27 Ionawr 2022 ar Strategaeth Dai ehangach y Cyngor ·
Cododd y Cynghorydd Martyn
Holland faterion ynghylch BT yn ystod y cyfarfod, os yw’r eitem yn cael ei
hychwanegu i gyfarfod yn y dyfodol, yna byddai angen cwblhau ffurflen a gellir
ei drafod yng nghyfarfod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu a oedd yn cael
ei gynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel yr amlinellir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |