Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Ann
Davies, Geraint Lloyd-Williams, Peter Scott a David Williams, ynghyd â’r Aelod
Arweiniol y Cynghorydd Bobby Feeley. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Amherthnasol Roedd y Cadeirydd
yn canmol y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau’r Amgylchedd a’i dîm am y gwaith
a wnaed ganddynt yn ystod y tywydd gwael diweddar a hefyd drwy gydol y
flwyddyn. Roedd y Pwyllgor a’r Prif
Weithredwr yn ategu ei werthfawrogiad. |
|
Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn fwrdeistrefol 2019/20 (copi o ddisgrifiad
rôl yr Aelod Craffu a’r Cadeirydd- Is-Gadeirydd ynghlwm) Cofnodion: Roedd y Cadeirydd
yn gofyn am enwebiadau gan y Pwyllgor ar gyfer swydd Is-Gadeirydd. Roedd y
Cynghorydd Hugh Irving wedi mynegi diddordeb mewn bod yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor am dymor arall ac wedi cyflwyno CV a ddosbarthwyd i aelodau’r
Pwyllgor. Cafodd y Cynghorydd Irving ei
enwebu a'i eilio ar gyfer y swydd, ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill ac
roedd y Pwyllgor yn unfrydol: PENDERFYNWYD: - penodi’r Cynghorydd Hugh
Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Diolchodd y
Cynghorydd Hugh Irving i’r aelodau am eu cefnogaeth.
|
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 405 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 (copi
ynghlwm). 10.05am – 10.10am Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019. Materion yn Codi
- Tudalen 10 -
Cyrff Llywodraethu Ysgolion – cadarnhaodd y Cadeirydd bod adroddiad ar Reoli
Cyrff Llywodraethu Ysgolion wedi’i drefnu ar gyfer cyflwyniad i gyfarfod nesaf
y Pwyllgor Craffu ar Berfformiad.
PENDERFYNWYD:- y dylid
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Berfformiad a
gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2018/19 PDF 227 KB Gofyn i’r Pwyllgor i graffu ar Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (copi ynghlwm) ar berfformiad
y Cyngor o ran darparu gwasanaethau gofal plant a gofal cymdeithasol yn ystod
2018-2019, cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae’r adroddiad hefyd yn darparu'r Cyngor
gyda chyfle i amlygu unrhyw faterion neu bryderon o ran perfformiad a allai
elwa o gael eu craffu ymhellach. 10.10am – 11am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr
adroddiad drafft (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi trosolwg gonest i’r
cyhoedd o ddarpariaeth gwasanaeth gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn ystod
2018-19 ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar asesiad y Cyfarwyddwr o ddarpariaeth
gwasanaeth a'r heriau gerbron cyn cyflwyno'r adroddiad i Arolygiaeth Gofal
Cymru (AGC). Roedd yr adroddiad, a
luniwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol y Cyngor, yn ofyniad statudol o dan Rhan 8 Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fwriadwyd i ddangos i'r cyhoedd fod gan
y Cyngor ddealltwriaeth glir o’i gryfderau, ac yn bwysicach na dim ei wendidau
a’r heriau o’i flaen. Wrth gyflwyno’r
adroddiad roedd y Cyfarwyddwr yn talu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad staff
ar bob lefel o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant. Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i gadw’r
adroddiad yn fyr ac yn hawdd i'w ddarllen, oherwydd yr ystod eang o wasanaethau
a ddarperir i bob grŵp oedran gan y Gwasanaeth roedd hyn yn hynod anodd
i'w gyflawni. Diolchodd y Cyfarwyddwr i
aelodau etholedig am y gefnogaeth barhaus a ddarparwyd i’r gwasanaethau gofal
cymdeithasol yn y sir a sicrhau nad oedd y gwasanaethau pwysig hyn yn cael eu
defnyddio fel arf gwleidyddol gan unrhyw un o’r grwpiau gwleidyddol. Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth yn methu bod yn bresennol yn anffodus oherwydd ymrwymiad
portffolio arall):
Tra ar yr olwg gyntaf, nad oedd hyn yn ymddangos yn gadarnhaol iawn roedd
yn bwysig cofio bod y rhain yn blant oedd wedi eu symud oddi wrth eu rhieni a’i
rhoi mewn gofal maeth ar gyfer eu diogelwch eu hunain. Roeddent felly yn mynd drwy brofiad trawmatig oedd yn achosi gofid
sylweddol iddynt. Roedd
lle yr oedd plant yn cael eu lleoli ar ôl cael eu symud oddi wrth eu rhieni yn
dibynnu ar yr amgylchiadau dros eu symud.
Weithiau byddai’n
briodol eu lleoli gydag aelodau o’r teulu neu gyda ffrindiau’r teulu, ar adegau
eraill byddai er eu budd pennaf i gael eu lleoli gyda gofalwyr maeth.
Roedd pob achos yn cael ei asesu yn
ôl ei deilyngdod, a’r penderfyniad yn cael ei wneud gyda budd pennaf y plentyn
mewn golwg. Nid oedd goblygiadau cost eu lleoliad byth yn
ffactor. Er nad oedd gan y Cyngor unrhyw gartrefi plant ei
hun, roedd yna nifer o gartrefi preifat yn gweithredu yn y sir ac roedd un
arall oedd yn bwriadu mabwysiadu dull newydd a ffres i ofalu am blant sy'n
derbyn gofal yn aros i weithredu ei drwydded;
•
dywedwyd
ei bod yn galonogol dweud bod cyllid trawsnewid Llywodraeth Cymru wedi’i
sicrhau yn rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru at ddiben sefydlu canolfan asesu
plant a datblygu gwaith Anableddau Dysgu.
Roedd Gogledd Cymru yn unigryw o ran nodi a sicrhau cyllid ar gyfer
datblygu gwaith anableddau dysgu; • cadarnhawyd bod proffil ‘diogelu’ ar draws y Cyngor wedi codi’n eithaf sylweddol yn y blynyddoedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
COFRESTR RISG GORFFORAETHOL PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r
Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y diwygiadau a wnaed i Gofrestr Risg
Corfforaethol y Cyngor. 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn cyflwyno Cofrestr
Risg Gorfforaethol i’r Pwyllgor yn dilyn ei adolygiad diweddar gan y Cabinet
a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol. . Ynghlwm i’r adroddiad oedd copi o’r gofrestr ddiwygiedig ynghyd â manylion
y newidiadau a wnaed fel rhan o’r adolygiad diweddar a’r fethodoleg sgôr
risg. Eglurodd yn ystod yr adolygiad
diweddar y penderfynwyd bod angen ystyried risgiau oedd yn gysylltiedig â
Brexit. Hefyd nodwyd bod ambell gam
angen ei gwblhau. Rhagwelir erbyn adeg
cynnal yr adolygiad nesaf byddai nifer o risgiau newydd neu rai wedi cynyddu
wedi eu hychwanegu at y gofrestr. Roedd y rhain yn cynnwys risgiau oedd yn ymwneud
â lefel iawndal a allai fod yn daladwy i gyn-berchennog safle Ysbyty Gogledd
Cymru a’r risgiau i’r Cyngor oedd yn ymwneud â’r dyletswyddau statudol arno o
dan ddeddfwriaeth newydd sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, roedd y
risg ddiwethaf hon yn ymddangos ar y Gofrestr Risg Gwasanaeth ar gyfer Addysg a
Gwasanaethau Plant. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion: •
gadarnhau
y byddent yn gwirio os oedd gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymestyn
i gynnwys aelodau corff llywodraethu ysgol ac os oedd y nifer o staff oedd wedi
cwblhau’r modiwl e-ddysgu Diogelu, Trais yn Erbyn Menywod a Diogelu Data
gorfodol wedi cynyddu o’r 59.8% a gofnodwyd yn Chwefror 2019. •
dywedwyd
bod Cytundebau adran 106 yn y Gofrestr Risg Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu’r
Cyhoedd ac roedd gwaith ar y gweill yn dilyn adroddiad Archwilio mewnol i
integreiddio Cytundebau Adran 106 mewn Prosiectau Cynllun Corfforaethol; a •
dywedwyd
bod darpariaeth cyrbau isel ar draws y sir yn ymddangos yn y Gofrestr
Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd. Ar ddiwedd y
drafodaeth: PENDERFYNWYD: - Ar ôl ystyried y newidiadau
i’r Gofrestr Risg Corfforaethol, ac yn ddarostyngedig i ddarpariaeth y wybodaeth
uchod, i dderbyn fersiwn diwygiedig o’r gofrestr. |
|
EFFEITHIOLRWYDD ASESIADAU EFFAITH AR LES (WIA) PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy'n adolygu
effeithiolrwydd dull y Cyngor i asesu effaith ei benderfyniadau a gofyn am farn
y Pwyllgor ynghylch sut gall Aelodau gefnogi herio a chraffu'r asesiadau
effaith hyn yn effeithiol. 11.40am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Swyddog
Cynllunio a Pherfformiad (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi diweddariad
i’r Pwyllgor ar weithredu ac effeithiolrwydd dull y Cyngor ar asesu effaith ei
benderfyniadau, gan ddefnyddio ei Asesiad o Effaith ar Les ar y wefan. Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd yr Aelod
Arweiniol y Pwyllgor bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi bod mewn
bodolaeth ers peth amser, fodd bynnag nid oeddent bob amser wedi bod yn
effeithiol neu’n ddarostyngedig i her neu archwilio digonol. Gyda chyflwyniad y Ddeddf Lles
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd Sir Ddinbych wedi gwneud
penderfyniad rhagweithiol i ddatblygu Asesiad o Effaith ar Les i gynnwys pob
agwedd o ofynion y Ddeddf tra'n parhau i ddiwallu gofynion deddfwriaethol
eraill, er enghraifft yr angen i gynnal Asesiad o'r Effaith ar
Gydraddoldeb. Wrth fabwysiadu’r dull
hwn, roedd y Cyngor wedi datblygu pecyn gwefan ar gyfer arwain adran i hwyluso
cynnal Asesiad o’r Effaith ar Les, dull a ystyriwyd yn arfer da gan Swyddfa
Archwilio Cymru. Drwy gynnal yr
Asesiad o’r Effaith ar Les yn defnyddio’r pecyn hwn, roedd gwybodaeth wedi’i
chyflwyno i’r cynghorwyr mewn ffurf hawdd i’w deall fyddai’n helpu’r broses
gwneud penderfyniad, tra byddai’n ofynnol i’r holl swyddogion ystyried yr
effeithiau ar holl amcanion lles a'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Roedd hyn yn sicrhau bod dull cyson yn cael
ei ddefnyddio i gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Les bob tro. Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw’r Pwyllgor
at y gwahaniaethau a sylwyd drwy ymgymryd â’r dull hwn, gan gynnwys
penderfyniadau gwell a her mwy effeithiol yr Asesiadau o Effaith ar Les. Er hynny, roedd yna le i wella ymhellach,
ac o ganlyniad y rheswm dros adolygu eu heffeithiolrwydd. Dywedodd yr Aelod
Arweiniol a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad bod yr Asesiadau o’r Effaith ar
Les a archwiliwyd fel rhan o’r adolygiad wedi bod o ansawdd amrywiol, rhai yn
dioddef rhagfarn gan yr awdur ac eraill yn amlwg ddim yn dechrau’n ddigon buan
yn y camau cynllunio ar gyfer y cynigion i’w hystyried. Roedd
gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gyda swyddogion i bwysleisio’r angen i
ddechrau’r Asesiad o’r Effaith ar Les yn fuan tra’n ffurfio cynnig neu brosiect
ac i barhau i’w ddiweddaru yn ystod ei oes.
Roedd hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â phrosiectau mawr yr oedd
y Cyngor yn bwriadu ymgymryd â nhw.
Roedd y broses Grŵp Cyfaill Beirniadol ar gyfer herio Asesiadau o’r
Effaith ar Les wedi profi’n arbennig o ddefnyddiol ac roedd yna gynlluniau i
adfer y broses hon yn ffurfiol wrth symud ymlaen. Roedd cefnogaeth aelodau etholedig ar gyfer
y broses yn allweddol ar gyfer llwyddo yn ogystal â’u rôl i herio’r Asesiadau
o’r Effaith ar Les a gyflwynwyd iddynt. Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddog Perfformiad: •
gadarnhau
nad oedd pob Asesiad o’r Effaith ar Les yn cael eu gwirio o ran ansawdd. Roedd y Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn dibynnu ar swyddogion i
gysylltu â nhw am gymorth a chyngor os oeddent yn cael anhawster cwblhau
Asesiadau o’r Effaith ar Les. Fodd
bynnag, mewn rhai gwasanaethau e.e. y swyddogion yn delio gyda’r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) roedd yna lefel uchel o arbenigedd cwblhau Asesiadau o’r
Effaith ar Les ac roedd swyddogion o bob gwasanaeth arall yn cael eu hannog i
weithio gyda’i gilydd lle bo’n bosibl i lunio Asesiadau o’r Effaith ar Les o
ansawdd uchel. •
cadarnhawyd
bod hawlfraint pecyn gwefan Asesiad o’r Effaith ar Les yn eiddo i Gyngor Sir
Ddinbych. Roedd nifer o awdurdodau lleol eraill wedi dangos diddordeb ynddo ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19 PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi
ynghlwm) sy’n cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer
2018-2019 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir, a gofyn i’r Pwyllgor benderfynu ac a
oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach i ymateb i unrhyw faterion sy’n ymwneud
â pherfformiad a amlygwyd yn yr adroddiad. 12.15pm – 12.45pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad yr Arweinydd
Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (dosbarthwyd eisoes) oedd yn cyflwyno
gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran cynnydd y Cyngor i gyflawni canlyniadau ei Gynllun
Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4, 2018-19.
I gydymffurfio â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 roedd yr
adroddiad hefyd yn manylu'r prosiectau Cynllun Corfforaethol a restrwyd ar
gyfer eu cyflawni yn ystod y flwyddyn 2019-20.
Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor bod yr
adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau ychydig yn gynt na’r blynyddoedd
blaenorol, roedd hyn oherwydd nad oedd cynghorau wedi eu gorfodi eleni gan yr
angen i gyhoeddi ystadegau’r Uned Data Llywodraeth Leol. Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio
Strategol yr aelodau bod y ddogfen cyflawniad blynyddol wedi’i chynnwys yn yr
adroddiad, canlyniadau’r arolwg preswylwyr, y wybodaeth ddiweddaraf ar raglenni
a phrosiectau a gyflawnwyd, ynghyd â chyfeiriadau at ddatblygiad cynaliadwy,
amrywiaeth a chynnydd gwybodaeth cydraddoldeb ac astudiaethau achos. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Prif Weithredwr, Arweinydd
Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad: •
bod y
graffiau yn Atodiad 3 wedi eu hailgynhyrchu o’r System Rheoli Perfformiad Verto
ac felly nid oeddent yn hawdd i’w dilyn na’u darllen mewn fformat printiedig; •
cytunwyd
nad oedd data ar gysylltedd band eang, yn arbennig o ran etholaeth Gorllewin
Clwyd yn galonogol, felly dyna'r rheswm bod y Cyngor wedi dynodi fel un o’i
flaenoriaethau corfforaethol bod cymunedau wedi eu cysylltu a mynediad i
nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau trafnidiaeth
da. Roedd gan holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru bryderon o ran cysylltedd
band eang a’i effaith posibl ar dwf economaidd, ffaith yr oedd Llywodraeth
Cymru hefyd wedi’i gydnabod. Oherwydd
hynny, roedd wedi’i nodi fel y prif flaenoriaeth o dan Fargen Dwf Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn cydnabod bod cysylltedd band
eang a chyflymder, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig yn bryder mawr gan fod
nifer o fusnesau bach wedi eu lleoli yn yr ardaloedd hyn oedd yn dibynnu ar
gysylltedd digidol a di-wifr; •
ymgymryd
â darparu gwybodaeth i aelodau ar sut fyddai llyfrgelloedd y Cyngor yn gallu
cefnogi preswylwyr, yn arbennig pobl hŷn a diamddiffyn, i ymgeisio am
fathodyn glas, a gwasanaethau eraill yn ddigidol. Roeddent hefyd yn cytuno i ddarparu gwybodaeth i’r pwyllgor ar y prosiect
Ynysiad Digidol. •
cadarnhawyd
er bod y Gofrestr Prosiect yn dangos ‘Gweithrediadau Ailfodelu Gwasanaeth
Gwastraff yn oren, roedd hyn oherwydd ei fod yn cynnwys gwaith cyfalaf i’w
wneud yn y depos. Roedd swyddogion yn hyderus y byddai’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu; a •
dywedwyd
bod gan y Cyngor bolisi clir o ran absenoliaeth mewn ysgolion a’r mater o
hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig. Er hynny, roedd gwahanol ysgolion yn defnyddio’r polisi mewn ffyrdd
gwahanol. Roedd Addysg a Gwasanaethau
Plant yn monitro’r sefyllfa hon yn agos.
Llongyfarchodd y
Cadeirydd y Tîm Cynllunio Strategol ar lunio dogfen wedi’i hysgrifennu’n dda
oedd yn hawdd i’w darllen ac yn llawn gwybodaeth. Hefyd gofynnodd gan fod enillydd y
gystadleuaeth i ysgolion i ddylunio logo ar gyfer Statws Cyfeillgar i Wenyn y
Sir wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar, i’r logo gael ei ddefnyddio yn y ddogfen derfynol
cyn ei chyhoeddi. Ar ddiwedd
trafodaeth y Pwyllgor: PENDERFYNWYD: - yn ddarostyngedig i’r
sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol, i dderbyn a chymeradwyo
perfformiad y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau a dyletswyddau cysylltiol fel
y manylwyd yn yr adolygiad perfformiad blynyddol 2018-19. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Cytunodd y Pwyllgor
i’r cais i ohirio cyflwyno’r adroddiad Enwi a Rhifo Stryd tan fis Tachwedd 2019
gan nad oedd swyddogion yn gallu mynychu ym mis Medi. Hysbysodd y
Cydlynydd Craffu yr aelodau na fyddai canfyddiadau’r Grŵp Gorchwyl a
Gorffen Defnyddio Plastig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. Roedd hyn oherwydd bod y Rheolwr Prosiect ar
gyfer y prosiect yn gadael y Cyngor yn y dyfodol agos a byddai angen swyddog
newydd i reoli’r gwaith a’i yrru ymlaen.
Cododd y
Cynghorydd Hugh Irving fater arall ynglŷn â gwaredu plastig. Mewn ymateb amlygodd y Cydlynydd Craffu bod
yna fodel gwastraff newydd yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Craffu ar
Gymunedau ar gyfer mis Medi. Roedd y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi cytuno y dylai adroddiad ar Reoli
Cyrff Llywodraethu Ysgolion gael ei gynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor ar gyfer Gorffennaf 2019. Roedd copi o
“ffurflen gynnig Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Roedd y Cydlynydd Craffu wedi gofyn i unrhyw
gynnig gael ei gyflwyno iddi hi. PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr uchod, y
dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
|
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Arwel Roberts ei bod yn bleser mynychu’r cyfarfod Gwasanaethau
Cyfreithiol, HR a Democrataidd ac roedd yn canmol y Pennaeth Gwasanaeth am ei
waith. Tynnodd y
Cynghorydd Hugh Irving sylw’r aelodau at yr adroddiad gwybodaeth ‘Eich Llais’
diweddaraf ar berfformiad y Cyngor yn delio gyda chwynion, oedd wedi’i gynnwys
yn y ddogfen ‘Briff gwybodaeth’ a ddosbarthwyd i Aelodau’r Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am
12.15pm |