Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniwyd
datganiadau o gysylltiad personol ar gyfer eitem 5 ar y rhaglen, Canlyniadau Arholiadau Allanol a
Wiriwyd ac Asesiadau Athrawon, gan y Cynghorwyr: ·
Huw Jones, llywodraethwr yn Ysgol Carrog ac Ysgol Caer
Drewyn ·
Ellie Chard, llywodraethwr yn Ysgol Tir Morfa ·
Hugh Irving, llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ·
Arwel Roberts, llywodraethwr yn Ysgol y Castell ac Ysgol
Dewi Sant ·
Emrys Wynne, llywodraethwr yn Ysgol Borthyn ·
Geraint Lloyd-Williams, llywodraethwr yn Ysgol y Santes
Ffraid ·
Huw Hilditch-Roberts fel llywodraethwr yn Ysgol
Brynhyfryd a rhiant i blentyn mewn ysgol yn Sir Ddinbych Ynghyd ag: ·
Aelod cyfetholedig, Neil Chambers Roberts, llywodraethwr
yn Ysgol y Parc ac Ysgol Cefn Meiriadog ·
Aelod cyfetholedig, David James Lloyd, llywodraethwr yn
Ysgol y Llys, Prestatyn |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 414 KB Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd
2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd
2018. Cywirdeb: Dywedodd yr
aelodau mai’r aelod cyfetholedig Neil Roberts a ddatganodd gysylltiad personol
gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol y Parc. Materion yn
Codi: Eitem 5 - Canlyniadau Arholiadau Allanol Dros Dro
ac Asesiadau Athrawon - Tudalen 12 - Cadarnhaodd y Cadeirydd bod llythyr wedi’i
anfon at Gymwysterau Cymru yn amlygu pryderon y Pwyllgor. Cadarnhaodd
hefyd bod ymateb wedi’i dderbyn gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru. Dywedodd Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc ei fod wedi derbyn ymateb gan Kirsty
Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynglŷn â phryderon y
Pwyllgor. Pwysleisiodd y Cyng. Hilditch-Roberts pa mor bwysig yw hi i dderbyn
ymateb i bryderon y Pwyllgor er lles plant Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD
– y dylid, yn amodol ar
yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad
a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU ALLANOL A WIRIWYD AC ASESIADAU ATHRAWON PDF 357 KB Derbyn gwybodaeth ynglŷn â
pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych yn arholiadau allanol 2018 (copi ynghlwm). 10.05 – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad ar y cyd
gan y Prif Reolwr Addysg ac Arweinydd Uwchradd GwE (a gylchredwyd ymlaen llaw)
a oedd yn cynnwys gwybodaeth a wiriwyd ar berfformiad disgyblion Cyfnod
Allweddol 4 ac ôl 16 ysgolion uwchradd Sir Ddinbych yn ystod arholiadau haf
2018. Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y canlyniadau dros dro
yng nghyfarfod mis Tachwedd 2018, roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at Brif
Weithredwr Cymwysterau Cymru yn mynegi pryderon yr aelodau ynghylch y cynnydd
sylweddol yn y trothwy i gyrraedd gradd ‘C’ yn arholiadau TGAU haf 2018, yn
arbennig yr arholiadau Saesneg, ac effaith andwyol hynny ar fyfyrwyr. Dosbarthwyd
copi o’r ymateb a dderbyniwyd gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru i’r
aelodau. Yn ei lythyr mae’r Prif Weithredwr yn mynegi bod pryderon tebyg wedi'u
codi gan GwE ac, o ganlyniad, bod adolygiad o’r graddio wedi'i gynnal. Daeth yr
adolygiad hwn i’r casgliad bod y trothwy wedi’i newid yn briodol ac felly nad
oes angen unrhyw gam gweithredu pellach. Dywedodd yr Aelod Arweiniol bod
swyddogion addysg a deiliaid portffolio addysg wedi derbyn ymateb tebyg gan
Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru, ac o ganlyniad, mae cyfarfod wedi’i drefnu
ar gyfer canol mis Chwefror rhwng Cyfarwyddwyr Addysg Gogledd Cymru, deiliaid
portffolio addysg, GwE a Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru i drafod dull
graddio arholiadau allanol yn y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd myfyrwyr yn y
dyfodol yn dioddef chwit-chwatrwydd mewn ffiniau graddau. Mae ymarferwyr addysg
yn derbyn y ffaith na fydd Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad pellach o
raddau 2018, ac felly maent yn benderfynol na fydd arholiadau’r dyfodol yn
destun cyfnewidioldeb o’r fath yn y ffiniau graddio. Cytunodd yr Aelod
Arweiniol gyda barn aelodau’r Pwyllgor o ran nad yw Cymwysterau Cymru yn
cydnabod effaith ei benderfyniad i weithredu cynnydd o’r fath yn y ffin ar
gyfer gradd ‘C’ ar fywydau a rhagolygon gyrfa nifer o fyfyrwyr. Bu i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, Prif Reolwr Addysg ac
Arweinydd Uwchradd GwE wneud y sylwadau canlynol: ·
Bu iddynt bwysleisio pa mor
siomedig yw swyddogion ac aelodau etholedig yn y ffaith nad yw canlyniadau 2018
a wiriwyd wedi newid er ymdrechion y rhanbarth i drafod y pryderon uchod gyda
chynrychiolwyr Cymwysterau Cymru, Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Llywodraeth
Cymru ac ati (mae copi o lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at yr
Aelod Arweiniol wedi’i gylchredeg i’r aelodau er gwybodaeth). Tra bod cynrychiolwyr CBAC wedi cwrdd â swyddogion
addysg, swyddogion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a deiliaid portffolio yn
Rhanbarth De-ddwyrain Cymru (rhanbarth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg) i drafod
pryderon tebyg, mae’r her yn cael ei harwain gan arweinwyr addysg gogledd Cymru
(rhanbarth GwE). ·
Bu iddynt gynghori, oherwydd eu
pryderon, eu bod yn archwilio darpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 mewn
perthynas â monopoli CBAC dros arholiadau allanol yng Nghymru i weld a oes modd
i ysgolion y sir gofrestru myfyrwyr i sefyll arholiadau a weinyddir gan fyrddau
arholi cyfrifol eraill. Cydnabuwyd mai dim ond CBAC sy’n gweinyddu arholiadau
drwy gyfrwng y Gymraeg. ·
Cadarnhawyd, pe bai ffin gradd
'C' arholiadau Saesneg haf 2018 wedi'i osod ar yr un lefel â'r flwyddyn
flaenorol y byddai 107 o ddisgyblion eraill yn Sir Ddinbych, neu 700 ar draws
Cymru, wedi cyrraedd gradd 'C'. Ymatebodd Aelod Arweiniol Addysg a swyddogion GwE
fel a ganlyn i gwestiynau’r aelodau: ·
Bu iddynt gadarnhau bod y bwlch ym mherfformiad bechgyn a
merched wedi cynyddu yn 2018, gyda mwy o ferched yn ennill Lefel 2 na bechgyn. Nid yw cymharu canlyniadau o un
flwyddyn i'r llall yn ystyrlon ar hyn o bryd oherwydd y newidiadau i ffiniau
graddau a nifer y pynciau sy’n cael eu harholi. · Dywedwyd bod arholiadau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Yn y fan hon (11.30
a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.40 a.m. |
|
Ystyried
perfformiad y Cyngor ar ddechrau 6ed Fframwaith Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 a’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu
llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol (copi ynghlwm). 10.50 – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Datblygu Seilwaith Cymunedol
adroddiad y Prif Lyfrgellydd ar berfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn
Chweched Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (a
gylchredwyd ymlaen llaw). Hefyd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad mae cynnydd
y gwasanaeth o ran datblygu llyfrgelloedd ar draws y sir yn ganolfannau
cymunedol. Bu i’r Cadeirydd a’r aelodau longyfarch y
gwasanaeth am eu perfformiad rhagorol wrth ddarparu yn erbyn y rhan fwyaf o'r
Hawliau Craidd a’r Dangosyddion Ansawdd (DA), fel y manylir arnynt yn adroddiad
Asesiad Blynyddol yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth
Cymru (gweler Atodiad 4 i’r adroddiad). Bu iddynt hefyd ganmol y Cyngor ar yr ystod o
wasanaethau a digwyddiadau a gynigir yn llyfrgelloedd y sir ar gyfer pobl o bob
oed, a werthfawrogir yn fawr iawn gan drigolion. Wrth ymateb i gwestiynau, darparodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata a’r Prif Lyfrgellydd y sylwadau canlynol: ·
Cadarnhawyd bod, yn debyg i wasanaethau eraill, cyllideb
y Gwasanaeth Llyfrgell wedi ei lleihau ac, o ganlyniad, nad yw wedi bodloni
DA19 (gwariant fesul 1,000 o’r boblogaeth ar ddeunyddiau darllen) o Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. ·
Dywedwyd
bod DA13 wedi ei fodloni’n rhannol (lefelau staff a chymwysterau) oherwydd bod
staff llyfrgelloedd y sir yn darparu ystod o wasanaethau llyfrgell a Siopau Un
Alwad. Er nad yw'r holl aelodau o staff hyn yn llyfrgellwyr
cymwys, mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir yn llyfrgelloedd y sir yn gofyn
am ystod eang o sgiliau ac mae swyddogion yn hyderus bod staff y gwasanaeth yn
meddu ar y sgiliau priodol i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Dywedodd y Pennaeth
Gwasanaeth eu bod yn edrych ar ddewisiadau i ddatblygu cymhwyster ar gyfer
staff y Gwasanaeth Llyfrgell a fyddai’n cefnogi datblygiad gyrfa o fewn y
gwasanaeth. Dywedwyd hefyd bod mwy o ddynion wedi ymgeisio am swyddi gyda’r
gwasanaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n groes i’r duedd hanesyddol. ·
Cadarnhawyd bod staff llyfrgell yn derbyn hyfforddiant ac
yn mynychu sesiynau gloywi sgiliau yn rheolaidd. Yn y dyfodol agos bydd staff yn
derbyn hyfforddiant ar y System Rheoli Llyfrgell a’r system Rheoli Perthynas â
Chwsmeriaid. Cynhaliwyd dwy gynhadledd staff yn ystod flwyddyn, a bu i bob aelod o staff
y Gwasanaeth Llyfrgell eu mynychu. ·
Ceir pum swydd llyfrgellydd proffesiynol yn y gwasanaeth
yn Sir Ddinbych. ·
Mae Coleg Llandrillo yn darparu cyrsiau lefel 3 a 7 mewn
sgiliau llyfrgell yn ystod y flwyddyn academaidd. ·
Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor wedi defnyddio
gwirfoddolwyr ifanc ers sawl blwyddyn bellach, a nod y cynllun hwn yw datblygu
sgiliau pobl ifanc. Defnyddir gwirfoddolwyr i ategu a chefnogi’r
ddarpariaeth, nid yn lle staff llyfrgell cyflogedig. Mae'r Cyngor yn cydnabod
bod ar bobl o bob oed eisiau rhoi o’u hamser i wirfoddoli, gyda nifer yn dymuno
darparu gwasanaethau gwirfoddol mewn llyfrgelloedd. O ganlyniad mae’r Cyngor yn
datblygu Strategaeth Wirfoddoli a Strategaeth Datblygu'r Gweithlu, gyda’r bwriad
o gefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a pheidio â chyfaddawdu rôl
staff hyfforddedig cyflogedig. Nod y Strategaeth Wirfoddoli fydd ychwanegu
gwerth at wasanaethau, nid arbed arian. ·
Mae’r mater o osod cosbau ariannol am fethu dychwelyd
llyfrau ar amser yn cael ei archwilio. Pe byddai’r arfer yn dod i ben yna byddai hynny’n cael
effaith ar incwm y gwasanaeth, felly byddai angen edrych ar gynlluniau
cynhyrchu incwm newydd. Yn ogystal, er mwyn sicrhau bod deunyddiau darllen
ar fenthyg yn cael eu dychwelyd byddai angen amnest o ryw fath. ·
Cadarnhawyd bod gan y gwasanaeth ymgyrch farchnata ar
waith ar nifer o lwyfannau’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. · Mae gan bob aelod a phreswyliwr rôl bwysig i’w chwarae o ran diogelu cynaliadwyedd tymor hir llyfrgelloedd y sir, drwy sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n rheolaidd a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD CENEDLAETHOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU AR REOLI GWASTRAFF YNG NGHYMRU PDF 302 KB Ystyried
adroddiad SAC ar 'Reoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol’, i
graffu ar y casgliadau ac ymateb Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor i
fynd i'r afael â materion a godwyd yn yr adroddiad (copi ynghlwm). 11.45 – 12.20 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy
cyd-adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu a Phennaeth Priffyrdd a'r
Amgylchedd (a gylchredwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno
adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru, sef Rheoli Gwastraff yng
Nghymru: Ailgylchu Trefol (Atodiad 1). Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr
Aelod Arweiniol bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi disgwyl mwy o gydweithio rhwng
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o godi cyfraddau ailgylchu
ac, yn sgil hynny, lleihau’r gwastraff a gludir i safleoedd tirlenwi. Roedd
Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud pedwar argymhelliad, y rhan fwyaf at sylw
Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ystyried y pedwar
argymhelliad ac mae ei sylwadau a’i ymateb i bob un wedi’u cynnwys yn yr adroddiad
eglurhaol. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i gwestiynau’r aelodau fel a
ganlyn: ·
Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyfle
i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall y costau sy’n amrywio o un awdurdod lleol
i’r llall mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff ·
Mae argymhellion yr adroddiad yn cefnogi model ailgylchu
gwastraff arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet ·
Disgwylir i Lywodraeth y DU ymgynghori yn y dyfodol agos
ynghylch diwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr y DU o ran deunydd pacio. Dan y system newydd arfaethedig byddai cost lawn rheoli
gwastraff deunyddiau pacio yn cael ei osod ar y busnesau hynny sydd wedi’u
defnyddio, gyda’r bwriad o roi pwysau arnynt i ddylanwadu ar ddyluniad deunydd
pacio ·
Mae’r llywodraeth yn archwilio a oes angen newid deunydd
pacio/labeli er mwyn egluro i’r cyhoedd pa ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu
a pha rai nad oes modd eu hailgylchu ·
Bydd trefniadau casgliadau â chymorth yn parhau yn ôl yr
arfer pan fydd model ailgylchu gwastraff newydd y Cyngor yn cael ei roi ar
waith. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn adolygu’r ddarpariaeth
hon yn y dyfodol agos i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio gan y trigolion
hynny sydd angen cymorth ·
Yn y gorffennol mae Sir Ddinbych wedi bod yn gyndyn o fabwysiadu
model glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu. Fodd bynnag, mae
pethau wedi newid dros amser a byddai symud at fodel glasbrint Llywodraeth
Cymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf yn fuddiol i Sir Ddinbych a’i thrigolion
oherwydd goblygiadau ariannol peidio â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru. Er nad yw mabwysiadu model glasbrint Llywodraeth Cymru yn
ofyniad statudol mae’r cymhellion ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd yn gwneud
y model hwn yn fuddiol i’r Cyngor ·
Roedd y Cyngor yn cytuno ag argymhelliad Swyddfa
Archwilio Cymru mewn perthynas â gwella dulliau meincnodi cost a pherfformiad
er mwyn sicrhau dull cyson at ddibenion dadansoddi data a chymharu ·
Byddai’r model ailgylchu newydd arfaethedig yn fwy cadarn
yn erbyn grym y farchnad na’r system ailgylchu bresennol. Tra bydd grym y farchnad wastad yn ffactor, bydd y model
newydd yn darparu cadernid ychwanegol i wasanaeth y Cyngor ·
I gychwyn, mae’r Cyngor yn cynnig
cynnal adolygiad o’i wasanaethau rheoli gwastraff o leiaf unwaith bob saith mlynedd,
sy’n cyd-fynd ag oes gyfartalog cerbydau gwastraff. Fodd bynnag, mae strategaethau Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU o ran rheoli gwastraff yn newid yn rheolaidd h.y. bydd
ymgynghoriadau yn cael eu cynnal yn fuan ynghylch cynllun dychwelyd ernes a
diwygio cyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran deunydd pacio ac ati. Yn dibynnu ar
ganlyniadau’r ymgynghoriadau hyn, mae’n bosibl y bydd ffocws a blaenoriaethau
rheoli gwastraff yn newid ·
Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn edrych ar faterion
yn ymwneud â dyluniad y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff newydd, gan gynnwys y
strategaeth addysg a chyfathrebu arfaethedig sy’n cael ei llunio cyn cyflwyno’r
gwasanaeth newydd · Gwneuthurwyr a’r llywodraeth ganolog sydd â’r pwerau i benderfynu ar y cynwysyddion ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL CRAFFU PDF 224 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am
adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion
perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Roedd copi o
“ffurflen gynnig Aelodau” wedi’i chynnwys yn Atodiad 2. Dylid cyflwyno unrhyw
gynnig i’r Cydlynydd Craffu. Mae Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i
chynnwys yn Atodiad 3 ac mae tabl gyda chrynodeb o benderfyniadau diweddar y
Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd wrth eu rhoi ar waith wedi’i gynnwys yn
Atodiad 4. Cadarnhawyd
dyddiad y cyfarfod nesaf, eglurwyd nad yw’r eitem arfaethedig ar Gartref Gofal
Preswyl Dolwen wedi datblygu digon i gyflwyno adroddiad arni i’r Pwyllgor yn
ystod cyfarfod mis Mawrth, ac felly bydd yr eitem yn cael ei rhoi ar raglen
arall yn y dyfodol. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Craffu bod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion yn cyfarfod yn y
prynhawn, a bod modd ychwanegu adroddiadau pellach i’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol yn dilyn trafodaeth. Mae rhestr o gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Grwpiau Her Gwasanaeth, ynghyd ag
atodlen o’r cyfarfodydd yn 2018-19, wedi’i chynnwys yn y “Briff Gwybodaeth”.
Dywedodd y Cyng. Geraint Lloyd-Williams nad yw’n gallu mynychu cyfarfod nesaf y
Grŵp Her Gwasanaeth y mae’n cynrychioli’r Pwyllgor arno. Yn dilyn
trafodaeth, cytunodd y Cadeirydd i fynychu’r cyfarfod ar ran y Pwyllgor Craffu
Perfformiad. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y
Cyngor. Cofnodion: Dywedodd y Cyng. Rachel Flynn ac Ann Davies eu bod wedi mynychu cyfarfod
Herio Perfformiad y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol. Bu iddynt fynegi pa mor addysgiadol
a ddiddorol oedd y cyfarfod. Mae copïau o gofnodion y cyfarfod Herio
Perfformiad hwn a chyfarfodydd Herio Perfformiad diweddar perthnasol eraill
wedi’u dosbarthu i’r aelodau fel rhan o’r 'Briff Gwybodaeth’.
|
|
Daeth y cyfarfod i ben am 13:10 p.m. |