Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Jones, David Williams, Peter Scott a'r
Aelod Cyfetholedig, Kathleen Jones |
|||
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Cafwyd
datganiadau o gysylltiad personol ar gyfer eitem 5 ar y Rhaglen - Rheoli Cyrff
Llywodraethu Ysgolion. Ø
Ellie
Chard, Llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa Ø
Arwel
Roberts – Llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant Ø
Geraint
Lloyd-Williams - Llywodraethwr yn Ysgol Santes Ffraid Ø
Y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts -
Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras Ø
Hugh
Irving - Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn Ynghyd â: Ø
Aelod
cyfetholedig, Neil Chambers Roberts - Llywodraethwr yn Ysgol y Parc ac Ysgol
Cefn Meiriadog Ø
Aelod
cyfetholedig, David James Lloyd - Llywodraethwr yn Ysgol y Llys |
|||
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn sgil absenoldeb y Cynghorydd Huw Jones a oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad. Y Cynghorydd Hugh Irving, Is-Gadeirydd fyddai’n cadeirio’r cyfarfod. Anfonodd yr aelodau eu dymuniadau gorau am wellhad llwyr a buan i’r Cynhorydd Jones. |
|||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 406 KB
Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 13 Mehefin
2019. Tudalen 10 –
prosiect ‘mesur y mynydd’ – gwybodaeth a chysylltiadau â’r adroddiad
cenedlaethol yn y ddogfen atodol a ddarparwyd. PENDERFYNWYD: - dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad
a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 fel cofnod cywir. |
|||
RHEOLI CYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION. PDF 230 KB I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg (copi ynghlwm) ar Reolaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod mesurau arfaethedig i geisio sicrhau fod cyrff llywodraethol ysgolion yn effeithiol and yn cydymffurfio â deddfwriaeth 10.10am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad
y Rheolwr Cynllunio, Addysg ac Adnoddau ac atodiadau cysylltiol (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) a oedd yn amlinellu swyddogaeth y Cyngor wrth reoli Cyrff
Llywodraethu Ysgolion. Soniodd mai diben yr adroddiad oedd rhoi eglurhad ar gwmpas, cylch gwaith a
grymoedd yr Awdurdod mewn perthynas â sicrhau bod cyrff llywodraethu ysgolion
yn cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol, cyflawni eu dyletswyddau i lenwi seddi
gwag llywodraethwyr ysgolion, ac yn cydymffurfio â'r disgwyliadau statudol mewn
perthynas â pholisïau, cyllid a gweithdrefnau. Yn ystod ei ragarweiniad, tynnodd sylw aelodau at
y data yn yr adroddiad ar nifer y llywodraethwyr a chlercod a oedd wedi cwblhau
eu cyrsiau hyfforddi gorfodol. Er bod y niferoedd a oedd wedi cwblhau’r cyrsiau hyn yn ymddangos yn
gymharol isel ac y gallai fod yn destun pryder, gallai’r cyfraddau cwblhau
gwirioneddol fod yn uwch oherwydd mai Clerc y Llywodraethwyr ar bob ysgol
unigol a oedd yn gyfrifol am gasglu a chynnal y gofrestr ac felly roedd eu
cywirdeb yn agored i wall dynol neu esgeulustod. Roedd swydd Clerc y Corff Llywodraethu felly’n
hollbwysig gan eu bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr ac hefyd yn gyfrifol am
sicrhau fod llywodraethwyr yn cynnal ac yn cwblhau pob cwrs hyfforddi.
Dylai cofnodion data hyfforddi fod
yn fwy cywir yn y dyfodol gan fod nifer o fodiwlau hyfforddi ar gael rŵan
ar y porth ar-lein. Er
bod y ffigyrau presennol ar gwblhau cyrsiau hyfforddi yn destun rhywfaint o
bryder, roedd hefyd yn bwysig ystyried yr adborth eithriadol o gadarnhaol a
gafwyd gan Estyn yn dilyn eu harolygiadau diweddar o ysgolion yn y sir (Atodiad
2 yr adroddiad) lle na wnaed unrhyw argymhellion llywodraethu. Yn ogystal, roedd yr adborth a gafwyd gan
lywodraethwyr yn ystod digwyddiad hyfforddiant traws sirol yn gadarnhaol gyda
llywodraethwyr yn cydnabod fod pawb yn y maes Addysg ar hyn o bryd yn gweithio
o fewn cyfyngiadau llym ar y gyllideb. Wrth gyfeirio at erthygl ddiweddar yn y wasg leol
ynghylch pryderon a godwyd ynglŷn ag ansawdd llywodraethwyr ysgolion,
dywedodd yr Aelod Arweiniol bod llywodraethwyr yn gyffredinol yn gymwys wrth
gyflawni eu swyddi ac roedd digon o gefnogaeth ar gael ac roedd yn hygyrch i’r
rhai hynny a oedd yn teimlo bod ei angen arnynt. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelod Arweiniol, gwnaeth yr Aelod Arweiniol Addysg a Gwasanaethau
Plant, y Prif Reolwr: Moderneiddio
Addysg, a’r Rheolwr Addysg, Cynllunio ac Adnoddau: ·
cadarnhau fod cael clerc effeithiol i gorff llywodraethu
yn allweddol i sicrhau llwyddiant y corff llywodraethu a’r ysgol yn
gyffredinol. Gyda’r bwriad o wireddu’r hyfforddiant gorfodol hwn, roedd cyrsiau’n cael eu darparu i glercod
cyrff llywodraethu ar eu rôl a’u cyfrifoldebau, sut i gyflawni eu rôl a'r hyn
sy’n ddisgwyliedig ganddynt.
Roedd
disgwyl i bob clerc gwblhau eu hyfforddiant gorfodol o fewn 12 mis i gael eu
penodi; ·
nodwyd fod y ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyrff
llywodraethu ysgolion yn gymhleth. Er bod pob llywodraethwr yn wirfoddolwyr, roedd y
cyfrifoldebau a osodwyd arnynt yn gynhwysfawr, roeddent yn gyfrifol am sicrhau
bod eu hysgol yn cael ei llywodraethu a’i rheoli’n effeithiol. Pe baent yn methu,
byddai’n rhaid iddynt wynebu’r goblygiadau; ·
nodi bod swyddogaeth y Cyngor mewn perthynas â chyrff
llywodraethu ysgolion wedi ei amlinellu yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a
Gynhelir (Cymru) 2005. Roedd yr awdurdod yn darparu cefnogaeth i lywodraethwyr
drwy’r atebolrwydd cyfyngedig oedd ganddo ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion,
fel yr oedd GwE yn gwneud. ·
pwysleisiwyd bod cyrff llywodraethu ysgolion yn
sefydliadau ymreolaethol.
Er y gallai’r Cyngor drefnu hyfforddiant ar gyfer aelodau a chlercod cyrff llywodraethu a monitro perfformiad ysgolion, y cyrff llywodraethu oedd â grym cyffredinol mewn perthynas â gweithrediad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|||
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 224 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.15am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu
rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Cododd y
Cynghorydd Arwel Roberts y broblem barhaus o faw cŵn mewn parciau plant.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus ei fod yn
fater i’r gwasanaeth cynllunio a gwarchod y cyhoedd, a chydnabu y gallai'r
gwasanaeth fod wedi gwaethygu oherwydd y penderfyniad i roi'r gorau i
ddefnyddio ymgynghorydd allanol. Roedd yr Awdurdod
wrthi’n caffael asiantaeth debyg ond roedd hynny’n dal i fod ar y gweill. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Cynghorydd Roberts y dylai lenwi Ffurflen
Cynnig Aelodau yn gofyn i’r eitem ddychwelyd i’r pwyllgor craffu. Holodd y
Cynghorydd Martyn Holland pam fod y gofrestr risg ar y Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol Craffu a’r RhGD Llywodraethu Corfforaethol. Eglurodd y
Cydlynydd Craffu fod craffu perfformiad ond yn monitro’r agwedd berfformiad, a
fod llywodraethu corfforaethol ar y llaw arall yn sicrhau fod risgiau priodol
wedi eu cofrestru. PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|||
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 11.45am – 12pm Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am
11.52 |