Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau.  Roedd Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes a Swyddog Monitro yn bresennol fel cymorth corfforaethol.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Kelly Clewett ddatgan cysylltiad personol ag eitem busnes rhif 6, ‘Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2021/22’, yn rhinwedd ei swydd fel Arweinydd Tîm Adnoddau Cymunedol Dinbych (CRT) ac fel gweithiwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm).

10.05am – 10.10am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022. 

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

Nid oedd materion yn codi o gynnwys y cofnodion.

 

 

5.

DARPARU CONTRACT GWASANAETHAU GORFODAETH AMGYLCHEDDOL pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Dros Dro Priffyrdd, a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau’r aelodau ynglŷn â’r statws presennol a chyfeiriad arfaethedig gwasanaethau gorfodi amgylcheddol ar draws y sir yn y dyfodol.

 

10.10am – 10.45am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Rheolwr Dros Dro Gwastraff ac Ailgylchu. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar gynnydd y trefniant hwn drwy gontract allanol ar ddiwedd cyfnod y contract, ac mae’n manylu ar y trefniadau arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth barhaus y gwasanaethau hyn ar draws ardal Sir Ddinbych, gan amlygu’r risgiau i’r trefniant hwn drwy gontract allanol a sut mae’r risgiau hynny yn cael eu rheoli. Eglurodd yr Aelod Arweiniol, er y gallai'r penderfyniad i ddyfarnu'r contract fod wedi'i wneud gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, dan bwerau a ddirprwywyd iddo, roedd Pennaeth y Gwasanaeth a'r Aelod Arweiniol yn awyddus i ofyn am farn yr aelodau ar fanylion y contract, yn enwedig y diwygiadau arfaethedig i'r contract.

 

Fe wnaeth y darparwr gwasanaeth ddarparu patrolau gan swyddogion Gorfodi Amgylcheddol ledled y sir (tir â mynediad cyhoeddus) er mwyn codi ymwybyddiaeth a chyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig (RhCB) ar gyfer troseddau amgylcheddol lefel isel. Roedd mwyafrif y troseddau yn ymwneud â thaflu sbwriel a thorri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Sir Ddinbych (Rheoli Cŵn). Fe wnaethant hefyd roi Rhybuddion Cosb Benodedig am droseddau amgylcheddol eraill gan gynnwys gosod posteri'n anghyfreithlon a graffiti a gorfodi deddfwriaeth ddi-fwg. Roedd y darparwr gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ystod o gymorth swyddfa gefn mewn perthynas â Rhybuddion Penodedig, gan gynnwys rheoli cyfraddau taliadau a pharatoi ffeiliau achos ar gyfer erlyniadau posibl (am beidio â thalu Rhybuddion Cosb Benodedig a cherdded i ffwrdd heb dderbyn y ddirwy).  Mae hefyd yn ofynnol iddynt fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cwynion a sylwadau gan y cyhoedd.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod am amrywiadau’r contract, sef -

 

Daeth tri amrywiad i fanylion contract 2019 i rym ar 10 Hydref 2022:

(i)    Ymestyn y contract presennol am 24 mis (Amrywiad Sylweddol) tan 9 Hydref 2024.

(ii)  Ehangu cwmpas y contract drwy gynnwys dau faes ychwanegol o orfodi amgylcheddol – i ddechrau drwy ddau gynllun peilot chwe mis. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad sylweddol);

(iii) Cynnwys cymal “terfynu er hwylustod”, sy’n galluogi’r contractwr i derfynu’r contract gyda 12 wythnos o rybudd, pe bai’r contract yn methu â bod yn ymarferol yn fasnachol iddynt. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad sylweddol);

 

Trafododd Aelodau’r canlynol mewn mwy o fanylder:

 

·         Codwyd pryderon ynglŷn â nifer isel o batrolau a gofnodwyd ar gyfer ardaloedd mwy gwledig y sir, h.y ardaloedd Dyffryn Dyfrdwy, Dinbych a Rhuthun, gan fod rhai aelodau’n teimlo bod y patrolau’n canolbwyntio ar ardaloedd twristiaid ar hyn o bryd. Teimlai’r Pwyllgor bod angen dull Sir Ddinbych cyfan i’r contract newydd. Cadarnhaodd swyddogion bod y mater hwn wedi’i nodi ac roedd yn rhan o drafodaeth barhaus ar hyn o bryd rhwng y Cyngor a’r cwmni.

·         Roedd gan y Pwyllgor bryderon mewn perthynas â chost a maint yr elw ar gyfer y cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth. Roedd Aelodau’n bryderus y gall hyn wthio’r cwmni i fynd ar drywydd ffynonellau elw yn hytrach na delio â’r materion a oedd yn achosi pryder i drigolion, taflu sbwriel a baw cŵn.  Eglurodd y swyddogion y byddai’r cynnig i godi lefelau dirwy mewn perthynas â throseddau baw cŵn yn gobeithio atal troseddau o’r fath a lleihau’r lefelau o droseddau o’r fath yn y dyfodol. Roedd baw cŵn yn cael ei ystyried gan y cyhoedd fel trosedd yn erbyn pobl a chymunedau, felly roedd yn bwysig bod dirwyon yn cael eu pennu ar lefel i helpu atal  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL 2021/22 pdf eicon PDF 226 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol (copi’n ynglwm) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru i’r Pwyllgor ar ei weithgareddau yn ystod 2021/22.

 

10.45am – 11.15am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ochr yn ochr â Phennaeth Cydweithio Rhanbarthol Adroddiad Blynyddol - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2021/22 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth i bartneriaid o ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2021/22.

 

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw ar gyfer cwblhau adroddiadau Blynyddol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac roedd disgwyl i Fyrddau ddefnyddio’r canllaw hwn i gwblhau eu hadroddiadau. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn cynnwys yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chynnwys yn unol â'r Canllaw. Roedd adroddiad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i ysgrifennu mewn fformat a oedd yn dal yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chyflwyno. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys safbwyntiau nifer o aelodau’r Bwrdd.

 

Mae’r Bwrdd wedi’i sefydlu i fodloni gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd y Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hyrwyddo cydweithredu â’u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Roedd hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu a darparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

Tynnodd y Rheolwr Cydweithio Rhanbarthol sylw at feysydd penodol o ddiddordeb yn yr adroddiad -

 

Rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw dod â gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, tai a’r trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd i gydweithio i integreiddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles ledled y rhanbarth.

 

I gefnogi’r gwaith a wneir, mae strwythur llywodraethu cymhleth, fel y gwelir ar dudalen 6 o’r adroddiad Blynyddol. Y prif fwrdd yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n cyfarfod bob mis ac mae’n gyfrifol am bennu cyfeiriad clir ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n adrodd yn ffurfiol i Fwrdd Arweinyddiaeth Gogledd Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid refeniw a chyllid cyfalaf i ni i gefnogi’r gwaith hwn. 

 

Sefydlwyd Cronfa Gofal Integredig yn 2014 ac mae’n galluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio i roi cymorth i: pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch, gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, plant sydd mewn perygl o fod yn blant sy’n derbyn gofal, mewn gofal neu sydd wedi’u mabwysiadu.

 

A’r rhaglen drawsnewid a ddechreuodd ym mis Ebrill 2018 i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

 

Roedd y ddwy raglen yno i helpu i gyflwyno’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Mae’r 12 mis diwethaf wedi gweld y ddwy raglen flaenorol ar gyfer Integreiddio - Rhaglen Drawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig yn dod i ben a chronfa newydd yn cael ei datblygu - Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.

 

 

  • Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 - roedd y Bwrdd wedi cwblhau adolygiad llawn o Asesiad o Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol ac arweinwyr y bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth gan Ganolbwynt Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddai’r data a’r dadansoddiad a oedd wedi’u cynnwys yn yr Asesiad hwn yn cael eu defnyddio i helpu i lunio blaenoriaethau rhanbarthol a chynlluniau gwasanaeth ardal wrth symud ymlaen.

 

  • Sefydlu Is-Grŵp Plant o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ddarparu cyfeiriad strategol mewn perthynas â chefnogi teuluoedd plant ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol penodol.

 

Byddai’r wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad Blynyddol yn cynorthwyo’r Bwrdd i gwmpasu a datblygu ei flaenoriaethau rhanbarthol a chynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11.15am – 11.30am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r  aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl eitemau roedd yr aelodau wedi gwneud cais i’w trafod.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod eitemau’r cyfarfod blaenorol a gafodd ei ganslo wedi’u hail drefnu ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr 2022.

 

Gofynnodd y Cydlynydd Craffu i’r Pwyllgor enwebu cynrychiolydd i wasanaethu ar Fwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl. Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley y byddai’n hapus i fod yn gynrychiolydd ar y Bwrdd, cafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan y Cynghorydd Martyn Hogg. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn cytuno â’r cynnig.

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y newidiadau a’r ychwanegiadau uchod -

 

(i)   cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol drafft y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a

(ii)  penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley fel cynrychiolydd Pwyllgor Craffu Cyngor Sir Ddinbych ar Fwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

11.30am – 11.35am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm.