Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelod
Cyfetholedig Addysg, David Lloyd. Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor fod Mr Lloyd
hefyd wedi penderfynu’n ddiweddar na fyddai’n ail sefyll i’w ail-ethol i Gorff
Llywodraethu un o ysgolion uwchradd y Sir. Felly, byddai ei gyfnod fel rhiant-
lywodraethwr ac fel eu cynrychiolydd cyfetholedig ar bwyllgorau craffu’r Cyngor
hefyd yn dod i ben ddiwedd mis Ionawr 2024. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Lloyd am
ei gyfraniadau yn ystod ei gyfnod fel cynrychiolydd cyfetholedig rhiant-lywodraethwr
cynradd ac uwchradd ar bwyllgorau Craffu.
Croesawodd y Pwyllgor Colette Owen i’w chyfarfod cyntaf
o’r pwyllgor craffu fel aelod cyfetholedig newydd yr Eglwys Gatholig ar
bwyllgorau craffu’r Cyngor. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan unrhyw
gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol yn
eitem 5, ‘Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad mewn Addysg’, yn eu
rôl fel llywodraethwyr ysgol: Y Cynghorydd Ellie
Chard Llywodraethwr Awdurdod
Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol Tir Morfa. Y Cynghorydd Bobby Feeley
Llywodraethwr AALl yn Ysgol
Stryd Rhos Y Cynghorydd Martyn Hogg Rhiant-lywodraethwr
yn Ysgol VP Llanelwy Y Cynghorydd Carol
Holliday Llywodraethwr Cyngor
Tref/Cymuned ar gyrff llywodraethu Ysgol Penmorfa ac Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd Alan Hughes Llywodraethwr
yn Ysgol Caer Drewyn Y Cynghorydd Paul Keddie Llywodraethwr
yn Ysgol Bryn Collen Y Cynghorydd Diane King Llywodraethwr
yn Ysgol Christchurch Neil Roberts Llywodraethwr
yn Ysgol y Parc Y Cynghorydd Gareth Sandilands Llywodraethwr AALl yn
Ysgol Clawdd Offa Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol
yn yr un eitem gan ei bod yn adnabod aelod o’r tîm sy’n darparu’r
gwasanaeth. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd,
eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys yn unol ag Adran
100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r
Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 372 KB Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023. Materion yn codi Eitem 6, y Diweddaraf ar Hunanasesiad Perfformiad y
Cyngor - wrth ymateb i ymholiad a godwyd am argaeledd gwybodaeth ar fesurau
cyrhaeddiad ysgol a sut yr adroddir arnynt yn y dyfodol, cytunodd y Pennaeth
Addysg i holi swyddogion Llywodraeth Cymru.
Penderfynwyd: y dylid cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir
o’r gweithrediadau. |
|
HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTIAD MEWN ADDYSG PDF 228 KB
Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwaith Cymdeithasol
Addysg (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r sefyllfa bresennol i aelodau o ran
presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn addysg.
Mae’r adroddiad hefyd yn ceisio barn y Pwyllgor ar y dull a ddefnyddir
gan yr awdurdod addysg lleol i gynyddu ymgysylltiad disgyblion mewn addysg. 10.10 am – 11.00 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Gill German adroddiad ar
Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad Mewn Addysg (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Eglurodd nad oedd lefelau presenoldeb yn yr ysgol wedi cyrraedd y
lefelau cyn y pandemig, felly roedd angen mwy o waith i wella ymgysylltiad a
lefelau presenoldeb. Rhoddwyd gwybodaeth ac
eglurwyd y mesurau i gefnogi disgyblion diamddiffyn i ail-ymgysylltu gyda’u
haddysg a dyfnhau dealltwriaeth o’r cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol wrth
ymdrin â’r lefel gyfredol o bryder yn genedlaethol. Roedd cyfraddau presenoldeb
dros y tair blynedd ddiwethaf wedi gostwng ar hyd a lled Cymru a’r cyfartaledd
cyffredinol ar draws awdurdodau oedd 88.9% Cynradd/Uwchradd wedi’u cyfuno.
Roedd dadansoddiad manylach o’r patrwm presennol yn Atodiad 3 ac roedd y
ffigurau hyn yn dangos bod ffigurau presenoldeb cyfartalog Sir Ddinbych yn 90.1%
yn ystod tymor yr hydref 2023 o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 91.3%. Roedd Gweinidog dros Addysg
a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddod â
Chymru yn unol â Lloegr ble mae absenoldeb cyson yn cael ei ddiffinio fel colli
10% o sesiynau hanner diwrnod (30 sesiwn) yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb
gyfredol o 20% o absenoldeb cyson sy’n gyfwerth â 60 sesiwn hanner diwrnod y
flwyddyn. Roedd Sir Ddinbych wedi
cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol
i ymdrin ag addysg ac ysgolion a’u cefnogi. Roedd gwaith wedi bod yn
cael ei wneud gydag ysgolion ar yr agwedd allweddol o deuluoedd oedd mewn
trafferthion â thai gwael, byw mewn tlodi neu’n ei chael yn anodd gyda’r
argyfwng costau byw, gan y byddai hyn yn cael effaith ar y plant. Byddai ymgysylltu ag ysgolion a theuluoedd
yn hollbwysig i wella presenoldeb.
Roedd swyddogion yn ymweld â theuluoedd mewn ymgais i ddeall pam nad
oedd disgyblion yn mynd i’r ysgol ac yn ymgysylltu â’u haddysg, roedd
cefnogaeth yn cael ei chynnig er mwyn annog ail-ymgysylltu a gwella lefelau
presenoldeb. Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r swyddogion: ·
Roedd ymyriadau’n hanfodol,
ond y prif anawsterau oedd nad oedd lefelau staff yn cynyddu i ymdopi â
chynnydd mewn galw a phwysau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid
ychwanegol ond roedd wedi bod yn anodd penodi.
·
Roedd ymyriadau’n amrywio o
un ysgol i’r llall hefyd gan fod presenoldeb da mewn rhai ysgolion, oedd cystal
os nad gwell na’r lefelau cyn y pandemig, ond roedd ar eraill angen cefnogaeth
ac adnoddau ychwanegol i wireddu gwelliannau.
·
Roedd gwaith ar y gweill
gyda theuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sy’n cael prydau
ysgol am ddim, ffoaduriaid, teuluoedd Sipsi, Roma a theithwyr, plant sy'n
derbyn gofal ac ati gan eu bod yn ddisgyblion â nodweddion diamddiffyn. ·
O ran y rhai sy’n cael
prydau ysgol am ddim, yn aml roedd gan y plant a theuluoedd hyn anghenion tai
ac roedd yn bwysig bod y plant yn dod i’r ysgol i fod mewn amgylchedd diogel ac
i gael un pryd poeth y dydd o leiaf. ·
Roedd gan lawer o blant
anghenion lles ac iechyd meddwl, ond nid oedd hyn yn esgus iddynt beidio â dod
i’r ysgol. Roedd rhai plant hefyd yn gofalu am aelodau’r teulu, felly roedd yn
bwysig bod eu hanghenion yn cael eu bodloni i’w galluogi i fynd i’r ysgol i
wella eu canlyniadau i’r dyfodol. Mae pob plentyn ar ei ennill o fynd i’r
ysgol. Roedd dull Un Cyngor ar waith er mwyn annog presenoldeb, ymgysylltiad a
lles disgyblion. Roedd hyn yn cael ei ymestyn i sefydliadau allanol hefyd,
hynny ydi ymarferwyr iechyd sy’n rhan o fywydau plant a’u teuluoedd/gofalwyr. · Roedd strategaeth gyfathrebu wedi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (11.30am), cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am. |
|
SAFONAU A PHERFFORMIAD Y GWASANAETH LLYFRGELLOEDD PDF 228 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Lyfrgellydd (copi ynghlwm)
sy’n amlygu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn erbyn Safonau
Cenedlaethol a cheisio sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â chynnwys yr
adroddiad. 11.15 am – 12.00 pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a
Threftadaeth, y Cynghorydd Emrys Wynne, adroddiad Safonau a Pherfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgelloedd (dosbarthwyd ymlaen llaw). Fel rhan o’i gyflwyniad, pwysleisiodd yr
Aelod Arweiniol fod y gwasanaeth wedi perfformio’n dda yn ystod 2022-23 ond
cydnabu fod ganddo bryderon am allu’r Gwasanaeth i gynnal y perfformiad uchel
hwn yn y tymor canolig oherwydd y sefyllfa ariannol yn y dyfodol. Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ynghylch perfformiad y
Cyngor yn erbyn 6ed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017-20 (wedi’i
ymestyn i 21-23) a’r cynnydd a wnaed i ddatblygu llyfrgelloedd fel mannau lles
a chadernid unigol a chymunedol. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â Gwasanaeth Llyfrgelloedd
Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, oedd yn dal o fewn y cyfnod Covid.
Ni ddisgwylir y bydd effaith y newidiadau arfaethedig ar berfformiad y
gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad yn glir tan fis Ebrill 2024 ar y
cynharaf. Disgwylir y bydd Safonau Cenedlaethol Newydd yn cael eu
sefydlu gyda chyhoeddiad 7fed Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru, sydd â dyddiad gweithredu arfaethedig o 1 Ebrill 2025. Cyflwynodd y Pennaeth Tai a Chymunedau, Liz Grieve y Prif
Lyfrgellydd newydd, Deborah Owen i’r Pwyllgor.
Cyn y trafodaethau, eglurodd y Pennaeth Tai a Chymunedau
nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at y toriadau i oriau’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych. Yna aeth ymlaen i amlinellu’r broses a ddilynwyd
i gynnal yr asesiad, gan bwysleisio bod y Cyngor yn perfformio’n dda dan y
safonau presennol. Roedd perfformiad wedi gwella’n fawr wedi i’r cyfyngiadau
Covid ddod i ben, er nad oedd y cyhoedd yn defnyddio cymaint ar gyfrifiaduron
yn y llyfrgelloedd ers y pandemig.
Roedd darpariaeth gwasanaeth eraill wedi cael eu haddasu i ymateb i
anghenion y cyhoedd wedi’r pandemig. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cadarnhaodd yr Aelod
Arweiniol a’r swyddogion:
Cadarnhawyd y byddai effaith y newidiadau i oriau agor llyfrgelloedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad 2024/25, roedd adroddiad 2023/24 yn seiliedig ar yr oriau agor a’r defnydd presennol. Holodd yr aelodau pam bod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 243 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol
y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu
ei raglen waith. Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar
gyfer 7 Mawrth 2024, gyda phedair eitem, a chyfarfod ar 18 Ebrill 2024 gyda 3
eitem. Roedd yr Atodiad yn cynnwys copi o ffurflenni Cynigion
Craffu’r Aelodau ac anogwyd yr aelodau i’w cwblhau os oedd ganddynt unrhyw
eitemau fyddai’n addas i graffu arnynt. Byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC) yn cyfarfod yr wythnos ganlynol i ystyried
unrhyw geisiadau a gafwyd. Yn eu cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd 2023, roedd
y GCIGC wedi ychwanegu un eitem at y rhaglen waith i’w hystyried ym mis
Tachwedd 2024, oedd yn ymwneud â ‘phrosesau a gweithdrefnau’r Cyngor ar gyfer
ymgeisio am gyllid grant gwerth uchel’. Roedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet yn Atodiad 3
er gwybodaeth. Roedd Atodiad 4 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ar
argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfodydd blaenorol. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at baragraff 4.8 yr adroddiad
oedd yn dangos y rhesymeg dros beidio â chyflwyno adroddiadau Monitro
Perfformiad y Cynllun Corfforaethol mor aml i’r Pwyllgor o hyn ymlaen.
Pwysleisiwyd mai dim ond adroddiadau Chwarter 1 a 3 oedd yn cael eu tynnu’n ôl.
Lluniwyd yr adroddiadau hyn er gwybodaeth i’r Pwyllgor ac nid oeddent yn cael
eu cyflwyno’n ffurfiol i’w trafod.
Byddai adroddiadau Chwarter 2 a 4 / adroddiadau Perfformiad Blynyddol yn
parhau i gael eu cyflwyno i’w trafod yn ffurfiol. Yn y cyfamser, pe bai’r
aelodau’n dymuno gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain ar berfformiad y Cyngor
wrth ddarparu gwasanaethau neu olrhain cynnydd prosiectau penodol, gallent
wneud hynny drwy ddefnyddio’r system rheoli perfformiad corfforaethol, Verto.
Gallai pob aelod ofyn am fynediad at system Verto. Ar ddiwedd y drafodaeth: Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys yr eitemau a ychwanegwyd
yn ystod y trafodaethau yn y cyfarfod, i gadarnhau Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor fel roedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN CYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth
ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau
amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd, y cynrychiolydd Craffu ar Fwrdd
Prosiect Marchnad y Frenhines, nad oedd y Bwrdd wedi cyfarfod ers cyfarfod
diwethaf y Pwyllgor. Rhoddodd y Cynghorydd Holliday, cynrychiolydd y Pwyllgor
ar Grŵp Her Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gwasanaeth Digartrefedd, drosolwg
o’r trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod Her Gwasanaeth diweddar. Roedd
amodau llety a’r costau cynyddol i gartrefu teuluoedd digartref yn rhan
allweddol o’r trafodaethau. Dywedodd yr Is-Gadeirydd nad oedd y Grŵp Craffu
Cyfalaf wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Roedd ei gyfarfod nesaf
wedi’i drefnu ar gyfer y diwrnod canlynol a chytunodd y Cynghorydd Sandilands i
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y trafodaethau yn ei gyfarfod ym mis Mawrth. Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm |