Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw Jones (y Cadeirydd) a Martyn
Holland. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn sgil absenoldeb y Cynghorydd Huw Jones a oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad, byddai’r Cynghorydd Hugh Irving, yr Is-gadeirydd yn cadeirio’r
cyfarfod. Mynegodd yr Aelodau ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd Jones am wellhad
buan. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 557 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2019 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf
2019 (a gylchredwyd ymlaen llaw). Cywirdeb – Nododd
y Pwyllgor fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Nicola Stubbins yn
bresennol yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD: - y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd
ar 18 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Monitro
effeithiolrwydd trosglwyddo'r cyfleuster a'r gwasanaethau i ddarparwr allanol
ac effaith y trosglwyddiad ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, staff, preswylwyr lleol
a’r gymuned leol (gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o’r broses) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw)
gyda chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Gweithiwr Cyswllt Gwasanaethau
Mewnol Cefnogi Pobl a Phrif Reolwr – Gwasanaethau Cynnal. Roedd rheolaeth
Canolfan Ddydd Hafan Deg wedi’i drosglwyddo i ddarparwr allanol, KL Care. Roedd
yr adroddiad yn adolygu’r broses drosglwyddo a’i heffaith ar unigolion. Clywodd y Pwyllgor
nad oedd y trosglwyddiad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar ddefnyddwyr y
gwasanaeth. I ddechrau, ni chafwyd
gymaint o ddefnyddwyr gwasanaeth ag y gobeithiwyd, fodd bynnag, fe wnaeth hynny
helpu i sicrhau proses drosglwyddo rwydd ac roedd y niferoedd yn gwella. Mewn ymateb i
resymau dros pam fod llai o ddefnyddwyr na'r disgwyl, nododd y Gweithiwr
Cyswllt Gwasanaethau Mewnol Cefnogi Pobl: ·
roedd
lle i wella o ran y gwaith hysbysebu, roeddent bellach yn mynd i'r afael â hyn
drwy ddosbarthu pamffled newydd yn fewnol ac yn allanol i'r Awdurdod; ·
roedd
y cymhwysedd yn dod i ben be bai defnyddiwr gwasanaeth yn mynd i ofal preswyl; ·
gostyngiad
yn y galw am ganolfannau gofal dydd traddodiadol a ·
chynnydd
mewn gwasanaethau/dosbarthiadau/grwpiau amgen a ddarperir mewn llyfrgelloedd a
chanolfannau cymunedol. Dywedwyd wrth y
Pwyllgor: ·
fod
naw cleient yn defnyddio’r Gwasanaeth Gofal Dydd ar hyn o bryd; ·
ni
all meddygon teulu gyfeirio unigolion at ofal dydd, ond maent yn eu cyfeirio at
y Tîm Adnoddau Cymunedol am asesiad o anghenion; ·
canolbwyntiwyd
yn bennaf ar wytnwch ac annibyniaeth yn hytrach na gofal dydd; ·
roedd
Llyw-wyr Cymunedol yn cyfeirio trigolion a allai fod yn unig; ·
roedd
y ganolfan yn amrywio ei defnydd, gan gynnwys rhagor o weithgareddau megis boreau
coffi a chlybiau cinio ar gyfer trigolion
War Memorial Court, i gynyddu potensial busnes; ·
roedd
darpariaeth cludiant ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a llwybrau wedi’u trefnu i
osgoi unrhyw oedi diangen; ·
pris sesiwn (bore neu brynhawn)
oedd £45 - £50 p'un a oedd y ffi honno yn cael ei thalu gan yr Awdurdod neu'n
breifat (fodd bynnag, nid oes unrhyw gleientiaid preifat) ac ·
roedd
cap o £90 yr wythnos ar ffioedd gofal cymdeithasol. Caiff fforddiadwyedd ei
fonitro a gall y ffioedd gael eu hepgor. Cydnabuwyd bod demograffeg Sir Ddinbych yn
newid a bod y Gwasanaeth yn esblygu i ddarparu ar ei gyfer. Byddai’r gwasanaeth
yn canolbwyntio ar ddull Canolfan Gymunedol yn y dyfodol, gyda’r bwriad o
leihau’r risg o arwahanrwydd cymdeithasol. Gan gyfeirio at y
gwersi a ddysgwyd o’r broses (para. 4.6), fe wnaeth y Swyddogion sicrhau’r
Pwyllgor mai problem weinyddol oedd achos yr oedi yn nhrosglwyddiad y pensiynau
gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd KL Care wedi cael eu derbyn gan
Gronfa Cynllun Pensiwn Clwyd a ni fyddai hyn yn cael effaith andwyol ariannol
ar staff. Croesawodd
Aelodau’r adroddiad gan awgrymu y dylid blaenoriaethu gwaith hysbysebu
cyfleusterau’r Ganolfan Ddydd, soniwyd am Lais y Sir a meddygon teulu yn
bennaf. Gofynnodd y pwyllgor i adroddiad gwybodaeth blynyddol, gan gynnwys
cyflwyniad gan KL Care, gael ei gynnwys yng nghynllun gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor Craffu Perfformiad. PENDERFYNWYD:
I.
derbyn yr adroddiad Trosglwyddo i
Ddarparwr Preifat - Canolfan Gofal Dydd - Hafan Deg a’r Asesiad o Effaith ar
Les cysylltiol; II.
y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r
Pwyllgor mewn 12 mis i adolygu darpariaeth y gwasanaeth ac y dylid adolygu
dogfen yr Asesiad o Effaith ar Les cyn y cyfarfod hwnnw. Gwahodd cynrychiolwyr o KL Care i’r cyfarfod
i gyd-gyflwyno’r adroddiad.
|
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn
am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol
y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Arholiadau
Allanol Dros dro ac Asesiadau Athrawon (para 4.8) – gohiriwyd yr eitem i
gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 28 Tachwedd oherwydd yr oedi yng
ngwaith Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data cysylltiol. Roedd 6 eitem
posibl ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Tachwedd
bellach. Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ystyried cynnal y pwyllgor dros ddwy
sesiwn (bore a phrynhawn) er mwyn trafod pob eitem ar y rhaglen. Cytunodd y
Pwyllgor i gynnal cyfarfod diwrnod llawn a gofynnwyd i Aelodau Arweiniol gael
eu gwahodd i fynychu'r eitemau sy'n berthnasol i'w maes cyfrifoldeb nhw. Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion (para 4.11) – Enwebwyd y Cynghorwyr Ellie Chard ac Arwel
Roberts i gynrychioli'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar y Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion. Cynghorwyd y
Grŵp bod y broses ar gyfer Herio Gwasanaeth wedi’i symleiddio gan leihau
cyfarfodydd sy'n ymofyn presenoldeb cynrychiolydd i un fesul Gwasanaeth. Roedd
disgwyl i strwythur gwasanaeth newydd gael ei ryddhau yn nes ymlaen yn y
diwrnod. Byddai’r Cydlynydd Craffu yn dosbarthu rhestr o’r gwasanaethau
diweddaraf i Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu yn gofyn am enwebiad i benodi un i
bob un. Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at atodiad 2 yn yr
adroddiad, ffurflen gynnig aelodau ar gyfer rhaglennu gwaith i'r dyfodol a
chynghorodd y byddai'n rhaid cyflwyno'r ffurflenni erbyn 24 Hydref i gael eu
hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar 31 Hydref. Tynnwyd sylw
Aelodau at yr adroddiadau amrywiol atodedig er gwybodaeth. PENDERFYNWYD: - yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Nid oedd unrhyw adborth i’w adrodd. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GOFAL IECHYD CEFNDY 2018/19 a CHYNLLUN BLYNYDDOL 2019/20 Ystyried
perfformiad y cwmni yn ystod 2018/19 a’i Gynllun Blynyddol ar gyfer 2019/20 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem fusnes nesaf yn cynnwys gwybodaeth
gyfrinachol ac yn dilyn hynny: PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A y Ddeddf. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad cyfrinachol
gan Reolwr Gwasanaeth Masnachol a Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol Gofal Iechyd
Cefndy (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys gwybodaeth
am berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2018-19 a’i gynllun busnes ar gyfer
2019-20. Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai pwrpas y busnes oedd “darparu cyflogaeth
ystyrlon a oedd yn talu’n dda, i aelodau difreintiedig y gymuned”. Disgwyliwyd y byddai colli Grant Cynhaliaeth Cyflogwr Trawsnewidiol yr
Adran Gwaith a Phensiynau, a arferai gael ei alw'n ‘Rhaglen Dewis Gwaith’, ym
mis Mawrth 2021 yn cael effaith andwyol ariannol ar Ofal Iechyd Cefndy. Roedd yr incwm o’r grant penodol hwn yn is
na'r disgwyl yn ystod 2018/19 oherwydd bod rhai aelodau staff a oedd yn derbyn
y grant wedi gadael y sefydliad. Fodd
bynnag, nid oedd yna unrhyw gynigion presennol i ddiwygio’r statws dim
cymhorthdal gan yr Awdurdod. Gyda’r bwriad o leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cholli cyllid yr Adran
Gwaith a Phensiynau, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor wedi cymryd
rheolaeth o Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Integredig ledled Gwent, menter
gymdeithasol a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan yn ardal Casnewydd, a weithredodd ar sail debyg i Ofal Iechyd
Cefndy. Drwy weithredu’r ddwy fenter, gallai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
leihau costau gweinyddu diangen wrth ehangu ei gynnyrch a photensial i
gynhyrchu digon o incwm i barhau i ddarparu cyflogaeth werthfawr, ystyrlon,
sy’n talu’n dda i unigolion difreintiedig ar sail niwtral o ran cost. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Cefndy:
·
rhoi gwybod bod Gofal Iechyd Cefndy yn adran o fewn
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, o ganlyniad, ni chaniatawyd iddo wneud elw
sylweddol neu ymgeisio am gyllid/buddsoddiad menter gymdeithasol; ·
egluro eu bod yn chwilio am gyfleoedd ychwanegol i
liniaru’r golled o ran cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys
dull darparu amgen ar gyfer y Gwasanaeth o bosibl. At y diben hwn, sefydlwyd Tîm Prosiect i
gefnogi’r gwaith ·
·
amcangyfrif bod 20 – 25 o gyflogwyr Gofal Iechyd Cefndy
yn drigolion Sir Ddinbych; ·
cadarnhau bod y swyddi yn cael eu gwerthuso a'u talu yn
unol â chynllun gwerthuso swyddi Sir Ddinbych; ·
cynghori bod croeso i blant anabl a phlant sydd wedi’u
hymddieithrio ymgymryd â phrofiad gwaith cyn belled nad oedd hyn yn ymyrryd â
chynhaliaeth y busnes; ·
rhoi gwybod bod Cefndy ar hyn o bryd yn derbyn Grant
Cefnogi Cyflogwr Trawsnewidiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ond y byddai’r
rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 20201; ·
cadarnhau eu bod yn ystyried y posibilrwydd o ymgymryd â
gwaith gweithgynhyrchu is-gontract e.e. darparu prosesau gorchuddio â phowdr i
fusnesau allanol ac ati. a ·
cynghori bod dulliau darparu amgen yn cael eu hystyried
ac y byddai’r rhain yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu maes o law. Diolchodd aelodau’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |