Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Terry Mendies, Arwel Roberts ac Elfed Williams, ynghyd â’r Cynghorydd Barry
Mellor - Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ar gyfer eitem rhif 6. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad personol
ag eitem rhif 5 gan ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC). |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024.
Felly: Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid
derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr
2024 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau. Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y
cofnodion. |
|
DATBLYGU YSBYTY BRENHINOL ALEXANDRA (YBA) Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd a chynlluniau ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, a cheisio adborth yr aelodau ar y cynigion 10:10am – 11:00am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg adroddiad ar Ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig ar gyfer
Conwy a Sir Ddinbych Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gareth Evans. Rhannodd yr adroddiad ddiweddariad ar
gynnydd ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. Pwysleisiwyd, er bod y prosiect yn cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd, roedd
y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr y Gwasanaeth Iechyd arno, ac
roedd yr Aelod Arweiniol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi llawer iawn o
amser ac ymdrech i wireddu’r prosiect. Y cynnig oedd darparu gwasanaethau
newydd ochr yn ochr â gwasanaethau cefnogi wedi’u symud a’u hehangu mewn
adeilad clinigol newydd. Byddai’r prosiect hefyd yn ceisio ailwampio adeilad
presennol yr Ysbyty fel canolfan gefnogi gyda rhai gwasanaethau cleifion yn
parhau e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Ffisiotherapi. Arweiniodd Cyfarwyddwr
Cymuned Iechyd Integredig BIPBC y Pwyllgor drwy’r
cyflwyniad gan dynnu sylw at gefndir a chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yma ar
y prosiect, yn cynnwys ei gwmpas, dyddiadau allweddol, strwythur llywodraethu’r
rhaglen a chyfleoedd i gydweithio. Roedd BIPBC yn dyheu am gael
datblygu’r safle, sydd â hanes hir. Cyflwynwyd achos busnes yn 2021, ond
oherwydd costau chwyddiant a achoswyd gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth y
Bwrdd Iechyd, megis y pandemig a materion daearyddol-gwleidyddol, nid oedd
digon o gyfalaf ar gael i ariannu’r gwaith a amlinellwyd yn yr achos busnes
hwnnw. O ganlyniad, cytunwyd ar Werthusiad o Opsiynau ar gyfer datblygiad
fyddai’n costio llai gyda Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2024. Yna,
cytunwyd i symud ymlaen gyda chwmpas y prosiect drwy gaffael dyluniad yn
arloesol, oedd wedi’i atodi at Achos Busnes Llawn 2021 a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru. Oherwydd cyfyngiadau ariannol,
bu’n rhaid ail werthuso cwmpas y gwaith. Roedd hyn yn golygu dyluniad oedd yn
blaenoriaethu darparu gwasanaethau newydd mewn adeilad clinigol newydd, llai.
Roedd hefyd yn golygu bod y Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu ailwampio adeilad
presennol Rhestredig Gradd ll yr Ysbyty fel canolfan
gefnogi. Hefyd, er mwyn lleddfu pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd a chefnogi’r
boblogaeth leol, roedd disgwyl i’r Bwrdd Iechyd ddarparu’r gwasanaethau
canlynol yn yr adeilad newydd: ·
Uned newydd ar gyfer Mân
Anafiadau ac Anhwylderau ·
Rhai gwelyau “Gofal yn
Agosach at Adref” ·
Mwy o gyfleoedd i
gydweithio â phartneriaid ar y safle Dan y cynlluniau diwygiedig,
byddai’r adeilad clinigol newydd yn cynnwys: ·
Uned Mân Anafiadau ac
Uned Mân Anhwylderau newydd er mwyn lliniaru’r galw ar Ysbyty Glan Clwyd a
gwasanaethu pobl yn nes at eu cartrefi ·
Tua 14 o welyau
cymunedol (yn dibynnu ar gyfyngiadau’r dyluniad), fel bod Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn gallu bodloni anghenion pobl leol ·
Gwasanaeth Radioleg
wedi’i symud a’i ehangu a gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mwy. Byddai’r adeilad presennol yn
cael ei ailwampio i gynnwys: ·
atgyweirio strwythur y
llawr a’r adeiladwaith allanol ·
ailwampio ardaloedd sy’n
wag ar hyn o bryd ·
isadeiledd trydanol a
gwresogi newydd ·
lleoli’r Trydydd Sector
gyferbyn â’r Tîm Cymunedol; ac ·
ailgyflwyno ac ehangu’r
gwasanaethau iechyd rhywiol, awdioleg ac orthoteg (yn
dibynnu ar gyfyngiadau dylunio ac ariannol). Cafodd y Pwyllgor wybod beth
oedd dyddiadau allweddol dangosol datblygu a darparu’r prosiect: ·
Ionawr – Ebrill 2025: Caffael (roedd y cam hwn ar y gweill yn barod) ·
Mawrth – Awst 2025: Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y safle ·
Mai 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo dyluniad yr adeilad newydd a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ·
Gorffennaf 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo’r adeilad presennol a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ·
Awst 2025: Diweddariad ar ddyluniad a chostau’r adeilad presennol
(RIBA 3) · Chwarter 1 2026: Dechrau cam adeiladu’r adeilad newydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN CLUDIANT RHANBARTHOL DRAFFT Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Trafnidiaeth a Thrafnidiaeth (copi ynghlwm) yn rhoi trosolwg o’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac fel rhan o’r ymgynghoriad sy’n ceisio barn y Pwyllgor ar ei gynnwys. 11:15am – 12:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Traffig a Chludiant, ynghyd â’r Prif Beiriannydd -
Diogelwch ar y Ffyrdd a Theithio Llesol a’r Rheolwr Cludiant Gweithredol y
Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn sôn am ddatblygiad parhaus Cynllun Cludiant
Rhanbarthol Gogledd Cymru, fyddai’n disodli Cyd Gynllun Cludiant Lleol
Gogledd Cymru 2015. Cydnabu’r
swyddogion bryderon aelodau’r Pwyllgor am faint yr adroddiad a’i gymhlethdod,
gan bwysleisio ei fod yn gynllun lefel uchel fyddai rhwng y cynllun cludiant
cenedlaethol a’r cynlluniau cludiant lleol. Yng Nghymru, roedd gofyn i bob un o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig lunio
Cynllun Cludiant Rhanbarthol (CCRh) ar gyfer eu
rhanbarth. Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu datblygiad Cynllun Cludiant
Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n cael ei ddatblygu gan Gyd-bwyllgor
Corfforedig Gogledd Cymru ar y cyd â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Roedd y
Cynllun wedi’i lunio gan Is-bwyllgor Cludiant y Cyd-bwyllgor Corfforedig, a
chynrychiolydd Cyngor Sir Ddinbych arno oedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant. Byddai Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru yn disodli Cyd
Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015 yn y pen draw. Er hynny, bydd y
Cynllun blaenorol yn parhau’n “fyw” nes bydd Cynllun Cludiant Rhanbarthol
Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i hynny
ddigwydd yn haf 2025. Diben y pedwar Cynllun Cludiant Rhanbarthol oedd helpu i gyflawni’r
uchelgeisiau yn Strategaeth Cludiant Cymru, Llwybr Newydd. Byddai Cynllun
Cyflawni Cludiant Cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth Strategaeth Cludiant
Cymru. Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu’r Cynllun Cyflawni Cludiant
Cenedlaethol a bydd yn darparu prosiectau cefnffyrdd, prosiectau rheilffyrdd a
pholisïau, prosiectau a mentrau cludiant o bwys cenedlaethol. Cafodd y Pwyllgor wybod bod ymgynghoriad ar y gweill ar y Cynllun Cludiant
Rhanbarthol Drafft a’i fod yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Fodd bynnag,
byddai copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael ar draws y rhanbarth mewn
llyfrgelloedd a siopau un alwad. Yn dilyn y cyflwyniad, trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol ymhellach –
·
Er y croesawyd y cynllun, codwyd cwestiynau am barcio, yn enwedig parcio ar
ymyl y palmant, gan fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwahardd yr arfer hwn.
Eglurodd y swyddogion fod hwn yn fater cymhleth, oedd yn cael ei gymhlethu
ymhellach gan y ffaith bod pobl ifanc yn parhau i fyw gartref yn hirach oedd yn
golygu bod mwy o geir ym mhob cartref. Nid oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd i
ddatblygu meysydd parcio preswylwyr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig symud
ymlaen i wahardd pacio ar droedffyrdd pan oedd y terfyn cyflymder 20 mya wedi’i roi ar waith yn llawn, roedd hyd yn oed wedi’i
gynnwys yn y Cynllun Cludiant Cenedlaethol ond nid oedd wedi nodi y dylid ei
gynnwys yn y cynlluniau rhanbarthol. Fodd bynnag, nid oes cynnig cadarn wedi’i
gyflwyno ar gyfer ei orfodi hyd yma. Gellid trafod y mater hwn drwy’r
Cydbwyllgorau Corfforedig pe bai’r aelodau’n gofyn iddo gael ei uwchgyfeirio atynt. ·
Yr heriau o ran teithio llesol, yn enwedig yn ardaloedd gwledig y sir. ·
Datblygiadau tai a’r angen i sicrhau bod digon o
gyfleusterau parcio ar gael. Roedd yr
aelodau’n teimlo y dylid amlygu’r broblem hon yn ymateb yr Awdurdod i’r
ymgynghoriad. Cadarnhaodd y swyddogion ei bod yn anodd weithiau dod o hyd i
gydbwysedd priodol rhwng digon o ddarpariaeth parcio mewn datblygiadau newydd
wrth annog teithio llesol hefyd. ·
Roedd parcio mewn rhai ardaloedd trefol ac
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn peri problemau mawr yn ystod y prif
dymor gwyliau. Roedd yr aelodau’n credu’n gryf bod angen dod o hyd i atebion
ymarferol. · Oherwydd maint y cynllun cludiant a’i gymhlethdodau, roedd yr aelodau’n teimlo y byddai o fudd i’r prosiectau a amlinellir yn Atodiad B fynd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12:00pm – 12:20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn
i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Cafodd yr aelodau wybod y
byddai cyfarfod anffurfiol ar y cyd rhwng y Pwyllgor â Phwyllgor Trosolwg a
Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 18 Mawrth
i drafod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych ar y cyd. Roedd
adroddiad archwilio’r Gwasanaeth wedi cael ei drafod gan Bwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio Sir Ddinbych, oedd wedi awgrymu y dylai’r Pwyllgor Craffu
Partneriaethau fonitro ei Gynllun Cyflawni. Gan fod hwn yn wasanaeth ar y cyd
rhwng Conwy a Sir Ddinbych, penderfynwyd cynnal cyfarfod ar y cyd at y dibenion
hyn. Roedd yr adroddiad archwilio gwreiddiol wedi cael ei ddosbarthu i
aelodau’r Pwyllgor fel rhan o’r ddogfen Briff Gwybodaeth yn gynharach yn yr
wythnos ac fe’i hanogwyd i’w darllen cyn y cyfarfod ar y cyd. Byddai’r cyfarfod nesaf ym mis
Ebrill yn cynnwys dwy eitem: diweddariad ar gynnydd o ran adroddiad Archwilio
Cymru ar ‘Ofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty’ ac adroddiad yn adolygu
rheoli’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Cafodd yr aelodau wybod nad
oedd yr eitem hon yn gysylltiedig â’r model gwastraff newydd. Dywedodd y Cydlynydd Craffu
hefyd fod dwy eitem wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor o gyfarfod diwethaf y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC). Roedd un wedi cael ei
thrafod yn y cyfarfod hwn, sef y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Roedd y llall yn
ymwneud â dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Roedd y GCIGC wedi ystyried adroddiad
gwybodaeth am y pwnc hwn ac roeddent yn fodlon bod gan y Cyngor afael gadarn ar
ffyrdd o ymdrin â’r newidiadau arfaethedig ar hyn o bryd. Er hyn, gan fod
canllawiau Llywodraeth Cymru wrthi’n cael eu datblygu, teimlwyd y byddai’n
ddoeth i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau archwilio’r mater yn fanwl yn y
cyfarfod ddechrau 2026. Cafodd yr aelodau wybod bod
cyfarfod nesaf y GCIGC wedi’i drefnu ar gyfer 10 Mawrth 2025. Tynnwyd eu sylw
at Atodiad 2, oedd yn cynnwys ffurflen Cynnig Craffu’r Aelodau. Roedd angen
llenwi a dychwelyd y ffurflen hon os oedd gan aelodau unrhyw bynciau yr hoffent
iddynt gael eu cynnwys ar raglen waith y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol. Felly: Penderfynodd y Pwyllgor: yn
amodol ar gynnwys adroddiad ar gynnydd datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra
i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2025, cadarnhau ei raglen
waith fel y nodir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau
a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd y Cynghorydd Feeley, y cynrychiolydd Craffu ar Fwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl, y Ganolfan Is-ranbarthol Asesu Plant wedi gallu aros drwy gydol y cyfarfod. Yn ei habsenoldeb, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y prosiect. Roedd Bwthyn y Ddôl bellach ar agor. Roedd y ddarpariaeth 4 gwely (arhosiad byr therapiwtig) wedi cael cymeradwyaeth Arolygiaeth Gofal Cymru ac roedd bellach wedi’i gofrestru i ddarparu gwasanaeth. Bu’n rhaid gwneud gwaith ychwanegol o ran y ddarpariaeth frys 2 wely er mwyn iddo fodloni’r meini prawf ar gyfer cymeradwyaeth yr Arolygiaeth. Roedd hyn wedi’i gwblhau erbyn hyn a rhagwelwyd y byddai’r Arolygiaeth yn cymeradwyo’r cofrestriad gyda hyn. O’r herwydd, gan fod y gwaith o gyflawni’r prosiect yn tynnu tua’r terfyn, roedd y Bwrdd Prosiect wedi camu i lawr. Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm |