Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Alan Hughes a gan Neil Roberts (Aelod Addysg Cyfetholedig).

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitemau 5, 6, 7 ac 8 ar y rhaglen:

 

Y Cynghorydd Ellie Chard – Llywodraethwr AALl yn Ysgol Tir Morfa a Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned yn Ysgol Christchurch

Y Cynghorydd Martyn Hogg – Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy

Y Cynghorydd Carol Holliday – Llywodraethwr Cyngor Tref/Cymuned yn Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Llywodraethwr AALl yn Ysgol Clawdd Offa

Y Cynghorydd Andrea Tomlin – gan fod perthynas agos ar y staff addysgu yn un o ysgolion uwchradd y sir. Hefyd, roedd yn adnabod aelod o Dîm Gwaith Cymdeithasol Addysg y Cyngor yn dda (eitem 6). 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 397 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18  Gorffennaf 2024 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.   

 

Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:

 

Tudalennau 11 – 12 ‘Adroddiad Diwedd Blwyddyn Cefndy 2023/24’: holodd yr aelodau a oedd y fenter wedi newid ei henw o Fentrau Cefndy i Cefndy ac a oedd ymweliadau’r cynghorwyr sir â’r safle gweithgynhyrchu wedi cael eu trefnu.    Dywedodd y Cydlynydd Craffu mai enw’r fenter ar y wefan oedd ‘Gofal Iechyd a Gweithgynhyrchu Cefndy’. Byddai tri dyddiad posibl yn ystod mis Tachwedd yn cael eu hanfon at  gynghorwyr cyn bo hir fel y gallant drefnu ymweliad â’r safle gweithgynhyrchu.

 

 

5.

DIWEDDARIAD AR DRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 411 KB

Derbyn adroddiad yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn bodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (copi ynghlwm).

 

10:10am – 10:40am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r Pennaeth Addysg, adroddiad ar y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Medi 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nod yr adroddiad yw rhoi diweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn bodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. 

 

Roedd y diweddariad yn canolbwyntio ar gynnydd y gwaith o roi diwygiadau ADY Llywodraeth Cymru ar waith, gyda’r nod o wella cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trosglwyddodd tîm addysg Sir Ddinbych yn llwyddiannus o’r hen system Anghenion Addysg Arbennig (AAA) i’r fframwaith ADY newydd. Roedd hynny’n cynnwys cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) oedd yn disodli’r datganiadau o AAA. Roedd y Cynlluniau Datblygu Unigol yn sicrhau dull mwy personol o gefnogi dysgwyr, oedd yn cyd-fynd â’r gofynion deddfwriaethol newydd a amlinellir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

 

Dywedodd y swyddogion fod yr holl staff oedd yn cefnogi myfyrwyr ag ADY wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr. Mae’r hyfforddiant wedi eu paratoi i ymdrin â’r prosesau newydd a sicrhau y gallant gyd-weithio’n effeithiol gydag ysgolion, rhieni a budd-ddeiliaid eraill. Hefyd, ymdrechwyd i wella cydweithrediad amlasiantaeth, yn enwedig gydag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i ddarparu dull mwy cyfannol o gefnogi dysgwyr.

 

Tynnodd y diweddariad sylw at sawl her a wynebwyd yn ystod y trawsnewid, yn enwedig o ran dyrannu adnoddau a bodloni’r galw cynyddol am asesiadau. Er hyn, roedd y swyddogion wedi bodloni terfynau amser hanfodol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r system newydd ar waith. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod y gwasanaeth yn monitro ac yn craffu’n barhaus ar gydymffurfiaeth ysgolion â gofynion y Ddeddf, fel yr oedd Estyn yn ei wneud. Ers y pandemig, roedd bron i hanner ysgolion y wlad wedi cael eu harolygu gan Estyn, ac o’r 26 a arolygwyd, dim ond un oedd wedi cael argymhelliad yn ymwneud â gwella darpariaeth gwasanaethau ADY.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, y swyddogion a’r Pennaeth Cynradd:

 

  • gadarnhau bod cynllun cyfathrebu cadarn ar waith i roi gwybod i rieni am y gofynion a roddwyd ar awdurdodau addysg lleol (AALl) ac ysgolion gan Ddeddf 2018 a sut oedd yr AALl ac ysgolion yn cynnig cyflawni’r dyletswyddau hynny. Roedd hyn yn helpu i reoli disgwyliadau. Roedd yr holl fanylion a’r wybodaeth am y gwaith a wnaed ar gael ar wefan y Cyngor.  Roedd llawer o gyfathrebu rhwng ysgolion lleol hefyd, oedd yn helpu i rannu gwersi a ddysgwyd, arfer gorau ac ati. Roedd hyn yn ychwanegol at waith rhanbarthol a chenedlaethol i rannu arfer gorau a chefnogi dull cyson ar gyfer y broses drawsnewid. Roedd yr holl ddeialog agored yn gwneud y broses rywfaint yn haws. 
  • er bod cyllid ar gael ar hyn o bryd tan mis Awst 2025 ar gyfer y 2 swydd athrawon ymgynghorol ADY, roedd y sefyllfa ariannol yn anodd i’r Cyngor cyfan a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o ran y cyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y galw am gefnogaeth ADY ar gynnydd, ond roedd yn rhaid i’r gwasanaeth flaenoriaethu’r holl anghenion addysgol a darparu ei wasanaethau o fewn y gyllideb oedd ar gael iddo.
  • cadarnhau bod y tîm addysg yn defnyddio dull amlddisgyblaethol i fodloni anghenion pob unigolyn. Ychwanegodd y Swyddog Cynhwysiant - Gweithredu ADY bod perthnasoedd gwaith agos gyda’r bwrdd iechyd a gwasanaethau plant i sicrhau bod anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni a phan fo’n bosibl, yn cael eu teilwra’n briodol i gefnogi eu hanghenion unigryw.
  • cytuno ag aelodau bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTU MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 227 KB

Derbyn adroddiad sy’n hysbysu’r pwyllgor ar y sefyllfa bresennol o ran presenoldeb Ysgol ac ymgysylltu ag addysg a’r ymateb a gymerwyd i fynd i’r afael â materion pan fo pryder yn bodoli ar lefel disgyblion unigol yn Sir Ddinbych (copi ynghlwm).

 

10:40am – 11:10am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r Pennaeth Addysg, adroddiad ar Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr Arweinydd Tîm / Swyddog Diogelu Gwaith Cymdeithasol Addysg, y Prif Reolwyr Addysg a Phennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych hefyd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth. Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa bresennol o ran presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn addysg a’r broses a ddefnyddir i ymdrin â materion pan fo pryder o ran lefel ymgysylltu disgybl unigol gyda’u haddysg. Roedd hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y mesurau a ddefnyddir i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ailgysylltu â’u haddysg. Roedd hefyd yn rhoi dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol i ymdrin â’r pryder yn genedlaethol. Roedd presenoldeb yn yr ysgol yn flaenoriaeth genedlaethol ac yn un o flaenoriaethau Estyn hefyd. 

 

Dywedodd swyddogion fod cyfraddau presenoldeb ysgolion ym mlwyddyn ysgol 2018/19 cyn y pandemig ar gyfer ysgolion cynradd yn 94.8% ac ysgolion uwchradd yn 93.7%. Yn y flwyddyn academaidd Medi 2023 i Fehefin 2024, roedd cyfartaledd presenoldeb cyfunol ar gyfer ysgolion cynradd / uwchradd yn 90.6%. Mae hyn wedi cynyddu o 89.2% dros yr un cyfnod yn 2022/23 ar draws Cymru. Yn Sir Ddinbych, roedd cyfanswm ysgolion cynradd / uwchradd gyda’i gilydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 / 2024 yn 89.9 %, sy’n cyfateb i 0.7 % yn llai na chyfartaledd Cymru. Yn genedlaethol, bu i 10.3 % o ddisgyblion gyrraedd y trothwy absenoldeb cyson o 10% o sesiynau wedi’u methu ar gyfer y flwyddyn academaidd, sydd unwaith eto’n welliant o 12.9% dros yr un cyfnod yn 2022/23. Roedd ffigwr Sir Ddinbych yn 15.2% dros yr un cyfnod yn 2022/23.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi. Roedd y Gwasanaethau Addysg yn parhau i ddatblygu cysylltiadau cymunedol cydlynol ar draws yr awdurdod i geisio ymdrin â’r duedd hon a chanolbwyntio ar berthyn cymunedol a mynediad at wasanaethau. Nod y dull hwn yw sicrhau bod gan blant fynediad at eu hawl i addysg llawn amser ond hefyd yn cael mynediad at wasanaethau sy’n ehangach na dim ond addysg yn unig. Fel rhan o hyn, roedd y gwasanaeth wedi datblygu strategaeth ymgysylltu â disgyblion sy’n defnyddio’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r rhaglen hon ac yn gosod cyfeiriad strategol clir ar gyfer y gwasanaeth.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol y swyddogion a’r Pennaeth:

 

·       egluro bod y polisi “amserlen lai” mewn addysg yn cyfeirio at sefyllfaoedd pan fo ysgolion neu leoliadau addysg yn lleihau nifer yr oriau neu ddyddiau y mae plentyn neu unigolyn ifanc yn yr ysgol, fel arfer oherwydd anghenion penodol neu broblemau ymddygiad. Weithiau roedd angen hyn i ymdrin â heriau disgyblion, a byddai’r amserlen lai ond yn cael ei defnyddio fel ateb tymor byr, dros dro i helpu disgybl ailintegreiddio i addysg llawn amser. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo defnyddio oriau llai yn y tymor hir neu’n barhaol. Y nod oedd cefnogi’r plentyn wrth ymdrin â’r problemau sylfaenol, megis heriau gydag ymddygiad, pryder, problemau iechyd neu anghenion addysgol arbennig.

·         rhoi sicrwydd na fyddai absenoldeb un plentyn, boed hynny’n wedi’i awdurdodi neu beidio, yn effeithio ar addysg plant eraill. Er hynny, byddai athrawon yn cefnogi myfyrwyr oedd wedi bod yn sâl ac wedi colli gwaith; byddai faint o gefnogaeth a roddwyd yn amrywio o un myfyriwr i’r llall ac yn dibynnu ar eu hanghenion. Os oedd yr absenoldeb yn gysylltiedig â salwch hirdymor, byddai ysgolion yn dilyn codau ac arferion sefydledig a osodir gan Lywodraeth Cymru. Ar lefel AALl,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

TRAWSNEWID CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 223 KB

To receive a report on the progress made to date in delivering the Welsh in Education Strategic Plan (WESP) in all the county’s schools in line with the Welsh Government’s vision for Welsh language provision (copy attached).

 

11:25am – 11:55am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â Phennaeth Addysg, adroddiad Trawsnewid Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Yr oedd Swyddog Datblygu CSCA yn bresennol i roi cefnogaeth ar agweddau technegol ar y Cynllun. Yr oedd yr adroddiad yn hysbysu’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed hyd yma yn y gwaith o gyflawni Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn holl ysgolion y sir yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth y Gymraeg; gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad yn dilyn trafodaeth ar adroddiad cynnydd ym mis Medi 2023 mewn perthynas â Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod gan y Cyngor weledigaeth ddeng mlynedd i gynyddu a gwella’r gwaith cynllunio o ran darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Mynegwyd hyn yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y Cyngor. Erbyn Medi 2032, dyhead Sir Ddinbych yw y byddai 40% o’r holl ddisgyblion saith mlwydd oed yn cael Addysg Cyfrwng Cymraeg. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau, er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae’r Cynllun yn nodi saith canlyniad a fydd yn cyfrannu tuag at yr uchelgais. Yr oedd gofyn i’r Cyngor gyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ar gynnydd y Cynllun hwn, a chynhwyswyd copi ohono yn atodiad i’r adroddiad.

 

Yr oedd y prif gynnydd o ran y Cynllun yn cynnwys gweledigaeth glir a chefnogaeth i ddatblygu prosiectau. Bu Tîm ymroddedig Cefnogi’r Gymraeg yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ardderchog i staff ysgolion yn Sir Ddinbych. Yr oedd gwybodaeth yn amlygu buddion dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar wefan CSDd. Hyd yma, mae 6 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi newid eu categori iaith ac wedi dod yn ysgolion T2, gan ymrwymo (dros gyfnod o ddeng mlynedd) i gynyddu faint o Gymraeg a addysgir yn yr ysgol, gyda’r dyhead o addysgu 50% o wersi drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd nifer yr hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n derbyn cefnogaeth arbenigol yn cynyddu.  Yn ogystal, yr oedd cydweithio agos yn digwydd gyda Thîm Ymgynghorol y Gymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn rhannu arferion da, ac yr oedd hyn yn datblygu’n dda.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, swyddogion a Phennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych:

 

  • gynghori bod Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg yn monitro’n rheolaidd y cynnydd a wneir parthed cyflawni CSCA. 
  • cadarnhau, fel y nodir ym Mharagraff 4.6 yr adroddiad, ei fod yn galonogol bod nifer y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg yn nwy o’r ysgolion cyfrwng Cymraeg mwyaf yn dechrau dychwelyd i’r lefelau a welid cyn Covid. Bu nifer o ffactorau’n gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd yn dilyn Covid. Y ffactor cyntaf: yn ystod y cyfnod clo nid oedd plant o aelwydydd di-Gymraeg a oedd yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu clywed na siarad yr iaith am gyfnod hir, felly teimlai’r teuluoedd na allent gefnogi addysg y plant, a dyma’u rheswm dros eu hanfon i leoliadau addysg cyfrwng Saesneg pan ailagorodd yr ysgolion. Ffactor arall oedd bod gweithgareddau cyn ysgol wedi cau o ganlyniad i COVID-19. Cafodd hyn effaith enfawr ar addysg Gymraeg, oherwydd mae’r saith mlynedd gyntaf o addysg unrhyw blentyn yn hanfodol, ac yr oedd colli addysg Gymraeg gynnar yn niweidiol iawn i addysg cyfrwng Cymraeg.  Er hynny, bu’r Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion, y Mudiad Meithrin, yr Urdd, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac ati, mewn ymgais i wrthdroi’r tuedd.  Yr oedd yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod y gwaith hwn bellach yn dechrau dwyn ffrwyth, a’r niferoedd sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn dychwelyd bron i’r lefelau a welid cyn Covid  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 226 KB

Derbyn adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn statudol ym mis Medi 2022. Mae’r adroddiad yn cynnig gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o werthusiadau ar draws ysgolion yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol hwn ac unrhyw effaith ar staff a dysgwyr (copi ynghlwm).

 

11:55am – 12:25pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â Phennaeth Addysg, adroddiad Cwricwlwm i Gymru (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Yr oedd ymgynghorwyr GwE hefyd yn bresennol i gefnogi staff y Gwasanaeth Addysg.  Nod yr adroddiad oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn statudol ym mis Medi 2022. Yr oedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o werthusiadau ar draws ysgolion yn ystod y cam gweithredu dechreuol a’r effaith ar staff a dysgwyr.

 

Manylai’r adroddiad ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu a gwreiddio’r Cwricwlwm newydd i Gymru mewn ysgolion cynradd ac ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd – beth oedd yn gweithio’n dda, meysydd i’w gwella a’r gwersi a ddysgwyd gan yr holl fudd-ddeiliaid yn ystod y cam gweithredu dechreuol.  Yn ogystal, yr oedd yn darparu gwerthusiad o’r broses weithredu dros yr holl gyfnodau allweddol, effaith y Cwricwlwm ar recriwtio a chadw staff, trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd gan benaethiaid, athrawon a staff ysgolion am eu profiadau o’r broses weithredu a manteision ac / neu anfanteision y Cwricwlwm newydd i ddysgwyr.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi dod yn statudol i’r holl ddysgwyr o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 ym mis Medi 2022. Yr oedd pob ysgol a lleoliad uwchradd wedi dechrau gyda’r Cwricwlwm i Gymru ym Mlynyddoedd 7 ac 8 erbyn mis Medi 2023.

 

Yr oedd pob ysgol wedi dylunio eu cwricwlwm yn unol â’r Pedwar Diben i fodloni gofynion gorfodol y Cwricwlwm i Gymru, a chynigir cwricwlwm cytbwys i fodloni anghenion pob dysgwr. Cafodd y broses o gyflwyno’r Cwricwlwm fesul dipyn mewn ysgolion uwchradd effaith wahanol i effaith y broses gyflwyno fyrrach mewn ysgolion cynradd, a bu arweinwyr ac ymarferwyr yn ymwneud â newid parhaus a sylweddol bob blwyddyn rhwng 2022 a 2026. Byddai Blwyddyn 9 yn dechrau’r Cwricwlwm newydd ym mis Medi 2024. Byddai dau gam gweithredu pellach yn dilyn wrth i’r dysgwyr hyn ddechrau’r cymwysterau 14-16 newydd yn 2025 a’r dysgwyr Blwyddyn 8 presennol yn 2026. Datblygwyd dogfennau crynhoi cwricwlwm gan bob ysgol a’u darparu i rieni a’r gymuned leol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd swyddogion fod cyflwyno’r Cwricwlwm newydd yn ddarn pwysig o ddiwygiad. Yn ogystal â newidiadau ADY, y gwaith a wnaed gyda Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) a gwaith adfer yn dilyn Covid, yr oedd wedi golygu llawer iawn o waith i’r Gwasanaeth Addysg a staff ysgolion. Fodd bynnag, yr oedd yr holl ysgolion wedi croesawu’r newidiadau a’r gwaith a oedd yn gysylltiedig â’r diwygio.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Swyddogion a chynrychiolwyr GwE:

 

  • ddweud bod y gwersi a ddysgwyd gan y sector cynradd wedi cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm yn y sector uwchradd, a phwysleisiwyd bod dull clwstwr o weithio wedi bod o gymorth mawr o ran y llwyth gwaith a oedd yn gysylltiedig â’r cyflwyno yn y sector uwchradd, yn arbennig cynllunio ar gyfer dilyniant. Fodd bynnag, yr oedd gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r sectorau cynradd ac uwchradd yn gweithio – e.e. y sector cynradd yn cymryd ymagwedd gyfannol at addysg a’r sector uwchradd wedi ei seilio fwy ar ddisgyblaeth.  Yr oedd cyflwyno’r Cwricwlwm newydd wedi herio’r gwasanaeth a’r ysgolion i feddwl am yr hyn yr oeddynt yn ei addysgu, pam, a sut yr oedd yn cael ei addysgu.  Yr oedd y Cwricwlwm newydd yn cynnwys llawer mwy o ddysgu ysgogol ac yn yr awyr agored, felly rhoddwyd mwy o sylw i ddefnyddio sgiliau a chynnwys yn y dysgu.
  • cadarnhau bod cyllid i ategu dysgu proffesiynol bob amser yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n ceisio adolygiad o raglen waith y Pwyllgor ac yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12:25pm – 12:40pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.

 

Hysbysodd y Cydlynydd Craffu aelodau’r Pwyllgor fod ganddynt raglen waith lawn yn eu cyfarfod nesaf ar 28 Tachwedd – byddai dwy o’r eitemau yn rhai sylweddol, sef ‘Recriwtio, Cadw a Chynllunio’r Gweithlu’ a’r adroddiad monitro ar ‘Ysgol Crist y Gair’.

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau hefyd bod Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol. Nid ychwanegwyd unrhyw eitemau i Gynllun Gwaith Pwyllgor Craffu Perfformiad.  Trefnwyd cyfarfod nesaf y Grŵp ar gyfer 25 Tachwedd. 

 

Yr oedd y ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ a ddosbarthwyd i aelodau’r Pwyllgor dros e-bost yn gynharach yr wythnos honno yn cynnwys adroddiadau gwybodaeth yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad yn ôl Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol y Cyngor, ‘Eich Llais’, a’r ‘Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig’.  Dywedwyd wrth yr aelodau, os oedd ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â pherfformiad y Cyngor ar ôl archwilio’r adroddiadau hyn, gallent wneud cais i’r Pwyllgor Craffu ymchwilio’n fanwl i unrhyw feysydd pryder.  Gellid gwneud hyn drwy lenwi Ffurflen Cynnig gan Aelodau, sydd ynghlwm yn Atodiad 2 adroddiad Rhaglen Waith Craffu. 

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  cadarnhau Rhaglen Waith y Pwyllgor, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Siaradodd yr Is-gadeirydd am gyfarfod diweddar y bu’n bresennol ynddo gyda chynrychiolwyr o’r Grŵp Adolygiad gan Gymheiriaid a fu’n ymweld â’r Awdurdod yn ddiweddar.

 

Penderfynwyd:  nodi’r adroddiad.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1pm.