Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi eu
cyflwyno. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad personol ag eitem 5, ‘Gofal Brys ac Mewn Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – Rhanbarth Gogledd Cymru’ yn ei rôl fel gweithiwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel Arweinydd Tîm Adnoddau Cymunedol – Tîm Adnoddau Cymunedol. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r
Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw eitemau o natur frys cyn dechrau’r
cyfarfod. Ar y pwynt hwn fe
roddodd y Cadeirydd wybod i aelodau fod yna newid wedi bod yng nghydbwysedd
gwleidyddol y Cyngor o ganlyniad i ffurfio grŵp gwleidyddol newydd
Cynghrair Annibynnol Sir Ddinbych. Effaith
y newid mewn cydbwysedd gwleidyddol o ganlyniad oedd cyfansoddiad aelodaeth y
Pwyllgor. Roedd hyn wedi arwain at y
Cynghorydd Bobby Feeley yn gadael y Pwyllgor gyda’r Cynghorydd Merfyn Parry yn
dod yn aelod yn ei lle. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Cynghorydd Feeley am ei chyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor
a chroesawodd y Cynghorydd Parry i’w gyfarfod cyntaf. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2025 (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2023. Felly: PENDERFYNODD y Pwyllgor: y dylid
cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar
13 Chwefror 2025 fel cofnod cywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi tudalen 9,
Datblygiad Ysbyty’r Royal Alexandra – wrth ymateb i
ymholiad cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg fod
cyfnod caffael y cynllun cyflawni wedi llithro ychydig o ganlyniad i faterion
technegol, ond roedd gwaith yn parhau gyda’r bwriad o gwblhau’r cam hwn yn y
dyfodol agos. Er gwaethaf hyn, roedd
materion eraill wedi dod ymlaen yn foddhaol h.y. trafodaethau yn ymwneud â
pharcio ceir a threfniadau ar gyfer adleoli staff cyn yr ailddatblygu. Mae disgwyl i adroddiad cynnydd arall gael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2025. |
|
GOFAL BRYS AC ARGYFWNG: LLIF ALLAN O'R YSBYTY - RHANBARTH GOGLEDD CYMRU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, ochr yn ochr â’r
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro – Cymorth Cartrefi Gofal a Chomisiynu Gofal
Iechyd Parhaus a Chyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus (BIPBC), Gofal Brys ac Mewn
Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – adroddiad Rhanbarth Gogledd Cymru (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nod yr adroddiad oedd i ddarparu cyfrif/gwybodaeth
wedi’i ddiweddaru i bartneriaid yn ymwneud â’r gwaith cysylltiedig a wnaed ers
cyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru gyntaf a’r ymateb sefydliadol ar y cyd ym
Medi 2024. Hysbyswyd y Pwyllgor y canfuwyd ar y cyfan tra bod partneriaid yn deall ac
yn dangos ymrwymiad i wella llif cleifion o’r ysbyty, fod perfformiad yn parhau
yn hynod o heriol gydag effeithiau andwyol ar brofiad cleifion a gofal. Roedd
partneriaid yn parhau i weithio’n unigol a gyda’i gilydd i bennu a gweithredu
canllawiau eglur, lliniaru’r heriau a achosir gan lai o gapasiti
a chynnydd mewn gofal mwy cymhleth, a sicrhau bod effaith gweithgareddau’n cael
eu monitro, eu herio a’u cynyddu’n barhaus. Canfu’r adroddiad gwreiddiol fod graddfa’r oedi mewn rhyddhau o’r ysbyty
yng Ngogledd Cymru wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Rhwng
Ebrill 2023 a Chwefror 2024 bob mis roedd yna 334 o gleifion ar gyfartaledd a
oedd yn feddygol abl gyda’u rhyddhau yn wynebu oedi gyda chwblhau asesiadau y
prif achos dros yr oedi. Ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys Chwefror
2024, roedd cyfanswm y diwrnodau gwely a gollwyd oherwydd oedi wrth ryddhau yn
71,871 gyda chost blwyddyn gyfan yn gyfwerth â £39.202 miliwn. Roedd yr effaith
o ganlyniad ar lif cleifion o fewn ysbytai a’r system gofal brys ac mewn
argyfwng yn sylweddol, gydag amseroedd aros mewn adrannau brys a
throsglwyddiadau ambiwlans ymhell o gyrraedd targedau cenedlaethol. Yn Chwefror
2024 collwyd dros 8,000 o oriau ambiwlans oherwydd oedi wrth drosglwyddo ac
roedd amser aros ar gyfartaledd o fewn adrannau brys y Bwrdd Iechyd tua 8.5 awr.
Cafodd anawsterau gyda rhyddhau effaith hefyd ar allu sefydliadau partner i
fodloni anghenion rhai cleifion yn effeithiol, yn arbennig yng ngorllewin y
rhanbarth lle rhoddwyd cyfran sylweddol o gleifion mewn llety dros dro ar ôl
cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Tynnodd aelodau sylw at sawl rhan o’r adroddiad a thrafod y canlynol
ymhellach –
|
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd, y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a’r Gwasanaethau
Amgylcheddol, a’r Rheolwr Risg ac Asedau y Cyngor (copi yn atodedig) sy’n
ceisio adborth y Pwyllgor i gynorthwyo
llywio’r camau nesaf mewn perthynas
â’r prosiect i adnewyddu Pont Llannerch. 11am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghyd â Chyfarwyddwr Corfforaethol: yr
Amgylchedd a’r Economi, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y
Rheolwr Risg ac Asedau a’r Uwch Beiriannydd - Pontydd ac Adeiladu adroddiad i’r
Pwyllgor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau
ar brosiect Pont Llannerch. O ganlyniad i’r
cymhlethdodau’n ymwneud â’r pwnc penodol hwn, fe arweiniodd y Pennaeth
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol aelodau drwy gynnwys yr adroddiad. Hefyd croesawodd Bennaeth Cynhyrchu Dŵr Dŵr Cymru i’r
cyfarfod i ateb cwestiynau’r Pwyllgor ar eu gweithredoedd yn ardal y bont a sut
gall unrhyw gynigion effeithio ar y gweithredoedd hynny. Ar ôl i Bont
Llannerch ddymchwel yn ystod Storm Christoph ym mis
Ionawr 2021, mae’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol wedi bod yn gweithio
ar brosiect i adeiladu pont newydd.
Rhannwyd y prosiect yn dri cham:
Gwaith ar opsiynau, Dyluniad Manwl ac Adeiladu. Mae nawr wedi cyrraedd
diwedd cam y Dyluniad Manwl. Mae cam y dyluniad manwl wedi bod yn broses
gymhleth a hir ac wedi cyflwyno sawl her sylweddol. Y brif her fu ystyried y sylfeini sydd eu
hangen ar gyfer pont newydd. Mae’r
drafodaeth hon wedi bod yn gymhleth oherwydd bod Pont Llannerch wedi’i lleoli
uwchben dyfrhaen dŵr croyw a oedd o fewn haen o dywodfaen wedi’i
hindreulio ac oherwydd bod gan Dŵr Cymru safle echdynnu dŵr croyw yn
union wrth ymyl lleoliad yr hen bont.
Roedd y ddyfrhaen hon a’r safle echdynnu dŵr croyw yn darparu
dŵr i tua 85,000 o gartrefi yn y rhanbarth ac felly roedd y ddyfrhaen
dŵr croyw a’r asedau echdynnu dŵr yn hynod o bwysig i nifer o
gwsmeriaid Dŵr Cymru. O ganlyniad byddai angen i’r Cyngor sicrhau nad oedd
yn cyfaddawdu’r asedau hyn wrth adeiladu pont newydd. Dewiswyd dyluniad a ffefrir gan ddefnyddio sylfeini rafft oherwydd bod sylfeini rafft yn gweithio drwy ddosbarthu llwyth dros ardaloedd mawr o dir. Fodd bynnag roedd risgiau sylweddol yn dal i fodoli gan y byddai gwaith adeiladu yn golygu bod angen gosod dalennau dur - yn ei hanfod drilio i’r graig islaw lle byddai’r sylfeini’n cael eu gosod. Roedd y gwaith drilio yn peri risg o ran peryglu’r asedau. Roedd yr ymchwiliadau tir dros dro ar y cam arloesi yn pennu fod y tywodfaen hwn sydd wedi hindreulio rhwng 12 a 36 metr islaw lefel y ddaear ac mae’n ymestyn i fyny’r afon cyn belled â Rhuthun. Dangosodd ymchwiliadau tir pellach yn ystod cam y dyluniad manwl bod lefel y dŵr mor agos â 10 metr islaw lefel y ddaear. Roedd yna safon ar gyfer asesu dyfnder erydu disgwyliedig y bont ac roedd hyn yn dangos y byddai’r 10m o raean gwely’r afon yn y lleoliad hwn yn debygol o fod wedi erydu yn y dyfodol. Felly er mwyn diogelu pont newydd ac i sicrhau nad yw’n cael ei danseilio, byddai’n rhaid drilio / gosod y dalennau dur newydd a fyddai’n cynnwys y sylfeini rafft i’r ardal islaw lle mae’r sylfeini’n cael eu gosod, a byddai hyn yn treiddio i’r darn o dywodfaen sydd wedi hindreulio lle mae’r ddyfrhaen. Mae’n bosibl y byddai drilio i mewn i’r ddyfrhaen yn amharu ar ansawdd y dŵr ym mhwynt echdynnu Dŵr Cymru ym Mharc Llannerch. Byddai amharu ar y safle yn cyflwyno risg o golli cyflenwad ar gyfer 85,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru. Roedd tîm y prosiect wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru drwy gydol y Cam Dylunio Manwl, a safbwynt Dŵr Cymru oedd bod yr holl asesiadau risg wedi methu â darparu tystiolaeth addas na fyddai’r gwaith drilio’n peri ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn
i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Hysbyswyd aelodau nad oedd yna unrhyw newidiadau sylweddol i’r rhaglen
waith; roedd yna un eitem wedi ei threfnu ar gyfer cyfarfod mis Mai, sef
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Gallai ymholiadau gael eu gwneud i weld a fyddai Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2024/25 ar gael i’w gyflwyno yn y
cyfarfod nesaf. Cytunodd aelodau fod
ymholiadau i’w gwneud i’r perwyl hwn. Dywedwyd wrth yr aelodau fod
cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi ei drefnu
i’w gynnal ar 28 Ebrill 2025. Tynnwyd eu sylw at Atodiad 2 a oedd yn cynnwys ffurflen Cynnig Craffu’r Aelodau. Roedd angen
llenwi a dychwelyd y ffurflen hon os oedd gan
aelodau unrhyw bynciau yr hoffent iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys
ar raglen waith y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol.
Felly: penderfynodd y Pwyllgor:
yn ddibynnol ar yr uchod gadarnhau ei raglen waith fel y nodir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i
ben am 1.25pm. |