Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatgan cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 142 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 19 Medi 2013 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2013. Datganodd y Cynghorydd Bill Cowie bryder eu bod yn derbyn y papurau Briffio
Gwybodaeth mor agos i’r cyfarfod. Yn bersonol byddai’n well ganddo dderbyn y
wybodaeth wrth iddi ddod i mewn fel bod amser i ystyried y wybodaeth yn hytrach
na’i chynnwys mewn un ddogfen a gyflwynir yn agos iawn i ddyddiad y cyfarfod. Fe gadarnhaodd y
Cydlynydd Archwilio, os ydi’r Pwyllgor yn dymuno derbyn y wybodaeth wrth iddi
ddod i mewn, y byddai’n gyrru’r wybodaeth yn y modd hynny. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2013
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd (copi ynghlwm) i ymgynghori gyda’r aelodau am amrywiaeth o opsiynau ar
gyfer moderneiddio, uwchraddio a gwella TCC a Thîm Cyswllt Tu Hwnt i Oriau
Gwasanaeth y Cyngor. 9.35 a.m. – 10.05 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe gyflwynodd
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith adroddiad (wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn ymgynghori â’r Aelodau ynglŷn â nifer o
opsiynau i foderneiddio, uwchraddio a gwella Tîm TCC a Galwadau Allan o Oriau
Arferol y Cyngor. Gofynnodd yr
Aelodau am adroddiad i'w diweddaru ar y cynnydd a wnaed gyda chynigion i
ddatblygu swyddogaeth TCC a Galwadau Allan o Oriau Arferol y Cyngor yn dilyn
cyfarfod ym mis Ebrill 2013. Fe wnaeth y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyflwyno’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a
Goruchwyliwr y system TCC i’r aelodau. Rhestrwyd 16
opsiwn posib yn atodiad cyfrinachol yr adroddiad. Roedd yr
opsiynau’n sicrhau y byddai gwasanaeth TCC yn parhau i redeg er bod y gyllideb
wedi’i chwtogi. Roedd costau rhedeg y gwasanaeth TCC yn 2010/11
wedi dod i £341k ond erbyn 2014/15 bydd y gyllideb yn cael ei chwtogi i £228k. Yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ogystal â’r Partneriaid oedd bod y
gwasanaeth yn dda ac yn werthfawr, ac felly roedd Sir Ddinbych eisiau rhedeg
gwasanaeth ar un ai'r un lefel neu hyd yn oed uwch, a hynny trwy wneud arbedion
ar yr un pryd. Roedd yna gyfle i wella’r gwasanaeth TCC ac i redeg
y gwasanaeth ar sail busnes. Ar hyn o bryd dim
ond mewn rhai ardaloedd o’r sir y ceir gwasanaethau TCC cynhwysfawr, a phrin
yw’r gwasanaeth TCC mewn ardaloedd eraill. Yn ystod nosweithiau a phenwythnosau, gyrrwyd galwadau’r ganolfan gyswllt
at y Tîm Galwadau Allan o Oriau Arferol yn ystafell reolaeth TCC a olygai fod
gan y staff ddwy rôl i’w chyflawni. Ymysg yr opsiynau oedd cymysgedd o syniadau i
wella’r gwasanaeth ac i ddarparu gwasanaeth i drefi sydd ar hyn o bryd heb
wasanaeth TCC. Roedd cynnig i ofyn i Gynghorau Tref gyfrannu at ddarparu’r cyfleusterau hyn. Cyflwynwyd
cynllun busnes Sir Ddinbych i fusnesau hefyd lle byddai’r cyngor yn cynnig
gosod TCC ar eu heiddo er mwyn creu incwm i’r Cyngor yn ogystal â gwarchod y
busnes a’u heiddo ar yr un pryd. Roedd yr opsiwn o noddi camerâu yn cael ei
ystyried hefyd. PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o’r
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i Eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail gan fod posibilrwydd o orfod datgelu
gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Adran 4 o Amserlen 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. RHAN II Codwyd y materion
canlynol yn dilyn trafodaethau: ·
Un o
brif ddefnyddwyr y gwasanaeth TCC yw Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r
Heddlu yn gwneud cyfraniad o £18k i bob Awdurdod Lleol. Penderfynwyd
ar y ffigwr sawl blwyddyn yn ôl. Nid yw’r Heddlu’n fodlon ail-drafod y
ffigwr ar lefel rhanbarthol nac ar lefel awdurdod lleol i gynyddu’r cyfraniad. Un
opsiwn yw defnyddio swyddogion sy’n gweithio i’r heddlu ond sydd “â
dyletswyddau ysgafn” i roi cefnogaeth i
staff TCC fel secondiad. ·
Argymhelliad
i lunio cynllun busnes tair blynedd o bosib a fyddai’n cynnwys archwiliad
mewnol i droi’r gwasanaeth yn wasanaeth sy’n gwneud elw. ·
O dan
y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 roedd dyletswydd ar y cyngor i leihau trosedd
ac anhrefn yn yr ardal, ond nid oedd ymrwymiad statudol i redeg gwasanaeth TCC. ·
Trafodwyd
y broblem gyda strwythur staffio’r gwasanaeth TCC - roedd dau aelod staff wedi
gadael yn wirfoddol ac roedd y swyddi heb eu llenwi. Roedd
hynny wedi gwneud arbediad o oddeutu £50-60k. Felly,
o ganlyniad i lai o staff roedd y rota 24 awr wedi bod yn anodd iawn i’w
weithredu. · Mae cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o’r opsiynau yn yr atodiad. Yn y dyfodol gall cydweithio â Chonwy ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAN 1 - GWAHODDIAD I'R WASG A'R CYHOEDD FYNYCHU'R RHAN HON O'R CYFARFOD |
|
DIWEDDARIAD YNGLYN A THRWYDDEDU TACSIS PDF 85 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ynglŷn ag effeithiolrwydd gweithdrefnau newydd trwyddedu yn dilyn gweithredu canfyddiadau adolygiad o faterion trwyddedu a gynhaliwyd gan Adran Archwilio Mewnol (gan bwysleisio’n benodol ar drwyddedau tacsi a chyfrifoldebau diogelu). 10.05 a.m. – 10.35 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith
adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i’r Aelodau o’r cynnydd a wnaed hyd
yma o adolygu’r swyddogaeth trwyddedu tacsis sy’n cynnwys gweithredu trefnau
mwy cadarn i ddiogelu’r cyhoedd, yn arbennig unigolion diamddiffyn yn ein
cymunedau. Cynhaliwyd
adolygiad trwyadl o’r gweithdrefnau trwyddedu a gymeradwywyd gan y Pwyllgor
Trwyddedu ym mis Mehefin 2013. Bellach mae’r swyddogion yn gweithredu’r
gweithdrefnau hyn. Yn ogystal â'r
adolygiad o weithdrefnau, roedd yna
adolygiad llawn hefyd o’r polisïau trwyddedu tacsi. Y
gobaith oedd adrodd yn ôl ar y polisi diwygiedig ym Mhwyllgor Trwyddedu mis
Rhagfyr 2013, er hynny, roedd y prosiect wedi bod yn fwy cymhleth na’r disgwyl
ac o ganlyniad gofynnir i’r Pwyllgor Trwyddedu yng nghyfarfod Rhagfyr i adolygu
pryd fyddai orau i adrodd yn ôl ar y polisi diwygiedig. Roedd gweithio
aml-asiantaeth wedi bod o fudd mawr.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych
wedi bod yn gweithio ar faterion gorfodi trwyddedau tacsi gyda Heddlu Gogledd
Cymru, VOSA a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dywedodd y Cynghorydd Bill Cowie ei fod wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor
Trwyddedu am fwy na 5 mlynedd a heb os roedd pethau wedi gwella. Gofynnodd
aelodau’r pwyllgor eu bod eisiau llongyfarch y staff sydd wedi bod yn rhan o’r
gweithdrefnau a’r broses gorfodi trwyddedau tacsi ar yr holl welliannau. Ni chafwyd
cydweithrediad estynedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ond cafwyd lefel
o gydweithrediad, ac roedd yr un yn wir am awdurdodau lleol eraill sy’n
gymdogion i’r sir. Roedd safon gyrru’r gyrwyr tacsi yn broblem a byddai’n rhaid cyfeirio at y
broblem hon. Roedd pob gyrrwr tacsi yn gorfod cymryd rhan mewn
“prawf gwybodaeth”. Yn ystod yr adolygiad o’r polisi, gweithredwyd
system pwyntiau cosb i gynnwys ymddygiad ac agwedd y gyrrwr. Roedd gyrwyr
wedi bod o flaen y Pwyllgor o ganlyniad i’r mater hwn. Ar hyn o bryd
nid oedd prawf ar gael i brofi sgiliau gyrru’r gyrrwr. Roedd esiampl
yn ddiweddar lle'r oedd gyrrwr tacsi’n gorfod mynychu cwrs ymwybyddiaeth gyrru
yn dilyn ei bresenoldeb mewn Pwyllgor Trwyddedu. Byddai'r pwyllgor hefyd
yn edrych i mewn i ryw fath o brawf gyrru er mwyn edrych ar sgiliau gyrru’r
gyrwyr ac yna adrodd yn ôl i’r Cydlynydd Archwilio. Roedd Archwiliad
Mewnol wedi cymryd rhan yn y broses o adolygu prosesau newydd. Felly,
roedd adolygiad archwilio yn ei le.
Byddai canlyniad yr adolygiad
yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ymhen amser. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, fod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r gwelliannau
a gyflawnwyd hyd yma. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45
a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am
11.00 a.m. |
|
DIWEDDARIAD AR Y STRATEGAETH YMYL PALMENTYDD ISEL PDF 110 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) ynglŷn â llunio’r strategaeth a threfn y cyngor ar gyfer darparu ymyl palmentydd isel yn y sir a’u perfformiad i gyflawni'r amcanion hyn. 10.45 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, adroddiad i’r Aelodau
(wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) ar y cynnydd o ddatblygu’r Strategaeth Ymyl
Palmentydd Isel, a sefydlu prif lwybrau mewn cymunedau, a blaenoriaethu
amserlen o osodiadau. O ganlyniad i newid mewn grant cyllido, nid oedd y fenter ymyl palmentydd
isel wedi symud yn ei blaen fel y disgwyl. Er hynny, roedd
cynlluniau ar y gweill i geisio ailddechrau’r broses o osod ymyl palmentydd
isel mewn modd strategol ar draws y Sir. Y cam cyntaf o’r broses
oedd datblygu polisi ac i adnabod prif lwybr e.e. rhwng canolfannau o boblogaeth
a chyfleusterau iechyd a hamdden, rhwng cyfleusterau gofal a llwybrau bws, o
feithrinfeydd dydd a thai lleol, ayb. Cafodd Cynllun y
Prosiect ei ddatblygu â'r Swyddog Cydraddoldeb Corfforaethol. Roedd Sir
Ddinbych yn ceisio gwella symudedd ar draws y sir. Y
bwriad oedd cynnal cyfarfod ar 5 Tachwedd 2013 rhwng y Rheolwr Adran: Rheolaeth
y Rhwydwaith (SM: NM) a budd-ddeiliaid, i gael sylwadau fel bod modd cyfeirio
at yr anghenion mewn dull cynaliadwy a chyda ffocws iddo. Yn
dilyn y cyfarfod, byddai’r SM: NM yn trafod y diweddaraf ar y cynllun â’r
Cynghorydd Bill Cowie. Yn ystod y broses
o ddatblygu ystadau tai newydd bydd y cyngor yn ymgynghori â’r datblygwr i
gynnwys rhagor o ymyl palmentydd isel o fewn y datblygiad. Y gost gyfartalog
i’r cyngor ar gyfer gosod palmentydd ymyl isel yw oddeutu £600. Mae’r ffigur
hwn yn cynnwys y gwaith gosod yn ogystal â’r amser a gymerir i osod y palmant ymyl isel. Dyrennir y
gyllideb gyffredinol o ddyraniad bloc presennol Priffyrdd.
Cadarnhawyd y
byddai angen cynnal dadansoddiad o fylchau unwaith y bydd y strategaeth yn ei
lle. Er bod y Ddeddf
Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cyfeirio at Briffyrdd, nid oedd wedi cael ei
herio ac roedd yna wastad risg y byddai'n rhaid i’r sir gyfiawnhau ei
hymrwymiad i gydymffurfio â'r Ddeddf, ac felly byddai'r ymdriniaeth yma'n
lleihau’r siawns o weithred bosib. PENDERFYNWYD yn amodol ar y wybodaeth uchod a bod
archwiliad yn cael ei wneud o anghenion palmentydd ymyl isel ar draws y Sir,
bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma. |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Rheoli Datblygu
(copi ynghlwm) i ganfod tueddiadau sy'n ymddangos neu bwysau fydd yn effeithio
ar allu'r cyngor i ddarparu eu blaenoriaethau corfforaethol o ran sicrhau
mynediad at dai o ansawdd da a datblygu’r economi lleol. 11.15 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith
adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn adnabod tueddiadau newydd neu
bwysau a fyddai’n effeithio’r ffordd y gweithredir blaenoriaethau corfforaethol
y Cyngor mewn perthynas â sicrhau mynediad i dai o safon a datblygu’r economi
leol. Gofynnodd yr
Aelodau am gopi o’r adroddiad yn dilyn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn y
Cyfarfod Archwilio Perfformiad ym mis Medi 2013. Gofynnwyd am
ffigurau i gymharu ar gyfer 2011/12, 2012/13 a 2013/14 (hyd yma) gan eu bod o'r
farn bod angen eglurhad dros y rheswm pam nad oedd Sir Ddinbych yn perfformio
ymysg y chwartel uchaf yng Nghymru mewn perthynas â'r amser a gymerir i benderfynu
ar geisiadau perchnogion tai o fewn cyfnod o 8 wythnos. Fe eglurodd
swyddogion fod perfformiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar
nifer o agweddau fel adnoddau staff, salwch, ceisiadau cymhleth ayb. Fe gadarnhaodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod ceisiadau cynllunio wedi eu
rhannu’n wahanol gategorïau. Yn ogystal â'r amser a gymerir i ddelio â’r
ceisiadau, roedd safon y penderfyniad dros gymeradwyo neu wrthod y cais hefyd
yn bwysig. Agwedd a fyddai’n dylanwadu ar yr amser a gymerir
i ddelio â chais gan berchennog tŷ yw os bydd rhaid cyflwyno’r cais i’r
Pwyllgor Cynllunio, neu os oes cais masnachol mawr dan ystyriaeth yna gallai
hyn arafu'r broses ar gyfer ceisiadau perchnogion tai am fod yr adnoddau'n cael
eu gyrru i rywle arall er mwyn gallu ymdrin â’r cais mawr. Roedd Swyddogion Cynllunio wedi cydweithio â datblygwyr ac asiantau ac yn
rhan o fforwm wedi’i sefydlu â’r nod o wella a symleiddio’r broses ceisiadau
cynllunio i’r unigolion perthnasol. Roedd y Swyddogion Cynllunio’n edrych trwy'r ceisiadau ac os oes angen h.y.
am gynllun diwygiedig yn hytrach na gwrthod y cais. Byddai’r swyddog yn
cysylltu â’r ymgeisydd i gael cynllun diwygiedig fel bod modd cymeradwyo’r cais
yn hytrach na’i wrthod, yn lle bod yr ymgeisydd yn gorfod gwastraffu amser yn
ail gyflwyno cais arall. Gallai’r broses hon gymryd mwy na’r 8 wythnos
wreiddiol ond byddai’n cymryd llai o amser na chyflwyno cais o’r newydd. Gall
gyfrannu at y broblem o’r amser a gymerir i gwblhau ceisiadau. Er hynny, yr
ymdeimlad yn gyffredinol oedd bod hyn gyfystyr â gwasanaeth o ansawdd gwell i
bawb yn y pendraw. Roedd y raddfa
amser o 8 wythnos yn statudol ar gyfer dibenion meincnodi o’i gymharu ag
awdurdodau lleol eraill. Agwedd arall i’r cynllunio oedd y gwasanaeth cyhoeddus o ofyn am drafodaeth
anffurfiol cyn cyflwyno'r cais cynllunio. Yn hanesyddol roedd
trafodaethau anffurfiol i’w cael yn rhad ac am ddim. Yn y
blynyddoedd diwethaf cyflwynwyd cynlluniau codi ffi am gyngor 'cyn cyflwyno’r
cais’. Yn achlysurol, os na fyddai’r
unigolyn yn derbyn cyngor 'cyn cyflwyno'r cais' gall olygu llawer o waith ar y
cais. Os cafwyd cyngor ‘cyn cyflwyno’r cais’ yna byddai
modd delio â'r cais yn gyflymach. Bydd y
cymorthfeydd ar gynllunio (sydd am ddim) ac a gynhelir unwaith bob pythefnos yn
parhau. Yn y Fforwm Datblygwyr ac Asiantau, trafodwyd y mecanwaith codi ffi a chytunwyd fod angen talu am wasanaethau’r
cyngor. Cadarnhawyd bod
gan bobl yr hawl i wneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol. Llywodraeth
Cymru oedd wedi penderfynu ar y costau ac nid oedd cosb ariannol ar gyfer cais cynllunio ôl-weithredol. Mae
Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu’r costau hyn yn y dyfodol. Nid oedd gan yr Adran Gynllunio bolisi neu ofyniad i fod yn gost niwtral. Roedd gan yr Adran gyllideb a ffrwd incwm. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn darparu llawer mwy o wasanaethau na cheisiadau cynllunio’n unig, h.y. y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r cyfleuster Rheoli Datblygiad. Roedd gan yr ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan Gydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
waith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ynglŷn â materion perthnasol.
11.45 a.m. – 12.05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn casglu
safbwyntiau’r Aelodau ar ‘Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol’ (RhGD): (i)
Ychwanegu’r
diweddariad ar yr adroddiad TCC i RhGD 1 Mai 2014. (ii) Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2013.
Gwahoddwyd y Cynghorwyr Hugh Irving a David Smith i fynychu fel Aelodau
Arweiniol. Cynghorydd Barbara Smith i fynychu ar ei liwt ei
hun. (iii) Ar hyn o bryd mae dwy eitem addysg ac un
eitem ar dipio anghyfreithlon ar gyfer cyfarfod 16 Ionawr 2014. Y
ddau Arweinydd Arweiniol, Cynghorwyr Eryl Williams a David Smith i fynychu. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr ychwanegiadau a’r cytundebau uchod, i gymeradwyo ‘Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol’. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn yr
wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor sy’n aelodau o Fyrddau a
Grwpiau'r Cyngor. 12.05 p.m. – 12.10 p.m.
Cofnodion: Cafwyd crynodeb
byr gan y Cynghorydd Richard Davies ar yr Her Gwasanaethau Cwsmer a Chefnogaeth
Addysg a fynychodd. Trafodwyd y pynciau canlynol. Addysg: ·
Roedd pob ysgol angen bod yn addas i’r pwrpas. Mae angen
cyfeirio at y lleihad mewn niferoedd a gweithio ar sut i leihau’r nifer o
leoedd yn weddill ac sydd ar hyn o bryd yn 21% yn uwch na tharged LlC. ·
Ysgol
Ffydd Newydd ·
Ystafelloedd
Dosbarth Symudol ·
Buddsoddi
mewn ysgolion hŷn ·
Buddsoddi
mewn ysgolion arbennig (yn arbennig oherwydd y risg gyda lleihad mewn niferoedd yn y dyfodol yn Ysgol Plas
Brondyffryn o ganlyniad i’r buddsoddiad diweddar yn Ysgol y Gogarth). ·
Roedd cynllun gweithredu yn ei le ar gyfer absenoliaeth
ac roedd hynny bellach yn gwella. ·
Darpariaeth
a thâl tuag at gludiant ôl 16. O
bosib byddai'n mynd allan i dendr y flwyddyn nesaf. Gwasanaeth
Cwsmer: ·
Roedd
yna wella parhaus ·
Herio
gwasanaeth Rheoli Cyswllt Cwsmer a'i fonitro trwy gydol y 12 mis nesaf. ·
Gwefan
newydd sy’n haws i’w defnyddio ·
Disgwylir
arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o
gwmpas £30K Adroddodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu cyfarfod
yn ddiweddar gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Trafodwyd y
risgiau o gwmnïau hyd braich. Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd-Williams a oedd modd
cyflwyno adroddiad i Archwilio ynglŷn â pherfformiad y cwmnïau hyn. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol, y byddai’n
cyflwyno’r mater i’r Tîm Corfforaeth Gweithredol (TCG) i drafod perfformiad y
cwmnïau hyd braich ac i benderfynu ar ba agweddau y dylai archwilio edrych arno
a phryd y dylid gwneud hynny. Byddai angen llunio rhestr lawn o’r holl gwmnïau
hyd braich. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams bod cwmni wedi dod at y Cyngor yn dangos
diddordeb mewn cynnal hanner marathon yn y Rhyl. Roedd yna hefyd bosibilrwydd o gynnal pedwar
digwyddiad enfawr ar draws y sir. Fe fynychodd y
Cynghorydd Gareth Sandilands y Grŵp Buddsoddi Strategol yn ddiweddar. Roedd
trafodaethau'r Grŵp yn cynnwys: ·
Dechrau’n
Deg ·
Rhaglen
Dai Gorllewin y Rhyl ·
Agor
Ffos Ail Ryfel Byd yng Nghastell Bodelwyddan Mynychodd y Cynghorydd Arwel Roberts gyfarfod o Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion (SSMG) yn ddiweddar a dywedodd
fod yr Arweinydd Arweiniol a'r Pennaeth Addysg wedi bod yn drylwyr iawn wrth
gwestiynu a herio’r unigolion a oedd yn cynrychioli’r ysgolion. Yr ysgolion a fynychodd oedd Ysgol Esgob Morgan,
Llanelwy - dyma ysgol hynod o hapus ac yn ysgol dda - ac Ysgol Gallt Melyd -
dyma ysgol dda iawn. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd 2013 a
bydd Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Brynhyfryd yn mynychu. Hysbysodd y
Cynghorydd Huw Jones yr aelodau o'i ymweliad â'r Rhyl ar ddydd Mercher 23
Hydref. Bu mewn cyfarfod ‘Ras Dynol’ i drafod y ras Etape. Roedd
y cwmni yn eiddgar i symud pethau ymlaen. Gwelodd gynrychiolwyr o gwmnïau yr Arena Digwyddiadau, y Llyn Morol a Phont y Ddraig ac maent wedi
dangos diddordeb brwd mewn trefnu digwyddiad o Gonwy i Brestatyn, o bosib yn
cynnwys rhedeg, beicio a sgiliau BMX.
Mynegodd y
Cynghorydd Bill Cowie ei bryder ar y pwynt hwn fod ystafelloedd dosbarth dros
dro yn broblem enfawr yn y sir. |
|
Daeth y cyfarfod I ben
am 12.00 p.m. |